Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, i ddefnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ar ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a’n cynlluniau diweddaraf.

Gellir gweld rhestr lawn o’n cyhoeddiadau mwyaf diweddar ar ein calendr i ddod.

Gwasanaeth Data Agored StatsCymru

Ydych chi'n defnyddio gwasanaeth StatsCymru i gael gafael ar ddata neu i'w lawrlwytho? Rydym wedi bod yn datblygu fersiwn fwy modern a haws ei defnyddio o'r gwasanaeth ac rydym yn disgwyl ei lansio yn ystod y misoedd nesaf. Byddwn yn defnyddio blog Digidol a Data Llywodraeth Cymru i roi diweddariadau rheolaidd ar gynlluniau a chynnydd, felly tanysgrifiwch i'r blog er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf.

Yr economi a'r farchnad lafur

Yr economi 

Ym mis Mehefin, gwnaethom gyhoeddi Cynhyrchiant is-ranbarthol: 2002 i 2023. Ym mis Gorffennaf, gwnaethom hefyd gyhoeddi ein Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Ionawr i Fawrth 2025 sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad. 

Rôl Grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd Cymru yw ymgysylltu â dadansoddwyr Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor iddynt ar flaenoriaethau strategol a'r cynllun gwaith ar gyfer ystadegau economaidd yng Nghymru. Mae eitemau agenda a chyflwyniadau blaenorol, ynghyd â chylch gorchwyl y grŵp, ar gael ar-lein. Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Iau 14 Hydref 2025. Rydym yn awyddus i ymestyn aelodaeth y grŵp hwn i gynulleidfa ehangach. Os hoffech ymuno â'r grŵp hwn, sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn (naill ai'n hybrid neu ar-lein), cysylltwch â DigwyddiadauGGD@llyw.cymru

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.economi@llyw.cymru

Y farchnad lafur

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi nodi bod yr heriau sy'n gysylltiedig â chynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu yn parhau i effeithio ar ansawdd y data. O ganlyniad, caiff ystadegau'r llafurlu sy'n deillio o'r Arolwg o'r Llafurlu eu labelu'n ystadegau swyddogol sydd wrthi'n cael eu datblygu (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) hyd nes y cynhelir adolygiad pellach ac rydym yn parhau i argymell y dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r data hyn. 

Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiad misol yn cynnig trosolwg o'r farchnad lafur, sy'n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau mewn perthynas â'r farchnad lafur ynghyd. Rydym yn argymell y dylai data'r Arolwg o'r Llafurlu gael eu defnyddio ochr yn ochr â'r tueddiadau yn y mesurau eraill hyn o'r farchnad lafur er mwyn cael darlun cliriach o'r effaith y mae digwyddiadau gwahanol yn ei chael ar y farchnad lafur yng Nghymru. 

Mae'r SYG yn cyflwyno Arolwg Trawsnewidiol newydd o'r Llafurlu (TLFS) a'r nod yw mai'r arolwg hwn fydd y brif ffynhonnell ddata ar gyfer gwybodaeth am y farchnad lafur yng Nghymru a'r DU yn y dyfodol. Cyhoeddodd y SYG ddiweddariad ym mis Gorffennaf 2025 ar ei rhaglen waith i wella ansawdd ystadegau'r farchnad lafur, gan gynnwys diweddariad ar ei datblygiadau i'r TLFS a'r camau gweithredu y mae'n eu cymryd o hyd i wella ansawdd ystadegau presennol sy'n seiliedig ar yr Arolwg o'r Llafurlu. Bydd yr Arolwg o'r Llafurlu yn parhau tra bydd y TLFS yn cael ei ddatblygu. 

Ym mis Mehefin, gwnaethom gyhoeddi'r diweddariad chwarterol ar bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) sy'n cyflwyno'r data ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025 ac yn rhoi ystadegau mwy manwl ac amserol ar bobl ifanc (unigolion rhwng 16 a 24 oed) heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yng Nghymru. 

Ym mis Gorffennaf, gwnaethom gyhoeddi ein data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025 sy'n cynnwys data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn ogystal ag ardaloedd lleol. Gwnaethom hefyd gyhoeddi ystadegau Twf Swyddi Cymru+ ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025 sy'n cyflwyno gwybodaeth am bobl ifanc sydd wedi cofrestru ar raglen Twf Swyddi Cymru+.

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.yfarchnadlafur@llyw.cymru.

Masnach a Thablau Mewnbwn Allbwn

Arolwg Masnach Cymru 

Mae'r dadansoddiad o Arolwg Masnach Cymru 2022 ar gael ar-lein. Bu bwlch yn y data a gasglwyd oherwydd pwysau cyllidebol, ond caiff gwahoddiad i dendro ar gyfer y fersiwn nesaf o'r arolwg ei hysbysebu yn ystod haf 2025.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Masnach nwyddau rhyngwladol Cymru 

Cafodd y prif ganlyniadau o Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEF ar gyfer masnach nwyddau rhyngwladol Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025 eu cyhoeddi ar 11 Mehefin 2025, a bydd data'r chwarter nesaf yn cael eu cyhoeddi ar 11 Medi 2025. Cyhoeddwyd Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig: 2024 ar 10 Ebrill 2025, ac roedd yn cynnwys dadansoddiad pellach o ddata 2024. 

Ochr yn ochr â'r ystadegau uchod, caiff y dangosfwrdd masnach rhyngweithiol ei ddiweddaru yn unol â data'r chwarter diweddaraf. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Tablau Cyflenwad a Defnydd a Thablau Mewnbwn Allbwn

Cafodd tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn ar gyfer 2019 eu cyhoeddi fel ystadegau swyddogol sydd wrthi'n cael eu datblygu ar 11 Mawrth 2025. Mae'r tablau hyn yn rhoi ciplun o economi Cymru, gan roi manylion am gydberthnasau prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau rhwng pob rhan ohoni, gweddill y DU, a'r byd. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddiweddaru'r tablau gan ddefnyddio 2022 fel blwyddyn sylfaen. 

Er mwyn helpu defnyddwyr i ddefnyddio'r data hyn, rydym yn bwriadu cyhoeddi amcangyfrifon o effeithiau a lluosyddion, gan gynnwys lluosyddion cyflogaeth, i gyd-fynd â thablau 2019. Gellir defnyddio'r rhain i amcangyfrif sut y gall newidiadau i'r galw am allbwn un diwydiant effeithio ar rai eraill ar draws economi Cymru. Yn ogystal, mae adnodd rhyngweithiol arall yn cael ei ddatblygu i gefnogi gwaith modelu mewnbwn-allbwn. Caiff rhagor o wybodaeth am gynlluniau cyhoeddi ei chyhoeddi maes o law.

Os hoffech ddefnyddio'r tablau hyn ar gyfer eich gwaith ymchwil eich hun a'ch bod am gael cyngor ar sut i'w cymhwyso, mae croeso i chi gysylltu.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: TablauMewnbwnAllbwn@llyw.cymru.

Addysg

Mae ystadegau ar addysg ôl-16 bellach wedi'u trosglwyddo i Medr. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am ystadegau addysg bellach, chweched dosbarth ysgolion, prentisiaethau neu ddysgu oedolion, cysylltwch ag ystadegau@medr.cymru.

Ysgolion

Gwnaethom barhau i gyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol tymor yr haf. Bydd y datganiad yn ailddechrau yn yr hydref gyda'r datganiad cyntaf wedi'i amserlennu ar gyfer 23 Medi 2025.

Cafodd y datganiadau ystadegol canlynol eu cyhoeddi rhwng mis Mehefin a mis Awst:

Cafodd canlyniadau terfynol Cyfrifiad ysgolion mis Ionawr 2025 eu cyhoeddi ar 23 Gorffennaf 2025

Cafodd ystadegau Disgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol: Medi 2024 i Awst 2025 eu cyhoeddi ar 28 Awst 2024

Datganiadau ystadegol i ddod yn yr hydref

Canlyniadau arholiadau dros dro ar 2 Hydref 2025.

Gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion: Medi 2023 i Awst 2024 – dyddiad heb ei gyhoeddi eto

Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion cynradd: Medi 2024 i Awst 2025 ym mis Tachwedd 2025.

Canlyniadau arholiadau terfynol ym mis Rhagfyr 2025.

Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion: Medi 2024 i Awst 2025 ym mis Rhagfyr 2025. Bydd yr allbwn hwn yn cynnwys yr holl ddata o'r allbynnau gwahanol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ac yn darparu'r holl ystadegau swyddogol ar bresenoldeb ac absenoldeb mewn un datganiad ystadegol.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth ar ddata ysgolion, gallwch gysylltu â ni yn ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.

Gweithlu ysgolion

Cafodd yr ystadegau diweddaraf sydd ar gael o ganlyniadau'r Cyfrifiad o'r Gweithlu ysgolion ar gyfer mis Tachwedd 2024 eu cyhoeddi ar 16 Gorffennaf 2025.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth ar ddata'r gweithlu ysgolion, gallwch gysylltu â ni yn educationworkforcedata@llyw.cymru.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni yn ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.

Addysg uwch a chyllid myfyrwyr

Rydym wedi parhau i gyhoeddi ein hystadegau misol ar Geisiadau am gymorth i fyfyrwyr ar gyfer addysg uwchLwfansau Cynhaliaeth Addysg (LCA) a ddyfarnwyd yng Nghymru.

Er mwyn rhoi adborth neu ar gyfer unrhyw wybodaeth bellach, anfonwch neges e-bost i addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru.

Tai

Diweddariad ar gasglu data ar ddigartrefedd yng Nghymru

Ar hyn o bryd, caiff data ar ddigartrefedd yng Nghymru eu casglu drwy ddatganiadau cyfanredol gan awdurdodau lleol, sy'n rhoi gwybodaeth am aelwydydd sy'n gwneud cais am gymorth tai a chanlyniadau'r ceisiadau hynny. Mae gwaith yn mynd rhagddo i newid i ddull casglu data newydd a fydd yn cofnodi data ar geiswyr digartrefedd ar lefel unigol. Credwn y bydd y newid hwn yn gwella ein dealltwriaeth o ddigartrefedd yng Nghymru yn sylweddol ac y bydd, yn y pen draw, yn cefnogi ymdrechion i wella canlyniadau i unigolion sy'n agored i niwed.

Ym mis Mai 2025, rhoddwyd manyleb data ddrafft i awdurdodau lleol. Ym mis Gorffennaf 2025, cynhaliwyd gweithdai rhanbarthol i drafod y fanyleb ddrafft yn fanwl a chasglu adborth. Cynhelir gweithdy rhithwir ddiwedd mis Awst i glywed gan y pedwar allan o'r 22 awdurdod lleol nad oeddent yn bresennol yn sesiynau wyneb yn wyneb.

Mae peilot data wedi'i gynllunio ar gyfer mis Hydref a mis Tachwedd 2025, i efelychu'r casgliad data chwarterol arfaethedig. Caiff canfyddiadau a chanlyniadau'r peilot eu rhannu â rhanddeiliaid ym mis Rhagfyr 2025.

Bwriedir lansio'r casgliad data lefel unigol newydd yn swyddogol ym mis Ebrill 2026. Caiff y cyflwyniad data cyntaf, ar gyfer chwarter 1 (mis Ebrill i fis Mehefin 2026), ei rannu â chydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2026.

Seminar flynyddol y Grŵp Gwybodaeth am Dai

Eleni, cynhaliwyd seminar flynyddol y Grŵp Gwybodaeth am Dai ar 26 Mehefin a chanolbwyntiwyd ar ddigartrefedd. Yn ystod y diwrnod, cyflwynodd elusennau, awdurdodau lleol, academyddion ac adrannau'r llywodraeth eu gwaith diweddar. Ceir rhagor o wybodaeth yn sleidiau'r cyflwyniadau a gafwyd ar y diwrnod.

Safon Ansawdd Tai Cymru 2023     

Mae'r Tîm Tystiolaeth Cyflwr Tai wedi cael datganiadau gan 44 allan o 45 o gyflenwyr ar y casgliad data lefel eiddo newydd, sef y cyntaf o'i fath, a ddefnyddir i asesu cydymffurfiaeth â Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae'r tîm wrthi'n asesu ansawdd a dilysrwydd y data gyda darparwyr cyn cyhoeddi'r allbwn ystadegol cyntaf o dan y Safon newydd. 

Cyhoeddiadau tai

Ers y diweddariad diwethaf, mae'r allbynnau ystadegol canlynol wedi cael eu cyhoeddi:

Cysylltwch â ni drwy flwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.

Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Ystadegau ysbytai

Yn ystod y chwarter hwn, gwnaethom ddiweddaru ein diweddariad misol arferol i grynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG. Roedd hyn yn cynnwys adolygu sut y caiff y cynnyrch ei ddefnyddio gan ddefnyddwyr, gan symleiddio rhai o'r sylwadau a diweddaru'r cynllun er mwyn gwneud yr allbwn yn haws ei ddefnyddio a'i gwneud yn bosibl i gynnwys sylwadau newydd am gleifion a ryddheir o'r ysbyty. Gwnaethom hefyd ddiweddaru'r allbwn chwarterol a ddatblygwyd gennym yn ddiweddar ar archwiliad dwfn o berfformiad y GIG ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru.

Gweithlu a gwariant y GIG 

Yn ystod y chwarter hwn, cafwyd diweddariad i'n hallbynnau chwarterol ar Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIGAbsenoldeb oherwydd salwch yn y GIG ac Ystadegau swyddi gwag y GIG gan gynnwys dadansoddiad yn ôl grŵp staff a nodweddion staff. Cafwyd diweddariad chwarterol hefyd i ddata ar y Gweithlu practis cyffredinol.

Iechyd cymunedol ac iechyd y boblogaeth 

Yn ystod y chwarter hwn, gwnaethom gyhoeddi diweddariad ar Ystadegau mamolaeth a genedigaethauYstadegau bwydo ar y fronRhaglen Plant Iach Cymru, yn ogystal â diweddariadau chwarterol mwy amserol ar gyfer pob un o'r rhain.

Gwnaethom hefyd gyhoeddi gwybodaeth reoli am gam 2 rhaglen Dechrau'n Deg. 

Ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Yn y chwarter hwn cafwyd diweddariad i'n diweddariad chwarterol rheolaidd o ddata ar gyfer Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010Nifer y bobl a gadwyd o dan Adran 135 ac 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Yn y chwarter hwn hefyd cafwyd diweddariadau rheolaidd i amrywiaeth o ystadegau eraill, gan gynnwys: mesurau gofal llygaidgwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu.

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan Ystadegau ac ymchwil ac mae data sylfaenol manylach ar gael yn ardal iechyd a gofal cymdeithasol StatsCymru

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024 i 2025

Ar 27 Awst, gwnaethom gyhoeddi'r set gyntaf o ganlyniadau o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2024 i 2025. Y cynllun gwreiddiol oedd cyhoeddi'r datganiad ym mis Gorffennaf ond bu'n rhaid gohirio hyn er mwyn caniatáu mwy o amser i sicrhau ansawdd. Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys ystod eang o bynciau a oedd wedi'u cynnwys yn Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2024 i 2025.

Mae maint y sampl ar gyfer arolwg 2024 i 2025 (6,000 o ymatebwyr) yn llai nag a gynlluniwyd yn wreiddiol ac, felly, ar gyfer y flwyddyn hon, nid oes modd llunio dadansoddiadau yn ôl awdurdod lleol nac ar gyfer is-grwpiau llai. Mae'r sampl yn llai am fod y contractwr wedi wynebu problemau yn ystod y gwaith maes, gan gynnwys cyfraddau ymateb is o gymharu â blynyddoedd blaenorol, fel sy'n wir am lawer o arolygon mawr ar hyn o bryd. Fel y cyfryw, mae statws ystadegau swyddogol achrededig wedi cael ei atal ar gyfer cyhoeddiadau sy'n seiliedig ar ddata 2024-25. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein llythyr i'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Cysylltwch â ni yn arolygon@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw gwestiynau.

Gallu siarad yn y Gymraeg a defnydd o'r Gymraeg

Ar 14 Awst gwnaethom gyhoeddi bwletin ar allu siarad yn y Gymraeg a defnydd o'r Gymraeg, 2022 i 2023. Mae'r bwletin yn ymchwilio i'r nodweddion sy'n gysylltiedig â phobl sydd wedi nodi eu bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg a phobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd.

Cyfiawnder cymdeithasol

Tlodi a chostau byw

Ar 26 Mehefin 2025, gwnaethom gyhoeddi'r datganiad diweddaraf mewn cyfres chwarterol o ystadegau'r Gronfa Cymorth Dewisol, gyda dadansoddiadau yn ôl oedran ac awdurdod lleol. Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw'r Gronfa Cymorth Dewisol sy'n rhoi taliadau i bobl mewn argyfwng neu y mae angen cymorth arnynt i fyw'n annibynnol. 

Ar 27 Mawrth 2025, gwnaethom gyhoeddi diweddariadau i grynodebau o ddata blynyddol ar gyfer Cymru ar dlodi incwm cymharol  a thlodi parhaus, a oedd yn cynnwys y data diweddaraf yn ymwneud â'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar ddiwedd 2024. Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ei chyfres wedi'i diweddaru o ddata lefel y DU ar dlodi incwm ac amddifadedd materol (yr Adran Gwaith a Phensiynau)tlodi parhaus (yr Adran Gwaith a Phensiynau)adnoddau teuluol yr Adran Gwaith a Phensiynau), a diweddariad i'r ystadegau ardaloedd lleol ar blant mewn teuluoedd incwm isel (yr Adran Gwaith a Phensiynau).

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi diweddaru ei dull ar gyfer amcangyfrif tlodi materol, sy'n golygu na ellir cymharu'r data diweddaraf ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar ddiwedd 2024 yn uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol. Ym mis Medi, byddwn yn gyhoeddi erthygl yn esbonio'r newidiadau ac yn rhoi amcangyfrifon blwyddyn unigol ar gyfer Cymru, ynghyd â chyfyngau hyder

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Rydym wrthi'n llunio'r diweddariad nesaf i MALIC, i'w gyhoeddi ar ddiwedd 2025. Os hoffech gael eich hysbysu pan gaiff gwybodaeth ddiweddaraf MALlC ei chyhoeddi, e-bostiwch ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i danysgrifio.

Diogelwch cymunedol

Yn dilyn gwaith i ailstrwythuro ein hallbynnau digwyddiadau tân a pherfformiad ar ddiwedd 2024, byddwn yn adolygu ein datganiadau Tanau glaswelltirTanau llosgi bwriadol cyn eu diweddariadau nesaf yn hydref 2025 a 2026 yn y drefn honno. Os ydych yn defnyddio'r allbynnau ystadegol hyn, cysylltwch â ni ar ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.

Trosedd a chyfiawnder

Caiff y dangosfwrdd rhyngweithiol Carchardai a phrawf ei ddiweddaru ym mis Medi i adlewyrchu data diweddaraf y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi ar weithrediad gwasanaethau carchardai a phrawf yng Nghymru.

Os oes gennych unrhyw adborth ar ein dangosfyrddau rhyngweithiol Carchardai a phrawf a Cyfiawnder ieuenctid, cysylltwch ar ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.

Trafnidiaeth

Y Gymraeg

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Cyhoeddwyd Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: Ebrill 2024 i Mawrth 2025 ar 3 Gorffennaf. Gwnaethom hefyd ddiweddaru ein tablau StatsCymru (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: y Gymraeg) er mwyn cynnwys y data diweddaraf.

Roedd yr amcangyfrifon hyn yn cael eu dosbarthu'n ystadegau swyddogol achrededig yn flaenorol. Bu lleihad ym maint y samplau a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd hyn a'r ffaith nad yw'r arolwg wedi'i ailbwysoli i'r amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, cytunodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylai'r amcangyfrifon gael eu hailddynodi'n ystadegau swyddogol (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).

Gallu siarad yn y Gymraeg a defnydd o'r Gymraeg

Cyhoeddwyd y bwletin ar allu siarad yn y Gymraeg a defnydd o'r Gymraeg, 2022-23 ar 14 Awst. Mae'r adroddiad yn edrych ar y nodweddion sy'n gysylltiedig â phobl sydd wedi nodi eu bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg a phobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd.

Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, e-bostiwch: dataiaithgymraeg@llyw.cymru.

Amaethyddiaeth a'r amgylchedd

Datgarboneiddio a'r newid yn yr hinsawdd

Cyhoeddwyd ffigurau gwastraff trefol chwarterol awdurdodau lleol ar gyfer mis Hydref i fis Rhagfyr 2024 ar 10 Gorffennaf.

E-bostiwch ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Amaethyddiaeth

Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, e-bostiwch: ystadegau.amaeth@llyw.cymru.

Cyllid llywodraeth leol

Ymchwil Data Gweinyddol

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau newydd i ymchwilwyr ar gael gafael ar ficroddata Llywodraeth Cymru. Mae'r canllawiau hyn yn egluro'r hyn y mae'n rhaid i ymchwilwyr ei wneud i gael gafael ar ficroddata Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau ymchwil. Fe'u cynlluniwyd i gefnogi'r rhai sy'n defnyddio, neu sy'n ystyried defnyddio, setiau data gweinyddol Llywodraeth Cymru at ddibenion dadansoddi. 

Bydd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn cynnal cynhadledd ADR UK ym mis Medi. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn rhoi'r anerchiad agoriadol ar 18 Medi, a bydd llawer o swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyflwyno eu gwaith drwy gydol yr wythnos.

Poblogaeth a demograffeg

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.

Manylion cyswllt ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru