Yn y canllaw hwn
1. Beth yw’r Ardoll Ymwelwyr
Mae'r Ardoll Ymwelwyr yn dreth sy’n cael ei hunanasesu yng Nghymru.
Caiff ei dalu gan ddarparwyr llety ymwelwyr.
Dechrau’r ardoll
Mae cynghorau lleol yn dewis a ydyn nhw am gyflwyno’r ardoll neu beidio.
Gallant wneud hyn ar 1 Ebrill neu 1 Hydref bob blwyddyn.
Rhaid i gynghorau lleol:
- ymgynghori â phobl a busnesau lleol
- cyhoeddi'r ardoll flwyddyn ymlaen llaw
Gallwch edrych i weld pa gynghorau sy'n codi'r ardoll.
Casglu'r ardoll
Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn casglu'r ardoll ar ran cynghorau lleol.
Defnyddio arian yr ardoll
Gall cynghorau ddefnyddio'r ardoll i wneud y canlynol:
- gwella twristiaeth leol
- gwarchod natur a thirnodau
- hyrwyddo'r Gymraeg
