Yn y canllaw hwn
2. Gwirio a yw cyngor lleol yn codi'r ardoll
Gwiriwch os yw cyngor lleol yn codi’r Ardoll Ymwelwyr ar gyfer arosiadau dros nos mewn llety i ymwelwyr yn ei ardal. Darganfyddwch pa ardal cyngor lleol mae eich llety ynddi.
Cynghorau fydd yn codi'r Ardoll Ymwelwyr
Cyngor Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd yn dechrau'r ardoll ar 1 Ebrill 2027.
Yng Nghaerdydd, rhaid i chi ddechrau cyfrif am yr ardoll o 28 Medi 2026. Darllenwch ein canllaw cyflym a dechreuwch baratoi ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr.
Cynghorau sy’n ystyried dechrau casglu’r ardoll
Cyngor Sir Ynys Môn
Agorodd Cyngor Sir Ynys Môn ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr ar 18 Mai 2026. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 13 Gorffennaf 2026. Bydd y cyngor yn cyhoeddi’r penderfyniad ar yr Ardoll Ymwelwyr ar ôl 24 Medi 2026.
Gwiriwch dudalen ymgynghoriad y cyngor am ragor o fanylion ac i ymateb i’r ymgynghoriad.
Cyngor Sir Conwy
Agorodd Cyngor Sir Conwy ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr ar 20 Mai 2026. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 17 Gorffennaf 2026. Bydd y cyngor yn cyhoeddi’r penderfyniad ar yr Ardoll Ymwelwyr ar ôl 24 Medi 2026.
Gwiriwch dudalen ymgynghoriad y cyngor am ragor o fanylion ac i ymateb i’r ymgynghoriad.
Cyngor Sir Gwynedd
Agorodd Cyngor Sir Gwynedd ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr ar 20 Mai 2026. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 15 Gorffennaf 2026. Bydd y cyngor yn cyhoeddi’r penderfyniad ar yr Ardoll Ymwelwyr ar ôl 24 Medi 2026.
Gwiriwch dudalen ymgynghoriad y cyngor am ragor o fanylion ac i ymateb i’r ymgynghoriad.
