Neidio i'r prif gynnwys

3. Gwybod a oes rhaid i chi dalu

Darparwyr llety ymwelwyr sydd yn talu’r Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru.

Pwy sy’n ddarparwr llety ymwelwyr.

Rydych chi'n ddarparwr llety ymwelwyr os ydych yn:

  • berchen ar lety ymwelwyr neu yn lesio llety ymwelwyr
  • cymryd archebion am arosiadau byrrach na 31 noson

Partneriaethau'n talu'r ardoll

Os ydych yn bartneriaeth:

  • rydych oll yn gyfrifol am yr Ardoll Ymwelwyr, ond
  • gallwch ddewis un ohonoch i ffeilio a thalu’r ardoll

Grwpiau gwirfoddol yn talu'r ardoll

Os ydych yn grŵp gwirfoddol (er enghraifft, clwb, cymdeithas, neu debyg):

  • mae pob aelod reolwr yn gyfrifol am dalu'r ardoll, ond
  • gall unrhyw un o'r aelodau hyn ffeilio a thalu'r ardoll

Defnyddio asiantau, gweithwyr, neu gynorthwywyr

Gallwch ofyn i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo i helpu ffeilio a thalu eich ardoll. 

Ond chi fydd yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gwneud hynny’n gywir ac yn brydlon.

Os byddwch yn rhoi'r gorau i ddarparu llety ymwelwyr

Byddwch yn rhoi'r gorau i ddarparu llety ymwelwyr:

  • pan fyddwch yn rhoi’r gorau i hysbysebu eich llety
  • pan nad ydych yn cymryd rhagor o archebion gan westeion

Ar ôl i chi roi’r gorau iddi, rhaid i chi gyflwyno eich ffurflen ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu diwethaf. 

Hyd yn oed os yw'n £0.