Yn y canllaw hwn
5. Cadw cofnod o archebion newydd ymlaen llaw
Rhaid i chi ddechrau cadw cofnod o'r ardoll 6 mis ar ôl i gyngor lleol ei gyhoeddi.
Mae hyn yn berthnasol i'r arosiadau sy'n dechrau ar neu ar ôl dyddiad dechrau'r ardoll.
Rhaid talu’r ardoll ar:
- archebion newydd
- newidiadau i archebion
Dim ond am y nosweithiau neu’r gwesteion ychwanegol y byddwch yn talu pan fydd newidiadau i archebion.
Os yw eich gwesteion yn newid y dyddiadau, rhaid i chi dalu'r ardoll ar unrhyw nosweithiau sydd:
- ar neu ar ôl dyddiad dechrau'r ardoll
- ddim yn rhan o'r archeb wreiddiol
Dyddiadau i’w cofio
Cyngor Caerdydd
O 28 Medi 2026 ymlaen, bydd rhaid i chi dalu'r ardoll ar archebion newydd o 1 Ebrill 2027 ymlaen.
Enghreifftiau o dalu'r ardoll
Dychmygwch eich bod â gwesty yng Nghaerdydd.
Talu ar archebion newydd
Mae Osian a Dylan eisiau archebu ystafell am wythnos ym mis Mai 2027. Os byddan nhw’n archebu ystafell ar 28 Medi 2026 neu'n hwyrach, bydd rhaid i chi dalu'r ardoll ar yr arhosiad.
Talu ar newidiadau i archebion
Ychwanegu nosweithiau
Mae Clyde yn archebu ystafell yn eich gwesty ar gyfer Awst 2027. Mae'n gwneud hyn ym mis Mai 2026. Felly, nid oes angen i chi dalu'r ardoll ar ei arhosiad. Ym mis Ionawr 2027, mae Clyde yn ychwanegu 3 noson arall i’w archeb. Nawr, bydd rhaid i chi dalu'r ardoll ar y 3 noson ychwanegol.
Ychwanegu mwy o westeion
Mae Mary yn archebu ystafell ar gyfer Medi 2027. Mae hi'n gwneud hyn ym mis Chwefror 2026. Felly, nid ydych yn talu'r ardoll ar ei harhosiad. Ym mis Rhagfyr 2026, mae Mary yn gwahodd ei ffrind, Alison, i aros gyda hi ac yn ychwanegu ei ffrind at yr archeb. Nawr, bydd yn rhaid i chi dalu'r ardoll ar ran Alison o'r arhosiad.
Newid dyddiadau’r archeb
Mae Megan a George yn archebu ystafell ar gyfer Mehefin 2027. Maen nhw'n gwneud hyn ym mis Awst 2026. Felly, nid ydych yn talu'r ardoll ar eu harhosiad. Ym mis Hydref 2027, maen nhw’n newid dyddiad eu harhosiad i Orffennaf 2027. Nawr, bydd yn rhaid i chi dalu’r ardoll ar yr arhosiad.
