Yn y canllaw hwn
9. Ffeilio a thalu’r ardoll
Bydd ein gwasanaeth yn agor ar 1 Ebrill 2027.
Byddwch yn gallu defnyddio ein gwasanaeth i:
- gyflwyno eich ffurflenni ardoll
- wneud newidiadau i'ch ffurflen
- dalu eich ardoll
- wirio eich cofnodion ar gyfer yr ardoll
- ychwanegu cynorthwyydd dibynadwy
Cyflwyno eich ffurflenni ardoll
Os ydych yn talu’r cyfraddau uwch a’r cyfraddau is
Bydd yn rhaid i chi nodi'r cyfansymiau ardoll ar gyfer pob:
- cyfradd uwch
- cyfradd is
Os oes gennych fwy nag 1 lleoliad
Rhaid i chi nodi'r cyfansymiau ardoll ar gyfer pob un o'ch lleoliadau.
Talu’r ardoll
Byddwch yn talu'r ardoll drwy drosglwyddiad banc i Awdurdod Cyllid Cymru.
Byddwn yn rhoi'r manylion banc i chi ar ôl i chi gyflwyno'ch ffurflen.
Os na fyddwch yn ffeilio a thalu
Rhaid i chi gyflwyno a thalu eich ffurflenni ardoll yn brydlon. Gallech gael cosb os ydych chi'n hwyr.
Rydym yn paratoi'r canllawiau ar gosbau a dirwyon.
