Neidio i'r prif gynnwys

6. Cyfrifo eich ardoll yn gywir

Rhaid i chi dalu'r ardoll fesul person, fesul noson. 

Mae hyn yn cael ei alw’n arosiadau dros nos hefyd.

Sut i gyfrifo swm yr ardoll

Rhaid i chi ddilyn 2 gam i gyfrifo eich ardoll.

Cam 1: Cyfrifo faint sy'n ddyledus fesul arhosiad

Er enghraifft, pe bai 10 arhosiad y mae'n rhaid i chi dalu'r ardoll arnyn nhw.

Yn gyntaf, rhaid i chi gyfrifo faint o ardoll sy’n ddyledus ar gyfer pob un o'r 10 arhosiad. 

Pe bai 4 oedolyn wedi aros am 7 noson ar gyfer eich archeb cyntaf.

Lluoswch: 

  • nifer y personau gyda
  • nifer y nosweithiau gyda
  • eich cyfradd ardoll

Er enghraifft, os ydych chi'n talu:

  • y gyfradd uwch, cyfrifwch 4 person × 7 noson × £1.30 = £36.40 o ardoll
  • y gyfradd is, cyfrifwch 4 person × 7 noson × £0.75 = £21 o ardoll

Gwnewch hyn ar gyfer y 9 arhosiad sy'n weddill.

Cam 2: Ychwanegwch pob swm at ei gilydd

Ychwanegwch yr holl symiau ardoll o'r 10 arhosiad at ei gilydd.

Dyma fydd cyfanswm yr ardoll y mae'n rhaid i chi ei dalu.

Enghraifft o symiau'r ardoll mewn taenlen

Dyma enghraifft o ddefnyddio taenlen i gyfrifo ardoll os ydych chi'n talu'r gyfradd ardoll uwch:

ArosiadauNifer y gwesteionNifer y nosweithiauCyfradd yr ardollArdoll ar yr arhosiad
Arhosiad 147£1.30£36.40
Arhosiad 224£1.30£10.40
Arhosiad 345£1.30£26.00
Arhosiad 413£1.30£3.90
Arhosiad 537£1.30£27.30
Arhosiad 647£1.30£36.40
Arhosiad 723£1.30£7.80
Arhosiad 835£1.30£19.50
Arhosiad 945£1.30£26.00
Arhosiad 1047£1.30£36.40
Cyfanswm yr ardoll i'w thalu£230.10

Peidiwch â defnyddio cyfanswm y nosweithiau a'r gwesteion pan fyddwch yn cyfrifo eich ardoll. Bydd swm yr ardoll yn anghywir ac yn uwch. Er enghraifft, cyfanswm o 31 o westeion × cyfanswm o 53 noson × £1.30 = £2,135.90 yn hytrach na £230.10 o ardoll i'w dalu!

Cyfrifo’r ardoll ar y gyfradd is

Tynnwch blant o dan 18 oed o’r hafaliad pan fyddwch chi'n cyfrifo’r ardoll ar y gyfradd is.

Er enghraifft, pe bai teulu o 5 yn aros 3 noson mewn pabell ar eich safle gwersylla. Mae 3 o’r teulu yn blant o dan 18 oed. 

  1. Rhaid i chi dynnu’r 3 phlentyn oddi ar eich cyfanswm o 5 gwestai: 5 gwestai − 3 phlentyn = 2 westai rydych chi'n talu'r ardoll arnynt.
  2. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi dalu'r ardoll ar gyfer 2 westai sy'n aros am 3 noson: 2 westai × 3 noson × £0.75 = £4.50 o ardoll i'w thalu.

Defnyddio arosiadau dros nos i gyfrifo'r ardoll

Os ydych chi'n defnyddio arosiadau dros nos i gyfrif yr ardoll, cofiwch:

  • gyfrifo nhw fesul arhosiad neu fesul dydd
  • defnyddio'r gyfradd ardoll iawn