Neidio i'r prif gynnwy

Dyma'r diweddariad chwarterol diweddaraf mewn cyfres ohonynt ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru. Mae’n cynnwys gwybodaeth am ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.

Ceir rhestr lawn o'n cyhoeddiadau diweddaraf yn ein calendr o'r hyn sydd i ddod.

Ymateb i’r coronafeirws (COVID-19)

Rydym yn parhau i addasu ein gweithgareddau arferol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cefnogi ymateb y llywodraeth i bandemig y coronafeirws, yn ogystal â darparu'r wybodaeth angenrheidiol pan fo'i hangen fwyaf. Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r blog Digidol a Data i ddarparu gwybodaeth am ein dull gweithredu.

Rydym yn parhau i gyhoeddi ystod ehangach o setiau data a datganiadau i hysbysu'r cyhoedd yn ystod y pandemig. Gyda Chymru bellach ar Lefel Rhybudd 0, rydym yn ystyried newid amlder a chynnwys rhai o'r datganiadau ystadegol sy'n gysylltiedig â COVID-19. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu adborth ar sut rydych yn defnyddio'r datganiadau, ac awgrymiadau ynghylch unrhyw newidiadau iddynt drwy KAS.COVID19@llyw.cymru.

Mae trosolwg o’r dangosyddion COVID-19 ar gael ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol COVID-19 yng Nghymru, sydd â'r bwriad o gyflwyno ciplun wythnosol o ddetholiad o ddangosyddion ar niweidiau uniongyrchol ac ehangach o ganlyniad i COVID-19. Fel arfer, gallwch gael rhagor o fanylion am y dangosyddion hyn a detholiad ehangach o ddata ar ein tudalen ymchwil ac ystadegau’n ymwneud â’r coronafeirws (COVID-19).

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi darlun cynhwysfawr o achosion newydd o COVID-19, marwolaethau, brechiadau a gofnodwyd yng Nghymru a bellach gwyliadwriaeth o amrywiolion. Cyhoeddir y rhain ar y dangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym COVID-19 (Iechyd Cyhoeddus Cymru).

Yr economi a'r farchnad lafur

Rydym wedi parhau i gyhoeddi ein datganiad trosolwg misol o'r farchnad lafur, sy'n dwyn ynghyd ystod o wahanol ffynonellau marchnad lafur i roi'r darlun diweddaraf o'r effaith y mae COVID-19 yn parhau i'w chael ar y farchnad lafur. Rydym hefyd yn cyhoeddi’r data diweddaraf ar y cynllun cadw swyddi coronafeirws (CJRS) a'r cynllun cymhorthdal incwm hunangyflogedig (SEISS). Mae ein dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau hefyd wedi'i ddiweddaru.

Ym mis Awst, gwnaethom gyhoeddi amcangyfrifon o wariant gros Ymchwil a Datblygu (2019) yn ogystal ag amcangyfrifon o gynnyrch domestig gros rhanbarthol ar gyfer tri mis olaf 2020.

Ym mis Gorffennaf, gwnaethom ddiweddaru ein datganiad dangosyddion allbwn tymor byr i gwmpasu chwarter cyntaf 2021, yn ogystal â chyhoeddi amcangyfrifon o gynhyrchiant is-ranbarthol yn 2019.

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.economi@llyw.cymru.

Addysg

Ysgolion

Parhawyd i gyhoeddi data wythnosol ar ddisgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol tymor yr haf. Bydd casglu a chyhoeddi data yn ailgychwyn ar gyfer tymor yr Hydref 2021, yn wythnosol i ddechrau, fel o’r blaen.

Ni chafodd y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol, y Cyfrifiad Addysg Heblaw mewn Ysgol a'r Cyfrifiad Ysgolion Annibynnol eu cynnal ym mis Ionawr 2021 oherwydd bod ysgolion ar gau yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol. Cynhaliwyd pob cyfrifiad yn llwyddiannus ar 20 Ebrill 2021. Cyhoeddwyd canlyniadau terfynol yr arolwg ysgolion ar 9 Medi 2021. Bydd canlyniadau'r ddau gyfrifiad arall yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach ym mis Medi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni drwy ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.

Cyhoeddwyd canlyniadau’r Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion ar gyfer mis Tachwedd 2020 ar 26 Awst 2021. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu adborth am y cyfrifiad gweithlu ysgolion gallwch gysylltu â ni yn EducationWorkforceData@llyw.cymru.  

Addysg Drawsbynciol ac Ôl-16

Bydd ein datganiad ystadegol blynyddol ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur a'r bwletin ystadegol cysylltiedig ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a gyhoeddir fel arfer ym mis Gorffennaf, yn cael eu cyhoeddi ar 22 Medi eleni oherwydd ailbwyso'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.

Ym mis Mehefin, gwnaethom gyhoeddi ystadegau blynyddol ar y sector gwaith ieuenctid a gynhelir ar gyfer 2019/20. Gohiriwyd y datganiad hwn yn wreiddiol o fis Hydref 2020 oherwydd pandemig y Coronafeirws.

Mae ein hadroddiadau gwybodaeth reoli ar brentisiaid sydd wedi bod ar ffyrlo neu wedi eu diswyddo yn ystod pandemig y coronafeirws wedi symud o fod yn fisol i bob deufis, gyda'r data diweddaraf yn cael eu cyhoeddi ar 7 Medi. Cyn bo hir, byddwn yn rhoi'r gorau i'r datganiad hwn yn unol â diwedd Cynllun Cadw Swyddi'r Coronafeirws.

Ym mis Awst, gwnaethom gyhoeddi data dros dro ar gyfer chwarter 2 blwyddyn academaidd 2020/21 ar raglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd sy'n cynnwys diweddariad i'n dangosfwrdd rhyngweithiol. Yn olaf, mae ein bwletin ystadegol ar staff mewn sefydliadau addysg bellach 2019/20, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Gorffennaf, wedi'i ddileu oherwydd materion a nodwyd yn y data a gyflwynwyd gan rai darparwyr. Bydd adroddiad diwygiedig yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.

Er mwyn rhoi adborth, neu i gael unrhyw wybodaeth bellach, e-bostiwch ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd ein datganiadau ystadegau blynyddol ar addysg cychwynnol athrawon a’r iaith Gymraeg mewn addysg uwch. Cafodd ein diweddariad wythnosol ar achosion coronafeirws cadarnhaol a adroddwyd i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ei oedi dros yr haf oherwydd bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi gadael y campws a/neu'r ardal leol ar gyfer yr haf. Bydd y casgliad yn ailddechrau o ddechrau mis Medi i gyfrif am semester yr Hydref a myfyrwyr yn dychwelyd i astudio, gyda'r diweddariad cyntaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth 7 Medi 2021.

Cysylltwch: addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru

 

Tai

Mae gwybodaeth reoli fisol am ddarpariaeth llety digartrefedd a chysgu ar y stryd yn parhau i gael ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ogystal â data chwarterol ar y Cynllun Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir).

Mae cyhoeddi ystadegau tai yn parhau i fod wedi’i effeithio gan y penderfyniad yn ystod pandemig COVID-19 y byddai llawer o'r casgliadau data tai ar gyfer 2019-20 yn cael eu canslo a sawl un arall yn cael eu gohirio. Disgwylir i ddata ar y cynnydd a wnaed gan landlordiaid cymdeithasol o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ar gyfer eu stoc (ar 31 Rhagfyr 2020) gael eu cyhoeddi ar 15 Medi, gyda data ar stoc landlordiaid cymdeithasol, rhent a gwerthiannau yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.

Mae amserlen a manylion rhai casgliadau data ar gyfer 2020-21 yn dal i gael eu hadolygu. Rhoddir cyngor i ddarparwyr data pan fydd penderfyniadau'n cael eu cwblhau.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i gyhoeddi data misol Mynegai Prisiau Tai Cymru (GOV.UK), a chyhoeddwyd y diweddaraf ohonynt (ar gyfer Mehefin 2021) ar 18 Awst ochr yn ochr â data ar gyfer gweddill y DU (ONS).

Cysylltwch â ni drwy’r blwch ystadegau.tai@llyw.cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.

Y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai

Erbyn hyn, gyda’r rhan fwyaf o dîm y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai yn ôl yn llawn o weithio ar faterion cysylltiedig â COVID, mae'r Rhaglen yn cael ei hailagor, ei hadnewyddu a'i hailffocysu. O ystyried y sefyllfa barhaus o ran arolygon cartrefi yng nghyd-destun y pandemig ac arloesi ar ôl y pandemig, bydd y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai yn canolbwyntio ar Adnodd Dadansoddi’r Stoc Dai – gan ddod â data gweinyddol a Gwybodaeth Reoli ynghyd gan nifer o ddarparwyr i ddarparu un cofnod eiddo unigol o newidynnau. Mae'n anochel y bydd angen Arolwg Amodau Tai Cymru yn y dyfodol, ond bydd y rhain yn parhau i fod yn rhai cyfnodol a byddant yn esblygu dros amser wrth i'n cronfa ddata weinyddol dyfu. Rydym hefyd yn edrych ar y potensial i ehangu cwmpas y Rhaglen i gynnwys adeiladau annomestig.

Isod mae ein rhaglen waith amlinellol ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon, ac i’r dyfodol.

Adnodd Dadansoddi’r Stoc Dai

  • Data mapiau a bylchau/gwybodaeth reoli a gedwir yn Llywodraeth Cymru ar draws tai/cynllunio ac ati.
  • Asesu ansawdd a chynnwys yn Adnodd Dadansoddi’r Stoc Dai
  • Adnewyddu data a gedwir eisoes, gan nodi ffynonellau data eraill a sicrhau mynediad iddynt
  • Cynnal prosiectau enghreifftiol i archwilio ansawdd y data a’r potensial ar gyfer dadansoddi
  • Darparu dadansoddiad ymatebol ar destunau blaenoriaeth uchel fel effeithlonrwydd ynni a diogelwch adeiladau
  • Galluogi mynediad i Adnodd Dadansoddi’r Stoc Dai ar gyfer dadansoddiad arall i ddefnyddio data a gasglwyd

Gweithio ar y Cyd gyda rhaglenni dadansoddi eraill

  • Gweithio gyda SYG ar y defnydd o ddata gweinyddol ar effeithlonrwydd ynni, fel rhan o’r Rhaglen Ddata Integredig
  • Datblygu mesurau tlodi tanwydd BEIS
  • Arolwg adeiladau BEIS
  • Cyfrannu at grwpiau traws-Lywodraeth ar amodau, data gweinyddol, tlodi tanwydd

Arolwg Cyflwr Tai Cymru

  • Dechrau edrych ar opsiynau ar gyfer arolygon yn y dyfodol
    • A oes angen un, os felly pryd; dull; yr hyn y gellir ei gynnwys yn ddigonol drwy ddata gweinyddol; cysylltu ag arolwg cymdeithasol Llywodraeth Cymru neu arolwg annibynnol; cwmpasu pob sector neu ganolbwyntio ar fylchau mewn data gweinyddol (fel y sector perchen-feddiannydd)?

Mae ein datganiadau ystadegol blaenorol i'w gweld ar dudalennau gwe’r arolwg Arolwg Cyflwr Tai Cymru.

Cysylltwch â ni ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, geisiadau neu gyfraniadau yn ymwneud â’r uchod.

Iechyd

Cyhoeddiadau

Cyhoeddwyd canlyniadau ar ffordd o fyw oedolion o Arolwg Cenedlaethol Cymru Ionawr i Fawrth 2021 ar 22 Gorffennaf.

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan ystadegau ac ymchwil.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch ystadegau.iechyd@llyw.cymru. 

Gweithgarwch y GIG

Mae data am berfformiad a gweithgarwch y GIG yn parhau i gael eu cyhoeddi’n fisol, ac maent yn dal i ddangos yr effaith y mae’r coronafeirws wedi'i chael ar amseroedd aros yn y GIG, yn ogystal â’r cynnydd mewn gweithgarwch yn y gwasanaethau brys.

Ychwanegwyd adran newydd o'r enw 'sylwadau’r ystadegydd' i dynnu sylw at y pwyntiau allweddol mewn tua 150 gair yn unig.

Iechyd sylfaenol a chymunedol y GIG

Cyhoeddwyd y data cyntaf o'r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd (QAIF) newydd ym mis Mehefin. Mae hyn yn cynnwys dangosfwrdd rhyngweithiol newydd a gwybodaeth am gofrestr clefydau ar lefel genedlaethol, bwrdd iechyd, clwstwr a phractis meddyg teulu.

Cyhoeddwyd datganiadau Chwarterol StatsCymru ar gyfer bwydo ar y fron a data Rhaglen Plant Iach Cymru ar 25 Awst.

Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol blynyddol gyfer Rhaglen Plant Iach Cymru hefyd ar 25 Awst.

Cyhoeddwyd datganiadau ystadegau ar gyfer presgripsiynau, fferyllfeydd cymunedol, gweithlu meddygon teulu, gweithgarwch a gweithlu deintyddol y GIG ac iechyd synhwyraidd ym mis Medi a mis Hydref.

Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r gwaith o gasglu data gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar y gweill ar hyn o bryd ar gyfer y flwyddyn adrodd 2020-21. Hon fydd y flwyddyn gyntaf o gasglu metrigau sy'n sail i'r Fframwaith Perfformiad a Gwella newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn seiliedig ar y Cod Ymarfer newydd a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2020.

Ymchwil Data Gweinyddol

Ochr yn ochr ag academyddion yng Nghaerdydd ac Abertawe, mae ADRU wedi bod yn gweithio drwy broses ailgomisiynu’n ddiweddar i sicrhau cyllid ar gyfer 2022-2026. Yn ogystal â'n meysydd ymchwil presennol, sef y Blynyddoedd Cynnar, Tai, Iechyd Meddwl, Sgiliau a Chyflogadwyedd, Gofal Cymdeithasol, a Blaenoriaethau'r Llywodraeth sy'n Dod i'r Amlwg, rydym yn cynnig ychwanegu dwy thema annibynnol newydd sef Newid yn yr Hinsawdd a phum niwed COVID, thema cyfiawnder cymdeithasol/cydraddoldebau trawsbynciol newydd. Rydym yn dal i aros am gymeradwyaeth derfynol ond mae'r adborth cychwynnol wedi bod yn gadarnhaol.

Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi parhau i gyfrannu at ddadansoddiadau COVID y Gell Cyngor Technegol ac rydym yn bwrw ymlaen â phrosiect cysylltu data addysg a throseddu a gomisiynwyd gan Weinidogion. Rydym yn ceisio cael data digartrefedd ar lefel eitem gan Awdurdodau Lleol peilot er mwyn uwchlwytho'r data i SAIL.

Yn ogystal, cafodd prosiect Cysylltu Data Cynllun Setliad yr UE ei gyfarfod grŵp llywio cyntaf ac mae’r prosiect amaethyddiaeth AD|ARC wedi bod yn gweithio gyda dadansoddwyr amaethyddol ledled y DU i gynhyrchu set ddata amaethyddol graidd gyson ym mhob un o'r pedair gwlad, y gall ymchwilwyr academaidd eu defnyddio.

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ADRUWales@llyw.cymru neu DataScienceUnit@llyw.cymru.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Adrodd ar arolygon 2020-21 a 2021-22

 

Cyhoeddwyd canlyniadau Ionawr i Fawrth 2021 ar 1 Gorffennaf.

Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn parhau fel arolwg dros y ffôn a byddwn yn cyhoeddi canlyniadau Ebrill – Mehefin 2021 ym mis Hydref. Yna, rydym yn bwriadu newid yn ôl i adroddiadau blynyddol, gan gyhoeddi canlyniadau blwyddyn lawn Ebrill 2021 – Mawrth 2022 ym mis Gorffennaf 2022. 

Blog

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn blog a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Prif Ystadegydd Stephanie Howarth ar sut y cyflawnwyd yr arolwg yn ystod y pandemig, a sut rydym yn dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddyluniad arolygon y dyfodol, cysylltwch â heulwen.hudson@llyw.cymru.

Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Yn ystod mis Mehefin, gwnaethom adnewyddu ein canllaw ar ddadansoddi data dangosyddion i adlewyrchu'r dangosyddion newydd a gynhwyswyd ym MALlC 2019, ac ar 26 Awst gwnaethom gyhoeddi erthygl ar amddifadedd yn ymwneud â phlant ifanc. Trowch at ein ‘rhestr o allbynnau MALIC 2019’ i weld rhestr lawn o gyhoeddiadau MALlC 2019, gan gynnwys yr hyn sydd i ddod. 

Os ydych am gael eich hysbysu pan fydd diweddariadau MALlC yn cael eu cyhoeddi, anfonwch e-bost i ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i danysgrifio. Gallwn hefyd ddarparu sesiynau gwybodaeth ar MALIC 2019. Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu hyn ar gyfer eich sefydliad neu rwydwaith - cysylltwch â ni i drafod.

Cydraddoldeb

Rydym wedi diweddaru’r tablau ar ystadegau cyfeiriadedd rhywiol o Arolwg Poblogaeth Blynyddol 2019.

Yn dilyn atal y cyfrifiadau cyfrifiad dwy flynedd o garafanau Sipsiwn a Theithwyr dros dro yn 2020 oherwydd y pandemig, penderfynwyd rhoi'r gorau i'r cyfrif yn gyfan gwbl ar ddechrau 2021. Fodd bynnag, rydym wedi datblygu allbwn ystadegol newydd o gasgliad ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan. Cyhoeddwyd y data cyntaf o'r ffynhonnell newydd hon, yn ymwneud ag Ionawr 2021, ar 30 Mehefin.

Masnachu

Arolwg Masnach Cymru 

Nod yr arolwg yw gwella dealltwriaeth o lif masnach i mewn ac allan o fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys nwyddau a gwasanaethau sy'n symud o fewn y DU yn ogystal ag yn rhyngwladol. Cyhoeddwyd canlyniadau 2019 ar 31 Awst 2021, ynghyd â thablau data, ansawdd ac adroddiadau technegol cysylltiedig.

Bydd gwaith maes sy'n casglu data 2020 yn lansio ym mis Medi 2021, gydag arolwg peilot yn mynd i 300 o fusnesau ar 13 Medi, a gwaith maes prif lwyfan yn lansio o 27 Medi i 7,700 o fusnesau ychwanegol. Bydd y gwaith maes yn parhau tan fis Rhagfyr, gyda'r canlyniadau ar gael yn ystod gwanwyn/haf 2022. Bydd hwn yn casglu data sy'n ymwneud â 2020, a fydd yn cynnwys effeithiau masnachu pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn ogystal â'r cyfnod cyn ymadael â’r UE.

Masnach Cymru mewn Nwyddau: adolygu cyhoeddiad

Mae intern sy’n fyfyriwr meistr o Brifysgol Caerdydd yn gweithio ar brosiect i ddelweddu data masnach mewn nwyddau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Dylai fod ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru erbyn diwedd 2021.

At hynny, mae allbynnau arferol y set ddata hon yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Os hoffech fod yn rhan o’r adolygiad, neu roi unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, anfonwch e-bost at ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Arolwg Arhydol Busnesau Bach

Cafodd dadansoddiad o arolwg arhydol Busnesau Bach 2019 ei gomisiynu a'i gyhoeddi ddiwedd mis Mehefin. Arolwg blynyddol yw hwn sy'n cael ei gynnal gan BEIS. Mae data ar gael ar lefel Cymru, er bod meintiau sampl yn isel sy'n golygu y gall dadansoddiadau llai (yn ôl maint busnes neu sector) fod yn anodd. O ganlyniad i ddiddordeb Llywodraeth Cymru yn y prosiect hwn, mae BEIS wedi cytuno i ddyblu nifer y busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn y sampl (o 400 i 800 o fusnesau) ar gyfer arolwg 2021. Dylai hyn alluogi dadansoddiad manylach o'r canfyddiadau ar gyfer ymatebwyr yng Nghymru.

Dadansoddiad o ymddygiad allforio Mentrau Bach a Chanolig yng Nghymru: Hydref 2020

Cyhoeddwyd erthygl fer ddiwedd mis Mehefin yn amlinellu dadansoddiad o ymddygiad allforio Mentrau Bach a Chanolig yng Nghymru, yn seiliedig ar ddata a gasglwyd drwy Arolwg Omnibws Busnes Beaufort.

Trafnidiaeth

Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi amcangyfrifon o draffig ffyrdd a chludiant awyr yng Nghymru yn 2020 sy'n dangos yr effaith a gafodd COVID-19 ar deithio ledled Cymru.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi amcangyfrifon o ddamweiniau ffordd a gofnodwyd gan yr heddlu yn 2020, ynghyd â'r dangosfwrdd rhyngweithiol cysylltiedig.

I gael rhagor o wybodaeth ac i roi sylwadau, anfonwch e-bost i ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru.

Y Gymraeg

Gweler y diweddariad chwarterol ar ddemograffeg, sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ar ystadegau'r Gymraeg.

Poblogaeth a demograffeg

Cyhoeddir diweddariad Demograffeg chwarterol ar wahân sy'n cynnwys popeth sy'n gysylltiedig â'r boblogaeth.

Amaethyddiaeth a'r amgylchedd

Cyfres reolaidd o allbynnau o amaethyddiaeth

Bwriedir diweddaru’r allbynnau hyn yn y chwarter nesaf; ac eithrio'r Cyfrif Amaethyddol Cyfanredol yn y flwyddyn newydd.

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru

Ymholiadau ystadegol cyffredinol

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru

Ffôn: 0300 025 5050

Pynciau penodol

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau

Twitter

YstadegauCymru

Gwasanaeth hysbysu a newyddlenni e-bost Llywodraeth Cymru

Newyddion a hysbysiadau

Ymholiadau gweinyddol

E-bost GweinydduGGD@llyw.cymru