Neidio i'r prif gynnwy

4. Dewis lleoliad gofal plant

Gallwch ymgeisio cyn dewis lleoliad gofal plant.

Os yw eich cais yn cael ei gymeradwyo, bydd angen ichi greu cytundeb ffurfiol gyda’ch lleoliad. Bydd angen ichi drafod trefniadau gyda nhw cyn gwneud y cytundeb ffurfiol.

I fod yn gymwys i dderbyn Cynnig Gofal Plant Cymru, edrychwch i weld os yw eich darparwr gofal plant wedi'i gofrestru:

Mae gofal plant cymwys yn cynnwys:

  • grwpiau chwarae cofrestredig
  • darparwyr gofal dydd cofrestredig
  • gwarchodwyr plant cofrestredig
  • Cylchoedd Meithrin cofrestredig

Os yw nani yn gofalu am eich plentyn, ni allwch dalu’r nani drwy ddefnyddio'r Cynnig Gofal Plant. Ond gallwch gael cefnogaeth arall os yw eich nani wedi cofrestru o dan y cynllun cymeradwyo gwirfoddol (ar Arolygiaeth Gofal Cymru).