Neidio i'r prif gynnwys

9. Ffeilio a thalu’r ardoll

Bydd ein gwasanaeth yn agor ar 1 Ebrill 2027.

Byddwch yn gallu defnyddio ein gwasanaeth i:

  • gyflwyno eich ffurflenni ardoll
  • wneud newidiadau i'ch ffurflen
  • dalu eich ardoll
  • wirio eich cofnodion ar gyfer yr ardoll
  • ychwanegu cynorthwyydd dibynadwy

Rhaid i chi gofrestru eich llety ymwelwyr erbyn 31 Mawrth 2027. Hyd yn oed os nad yw'ch cyngor lleol yn codi Ardoll Ymwelwyr.

Cyflwyno eich ffurflenni ardoll

Os ydych yn talu’r cyfraddau uwch a’r cyfraddau is

Bydd yn rhaid i chi nodi'r cyfansymiau ardoll ar gyfer pob:

  • cyfradd uwch
  • cyfradd is

Os oes gennych fwy nag 1 lleoliad

Rhaid i chi nodi'r cyfansymiau ardoll ar gyfer pob un o'ch lleoliadau.

Talu’r ardoll

Byddwch yn talu'r ardoll drwy drosglwyddiad banc i Awdurdod Cyllid Cymru.

Byddwn yn rhoi'r manylion banc i chi ar ôl i chi gyflwyno'ch ffurflen.

Os na fyddwch yn ffeilio a thalu

Rhaid i chi gyflwyno a thalu eich ffurflenni ardoll yn brydlon. Gallech gael cosb os ydych chi'n hwyr.

Rydym yn paratoi'r canllawiau ar gosbau a dirwyon.