Neidio i'r prif gynnwy

Neges gan y Dirprwy Weinidog

Yn 2022, cyhoeddais y Cynllun Plant a Phobl Ifanc. Nododd y Cynllun yr addewidion y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i gefnogi pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Esboniodd hefyd y camau y byddem yn eu cymryd yn 2022-23 i gyflawni'r ymrwymiadau hynny. 

Yn y Cynllun, gwnaethom ddweud y byddem yn rhoi diweddariadau, er mwyn ichi allu gweld yr hyn rydym wedi ei gyflawni a'r hyn y byddwn yn canolbwyntio arno nesaf. 

Gwnaethom nodi hefyd y byddem yn siarad â phlant a phobl ifanc cyn diweddaru'r cynllun. 

Yn olaf, gwnaethom ddweud y byddwn yn cyflwyno adroddiad ar y modd y mae'r camau gweithredu yn y cynllun hwn yn ein helpu i gyflawni cerrig milltir cenedlaethol Llywodraeth Cymru. 

Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r cynllun diwygiedig hwn, a gefnogir gan y gwaith rydym wedi'i wneud yng nghyd-destun y Cytundeb Cydweithio. Rydym wedi gwneud cynnydd mewn amrywiaeth o feysydd a fydd yn gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Gwn fod llawer o waith i'w wneud o hyd, ac edrychaf ymlaen at weld y cynnydd y byddwn yn ei wneud yn ystod y cyfnod nesaf hwn. 

Ers inni gyhoeddi'r Cynllun, mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wedi cyhoeddi chweched adroddiad ar ei arsylwadau terfynol ar wladwriaeth sy'n barti y DU.  Mae ei adroddiad cynhwysfawr yn rhoi cyngor gwerthfawr i'n helpu i roi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar waith, a byddwn yn pennu'r ffordd orau o weithredu'r argymhellion. 

Hoffwn ddiolch i aelodau Cymru Ifanc a'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant, a helpodd i lunio'r diweddariad hwn.

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

I bwy y mae'r diweddariad hwn?

Mae'r diweddariad hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn hawliau plant a gwaith Llywodraeth Cymru dros bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. 

Ein huchelgais

Yr hyn rydym yn ei gredu

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i barchu, diogelu a gwireddu hawliau plant, fel y'u nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Rydym yn gwneud hyn drwy roi sylw dyledus iddo ym mhob penderfyniad a wnawn. 

Credwn fod gan bob un o'n plant a'n pobl ifanc yr hawl i wneud y canlynol:

  • Cael y dechrau gorau mewn bywyd.
  • Cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a'u mwynhau, a chael yr addysg orau bosibl i feithrin eu gwybodaeth a'u creadigrwydd a'u galluogi i wireddu eu potensial.
  • Mwynhau ffyrdd iach o fyw a chael eu diogelu rhag niwed, camdriniaeth, esgeulustod a gwahaniaethu.
  • Gallu chwarae a chael hwyl.
  • Cael eu trin â pharch a chael rhywun i wrando arnynt.
  • Byw mewn cartref a chymuned sy'n lle braf i dyfu i fyny ynddo.

Cael y cymorth ariannol a materol sydd ei angen arnynt. 

Yr hyn rydym yn ei wneud

Nod popeth rydym yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru yw gwella bywydau pobl yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwellau bywydau pob plentyn a pherson ifanc. Dyma rai o'r gwasanaethau rydym yn eu darparu o ddydd i ddydd sydd o fudd i blant a phobl ifanc. 

Cefnogi teuluoedd, rhieni a gofalwyr

  • Mae Magu plant. Rhowch amser iddo, yn rhoi cymorth rhianta cadarnhaol i bob rhiant y mae angen y cymorth hwnnw arno, pan fydd ei angen arno. Mae'n cynnwys cyngor, gwybodaeth a chymorth arbenigol i bob rhiant a gofalwr sydd â phlant 0-18 oed. 
  • Drwy dimau rhianta a Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd ein hawdurdodau lleol, rydym yn darparu cymorth, gwybodaeth a chyngor cyffredinol o ansawdd uchel ar rianta. Gall help proffesiynol gynnwys grwpiau rhianta a gwaith un i un, cymorth pwrpasol anffurfiol i rieni yn ogystal ag ymyriadau arbenigol wedi'u targedu'n fwy penodol. 
  • Pan fydd angen ychydig o gymorth ychwanegol ar deuluoedd, mae Teuluoedd yn Gyntaf wrth law i helpu teuluoedd i feithrin gwydnwch, drwy roi'r sgiliau iddynt ymdopi ag unrhyw anawsterau y gallent eu hwynebu mewn bywyd yn y dyfodol. 

Rhoi mwy o arian ym mhocedi teuluoedd

  • Mae ein hymgyrchoedd cyfathrebu cenedlaethol yn codi ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o gymorth ariannol sydd ar gael i bobl yng Nghymru. 
  • Rydym yn ariannu llinell gymorth Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi er mwyn i bobl allu cael y cyngor a'r cymorth cyfrinachol sydd eu hangen arnynt i hawlio'r cymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl i'w gael. 

Cefnogi iechyd plant a phobl ifanc, drwy gydol y flwyddyn

  • Mae taith iechyd plentyn yn dechrau yn ystod beichiogrwydd. Bydd pob mam yn cael gofal gan fydwraig benodol, a fydd yn cynllunio gofal unigol ar gyfer beichiogrwydd, genedigaeth, a'r dyddiau cynnar. Mae'r gofal hwn yn canolbwyntio ar deuluoedd, a'i nod yw rhannu negeseuon iechyd cyhoeddus er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau pan gaiff plentyn ei eni. 
  • Mae ein hymwelwyr iechyd yn darparu Rhaglen Plant Iach Cymru, sy'n cefnogi iechyd a lles plant hyd at 7 oed. 
  • Bob wythnos, bydd rhwng 70,000 a 80,000 o blant a phobl ifanc yn cael eu gweld gan wasanaethau gofal sylfaenol; bob mis, rydym yn trin rhwng 11,000 a 14,000 o blant a phobl ifanc dan 16 oed mewn adrannau achosion brys ledled Cymru. 
  • Mae ein gwasanaeth ffôn newydd i bobl y mae angen cymorth iechyd meddwl brys arnynt ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
  • Mae ein Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol yn cefnogi canlyniadau blaengar ym maes clefydau y gellir eu hatal drwy frechu.
  • Mae'r brechlyn HPV ar gael i bob disgybl ysgol uwchradd. Mae'n diogelu rhag 70% o ganserau yn y groth. Mae hefyd yn diogelu rhag rhai canserau eraill a achosir gan HPV megis canserau yn y pen a'r gwddf a chanserau yn yr organau cenhedlu. 

Cefnogi Dysgwyr 

  • Rydym wedi cyhoeddi ein map trywydd cenedlaethol, sy'n amlinellu ein huchelgais i sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Rydym am fynd i'r afael ag effaith tlodi ar addysg a darparu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen ar bob dysgwr i fyw bywyd iach a hapus. 
  • Mae pob ysgol bellach yn addysgu'r Cwricwlwm i Gymru newydd wrth iddo gael ei gyflwyno hyd at flwyddyn 11 ym mlwyddyn academaidd 2026/27. Mae ein Cwricwlwm i Gymru yn cefnogi pobl ifanc i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fanteisio i'r eithaf ar fywyd. Mae'n helpu ein plant a'n pobl ifanc i gyrraedd safonau uchel o ran llythrennedd a rhifedd ac i fod yn fwy galluog a hyderus yn ddigidol ac yn ddwyieithog. Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ein cynllun gwerthuso ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm ym mis Gorffennaf 2023 gan nodi sut byddwn yn monitro effaith y Cwricwlwm i Gymru dros amser.  
  • Rydym wedi ymestyn cyfnod gweithredu'r rhaglen ADY er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl. Rydym yn gweithio'n galed i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol i gyflawni hyd eithaf eu gallu drwy ein trefniadau cymorth newydd. 
  • Rydym yn gweithio gydag ysgolion, colegau, prifysgolion, Gyrfa Cymru a busnesau i godi ymwybyddiaeth o fyd gwaith a'r amrywiaeth enfawr o ddewisiadau gyrfa sydd ar gael i'n pobl ifanc. 
  • Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Rydym yn creu siaradwyr Cymraeg newydd ac yn annog dysgwyr drwy ein hysgolion a'n system addysg ehangach. Rydym wedi cyhoeddi'r Papur Gwyn, sy'n cymryd camau i alluogi pob dysgwr yng Nghymru i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy'r system addysg statudol erbyn 2050.
  • Drwy Hwb, rydym yn darparu gwasanaethau digidol dwyieithog sy'n arwain y sector i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Rydym yn gwybod y bydd technoleg ddigidol yn bwysig iawn i'n helpu i annog pobl i fod yn ddwyieithog, gwella cyrhaeddiad, a chefnogi pobl i barhau i ddysgu drwy gydol eu bywyd. 

Cartrefi diogel

  • Rydym yn gweithio'n galed i gynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy sydd gennym i ddiwallu anghenion pawb y mae angen tai arnynt. Rydym yn buddsoddi mwy o arian nag erioed o'r blaen i adeiladu cartrefi newydd ar gyfer y sector rhent cymdeithasol. 
  • Mae helpu pobl i symud o lety dros dro i gartrefi tymor hwy yn bwysig i ni. Rydym wedi creu cronfa newydd i brynu ac adnewyddu cartrefi a defnyddio dulliau modern o adeiladu tai er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn treulio llai o amser mewn llety dros dro. 
  • Gwyddom ei bod yn bwysig bod ein cartrefi yn gynnes, yn ddiogel ac yn fodern, felly mae gennym raglen fuddsoddi barhaus i wella a chynnal a chadw ein cartrefi. 

Cefnogi plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal

  • Drwy awdurdodau lleol, dylai fod cynllun gofal a chymorth ar waith ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Mae'r cynllun yn cynnwys cynllun iechyd, cynllun addysg personol, a chynllun lleoli ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc. 
  • Bydd awdurdodau lleol yn cynllunio i leoli plentyn neu berson ifanc mewn amgylchedd cartref addas. Diogelu a hybu llesiant y plentyn neu'r person ifanc yw'r ffocws. 
  • Bydd awdurdodau lleol yn sicrhau bod cynrychiolydd o'r awdurdod lleol yn ymweld â phob plentyn sy'n derbyn gofal ganddynt. Byddant yn trefnu bod cyngor a chymorth priodol ar gael. Byddai'r ymweliadau fel arfer yn cael eu cynnal gan weithiwr cymdeithasol dynodedig y plentyn. 
  • Mae ein hawdurdodau lleol yn sicrhau bod pob person ifanc sy'n gadael gofal yn cael y cymorth sydd ei angen arno i gamu ymlaen yn llwyddiannus i fod yn oedolyn, ac i fyw'n fwy annibynnol. Bydd y cymorth hwn yn cael ei ddarparu drwy gynghorwyr personol, asesiadau a chynlluniau llwybr, llety addas, a chymorth ar gyfer addysg uwch. 

Ein blaenoriaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru

Cyhoeddodd Gweinidogion Cymru eu Rhaglen Lywodraethu yn 2021. Mae'n cynnwys rhai o'r pethau pwysig y byddant yn eu gwneud dros blant a phobl ifanc cyn yr etholiad nesaf yn 2026. Bydd y rhain yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais a'n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu, gan sicrhau bod mynd i'r afael â thlodi plant ac anghydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn. 

Gall rhywfaint o'r gwaith hwn gael ei wneud yn annibynnol gan un Gweinidog. Mae gwaith arall yn fwy cymhleth, ac mae angen dau Weinidog neu fwy i gydweithio. Mae rhywfaint o'r gwaith mor gymhleth fel bod angen i'r holl Weinidogion gydweithio, fel un Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â sefydliadau eraill fel awdurdodau lleol, y GIG a'r sector gwirfoddol. Mae'r cynllun yn esbonio'r gwaith cymhleth y bydd angen i Weinidogion Llywodraeth Cymru ei wneud gyda'i gilydd i droi'r syniadau a'r ymrwymiadau hyn yn gamau gweithredu. 

Mae plant a phobl ifanc wedi dweud wrthym fod y blaenoriaethau yn y cynllun yn dal i adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig, yn eu barn nhw. 

Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd, gan gynnwys gwasanaethau blynyddoedd cynnar da a chymorth i rieni neu ofalwyr. Dylai gael ei gefnogi gartref, yn ei gymuned, mewn gofal plant ac yn yr ysgol, ac wrth iddo symud rhwng y lleoliadau hyn. 

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Byddwn yn parhau i wella gwasanaethau blynyddoedd cynnar.
  • Byddwn yn cynnig gwasanaethau blynyddoedd cynnar i fwy o blant a theuluoedd.
  • Byddwn yn cynnig mwy o wasanaethau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg.
  • Byddwn yn cefnogi plant gartref, mewn gofal plant ac yn yr ysgol, ac yn eu helpu wrth iddynt symud rhyngddynt.
  • Byddwn yn cynnig help a chymorth i rieni a gofalwyr.
  • Byddwn yn parhau i gynnig cyfleoedd dysgu sy'n seiliedig ar chwarae mewn lleoliadau gofal plant ac ysgolion. 

Yr hyn rydym wedi ei wneud

Mae gan bob plentyn yr hawl i fywyd, i dyfu i fyny a gwireddu ei botensial yn llawn. I blant iau, mae hyn yn golygu cynnig cyfleoedd a gofal iddynt dyfu, dysgu a ffynnu. Mae hyn hefyd yn cynnwys helpu eu rhieni a'u gofalwyr i ofalu amdanynt. 

Y Blynyddoedd Cynnar 

Mae beichiogrwydd a genedigaeth yn gamau datblygu pwysig, a gallant fod yn arwydd o iechyd unigolyn yn y dyfodol. Mae gwasanaethau mamolaeth yn rhoi cymorth a chyngor un i un drwy gydol y beichiogrwydd, pan gaiff y plentyn ei eni, ac yn ystod mis cyntaf ei fywyd. Mae dilyn ffordd iach o fyw yn ystod beichiogrwydd yn bwysig. Mae'r Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol wedi nodi arferion da y gellid eu mabwysiadu ledled Cymru. Mae maeth cynnar da hefyd yn bwysig. Rydym yn gweithio gyda Pwysau Iach: Cymru Iach i ddarparu Cynllun Bwydo ar y Fron. Bydd hyn yn sicrhau bod y teuluoedd hynny sy'n dymuno bwydo ar y fron yn cael yr wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. 

Weithiau, gall babanod gael eu geni'n gynnar a gall fod angen gofal ychwanegol arnynt mewn uned babanod newyddanedig. Bydd PERIPrem Cymru yn darparu pecynnau gofal i bob baban y mae angen gofal ychwanegol arno yn ystod dyddiau cynnar ei fywyd. 

Mae gan bob plentyn yr hawl i gael addysg. Mae chwarae, dysgu a gofal yn ystod plentyndod cynnar yn cefnogi llesiant, datblygiad a dysgu plant drwy gydol eu bywyd.[1] 

Yn 2022-23, cyrhaeddodd ein rhaglen Dechrau'n Deg 3,100 o blant ychwanegol rhwng 0 a 4 oed. Roedd hyn yn cynnwys ariannu gofal plant ar gyfer plant 2-3 oed ledled Cymru. Parhaodd y gwaith o ehangu darpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg yn raddol yn 2023.

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru bellach ar gael i rieni sydd mewn addysg a hyfforddiant. Roedd hyn yn golygu bod 3,000 o deuluoedd ychwanegol wedi gallu cael cyllid ar gyfer addysg gynnar a gofal plant. Mae'r cyllid ar gyfer 48 wythnos o'r flwyddyn. 

Gwnaethom lansio ein rhaglen gyfalaf ar gyfer gofal plant a'r blynyddoedd cynnar. Bydd y rhaglen yn weithredol tan 2025 ac mae'n cefnogi'r sector gofal plant yng Nghymru i fuddsoddi mewn seilwaith gofal plant. 

Gwnaethom ariannu Gofal Cymdeithasol Cymru, Cwlwm a Chwarae Cymru i gefnogi'r sector gofal plant a chwarae, gan gynnwys cynyddu'r ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg.  

Defnyddiodd Chwarae Cymru rhywfaint o'i gyllid i gyhoeddi ffilm ‘Dyma pam mae chwarae mor bwysig’ www.chwarae.cymru/chwarae/ffilm

Ym mis Mehefin 2023, gwnaethom gyhoeddi canllawiau i staff ar Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar

Y Gymraeg yn y Blynyddoedd Cynnar 

Mae ein Polisi cenedlaethol ar drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd yn nodi'r hyn y byddwn yn ei wneud er mwyn helpu teuluoedd i ddefnyddio'r Gymraeg gartref. Eleni, gwnaethom gyhoeddi gwybodaeth am gyfansoddiad cartrefi yng Nghymru o ran y Gymraeg

Rydym wedi buddsoddi mewn hyfforddiant Cymraeg i weithwyr gofal plant a chwarae. Mae hyn yn golygu y gallant helpu mwy o blant i chwarae a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Er mwyn helpu plant i ddechrau dysgu Cymraeg mor gynnar â phosibl, rydym wedi rhoi cyllid i Mudiad Meithrin ehangu cymorth gofal plant a'r blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg. Mae gan bob awdurdod lleol bellach Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd. Mae'r rhain yn esbonio sut y byddant yn gwella'r ffordd y caiff addysg cyfrwng Cymraeg ei chynllunio yn eu hardaloedd. Mae pob awdurdod lleol wedi cynnwys targedau i gynyddu canran y dysgwyr sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â cherrig milltir Cymraeg 2050

Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae. Mae hyn yn golygu cael cyfleoedd i gymryd rhan rydd a llawn mewn bywyd diwylliannol. Mae hyn yn cynnwys gallu chwarae, cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, ond hefyd gorffwys. 

Gwnaeth safbwyntiau'r plant a gymerodd rhan yn Haf o Hwyl 2021 ein helpu i ddatblygu rhaglen 2022. Roedd Haf o Hwyl 2022 yn cynnwys cymorth ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau i blant a phobl ifanc 0-25 oed. Roedd hyn yn cynnwys lleoedd am ddim yn yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfleoedd chwarae plant drwy'r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Rydym yn parhau i gefnogi pwysigrwydd cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel i bob plentyn a pherson ifanc. Rydym wrthi'n rhoi argymhellion Grŵp Llywio'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae ar waith.

Cymorth i blant, rhieni a gofalwyr 

Mae ein hymgyrch Siarad Gyda Fi yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd lleferydd, iaith a chyfathrebu a sut i helpu plant i feithrin y sgiliau hyn. Drwy ganolbwyntio ar y sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu sy'n gysylltiedig â Rhaglen Trawsnewid y System Anghenion Dysgu Ychwanegol, a datblygu adnoddau'r cwricwlwm newydd, rydym am leihau nifer y dysgwyr sy'n cael eu gwahardd o'r ysgol. 

Yn 2022, gwnaethom ofyn i rieni, gweithwyr iechyd proffesiynol ac eraill am raglen Bwndeli Babi. Gwnaethant ddweud wrthym yr hyn y dylai'r bwndeli ei gynnwys a'r ffordd orau o'u darparu i rieni, yn eu barn nhw. 

Naw Mis a Mwy yw'r wybodaeth a roddir i rieni yn ystod beichiogrwydd a chyn geni. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn diweddaru'r wybodaeth ac yn llunio gwybodaeth newydd yn lle Naw Mis a Mwy. Mae wedi bod yn siarad â phobl sy'n gweithio gyda rhieni a grwpiau rhieni er mwyn gwneud hyn. Y llynedd, lansiodd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru microwefan ‘Pob Plentyn’. Mae Pob Plentyn yn cefnogi cydberthnasau rhwng rhieni a'u babanod. Mae'r wefan yn cynnwys ''Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth', sef y cyntaf o bedwar cyhoeddiad newydd. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi'n llunio gwybodaeth am fabanod newydd-anedig hyd at 2 oed fel rhan o Pob Plentyn, a fydd ar gael yn gynnar yn 2024. 

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud

Byddwn yn:

Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael ei drin yn deg mewn addysg. Dylai gael ei gefnogi i oresgyn rhwystrau a gwireddu ei botensial. 

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Byddwn yn sicrhau bod addysg yn brofiad cadarnhaol i bob plentyn a pherson ifanc.
  • Byddwn yn rhoi'r help ychwanegol sydd ei angen ar bob plentyn a pherson ifanc i oresgyn rhwystrau a gwireddu ei botensial.
  • Byddwn yn sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn fwy hygyrch a theg i bob plentyn a pherson ifanc.
  • Byddwn yn paratoi ac yn cefnogi pobl ifanc yn well pan fyddant yn symud o'r ysgol i gyflogaeth/hunangyflogaeth, hyfforddiant neu addysg barhaus. 

Yr hyn rydym wedi ei wneud

Mae gan bob plentyn yr hawl i ddatblygu cystal ag y gall. Rhaid i addysg helpu plant i feithrin eu sgiliau a'u talentau yn llawn. Rydym am sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Rydym am fynd i'r afael ag effaith tlodi ar addysg a chefnogi pob dysgwr. Gan weithio gyda'n partneriaid, rydym am wneud yn siŵr bod addysg yn addas i bawb. Rydym am i bob dysgwr o bob oed gael cyfleoedd addysg rhagorol. Gall hyn fod yn yr ystafell ddosbarth neu ar-lein. Rydym am i bob plentyn a pherson ifanc yn ein hysgolion gredu y gall gyflawni cystal â phosibl. Rydym wedi nodi'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud mewn map trywydd, Cenhadaeth ein cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb.

Mae ein Cwricwlwm i Gymru yn ganolog i sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Mae pob ysgol bellach yn defnyddio fframwaith Cwricwlwm i Gymru y flwyddyn academaidd hon. Mae Cwricwlwm i Gymru: adroddiad blynyddol 2023 yn esbonio'r hyn rydym ni a'n holl bartneriaid wedi ei wneud hyd yma a'r hyn rydym yn canolbwyntio arno yn ystod y flwyddyn academaidd hon i helpu i roi’r cwricwlwm ar waith. 

Rydym wedi gofyn i uwch-arweinwyr mewn ysgolion am eu barn ar eu blwyddyn gyntaf o weithio gyda'r cwricwlwm. Rydym hefyd wedi gofyn i ddysgwyr am eu profiad o flwyddyn gyntaf y Cwricwlwm i Gymru

Cefnogi plant

Bydd y Cwricwlwm i Gymru newydd yn helpu dysgwyr y mae angen mwy o gymorth arnynt, er enghraifft dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Drwy newid y gyfraith, ein nod yw gwneud yn siŵr bod pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu gwireddu ei botensial mewn lleoliadau cyn ysgol, ysgolion a cholegau. Bydd y cymorth a roddir i bob dysgwr 0-25 oed ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei gynllunio a'i ddiogelu. Rydym wedi dechrau ystyried i ba raddau y mae'r newidiadau i'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi bod yn effeithiol. Canfu Estyn fod y newidiadau, hyd yma, yn gwneud cynnydd cyson. 

Rydym wedi gwrando ar rieni dysgwyr anabl a'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol drwy weithio gyda SNAP Cymru. Daeth llawer o rieni a dysgwyr i'n digwyddiadau diweddar i rieni a gofalwyr. Mae arweinwyr ysgolion a Chydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi bod yn rhannu eu profiadau a gwybodaeth am yr hyn sy'n gweithio'n dda. 

Gwnaethom ofyn i Plant yng Nghymru helpu i gasglu barn a safbwyntiau plant a phobl ifanc am ein canllawiau newydd Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi. Gwnaethom ofyn iddynt helpu i nodi unrhyw fylchau yn y canllawiau neu welliannau iddynt o safbwynt plant a phobl ifanc. Cymerodd cyfanswm o 175 o blant a phobl ifanc rhwng 6 a 17 oed o chwe ysgol ran yn y gwaith hwn. 

Rydym wedi siarad â phlant sydd wedi cael eu gwahardd o'r ysgol neu sydd wedi wynebu risg o gael eu gwahardd o'r ysgol. Roeddem am ddeall a yw'r hyn y mae ysgolion yn ei wneud er mwyn helpu i atal plant rhag cael eu gwahardd o'r ysgol, yn gweithio. Rydym hefyd wedi gofyn beth sydd ei angen ar awdurdodau lleol, ysgolion, rhieni, a phlant er mwyn helpu i atal plant rhag cael eu gwahardd o'r ysgol. Byddwn yn defnyddio sylwadau'r plant a'r rhieni i helpu i ddiweddaru ein canllawiau Gwahardd o'r ysgol ac unedau cyfeirio disgyblion

Yn y cytundeb cydweithio, gwnaethom ymrwymo i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd. Yn 2022-23, gwnaethom gynnwys plant mewn dosbarthiadau derbyn a phlant ym mlynyddoedd 1 i 4. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i bob disgybl ysgol gynradd gael pryd maethlon. Rydym yn ailedrych ar y rheoliadau maeth er mwyn gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth gyffredinol hon yn iach ac yn faethlon. 

Cafodd y calendr ysgol cyfredol ei lunio gryn amser yn ôl. Rydym yn ceisio penderfynu sut y gall y calendr ysgol gefnogi dysgu a llesiant yn well a chyd-fynd yn well â bywyd modern. Hoffem yn arbennig glywed safbwyntiau pobl ifanc. Rydym yn gweithio gyda llawer o unigolion, grwpiau a sefydliadau i'n helpu i bennu ffurf bosibl y calendr yn y dyfodol. 

Ym mlwyddyn academaidd 2021-22, cymerodd 1,800 o ddysgwyr o 13 o ysgolion ran yn ein sesiynau cyfoethogi o'u gwirfodd. Cawsant bum awr ychwanegol o weithgareddau yn yr ysgol bob wythnos am 10 wythnos. Gwnaethom gyhoeddi adroddiad yn gwerthuso'r treial ym mis Ionawr 2023. Nododd yr adroddiad fod plant wedi chwarae mwy gyda'u ffrindiau, wedi dysgu pethau newydd, ac wedi ymddwyn yn well yn yr ystafell ddosbarth. Rydym yn ystyried canfyddiadau'r treialon hyn yng nghyd-destun ein polisïau a'n diwygiadau addysg ehangach. 

Addysg cyfrwng Cymraeg

Rydym am i bob dysgwr yng Nghymru allu siarad Cymraeg yn hyderus erbyn 2050. Er mwyn ein helpu i wneud hynny, rydym wedi cyhoeddi Papur Gwyn sy'n amlinellu cynnig i newid y gyfraith a chyflwyno Bil Addysg Gymraeg. 

Camu ymlaen o'r ysgol

Yn y Cwricwlwm i Gymru, rydym wedi nodi ein dull gweithredu ar gyfer dysgu i bobl ifanc 14-16 oed. Credwn fod angen cwricwlwm eang a chytbwys sy'n mynd y tu hwnt i gymwysterau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn meddu ar yr holl wybodaeth, sgiliau a phrofiad sydd eu hangen arnynt i lwyddo pan fyddant yn gadael addysg orfodol yn 16 oed. Gallai hyn fod mewn addysg, hyfforddiant, neu gyflogaeth. 

Fel y nodwyd yn natganiad ysgrifenedig Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Mehefin 2023, rydym yn gweithio gyda chyflogwyr, darparwyr Addysg Bellach, ysgolion, gweithwyr addysg a sefydliadau Addysg Uwch i gyd-awduro canllawiau pellach ar y cwricwlwm er mwyn helpu ysgolion i wybod beth yn union y mae angen iddynt ei gynnig i ddysgwyr 14-16 oed o dan y Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr adran newydd hon o ganllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei chwblhau yn 2024, mewn pryd i gefnogi ysgolion i gyflwyno'r cymwysterau TGAU diwygiedig erbyn tymor yr haf 2027. 

Rydym yn bwriadu ymgynghori ar ein canllawiau gwella ysgolion yn gynnar yn 2024 cyn eu gwneud yn statudol. Bydd hyn yn helpu'r system a phob un o'n partneriaid i symud tuag at system hunanwella sy'n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, a'u dysgu. 

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud 

Blaenoriaeth: Dylai pob person ifanc gael ei gefnogi ar ei daith drwy addysg, hyfforddiant a chyflogaeth/hunangyflogaeth, ac wrth iddo symud rhyngddynt.

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Byddwn yn sicrhau bod gan bob person ifanc dros 16 oed o leiaf un opsiwn bob amser: addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth/hunangyflogaeth.
  • Byddwn yn cefnogi dewis pobl ifanc.
  • Byddwn yn gwella'r cymorth i bobl ifanc wrth iddynt newid rhwng yr opsiynau hyn.
  • Byddwn yn annog pob person ifanc i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg yn yr ysgol, y coleg, y brifysgol a'r gweithle.
  • Byddwn yn gwella addysg a hyfforddiant fel y gall mwy o bobl ifanc ennill cymhwyster (uwch).

Yr hyn rydym wedi ei wneud

Mae gan bob plentyn yr hawl i ddatblygu cystal ag y gall. Rhaid i addysg helpu plant i feithrin eu sgiliau a'u talentau yn llawn. Mae hyn yn golygu darparu amrywiaeth o opsiynau a chefnogi dewisiadau pobl ifanc. 

Yn 2022-23, gwnaethom ymestyn rhannau o'r Warant i Bobl Ifanc a gweithio i godi ymwybyddiaeth ohoni. 

Mae hyn yn cynnwys diwygio’r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl ifanc y gall fod angen help arnynt yn cael cymorth cyn iddynt wynebu argyfwng. 

Rydym wedi ei gwneud hi'n haws i bobl ifanc gael eu hatgyfeirio at ein rhaglenni cyflogadwyedd er mwyn iddynt symud o un opsiwn i'r llall. 

Rydym wedi codi cyfraddau'r lwfansau hyfforddiant, bwyd a thrafnidiaeth. 

Rydym wedi gwella'r ffordd rydym yn gweithio ac yn rhannu data gyda Cymru'n Gweithio, Yr Adran Gwaith a Phensiynau ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn gallu manteisio ar y Warant. 

Rydym yn cynnig gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16-25 oed ac i athrawon a gweithwyr eraill ym myd addysg. 

Gwnaethom ehangu'r meini prawf cymhwyso ar gyfer Twf Swyddi Cymru, sef ein rhaglen dysgu seiliedig ar waith i bobl ifanc 16-19 oed. 

Rydym wedi cynnal Sgwrs Genedlaethol flwyddyn o hyd ar y Warant i Bobl Ifanc. Gwnaethom gynnal cyfres o arolygon, gweithdai a grwpiau ffocws gyda phobl ifanc 16-24 oed. Gwnaethant drafod pynciau yn amrywio o lesiant personol, cymorth i oresgyn rhwystrau a allai eu hatal rhag gwireddu eu potensial yn llawn, ochr yn ochr ag amrywiaeth o faterion eraill. Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb cychwynnol i'r canfyddiadau. 

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael ei gefnogi i deimlo'n iach yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol.

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Byddwn yn ystyried llesiant plant a phobl ifanc ym mhopeth a wnawn.
  • Byddwn yn cefnogi ymgyrchoedd i wella lles pob plentyn a pherson ifanc.
  • Byddwn yn gwella'r gallu i gael gafael ar gymorth lefel isel ar gyfer iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn ogystal â gwasanaethau arbenigol pan fo angen.

Yr hyn rydym wedi ei wneud

Mae gan bob plentyn yr hawl i gael bwyd iach a gofal iechyd da. 

Cymru Iach: Pwysau Iach yw ein strategaeth hirdymor i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru. Mae'n cynnwys amrywiaeth o gamau gweithredu, gan gynnwys cyllid, polisi a deddfwriaeth. 

Rydym wedi rhoi cyllid i fyrddau iechyd lleol ddatblygu dull system gyfan o atal pobl rhag mynd dros bwysau neu'n ordew. Ceir ffocws ar wella gallu plant a phobl ifanc i gael gafael ar fwyd iach a'u hannog i wneud mwy o weithgarwch corfforol. 

Sefydlwyd tri phrosiect peilot i blant a theuluoedd ar Ynys Môn, yng Nghaerdydd ac ym Merthyr. Mae prosiectau peilot PIPYN yn profi dulliau newydd o atal neu leihau gordewdra a gostwng y nifer sy’n ordew, sy'n cynnwys y teulu cyfan. Mae'r prosiectau peilot yn darparu cymorth un i un yn seiliedig ar 10 Cam i Bwysau Iach Pob Plentyn GIG Cymru Byddant hefyd yn cynyddu'r cyfleoedd i blant bach a'u teuluoedd gadw'n heini a chael gafael ar fwydydd iach yn y gymuned.  Mae byrddau iechyd lleol wedi bod yn siarad â phlant a phobl ifanc fel rhan o brosiectau Dull System Gyfan Pwysau Iach a phrosiectau PIPYN. 

Rydym wedi rhoi cyllid i fyrddau iechyd lleol gynyddu gwasanaethau, yn unol â chanllawiau Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan. Mae hyn yn cynnwys datblygu gwasanaethau rheoli pwysau i blant, pobl ifanc, a theuluoedd. 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y cynnig i ddod â gwerthiant diodydd egni i blant o dan 16 oed i ben. Gwnaethom greu fersiwn i blant a phobl ifanc o'r ymgynghoriad, ynghyd ag adnoddau addysgol. Gwnaethom gynnal grwpiau ffocws gyda phlant a phobl ifanc. Rydym wedi comisiynu rhagor o waith i ddeall y niwed posibl. 

Gwnaethom adolygu ein Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru / Cynllun Cyn-ysgolNod y cynllun yw dylanwadu ar yr amgylchedd, polisïau ac arferion er mwyn gwella iechyd a llesiant. Roedd yr argymhellion yn ymwneud â rhoi mwy o ffocws ar ganlyniadau i ysgolion unigol a symud i ffwrdd oddi wrth ddull seiliedig ar wobrau. Mae angen cysoni'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl ac iechyd corfforol. 

Iechyd Rhywiol

Mae Tîm Iechyd Rhywiol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phobl ifanc drwy grwpiau cymunedol a byrddau ieuenctid. Mae'n rhoi cymorth uniongyrchol i fyfyrwyr drwy ffeiriau'r glas a digwyddiadau llesiant mewn neuaddau preswyl. 

Mae 500 o gynlluniau cerdyn condom ar waith ledled Cymru. Maent yn cefnogi pobl ifanc 13-25 oed drwy roi cyngor a gwybodaeth anfeirniadol a chyfrinachol ar iechyd rhywiol.  Mae'r cynlluniau yn cefnogi pobl ifanc drwy eu hatgyfeirio at wasanaethau eraill, os oes angen. 

Mae'r gwasanaeth iechyd rhywiol ar-lein ar gael i bobl ifanc 16 oed a throsodd. Mae'n darparu cymorth ac atgyfeiriadau yn ôl yr angen. Mae rhai clinigau iechyd rhywiol galw heibio hefyd yn cael eu cynnal ledled Cymru i bobl ifanc dan 18 oed. 

Fepio 

Ym mis Medi, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Gwybodaeth a Chanllawiau ar Fepio i Ddysgwyr Oedran Uwchradd yng NghymruNod y canllawiau, y gall ysgolion a lleoliadau addysg eraill eu defnyddio i ymateb i'r defnydd o fêps, yw helpu dysgwyr i ddeall effaith fepio ar eu hiechyd a'u llesiant. Maent yn rhoi gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth i athrawon am ffyrdd o gynnwys dysgu ac addysgu am fepio o dan y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut y gall ysgolion ymateb i'r defnydd o fêps yn eu lleoliad a sut i gefnogi pobl ifanc a all fod yn ddibynnol ar nicotin ac yn awyddus i roi'r gorau iddi. 

Cymorth iechyd meddwl

Rydym yn defnyddio dull system gyfan ac yn buddsoddi mewn cymorth iechyd meddwl, o ymyriadau cynnar i wasanaethau arbenigol. Dylai hyn sicrhau bod pawb, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yn gallu cael gafael ar gymorth pan fo angen. 

Yn 2022, gwnaethom gomisiynu Uned Cyflawni'r GIG i gynnal adolygiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed CAMHS. Nod yr adolygiad oedd gwella gwasanaethau a'u gwneud yn fwy cyson. Mae pob bwrdd iechyd wedi cyflwyno un pwynt mynediad i gyfeirio pobl ifanc at y cymorth mwyaf priodol. Byddwn yn parhau i roi argymhellion yr adroddiad ar waith yn 2023-24. 

Gwnaethom gyflwyno gwasanaeth mewngymorth i ysgolion. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu cymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed i ysgolion i'w helpu i roi cymorth emosiynol i fyfyrwyr. Mae ymarferwyr iechyd meddwl dynodedig mewn ysgolion yn darparu sesiynau ymgynghori, cyngor a hyfforddiant. Yn dilyn rhaglen beilot lwyddiannus, mae'r gwasanaeth bellach wedi'i gyflwyno ar hyd a lled Cymru. 

Lluniwyd Fframwaith NYTH ar y cyd â'r Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol. Cyfrannodd pobl ifanc at y gwaith o lansio'r fframwaith, a gwnaethom gynnal digwyddiadau er mwyn rhoi sylw blaenllaw i leisiau pobl ifanc. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae gan bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol bellach is-grwpiau plant a phobl ifanc. 

Rydym yn rhoi Fframwaith NYTH ar waith drwy gynlluniau'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae'r cynlluniau yn nodi'r hyn y byddant yn ei wneud i sicrhau bod babanod, plant a phobl ifanc, a'u teuluoedd a'u gofalwyr, yn gallu cael gafael ar y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Maent yn amlinellu sut y bydd byrddau iechyd, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg a'r trydydd sector yn cydweithio i ddarparu'r cymorth gorau a mwyaf priodol. 

Nod ein Cronfa Integreiddio Rhanbarthol yw sefydlu modelau gofal. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar iechyd emosiynol a llesiant, cadw teuluoedd gyda'i gilydd a chymorth therapiwtig i blant â phrofiad o fod mewn gofal. Gan ddefnyddio Fframwaith NYTH, bydd y modelau gofal yn canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Bydd cymorth arbenigol hygyrch yn un o nodweddion pwysig y prosiectau. 

Rydym wedi gwella'r gallu i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl lefel isel. Rydym wedi ehangu ein llinell gymorth iechyd meddwl 24/7 (CALL), sy'n darparu gwasanaeth gwrando a chynghori cyfrinachol. Gall CALL hefyd gyfeirio unigolion at wasanaethau cymorth lleol gan ddefnyddio ei chronfa ddata gynhwysfawr. 

Gan weithio gyda phobl ifanc, gwnaethom ddiweddaru ein Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl, y gellir cael gafael arno ar HWB neu drwy wefan 111. Mae'r pecyn cymorth yn cysylltu pobl ifanc 11-25 oed â gwefannau, apiau a llinellau cymorth. 

Gwnaethom gyflwyno Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ledled Cymru drwy SilverCloud. Mae'r gwasanaeth therapi ar-lein am ddim hwn yn helpu pobl sy'n wynebu gorbryder, iselder, neu straen ysgafn neu gymedrol.  Rydym wedi cyflwyno modiwlau SilverCloud sydd â'r nod o gefnogi plant a phobl ifanc, a'u rhieni. 

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau newydd i wella'r broses o bontio o wasanaethau gofal iechyd plant i wasanaethau oedolion, gan ddilyn cyngor gan blant a phobl ifanc. Mae'r gwaith pontio hwn yn cefnogi hawl person ifanc i iechyd da a gofal iechyd da, a bydd yn sicrhau bod unrhyw berson ifanc yn cael pecyn cymorth cynhwysfawr sy'n seiliedig ar ei anghenion. 

Rydym yn cynnal prosiectau peilot gan fyrddau iechyd i ehangu'r ddarpariaeth iechyd meddwl i bobl ifanc mewn argyfwng. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi datblygu lolfa ryddhau i blant a phobl ifanc. Mae'r lolfa hon yn cynnig dewis amgen iddynt yn lle cael eu derbyn i'r ysbyty. Mae'n lle diogel i blant a phobl ifanc a fyddai fel arall yn diweddu yn yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys neu ar Ward Iechyd Meddwl. Mae Tîm Ymateb Cyflym yn darparu ymyriadau therapiwtig ac asesiadau clinigol lle bo angen. 

Mae Aneurin Bevan hefyd yn datblygu lolfa ryddhau i asesu plant a phobl ifanc mewn argyfwng. Bydd gweithwyr cymorth yn cynnig ymyriadau therapiwtig ac yn cynnig cymorth 'cofleidiol' yn y cartref. 

Mae Hywel Dda hefyd wedi agor dau Wasanaeth Noddfa i blant a phobl ifanc 12-18 oed. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnig cymorth ymarferol ac ymyriadau therapiwtig i blant a phobl ifanc mewn trallod meddwl. 

Mae cyllid hefyd wedi'i gymeradwyo ar gyfer y canlynol: 

  • Sefydlu noddfeydd argyfwng yn ardaloedd Bae Abertawe a Chwm Taf. 
  • Datblygu hyb argyfwng a thîm ymateb cyflym mewn argyfwng ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. 
  • Datblygu canolfan argyfwng cymunedol yn ardal Betsi Cadwaladr. 

Bydd gwaith gwerthuso yn ein helpu i ddeall effaith pob un o'r modelau. 

Mae'r cyfleusterau hyn yn bodoli ochr yn ochr â'r gwasanaeth 111, pwyswch 2 a'r cynllun peilot trawsgludo cleifion iechyd meddwl cenedlaethol. 

Mae menter Llyfrau ar Bresgripsiwn Reading Well yn cynnwys casgliadau i blant, pobl ifanc yn eu harddegau, ac oedolion. Maent ar gael yn ddwyieithog mewn llyfrgelloedd ym mhob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Y nod yw helpu pobl i ddeall eu hiechyd a'u llesiant drwy ddarllen. Mae rhai llyfrau ar gael i'w benthyg ar ffurf e-lyfrau a llyfrau sain: Lluniwyd y rhestr gyda chymorth pobl ifanc 13-19 oed. Mae holl lyfrau Reading Well wedi'u hargymell gan arbenigwyr ym maes iechyd, yn ogystal â phobl sydd â phrofiad bywyd o'r cyflyrau a'r pynciau dan sylw, a'u perthnasau a'u gofalwyr. Gall pobl fynd i wefan eu llyfrgell leol i gael rhagor o wybodaeth am sut i ymuno â'r llyfrgell a chael gafael ar lyfrau yn electronig. 

Cymorth mewn Ysgolion

Mae llesiant emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc yn bwysig iawn inni, felly hefyd rôl ysgolion wrth gefnogi a hybu llesiant cadarnhaol. Rydym wedi siarad â phlant a phobl ifanc drwy'r Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol. Gwnaethom gyhoeddi fframwaith i helpu ysgolion i sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol, fel bod yr ysgol gyfan yn helpu i wella pethau. Rydym wedi rhoi arian i ysgolion i'w helpu i wneud hyn. Rydym hefyd wedi parhau i ddarparu cymorth cwnsela yn yr ysgol a'r gymuned i ddisgyblion a staff, ac wedi darparu hyfforddiant mewn ysgolion. 

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud

Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael ei gefnogi i gael cyfle teg mewn bywyd. 

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Byddwn yn helpu plant a phobl ifanc i arfer eu hawliau a chael eu trin yn deg, heb wahaniaethu. 
  • Ni fyddwn yn gadael neb ar ôl wrth inni symud tuag at Gymru lanach, gryfach a thecach.
  • Byddwn yn gweithio i atal tlodi ac i gefnogi plant a phobl ifanc mewn cartrefi incwm isel.
  • Byddwn yn gwella'r cymorth i blant a phobl ifanc y mae angen help penodol a/neu ychwanegol arnynt i oresgyn rhwystrau a gwireddu eu potensial.
  • Byddwn yn gweithio i roi diwedd ar bob math o wahaniaethu, bwlio, aflonyddu a thrais.

Yr hyn rydym wedi ei wneud

Newid yn yr Hinsawdd 

Mae gan bob plentyn yr hawl i gael amgylchedd glân. Drwy'r cyfreithiau rydym yn eu gwneud, y polisïau rydym yn eu llunio a'r gwaith rydym yn ei ariannu, gallwn greu Cymru gryfach, lanach a thecach lle y gall plant ffynnu. Mae ein Cynllun ar gyfer addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn nodi ein cynlluniau i leihau risgiau'r newid yn yr hinsawdd a difrod i fyd natur yng Nghymru. 

Yn 2022-23, gwnaethom ddatblygu Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), gyda chymorth gwybodaeth gan Cymru Ifanc a Senedd Ieuenctid Cymru. Mae'r gyfraith hon yn ein helpu ni a phobl yng Nghymru i feddwl mewn ffordd wahanol am ein defnydd o gynhyrchion plastig untro a gallai arbed arian a chyflwyno buddiannau amgylcheddol. 

Rydym am i Gymru fod yn rhan o'r ateb byd-eang i'r newid yn yr hinsawdd, drwy weithio gyda phlant a phobl ifanc drwy raglenni Maint Cymru a Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru. Mae mwy na 90% o ysgolion yn cymryd rhan ledled Cymru yn ein rhaglenni Eco-Sgolion, gan ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n gwneud eu hysgolion yn amgylcheddau iachach a glân. 

Drwy gynllun Fy Nghoeden, Ein Coedwig, mae plant a phobl ifanc wedi helpu i blannu 300,000 o goed, gan helpu i greu ein Coedwig GenedlaetholMae plannu mwy o goed o fudd i'r amgylchedd ac i'n hiechyd ni ein hunain ac yn ein helpu i gyrraedd ein targed sero net. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cynllun FyNgherdynTeithio, sy'n cynnig traean oddi ar bris tocynnau bws i bobl ifanc. Rydym wedi datblygu opsiynau ar gyfer ‘Tocynnau Teithio Tecach’ i'r rhai sy'n teithio ar fysiau yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys y posibilrwydd o gyflwyno cap ar docynnau unffordd, tocynnau parth, tocynnau bws a thrên integredig, a thocynnau gwell i bobl ifanc. 

Rydym wedi ehangu rhaglen Teithiau Iach gan gynnwys darpariaeth i ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rydym yn cefnogi plant i gerdded a beicio drwy hyfforddiant beiciohyfforddiant cerddwyr ifanc. Ym mis Medi, gostyngwyd y terfyn cyflymder ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya. Gall gostwng y terfyn cyflymder wneud ffyrdd yn fwy diogel i blant gerdded neu feicio i'r ysgol, gan roi lle a chyfle iddynt gadw'n iach. 

Atal tlodi 

Mae gan bob plentyn yr hawl i gael cymorth gan y llywodraeth os nad oes gan ei deulu ddigon o arian i gael deupen llinyn ynghyd. Mae byw mewn tlodi yn gwneud bywyd yn fwy anodd, yn enwedig i blant a phobl ifanc. Gwyddom fod plant sy'n byw mewn tlodi yn aml yn llai tebygol o allu arfer eu hawliau. Mae Llywodraeth Cymru am i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru gael y pethau sydd eu hangen arno i fyw bywyd iach a hapus. 

Yn 2020-23, gwnaethom lansio Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl sy'n Gadael Gofal yng Nghymru. Rhoddir incwm sylfaenol i bobl sy'n gadael gofal er mwyn diwallu eu hanghenion sylfaenol a rhoi'r cyfle iddynt ffynnu. 

Gwnaethom hefyd lansio ein Strategaeth Tlodi Plant Ddrafft er mwyn cynnal ymgynghoriad arno.  Gwnaethom ddatblygu'r Strategaeth ar ôl gofyn i fwy na 3,000 o bobl pa gamau y dylem eu cymryd i wneud gwahaniaeth. Roedd hyn yn cynnwys 1,402 o blant a phobl ifanc. Mae'r Strategaeth yn nodi sut y byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth a chyda'n partneriaid i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru, fel bod plant a phobl ifanc yn gallu arfer eu hawliau ni waeth beth fo'u cefndir na'u hamgylchiadau (gan gynnwys faint o arian sydd gan y teulu). Mae ffocws y strategaeth honno ar y plant hynny sy’n profi tlodi neu sydd mewn perygl o brofi tlodi.

Cydraddoldeb a Thegwch

Dylai pob plentyn allu arfer ei hawliau a chael ei drin yn deg, heb wahaniaethu. Mae tegwch yn golygu gwneud yn siŵr bod anghenion unigol plant yn cael eu diwallu fel eu bod yn cael yr un cyfleoedd ag eraill i wireddu eu potensial.  Mae hyn hefyd yn golygu dileu'r rhwystrau sy'n atal plant rhag gallu gwneud hyn. 

Yn 2022-23, gwnaethom adeiladu ar y Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid er mwyn cynnwys dull sy'n canolbwyntio'n fwy ar y teulu o gefnogi pobl ifanc sy'n troseddu. Mae hyn yn golygu gweithio gyda theuluoedd i wneud yn siŵr bod amgylchedd cartref y person ifanc yn barod ac yn diwallu ei anghenion. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i'r person ifanc ymaddasu a gwireddu ei botensial wrth iddo ddychwelyd o'i leoliad cyfiawnder ieuenctid. 

Mae Llywodraeth Cymru am gefnogi cydraddoldeb drwy drin pob plentyn yn deg, heb ystyried bywyd ei gartref, ei iaith gyntaf, ei hil, ei grefydd neu gred, ei gyfeiriadedd rhywiol, ei rywedd na’i fynegiant rhywedd, ac ni waeth a oes ganddo anabledd ai peidio. Mae hyn yn golygu deall y rhwystrau a wynebir gan blant a phobl ifanc, a rhoi camau ar waith i'w goresgyn. 

Yn 2022-23, gwnaethom gyhoeddi Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Nod y strategaeth yw rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Cymerodd plant a phobl ifanc ran yn y gwaith o ddatblygu'r strategaeth.

Goruchwyliodd y Fforwm Cydraddoldeb Rhywedd (GEF) y broses o roi'r Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru ar waith. 

Rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl a sefydliadau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ledled Cymru i lunio Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol newydd. Cyhoeddwyd y Cynllun ym mis Mehefin 2022, ac mae’n ceisio gwneud newidiadau i fywydau pobl drwy fynd i’r afael â hiliaeth a rhoi terfyn arno. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda phlant sydd wedi wynebu hiliaeth, a bydd yn parhau i gynnwys gwaith o'r fath. 

Mae’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn nodi camau gweithredu i wella bywydau pobl LDHTC+, gan greu cymdeithas ddiogel lle y gall pobl LHDTC+, yn blant ac yn oedolion, fyw eu bywyd i'r eithaf. 

Bwlio mewn ysgolion

Nid yw Llywodraeth Cymru yn goddef unrhyw fath o fwlio yn y system addysg yng Nghymru ac rydym yn disgwyl i ysgolion a gwasanaethau addysg arddel yr un safbwynt. Rydym yn cydnabod yr effaith y gall bwlio ei chael ac rydym yn annog ysgolion nid yn unig i ymyrryd pan fydd problemau'n dechrau dod i'r amlwg, ond hefyd i gefnogi cydberthnasau parchus o fewn cymuned yr ysgol. 

Rhaid i bob ysgol weithredu polisi ymddygiad, a rhaid i'r polisi hwn nodi'n glir sut y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â bwlio yn ogystal â strategaethau ar gyfer herio ymddygiad bwlïaidd. I gefnogi hyn, mae canllawiau statudol Llywodraeth Cymru, ‘Hawliau, parch, cydraddoldeb', yn nodi sut y dylai ysgolion ac awdurdodau lleol atal achosion o fwlio mewn lleoliadau addysg yng Nghymru, ac ymateb iddynt. Mae'r gyfres o ganllawiau hefyd yn cynnwys canllawiau cynghori i blant a phobl ifanc, a'u teuluoedd. 

Rydym yn diweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio statudol yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Wrth wneud hyn, byddwn yn ystyried data diweddar a rannwyd gan blant a phobl ifanc am eu profiadau, gan gynnwys profiadau yn ymwneud â bwlio ar sail rhagfarn ac aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. 

Ysgolion bro

Mae ysgolion wrth wraidd ein cymunedau. Mae ysgolion, teuluoedd a chymunedau yn gweld buddiannau mawr pan fyddant yn cydweithio â'i gilydd. Yn wir, rydym am i bob ysgol fod yn Ysgol Bro. Rydym wedi darparu cyllid i helpu ysgolion i gyflogi mwy o Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd a Rheolwyr Ysgolion Bro. Rydym hefyd wedi rhoi arian i ysgolion i'w helpu i wneud newidiadau i rai ardaloedd o'u hysgolion, er mwyn i'r gymuned allu eu defnyddio. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu pethau megis ceginau cymunedol a hybiau iechyd, cyfleusterau chwaraeon newydd, storfeydd cyfarpar, cysgodfannau yn yr awyr agored, a newidiadau i ystafelloedd newid a thoiledau. Gall ysgolion hefyd greu mannau awyr agored gwell, megis rhandiroedd, ardaloedd dysgu galwedigaethol a mannau cwrdd cymunedol. 

Mae angen inni hefyd wneud yn siŵr y gellir defnyddio ysgolion yn ddiogel, felly gellir darparu pethau megis ffensys newydd a goleuadau. I esbonio pam rydym yn gwneud hyn, rydym wedi cyhoeddi dogfennau canllaw i ddangos sut y gall ysgolion ymgysylltu â theuluoedd, y gymuned, ac eraill i gefnogi eu dysgwyr a'u teuluoedd a gwella pethau er budd y gymuned ehangach. 

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

  • Cyflwyno Cam 1 ein gwaharddiadau a'n cyfyngiadau ar gyflenwi cynhyrchion plastig untro. 
  • Ymateb i adroddiad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar ei arsylwadau terfynol. 
  • Cwblhau a chyhoeddi ein Strategaeth Tlodi Plant, gan ganolbwyntio ar y plant a’r bobl ifanc hynny sy’n profi tlodi neu sydd mewn perygl o brofi tlodi. 
  • Gwerthuso'r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl sy'n Gadael Gofal yng Nghymru.
  • Gweithio gyda Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain i weithredu argymhellion a wnaed ganddi yn ei hadroddiad ar ei Harchwiliad o Lywodraeth Cymru. 
  • Adolygu Canllawiau Rheoli Achosion y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar y ddalfa ac adsefydlu. 
  • Parhau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu niweidio gan drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys drwy ffrwd waith “Anghenion plant a phobl ifanc” yn ein Glasbrint. 
  • Parhau â'n cynlluniau gweithredu sy'n mynd i'r afael â gwahaniaethu. Mae hyn yn cynnwys:
  • Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru
  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
  • Y Cynllun Gweithredu LHDTC+
  • Y Strategaeth Tlodi Plant 
  • Camau gweithredu a nodwyd gan ein Tasglu Anabledd
  • Diweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio 'Hawliau, parch, cydraddoldeb' er mwyn helpu i atal achosion o fwlio ar sail rhagfarn. 

Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc fyw mewn cartref iach a diogel. 

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal plant, pobl ifanc a theuluoedd rhag mynd yn ddigartref. 
  • Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n ddigartref yn cael cartref da a diogel. 

Yr hyn rydym wedi ei wneud

Mae gan bob plentyn yr hawl i gael cartref addas. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod cartrefi o ansawdd da, eu bod yn ddiogel, a'u bod yn diwallu anghenion plant a theuluoedd. Mae hyn hefyd yn golygu gwneud yn siŵr bod mannau gwyrdd yn agos at dai er mwyn i blant allu chwarae. 

Yn 2022-23, cefnogodd y Gronfa Arloesi ar gyfer Pobl Ifanc Ddigartref, sy'n werth £3.1m, fwy nag ugain o brosiectau i ddarparu cymorth a thai newydd ac arloesol i bobl ifanc. 

Mae prosiectau'r Gronfa wedi'u targedu'n benodol at bobl ifanc agored i niwed 16-25 oed sy'n wynebu risg o fynd yn ddigartref neu sy'n ddigartref ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc sy'n gadael gofal, pobl ifanc anabl, a'r rhai sydd wedi bod yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid yn flaenorol, ymhlith eraill. 

Er mwyn gwella'r broses o bontio o ofal i fyw'n annibynnol, ym mis Mai 2023, gwnaethom gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o'r Fframwaith Llety a Chymorth i'r Rhai sy’n Gadael Gofal, a ddatblygwyd yn benodol i bobl ifanc sy'n gadael gofal yng Nghymru. 

Yn ystod blwyddyn gyntaf Cynllun Lesio Cymru, mae teuluoedd â phlant wedi cael eu cartrefu yn 35 (50%) o'r 70 o eiddo ac mae aelwydydd heb blant yr oedd angen tai arnynt wedi cael eu cartrefu yn y gweddill. 

Ym mis Medi 2022 a thrwy ymgynghori â rhanddeiliaid, gwnaethom gyhoeddi ein Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid. Fel rhan o'r ymgynghoriad, cynhaliwyd ymgynghoriad â phobl ifanc

Drwy ddarparu Grantiau Cymorth Ieuenctid i awdurdodau lleol, rydym yn sicrhau bod Cydgysylltydd Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc ym mhob gwasanaeth ieuenctid yng Nghymru. Bydd y Cydgysylltwyr hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n wynebu risg o fynd yn ddigartref yn cael eu cefnogi. 

Cynhaliodd Cymorth Cymru brosiect i gofnodi profiadau bywyd pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n ddigartref ar hyn o bryd neu sydd wedi bod yn ddigartref. Mae hyn wedi darparu tystiolaeth bwysig i'n helpu i ddatblygu cyfraith newydd i atal digartrefedd. 

Yr hyn y byddwn yn ei wneud 

  • Buddsoddi yn y Grant Cymorth Ieuenctid er mwyn parhau i nodi pan fydd risg y bydd pobl ifanc yn mynd yn ddigartref ac atal hynny rhag digwydd. 
  • Cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar nodi unigolion yn gynnar i gefnogi'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid. Bydd hyn yn cynnwys canllawiau ar bobl ifanc a theuluoedd sy'n wynebu risg o fynd yn ddigartref. 
  • Cyhoeddi adroddiad yn nodi argymhellion y Panel Adolygu Arbenigol annibynnol ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd. 
  • Cyhoeddi gwerthusiad o brosiectau ein Cronfa Arloesi ar gyfer Pobl Ifanc Ddigartref. Bydd y gwerthusiad yn cynnwys astudiaethau achos i rannu arferion da. 
  • Drwy ein dull ailgartrefu cyflym, byddwn yn gweithio i leihau nifer y teuluoedd â phlant sy'n byw mewn llety dros dro.
  • Cyhoeddi cynlluniau ar gyfer diwygio cyfreithiau ar ddigartrefedd. Ymgysylltu â phlant a phobl ifanc fel rhan o'r broses ymgynghori. 
  • Bydd awdurdodau lleol yn cwblhau Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol erbyn mis Mawrth. Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r asesiadau hyn er mwyn sicrhau bod anghenion teuluoedd â phlant yn cael eu diwallu. 

Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cymorth sydd ei angen arno i aros gyda'i deulu neu ailymuno ag ef, lle y bo'n bosibl.

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Byddwn yn cefnogi teuluoedd sy'n wynebu cyfnod anodd.
  • Byddwn yn diogelu plant a phobl ifanc rhag niwed ac yn helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd, lle y bo'n bosibl.
  • Byddwn yn gwella ein gofal a'n cymorth i blant a phobl ifanc na allant aros gyda'u teulu am gyfnod byr neu hwy.
  • Byddwn yn helpu teuluoedd na allant fyw gyda'i gilydd i gadw mewn cysylltiad ac i aduno, lle y bo'n ddiogel gwneud hynny.

Yr hyn rydym wedi ei wneud

Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw gyda'i deulu os mai dyna sydd orau iddo. Yn 2022-23, gwnaethom ddechrau gweithio ar Raglen Drawsnewid ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru. Rydym am i lai o blant a phobl ifanc ddod yn rhan o'r system ofal. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddarparu'r cymorth cywir ar yr adeg gywir i deuluoedd sy'n wynebu cyfnodau anodd. O ran y plant a'r bobl ifanc hynny sydd eisoes mewn gofal, rydym am eu helpu i aros yn agos at gartref. Mae hyn yn golygu y gallant barhau i fod yn rhan o'u cymuned, aros yn eu hysgol, parhau i wneud gweithgareddau gyda ffrindiau, a chadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd os yw hynny'n briodol. 

Sefydlwyd Bwrdd Trosolwg Gweinidogol, wedi'i gadeirio ar y cyd gan Brif Weinidog Cymru a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, er mwyn goruchwylio'r Rhaglen Drawsnewid. Mae cynrychiolwyr sydd â diddordeb mewn gwasanaethau plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn aelodau o'r Grŵp Cyflawni ar gyfer Trawsnewid.  Mae'r strwythur llywodraethu hwn yn goruchwylio'r map trywydd ar gyfer trawsnewid sy'n nodi beth y byddwn yn ei ddarparu a'r hyn rydym yn gobeithio ei gyflawni. 

Mae gwaith yn 2022-2023 wedi cynnwys dechrau datblygu Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol. Bydd y Fframwaith hwn yn nodi sut y byddwn yn sicrhau safonau cyson ym mhob agwedd ar waith cymdeithasol, er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau i’n plant a’n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rydym wedi dechrau cyflwyno gwasanaethau eirioli i rieni ledled Cymru er mwyn rhoi mwy o lais i rieni. Rydym yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus i gryfhau eu rôl fel rhieni corfforaethol drwy gyhoeddi'r Siarter Rhianta Corfforaethol. Mae rhianta corfforaethol yn ymwneud â chydgyfrifoldeb cyrff cyhoeddus megis awdurdodau lleol i ddiogelu hawliau plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal a'u cyfleoedd mewn bywyd, a'u cefnogi. 

Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ein cynllun maethu cenedlaethol, Maethu Cymru. Rydym yn helpu gwasanaethau maethu awdurdodau lleol i recriwtio a chadw gofalwyr maeth. Bydd hyn yn eu helpu i leoli mwy o blant maeth mewn lleoliadau yn yr awdurdod lleol, o fewn ardal eu cartref, gan eu cadw'n agos at eu rhwydweithiau a'u cymunedau lle bynnag y bo hynny'n bosibl ac yn briodol. 

Mae Maethu Cymru wedi gweithio gyda Voices from Care i drefnu digwyddiadau i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Mae plant a phobl ifanc wedi eu helpu i ddeall sut y gellir gwella gofal maeth. Mae hyn wedi cynnwys penderfynu pa wybodaeth yr hoffent ei chael am ofalwyr maeth cyn i leoliad ddechrau. Mae'r cyngor hwn wedi helpu Maethu Cymru i ddatblygu'r wefan proffiliau gofalwyr maeth genedlaethol newydd. Mae'r wefan yn galluogi plant i gael gwybodaeth am ofalwyr maeth a'u haelwyd cyn iddynt gael eu lleoli. 

 

Ar 3 Rhagfyr 2022, cynhaliwyd yr Uwchgynhadledd gyntaf i’r Rhai sy’n Gadael Gofal. Roedd Gweinidogion Cymru a 50 o bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal neu lysgenhadon yn bresennol. Rhannodd y bobl ifanc eu profiadau o fyw mewn gofal. Drwy'r uwchgynhadledd, lluniwyd datganiad yn nodi cydweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant. Llofnododd Prif Weinidog Cymru a phedwar o'r llysgenhadon ifanc y datganiad ar 10 Mai y llynedd. Ymhlith y meysydd yn y datganiad rydym eisoes yn dechrau mynd ar eu trywydd mae atgoffa awdurdodau lleol am bwysigrwydd strategaethau comisiynu sy'n seiliedig ar anghenion a'n cynlluniau i adolygu'r rhain yn barhaus, a sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddarpariaeth glir a hysbys mewn perthynas â hawliadau sy'n berthnasol i'r rhai sy'n gadael gofal. 

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Byddwn yn:

  • Annog pob corff sector cyhoeddus a phreifat yn ogystal â sefydliadau yn y trydydd sector i ymrwymo i fod yn Rhieni Corfforaethol. 
  • Parhau i weithio gyda'r Grŵp Gweithredu Rhianta Corfforaethol i ystyried camau ym maes Rhianta Corfforaethol ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys datblygu canllawiau i awdurdodau lleol. 
  • Parhau i gefnogi'r broses o gyflwyno cymorth eiriolaeth i rieni y mae risg y bydd eu plant yn mynd i ofal. 
  • Parhau i ddatblygu cyfreithiau i gefnogi ein huchelgais i sicrhau na fydd elw yn gysylltiedig â darparu gofal i blant sy'n derbyn gofal. 
  • Gweithio ar y Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol gyda phroses ymgynghori ehangach, gan ddefnyddio'r safonau cenedlaethol drafft fel sail dros fod yn hyderus y bydd fersiwn derfynol y Fframwaith Ymarfer yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant dros amser. 
  • Buddsoddi yn Maethu Cymru er mwyn sicrhau y gallwn recriwtio teuluoedd maeth amrywiol sy'n diwallu anghenion newidiol ac amrywiol plant y mae angen gofal a chymorth arnynt. 
  • Parhau i weithio tuag at gynnig darpariaeth graidd gyson o gymorth i deuluoedd maeth ledled Cymru er mwyn sicrhau y gallant gael gafael ar gymorth sy'n seiliedig ar anghenion pryd bynnag y bydd ei angen arnynt a ble bynnag y byddant yng Nghymru. 

Sut y byddwn yn ymddwyn

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Parhau i barchu hawliau plant, mabwysiadu dull hawliau plant, a chyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
  • Gweithio'n galed i wireddu ein huchelgais a chyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer holl blant a phobl ifanc Cymru, mewn ffordd sy'n adlewyrchu ac yn ystyried y canlynol:
    • Pwy ydynt 
    • Ble yng Nghymru y maent yn byw
    • Statws economaidd-gymdeithasol
    • Hil, ethnigrwydd a diwylliant
    • Cyfeiriadedd rhywiol
    • Iaith gyntaf
    • Ffydd a chred
    • Namau, a/neu anghenion dysgu ychwanegol 
    • Niwroamrywiaeth a niwrowahaniaeth
    • Hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd
    • P'un a ydynt yn byw gyda'u rhieni, gofalwyr, mewn cartref neu ar eu pen eu hunain 
    • P'un a ydynt yn rhieni neu'n ofalwyr eu hunain
    • P'un a ydynt mewn cysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid
  • Sicrhau bod tegwch, cydraddoldeb, cynhwysiant, gwrth-hiliaeth a gwrth-wahaniaethu yn rhan o'n holl waith. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig cymorth gwahanol a/neu fwy o gymorth i'r plant a'r bobl ifanc hynny y mae angen help gwahanol a/neu fwy o help arnynt i oresgyn rhwystrau a gwireddu eu potensial.
  • Hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein holl waith er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050
  • Canolbwyntio ar y plentyn a'r person ifanc fel unigolyn, yn hytrach nag ar rannau o'i fywyd neu ei amgylchiadau (cyfannol).
  • Gweithio ar sail y gred bod gan bob person, teulu a chymuned gryfderau y gellir adeiladu arnynt (seiliedig ar asedau).
  • Gweithio gyda phobl a sefydliadau sy'n helpu ac yn cefnogi plant a phobl ifanc (cydweithredol).

Sut y byddwch yn gwybod ein bod yn gwneud cynnydd

Gwnaethom ddweud y byddem yn cyflwyno adroddiad ar sut mae'r camau gweithredu yn y cynllun hwn yn ein helpu i gyflawni'r naw carreg filltir genedlaethol. Cyhoeddwyd adroddiad Llesiant Cymru: 2023 ym mis Medi. Mae'n ystyried y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r dangosyddion cenedlaethol, a bennwyd gan Weinidogion Cymru, a'r cerrig milltir cenedlaethol

Mae'r camau rydym yn eu cymryd yn ein helpu i gyrraedd y cerrig milltir mewn nifer o ffyrdd gwahanol. 

Bydd ein gwaith i wneud y canlynol: 

  • Sicrhau'r dechrau gorau mewn bywyd
  • Trin pawb yn deg mewn addysg
  • Darparu cymorth drwy hyfforddiant a chyflogaeth 

yn ein helpu i gyrraedd ein carreg filltir o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ymhlith y pethau rydym wedi’u gwneud i gefnogi'r garreg filltir hon mae'r canlynol: 

  • Buddsoddi mewn hyfforddiant Cymraeg i weithwyr gofal plant a chwarae.
  • Ein gwaith i ddatblygu Bil Addysg Gymraeg. 
  • Cynnig gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16-25 oed. 

Mae'r data diweddaraf o Gyfrifiad 2021 yn dangos bod angen tua 462,000 yn fwy o siaradwyr Cymraeg i gyrraedd y garreg filltir (wedi'i mesur gan ddangosydd cenedlaethol 37) o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae canran y boblogaeth sy'n gallu siarad Cymraeg yn amrywio yn ôl oedran, ac mae ar ei huchaf ymhlith plant a phobl ifanc 5-15 oed. 

Bydd ein gwaith i wneud y canlynol:

  • Sicrhau'r dechrau gorau mewn bywyd 
  • Helpu pob plentyn a pherson ifanc i deimlo'n gryf yn feddyliol ac yn emosiynol
  • Darparu cartref iach a diogel i bob plentyn a pherson ifanc 

yn ein helpu i gyrraedd ein carreg filltir i sicrhau bod o leiaf 99% o blant yn dangos dau ymddygiad iach neu fwy erbyn 2050. 

Ymhlith y pethau rydym wedi’u gwneud i gefnogi'r garreg filltir hon mae'r canlynol:

  • Helpu plant a theuluoedd i fyw bywydau iachach a mwy egnïol drwy ein rhaglen Pwysau Iach: Cymru Iach.
  • Darparu model NYTH ledled Cymru. 

Dangosodd y ffigurau diweddaraf, wedi'u mesur gan ddangosydd cenedlaethol 5 ac yn seiliedig ar ddata'r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr, fod 89.76% o blant (yn seiliedig ar flynyddoedd ysgol 7 i 11) yn dangos dau ymddygiad iach neu fwy. 

Bydd ein gwaith i wneud y canlynol: 

  • Trin pob plentyn a pherson ifanc yn deg mewn addysg a'i gefnogi i oresgyn rhwystrau a gwireddu ei botensial 
  • Cefnogi pobl ifanc drwy addysg, hyfforddiant a chyflogaeth i ennill cymwysterau 
  • Darparu cartref iach a diogel 

yn ein helpu i gyrraedd y cerrig milltir canlynol: 

  • Bydd canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu'n is.
  • Bydd 75% o'r oedolion o oedran gweithio yn meddu ar gymhwyster lefel 3 neu uwch.
  • Bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16-24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
  • Gwaith teg a chynyddu presenoldeb grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur. 

Ymhlith y pethau rydym wedi’u gwneud i gefnogi'r cerrig milltir hyn mae'r canlynol:

  • Cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.
  • Ceisio adborth ar y dull newydd o ymdrin ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. 
  • Ehangu'r Warant i Bobl Ifanc. 

Bydd ein gwaith i wneud y canlynol:

  • Helpu pob plentyn a pherson ifanc i deimlo'n gryf yn feddyliol ac yn emosiynol 
  • Sicrhau cartrefi da a diogel i fyw ynddynt
  • Helpu pob plentyn a pherson ifanc i aros gyda'i deulu neu ddychwelyd ato, os mai dyna sydd orau iddo 

yn ein helpu i gyrraedd y garreg filltir i wella llesiant oedolion a phlant erbyn 2050. 

Ymhlith y pethau rydym wedi’u gwneud i gefnogi'r garreg filltir hon mae'r canlynol:

  • Comisiynu adolygiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed. 
  • Ariannu Prosiect Ymchwil Cymorth Cymru ar brofiadau bywyd pobl ifanc a phrofiadau eu teuluoedd o fod yn ddigartref.
  • Parhau i fuddsoddi yn ein cynllun maethu cenedlaethol, Maethu Cymru.

Mae'r ffigurau diweddaraf, wedi'u mesur gan ddangosydd cenedlaethol 29, yn seiliedig ar ddata fersiwn fer Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer plant ym mlynyddoedd ysgol 7 i 11, a data Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer pobl 16 oed a throsodd. Mae'r sgoriau diweddaraf yn is na'r sgoriau ar gyfer blynyddoedd blaenorol, ond mae'n anodd asesu ai'r pandemig neu newidiadau i'r dull arolygu sy'n gyfrifol am hyn. 

Bydd ein gwaith i wneud y canlynol 

  • Sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle teg mewn bywyd 

yn ein helpu i gyrraedd y cerrig milltir canlynol:

  • Dim ond ei chyfran deg o adnoddau'r byd y bydd Cymru yn ei defnyddio erbyn 2050. 
  • Bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn cyrraedd sero net erbyn 2050.
  • Gwella incwm gwario gros aelwydydd y pen yng Nghymru erbyn 2035 ac ymrwymo i bennu targed twf ymestynnol ar gyfer 2050. 
  • Dileu'r bwlch cyflog o ran rhyw, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050 

Ymhlith y pethau rydym wedi’u gwneud i gefnogi'r cerrig milltir hyn mae'r canlynol:

  • Gweithio i greu ein Coedwig Genedlaethol. 
  • Ymgynghori ar ein Strategaeth Tlodi Plant.
  • Cyhoeddi ein Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Rydym yn datblygu ein dull o fesur effaith ein camau gweithredu ar gynnydd tuag at gyrraedd y cerrig milltir er budd plant a phobl ifanc. Rydym am ddeall sut beth yw bod yn blentyn neu'n berson ifanc yng Nghymru. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut y gallwn wella eu bywydau. 

Mae gwybodaeth eisoes ar gael gan nifer o ffynonellau a allai ein helpu i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys:

  • Data ystadegol a ddefnyddir i adrodd ar gynnydd mewn perthynas â'r dangosyddion cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys data gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth; Incwm Gwario Gros Aelwydydd Rhanbarthol; Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion) a Chyfrifiad 2021.
  • Ffynonellau ansoddol sy'n ein galluogi i glywed lleisiau plant a phobl ifanc ac ymateb iddynt. Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth a gasglwyd wrth ddatblygu polisi. 
  • Adroddiad atodol Llesiant Cymru a gyflwynodd ddadansoddiad penodol a oedd yn ymwneud â phlant a phobl ifanc. 
  • Gwybodaeth gan sefydliadau eraill. Gallai hyn gynnwys ymchwil megis: Astudiaeth Carfan y Mileniwm a gynhaliwyd gan Ganolfan Astudiaethau Hydredol Coleg Prifysgol Llundain; a'r arolygon blynyddol o dlodi plant a theuluoedd a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru.

Mae rhai meysydd lle y bydd gwaith sy'n mynd rhagddo o fudd o ran darparu gwybodaeth well. 

Rydym yn gweithio i wella manylder data yn ôl nodweddion cydraddoldeb er mwyn helpu i ddatblygu polisïau ac effaith y polisïau hynny o safbwynt cydraddoldebau a chroestoriad. Mae diben a chenhadaeth y gwaith hwn wedi'i nodi yn y Strategaeth Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd. Yn yr hirdymor, y nod yw gallu dadansoddi pob carreg filltir a dangosydd perfformiad pwysig yn ôl nodweddion cydraddoldeb. 

Mae newidiadau mawr yn cael eu gwneud i'r system addysg yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae'r broses o gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru wedi dechrau, sy'n anelu at sicrhau mai diben asesu yw helpu pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol, gan sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi a'i herio'n briodol. Nod y Cwricwlwm i Gymry yw helpu ein plant a'n pobl ifanc i wneud y canlynol: 

  • Bod yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
  • Chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
  • Bod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd.
  • Byw bywyd llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Dylai canlyniadau gefnogi nifer o flaenoriaethau'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc a fydd, yn ei dro, yn helpu i gyrraedd y cerrig milltir cysylltiedig. 

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn bwriadu rhoi diweddariad ar y set ddata ar fesurau llesiant plant (ons.gov.uk), gan gynnwys cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o'r adolygiad o ddangosyddion llesiant plant yn y DU, a gyhoeddwyd yn 2020 (ons.gov.uk).

Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pellach wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo. 

Sut y byddwn yn eich cynnwys chi

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Gwrando ar blant, pobl ifanc a theuluoedd wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Un o'r ffyrdd y byddwn yn gwneud hyn yw drwy weithio gyda Cymru Ifanc. 
  • Siarad â phlant, pobl ifanc a theuluoedd er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd tuag at wireddu ein huchelgais a chyflawni ein blaenoriaethau. Bydd hyn yn cynnwys cyfathrebu'n well er mwyn rhoi gwybod i blant a phobl ifanc pan fyddwn yn ystyried materion y bydd ganddynt ddiddordeb ynddynt. 
  • Bob blwyddyn, byddwn yn siarad â phlant a phobl ifanc cyn diweddaru'r cynllun hwn. Mae aelodau o Cymru Ifanc wedi ein helpu i lunio'r diweddariad hwn. 
  • Ymateb i adborth gan blant a phobl ifanc. Gweler ein manylion cyswllt.