Neidio i'r prif gynnwy

Dyma'r diweddariad chwarterol diweddaraf mewn cyfres ohonynt ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru. Mae’n cynnwys gwybodaeth am ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.

Ceir rhestr lawn o'n cyhoeddiadau diweddaraf yn ein calendr o'r hyn sydd i ddod.

Ymateb i’r coronafeirws (COVID-19)

Mae ein gweithgareddau arferol yn dal wedi’u haddasu er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cefnogi ymateb y llywodraeth i bandemig y coronafeirws, yn ogystal â darparu'r wybodaeth angenrheidiol pan fo'i hangen fwyaf. Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r blog Digidol a Data i ddarparu gwybodaeth am ein dull gweithredu.

Rydym yn parhau i gyhoeddi ystod ehangach o setiau data a datganiadau i hysbysu'r cyhoedd yn ystod y pandemig. Gan fod nifer yr achosion o’r coronafeirws wedi gostwng dros y misoedd diwethaf, rydym yn ystyried cyhoeddi rhai o’r datganiadau ystadegol sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn llai aml. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu adborth ar sut rydych yn defnyddio'r datganiadau, ac awgrymiadau ynghylch unrhyw newidiadau iddynt drwy KAS.COVID19@llyw.cymru

Mae trosolwg ohonynt bellach yn cael ei gasglu ynghyd ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol newydd COVID-19 yng Nghymru, sydd â'r bwriad o gyflwyno ciplun wythnosol o ddetholiad o ddangosyddion ar niwed uniongyrchol ac ehangach oherwydd COVID-19.

Yn ôl yr arfer, ceir rhagor o fanylion am y dangosyddion hyn a detholiad ehangach o ddata ar ein tudalen ystadegau ac ymchwil  sy'n gysylltiedig â'r Coronafeirws (COVID-19).

Ers mis Chwefror rydym hefyd yn cynhyrchu setiau data a datganiadau newydd neu amlach ar y canlynol:

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi darlun cynhwysfawr o achosion newydd o COVID-19, marwolaethau, brechiadau a gofnodwyd yng Nghymru a bellach profion llif unffordd. Cyhoeddir y rhain ar y dangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym COVID-19.

Yr economi a'r farchnad lafur

Ym mis Mawrth 2021, cafodd y datganiad ystadegau economaidd misol allweddol ei ailenwi'n drosolwg o'r farchnad lafur.  Mae'r datganiad hwn wedi parhau i gael ei gyhoeddi'n fisol gan ddefnyddio ystod o ffynonellau data i roi’r darlun diweddaraf o'r effaith y mae’r coronafeirws yn ei chael ar y farchnad lafur yng Nghymru. Rydym hefyd yn cyhoeddi pennawd misol ar y cynllun cadw swyddi coronafeirws (CJRS) a'r cynllun cymhorthdal incwm hunangyflogedig (SEISS)  fel y’i cyhoeddir gan Cyllid a Thollau EM.

Mae datganiadau eraill yn dechrau dangos yr effaith y mae pandemig y coronafeirws yn ei chael ar yr economi yng Nghymru, megis cynnyrch domestig gros rhanbarthol yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020 a dangosyddion allbynnau tymor byr yn ystod y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020.

Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd data ar gynhyrchu haearn a dur yn 2020. Gwnaethom hefyd gyhoeddi’r ystadegau diweddaraf ar y farchnad lafur (yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) a cymudol yng Nghymru (yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) ar gyfer 2020. Caiff ymatebion i’r Arolwg Blynyddol eu pwysoli yn unol ag amcanestyniadau poblogaeth swyddogol. Gan fod yr amcanestyniadau presennol yn seiliedig ar 2018 maent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig sy'n rhagflaenu’r pandemig COVID-19. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol  (ONS) yn dadansoddi cyfansymiau'r boblogaeth a ddefnyddir yn y broses bwysoli ac yn bwriadu gwneud addasiadau lle y bo'n briodol. Mae'r cyfraddau a gyhoeddir ar sail yr Arolwg Blynyddol yn parhau i fod yn gadarn; fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio lefelau a newidiadau mewn lefelau. Bydd hyn yn effeithio'n arbennig ar amcangyfrifon ar gyfer gwlad enedigol, cenedligrwydd, ethnigrwydd ac anabledd.

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.economi@llyw.cymru

Addysg

Ysgolion

Parhawyd i gyhoeddi data wythnosol ar ddisgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol yr ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol.

Fel y soniwyd yn y diweddariad diwethaf, ataliwyd y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, y Cyfrifiad Addysg Heblaw mewn Ysgol a'r Cyfrifiad Ysgolion Annibynnol ym mis Ionawr wrth i ysgolion gau yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol. Ar ôl i'r holl ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol ar 12 Ebrill 2021, pennwyd dyddiad y cyfrifiad ar gyfer 20 Ebrill 2021 ar gyfer y tri chyfrifiad. Ein nod yw sicrhau bod y canlyniadau ar gael ym mis Medi 2021.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni drwy ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Addysg Drawsbynciol ac Ôl-16

Yn y diweddariad chwarterol diwethaf, amlinellwyd ein cynlluniau ar gyfer adrodd ar ddeilliannau dysgwyr ôl-16. Yn dilyn hynny rydym bellach wedi cyhoeddi erthygl ystadegol ar ganlyniadau i ddeilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio arni. Mae hyn yn ymdrin ag ystod o feysydd gan gynnwys deilliannau, lefelau cadw a dilyniant i ddysgwyr sy'n astudio rhaglenni addysg gyffredinol a rhaglenni galwedigaethol mewn dosbarthiadau chwech mewn ysgolion a cholegau addysg bellach. Mae hefyd yn ymdrin â’r deilliannau ar gyfer prentisiaethau a dysgwyr sy'n oedolion yn ystod cyfnod blwyddyn academaidd 2019/20 yr effeithiwyd arni gan y pandemig a dysgwyr blwyddyn 11 sy'n symud ymlaen at ddysgu ôl-16. Croesawn unrhyw adborth ar y cynnwys neu’r fethodoleg.

Rydym wedi cyhoeddi diweddariad 2020 i’r ystadegau ar lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio. Mae’r diweddariad hwn hefyd yn sail i Ddangosydd Cenedlaethol 8 - Canran yr oedolion â chymwysterau ar wahanol lefelau’r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

Ym mis Ebrill cyhoeddwyd y pennawd ystadegol chwarterol diweddaraf ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys data ar gyfer ein mesur NEET yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth fel ag yr oedd yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2020.  Mae hwn yn fesur mwy amserol, ond llai cadarn yn ystadegol. Mae rhagor o wybodaeth am ein mesurau NEET ar gael yn ein canllaw ar ddeall y gwahanol ffynonellau ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi ystadegau blynyddol ar niferoedd y dysgwyr mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20. Mae ein dangosfwrdd rhaglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd hefyd wedi'i ddiweddaru ar gyfer chwarter 4 blwyddyn academaidd 2019/20. Mae'r data ar gyfer chwarteri blaenorol yn 2019/20 bellach yn derfynol.

Yn olaf, mae ein cyhoeddiad misol o wybodaeth reoli am brentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn parhau. Er nad yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, mae'n rhoi syniad yngylch i ba raddau y mae’r pandemig wedi effeithio ar brentisiaid.

Er mwyn rhoi adborth, neu i gael unrhyw wybodaeth bellach, e-bostiwch ystadegau.addysgol16@llyw.cymru 

Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr

Cysylltwch â ni drwy ein blwch post Ystadegau AU a Chyllid Myfyrwyr

Tai

Amodau tai

O ganlyniad i'r pandemig a’r ffaith ein bod yn methu â chynnal arolygon y tu mewn i dai, nid ydym wedi gallu cynnal arolwg o amodau tai yn 2021-22 fel yr oeddem wedi gobeithio ei wneud, ac mae’r cynlluniau ar gyfer arolwg yn y dyfodol wedi'u gohirio. Rydym yn parhau i weithio gyda thîm Arolwg Cenedlaethol Cymru wrth iddynt gynllunio contract nesaf yr arolwg ac rydym yn ymwneud â'u gwaith o ddatblygu pynciau ar gyfer blwyddyn nesaf yr Arolwg Blynyddol mwyn sicrhau bod pynciau sy'n ymwneud â thai ac adeiladu yn cael eu cynnwys.

O ran amodau tai, mae'r sylw wedi ei droi at ddatblygu'r Adnodd Dadansoddi Stoc Tai (HSAR) a chwilio am gyfleoedd ar gyfer setiau data newydd i wella'r sylfaen dystiolaeth yng Nghymru. Rydym yn bwriadu dechrau cyhoeddi rhai erthyglau ystadegol i ddangos pa ystadegau sydd ar gael yn ystod y misoedd nesaf. 

Rydym wrthi'n caffael setiau data a fydd yn helpu i fonitro ail gartrefi yng Nghymru ar lefel leol ac rydym yn gweithio gyda thîm Safon Ansawdd Tai Cymru i ddatblygu'r safon newydd a’r casgliad data cysylltiedig a fydd yn cael eu sefydlu i helpu i fonitro hyn.

Mae tlodi tanwydd yn faes polisi allweddol ar gyfer HSAR. Rydym yn cydweithio â chydweithwyr polisi ac adrannau eraill y llywodraeth i wella'r sylfaen dystiolaeth ar dlodi tanwydd yng Nghymru, gyda'r nod yn y pen draw o greu amcangyfrifon tlodi tanwydd gan ddefnyddio ffynonellau data gweinyddol.

Mae ein datganiadau ystadegol blaenorol i'w gweld ar dudalennau gwe’r arolwg.

Cysylltwch â ni drwy’r blwch post os oes gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.

Tai

Oherwydd pandemig COVID-19, cafodd llawer o'r casgliadau data tai ar gyfer 2019-20 eu canslo a gohiriwyd sawl un arall.

Cynhaliwyd trafodaethau'n ddiweddar rhwng y tîm casglu data, y tîm dadansoddi tai a chydweithwyr polisi o fewn Llywodraeth Cymru i ystyried y ffordd orau o ailgychwyn y casgliadau hyn. Adolygwyd yr amserlen cyflwyno a chyhoeddi data ar gyfer allbynnau ystadegol tai a dosbarthwyd amserlen ddrafft ar gyfer casgliadau data 2020-21 i ddarparwyr data.

Fel rhan o'r amserlen ar gyfer casgliadau data 2020-21, rydym yn cynnig rhai newidiadau i rai blynyddoedd blaenorol. Mae trafodaethau ynglŷn â'r newidiadau hyn yn parhau ond rydym yn rhagweld y bydd cynlluniau'n cael eu cwblhau maes o law.

Cysylltwch â ni drwy’r blwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.

Iechyd

Cyhoeddiadau

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan Ystadegau ac Ymchwil.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Gweithgarwch y GIG

Mae data am berfformiad a gweithgarwch y GIG yn parhau i gael ei gyhoeddi’n fisol, ac mae'n dal i ddangos yr effaith y mae’r coronafeirws wedi'i chael ar amseroedd aros yn y GIG.

Mae'r llwybr canser sengl wedi'i ailenwi'n llwybr canser a amheuir ac mae dangosfwrdd newydd wedi'i gyhoeddi sy'n cynnwys rhestr ehangach o fesurau perfformiad gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (a elwir yn ffurfiol yn Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru). Ystadegau arbrofol yw'r rhain ac ar hyn o bryd fe'u cyhoeddir i roi cyd-destun i'r prif fesurau perfformiad canser a gynhwysir yn y datganiad Ystadegau Gwladol.

Iechyd sylfaenol a chymunedol y GIG

Cyhoeddwyd data newydd ar gyfer mamolaeth a genedigaethau yng Nghymru ym mis Mai. Mae'n darparu amrywiaeth eang o wybodaeth sy'n ymwneud â nodweddion y fam mewn asesiad cychwynnol yn ogystal â data ar ddulliau esgor a geni. Mae hefyd yn cynnwys y data diweddaraf ar un o'r dangosyddion cenedlaethol: pwysau geni isel, sydd hefyd yn cael ei rannu yn ôl ethnigrwydd.

Gwasanaethau cymdeithasol

Cytunwyd ar ofynion a dyddiadau cyflwyno data gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn adrodd 2021-21 ac mae'r gwaith o gasglu data ar y gweill ar hyn o bryd. Hon fydd y flwyddyn gyntaf o gasglu metrigau sy'n sail i'r Fframwaith Perfformiad a Gwella newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Cynhaliwyd sesiynau holi ac ateb ym mis Ebrill i gefnogi'r gweithgaredd casglu data hwn a chafwyd cynrychiolaeth dda o gynrychiolwyr awdurdodau lleol. Mae grwpiau'n parhau i adolygu'r Cyfrifiadau Plant ac i ddatblygu Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth yng Nghymru i'w roi ar waith yn 2022-23.

Ymchwil Data Gwyddoniaeth a Data Gweinyddol

Yn ystod mis Mawrth cyhoeddodd yr uned gwyddor data gyfres o flogiau yn ymdrin â'u gwaith ar nodi clystyrau o amddifadedd; defnyddio gwybodaeth newydd am ansawdd y rhyngrwyd ac adeiladu offer gwyddor data.

Cyhoeddodd yr Uned Ymchwil Data Gweinyddol ddadansoddiad newydd yn cysylltu'r rhestr gwarchod cleifion â'r arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru er mwum edrych ar wahaniaethau rhwng nodweddion pobl oedd yn gwarchod eu hunain a phobl nad oedd yn gwneud hynny.  

Ar hyn o bryd mae'r Uned Ymchwil Data Gweinyddol yn arwain dau brosiect a ariennir gan Ymchwil Data Gweinyddol y DU. Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol (AD| ARC) yw'r llwyfan data cyntaf ledled y DU sy'n canolbwyntio ar amaethyddiaeth. Ei nod yw cysylltu data ar weithgareddau amaethyddol a defnydd tir, ar lefel ffermydd unigol, gyda data ar oedran, galwedigaeth, cyrhaeddiad addysgol ac iechyd y ffermwr (neu'r ffermwyr) perthnasol ac aelodau o aelwyd y ffermwr.  Mae Prosiect Cyswllt Data y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS)  yn fenter gan ADR Cymru sy'n seiliedig ar yr angen i wella'r sylfaen dystiolaeth ar ddinasyddion yr UE yng Nghymru sy'n rhan o Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.  Ei nod yw cysylltu data'r Swyddfa Gartref yn ddienw â data arall a gedwir eisoes o fewn Banc Data SAIL, gan alluogi ymchwilwyr a llunwyr polisi i ddeall profiadau dinasyddion yr UE sydd â Statws Preswylydd Sefydlog yn well, ac felly datblygu polisi a gwasanaethau mwy gwybodus sy'n mynd i'r afael ag anghenion y boblogaeth hon a allai fod yn agored i niwed.

Mae’r blog diweddaraf ar gyfer AD| ARC wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar ar wefan ADR UK.

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ADRUWales@llyw.cymru  neu DataScienceUnit@llyw.cymru  

 

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Rhagor o adroddiadau manylach ar ganlyniadau 2019-20

Rydym yn parhau i adrodd yn fanylach ar ganlyniadau 2019-20, gan gyhoeddi cyfres o adroddiadau ar bynciau penodol.  Cyhoeddwyd yr adroddiad diweddaraf, yn seiliedig ar ganlyniadau 19-20, ar ofalu ar 30 Mawrth.

Adrodd ar arolygon 2020-21 a 2021-22

Cyhoeddwyd canlyniadau mis Hydref i mis Rhagfyr 2020 ar 4 Mawrth.

Cyhoeddir canlyniadau Ionawr i Mawrth 2021 ddechrau mis Gorffennaf, a chanlyniadau Ebrill i Mehefin 2021 yn yr hydref.

Yna, rydym yn bwriadu newid yn ôl i adroddiadau blynyddol, gan gyhoeddi canlyniadau Ebrill 2021 i Mawrth 2022 fis Gorffennaf 2022.  Cofiwch fod y cynllun hwn yn un dros dro ac y bydd yn dibynnu ar sut y bydd y sefyllfa’n datblygu.

Cynllunio’r Arolwg Cenedlaethol ar gyfer y dyfodol

Bydd yr arolwg yn parhau i gael ei gynnal dros y ffôn drwy gydol 2021-22, ac rydym yn bwriadu treialu adran ar-lein (ar ôl yr adran gyntaf, dros y ffôn) o fis Gorffennaf 2021 ymlaen.

Disgwyliwn ymestyn contract presennol yr arolwg fel ei fod yn parhau ar gyfer 2022-23. Yn ystod 2022-23, mae'r arolwg yn debygol o gael ei gynnal dros y ffôn, gydag adran ar-lein o bosibl; ond byddwn yn gwneud penderfyniad terfynol erbyn diwedd 2021 ynghylch a ddylid dychwelyd i’r dull wyneb yn wyneb.

Rydym bellach yn datblygu cynllun yr arolwg ar gyfer y blynyddoedd i ddod, a byddwn yn comisiynu adolygiad cyn bo hir i gyfrannu at hyn.  Os oes modd, bydd y contract nesaf i gyflawni'r arolwg yn dechrau gyda gwaith maes 2023-24, h.y. heb flwyddyn o fwlch.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddyluniad arolygon y dyfodol, cysylltwch â arolygon@llyw.cymru.

Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Data tlodi

Ym mis Mawrth 2021 cyhoeddwyd diweddariadau 2019-20 i ystadegau tlodi blynyddol ar dlodi incwm cymharol, tlodi parhaus, ac amddifadedd materol ac incwm isel. Gwnaethom hefyd lunio tudalen newydd ar y we ar gyfer 'ystadegau sy'n gysylltiedig â thlodi'  i helpu i gyfeirio defnyddwyr at setiau data a datganiadau allweddol.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Oherwydd materion yn ymwneud a chael gafael ar ddata a chymharu data, ar gyfer setiau data allweddol, ni fydd diweddariadau i ddata dangosyddion MALlC yn ystod 2021.

Rydym yn parhau i gyhoeddi allbynnau dilynol ar gyfer MALIC 2019. I’r rhai ohonoch sy’n ymddiddori mewn mapiau, mae proffil map newydd  bellach ar gyfer haenau gofodol MALlC 2019 ar MapDataCymru.  

Trowch at ein 'rhestr o allbynnau MALIC 2019' i weld rhestr lawn o gyhoeddiadau MALlC 2019, gan gynnwys yr hyn sydd i ddod. Os ydych am gael eich hysbysu pan fydd diweddariadau MALlC yn cael eu cyhoeddi, anfonwch e-bost i ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i danysgrifio.

Gallwn hefyd ddarparu sesiynau gwybodaeth ar MALlC 2019, os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu hyn ar gyfer eich sefydliad neu rwydwaith -  cysylltwch â ni i drafod. Ar 10 Mehefin , byddwn yn cymryd rhan mewn digwyddiad ar-lein gan y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol, sy'n agored i bawb, ar y pwnc 'Defnyddio ystadegau i nodi'r rhai mwyaf anghenus'.

Cydraddoldeb

Ym mis Mawrth cyhoeddwyd erthygl ystadegol 'Coronafeirws (COVID-19) a'r effaith ar bobl anabl' a oedd yn canolbwyntio ar feysydd lle gallai effaith y coronafeirws a'r mesurau ataliol dilynol fod wedi effeithio'n anghymesur ar y boblogaeth anabl.

Tynnwyd y dadansoddiadau hyn at ei gilydd i gefnogi gwaith grŵp llywio a gomisiynwyd gan Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl Llywodraeth Cymru i ystyried ac adrodd ar effaith COVID-19 ar bobl anabl yng Nghymru.

Masnachu

Arolwg Masnach Cymru  

Mae ail flwyddyn Arolwg Masnach Cymru (data sy'n ymwneud â 2019) bellach wedi'i gwblhau a bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi ddiwedd haf 2021. Nod yr arolwg yw gwella dealltwriaeth o lif masnach i mewn ac allan o fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys nwyddau a gwasanaethau sy'n symud o fewn y DU yn ogystal ag yn rhyngwladol. Rydym wedi caffael cam arall o'r arolwg, ac IFF Research sydd wedi ennill y contract i gynnal Arolwg Masnach Cymru eto yn ystod hydref 2021. Bydd hwn yn casglu data sy'n ymwneud â 2020, a fydd yn cynnwys rhan o bandemig y coronafeirws (COVID-19) yn ogystal â'r cyfnod cyn ymadael â’r UE.

Masnach Cymru mewn Nwyddau: adolygu cyhoeddiad

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu’r gwaith o ddadansoddi a chyhoeddi data masnach Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gan gynnwys yr hyn a fydd yn effeithio ar gynnwys y bwletin allforio nwyddau blynyddol.

Cynhyrchir y datganiad hwn gan ddefnyddio ystadegau masnach ranbarthol CThEM.  Yn hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu bwletinau ystadegol sy'n crynhoi ystadegau allforio rhanbarthol chwarterol a blynyddol CThEM ar gyfer Cymru, ac mae'r data ar gael hefyd ar StatsCymru. Wrth adolygu'r ystadegau a gyhoeddir gennym, ein nod yw gwella a symleiddio'r dadansoddiad, a byddwn yn trafod â defnyddwyr i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu eu hanghenion.

Os hoffech fod yn rhan o adolygiad, neu roi unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, anfonwch e-bost i ystadegau.masnach@llyw.cymru

Trafnidiaeth

Ym mis Chwefror 2021 cyhoeddwyd ein datganiad blynyddol ar ddefnydd gorsafoedd rheilffordd sy’n ymdrin a nifer y teithwyr a aeth i mewn ac allan o orsafoedd yn ystod y flwyddyn ariannol 2019/20. Ym mis Mawrth cyhoeddwyd ein bwletin cerbydau gwasanaeth cyhoeddus ac yna data chwarterol ar ddamweiniau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ar gyfer dau chwarter cyntaf 2020. Cyhoeddwyd ein bwletin trafnidiaeth rheilffyrdd ym mis Ebrill 2021 ar gyfer 2019/20. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Y Gymraeg

Ar 31 Mawrth, cyhoeddwyd canlyniadau'r Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer y flwyddyn o fis Hydref 2020 i fis Medi 2020.

Ers canol Mawrth 2020,, mae'r Arolwg Cenedlaethol wedi'i gynnal dros y ffôn yn unig. Mae'r ONS yn parhau i fonitro sut mae newid y dull wedi effeithio ar amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol ac mae'n bwriadu gwneud diwygiadau pellach i ddata’r Arolwg ar gyfer 2020 (yn dilyn diwygiadau i amcangyfrifon Gorffennaf 2019 i Fehefin 2020, ac i amcangyfrifon Ebrill 2019 i Fawrth 2020). Un rheswm dros ddiwygio ymhellach yw bod amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol yn cael eu pwysoli yn unol ag amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol. Gan fod yr amcanestyniadau presennol yn seiliedig ar 2018, maent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig sy'n rhagflaen’r pandemig COVID-19. Ar hyn o bryd mae'r ONS yn dadansoddi cyfansymiau'r boblogaeth a ddefnyddir yn y broses bwysoli ac mae'n bwriadu gwneud addasiadau lle y bo'n briodol. Mae'r canrannau a gyhoeddwyd ar sail yr Arolwg Blynyddol yn dal yn gadarn. Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth drin niferoedd a newidiadau yn y niferoedd. Bydd hyn yn effeithio'n arbennig ar amcangyfrifon ar gyfer gwlad enedigol, cenedligrwydd, ethnigrwydd ac anabledd.

Poblogaeth a demograffeg

Cyhoeddir diweddariad diweddariad demograffeg chwarterol ar wahân sy'n cynnwys popeth sy'n gysylltiedig â'r boblogaeth.

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru

Ymholiadau ystadegol cyffredinol

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru

Ffôn: 0300 025 5050

Pynciau penodol

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau

Twitter

YstadegauCymru

Gwasanaeth hysbysu a newyddlenni e-bost Llywodraeth Cymru

Newyddion a hysbysiadau

Ymholiadau gweinyddol

E-bost GweinydduGGD@llyw.cymru