Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud yng Nghymru o ran cyflawni’r saith nod llesiant.

Cyhoeddwyd gyntaf: 29 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Medi 2022

Rhagair

Rhagair gan y Prif Ystadegydd

Mae’r adroddiad Llesiant Cymru blynyddol yn gyfle gwerthfawr i edrych yn fanwl ar gynnydd ein cenedl tuag at y saith nod llesiant. Daw adroddiad eleni ar adeg gythryblus. Er bod cyfnod prysuraf pandemig y coronafeirws wedi mynd heibio, mae’r effaith yn dal i gael ei theimlo’n fawr iawn. Ar ben hynny, mae’r argyfwng costau byw a’r goresgyniad yn Wcráin yn creu ansicrwydd a phryder yn y cartref ac yn rhyngwladol. Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae’r digwyddiadau hyn yn dal i esblygu a bydd yn cymryd blynyddoedd lawer cyn y bydd eu heffaith lawn yn hysbys (er ein bod wedi gwneud sylwadau arnynt yn yr adroddiad hwn lle bo hynny’n bosibl).

Dros ddwy flynedd ar ôl dechrau’r pandemig, gallwn nawr fonitro ystod ehangach o’i effeithiau a gweld a yw’r newid y gwnaeth ei greu yn parhau. Er enghraifft, gwelsom rai newidiadau cadarnhaol mewn pynciau fel cydlyniant cymunedol a gwneud penderfyniadau lleol yn gynnar yn y pandemig. Er bod y data diweddaraf yn dangos bod rhai o’r mesurau hyn yn dechrau gostwng, maen nhw’n dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig. A allai hyn fod yn enghraifft o newid parhaus neu, ymhen amser, a fyddant yn dychwelyd i’w lefelau blaenorol?

Mae’n amlwg bod effeithiau wedi bod ar sawl elfen o’n llesiant cenedlaethol. Mae pennod Cymru Iachach o’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at gynnydd araf tuag at y nod llesiant, gyda llesiant meddwl sy’n gwaethygu mewn oedolion a phlant hŷn yn arbennig o nodedig eleni. Un o’r themâu a ddaeth i’r amlwg o adroddiad y llynedd oedd nifer yr enghreifftiau o anghydraddoldeb cynyddol. Mae hyn yn parhau i fod yn nodwedd eleni, gydag ychydig o arwyddion o’r bylchau’n gwrthdroi. Mae’r argyfwng costau byw wedi ychwanegu at yr heriau sy’n codi yn sgil y twf isel iawn mewn safonau byw, sy’n cael ei sbarduno gan dwf gwan iawn mewn cynhyrchiant, fel sy’n digwydd ledled y Deyrnas Unedig ers adeg yr argyfwng ariannol. Disgwylir y bydd hyn yn gwaethygu anghydraddoldebau ymhellach, gyda phobl ar incwm isel yn debygol o gael eu heffeithio’n benodol.

Ond mae arwyddion o newid cadarnhaol hefyd. Ym maes gwaith teg, mae’r bwlch cyflog amser llawn rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf, mae cynnydd diweddar yn nifer y bobl ar gontractau parhaol sy’n cael y cyflog byw gwirioneddol, ac mae cyflogau mwy o bobl bellach yn cael eu pennu drwy gydfargeinio. Yn y flwyddyn ddiweddaraf, gostyngodd nifer y babanod pwysau geni isel am y tro cyntaf ers 2014. Ac mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi parhau i wella (yn sgil effaith y pandemig) ac mae faint o wastraff nad yw’n cael ei ailgylchu yn parhau i ddisgyn.

Cerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol newydd

Ddiwedd 2021, gosodwyd set wedi ei diweddaru o ddangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd, gan ehangu’r set o 46 o ddangosyddion i 50. Cafodd pynciau newydd fel cyfiawnder, fforddiadwyedd tai, trafnidiaeth a chynhwysiant digidol eu hychwanegu am y tro cyntaf, ochr yn ochr â rhai newidiadau i’r dangosyddion cenedlaethol presennol. Mae adroddiad Llesiant Cymru eleni yn cyflwyno data ar rai o’r dangosyddion newydd a diweddaraf hyn am y tro cyntaf. Edrychaf ymlaen at adrodd ar fwy o’r dangosyddion hyn wrth i ffynonellau data newydd ddod ar gael dros y blynyddoedd nesaf.

Adroddiad eleni hefyd yw’r cyntaf i roi sylw i’r cynnydd tuag at y cerrig milltir cenedlaethol. Mae’r cerrig milltir yn dargedau cenhedlaeth sy’n disgrifio cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y saith nod llesiant. Cafodd y naw carreg filltir genedlaethol gyntaf eu gosod ddiwedd 2021, gydag wyth arall yn cael eu datblygu. Mae dadansoddiad o adroddiad eleni yn dangos cynnydd cymysg ar draws yr wyth carreg filltir gyntaf, gyda chynnydd tymor hir cadarnhaol o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, y gyfradd gyflogaeth, cymwysterau lefel 3 ac allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond naill ai’n ddigyfnewid neu’n dirywio ar gyfer cerrig milltir eraill.

Sut i ddefnyddio'r adroddiad hwn?

Eleni, rhoddwyd statws Ystadegau Gwladol i adroddiad Llesiant Cymru. Mae hyn yn golygu ei fod wedi cael ei asesu’n annibynnol i fodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cadw at y safonau hyn ac, os ydych chi’n darllen yr adroddiad hwn, gallwch chi ein helpu ni i wneud hyn. Rydyn ni eisiau clywed sut rydych chi’n defnyddio’r adroddiad a’r dangosyddion cenedlaethol, beth rydych chi’n ei hoffi amdano a beth hoffech chi ei weld yn cael ei wella. Os hoffech chi gyfrannu, rydyn ni’n bwriadu defnyddio blog Llunio Dyfodol Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi a gofyn am eich barn.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd

Prif bwyntiau

Prif bwyntiau

Fel sy’n wir ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, mae’r twf yn yr economi ac mewn incwm gwirioneddol wedi bod yn araf ers dirwasgiad 2008, gan adlewyrchu twf cynhyrchiant gwan. Dros y tymor hwy, ers 1999, mae Cymru wedi cadw i fyny’n fras â’r Deyrnas Unedig drwyddi draw, ond mae ei pherfformiad yn parhau i fod yn wan o’i gymharu â pherfformiad llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. 

Mae’r bylchau hanesyddol mewn cyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch rhwng Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi lleihau, gyda Chymru’n perfformio’n well na rhai rhanbarthau yn Lloegr. Mae hyn yn newid sylweddol ers y cyfnod cyn datganoli yn y 1980au a’r 1990au.

Ychydig iawn o newid sydd wedi bod mewn lefelau tlodi incwm cymharol cyffredinol yng Nghymru ers dros 15 mlynedd. Mae gan Gymru fwy o bobl mewn gwaith â chyflog isel na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ond mae cynnydd wedi bod yn ddiweddar yng nghyfran y bobl ar gontractau parhaol sy’n cael y Cyflog Byw Gwirioneddol.

Mae proffil cymwysterau poblogaeth oedran gweithio Cymru wedi bod yn gwella dros amser. Yn 2021, roedd 62.5% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i drothwy lefel 3. Mae hyn yn gynnydd o ychydig dros hanner yn 2011.

Parhaodd y gyfradd ailgylchu i gynyddu gyda bron i ddwy ran o dair o wastraff trefol yn cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio yn 2020-21. Roedd faint o wastraff trefol a gynhyrchwyd yr isaf a gofnodwyd.

Mae’r asesiad cynhwysfawr diweddaraf o adnoddau naturiol Cymru yn dangos bod amrywiaeth fiolegol yn dirywio ar y cyfan. Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen.

Gwelwyd gostyngiad mewn disgwyliad oes yn y cyfnod diweddaraf sydd ar gael (2018-20), sy’n cynnwys rhan o gyfnod pandemig COVID-19. Mae disgwyliad oes iach yn parhau i fod yn waeth i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, ond mae wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2011 i 2013 a 2018 i 2020.

Roedd y mwyafrif (93%) o oedolion yn dweud eu bod yn dilyn dau neu fwy o’r pum ymddygiad ffordd o fyw iach. Mae canran y plant sydd â dwy neu ragor o ymddygiadau ffordd o fyw iach yn dal i fod yn 88%, sydd fwy neu lai heb newid ers dechrau casglu data yn 2013/14.

Mae llesiant meddyliol oedolion a phlant yn is na chyn y pandemig, yn ôl yr asesiad diweddaraf.

Roedd bron i hanner (49%) y rhieni sengl mewn amddifadedd materol yn 2021-22 a dywedodd 2% o aelwydydd eu bod wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod 2021-22.

Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Yn ystod yr haf 2021, dyfarnwyd mwy o raddau A* i C i ferched na bechgyn.

Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos, am y tro cyntaf yng Nghymru, fod cyfran y boblogaeth a oedd yn dweud nad oedd ganddynt grefydd yn uwch na’r gyfran sy’n ystyried eu hunain yn Gristion.

Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (amser llawn) yn 5.0% yn 2021, sydd heb newid ers y flwyddyn flaenorol a dyma’r gyfradd isaf i’w chofnodi erioed). Mae’n ymddangos bod y bwlch cyflog anabledd a gododd rhwng 2014 a 2019 yn lleihau erbyn hyn, er y gallai’r sefyllfa o ran cyflogaeth yn ystod pandemig COVID-19 fod wedi cael effaith ac mae’n rhy gynnar i asesu effaith y pandemig ar y duedd hon.

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau yn eu hardal leol, sy’n parhau i wrthdroi’r gostyngiad a welwyd yn cyn y pandemig.

Mae cydlyniant cymunedol yn dal yn uwch na lefelau cyn y pandemig, er bod troseddau casineb a gofnodwyd wedi parhau i gynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r pandemig wedi parhau i gael effaith negyddol fawr ar bresenoldeb mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol ac mae cynnydd cymysg wedi bod o ran cymryd rhan mewn chwaraeon.

Roedd data arolwg yn dangos cynnydd yng nghanran y bobl sy'n siarad Cymraeg yn y flwyddyn ddiweddaraf. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 11% o siaradwyr Cymraeg yn rhugl.

Mae mwy o amgueddfeydd a gwasanaethau archifau yn cyrraedd y safonau achrededig. Mae 63% bellach wedi cyrraedd y meincnod hwn, i fyny o 59% yn 2017.

Yn 2020, amcangyfrifwyd bod allyriadau'n gyfanswm o 33 miliwn tunnell o garbon deuocsid (CO2) a'i gyfatebol, cwymp o 40% ers y flwyddyn sylfaen (1990).

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru mae 11% o oedolion wedi gwneud tri neu fwy o'r pedwar camau canlynol i helpu gyda materion byd-eang: rhoi neu godi arian, ymgyrchu, gwirfoddoli, neu newid yr hyn maen nhw'n ei brynu.

Materion ansawdd cyffredinol

Mae data Blynyddol Arolwg Poblogaeth (APS) a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022 wedi cael ei ddefnyddio trwy gydol adroddiad Lles Cymru eleni. Cyhoeddodd ONS ddata APS wedi'i ddiweddaru yng nghanol mis Medi. Roedd hyn yn cynnwys diwygiadau wedi'u cynllunio i ddata hanesyddol, a chywiriadau i gamgymeriad cynharach a nodwyd gyda'r ffactorau gros ar gyfer rhai grwpiau oedran. Roedd y set ddata gwbl ddiwygiedig ar gael yn rhy hwyr i'w gynnwys yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, mae'r effaith ar gyfanswm cyffredinol yn fach iawn, ac nid yw'r un o'r tueddiadau cyffredinol yn cael eu heffeithio. Bydd tudalennau gwe dangosydd cenedlaethol yn cael eu diweddaru gyda'r data diweddaraf yn ystod Hydref 2022.

Ym mis Mai 2020, oherwydd pandemig COVID-19 (coronafeirws) fe newidiodd Arolwg Cenedlaethol Cymru'r modd o gyfweliad wyneb yn wyneb i un dros y ffôn. Newidiwyd geiriad rhai cwestiynau hefyd i gyd-fynd yn well â'r modd. Am y rhesymau hyn nid yw'n bosibl gwneud cymariaethau uniongyrchol bob amser ar draws blynyddoedd ond, lle bo hynny'n berthnasol, mae canlyniadau o flynyddoedd blaenorol yn cael eu cynnwys trwy gydol yr adroddiad hwn i ychwanegu cyd-destun .

Cymru lewyrchus

Y nod i Gymru lewyrchus

Awduron: Jonathan Price a Luned Jones

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Mae effeithiau’r pandemig, ac yn fwy diweddar, y rhyfel yn Wcráin, wedi bod yn flaenllaw mewn ffactorau eraill sy’n effeithio ar ganlyniadau economaidd, gan gynnwys y newid i berthynas fasnachu newydd â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae llawer o'r dangosyddion cenedlaethol sydd wedi'u cynnwys yn y bennod hon yn ymwneud â blynyddoedd cynharach ac nid ydynt eto'n adlewyrchu effeithiau mwy diweddar y ffactorau hyn. Fodd bynnag, mae ffynonellau data mwy amserol eraill yn dangos mai un o brif effeithiau’r pandemig a’r rhyfel oedd cynnydd sylweddol mewn chwyddiant, gyda chanlyniadau andwyol i safonau byw. Mae hyn wedi effeithio’n benodol ar bobl ar incwm isel sy’n gwario mwy na’r cyfartaledd ar fwyd ac ynni.  

Dengys y data diweddaraf ar gyfer y DU bod cyflogau gwirioneddol yn gostwng (gostyngodd tâl rheolaidd gweithwyr 2.8% dros y flwyddyn ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant). Mae ystadegau arbrofol y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dangos bod grwpiau incwm is wedi profi cyfraddau chwyddiant uwch na’r cyfartaledd yn ddiweddar.

Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae esblygiad yr “argyfwng costau byw” yn ansicr iawn, gan ddibynnu’n drwm ar amgylchiadau allanol, ac yn enwedig y gwrthdaro yn Wcráin. Ar ben hynny, gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig roi rhagor o fesurau ar waith sy’n lliniaru rhai o’r effeithiau.

Mae gwaith ymchwil a dadansoddi diweddar, gan gynnwys gan Fanc Lloegr, wedi dangos bod modd gweld effeithiau negyddol ar weithgarwch economaidd yn sgil y newid i gysylltiadau masnachu newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd yn barod, er mai dros amser y daw llawer o’r canlyniadau yn amlwg.   

Mae perfformiad economaidd sylfaenol Cymru yn parhau i fod yn wannach na’r Deyrnas Unedig drwyddi draw o ran cynnyrch economaidd (gwerth ychwanegol gros) ac incwm aelwydydd (incwm gwario gros aelwydydd ac incwm canolrifol aelwydydd), ond mae’n eithaf tebyg i’r rhannau hynny o’r Deyrnas Unedig sydd â nodweddion a phriodweddau tebyg.

Mae data’r farchnad lafur yn anwadal dros y tymor byr ac mae’n bwysig peidio â gor-ddehongli newidiadau diweddar, yn enwedig yng nghyd-destun y pandemig. Gyda’r rhybudd hwn, mae data’r farchnad lafur yn awgrymu bod y pandemig wedi effeithio ar berfformiad economaidd Cymru mewn ffordd sy’n debyg yn fras i’r Deyrnas Unedig (ac eithrio Llundain).

Er bod perfformiad Cymru o ran cyflogau a chynhyrchiant yn dal yn llai cadarnhaol na pherfformiad y farchnad lafur, mae data’n dangos gwelliannau cymedrol yng nghynhyrchiant cymharol Cymru dros y degawd diwethaf, gan wrthdroi’r dirywiad cyn dirwasgiad 2008.

Mae’n rhy gynnar i asesu effeithiau’r pandemig ar bobl ifanc, er bod tystiolaeth gynnar yn dangos bod y canlyniadau economaidd-gymdeithasol wedi effeithio’n anghymesur arnynt. Ceir tystiolaeth yn benodol fod yr amhariad ar addysg wedi effeithio ar bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Gan ddibynnu ar effeithiolrwydd y mesurau lliniaru sydd ar waith, gallai’r effeithiau niweidiol ddylanwadu ar y farchnad lafur dros y blynyddoedd neu hyd yn oed y degawdau nesaf.

Sefydlwyd carreg filltir genedlaethol newydd ar gymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur yn 2021, sef y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2020 yn dangos cynnydd o ran cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, sydd wedi'i sbarduno gan fwy yn cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant. Mae’n rhy gynnar i asesu effaith y pandemig ar y duedd hon.

Cyflwynwyd dangosydd cenedlaethol newydd ar gyfran y gweithwyr y pennir eu cyflog drwy gydfargeinio ym mis Rhagfyr 2021 ar sail data o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Roedd 57% o weithwyr yn dod o dan drefniadau cydfargeinio yn 2021, lle mae cyflog ac amodau’n cael eu negodi rhwng cyflogwr ac undeb llafur. Mae hyn ychydig yn uwch nag yn y blynyddoedd diwethaf.

Ym mis Ebrill 2021, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (amser llawn) yn 5.0%, sydd heb newid ers y flwyddyn flaenorol a dyma’r gyfradd isaf i’w chofnodi erioed). 

Mae proffil cymwysterau poblogaeth Cymru wedi bod yn gwella dros amser, er y gwelwyd rhai newidiadau i dueddiadau tymor hwy yn 2021. Mae cyfran y bobl sydd wedi cymhwyso ar lefelau uwch yn dal i wella, ond roedd cynnydd hefyd yng nghyfran yr oedolion sydd heb unrhyw gymwysterau.

Mae deilliannau plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal i fod yn waeth na grwpiau eraill. Mae merched yn dal i berfformio’n well na bechgyn.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae’r cynnydd tuag at y nod wedi bod yn gymysg, gyda gwelliannau mawr ym mherfformiad cyffredinol y farchnad lafur ond llai o gynnydd o ran mynd i’r afael â thlodi, cynhyrchiant a thâl isel, a lefelau incwm isel. Mae cynnydd wedi’i wneud o ran datgarboneiddio, ond bydd angen newid yn gyflymach yn y dyfodol er mwyn cyrraedd targedau.

Mae’r pandemig a’r rhyfel yn Wcráin wedi cael effaith amlwg ar y data diweddaraf, ac nid yw’r goblygiadau ar gyfer tueddiadau tymor hwy yn glir. Am y rheswm hwn, mae’r casgliadau canlynol yn cael eu llunio’n bennaf ar sail tystiolaeth cyn y pandemig.

Fel sy’n wir ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, mae’r twf yn yr economi ac mewn incwm gwirioneddol wedi bod yn araf ers dirwasgiad 2008, gan adlewyrchu twf cynhyrchiant gwan. Dros y tymor hwy, ers 1999, mae Cymru wedi cadw i fyny’n fras â’r Deyrnas Unedig drwyddi draw, ond mae ei pherfformiad yn parhau i fod yn wan o’i gymharu â pherfformiad llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. 

Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru yn llawer agosach at gyfartaledd y Deyrnas Unedig na’r gwerth ychwanegol gros (GVA) y pen, gyda gwahaniaethau yn dibynnu ar y mesur a ddefnyddiwyd a chyda’r bwlch lleiaf pan asesir ar gyfer y cartref canolrifol.

Y garreg filltir genedlaethol ar gyflogaeth (sy'n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) yw dileu’r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur. Mae’r bylchau hanesyddol mewn cyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch rhwng Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi lleihau, gyda Chymru’n perfformio’n well na rhai rhanbarthau yn Lloegr. Mae hyn yn newid sylweddol ers y cyfnod cyn datganoli yn y 1980au a’r 1990au.

Mae gan Gymru fwy o bobl mewn gwaith ar gyflogau isel na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.  Yn ogystal, mae’r dystiolaeth ar agweddau eraill ar ansawdd gwaith yn awgrymu darlun cymysg yng Nghymru.

Mae proffil cymwysterau poblogaeth oedran gweithio Cymru wedi bod yn gwella dros amser. Un o’r cerrig milltir cenedlaethol ar gymwysterau yw y bydd 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Yn 2021, roedd 62.5% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i drothwy lefel 3.  Mae hyn yn gynnydd o ychydig dros hanner yn 2011. Y garreg filltir genedlaethol arall ar gymwysterau yw y bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050. Yn 2021, roedd gan dri o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru 5% neu lai o oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau.

Cododd cyrhaeddiad mewn ysgolion uwchradd yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig, er bod deilliannau plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal yn waeth.

Mae rheoli’r rhyngweithio rhwng twf economaidd a datblygu economi arloesol, carbon isel yn gymhleth ac yn arwain at heriau, ond mae arwyddion cadarnhaol mewn rhai sectorau.

Mae teithio’n cyfrannu’n sylweddol at allyriadau carbon, ond nid oes tystiolaeth o symud oddi wrth geir fel y prif ddull o deithio.

Mae’n ymddangos bod y pandemig wedi cyflymu’r duedd i ymgymryd â gweithgarwch economaidd o bell, gan gynnwys gweithio gartref. Mae’r canlyniadau tymor hwy yn ansicr. Mae’n bosibl y bydd mwy o weithio gartref a manwerthu ar y rhyngrwyd yn cynyddu’r heriau sy’n wynebu rhai canolfannau trefol. Mae tystiolaeth o’r Deyrnas Unedig gyfan yn dangos y gallai’r cyfleoedd ychwanegol i weithio gartref fod wedi annog mwy o fenywod i gymryd rhan yn y farchnad lafur.

Mae data’r Deyrnas Unedig yn dangos bod traffig ffyrdd wedi adfer i lefelau tebyg i’r hyn a welwyd cyn y pandemig (ond gyda gostyngiad bach mewn teithiau ceir sydd wedi’i wrthbwyso gan gynnydd mewn traffig nwyddau). Fodd bynnag, mae trafnidiaeth gyhoeddus (trên a bws) yn parhau ar lefel sy’n is o lawer na’r hyn a welwyd cyn y pandemig.

Perfformiad economaidd

Fel sy’n wir ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, mae’r twf yn yr economi ac mewn incwm gwirioneddol wedi bod yn araf ers dirwasgiad 2008, gan adlewyrchu twf gwael mewn cynhyrchiant.

Mae’r rhagolygon ar unwaith hefyd yn ymddangos yn wael, gyda chwyddiant uchel yn lleihau incwm gwirioneddol a rhagolygon o arafu economaidd, a dirwasgiad o bosibl.

Dros y tymor hwy, ers 1999, a chymryd dangosyddion economaidd drwyddynt draw, mae Cymru wedi cadw’n weddol gyson â’r Deyrnas Unedig. Er bod y perfformiad economaidd yn parhau i fod yn wan o’i gymharu â llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae data cynhyrchiant dros y degawd diwethaf yn rhoi awgrym o obaith. Fodd bynnag, mae’r bwlch gyda’r Deyrnas Unedig gyfan yn dal yn fawr, ac nid yw’r Deyrnas Unedig ei hun yn perfformio’n gryf o’i chymharu â gladwriaethau eraill yn rhyngwladol.

Mae gwerth ychwanegol gros (GVA) yn cynrychioli gwerth yr holl nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir mewn ardal. Dyma ffynhonnell yr incwm gwirioneddol y mae pobl yn ei ennill a’r sylfaen y gellir codi trethi arni i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Er bod gwerth ychwanegol gros y pen poblogaeth Cymru wedi tyfu’n weddol debyg i’r gyfradd ledled y Deyrnas Unedig ers 1999, mae’n dal yn is na bron pob un o wledydd a rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig.

Gan edrych ar y cynnydd yn fwy diweddar, disgynnodd gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yn gyflymach yn 2020 nag yn y Deyrnas Unedig drwyddi draw. Gostyngodd 3.8%, o'i gymharu â 3.4% ar gyfer y Deyrnas Unedig (heb gyfrif am chwyddiant).

Mae amcangyfrifon cynnyrch domestig gros rhanbarthol arbrofol (GDP) yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn awgrymu twf o dros 8% ar gyfer chwarter olaf 2021 o'i gymharu â chwarter olaf y flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 1.6% o'i gymharu â thrydydd chwarter 2021. 

Nid yw data economaidd yn caniatáu asesiad diffiniol ar hyn o bryd o berfformiad economaidd cymharol Cymru yn ystod y pandemig.  Yn gyffredinol, mae graddfa gymharol yr effaith yn edrych yn debyg yng Nghymru i’r Deyrnas Unedig drwyddi draw. Mae perfformiad ar werth ychwanegol gros y pen yn adlewyrchiad yn bennaf o lefelau cynhyrchiant cymharol isel. Mae cynhyrchiant, a fesurir fel gwerth ychwanegol gros yr awr a weithiwyd, yn parhau i fod yn is yng Nghymru na bron pob rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Yn 2020 roedd yn 84.3% o ffigur y Deyrnas Unedig, cynnydd o 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn flaenorol.

Mae data dros y degawd diwethaf yn cadarnhau gwelliannau cymedrol mewn cynhyrchiant cymharol (gwerth ychwanegol gros yr awr a weithir), gan efallai wrthdroi tuedd o waethygu cyn y dirwasgiad.

Image
Siart linell yn dangos bod y gwerth ychwanegol gros (GVA) y pen yng Nghymru wedi cynyddu fwy neu lai yn unol â'r DU ers 1999. Roedd GVA y pen yng Nghymru wedi gostwng yn gyflymach yn 2020 nag ar draws y DU gyfan.

Incwm aelwydydd

Mae incwm aelwydydd yn ddangosydd gwell o ffyniant a llesiant materol pobl na gwerth ychwanegol gros. Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru yn llawer agosach at gyfartaledd y Deyrnas Unedig na gwerth ychwanegol gros (GVA) y pen, ond mae gwahaniaethau yn dibynnu ar y mesur a ddefnyddiwyd, gyda’r bwlch lleiaf wrth ystyried yr incwm canolrifol. Dim ond hyd at 2019 y mae data ar gael ar hyn o bryd, felly mae’r adran hon yn canolbwyntio ar dueddiadau tymor hwy.

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar incwm yn defnyddio’r mesur incwm gwario gros aelwydydd (GDHI). O ran y mesur hwn, mae Cymru, yn ôl y data diweddaraf (2019), ar 81% o ffigur y Deyrnas Unedig, ar ôl gostwng o 88% pan oedd y ffigur uchaf yn 2003. Mae’r gostyngiad cymharol hwn wedi’i ysgogi’n rhannol gan gynnydd mawr yn incwm aelwydydd yn Llundain, sydd wedi helpu i godi cyfartaledd y Deyrnas Unedig.

Er mai Cymru sydd â’r ail incwm gwario gros aelwydydd isaf y pen o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig, mae’n cymharu’n fras ag ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â nodweddion tebyg.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) y pen wedi cynyddu i Gymru a'r DU rhwng 1999 a 2019, gyda'r bwlch yn cynyddu rhywfaint.

Y farchnad lafur

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae effeithiau’r pandemig, a’r rhyfel yn Wcráin yn fwy diweddar, wedi ysgogi newidiadau yn y farchnad lafur yng Nghymru. Wrth edrych ar y tymor hwy, mae’r farchnad lafur yng Nghymru yn parhau i berfformio’n gryf mewn termau cymharol, gyda’r bwlch rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyfyng o’i gymharu â’r sefyllfa hanesyddol.

Yr Arolwg o’r Llafurlu (LFS) yw’r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae sampl mwy’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o’r boblogaeth, a dyma’r ffynhonnell ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol cysylltiedig. Gan fod y rhan fwyaf o ddata’r farchnad lafur yn seiliedig ar arolwg ac yn anwadal, ni ddylid gor-ddehongli newidiadau tymor byr.

Yn gyffredinol, yn ôl yr LFS, dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r gyfradd anghyflogaeth wedi gostwng, gan ddangos rhywfaint o adferiad o effaith y pandemig. Fodd bynnag, mae’r gyfradd cyflogaeth wedi gostwng ac mae anweithgarwch economaidd wedi cynyddu hefyd. Mae’r bylchau mewn cyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig yn dal yn gyfyng mewn cyd-destun hanesyddol, gyda Chymru’n perfformio’n well yn gyffredinol, na nifer o ranbarthau’r Deyrnas Unedig.

Y garreg filltir genedlaethol ar gyflogaeth (sy'n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) yw dileu’r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur. Yn ôl yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 73.1% yn y flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2021, tra bo cyfradd y Deyrnas Unedig yn 74.7%. Ers 2001, mae’r gyfradd cyflogaeth wedi cynyddu 6.0 pwynt canran yng Nghymru a 2.4 pwynt canran yn y Deyrnas Unedig.

Mae COVID-19 wedi cael effeithiau niweidiol ar y farchnad lafur, ac mae hynny wedi cael effaith anghymesur ar grwpiau a oedd eisoes o dan anfantais. Mae hyn yn cynnwys pobl mewn swyddi sy’n talu’n wael, mewn swyddi llai diogel, pobl ifanc, pobl sy’n cyrraedd diwedd eu bywyd gwaith, a phobl mewn grwpiau amrywiol a oedd eisoes yn profi anghydraddoldebau yn y farchnad lafur.  Mae dadansoddiad pellach o’r effaith ar anghydraddoldebau ar gael yn y bennod Cymru sy'n Fwy Cyfartal.

Mae data o ffynonellau gweinyddol mwy amserol yn dangos bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi dilyn trywydd y Deyrnas Unedig yn gyffredinol ar y cyfan (ac eithrio Llundain) yn ystod y pandemig. Mae data o Wybodaeth Amser Real y Cynllun Talu Wrth Ennill yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu’n gyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Dechreuodd nifer y gweithwyr cyflogedig gynyddu eto ddiwedd 2020 ac mae nawr yn uwch na’r lefel cyn y pandemig. Nid yw’r set ddata hon yn cynnwys y rhai sy’n hunangyflogedig.

Image
Gostyngodd y cyfraddau yng Nghymru a'r DU yn ystod 2020 ac ar ddechrau 2021, ond maent wedi gwella rhywfaint ers hynny.
Image
Siart linell yn dangos gostyngiad cyffredinol yn y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer pobl 16-64 oed yng Nghymru a'r DU rhwng 1999 a 2020, gyda chynnydd yn ddiweddar yng Nghymru.

Cyfranogiad mewn addysg a’r farchnad llafur

Sefydlwyd carreg filltir genedlaethol newydd ar gymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur yn 2021, sef y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc rhwng 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.

Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2020, gyda’r cyntaf yn cynnwys unrhyw gyfnod yn ystod y pandemig, yn dangos cynnydd o ran cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, sydd wedi'i sbarduno gan fwy yn cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant. Mae’n rhy gynnar i asesu effaith hirdymor y pandemig ar y duedd hon. 

Gan ddefnyddio’r prif fesur o bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, bu gostyngiad yn y grŵp oedran 16 i 18 ac 19 i 24 rhwng 2017 a 2019. Yna, cynyddodd y gyfran ar gyfer y ddau grŵp yn 2020. Ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, roedd hyn yn dilyn cyfnod lle’r oedd y gyfran wedi aros yn sefydlog ar oddeutu 89 i 90% rhwng 2012 a 2018.

Roedd y grŵp oedran 19 i 24 yn teimlo effaith dirwasgiad 2008 yn fwy amlwg. Ers hynny a hyd at 2017, mae’r gyfran mewn addysg neu’r farchnad lafur wedi cynyddu’n raddol. Ar ddiwedd 2020, y cynnydd cyntaf ers 2017, roedd y gyfradd yn 84.8%, tua 8 pwynt canran yn uwch nag yn 2012.

Ar gyfer y grŵp oedran 16 i 24 yn gyffredinol, roedd 86% mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2020.

Mae ffigurau mwy diweddar am bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar gael o ffynhonnell eilaidd, llai cadarn. Mae’r rhain yn awgrymu gostyngiad mewn cyfranogiad yn 2021, yn enwedig ar gyfer y grŵp oedran 16 i 18.

Image
Siart linell yn dangos bod canran y bobl 16-18 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi aros ar oddeutu 89-90% dros y 15 mlynedd diwethaf, gyda chyfran gyfatebol o bobl ifanc 19-24 oed yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd a oedd yn arwain at y pandemig

Gwaith Teg ac Enillion

Cyflwynwyd dangosydd cenedlaethol newydd ar gyfran y gweithwyr y pennir eu cyflog drwy gydfargeinio ym mis Rhagfyr 2021, ar sail data o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Roedd tua 57% o swyddi gweithwyr yn dod o dan drefniadau cydfargeinio yn 2021, lle mae cyflog ac amodau’n cael eu negodi rhwng cyflogwr ac undeb llafur. Mae hyn yn uwch nag yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hefyd yn uwch o lawer nag ar gyfer pob un o wledydd eraill y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhanbarthau Lloegr, ac mae’n adlewyrchu’r gyfran gymharol uwch o weithwyr yng Nghymru sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus ac ym maes gweithgynhyrchu.

Cafodd un o’r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer gwaith teg ac enillion ei ddiwygio ym mis Rhagfyr 2021 ac mae bellach yn ystyried canran y bobl sy’n cael eu cyflogi ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae’r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyfrifo gan y Living Wage Foundation sy'n pennu’r fethodoleg. Ei nod yw adlewyrchu costau byw.

Yn 2021, roedd 70% o’r bobl hynny sy'n cael eu cyflogi ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) yn ennill o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol, yr un gyfran ag yn 2020, ac yn uwch nag yn y chwe blynedd flaenorol. Mae hyn yn seiliedig ar y Cyflog Byw gwirioneddol ar gyfer 2021/22 fel y'i cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl sydd mewn cyflogaeth, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy'n ennill y Cyflog Byw gwirioneddol o leiaf. Yn 2021, roedd 69.6% o bobl mewn cyflogaeth yn bodloni'r diffiniad hwn, yn debyg i 2020.

Mae data o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn awgrymu bod canran y bobl sy’n fodlon ar eu swydd yr un fath fwy neu lai, sef 82% yn 2019-20. Mae bodlonrwydd mewn swydd yn tueddu i gynyddu gydag oedran.

Mae carreg filltir genedlaethol newydd wedi cael ei gosod er mwyn dileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Dros y tymor hir, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau (ar sail canolrif enillion amser llawn yr awr a heb gynnwys goramser) wedi lleihau. Ym mis Ebrill 2021, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (amser llawn) yn 5.0%, sydd heb newid ers y flwyddyn flaenorol a dyma’r gyfradd isaf i’w chofnodi erioed). Roedd y bwlch wedi ehangu yn y Deyrnas Unedig i 7.9%.

Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer yr holl weithwyr yn parhau i fod yn llawer iawn uwch, sef 12.3%. Mae hyn oherwydd bod menywod yn llenwi mwy o swyddi rhan-amser sydd, o’u cymharu â swyddi amser llawn, â thâl canolrifol is yr awr.

Nid yw’r bylchau hyn yn ystyried gwahaniaethau mewn lefelau addysg a phrofiad, sy’n amrywio ar draws y rhywiau ac yn effeithio ar lefelau enillion.

Image
Siart linell yn dangos bod canran y gwahaniaeth mewn enillion rhwng dynion a menywod wedi gostwng ar y cyfan yng Nghymru a'r DU ers 1999, gyda llai o fwlch yng Nghymru nag yn Lloegr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Tlodi ac amddifadedd

Roedd COVID-19 wedi effeithio ar broses casglu data 2020-21 ar gyfer Arolwg o Adnoddau Teulu’r Adran Gwaith a Phensiynau. Oherwydd hyn, mewn perthynas â llawer o waith dadansoddi amcangyfrifon tlodi incwm ac amddifadedd materol (gan gynnwys i Gymru) nid oes modd gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau. Felly, mae’r ystadegau tlodi ac amddifadedd materol diweddaraf ar gyfer 2020-21 yn ymwneud â’r Deyrnas Unedig yn gyffredinol yn unig, ac yn destun mwy o ansicrwydd nag arfer.

Pobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yw’r rhai sy’n byw mewn aelwyd lle mae cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm cyfartalog aelwydydd y Deyrnas Unedig (fel sy’n cael ei roi gan y canolrif). Roedd gostyngiad yn incwm canolrifol aelwydydd y Deyrnas Unedig rhwng 2019-20 a 2020-21, ac roedd newidiadau yn incwm aelwydydd y Deyrnas Unedig (cyn costau tai) yn amrywio ar draws y dosbarthiad incwm.

  • Roedd incwm aelwydydd unigolion yn chwarter isaf y dosbarthiad incwm wedi cofnodi twf incwm cadarnhaol mewn termau real.
  • Roedd y rhai rhwng y 30fed a’r 80fed canradd wedi cofnodi gostyngiad mewn incwm gwirioneddol.
  • Roedd y darlun yn fwy cymysg ar gyfer y cwintel incwm uchaf.

Mae canran unigolion y Deyrnas Unedig gydag incwm cymharol isel wedi disgyn cyn, ac ar ôl, costau tai yn 2020-21. Roedd y patrwm yn debyg i’r gwahanol grwpiau oedran o blant, oedolion o oedran gweithio, a phensiynwyr.

Mae amddifadedd materol yn fesur o safonau byw a diffinnir bod person yn byw mewn amddifadedd materol os nad yw ef neu hi yn gallu cael gafael ar nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau. Aelwydydd incwm isel yw’r rhai mae cyfanswm incwm yr aelwyd yn llai na 70% o incwm cyfartalog aelwydydd y Deyrnas Unedig, cyn talu costau tai. Ledled y Deyrnas Unedig, yn ystod y flwyddyn hyd at 2020-21, cofnodwyd gostyngiad mewn amddifadedd materol ar gyfer pensiynwyr, ac mewn mesurau incwm isel ac amddifadedd materol cyfun ar gyfer plant. Fodd bynnag, roedd cyflwyno cyfyngiadau pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar fesur amddifadedd materol, sy’n golygu nad oes modd cymharu’r lefelau a gofnodwyd yn uniongyrchol â’r blynyddoedd blaenorol.

Ystyrir bod rhywun mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol mewn o leiaf tair o bob pedair blynedd yn olynol. Mae data o arolwg Understanding Society yn dangos bod tebygolrwydd o 12% y byddai unigolyn yng Nghymru mewn tlodi parhaus rhwng 2016 a 2020 (ar ôl talu costau tai). Roedd plentyn yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi parhaus, sef 13%.

Ychwanegwyd dangosydd cenedlaethol ar ganran yr aelwydydd sy'n gwario 30% neu fwy o incwm ar gostau tai  (yn seiliedig ar ddata o'r Arolygon Adnoddau Teuluol) at y set o ddangosyddion cenedlaethol fis Rhagfyr 2021. Ar draws pob deiliadaeth, ar gyfer y blynyddoedd ariannol diweddaraf y mae data ar gael ar eu cyfer (2017-2020) mae 19.4% o gartrefi yn gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai. Mae'r ganran hon wedi bod yn weddol gyson dros y cyfnod rhwng 2011-12 a 2019-20, ond mae'n amrywio yn ôl deiliadaeth tai. 

Cymwysterau

Mae proffil cymwysterau poblogaeth Cymru wedi bod yn gwella dros amser, er y gwelwyd rhai newidiadau i dueddiadau tymor hwy yn 2021.

Sgiliau a chymwysterau yw'r un dylanwad mwyaf ar siawns pobl o fod mewn gwaith ac ar eu hincwm.

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod cynnydd o hyd yn y gyfran o bobl sy’n meddu ar gymwysterau lefelau uwch. Yn 2021, roedd 41.6% o oedolion o oedran gweithio yn gymwys i lefel addysg uwch o leiaf (a elwir yn lefel 4 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol), bron i 14 pwynt canran yn uwch na’r adeg y cafodd yr ystadegau eu cynhyrchu gyntaf ar y diffiniad o oedolion o oedran gweithio rhwng 18 a 64 oed yn 2008.

Un o’r cerrig milltir cenedlaethol ar gymwysterau yw y bydd 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Yn 2021, roedd 62.5% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i drothwy lefel 3. Mae hyn yn gynnydd o 51.3% yn 2011.

Dros y degawd diwethaf, bu gostyngiadau mawr yng nghyfran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau, er bod y gyfran hon wedi cynyddu o 7.4% yn 2020 i 8.1% yn 2021. Roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd wedi cymhwyso i lefel 2 o leiaf (sy’n cyfateb i 5+ TGAU gradd A* i C) hefyd wedi gostwng yn 2021 i 80.1%, i lawr o 80.9% yn 2020.

Mae oedolion hŷn yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau nag oedolion iau.

Mae cyfran uwch o ddynion na menywod heb unrhyw gymwysterau ym mhob grŵp oedran bron. Mae menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau lefel 4 neu uwch.

Image
Siart linell yn dangos bod lefelau cymwysterau yng Nghymru wedi cynyddu'n raddol rhwng 2008 a 2021, gyda gostyngiad yng nghyfran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau. Roedd rhywfaint o gynnydd yn y gyfradd heb gymwysterau yn 2021.

Y garreg filltir genedlaethol arall ar gymwysterau yw y bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050. Yn 2021, roedd gan dri o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru 5% neu lai o oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau; Ceredigion (2.8%), Sir Fynwy (3.0%), a Bro Morgannwg (3.1%).  Roedd y gyfran uchaf o oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau ym Merthyr Tudful (20.1%) a Blaenau Gwent (15.3%).

Image
Siart far yn dangos yr amrywiaeth yng nghyfran yr oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau rhwng awdurdodau lleol. Mae'r cyfrannau'n amrywio o 2.8 y cant yng Ngheredigion i 20.1 y cant ym Merthyr Tudful.

Cyrhaeddiad mewn ysgolion

Cododd cyrhaeddiad mewn ysgolion yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig, er bod deilliannau plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal yn waeth.

Yn y flwyddyn academaidd 2021/22 roedd 54% o ddisgyblion 4 oed wedi cyrraedd cam datblygiad mewn mathemateg a fyddai'n gyson â'u hoedran yn ôl fframwaith y Cyfnod Sylfaen neu’n well, gydag 87% o ddisgyblion o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â’u hoed. Mewn iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn Saesneg roedd 53% o ddisgyblion wedi cyrraedd cam datblygiad a fyddai'n gyson â'u hoedran neu'n well, gydag 85% o ddisgyblion o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â’u hoed. Mae'r ffigyrau yma'n is nag yn 2019. 

Mae’r darlun yn wahanol ar gyfer iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn Gymraeg, lle’r oedd 27% o blant ar gam a oedd yn gyson â’u datblygiad. Mae hyn oherwydd bod plant o deuluoedd di-Gymraeg wedi cofrestru mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ar gyfer TGAU mae bwlch o hyd yng nghanlyniadau addysgol plant yn yr ysgol sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim a'r rhai sydd ddim. Mae'r bwlch yn y cofrestriadau gafodd graddau A* i A ar lefel TGAU wedi ehangu yn ystod y chwe blynedd diwethaf, gyda'r bwlch yn y cofrestriadau yn ennill graddau A* i C yn gymharol sefydlog. Mae data hyd at 2019 yn dangos yng nghamau cynnar ysgol, bod y bwlch yn ehangu wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn.

Yn 2020/21, ehangodd y bwlch rhwng disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim (FSM) a disgyblion sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim o ran graddau TGAU A* i A i 21.3 pwynt canran, o 17.8 pwynt canran yn 2019/20. Cyn hynny bu’r bwlch yn gymharol sefydlog ar tua 14.7 pwynt canran rhwng 2015/16 a 2018/19 cyn lledu yn ystod y 2 flynedd ddiweddaraf.

Yn 2020/21, ehangodd y bwlch rhwng disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim (FSM) a disgyblion sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim o ran graddau A* i C i 27.3 pwynt canran, gan ddychwelyd i fwlch tebyg yn ei faint i'r blynyddoedd a arweiniodd at y pandemig wedi gostyngiad i 24.7 pwynt canran yn 2019/20.

Ar ôl canslo arholiadau cyhoeddus yn ystod haf 2020 a 2021, cafodd yr holl raddau a fyddai wedi cael eu dyfarnu ar ôl arholiad eu disodli gan  radd a aseswyd neu a bennwyd gan ganolfan.

Image
Siart llinell sy'n dangos y bwlch rhwng canrannau'r myfyrwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a myfyrwyr nad sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cyflawni A*-A, A*-C, ac A*-G ar gyfer TGAU yn 2020/21. Mae'r bwlch yn y 3 ystod wedi cynyddu, gyda chynnydd mwy serth i fyfyrwyr sy'n cyrraedd A*-A.

Allyriadau nwyon tŷ gwydr o fusnesau

Mae rheoli’r rhyngweithio rhwng twf economaidd ac economi arloesol, carbon isel yn gymhleth ac yn arwain at heriau, ond mae arwyddion cadarnhaol.

At ei gilydd, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi gostwng 39.2% ers y flwyddyn sylfaen (1990). Roedd yn cyfrif am dros chwarter o allyriadau Cymru (26%). Mae allyriadau o’r sector hwn wedi gostwng yn sylweddol ers 1990 (gostyngiad o 32%).

Yn hanesyddol, y sector busnes fu’r ail ffynhonnell fwyaf o allyriadau nwyon tŷ gwydr (ar ôl y sector cyflenwi ynni). Fodd bynnag, yn 2020 y sector busnes oedd y ffynhonnell fwyaf o allyriadau yn dilyn gostyngiad mewn allyriadau o’r sector cyflenwi ynni. Roedd wedi ei ysgogi gan ostyngiad mewn hylosgi nwy naturiol (yn bennaf yn sgil gostyngiad mewn allbwn o orsaf bŵer Penfro), llai o allyriadau o brosesau puro petrolewm a chau gorsaf bŵer Aberddawan yn 2020 sy’n nodi diwedd cynhyrchu ynni mewn gorsafoedd pŵer glo yng Nghymru.

Image
Siart linell yn dangos gostyngiad sylweddol mewn Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr o fusnesau yng Nghymru rhwng 1999 a 2002, ac mae wedi parhau'n gymharol sefydlog yn y blynyddoedd diwethaf.

Moddau teithio

Mae rhai dulliau o deithio’n cyfrannu’n sylweddol at allyriadau carbon, ond nid oes tystiolaeth eto o symud oddi wrth geir fel y prif ddull o deithio ar y ffyrdd.

Mae teithio wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y pandemig, ac mae data’r Deyrnas Unedig yn awgrymu bod hyn wedi effeithio ar bob dull ar wahân i gerdded a beicio. Roedd lefel y traffig ar y ffyrdd yng Nghymru wedi gostwng 23.4% yn 2020. Roedd nifer y teithiau a wnaed ar wasanaethau bysiau lleol wedi gostwng 71.4%, a chyfanswm y pellter a deithiwyd gan wasanaethau bysiau lleol yn 2020-21 wedi gostwng 36.0% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae data mwy amserol y Deyrnas Unedig yn dangos bod traffig ffyrdd wedi adfer i lefelau tebyg i’r hyn a welwyd cyn y pandemig (ond gyda gostyngiad bach mewn teithiau ceir sydd wedi’i wrthbwyso gan gynnydd mewn traffig nwyddau). Fodd bynnag, mae trafnidiaeth gyhoeddus (trên a bws) yn parhau ar lefel sy’n is o lawer na’r hyn a welwyd cyn y pandemig.

Cafodd dangosydd cenedlaethol ar ganran y teithiau sy'n cael ei gwneud ar droed, ar gefn beic neu drafnidiaeth gyhoeddus ei ychwanegu at y set o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021. Daw’r data hwn o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Yn y tymor byr, gellir ystyried data o’r Arolwg o’r Llafurlu ynghylch dulliau teithio arferol i’r gwaith.

Fel yn y rhan fwyaf o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig y tu allan i Lundain, trafnidiaeth ffyrdd breifat yw’r brif ffordd o deithio o hyd, ac mae’n cyfrif am y mwyafrif llethol o deithiau cymudo yng Nghymru. Yn 2020, defnyddiodd 83% o gymudwyr yng Nghymru gar fel eu dull arferol o deithio. Mae hyn fymryn yn uwch nag yn y 5 mlynedd flaenorol, ond mae’n debygol ei fod yn sgil COVID-19.

Image
Siart gylch yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru (83%) yn teithio i'r gwaith mewn car yn 2020, roedd 9% yn cerdded, a'r gweddill yn teithio ar fws, rheilffordd neu feic.

Yn Arolwg Cenedlaethol (arolwg ar-lein) 2020-21, gofynnwyd i bobl am ymddygiad amgylcheddol fel rhan o fywyd bob dydd. Roedd 30% o bobl yn osgoi teithio mewn awyren neu'n teithio mewn awyren yn llai aml; ac roedd 39% yn osgoi teithio mewn car neu’n teithio mewn car yn llai aml. O’r rhai a oedd yn teithio mewn car yn llai aml, dywedodd chwarter ohonynt mai pryderon am lygredd/cyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd oedd y prif reswm am hynny; a dywedodd chwarter ohonynt mai cadw’n heini oedd y prif reswm. Y gost oedd y prif reswm i 18% o bobl. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth eto o ymddygiad o’r fath sy’n arwain at newid amlwg yn y patrymau teithio cyffredinol.

Bu cynnydd sylweddol yn nifer y cerbydau allyriadau isel iawn sydd newydd gael eu cofrestru yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’r nifer wedi cynyddu bron bum gwaith rhwng 2019 a 2021, i dros 6,000. Ar ddiwedd 2021, roedd dros 14,000 o gerbydau allyriadau isel iawn wedi’u trwyddedu yng Nghymru.

Dros amser, gallai dibynnu llai ar gerbydau petrol a disel a defnyddio mwy o gerbydau allyriadau isel iawn gyfrannu at ostyngiad mewn allyriadau.

Darllen pellach

Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o Tlodi incwm cymharol.

Mae Trosolwg o’r farchnad lafur yn rhoi diweddariad ar y farchnad lafur yng Nghymru bob mis.

Mae dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau yn dangos tueddiadau yn y canlyniadau economaidd allweddol i Gymru, o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig.

Mae Ystadegau Trafnidiaeth Prydain Fawr (Yr Adran Drafnidiaeth) yn gasgliad blynyddol o ystadegau trafnidiaeth, gan gynnwys data ar gyfer Cymru ar nifer o bynciau.

Ffynonellau data

Perfformiad economaidd

Gwerth ychwanegol gros rhanbarthol (wedi’i gydbwyso) y pen ac elfennau incwm (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Cynhyrchiant rhanbarthol ac is-ranbarthol yn y Deyrnas Unedig: Gorffennaf 2022 (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Incwm aelwydydd

Incwm gwario gros aelwydydd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Incwm gwario gros aelwydydd yn rhanbarthol, bwletinau ystadegol y Deyrnas Unedig (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Y farchnad lafur

Ystadegau’r farchnad lafur ranbarthol yn y DU: bwletinau ystadegol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Enillion a chyflogaeth o Wybodaeth Amser Real y Cynllun Talu Wrth Ennill, wedi’i addasu’n dymhorol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Cyfranogiad mewn addysg a’r farchnad lafur

Amcangyfrif o unigolion 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth yn ôl gweithgarwch economaidd a grwpiau oedran (StatsCymru)

Gwaith teg ac enillion

Cyfrifo’r Cyflog Byw Gwirioneddol (Living Wage Foundation)

Canran y bobl sy’n weddol fodlon neu’n fodlon iawn ar eu swyddi yn ôl oedran (StatsCymru)

Cyfran y cyflogeion y mae eu cyflog yn cael ei osod drwy gydfargeinio (Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion) (StatsCymru)

Canran y bobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol, 2012 i 2021 (StatsCymru)

Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (canolrif enillion yr awr ar gyfer gweithwyr amser llawn, heb gynnwys goramser) (StatsCymru)

Tlodi

Tlodi Incwm Cymharol (Adran Gwaith a Phensiynau)

Amddifadedd materol (Adran Gwaith a Phensiynau)

Tlodi parhaus, Deall cymdeithas (Adran Gwaith a Phensiynau)

Cymwysterau

Lefelau’r cymhwyster uchaf gan oedolion o oedran gweithio yn ôl blwyddyn a chymhwyster

Addysg

Cyflawniad academaidd disgyblion yn asesiad sylfaenol y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 3, 2022

Canlyniadau arholiadau: Medi 2019 i Awst 2020

Busnesau

Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yn ôl Blwyddyn (StatsCymru)

Teithio

Ystadegau Trafnidiaeth: Prydain Fawr 2021 (Yr Adran Drafnidiaeth)

Traffig ffyrdd: 2020

Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus, Ebrill 2020 i Fawrth 2021

Ystadegau cerbydau allyriadau isel iawn (Yr Adran Drafnidiaeth)

Cymru gydnerth

Y nod dros Gymru gydnerth

Awdur: Luned Jones

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, newid yn yr hinsawdd).

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Mae llawer o’r dangosyddion cenedlaethol a ddefnyddir i fesur cynnydd tuag at y nod hwn yn ddangosyddion tymor hir sy’n mesur newid graddol. Felly, caiff y dangosyddion hyn eu diweddaru o bryd i’w gilydd yn hytrach nag unwaith y flwyddyn.

O’r dangosyddion cenedlaethol a ddiweddarwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

  • roedd cynnydd bach yng nghyfran y cyrff dŵr wyneb a dŵr daear a gafodd statws da neu well yn 2021
  • gostyngodd y crynodiadau cyfartalog o nitrogen deuocsid a deunydd gronynnol y mae pobl yn agored iddynt rhwng 2019 a 2020; gall amrywiadau blynyddol fod oherwydd sawl ffactor gan gynnwys y tywydd
  • roedd gostyngiad sylweddol yn swm y gwastraff a gynhyrchir, nad yw’n cael ei ailgylchu, y pen, rhwng 2012 a 2019
  • parhaodd y gyfradd ailgylchu i gynyddu gyda bron i ddwy ran o dair o wastraff trefol yn cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio yn 2020-21. Roedd faint o wastraff trefol a gynhyrchwyd yr isaf a gofnodwyd
  • mae capasiti trydan wedi ei osod a chapasiti gwres wedi ei osod o ynni adnewyddadwy wedi cynyddu mymryn, ond yn arafach nag yn y blynyddoedd diwethaf; mae’r trydan adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu dros hanner (56%) y trydan sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae data ar gyfer rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at y nod Cymru gydnerth ar lefel fyd-eang. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau tymor hir i ansawdd aer, mwy o gapasiti ynni adnewyddadwy, llai o wastraff yn cael ei gynhyrchu a gwelliannau sylweddol mewn cyfraddau ailgylchu. Fodd bynnag, mae dangosyddion eraill yn dangos bod amrywiaeth fiolegol yn dirywio ar y cyfan a bod y rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth yn ystod y can mlynedd diwethaf.

Mae’r asesiad cynhwysfawr diweddaraf o adnoddau naturiol Cymru yn dangos bod amrywiaeth fiolegol yn dirywio ar y cyfan.

Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen.

Mae ansawdd ein dŵr, boed mewn moroedd, afonydd, nentydd neu’r ddaear, yn gwella’n gyffredinol.

Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl.

Mae Cymru wedi gweld gostyngiad o ran cynhyrchu gwastraff a gwelliannau sylweddol yng nghyfraddau ailgylchu gwastraff, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.

Mae capasiti trydan wedi ei osod o ynni adnewyddadwy yn parhau i gynyddu ond yn arafach nag yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn ogystal â’r dangosyddion cenedlaethol, mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn darparu asesiad cynhwysfawr o gynnydd yn erbyn pedwar nod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Bioamrywiaeth

Mae colli bioamrywiaeth yn cyflymu’n fyd-eang ac ar gyfraddau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Er bod gwelliant wedi bod yn statws poblogaethau rhai rhywogaethau yng Nghymru, mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn dangos bod bioamrywiaeth yn dirywio ar y cyfan. Roedd dangosydd arbrofol ar Statws Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2021 yn dangos bod dosbarthiad rhywogaethau yng Nghymru wedi dirywio dros y tymor hir ond ei fod yn sefydlog yn fwy diweddar. Mae dadansoddiad pellach o’r pwnc hwn ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru 2021.

Yn ogystal â’r dangosydd cenedlaethol ar fioamrywiaeth, mae cynlluniau ar waith sy’n monitro rhywogaethau penodol. Mae Cynllun Monitro Glöynnod Byw y Deyrnas Unedig yn gynllun monitro tymor hir. Mae’r tueddiadau ar gyfer rhywogaethau glöynnod byw y Deyrnas Unedig yn amrywio, gyda thua traean o’r rhywogaethau a aseswyd yn y Deyrnas Unedig yn dangos gostyngiad hirdymor sylweddol mewn niferoedd (34%), o’i gymharu â 29% yn dangos cynnydd hirdymor sylweddol. Fodd bynnag, dros y degawd diwethaf mae’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau’n sefydlog, gyda 7 rhywogaeth (13%) yn dangos cynnydd sy'n arwyddocaol yn ystadegol a dim un rhywogaeth yn dangos dirywiad sylweddol.

Mae’r prif ffactorau sy’n gyfrifol am ddirywiad hirdymor mewn niferoedd yn cynnwys newidiadau o ran graddfa, cyflwr a darnio cynefinoedd a ddaw yn sgil dwysau ffermio, newidiadau mewn arferion coedwigaeth, datblygiadau trefol, llygredd a newid yn yr hinsawdd. Mae rhai gyrwyr, fel newid yn yr hinsawdd, yn debygol o gael effeithiau cymysg yn dibynnu ar y rhywogaethau.

Mae’r Arolwg Adar Nythu yn gynllun monitro gwyddoniaeth y bobl sydd wedi bod ar waith ers 1994. Ledled y Deyrnas Unedig, mae 39 rhywogaeth wedi dangos cynnydd arwyddocaol yn ystadegol yn y tymor hir, ac mae 43 o rywogaethau wedi gweld dirywiad sylweddol yn y tymor hir. Mae cynnydd mewn poblogaethau yn cynnwys ymlediad cytrefwyr diweddar a rhywogaethau anfrodorol. Yng Nghymru, mae 17 o rywogaethau wedi gweld cynnydd arwyddocaol yn ystadegol yn y tymor hir ac 14 rhywogaeth wedi gweld dirywiad sylweddol yn y tymor hir.

Cynefinoedd a phridd

Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen.

Yn adroddiad Llesiant Cymru 2019, fe wnaethom adrodd bod 31% o’n tir yn cael ei ystyried yn lled-naturiol. Defnyddir y dangosydd cenedlaethol hwn i asesu cyfran ein tir sydd â chynefinoedd lled-naturiol, wedi eu haddasu llai gan mai’r rhain sydd fwyaf tebygol o ffurfio ecosystemau iach a chryf. Bydd dangosydd wedi ei ddiweddaru ar gael yn 2023.

Mae’r rhwydwaith Ardal Forol Warchodedig yn cynnwys 50% o ddyfroedd mewndirol ac alltraeth Cymru ac yn gwarchod cyfres gynrychioladol o gynefinoedd a rhywogaethau morol. Felly, mae sicrhau cyflwr ffafriol y safleoedd hyn yn allweddol i sicrhau cadernid cyffredinol moroedd Cymru. Ym mis Ionawr 2018, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru asesiadau cyflwr dangosol ar gyfer yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a’r Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig morol yng Nghymru. Aseswyd bod 46% o nodweddion morol mewn cyflwr boddhaol, 45% mewn cyflwr anfoddhaol a 9% yn anhysbys, gyda lefelau hyder sylfaenol yn cael eu haseinio i bob asesiad.

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru yr asesiad sylfaenol o safleoedd gwarchodedig Daearol a Dŵr Croyw yn 2021. Roedd gan oddeutu hanner y nodweddion ar y safleoedd hyn ddigon o wybodaeth i’w hasesu. Amcangyfrifir bod 20% o’r holl nodweddion mewn cyflwr boddhaol; mae tua 30% mewn cyflwr anfoddhaol ac mae tua 50% heb fod mewn cyflwr boddhaol.

Bydd pridd sy’n cael ei reoli’n dda yn diogelu’r bwyd sy’n cael ei gynhyrchu, yn cynnal cynefinoedd, yn helpu i reoli’r perygl o lifogydd ac yn lleihau costau trin dŵr. Mae’r dangosydd cenedlaethol ar bridd yn dangos bod crynodiad y carbon yn ein pridd yn sefydlog ar y cyfan, ar wahân i dir cynefin lle gwelwyd colli carbon yn ddiweddar.

Ansawdd dŵr a pherygl llifogydd

Mae ansawdd ein dŵr, boed mewn moroedd, afonydd, nentydd neu’r ddaear, yn gwella’n gyffredinol.

Mae dŵr yn un o adnoddau naturiol Cymru rydym yn dibynnu arno’n gyson, gan gynnwys ar gyfer dŵr yfed, yr economi, diwydiant, trin carthffosiaeth ac amaethyddiaeth.

Yn 2021-22 roedd Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy wedi darparu tua 900 megalitr y dydd (Ml/d) o ddŵr yfed i ateb y galw, gyda mwy o alw yn ystod y cyfnodau prysuraf fel yn ystod tywydd sych a phoeth neu fannau poblogaidd ymysg twristiaid. Amcangyfrifir bod cyfanswm y dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat (heb fod ar y prif gyflenwad) yn 13.8 Ml/d.

O ran statws cyffredinol ledled Cymru, roedd 40% o’r 933 o gyrff dŵr wyneb a dŵr daear â statws da neu well yn 2021. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 3 pwynt canran o’r hyn a adroddwyd yn 2015 a gwelliant o 8 pwynt canran ers 2009.

Mae dyfroedd ymdrochi o ansawdd da yn bwysig iawn i gymunedau'r arfordir, ymwelwyr a’r economi yng Nghymru. Mae ansawdd dŵr ymdrochi yn cael ei fonitro mewn 105 o safleoedd dynodedig ar hyd arfordir Cymru. Yn 2021, ar gyfer y pedwerydd tymor yn olynol, roedd holl ddyfroedd ymdrochi Cymru yn bodloni’r safonau a bennwyd gan y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi. Dyfarnwyd bod 85 yn rhagorol, 14 wedi cyflawni sgôr dda a 6 wedi cyrraedd y safon sylfaenol, ddigonol.

Image
Siart gylch yn dangos bod y rhan fwyaf o'r dyfroedd ymdrochi yng Nghymru (81%) wedi'u hasesu fel rhai rhagorol yn 2021.

Mae’r asesiad risg llifogydd diweddaraf yn dangos bod rhai cartrefi yng Nghymru mewn perygl o lifogydd oherwydd moroedd, afonydd a dŵr wyneb, gyda rhai mewn perygl o lifogydd oherwydd mwy nag un math o lifogi.

Yn 2019, roedd bron i 42,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd o afonydd a mwy na 60,000 o eiddo mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd llanw. Mae hyn yn cynnwys eiddo preswyl ac amhreswyl. O’r rhain, mae dros 20,000 yn elwa ar amddiffynfeydd rhag llifogydd afonydd a thros 50,000 ar amddiffynfeydd rhag llifogydd llanw. Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl ystyried tueddiadau dros amser oherwydd newidiadau yn y fethodoleg.

Ansawdd aer

Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl.

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar allyriadau nitrogen deuocsid (NO2) yn dangos bod y lefelau crynodiad cyfartalog y mae pobl yn agored iddynt wedi bod yn gostwng ar y cyfan dros y degawd diwethaf. Ar ôl cyfnod o sefydlogrwydd cymharol rhwng 2017 a 2019 (tua 9 µg/m3), gostyngodd y crynodiad cyfartalog i 7 µg/m3 yn 2020. Mae hyn yn cyd-fynd â’r gostyngiad mewn lefelau traffig ar y ffyrdd yn ystod cyfyngiadau COVID-19.  Gostyngodd y crynodiadau cyfartalog o ddeunydd gronynnol (PM10 a PM2.5) y mae pobl yn agored iddynt hefyd rhwng 2019 a 2020.

Ceir y crynodiadau uchaf o allyriadau nitrogen deuocsid mewn ardaloedd trefol a ger ffyrdd prysur, sy’n adlewyrchu cyfraniad traffig a gweithgareddau trefol at ansawdd aer gwael.

Mae llygredd aer yn cael effaith sylweddol ar iechyd y cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae 44 o ardaloedd rheoli ansawdd aer yng Nghymru. Dynodwyd un ohonynt oherwydd y risg i lefelau deunydd gronynnol PM10 fynd yn uwch na’r amcan ansawdd aer cymedrig dyddiol 24 awr ar gyfer PM10, a dynodwyd y gweddill lle bo lefelau NO2 yn uwch, neu â’r posibilrwydd o fod yn uwch, na'r amcanion ansawdd aer ar gyfer NO2.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod baich dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor hir yn cyfateb i 1,000 i 1,400 o farwolaethau (ar oedrannau nodweddiadol) bob blwyddyn.

Image
Siart linell yn dangos bod ansawdd yr aer wedi gwella'n fawr ers y 1970au, er ei fod wedi aros yn gymharol sefydlog yn y blynyddoedd diwethaf.

Gwastraff ac ailgylchu

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran rheoli gwastraff dros y degawd diwethaf drwy gynyddu faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu, a lleihau faint sy’n cael ei waredu. Mae Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu gwastraff cartrefi, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.

Roedd gostyngiad sylweddol yn swm y gwastraff a gynhyrchir, nad yw’n cael ei ailgylchu, y pen, rhwng 2012 a 2019 (o 794kg i 523kg).  Mae swm y gwastraff nad yw’n cael ei ailgylchu wedi gostwng ar gyfer pob un o’r tair elfen yn y dangosydd cenedlaethol hwn:

  1. gwastraff cartrefi
  2. gwastraff diwydiannol a masnachol
  3. gwastraff adeiladu a dymchwel

Gostyngodd cyfanswm y gwastraff a gynhyrchir yn y sectorau diwydiannol a masnachol rhwng arolygon 2012 a 2018, gyda dwy ran o dair o’r gwastraff hwn yn cael ei baratoi ar gyfer ei ailddefnyddio, ei ailgylchu a’i gompostio.

Roedd cyfanswm y gwastraff a gynhyrchwyd yn y sectorau adeiladu a dymchwel yn debyg yn arolygon 2012 a 2019, gyda chynnydd bach yng nghyfran y gwastraff a baratowyd ar gyfer ei ailddefnyddio, ei ailgylchu a’i gompostio.

Mae faint o wastraff trefol awdurdodau lleol a gynhyrchir yng Nghymru wedi gostwng yn raddol ers dechrau’r 2000au, gyda gostyngiad o 3% rhwng 2019-20 a 2020-21, i’r ffigur isaf i gael ei gofnodi hyd yma. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu canlyniadau 2020-21 â blynyddoedd blaenorol gan nad yw’n glir pa effeithiau sy’n rhai tymor byr oherwydd y pandemig a pha rai sy’n rhai tymor hwy. 

Cydnabyddir mai Cymru sydd â’r gyfradd ailgylchu gwastraff cartrefi uchaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r data diweddaraf yn dangos bod bron i ddwy ran o dair (65.4%) o wastraff trefol awdurdodau lleol wedi cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio yn 2020-21, sy’n debyg i’r gyfran flwyddyn yn gynharach.

Image
Siart far yn dangos bod canran y gwastraff trefol sydd wedi cael ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio yng Nghymru wedi cynyddu ar y cyfan o 32.4% yn 2012-13 i 65.4% yn 2020-21.

Fel rhan o Arolwg Cenedlaethol 2021-22, gofynnwyd i bobl am ymddygiad amgylcheddol fel rhan o fywyd bob dydd. Roedd bron i hanner (46%) y bobl yn prynu llai o eitemau newydd sbon. O’r rhain, dywedodd bron i draean (30%) mai cost oedd y prif reswm, nid oedd dros hanner (54%) angen prynu cynifer o bethau newydd, neu roeddent yn ffafrio trwsio a phrynu eitemau ail-law. Dywedodd 15% arall mai cyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd oedd y prif reswm dros brynu llai o eitemau newydd.

Mae’r mwyafrif helaeth o bobl (92%) naill ai wedi gwerthu neu roi eitemau i ffwrdd yn ystod y 12 mis blaenorol, gyda’r rhan fwyaf o ddulliau gwerthu neu roi eitemau i ffwrdd yn dangos cynnydd ers i’r cwestiynau gael eu gofyn ddiwethaf yn 2018-19. Mae dwy ran o dair o bobl naill ai wedi derbyn neu brynu eitemau ail-law yn ystod y 12 mis diwethaf (cynnydd o 57% yn 2018-19).

Cynhyrchu ynni adnewyddadwy

Mae capasiti prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru (trydan a gwres) wedi codi bron i bedair gwaith yn uwch yn y degawd diwethaf, er bod y cynnydd wedi arafu dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd tua 33% o’r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru yn deillio o ffynonellau adnewyddadwy yn 2020. Mae’r trydan adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu yn cyfateb i tua 56% o'r trydan sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru.

Ar ddiwedd 2020, roedd y capasiti trydan wedi ei osod ar gyfer ynni adnewyddadwy yn 3,417 megawat (MW). Mae hyn 1% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol a thros ddwywaith y capasiti yn 2012. Mae ynni gwynt yn cyfrif am bron i 59% y capasiti trydan adnewyddadwy a 69% o’r trydan adnewyddadwy a gynhyrchir.

Mae Cymru’n cynhyrchu 67% yn fwy o drydan nac y mae’n ei ddefnyddio, sy’n golygu ei bod yn allforiwr net trydan.

Ar ddiwedd 2020, roedd cyfanswm y capasiti gwres adnewyddadwy yng Nghymru yn 716 MW. Mae hyn 4% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol a thros ddeuddeg gwaith y capasiti gwres yn 2012.

Image
Siart far yn dangos cynnydd sylweddol mewn capasiti gwres a thrydan adnewyddadwy yng Nghymru rhwng 2012 a 2020.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, roedd 62% o bobl yn defnyddio llai o ynni yn eu cartrefi. O’r rhain, cost oedd y rheswm a roddwyd gan 62% o bobl. Dywedodd chwarter o bobl mai cyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd oedd y rheswm dros ddefnyddio llai o ynni. Gofynnwyd y cwestiynau hyn cyn y codiadau diweddar mewn prisiau ynni.

Darllen pellach

Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o:

  • llifogydd
  • tlodi tanwydd
  • cynefinoedd lled-naturiol
  • bioamrywiaeth
  • mannau gwyrdd
  • ansawdd pridd
  • effeithlonrwydd ynni cartrefi

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 (Cyfoeth Naturiol Cymru) yn darparu asesiad cynhwysfawr o’r graddau y mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn darparu data ar safbwyntiau pobl ar faterion amgylcheddol.

Nature Positive 2030 Evidence Report: a gynhyrchwyd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot a’r Northern Ireland Environment Agency. 

Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Ffynonellau data

Cymru iachach

Y nod ar gyfer Cymru iachach

Awdur: Dr William Perks

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle mae modd deall dewisiadau ac ymddygiad sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Mae’r holl ddata sydd wedi ei gynnwys yn y bennod hon nawr yn dangos effaith o leiaf un cyfnod ym mhandemig y coronafeirws (COVID-19).

Gwelwyd gostyngiad mewn disgwyliad oes yn y cyfnod diweddaraf sydd ar gael (2018-20), sy’n cynnwys rhan o gyfnod pandemig COVID-19.

Mae disgwyliad oes yn uwch i ferched, ond mae cyfran y bywyd a dreulir mewn iechyd da yn uwch i ddynion.

Mae dadansoddiad diweddar (yn seiliedig ar y cyfnod rhwng 2018 a 2020) yn dangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig wedi aros yn eang ond yn gymharol sefydlog.

Yn 2021, roedd 36,135 o farwolaethau o bob achos, gostyngiad o'i gymharu â'r nifer uchel o farwolaethau a welwyd yn 2020. COVID-19 oedd y pedwerydd achos marwolaeth uchaf yn y flwyddyn hyd yma.

Roedd y gyfradd marwolaethau yr oedd modd eu hosgoi yng Nghymru yn 2020 yn uwch na’r holl flynyddoedd ers 2012.

Gwelwyd cynnydd bychan yn nifer y genedigaethau byw; y flwyddyn gyntaf nad yw’r nifer wedi gostwng ers 2010.

Roedd canlyniadau cymysg ar gyfer ymddygiad ffordd iach o fyw menywod beichiog yn yr asesiad cychwynnol, gyda chanran is o fenywod yn dweud eu bod yn ysmygu, ond canran uwch yn cael eu cofnodi fel rhai sy'n ordew neu gyda chyflwr iechyd meddwl nag yn y flwyddyn flaenorol.

Roedd y mwyafrif (93%) o oedolion yn dweud eu bod yn dilyn dau neu fwy o’r pum ymddygiad ffordd o fyw iach. Nid yw canran y plant sy’n rhoi gwybod am hyn wedi newid.

Roedd oedolion a phobl ifanc rhwng 11 i 16 oed wedi nodi lefelau is o lesiant yn ystod y pandemig, o’i gymharu â chanlyniadau o’r cyfnodau blaenorol.

Roedd data ynghylch lefelau boddhad â bywyd a gorbryder, sy’n ymwneud â’r rhan fwyaf o flwyddyn gyntaf y pandemig (2020-21), wedi gweld pethau’n dirywio i lefelau gwaeth na’r hyn a welwyd yn 2011-12. Mae data mwy diweddar o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22 yn awgrymu y gallai bodlonrwydd bywyd fod wedi dychwelyd yn gyffredinol i lefelau cyn y pandemig.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Ymddengys fod rhywfaint o gynnydd wedi ei wneud tuag at gyflawni’r nod, gyda nifer o ddangosyddion cenedlaethol Cymru iachach yn aros yn weddol sefydlog a ddim yn dangos newid sylweddol dros y cyfnodau y maent ar gael. Fodd bynnag, nid yw llawer o’r dangosyddion eto’n cynnwys cyfnod digon hir nac aml i ganfod tuedd hirdymor.

Mae’r pandemig wedi cael effaith amlwg ar nifer o’r tueddiadau yn y data diweddaraf, ac nid yw’r goblygiadau ar gyfer tueddiadau tymor hwy yn glir. Am y rheswm hwn, mae’r casgliadau hirdymor canlynol yn cael eu llunio’n bennaf ar sail tystiolaeth cyn y pandemig.

Roedd disgwyliad oes wedi bod yn codi ers yr Ail Ryfel Byd, er bod hynny’n arafach dros y degawd diwethaf. Fodd bynnag, mae wedi disgyn ar gyfer y cyfnod mwyaf diweddar, sy'n adlewyrchu effaith pandemig COVID-19 yn ôl pob tebyg.

Mae disgwyliad oes iach yn parhau i fod yn waeth i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, ond mae wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2011 i 2013 a 2018 i 2020.

Dros y tymor hir mae cyfraddau marwolaeth safonedig yn ôl oedran wedi bod yn gwella, gan ostwng o 1,406 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl ym 1994 i 1,062 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl yn 2021. Mae’r cynnydd yn nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r pandemig wedi cael effaith negyddol ar hyn dros y ddwy flynedd diwethaf.

Mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni gyda phwysau geni isel wedi aros yn gymharol sefydlog dros y gyfres amser, fel arfer yn amrywio rhwng 5% a 6%, er ei bod wedi gweld cynnydd bach yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn y ffigurau isaf yn 2014 a 2015.

Oherwydd y newid ym modd Arolwg Cenedlaethol Cymru, nid yw’n bosibl ystyried tueddiadau diweddar ar gyfer mesurau ffordd o fyw iach i oedolion. Cyn y pandemig, rhwng 2016-18 a 2019-20, nid oedd newid sylweddol yng nghyfran yr oedolion a ddywedodd fod ganddynt ddau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iach.

Nod y garreg filltir genedlaethol yw cynyddu canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050. Mae’r data’n dangos bod canran y plant sy’n cyrraedd y garreg filltir genedlaethol yn dal yn 88% ym mlwyddyn academaidd 2019 ac mae wedi aros yn gymharol sefydlog ers dechrau casglu data yn ystod blwyddyn academaidd 2013/14.

Roedd llesiant meddyliol oedolion ar gyfartaledd wedi gostwng ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf 2021 ac Ionawr 2022 o’i gymharu â 2018-19, a oedd ynddo’i hun yn gynnydd bach o’i gymharu â 2016-17. Fodd bynnag, oherwydd y gwahaniaeth yn y modd casglu a’r newid gwirioneddol posibl oherwydd y pandemig, mae’n anodd cymharu’r dangosydd hwn yn y tymor hwy.

Nid oedd data arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion a gasglwyd ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 i 16 oed cyn COVID-19 yn dangos llawer o newid mewn llesiant meddyliol o’r blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, o ran oedolion, mae data mwy diweddar a gasglwyd rhwng mis Medi i Rhagfyr 2021 yn dangos gostyngiad yn y sgôr gyfartalog ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 i 16 oed o’i gymharu â'r cyfnod cyn y pandemig.

Roedd bodlonrwydd ar fywyd ar gyfartaledd wedi bod yn cynyddu ers 2011-12, gyda lefelau gorbryder yn gostwng rhywfaint ar gyfartaledd. Fodd bynnag, gwelodd y flwyddyn cyn y pandemig rywfaint o ostyngiad mewn lefelau bodlonrwydd ar fywyd a gorbryder. Parhaodd y duedd hon ym mlwyddyn gyntaf y pandemig, gyda boddhad â bywyd a gorbryder yn dirywio i lefelau gwaeth na’r hyn a welwyd yn 2011-12. Mae data mwy diweddar o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22 yn awgrymu y gallai bodlonrwydd bywyd fod wedi dychwelyd yn gyffredinol i lefelau cyn y pandemig.

Mae cyflwr tai peryglus wedi gwella yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Dangosodd yr Arolwg Cyflwr Tai Cymru diweddaraf nad oedd y peryglon mwyaf difrifol (categori 1) i’w gweld mewn 82% o’r anheddau yn 2017-18, o’i gymharu â 71% yn 2008. Gwelwyd gwelliannau ym mhob deiliadaeth.

Disgwyliad oes

Roedd disgwyliad oes wedi bod yn codi ers yr Ail Ryfel Byd, er bod hynny’n arafach dros y degawd diwethaf.

Mae dadansoddiad yn dangos mai dynion a menywod rhwng 60-84 oed sy’n cyfrannu fwyaf at gynyddu disgwyliad oes, ond mae’r gwelliannau hyn wedi arafu’n sylweddol.

Gwelwyd gostyngiad mewn disgwyliad oes yn y cyfnod diweddaraf sydd ar gael (2018-20), sy’n cynnwys rhan o gyfnod pandemig COVID-19, o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol (2017 i 2019).

Roedd disgwyliad oes adeg geni yn 82 oed i fenywod a 78 oed i ddynion yn 2018-20. Roedd hyn yn ostyngiad bach i ddynion a menywod, yn dilyn cyfraddau marwolaeth uwch yn 2020 yn ystod pandemig COVID-19.

Roedd disgwyliad oes iach yn 62 oed i fenywod a 61 oed i ddynion yn 2018 i 2020.

Image
Siart linell yn dangos bod y cynnydd mewn disgwyliad oes ar gyfer gwrywod a benywod wedi darfod yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae wedi gostwng yn ystod y cyfnod diweddaraf, gan adlewyrchu effaith pandemig COVID-19.

Achosion marwolaethau

Yn 2021, roedd 36,135 o farwolaethau o bob achos, a oedd yn ostyngiad o’i gymharu â’r nifer uchel o farwolaethau a welwyd yn 2020.

Mae’r cyfartaledd dros bum mlynedd ar gyfer 2022 wedi cael ei ddarparu ar gyfer 2016 i 2019 a 2021, gan ddarparu cymhariaeth gyfredol sy’n dal yn agos at gynrychioli blwyddyn arferol (heb fod yn y pandemig), ond heb gynnwys y nifer eithriadol o uchel o farwolaethau a welwyd yn 2020.

Roedd y nifer uchaf o farwolaethau yn ystod y flwyddyn hyd yma (Ionawr i Orffennaf 2022) yn sgil clefydau isgemia’r galon, ac wedyn dementia a chlefyd Alzheimer. COVID-19 oedd y pedwerydd achos uchaf o farwolaeth yn y flwyddyn hyd yma ar ôl bod yn brif achos marwolaeth yn 2020 a’r ail achos uchaf o farwolaeth yn 2021.

Mae cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran yn caniatáu i ni wneud cymariaethau dros amser ac ardal am eu bod yn ystyried maint y boblogaeth a’r strwythur o ran oedran.

Dros y tymor hir mae cyfraddau marwolaeth safonedig yn ôl oedran wedi bod yn gwella, gan ostwng o 1,406 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl ym 1994 i 1,062 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl yn 2021. Ond mae’r cynnydd yn nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r pandemig wedi cael effaith negyddol ar hyn dros y ddwy flynedd diwethaf.

Yn 2021, roedd y cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran yn sylweddol uwch ar gyfer dynion (1,234.6 o farwolaethau am bob 100,000 o ddynion) nag ar gyfer menywod (916.6 o farwolaethau am bob 100,000 o fenywod).

Yn 2020, roedd y gyfradd marwolaethau yr oedd modd eu hosgoi yng Nghymru yn llawer uwch yn ystadegol na’r holl flynyddoedd ers 2012. Priodolwyd tua dwy ran o dair o farwolaethau yr oedd modd eu hosgoi i gyflyrau y gellir eu hatal, ac un rhan o dair i rai yr oedd modd eu trin.

Gan edrych ar grwpiau eang o achosion marwolaeth, neoplasmau oedd prif achos marwolaethau yr oedd modd eu hosgoi. COVID-19 oedd y trydydd achos mwyaf cyffredin.

Yn 2021, roedd 322 o farwolaethau yn sgil gwenwyno gan gyffuriau wedi eu cofrestru yng Nghymru, ac roedd 210 ohonynt yn farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau. Mae’r duedd gyffredinol mewn marwolaethau o ganlyniad i wenwyno gan gyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru wedi bod yn uwch ers yr ystadegau cyntaf yn 1993. Y ffigurau ar gyfer 2021 yw’r ail uchaf a gofnodwyd o ran gwenwyno gan gyffuriau (bron yn cyrraedd uchafbwynt 2018), a’r uchaf erioed o ran camddefnyddio cyffuriau.

Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar y flwyddyn y cofrestrwyd y farwolaeth, yn hytrach na phan ddigwyddodd y farwolaeth. Oherwydd oedi wrth gofrestru, digwyddodd tua hanner y marwolaethau hyn mewn blynyddoedd cyn 2021. Mae oedi wrth gofrestru marwolaethau, a gynyddodd yn ystod pandemig COVID-19, yn debygol o fod wedi effeithio ar y ffigurau.

Roedd marwolaethau oherwydd cyffuriau yn fwy cyffredin ymysg dynion na menywod a gwelwyd cyfraddau uwch o farwolaethau o ganlyniad i wenwyno gan gyffuriau mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Dros y tymor hir mae cyfraddau hunanladdiad wedi amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond ar y cyfan maen nhw wedi bod yn gostwng. Dangosodd cofrestriadau 2021 fod cyfraddau hunanladdiad (12.7 i bob 100,000 o bobl) yn uwch (er nad oedd yn arwyddocaol yn ystadegol) na 2020 ond yn debyg i'r lefelau a welwyd mewn blynyddoedd cyn y pandemig. Mae'r cynnydd yn 2021 o'i gymharu â 2020 yn debygol o adlewyrchu aflonyddwch i gwestau crwneriaid a achoswyd gan y pandemig gan arwain at oedi yn cofrestru marwolaethau. Mae'r ffigyrau diweddaraf yn cynnwys marwolaethau a fu yn 2020 ac a gafodd eu cofrestru'n ddiweddarach yn 2021.Er bod cynnydd bach yn 2020, mae cyfraddau marwolaethau sy’n ymwneud ag alcohol wedi bod yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.

Image
siart cylchoedd a llinellau yn dangos y deg prif achosion marwolaeth yn y flwyddyn hyd yma, o gymharu â chyfartaledd 2016-2019 a 2021

Anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes a marwolaeth

Mae llawer o anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes a marwolaeth o hyd.

Mae dadansoddiad diweddar (yn seiliedig ar y cyfnod rhwng 2018 a 2020) yn dangos bod y bwlch cyffredinol mewn disgwyliad oes iach rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2011-2013 a 2018-2020. Mae’n ymddangos bod y bwlch hwn wedi lleihau ychydig yn y cyfnod diweddaraf ar gyfer dynion (13.3 mlynedd) ac wedi cynyddu ychydig ar gyfer menywod (16.9 mlynedd).

Mae’r bwlch disgwyliad oes yn llawer llai, sef 7.6 mlynedd i ddynion a 6.3 mlynedd i fenywod. Ond mae wedi bod yn cynyddu’n gyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddynion a menywod, sy’n awgrymu bod anghydraddoldeb cynyddol.

Mae rhagor o ddadansoddiadau o’r bwlch mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach gan y bwrdd iechyd a’r awdurdod lleol i’w gweld yn y proffil disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda’r bwlch anghydraddoldeb gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae dynion yn treulio mwy o’u bywyd mewn iechyd da (78.5%) o’i gymharu â menywod (76.0%).

Roedd cyfran y marwolaethau roedd modd eu hosgoi wedi parhau i fod yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’i gymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Roedd marwolaethau roedd modd eu hosgoi yn cyfrif am 37.0% o’r holl farwolaethau ymysg dynion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’i gymharu â 18.9% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Ar gyfer menywod, roedd y ffigurau cyfatebol yn 25.7% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a 14.1% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mae’r bwlch absoliwt mewn marwolaethau y mae modd eu hosgoi rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r lleiaf difreintiedig wedi cynyddu i’r lefel uchaf ers 2003 ar gyfer dynion ac ers i’r gyfres amser data ddechrau ar gyfer menywod.

Roedd cyfraddau marwolaethau yr oedd modd eu hosgoi gyda COVID-19 fel achos marwolaeth sylfaenol yn llawer uwch yn ystadegol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’u cymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Image
Siart linell yn dangos bwlch absoliwt mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach ar gyfer gwrywod a benywod rhwng 2011-2013 a 2018-2020

Cyfrifir y bwlch mewn disgwyliadau iechyd fel y gwahaniaeth absoliwt rhwng y pumed lleiaf a’r mwyaf difreintiedig. Mae’r dull hwn wedi newid ers i ddisgwyliadau iechyd blaenorol gael eu rhyddhau, a hynny er mwyn gwella sefydlogrwydd y mesur ar lefel awdurdod lleol. Defnyddiwyd Mynegai Oleddol Anghydraddoldeb (SII) i gyfrifo’r bwlch yn flaenorol. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i gyhoeddi’r SII ar lefel genedlaethol fel rhan o’i datganiad ar ddisgwyliad oes a chyflwr iechyd.

Pwysau geni isel

Mae canran y babanod pwysau geni isel wedi aros yn gymharol sefydlog dros y gyfres amser, fel arfer yn amrywio rhwng 5% a 6%.

Cofnodwyd y ffigurau isaf yn y cofnodion yn 2014 a 2015. Ers hynny, mae cynnydd bach wedi bod yn nifer y babanod pwysau geni isel, gyda 2020 ar ei uchaf erioed, cyn disgyn yn ôl eto yn 2021.

Yn 2021, roedd gan ganran ychydig yn uwch o fabanod benyw bwysau geni isel (6.2%) o’i gymharu â babanod gwryw (5.3%). Mae hyn yn weddol gyson â’r duedd dros dymor hirach.

Roedd cyfran y genedigaethau byw â phwysau geni isel neu oed ffetws isel ar ei huchaf ymhlith y mamau ieuengaf a’r mamau hynaf yn 2021, er mai dim ond nifer fach o enedigaethau i famau sydd yn y grwpiau oedran hyn. Mae canran y babanod sydd ag oed ffetws isel a chanran y babanod sydd â phwysau geni isel wedi aros yn weddol sefydlog ar draws y grwpiau oedran dros y 10 mlynedd diwethaf.

Hefyd yn 2021, roedd pwysau geni isel gan ganran uwch (8.4%) o fabanod Asiaidd o’i gymharu â grwpiau ethnig eraill. Mae nifer y babanod â phwysau geni isel y flwyddyn yng Nghymru yn isel pan fyddant yn cael eu categoreiddio yn ôl grŵp ethnig, felly gall fod newidiadau cymharol fawr o flwyddyn i flwyddyn yn sgil anwadalrwydd naturiol. Fodd bynnag, roedd gan gyfran fwy o fabanod Asiaidd bwysau geni isel nag unrhyw grŵp ethnig arall mewn tair o’r pedair blynedd y mae data ar gael (sy'n dechrau yn 2018).

Gwelwyd manteision iechyd i fabanod a’u mamau yn sgil bwydo ar y fron. Yn ystod y degawd diwethaf, mae cyfraddau bwydo ar y fron adeg geni wedi bod yn cynyddu. Roedd y data blynyddol diweddaraf yn 2021 yn dangos bod canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron adeg geni tua 64%. Mae hyn 3.0 pwynt canran yn uwch nag yn 2016. Mae babanod mamau hŷn yn fwy tebygol o gael eu bwydo ar y fron na rhai mamau iau.

Image
Siart linell yn dangos canran y genedigaethau sengl byw a oedd yn pwyso o dan 2,500g. Mae'r gyfradd wedi amrywio rhwng 5% a 6% dros y cyfnod dan sylw, gyda rhywfaint o duedd ar i fyny ers 2014.

Iechyd mamau

Yn 2021, roedd y data yn dangos canlyniadau cymysg ar gyfer ymddygiad iach menywod beichiog yn yr asesiad cychwynnol, gyda chanran is o fenywod yn dweud eu bod yn ysmygu, ond canran uwch yn cael eu cofnodi fel rhai sy'n ordew nag yn y flwyddyn flaenorol.

Yn 2021, cafodd 15% o fenywod beichiog eu cofnodi fel ysmygwyr yn eu hasesiad cychwynnol. Mae hyn yn cyflymu’r duedd ar i lawr ers i ddata gael ei gasglu am y tro cyntaf yn 2016, ac mae’n ddau bwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod y ffaith bod bron yr holl ddata yn cael ei hunan-adrodd yn effeithio ar y gostyngiad mawr yn 2021, yn hytrach na bod carbon monocsid yn cael ei fonitro.

Roedd cyfran uwch o fenywod iau yn dweud eu bod yn ysmygu yn yr asesiad cychwynnol o’i gymharu â menywod hŷn. Cofnodwyd bod traean (33%) o fenywod rhwng 16 a 19 oed yn ysmygu yn yr asesiad cychwynnol o’i gymharu ag un o bob deg (10%) o fenywod 30 oed neu hŷn. Mae cyfraddau ysmygu yn yr asesiad cychwynnol wedi gostwng dros y pum mlynedd diwethaf ar gyfer pob grŵp oedran, (ac eithrio’r rhai o dan 16 oed, sy’n ddarostyngedig i anwadalrwydd o un flwyddyn i’r llall oherwydd y nifer isel o fenywod yn y grŵp hwn).

Roedd gan dri o bob deg (30%) o fenywod beichiog fynegai màs y corff (BMI) o 30 neu fwy yn yr asesiad cychwynnol. Parhaodd y duedd ar i fyny yn y tymor hwy gan fod y ganran yn 2021 un pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol a thri phwynt canran yn uwch nag yn 2016 (blwyddyn gyntaf y data cymaradwy).

Dywedodd bron i dri o bob deg (29%) o fenywod beichiog fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol. Parhaodd y duedd ar i fyny yn y tymor hwy, gyda’r data diweddaraf ddau bwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol, a deg pwynt canran yn uwch nag yn 2016 (blwyddyn gyntaf y data cymaradwy).

Gwelwyd cynnydd bychan yn nifer y genedigaethau byw; y flwyddyn gyntaf nad yw’r nifer wedi gostwng ers 2010. Mae canran y babanod newydd-anedig o bob cefndir ethnig wedi aros fwy neu lai yr un fath ers 2018.

Mae canran y mamau ifanc yn parhau i ostwng. Roedd y rhan fwyaf o famau a oedd yn rhoi genedigaeth yn ystod y flwyddyn rhwng 25 a 34 oed, ac roedd mwy o famau’n 40 oed neu’n hŷn nac yn 19 oed neu’n iau am y tro cyntaf erioed.

Ymddygiadau ffordd o fyw iach

Cafodd Arolwg Cenedlaethol Cymru ei addasu oherwydd y pandemig, gyda newid ym modd yr arolwg (cyfweliadau dros y ffôn yn hytrach na chyfweliadau wyneb yn wyneb) a newidiadau i rai cwestiynau o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Mae rhai canlyniadau o’r cyfnod cyn y pandemig yn cael eu darparu er mwyn ychwanegu cyd-destun at y data mwy diweddar hwn. Fodd bynnag, gan fod y pynciau hyn yn gallu bod yn sensitif i newidiadau o’r fath, nid yw’n bosibl cymharu’r canlyniadau’n uniongyrchol â data o flynyddoedd cyn 2020-21.

Mae’r data a gyflwynir yma ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022.

Roedd y mwyafrif (93%) o oedolion yn dweud eu bod yn dilyn dau neu fwy o’r pum ymddygiad ffordd o fyw iach. Mae hyn yn cynnwys peidio ag ysmygu, yfed o fewn y canllawiau wythnosol, bwyta pum dogn neu fwy o ffrwythau neu lysiau, bod yn gorfforol egnïol am 150 munud neu fwy'r wythnos flaenorol, a bod yn bwysau iach. Roedd 30% o oedolion yn dilyn pedwar neu bump o’r ymddygiad ffordd iach o fyw

Image
Mae'r llun hwn yn dangos gwybodaeth am ffordd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd ymhlith oedolion 87% ddim yn ysmygu 84% yn yfed yn ôl y canllawiau wythnosol 56% wedi bod yn egnïol am o leiaf 150 munud yr wythnos cynt 30% wedi bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau neu lysiau 36% â mynegai màs corff iach 93% yn dilyn 2 neu fwy ymddygiadau ffordd iach o fyw

Yn 2021-22, roedd canran yr oedolion â dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy yn is ymysg dynion (o’i gymharu â menywod), pobl rhwng 45 i 65 oed (o’i gymharu â’r rhai mewn grwpiau oedran iau neu hŷn) a phobl o ardal lai difreintiedig (o’i gymharu â’r rhai o ardal fwy difreintiedig).

Nod y garreg filltir genedlaethol ar ymddygiad iach plant yw cynyddu canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050.

Dangosodd arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion fod canran y plant 11 i 16 oed sy’n cyrraedd y garreg filltir genedlaethol yn dal yn 88% yn 2019 ac mae wedi aros yn sefydlog ers dechrau casglu data yn ystod blwyddyn academaidd 2013/14.

Mae’r ymddygiadau iach dan sylw yn cynnwys peidio ag ysmygu, peidio ag yfed alcohol neu beidio â’i yfed yn aml, bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd a bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy, saith diwrnod yr wythnos. Ar gyfer yr ymddygiadau sylfaenol hyn yn 2019:

  • roedd 94% o blant rhwng 11 i 16 oed yn dweud nad oeddent yn ysmygu
  • roedd 81% o blant rhwng 11 i 16 oed yn dweud nad oeddent yn yfed alcohol neu nad oeddent yn ei yfed yn aml
  • roedd 48% o blant rhwng 11 i 16 oed yn dweud eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd
  • roedd 18% o blant rhwng 11 i 16 oed yn dweud eu bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy, saith diwrnod yr wythnos

Yn 2019, gostyngodd canran y plant â dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd ac i raddau llai yn ôl golud teuluol is. Fodd bynnag, nid oedd gwahaniaethau mawr rhwng menywod a bechgyn.

Mae lefelau gweithgarwch corfforol yn gostwng yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd, ac mae bechgyn (yn hytrach na menywod) a’r rhai sy’n dod o gefndir o olud teuluol uchel (yn hytrach na golud teuluol isel) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy bob dydd.

Mae canran y plant sy'n dweud eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd hefyd yn gostwng yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd, gyda menywod (yn hytrach na bechgyn) a’r rhai sy’n dod o gefndir o olud teuluol uchel (yn hytrach nag un isel) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd.

Gostyngodd canran y plant sy'n dweud nad ydynt yn ysmygu yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd. Roedd menywod (o’i gymharu â bechgyn) a’r rhai o gefndir o olud teuluol uchel (o’i gymharu â golud teuluol isel) yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent yn ysmygu.

Gostyngodd canran y plant sy'n dweud nad ydynt byth neu’n anaml yn yfed alcohol yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd. Nid oedd llawer o wahaniaeth rhwng bechgyn a menywod. Fodd bynnag, roedd y rhai o gefndir o olud teuluol isel yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent byth neu’n anaml yn yfed alcohol (o’i gymharu â golud teuluol uchel).

Image
Siart linell yn dangos canran y plant sy'n yfed yn blant nad ydynt yn ysmygu, sy'n actif bob dydd, sy'n bwyta ffrwythau a llysiau bob dydd a byth yn yfed alcohol neu ddim yn yfed alcohol yn aml, rhwng blynyddoedd academaidd 2013/14 a 2019/20.

Iechyd meddwl a llesiant ymysg oedolion

Oherwydd y pandemig, mae’r Arolwg Cenedlaethol wedi cael ei gynnal dros y ffôn yn hytrach nag wyneb yn wyneb. O ganlyniad, nid yw’r dangosydd cenedlaethol ar lesiant meddyliol (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick Caeredin ar gyfer oedolion) wedi cael ei ddiweddaru fel arfer.

Fodd bynnag, rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Ionawr 2022, cafodd arolwg ar-lein dilynol ei dreialu, lle’r oedd sampl o tua 2,000 o ymatebwyr wedi cwblhau set ychwanegol o gwestiynau ar ôl cwblhau’r arolwg dros y ffôn.

Mae canlyniadau’r cyfnod sy’n cynnwys rhan o’r pandemig i’w gweld isod, ynghyd â rhai canlyniadau o flynyddoedd blaenorol er mwyn rhoi cyd-destun. Fodd bynnag, oherwydd y gwahaniaeth yn y modd a’r newid gwirioneddol posibl oherwydd y pandemig, dylid cymryd gofal wrth wneud cymariaethau uniongyrchol.

Gofynnwyd i bobl am eu lles meddyliol a defnyddiwyd WEMWBS i sgorio’r canlyniadau. Mae sgôr uwch (58 i 70) yn awgrymu lles meddyliol uchel, ac mae sgorio 44 neu is yn awgrymu lles meddyliol isel. Mae sgôr rhwng 45 a 57 yn awgrymu bod gan yr unigolyn les meddyliol canolig.

Y sgôr WEMWBS gyffredinol rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Ionawr 2022 oedd 49. Mae hyn yn is na 2018-19 pan oedd y sgôr ar gyfartaledd yn 51. Canfuwyd bod llesiant 30% o bobl yn isel, 54% yn ganolig, a 16% yn uchel.

Ar gyfartaledd, mae llesiant pobl iau yn is, gyda sgôr o 47 i’r rhai rhwng 25 a 44 oed, o’i gymharu â sgôr o 52 ar gyfer y rhai sydd dros 75 oed.

Mae pobl sy’n disgrifio eu hiechyd cyffredinol fel gwael neu wael iawn yn sgorio 39, sy'n sgôr is na phobl sydd â gwell iechyd cyffredinol.

Mae llesiant meddyliol pobl sy’n dweud eu bod yn unig hefyd yn is ar gyfartaledd (39) na’r rhai sydd weithiau’n unig (53) neu byth yn unig (49).

Mae’r rhyngweithio dan sylw ag oedran ac iechyd yn dangos yr un duedd ag yn 2018-19, ond gyda sgoriau cyfartalog is ym mhob categori sy’n cyfateb i lesiant is. Efallai y bydd effeithiau’r pandemig yn egluro’r gostyngiad hwn, ond dylid hefyd ystyried y newid ym modd wrth gymharu’r canlyniadau.

Roedd bodlonrwydd ar fywyd ar gyfartaledd wedi bod yn cynyddu ers 2011-12, gyda lefelau gorbryder yn gostwng rhywfaint ar gyfartaledd. Fodd bynnag, gwelodd y flwyddyn cyn y pandemig rywfaint o ostyngiad mewn lefelau bodlonrwydd ar fywyd a gorbryder. Parhaodd y duedd hon yn y data mwyaf diweddar sy’n ymwneud â’r rhan fwyaf o flwyddyn gyntaf y pandemig, gyda boddhad â bywyd a gorbryder yn dirywio i lefelau gwaeth na’r hyn a welwyd yn 2011-12.

Iechyd meddwl a llesiant plant

Mae data dangosyddion cenedlaethol  ar gyfer plant rhwng 10 a 15 oed, a gasglwyd cyn y pandemig (blwyddyn academaidd 2019/20), yn dangos mai ychydig o newid sydd wedi bod yn sgôr gymedrig yr holiadur cryfderau ac anawsterau ers blwyddyn academaidd 2013/14.  

Fodd bynnag, o ran oedolion, mae data arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion mwy diweddar a gasglwyd rhwng mis Medi to Rhagfyr 2021 yn dangos gostyngiad mewn lles meddyliol ymysg plant rhwng 11 i 16 oed (fel sy'n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Edinburgh (SWEMWBS)), o’i gymharu â chyn y pandemig

Roedd sgôr gyfartalog SWEMWBS ar gyfer plant rhwng 11 i 16 oed ychydig yn is yn 2021 (23.0), o’i gymharu â 2019 (23.7). Er ei fod yn ymddangos fel gostyngiad bach, o ystyried y sampl fawr mae’n ddirywiad arwyddocaol yn ystadegol mewn llesiant meddyliol.

Roedd y dadansoddiadau yn ôl rhywedd a grŵp blwyddyn yn dangos bod y rhai nad ydynt yn ystyried eu hunain yn fachgen nac yn ferch yn dweud bod eu llesiant meddyliol yn isel, a bod merched yn adrodd ar les is na bechgyn. Mae sgoriau llesiant meddyliol yn gostwng yn ôl oedran.

Mae tueddiadau yn ôl ethnigrwydd yn dangos gostyngiad cymharol llai mewn llesiant meddyliol rhwng 2019 a 2021 ymysg myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o’i gymharu â myfyrwyr Gwyn.

Roedd dadansoddiad yn ôl golud teuluol yn dangos gostyngiad o’r un maint rhwng 2019 a 2021 ymysg myfyrwyr â golud teuluol is ac uwch, sy'n awgrymu nad oedd yr anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol a oedd yn bodoli’n barod o ran llesiant meddyliol wedi ehangu dros y cyfnod hwn.

Image
Siartiau llinell yn dangos sgoriau boddhad â bywyd yn codi - teimlo'n werth chweil, teimlo'n hapus; a sgoriau'n gostwng ar gyfer teimlo'n bryderus o 2012 - 2019. Yna mae'r duedd yn troi yn 2020 - 2021 i lefelau gwaeth na'r hyn a welwyd yn 2011-12.

Tai peryglus

Mae amrywiaeth o ffactorau’n bwysig i iechyd pawb. Er enghraifft, mae cyflogaeth, llygredd aer a thai i gyd yn effeithio ar ganlyniadau iechyd cyffredinol.

Mae cyflwr tai yng Nghymru wedi gwella dros y deng mlynedd diwethaf, gan leihau’r perygl posibl i iechyd y preswylwyr. Mae anheddau tai cymdeithasol sy’n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru yn parhau i gynyddu, gyda 99% o’r anheddau yn cydymffurfio (gan gynnwys methiannau derbyniol).

Dangosodd yr Arolwg Cyflwr Tai Cymru diweddaraf nad oedd y peryglon mwyaf difrifol (categori 1) i’w gweld mewn 82% o’r anheddau yn 2017-18, o’i gymharu â 71% yn 2008. Gwelwyd gwelliannau ym mhob deiliadaeth.

Darllen pellach

Mae adroddiadau Llesiant blaenorol Cymru wedi cynnwys dadansoddiad pellach ar defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd broblemus.

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, ac felly dim ond mesurau cynnydd lefel uchel y mae modd eu hystyried yn yr adroddiad hwn. Mae dadansoddiad manylach o lawer o’r pynciau hyn ar gael drwy’r amrywiaeth o ddatganiadau ystadegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol neu gynhyrchwyr ystadegol eraill.

Ffynonellau data

Amcangyfrifon llesiant personol blynyddol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Marwolaethau y mae modd eu hosgoi ym Mhrydain Fawr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Data bwydo ar y fron: 2021

Marwolaethau oherwydd COVID-19, wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Marwolaethau cysylltiedig â COVID-19 yn ôl ardal leol ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol ( Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Marwolaethau sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Marwolaethau cysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Disgwyliad iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Disgwyliad oes ar gyfer ardaloedd lleol yn y Deyrnas Unedig (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Disgwyliad Oes a Marwolaethau yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Ystadegau mamolaeth a genedigaethau

Dadansoddiad misol o farwolaethau, Cymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Treial ar-lein Arolwg Cenedlaethol Cymru

Marwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru a Lloegr fesul chwarter blwyddyn (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol o ran marwoldeb y gellid bod wedi ei osgoi yng Nghymru (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion)

Hunanladdiadau yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Arolwg Cyflwr Tai Cymru (asesiad o elfennau o’r Safon Ansawdd Tai Cymru)

Iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc yng Nghymru (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion)

Cymru sy’n fwy cyfartal

Y nod i Gymru sy’n fwy cyfartal

Awdur: Sue Leake

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).

Yn 2002 mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae’r model hwn yn nodi ffordd wahanol o edrych ar anabledd. Yn hytrach na diffinio pobl fel pobl anabl yn ôl eu nam (hynny yw, y model meddygol ar gyfer anabledd), ystyrir bod pobl sydd â namau yn anabl oherwydd rhwystrau corfforol, agweddol a sefydliadol sy’n cael eu creu gan gymdeithas.

Mae’r data a adroddir yma yn deillio o amrywiaeth o ffynonellau sy’n adlewyrchu’r data diweddaraf mwyaf dibynadwy sydd ar gael. Mae llawer o’r ffynonellau hyn yn defnyddio diffiniadau o anabledd, sy’n seiliedig ar y model meddygol yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn y Ddeddf Cydraddoldeb mae anabledd yn golygu cyflwr corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Cafodd pandemig coronafeirws (COVID-19) effaith anghymesur ar lawer o wahanol grwpiau poblogaeth, gyda phobl hŷn, dynion a phobl mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael gyda’r afiechyd yn y camau cynnar, ac mae effaith anuniongyrchol mwy anuniongyrchol niwed economaidd-gymdeithasol yn fwy tebygol o fod wedi cael ei theimlo gan grwpiau sydd eisoes dan anfantais. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc, menywod, pobl anabl a grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Bydd y cynnydd diweddar mewn chwyddiant wedi effeithio’n benodol ar bobl ar incwm isel. Mae canlyniadau tymor hwy y pandemig ac effaith digwyddiadau diweddar yn y byd ar chwyddiant yn dal yn ansicr iawn ar adeg ysgrifennu’r adroddiad. Er ei bod hi’n rhy gynnar i asesu effeithiau llawn y pandemig ar bobl ifanc, mae tystiolaeth gynnar yn dangos bod y canlyniadau economaidd-gymdeithasol wedi effeithio’n anghymesur arnynt. Ceir tystiolaeth yn benodol fod yr amhariad ar addysg wedi effeithio’n benodol ar bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig.

Anfantais economaidd-gymdeithasol

Yn 2021-22, roedd 11% o oedolion yn cael eu hystyried mewn amddifadedd materol (hynny yw, yn methu fforddio pethau penodol fel cadw’r tŷ’n ddigon cynnes, cynilo’n rheolaidd, neu gael gwyliau unwaith y flwyddyn). Roedd bron i hanner (49%) y rhieni sengl mewn amddifadedd materol yn 2021-22 a dywedodd 2% o aelwydydd eu bod wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod 2021-22.

Er bod cyfraddau marwolaethau cyffredinol fel arfer yn uwch mewn ardaloedd mwy difreintiedig, yn 2021 roedd y gyfradd marwolaethau safonedig yn ôl oedran yn gysylltiedig â COVID-19 a gofrestrwyd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru 74% yn uwch na’r gyfradd yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mae data newydd ar fforddiadwyedd tai ar gyfer y blynyddoedd ariannol diweddaraf lle mae data ar gael (2017 i 2020) yn dangos bod 19.4% o gartrefi yn gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai.

Rhywedd

Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Yn ystod yr haf 2021, dyfarnwyd mwy o raddau A* i C i ferched na bechgyn. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng graddau ar raddfa A* ac A: dyfarnwyd 6.5 a 4.5 pwynt canran yn fwy i ferched na bechgyn, yn y drefn honno. Ehangodd y gwahaniaeth o ran graddau A* yn 2021.

Ym mis Ebrill 2021, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (amser llawn) yn 5.0%, sydd heb newid ers y flwyddyn flaenorol a dyma’r gyfradd isaf i’w chofnodi erioed). 

Oedran

Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2020, gyda’r cyntaf yn cynnwys unrhyw gyfnod yn ystod y pandemig, yn dangos cynnydd o ran cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, sydd wedi ei sbarduno gan fwy yn cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant, er ei bod hi’n rhy gynnar i asesu effaith lawn y pandemig ar y duedd hon.

Mae ein boddhad gyda bywyd yn tueddu i fod yn uwch yn y grwpiau oedran hŷn.

Mae is-adroddiad ar wahân ar lesiant mewn plant a phobl ifanc wedi ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r adroddiad hwn. Mae hyn yn asesu profiadau'r grŵp hwn yn fanylach.

Ethnigrwydd

Disgrifiodd 5.0% o boblogaeth Cymru eu hunain fel pobl o gefndir Du, Asiaidd neu grŵp lleiafrifoedd ethnig arall yn 2018 i 2020. Yr ail grŵp ethnig mwyaf (ar ôl Gwyn) yw Asiaidd, sy’n cynrychioli 2.3% o’r boblogaeth.

Mae plant o rai grwpiau ethnig yn parhau i gyflawni’n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o’u cymharu ag eraill, gyda chyfrannau uwch o ddisgyblion TGAU Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael graddau A* i A ac A* i C yn ystod yr Haf 2021 na disgyblion Gwyn Prydeinig.

Roedd cynnydd o 16% yn nifer y troseddau casineb hiliol a gofnodwyd rhwng 2019-20 a 2020-21, er nad oedd cyfran y troseddau casineb gyda hil fel ffactor sy’n cymell wedi newid.

Crefydd

Mae'r amcangyfrifon diweddaraf (2018 i 2020) yn dangos, am y tro cyntaf yng Nghymru, fod cyfran y boblogaeth a oedd yn dweud nad oedd ganddynt grefydd (49.9%) yn uwch na’r gyfran sy’n ystyried eu hunain yn Gristion (45.8%). Nodwyd bod 1.7% o’r boblogaeth yn ystyried eu hunain yn Fwslemiaid a 2.4% â chrefydd arall (ar wahân i Gristnogaeth). Mae dros ddwy ran o dair o'r boblogaeth Fwslimaidd yn byw yn ne-ddwyrain Cymru.

Er bod troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu wedi cynyddu’n gyffredinol yn ystod 2020-21, roedd y nifer y nodwyd eu bod wedi cael eu cymell gan grefydd wedi gostwng chwarter.

Cyfeiriadedd rhywiol

Mae’r amcangyfrifon diweddaraf (2020) yn dangos bod 4.2% o boblogaeth Cymru yn ystyried eu hunain yn hoyw neu’n lesbiaidd, yn ddeurywiol neu’n rhywioldeb arall (heblaw am heterorywiol).

Roedd 397 o briodasau o’r un rhyw yn 2019, ac mae partneriaethau sifil o’r un rhyw wedi gostwng yn sylweddol i tua 40 y flwyddyn ers 2014.

Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru sydd ar gael (2019-20) yn dangos bod pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol tua dwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig (yn enwedig unigrwydd emosiynol) nag eraill. Maent hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi profi gwahaniaethu yn y gwaith

Yn 2020-21, cafodd 884 o droseddau casineb eu cofnodi gan yr heddlu lle’r oedd cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei ystyried yn ffactor cymhellol, i fyny 16% o 763 yn y flwyddyn flaenorol, er na newidiodd cyfran y troseddau casineb gyda chyfeiriadedd rhywiol fel ffactor cymhelliant.

Anabledd

Mae’r gyfradd cyflogaeth ymysg oedolion anabl 16 i 64 oed yn dal yn is nag ymysg y rhai nad ydynt yn anabl. Roedd 46.7% o oedolion anabl oed 16 i 64 yn cael eu cyflogi yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021.

Yn 2021-22 roedd ychydig o dan un o bob pump (19%) o bobl â salwch neu anabledd hirdymor cyfyngus yn byw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol. Mae hyn bron dair gwaith yn uwch nag ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl (7%).

Roedd y bwlch cyflog ar sail anabledd yng Nghymru yn 11.6% yn 2021, i fyny o 9.9% yn 2018. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill 11.6% yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl.

Statws priodasol

Mae’n dal yn wir bod pobl sy’n briod yn llai tebygol o fod mewn amddifadedd materol na’r bobl sydd wedi gwahanu neu ysgaru.

Yn 2020, ffurfiwyd 358 o bartneriaethau sifil o ryw gwahanol yng Nghymru. Dyma’r flwyddyn gyntaf y mae partneriaethau sifil rhwng cyplau o ryw gwahanol wedi cael eu hadrodd yn dilyn y newid mewn deddfwriaeth i ymestyn partneriaethau sifil i gyplau o ryw gwahanol o 31 Rhagfyr 2019.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Ychydig iawn o arwyddion eu bod yn gwella y mae rhai anghydraddoldebau wedi eu dangos yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac mae pandemig COVID-19, ac yn fwy diweddar y cynnydd mewn chwyddiant, yn debygol o fod wedi effeithio mwy ar rai o’r bobl oedd eisoes o dan anfantais.

Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 15 mlynedd.

Mae’r rhai sydd wedi ysgaru, gwahanu neu erioed wedi priodi yn dal i fod yn fwy tebygol o gael trafferthion ariannol, gyda theuluoedd un rhiant yn fwyaf tebygol o fod mewn amddifadedd materol.

Mae bwlch o hyd rhwng deilliannau addysgol plant yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys, gyda thystiolaeth fod hyn yn ehangu ar lefel TGAU. Mae’r bwlch ar lefel TGAU wedi ehangu yn ystod y 6 blynedd diwethaf, gyda data (hyd at 2019) yn dangos bod y bwlch yn ehangu yn ystod cyfnodau cynharach yn yr ysgol wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn.

Mae carreg filltir genedlaethol i ddileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Ar y cyfan, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi bod yn lleihau, er ei fod wedi aros yn sefydlog yn ystod 2021. Mae’r data diweddaraf hefyd yn dangos bod y bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd wedi lleihau. Ar gyfartaledd, mae gweithwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn ennill tua 1.4% yn llai yr awr na gweithwyr Gwyn Prydeinig, er bod gwahaniaethau mawr ymysg gwahanol leiafrifoedd ethnig. Mae’n ymddangos bod y bwlch cyflog anabledd a gododd rhwng 2014 a 2019 yn lleihau erbyn hyn, er y gallai’r sefyllfa o ran cyflogaeth yn ystod pandemig COVID-19 fod wedi cael effaith ar y duedd hon.

Gostyngodd sgoriau bodlonrwydd mewn bywyd ychydig yn ystod 2020-21 ond yn gyffredinol maent wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig yn 2021-22 ar gyfer pob grŵp oedran ac eithrio’r rhai rhwng 16 a 24 oed. Mae pobl rhwng 16 a 24 oed nawr yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na phobl 65 oed a hŷn.

Ar wahân i bobl ifanc, mae rhai grwpiau eraill sy’n fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig. Mae’r rhain yn cynnwys pobl ag anabledd hirdymor sy’n cyfyngu arnynt, pobl sy’n lesbiaid, yn hoyw neu’n ddeurywiol a phobl nad ydynt yn Wyn Prydeinig

Mae plant o rai grwpiau ethnig lleiafrifol yn parhau i gyflawni’n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o’u cymharu ag eraill, gyda chyfrannau uwch o ddisgyblion TGAU Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael graddau A* i A ac A* i C yn ystod yr Haf 2021 na disgyblion Gwyn Prydeinig.

Mae hil yn dal i gael ei hystyried yn ffactor sy’n cymell bron i ddwy ran o dair o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd, a gwelwyd cynnydd mewn troseddau casineb hiliol a gofnodwyd yn 2020-21.

Mae tuedd tymor hwy i lai o bobl nodi eu crefydd fel Cristion ac i fwy o bobl ddweud nad oes ganddyn nhw grefydd. Y rhain yw’r categorïau mwyaf o hyd tra bo cyfran y bobl sy’n ystyried eu hunain yn Fwslimiaid wedi aros rhwng 1% a 2%, a’r rhai sy’n perthyn i unrhyw grefydd arall rhwng 2% a 3%.

Mae cyfran y bobl sy’n nodi eu bod nhw’n hoyw neu’n lesbiaidd, yn ddeurywiol neu’n rhywioldeb arall (heblaw am heterorywiol) yng Nghymru wedi dyblu ers 2016 (i 4.2%). Ers 2014, pan ddaeth priodasau o’r un rhyw yn gyfreithiol, mae nifer y priodasau o’r un rhyw wedi cynyddu (i 397 yn 2019) ac mae nifer y partneriaethau sifil o’r un rhyw sy’n cael eu ffurfio wedi gostwng yn sylweddol i tua 40 partneriaeth bob blwyddyn.

Mae troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu lle’r oedd cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei ystyried yn ffactor cymhellol wedi parhau i gynyddu ac yn cyfrif am bron i un rhan o bump o’r holl droseddau casineb a gofnodir, er bod ymchwil Stonewall Cymru yn awgrymu nad yw’r heddlu’n cael gwybod am lawer o ddigwyddiadau o’r fath.

Roedd cyfraddau cyflogaeth pobl anabl yn codi ond gostyngodd i gyfradd debyg i Ragfyr 2018 yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021. Mae’r gyfradd cyflogaeth ymysg oedolion anabl (16 i 64 oed) yn dal yn is nag ymysg y rhai nad ydynt yn anabl.

Mae aelwydydd sy’n cynnwys rhywun anabl yn dal yn fwy tebygol o gael trafferthion ariannol.

At ei gilydd, mae deilliannau addysgol plant ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol wedi bod yn gwella.

Anfantais economaidd-gymdeithasol

Cyn pandemig COVID-19, roedd cyfraddau tlodi cyffredinol wedi aros yn gymharol sefydlog yng Nghymru am dros 15 mlynedd, a phlant oedd y grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol. Bydd y cynnydd diweddar mewn chwyddiant wedi effeithio’n benodol ar bobl ar incwm isel.

Yr Arolwg o Adnoddau Teulu yw’r brif ffynhonnell ar gyfer amcangyfrifon tlodi swyddogol. Roedd COVID-19 wedi effeithio ar broses casglu data yn 2020-21 ar gyfer yr arolwg hwn. Oherwydd hyn, mewn perthynas â llawer o waith dadansoddi amcangyfrifon tlodi incwm (gan gynnwys i Gymru) nid oes modd gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau. Felly, mae’r ystadegau tlodi ac amddifadedd materol ar gyfer grwpiau â nodweddion gwahanol a gyflwynir yn y bennod hon yn ymwneud â data hyd at 2019-20.

Rhwng 2017-18 a 2019-20, roedd bron i chwarter y boblogaeth (23%) yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl talu eu costau tai.

Plant yw’r grŵp poblogaeth sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod hyn yn wir am 31% o blant yng Nghymru o’i gymharu â 18% o bensiynwyr.

Yn 2021-22, roedd 11% o oedolion yn cael eu hystyried mewn amddifadedd materol (hynny yw, yn methu fforddio pethau penodol fel cadw’r tŷ’n ddigon cynnes, cynilo’n rheolaidd, neu gael gwyliau unwaith y flwyddyn). Mae hyn yn wir am ganran uwch o fenywod (13%) o’i gymharu â dynion (9%). Fodd bynnag, roedd data’r arolwg hwn yn rhagflaenu’r argyfwng presennol o ran costau byw. Mae aelwydydd un rhiant yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd materol na mathau eraill o aelwydydd. Roedd bron i hanner (49%) y rhieni sengl mewn amddifadedd materol yn 2021-22.

Ystyrir bod rhywun mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol mewn o leiaf tair o bob pedair blynedd yn olynol. Mae data o arolwg Understanding Society yn dangos bod tebygolrwydd o 12% y byddai unigolyn yng Nghymru mewn tlodi parhaus rhwng 2016 a 2020 (ar ôl talu costau tai). Roedd plentyn yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi parhaus, sef 13%.

Ychwanegwyd dangosydd cenedlaethol ar ganran yr aelwydydd sy'n gwario 30% neu fwy o incwm ar gostau tai i'r dangosydd cenedlaethol a osodwyd ym mis Rhagfyr 2021, yn seiliedig ar ddata o'r Arolwg o Adnoddau Teulu. Ar draws pob cyfnod, ar gyfer y blynyddoedd ariannol diweddaraf lle mae data ar gael (2017 i 2020) mae 19.4% o aelwydydd yn gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai. Mae'r canran hwn wedi bod yn weddol gyson dros y cyfnod rhwng 2011-12 a 2019-20, ond mae'n amrywio yn ôl daliadaeth ar gyfer tai. Tra, yn 2017 i 2020, dim ond 2.7% o aelwydydd sy'n berchen ar eu cartref eu hunain yn llwyr a 15.4% o'r rhai sy'n berchen ar gartref gyda morgais yn gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai, mae canrannau'n uwch ar gyfer y ddau ddaliadaeth arall; 37.1% ar gyfer cartrefi rhent preifat, 47.2% o'r rheiny mewn tai rhent cymdeithasol. Mae costau defnydd ynni domestig fel nwy a thrydan yn cael eu heithrio o'r costau tai hyn gan nad yw data ar gostau o'r fath yn cael eu casglu yn yr Arolwg o Adnoddau Teulu, ond darperir amcangyfrifon tlodi tanwydd diweddaraf isod.

Yn 2021-22, dywedodd 2% o aelwydydd eu bod wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd diffyg arian, gyda 1% arall yn dweud nad oeddent wedi cael bwyd ond eu bod wedi dymuno cael hynny.

Amcangyfrifwyd bod 196,000 o aelwydydd (14% o aelwydydd) yn byw mewn tlodi tanwydd ym mis Hydref 2021, er y disgwylir i effaith y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni domestig ym mis Ebrill 2022 fod wedi cynyddu hyn yn sylweddol er gwaethaf ymyriadau i liniaru’r effaith.

Mae disgwyliad oes iach yn parhau i fod yn waeth i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig wedi aros yn eang ond gymharol sefydlog rhwng 2011 i 2013 a 2018 i 2020.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod pobl sy’n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig o sgrinio iechyd o’i gymharu â’r rhai sy’n byw yn y cymunedau lleiaf difreintiedig ar draws yr holl raglenni sgrinio iechyd oedolion yn 2020-21.

Roedd cyfraddau marwolaethau COVID-19 yn parhau i fod yn uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Yn 2021, roedd y gyfradd farwolaethau wedi ei safoni yn ôl oedran a gofrestrwyd oherwydd COVID-19 74% yn uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Ar TGAU mae bwlch o hyd rhwng deilliannau addysgol plant yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys. Mae’r bwlch yn y niferoedd sy’n cael graddau A* i A ar lefel TGAU wedi ehangu yn ystod y chwe blynedd diwethaf, gyda’r bwlch yn y niferoedd sy'n cael graddau A* i C yn gymharol sefydlog. Mae data hyd at 2019 yn dangos bod y bwlch yn ehangu yn ystod cyfnodau cynharach yn yr ysgol wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn.

Yn 2020/21, ehanghodd y bwlch rhwng disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sydd wedi cael graddau TGAU A* i A i 21.3 pwynt canran, o 17.8 pwynt canran yn 2019/20. Roedd y bwlch wedi bod yn gymharol sefydlog o’r blaen, sef tua 14.7 pwynt canran rhwng 2015/16 a 2018/19 cyn ehangu yn y 2 flynedd ddiwethaf.

Image
Siart llinell sy'n dangos y bwlch rhwng canrannau'r myfyrwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a myfyrwyr ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cyflawni A*-A, A*-C, ac A*-G ar gyfer TGAU yn 2020/21. Fe gynyddodd y bwlch ym mhob un o'r tair ystod gradd rhwng 2019/20 a 2020/21.

Yn 2020/21 roedd y bwlch rhwng disgyblion nad oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac a oedd wedi cael graddau A* i C wedi ehangu i 27.3 pwynt canran, gan ddychwelyd i fwlch tebyg o ran maint i'r blynyddoedd cyn y pandemig ar ôl gostyngiad i 24.7 pwynt canran yn 2019/20.

Yn dilyn arholiadau cyhoeddus yn cael eu canslo yn haf 2020 a haf 2021, cafodd yr holl raddau a fyddai wedi'u dyfarnu yn dilyn arholiad eu disodli gyda'r radd asesu canolfannau neu’r radd oedd wedi’u dyfarnu.

Rhywedd

Mae deilliannau addysgol merched yn parhau i fod yn well ar lefel TGAU ac yn fwy tebygol o barhau mewn addysg amser llawn y tu hwnt i 16 oed. Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi aros yr un fath yng Nghymru yn 2021, ac mae cyfraddau cyflogaeth yn dal yn is i fenywod na dynion.

Mae disgwyliad oes yn dal yn hirach i ferched nag i ddynion ond mae cyfran y bywyd a dreulir mewn iechyd da yn uwch i ddynion.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar gyfer rhaglenni sy’n gwahodd pobl o bob rhywedd i gymryd rhan mewn sgrinio iechyd, fel sgrinio canser y coluddyn, roedd gwahaniaeth yn y niferoedd yn 2020-21, gyda dynion yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig o sgrinio na menywod (er bod y bwlch yn fach).

O ran effaith uniongyrchol COVID-19, roedd y gyfradd farwolaethau wedi ei safoni yn ôl oedran y marwolaethau a gofrestrwyd oherwydd COVID-19 50% yn uwch ymysg dynion na menywod yn 2021, a gwelwyd hyd yn oed mwy o wahaniaeth yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Yn 2021-22, roedd llesiant meddyliol (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick Edinburgh ar gyfer oedolion) fymryn yn uwch i ddynion na menywod, gyda dynion yn cael sgôr gymedrig o 49.2 a menywod yn cael sgôr gymedrig o 48.7. Mae cyfraddau hunanladdiad, fodd bynnag, yn dal i fod mwy na tair gwaith yn uwch mewn dynion na menywod. Yn y tymor hir, mae cyfraddau hunanladdiad wedi bod yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond yn gostwng yn gyffredinol, ond mae’r gostyngiad hwn yn llawer mwy amlwg ymysg menywod na dynion.

Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Yn ystod yr haf 2021, dyfarnwyd mwy o raddau A* i C i ferched na bechgyn. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng graddau ar raddfa A* ac A: dyfarnwyd 6.5 a 4.5 pwynt canran yn fwy i ferched na bechgyn, yn y drefn honno.

Image
Siart llinell yn dangos y bwlch rhwng canrannau o ferched a bechgyn yn cyflawni A*-A, A*-C, ac A*-G ar gyfer TGAU yn 2020/21. Bu cynnydd mawr yn y bwlch yn A*-A rhwng 2019/20 a 2020/21, tra gostyngodd y bwlch yn A*-C. Mae'r bwlch yn A*-G yn parhau'n fach.

Mae cyfran uwch o ferched 16-18 oed na bechgyn yn aros mewn addysg amser llawn. Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer y rhai rhwng 19 a 24 oed.

O ran y boblogaeth gyfan, mae menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau ar lefel 4 neu uwch, ac mae cyfran uwch o ddynion na menywod heb unrhyw gymhwyster ym mhob grŵp oedran, bron.

Mae cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru yn is ar gyfer menywod nag ar gyfer dynion, sef 69.7% ar gyfer menywod a 76.5% ar gyfer dynion yn 2021. Mae cyfraddau anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) yn uwch ymysg menywod (24.1%) na dynion yn ystod y cyfnod hwn (15.7). Mae tystiolaeth o’r Deyrnas Unedig gyfan yn dangos y gallai’r cynnydd yn y cyfle i weithio gartref fod wedi annog mwy o fenywod i gymryd rhan yn y farchnad lafur.

Image
Siart llinell sy'n dangos cyfraddau cyflogaeth i'r rhai rhwng 16 a 64 oed yn ôl rhyw rhwng 2005 a 2021. Gostyngodd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer dynion 3 pwynt canran i 74% yn 2021, tra bod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer menywod yn parhau'n sefydlog ar 70%.

Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ar sail enillion canolrifol amser llawn yr awr (heb gynnwys goramser), yn 5.0% yn 2021, sydd heb newid ers y flwyddyn flaenorol, a’r gyfradd isaf erioed. Fodd bynnag, ar gyfer gweithwyr rhan-amser yng Nghymru, roedd menywod yn cael yr un cyflog â dynion ar gyfartaledd, gostyngiad o 0.8 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol (pan oedd menywod yn cael eu talu mwy na dynion). Ar gyfer yr holl weithwyr, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dal i fod yn sylweddol uwch, sef 12.3%, yn 2021. Mae hyn yn uwch nag ar gyfer gweithwyr amser llawn a gweithwyr rhan-amser, oherwydd mae menywod yn llenwi mwy o swyddi rhan-amser, sydd, o’u cymharu â swyddi amser llawn, â thâl canolrifol is yr awr. O blith 11 o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig lle mae dynion yn ennill mwy na menywod (gweithwyr amser llawn), Cymru sydd â’r ail fwlch cyflog lleiaf.

Mae menywod yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn eu cymuned, er bod y data diweddaraf (o 2019-20) yn dangos bod dynion ychydig yn fwy tebygol o ddioddef troseddau treisgar na menywod. Yn ystod 2021-22, dywedodd 51% o fenywod eu bod yn teimlo’n ddiogel yn eu cymuned o’i gymharu ag 81% o ddynion. Yn ogystal â hyn, mae menywod tua 4 gwaith yn fwy tebygol o deimlo’n anniogel iawn wrth gerdded ar eu pen eu hunain yn eu hardal leol ar ôl iddi dywyllu na dynion (nododd 13% o fenywod hyn o’i gymharu â 3% o ddynion).

Yn 2020-21, roedd 56% o benodiadau cyhoeddus newydd a 46% o ailbenodiadau cyhoeddus a wnaed gan Lywodraeth Cymru i fenywod (lle mae rhywedd y sawl sy'n cael ei benodi yn hysbys), ac roedd y cyntaf o’r rhain yn gynnydd o 12 pwynt canran ers 2019-20. Mae hyn yn cynnwys cadeiryddion ac aelodau sy’n cael eu rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig, cafodd llawer o gystadlaethau eu hatal ac felly mae angen bod yn wyliadwrus wrth edrych ar unrhyw gasgliadau sy'n cael eu llunio o ddata eleni.

Oedran

Rydym yn tueddu i fod yn fwy bodlon ar fywyd yn y grwpiau oedran hŷn. Mae tlodi incwm cymharol yn uwch yn y boblogaeth sy’n gweithio nag mewn aelwydydd pensiynwyr.

Mae canlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021 yn dangos bod y duedd i’r boblogaeth heneiddio wedi parhau, gyda mwy o bobl nag erioed yn y grwpiau oedran hŷn yng Nghymru. Roedd cyfran y boblogaeth a oedd yn 65 oed neu’n hŷn ym mis Mawrth 2021 yn 21.3% (i fyny o 18.4% yn 2011). Mae maint y boblogaeth 90 oed neu hŷn yng Nghymru (29,700, 1.0%) wedi cynyddu ers 2011, pan oedd 25,200 (0.8%) yn 90 oed neu’n hŷn.

Mae llesiant goddrychol yn tueddu i fod yn uwch yn y grwpiau oedran hŷn. Yn 2021-22, mae’r sgôr bodlonrwydd ar fywyd cyfartalog uchaf ar gyfer y grŵp oedran 65 i 74 oed (8.0) ac ar gyfer y grŵp 75 oed a hŷn (7.9), ac mae ar ei isaf yn y grwpiau oedran 16 i 24 oed a 45 i 64 oed (7.6). Er bod boddhad â bywyd ar gyfer pobl oedran 16 i 24 yn is yn 2021-22 o’i gymharu â'r cyfnod cyn y pandemig (2019-20), mae’r patrwm ar gyfer y grwpiau oedran eraill wedi dychwelyd i'r sgoriau boddhad cyn y pandemig yn dilyn gostyngiad ym mhob grŵp oedran yn ystod 2020-21.

Image
Mae graff bar sy'n dangos cymedr bodlonrwydd bywyd yn ôl grŵp oedran. Mae gan grwpiau oedran gweithio (16-24, 25-44, 45-64) sgoriau boddhad is na'r rhai 65+ oed.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud, er bod llawer o raglenni sgrinio iechyd yn gwahodd pobl o ystodau oedran penodol, roedd pobl mewn grwpiau oedran iau yn y garfan a gafodd wahoddiad yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig o sgrinio iechyd o’i gymharu â’r rhai mewn grwpiau oedran hŷn yn 2020-21.  

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cyfran uwch o’r boblogaeth o oedran gweithio wedi bod mewn tlodi cymharol nag aelwydydd pensiynwyr.

Mae’r gyfradd cyflogaeth ar ei huchaf yn y grŵp oedran 25 i 49 ac mae’r gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl 65 oed a hŷn, a welodd gynnydd yn flaenorol, wedi bod yn weddol sefydlog ers 2019.

Mae’n rhy gynnar i asesu effeithiau hirdymor y pandemig ar bobl ifanc, er bod tystiolaeth gynnar yn dangos bod y canlyniadau economaidd-gymdeithasol wedi effeithio’n anghymesur arnynt. Ceir tystiolaeth yn benodol fod yr amhariad ar addysg wedi effeithio’n benodol ar bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Gan ddibynnu ar effeithiolrwydd y mesurau lliniaru sydd ar waith, gallai’r effeithiau niweidiol ddylanwadu ar y farchnad lafur dros y blynyddoedd neu hyd yn oed y degawdau nesaf.

Cafodd carreg filltir genedlaethol newydd ar gyfranogiad mewn addysg a’r farchnad lafur gan bobl ifanc rhwng 16 i 24 oed ei gosod yn 2021. Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2020 yn dangos cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur, sy’n cael ei sbarduno gan fwy o gyfranogiad mewn addysg neu hyfforddiant. Mae’n rhy fuan, fodd bynnag, i asesu effaith tymor hwy y pandemig ar y duedd hon

Mae grwpiau oedran iau mewn mwy o berygl o ddioddef troseddau (gan gynnwys troseddau treisgar), gyda’r grŵp oedran 16 i 24 oed yn profi’r cyfraddau uchaf yn y rhan fwyaf o gategorïau troseddau a’r bobl dros 75 oed yn profi’r cyfraddau troseddu isaf yng Nghymru yn ystod y 12 mis hyd at fis Mawrth 2020.

Yn 2020/21, roedd 71% o benodiadau cyhoeddus newydd ac ailbenodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i unigolion 55 oed neu hŷn (lle mae oedran y sawl sy'n cael ei benodi yn hysbys). Mae hwn yn gynnydd sylweddol o 56% yn 2019-20. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig, cafodd llawer o gystadlaethau eu hatal ac felly mae angen bod yn wyliadwrus wrth edrych ar unrhyw gasgliadau sy'n cael eu llunio o ddata eleni.

Mae pobl hŷn (65 oed a hŷn) yn fwy tebygol o fod ag ymdeimlad cryf o gymuned o’i gymharu â grwpiau oedran iau, ac mae 91% o’r rhai sy’n 65 oed a hŷn yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw.

Ethnigrwydd

Mae plant o rai grwpiau ethnig (er enghraifft, Asiaidd a phlant â chefndir ethnig cymysg) yn tueddu i gyflawni’n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o’i gymharu ag eraill. Fodd bynnag, mae cyfraddau cyflogaeth a chyflog cyfartalog yn dal yn is ar gyfer grwpiau o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac mae pobl yn y grwpiau hyn yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol.

Roedd 95.0% o’r boblogaeth yn disgrifio eu grŵp ethnig fel Gwyn yn 2018 i 2020, gan amrywio yn ôl rhanbarth o 97.5% o’r boblogaeth yng ngogledd Cymru i 93.2% yn ne-ddwyrain Cymru.

Mae 5.0% o boblogaeth Cymru’n disgrifio eu hunain fel pobl Ddu, Asiaidd neu o grŵp Lleiafrifoedd Ethnig. Yr ail grŵp ethnig mwyaf (ar ôl Gwyn) yw Asiaidd yn 2018 i 2020, sy’n cynrychioli 2.3% o’r boblogaeth.

Yn etholiadau Senedd Cymru 2021, etholwyd tri aelod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig (5% o’r holl aelodau a etholwyd).

Dengys canlyniadau TGAU ar gyfer 2020/21 fod 35.6% o ddisgyblion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi cael graddau A* i A o’i gymharu â 28.9% o ddisgyblion Gwyn. Mae’r bwlch hwn wedi bod yn ehangu ers 2015/16 (4.5 pwynt canran yn 2015/16 i 6.7 pwynt canran yn 2020/21). Mae’r bwlch ar gyfer disgyblion sy'n cael graddau A* i C hefyd wedi ehangu (o 0.9 pwynt canran yn 2015/16 i 3.3 pwynt canran yn 2020/21).

Image
Siart llinell sy'n dangos y bwlch rhwng canrannau myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a myfyrwyr Gwyn yn cyflawni A*-A, A*-C, ac A*-G ar gyfer TGAU yn 2020/21. Fe gynyddodd y bwlch ym mhob un o'r tair ystod gradd rhwng 2019/20 a 2020/21. Mae'r gwahaniaeth yn A*-G yn parhau'n fach iawn.

Ar lefel A, symudodd y dosbarthiad graddau i fyny eto yn 2020/21, ond nid oedd hyn yn wir ar gyfer pob grŵp ethnig eang. Gostyngodd y gyfran yn sylweddol ar gyfer dysgwyr A2 (ail flwyddyn lefel A) o gefndiroedd Du, Affricanaidd, Caribïaidd, Du Prydeinig a gafodd o leiaf 3 C, a oedd wedi dadwneud llawer o’r cynnydd a welwyd mewn graddau yn 2019/20. Yn 2020/21, dim ond 54% o’r dysgwyr o’r cefndiroedd hyn a gafodd o leiaf dri C o’i gymharu â 72% yn 2019/20. Dyma’r grŵp â’r ganran isaf o A* i C ar A2 yn 2020/21; gwelwyd y ganran uchaf o A* i C ymysg y grwpiau Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (74%) a Gwyn (73%).

Adroddodd y Cyfrifiad o’r Gweithlu Ysgolion fod cyfran yr athrawon ysgol o grŵp Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd ethnig Gwyn) yn 1.1% ym mis Tachwedd 2021, sy’n sylweddol is na’r 9.1% o ddisgyblion 5 oed neu hŷn yng Nghymru sydd o grŵp Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd ethnig Gwyn) yng Nghyfrifiad Ysgolion Chwefror 2022.

Nodwyd bod 9% o’r disgyblion o Gymru a gofrestrodd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2020/21 o grŵp lleiafrifoedd ethnig.

Rhwng mis Awst 2017 a mis Gorffennaf 2021, roedd myfyrwyr blwyddyn 11 o gefndiroedd Sipsiwn, Teithwyr neu Deithwyr Gwyddelig yn llai tebygol o barhau i addysg ôl-16 na grwpiau ethnig eraill. Ar gyfer y rhan fwyaf o grwpiau lleiafrifoedd ethnig eraill, roedd y cyfranogiad mewn dysgu ôl-16 yn agos at gyfartaledd Cymru, neu’n uwch na hynny.

Mae dysgu seiliedig ar waith yn llai amrywiol o ran ethnigrwydd na meysydd eraill o addysg ôl-16. Yn gyffredinol, roedd dysgwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd neu lleiafrifoedd ethnig eraill yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth barhaus ar ôl gadael addysg ôl-16.

Mae’r cyfraddau cyflogaeth (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021) ymysg poblogaeth Cymru rhwng 16 a 64 oed ar eu huchaf ymysg unigolion o gefndir ethnig Gwyn a’r rhai yn y categori ‘grŵp ethnigrwydd arall’ (y ddau yn 73%), gyda’r cyfraddau cyflogaeth ar eu hisaf ymysg unigolion ag ethnigrwydd Du (57%). Y cyfraddau cyfatebol ymysg unigolion o gefndir Asiaidd a phobl â chefndir ethnig cymysg oedd 65% a 64% yn y drefn honno.

Mae cyfraddau cyflogaeth ar gyfer grwpiau ethnig yn wahanol ar gyfer dynion a menywod, gyda’r bwlch mwyaf mewn cyfraddau cyflogaeth i’w weld yn y grŵp ethnig Asiaidd (dynion 79% o’i gymharu â menywod 54%).

Roedd y bwlch cyflog rhwng gweithwyr Gwyn a gweithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn 2019 wedi gostwng i’w lefel isaf ers 2012 yng Nghymru a Lloegr. Mae bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd yn amrywio ar draws rhanbarthau ac, yn 2019, roedd y blwch cyflog mwyaf yn Llundain (23.8%) a’r lleiaf yng Nghymru (1.4%), er bod rhywfaint o anghysondeb yn y bwlch yng Nghymru. Mae tystiolaeth o bob rhan o Gymru a Lloegr yn dangos bod y rhan fwyaf o’r grwpiau lleiafrifoedd ethnig a ddadansoddwyd yn parhau i ennill llai na gweithwyr Gwyn Prydeinig ond, yn 2019, roedd y rhai yn y grwpiau ethnig Tsieineaidd, Gwyn Gwyddelig, Gwyn ac Asiaidd i gyd yn ennill cyflog cyfartalog uwch yr awr na gweithwyr Gwyn Prydeinig.

Mae grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o ddioddef tlodi incwm cymharol. Ar gyfer y cyfnod rhwng 2015-16 a 2019-20 roedd 29% o debygolrwydd y byddai pobl o aelwydydd lle mae’r penteulu yn dod o grŵp lleiafrifoedd ethnig yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae hyn yn cymharu â thebygolrwydd o 24% ar gyfer aelwydydd lle mae’r penteulu yn dod o grŵp ethnig Gwyn.

Yn 2020-21, roedd llai na 5% o benodiadau cyhoeddus ac ailbenodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (lle mae ethnigrwydd y sawl sy'n cael ei benodi yn hysbys), o’i gymharu â 9% yn 2019-20. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig, cafodd llawer o gystadlaethau eu hatal ac felly mae angen bod yn wyliadwrus wrth edrych ar unrhyw gasgliadau sy'n cael eu llunio o ddata eleni.

Nid oes llawer o wahaniaeth sylweddol yn y ffordd mae gwahanol leiafrifoedd ethnig yn teimlo am eu hardal leol, ymdeimlad o gymuned, a’r tebygolrwydd o ddweud bod pobl yn yr ardal yn trin ei gilydd â pharch. Fodd bynnag, mae pobl nad ydynt yn Wyn Prydeinig yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig (25% o’i gymharu â 12% o’r rhai sy’n Wyn Prydeinig yn 2021-22).

Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym mis Mawrth 2021 yn dangos bod pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu gorgynrychioli ym mhob cam o’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, er enghraifft, fel dioddefwyr troseddau, wrth stopio a chwilio, ac ym mhoblogaeth y carchardai.

Roedd hil yn ffactor cymhellol mewn dwy ran o dair o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2020-21, cyfran debyg i'r un yn 2019-20. Fodd bynnag, cynyddodd nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu 16% yn 2020-21 o’i gymharu â 2019-20.

Image
Siart linell yn dangos y nifer o droseddau casineb gafodd eu hadrodd yng Nghymru rhwng 2012-13 a 2020-21 yn ôl ffactor ysgogol. Cofnodwyd bod troseddau casineb wedi cynyddu ar gyfer pob cymhelliad ac eithrio Crefydd yn 2020-21 o'i gymharu â 2019-20. Ras yw'r prif ffactor ysgogol o hyd, gan gyfrif am tua dwy ran o dair o droseddau a adroddwyd.

Sylwch fod data o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar gyfer 2018-2020 yn awgrymu mai dim ond tua hanner yr holl achosion o droseddau casineb sy’n dod i sylw’r heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Crefydd

Am y tro cyntaf yng Nghymru (2018 i 2020), roedd cyfran y boblogaeth a oedd yn dweud nad oedd ganddynt grefydd (49.9%) yn uwch na’r gyfran sy'n ystyried eu hunain yn Gristion (45.8%), er bod y ffigurau hyn yn amrywio yn ôl rhanbarth gyda gogledd Cymru yn parhau i fod â chanran uwch o’r boblogaeth yn dweud eu bod yn Gristion na’r rhai sy'n dweud nad oes ganddynt grefydd.

Nodwyd bod 1.7% o’r boblogaeth yn ystyried eu hunain yn Fwslemiaid a 2.4% yn ystyried bod ganddynt grefydd arall (ar wahân i Gristnogaeth).

O’r boblogaeth Fwslimaidd yng Nghymru, roedd cyfran fawr (71.8%) yn byw yn ne-ddwyrain Cymru.

Roedd cyfran uwch o fenywod na dynion wedi nodi bod ganddynt grefydd (54.6% o’i gymharu â 45.5%) ac roedd cyfran y bobl a nodwyd bod ganddynt grefydd yn cynyddu yn gyffredinol yn ôl grŵp oedran. Mae gan y boblogaeth Fwslimaidd broffil oedran iau na’r rhan fwyaf o grefyddau eraill yng Nghymru.

Mae’r rhai sy’n ystyried eu hunain yn Gristnogion yn tueddu i adrodd ymdeimlad cryfach o gymuned, yn enwedig o ran teimlo eu bod yn perthyn i ardal a theimlo bod pobl yn yr ardal yn trin ei gilydd â pharch. Maent hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn fodlon ar eu hardal leol. Gallai proffiliau oedran gwahanol effeithio ar y canlyniadau hyn, gyda’r rhai sy’n nodi eu bod yn Gristion yn tueddu i gael proffil oedran hŷn.

Roedd crefydd yn ffactor cymhellol mewn 3% o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2020-21, i lawr o 5% yn 2019-20. Cafodd cyfanswm o 150 o droseddau casineb crefyddol eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru yn 2020-21, 49 yn llai na 2019-20.

Roedd cyfraddau cyflogaeth y rhai sy’n ystyried eu hunain yn Gristion neu heb grefydd yn debyg yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021. Ymysg Mwslimiaid, roedd y gyfradd cyflogaeth ar gyfer menywod (38%) tua hanner y gyfradd ar gyfer dynion (78%).

Cyfeiriadedd rhywiol

Mae’r niferoedd sy’n ystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, neu sydd wedi dewis peidio â nodi eu bod yn heterorywiol yn cynyddu, gyda phriodasau o’r un rhyw yn llawer mwy cyffredin nawr na phartneriaethau sifil o’r un rhyw.

Yn 2020, nododd 94.3% o boblogaeth Cymru eu bod yn heterorywiol, gyda 4.2% yn nodi eu bod yn hoyw neu’n lesbiaidd, yn ddeurywiol neu’n rhywioldeb arall. Mae cyfran y bobl sy’n nodi eu bod nhw’n hoyw neu’n lesbiaidd, yn ddeurywiol neu’n rhywioldeb arall (heblaw am heterorywiol) yng Nghymru wedi dyblu ers 2016.

Ers 2014, pan ddaeth priodasau o’r un rhyw yn gyfreithiol, mae nifer y priodasau o’r un rhyw wedi cynyddu (i 397 yn 2019) ac mae nifer y partneriaethau sifil yr un rhyw sy’n cael eu ffurfio wedi gostwng yn sylweddol (40 partneriaeth yn 2020). Roedd dwy ran o dair o briodasau o’r un rhyw yn 2019 rhwng cyplau benywaidd. Bob blwyddyn ers cyflwyno priodasau o’r un rhyw yn 2014 gwelwyd mwy o briodasau o’r un rhyw rhwng menywod na dynion. 

Yn 2019-20, roedd cyfran is o oedolion a nododd eu bod yn heterorywiol mewn amddifadedd materol (12%) o’i gymharu â’r rhai nad oeddent yn heterorywiol (22%).

Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru sydd ar gael (2019-20) yn dangos bod pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol tua dwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig (yn enwedig unigrwydd emosiynol) nag eraill. Maent hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi profi gwahaniaethu yn y gwaith.

Roedd cyfeiriadedd rhywiol yn ffactor cymhellol mewn 884 o droseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru yn 2020-21, i fyny 16% o 763 yn 2019-20. Mae hyn yn cynrychioli 19% o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd, yr un gyfran â’r flwyddyn flaenorol.

Mae ymchwil Stonewall Cymru yn y gymuned LGBT yn 2017 yn dangos bod bron i un o bob pedwar o bobl LGBT (23%) yn dweud eu bod wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol a/neu hunaniaeth o ran rhywedd yn ystod y 12 mis diwethaf ac nad oedd llawer ohonynt wedi rhoi gwybod i’r heddlu am y digwyddiad. Ceir tystiolaeth hefyd o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (2017-18 i 2019-20) mai dim ond tua hanner yr holl achosion o droseddau casineb sy’n dod i sylw’r heddlu.

Hunaniaeth Rhywedd

Caiff y data cyntaf o Gyfrifiad 2021 ar hunaniaeth rhywedd ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2022. O ganlyniad, bydd adroddiad Llesiant Cymru y flwyddyn nesaf yn darparu dadansoddiad mwy cynhwysfawr o'r pwnc hwn.

Mae’r arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn casglu data ar lesiant meddyliol ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed, fel y’u mesurwyd ar Raddfa Llesiant Meddyliol Byr Warwick-Caeredin. Roedd y dadansoddiadau yn ôl rhywedd a grŵp blwyddyn yn dangos bod y rhai nad ydynt yn ystyried eu hunain yn fachgen nac yn ferch yn dweud bod eu llesiant meddyliol yn isel, a bod merched yn adrodd ar les is na bechgyn.

Roedd hunaniaeth drawsryweddol yn ffactor cymhellol mewn 173 o droseddau casineb yng Nghymru dros y cyfnod hwn, sy'n cyfateb i 4% o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 31% (41 yn fwy o droseddau a gofnodwyd) o’i gymharu â 2019-20.

Anabledd

Er bod y cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl anabl wedi bod yn cynyddu dros amser, mae bwlch cyflog anabledd yn parhau ac mae aelwydydd sy’n cynnwys rhywun anabl yn dal yn fwy tebygol o gael trafferthion ariannol

Rhwng 2018 a 2020 roedd ychydig dros un rhan o bump o’r boblogaeth oedran gweithio (rhwng 16 a 64 oed, 22.1%) yn dweud eu bod yn anabl. Mae’r gyfran hon wedi bod yn cynyddu’n raddol ers 2013 i 2015 (14.0%) ac mae’n amrywio yn ôl oedran (o 15.4% yn y grŵp oedran 16 i 24 i 28.3% yn y grŵp oedran 45 i 64). Mae cyfran uwch o fenywod na dynion yn y grŵp oedran hwn yn dweud eu bod yn anabl (24.6% o’i gymharu â 19.6%).                                                                                                                        

Mae’r gyfran isaf o bobl sy’n ystyried eu bod yn anabl (20.1%) yn y grwpiau oedran hyn yng ngogledd Cymru; mae cyfrannau tebyg (22.6% a 23.0% yn y drefn honno) yn ne-ddwyrain Cymru a chanolbarth a de-orllewin Cymru.

Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru (2021-22) yn dangos bod bodlonrwydd ar fywyd yn gyffredinol is ar gyfer pobl 16+ oed â salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol (roedd eu sgôr cymedrig yn 7.0) nag ar gyfer pobl heb salwch neu anabledd (8.0).

Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru (2021-22) hefyd yn dangos bod oedolion anabl neu unigolion sydd â salwch hirdymor sy’n cyfyngu arnynt yn llawer mwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig y rhan fwyaf o’r amser (22%) o’i gymharu â’r rhai sydd heb salwch neu anableddau o’r fath (8%). Maent hefyd yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn teimlo’n ddiogel yn yr ardal leol ar ôl iddi dywyllu ac yn llai tebygol o deimlo ymdeimlad cryf o gymuned.

Mae deilliannau addysgol disgyblion ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol wedi gwella yn gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2020/21, dyfarnwyd gradd A* i G i 96% o ddisgyblion ym mlwyddyn 11 ag anghenion addysgol arbennig yn eu harholiadau TGAU, i lawr o 98% yn 2019/20.

Image
Siart llinell sy'n dangos canran y disgyblion sydd â darpariaeth anghenion addysgol arbennig (AAA) neu Angen Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cyflawni A*-G ar gyfer TGAU yn 2020/21. Ar ôl cynnydd serth yn 2019/20, mae'r ganran wedi gostwng ychydig yn 2020/21.

O’r boblogaeth oed gweithio, mae pobl anabl (15%) yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau na phobl nad ydynt yn anabl (6%) ac maent yn llai tebygol o fod â chymwysterau uwch na lefel 2.

Yn y cyfnod diweddaraf (2017-18 i 2019-20), roedd 38% o’r plant a oedd yn byw mewn aelwyd lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 26% mewn cartrefi lle nad oedd neb yn anabl. Yn yr un modd, roedd 31% o oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn aelwyd lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 18% o’r rhai a oedd yn byw mewn aelwyd lle nad oedd neb yn anabl.

Yn 2021-22, roedd pobl anabl neu phobl â salwch hirdymor cyfyngol bron i dair gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol o’i gymharu â’r rhai nad oeddent yn anabl. Roedd tua un o bob pum person anabl (19%) neu phobl â salwch hirdymor cyfyngol yn byw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol o’i gymharu â 7% o’r bobl nad oeddent yn anabl.

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021, y gyfradd cyflogaeth ymysg pobl anabl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 46.7%, a'r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl oedd 79.6%. Mae’r bwlch cyflogaeth i bobl anabl ar gyfer 2021, o 32.9 pwynt canran, wedi lleihau o’i gymharu â phum mlynedd yn ôl pan oedd yn 35.5 pwynt canran. 

Roedd y bwlch cyflog ar sail anabledd yng Nghymru yn 11.6% yn 2021. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill 11.6% yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Er bod hyn yn is na’r uchafbwynt o 15.1% yn 2019, mae’n dal yn uwch nag yr oedd rhwng 2016 a 2018. Y bwlch cyflog yng Nghymru oedd y lleiaf o bedair gwlad y Deyrnas Unedig. Y bwlch cyflog ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan oedd 13.8%.

Image
"Graff bar sy'n dangos y bwlch cyfradd cyflogaeth anabledd ar gyfer y blynyddoedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2016 i 2021. Yn dilyn gostyngiad rhwng 2018 a 2019, mae'r bwlch wedi aros yn fras yn sefydlog. "

Yn 2020-21, roedd llai na 5% o benodiadau cyhoeddus ac ailbenodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i unigolion a oedd wedi datgan anabledd. Oherwydd y pandemig, cafodd llawer o gystadlaethau eu hatal ac felly mae angen bod yn wyliadwrus wrth edrych ar unrhyw gasgliadau sy'n cael eu llunio o ddata eleni.

Roedd anabledd yn ffactor cymhellol mewn 11% o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2020-21, yr un gyfran ag yn 2019-20. Roedd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr wedi darganfod yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 fod 17.5% o'r bobl anabl rhwng 16 a 59 oed yng Nghymru wedi profi cam-drin domestig, o'u cymharu â 6% o bobl nad oeddent yn anabl.

Statws priodasol

Mae bod yn briod yn gysylltiedig â bodlonrwydd uwch ar fywyd a thebygolrwydd is o fod mewn amddifadedd materol. Mae aelwydydd un rhiant yn dal i wynebu heriau, ac maent yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd materol na mathau eraill o aelwydydd.

Ffurfiwyd 11,699 o briodasau yng Nghymru yn 2019, i lawr o 2018 (12,840), gyda’r rhan fwyaf o briodasau’n cynnwys cyplau o ryw gwahanol (96.6%). Yn 2019, roedd 397 o briodasau rhwng cyplau o’r un rhyw yng Nghymru; gyda 67% (265) o’r rhain rhwng cyplau benywaidd. Nid oes ffigurau ar gael eto i adlewyrchu effaith pandemig COVID-19 ar nifer y priodasau a gynhaliwyd yn 2020 a 2021.  

Yn 2020, ffurfiwyd 358 o bartneriaethau sifil o ryw gwahanol yng Nghymru. Dyma’r flwyddyn gyntaf y mae partneriaethau sifil rhwng cyplau o ryw gwahanol wedi cael eu hadrodd yn dilyn y newid mewn deddfwriaeth i ymestyn partneriaethau sifil i gyplau o ryw gwahanol o 31 Rhagfyr 2019.   

Yn 2020, cafodd 40 o bartneriaethau sifil o’r un rhyw eu ffurfio yng Nghymru. Mae’n ostyngiad mawr o’r 265 o bartneriaethau sifil o’r un rhyw a nodwyd yn 2013. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith, ar ôl cyflwyno Deddf Priodas (Cyplau o’r un Rhyw) 2013, y daeth priodasau o’r un rhyw yn gyfreithiol o 29 Mawrth 2014.  

Yn 2021-22, roedd 18% o’r oedolion a oedd wedi cael ysgariad a 24% o’r rhai a oedd wedi gwahanu (ond yn dal yn briod yn gyfreithiol) mewn amddifadedd materol o’i gymharu ag 7% o’r rhai a oedd wedi priodi ac 7% o’r rhai a oedd yn weddw. Roedd bron i hanner (49%%) y rhieni sengl mewn amddifadedd materol.

Roedd canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2021-22 yn cadarnhau bod cyfran uwch o’r boblogaeth briod yn dweud eu bod yn fodlon iawn â bywyd, gan deimlo bod y pethau maen nhw’n eu gwneud yn werth chweil ac roeddent yn hapus iawn o’u cymharu â’r oedolion sydd erioed wedi priodi, wedi gwahanu, wedi ysgaru, neu’n weddw. Yn gyffredinol, roedd y boddhad â bywyd a nodwyd yng nghanol pandemig COVID-19 (yn 2020-21) yn is nag yn 2019-20 ond mae wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig yn 2021-22.

Yn 2021-22, y rhai a oedd yn briod oedd y lleiaf tebygol o ddweud eu bod yn unig (8%), a’r rhai a oedd wedi gwahanu ond yn briod yn gyfreithiol oedd y mwyaf tebygol (23%). Roedd pobl a oedd yn sengl (hynny yw, heb fod erioed wedi priodi neu wedi cofrestru mewn partneriaeth sifil), wedi ysgaru, neu’n weddw hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na phobl a oedd yn briod (16%, 19% a 16% yn y drefn honno). Aelwydydd un rhiant ac aelwydydd un pensiynwr oedd yr aelwydydd lleiaf tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau ar ôl iddi dywyllu yn 2021-22.

Image
Mae graff bar sy'n dangos sgôr cymedrig boddhad bywyd yn ôl statws priodasol yn 2021-22. Y rhai sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil sydd â'r sgôr cymedrig uchaf (8.0) tra bod y rhai sy'n cael eu gwahanu ond sy'n dal i briodi'n gyfreithiol â'r isaf (6.9). Mae gan y rhai sy'n sengl, wedi ysgaru neu weddw sgoriau boddhad bywyd tebyg iawn.

Mae perthynas yn chwalu yn gallu arwain at ganlyniadau mewn perthynas â thai, gyda data a gasglwyd cyn y pandemig (2018-19) yn dangos bod perthynas yn chwalu yn un o’r prif achosion a nodwyd ar gyfer aelwydydd sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. O’r rhai sy’n cael eu hystyried yn ddigartref ac mewn angen blaenoriaethol, mae ychydig dros eu hanner yn aelwyd un unigolyn ac mae traean yn rhieni sengl gyda phlant dibynnol.

O’r rhai rhwng 16 a 64 oed, y bobl a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil oedd â’r cyfraddau cyflogaeth uchaf (80%) yn 2020-21 o’i gymharu â’r rhai a oedd wedi gwahanu neu ysgaru (72%), yn sengl (65%) neu’n weddw (52%). Yn gyffredinol, mae cyfraddau cyflogaeth yn is i fenywod nag i ddynion ac mae hyn yn arbennig o wir i fenywod sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil. Mae’r gyfradd cyflogaeth yn 2020-21 ar gyfer dynion priod yn 86% o’i chymharu â 75% ar gyfer menywod priod.

Darllen pellach

Ffynonellau data

Ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth (poblogaethau)

Arolwg Cenedlaethol Cymru, ar foddhad â bywyd, ymdeimlad o gymuned, ymdeimlad o ddiogelwch, amddifadedd materol, defnyddio banciau bwyd, lles meddyliol.

Amcangyfrifon poblogaeth ac aelwydydd Cymru (Cyfrifiad 2021)

Adroddiad Anghydraddoldebau’r Is-adran Sgrinio 2020-21 (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Iechyd a lles

Iechyd meddwl a lles ieuenctid yng Nghymru: Cymharu canfyddiadau arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgol 2019 a 2021 (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Myfyrwyr)

Adroddiad Annhegwch Adran Sgrinio 2020-21 (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Tlodi

Tlodi Incwm Cymharol

Arolwg Cenedlaethol Cymru (amddifadedd materol) (StatsCymru)

Tlodi tanwydd

Marwolaethau

Disgwyliad oes y wladwriaeth iechyd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Marwolaethau oherwydd COVID-19, wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Hunanladdiadau yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Addysg

Canlyniadau arholiadau

Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur

Canlyniadau cyfrifiad ysgolion

Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion

Ystadegau dysgu ôl-16 yn ôl grŵp ethnig y dysgwyr

Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19)

Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

Lefel y cymhwyster uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio

Y farchnad lafur

Ystadegau’r Farchnad Lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth)

Cymryd rhan yn y Farchnad Lafur (StatsCymru)

Bylchau cyflog

 

Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau (Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, StatsCymru)

Bwlch cyflog ethnigrwydd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Bwlch cyflog anabledd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

 

Penodiadau cyhoeddus

Adroddiadau blynyddol y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus

Anabledd

Canlyniadau ar gyfer pobl anabl yn y Deyrnas Unedig (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Priodasau a phartneriaethau sifil

Priodasau yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Troseddau a chyfiawnder

 

Troseddau Casineb, Cymru a Lloegr (Swyddfa Gartref)

Cyfraddau riportio Troseddau Casineb (Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr)

Tablau data agored troseddau a chanlyniadau a gofnodwyd gan yr heddlu (Y Swyddfa Gartref)

Nifer y Troseddau (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Gwella Cydraddoldeb Hiliol mewn Polisi Troseddu a Chyfiawnder (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru)

 

Etholiadau’r Senedd 2021

Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw’r Chweched Senedd (Ymchwil y Senedd)

Digartrefedd

Ystadegau Digartrefedd

Cymru o gymunedau cydlynus

Y nod ar gyfer Cymru o gymunedau cydlynus

Awdur: Dr Steven Marshall

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Mae’r pandemig (COVID-19) wedi effeithio’n eang ar fywydau pobl Cymru yn yr un modd â llefydd eraill ac mae hyn wedi effeithio ar y dangosyddion yn y bennod mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai wedi dangos gwelliant tra bod eraill wedi gweld dirywiad, neu, mewn rhai achosion, dychweliad rhannol i lefelau blaenorol yn ail flwyddyn y data yn ystod y pandemig. Ni fydd yn glir tan y blynyddoedd i ddod a yw’r newidiadau’n rhai tymor byr neu’n newid parhaus.

Mae’r mesur sy’n ymwneud â chydlyniant cymunedol (pobl yn cytuno eu bod yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal, bod pobl yn cyd-dynnu’n dda ac yn trin ei gilydd â pharch) wedi cynyddu ers 2018-19, o 52% i 64% yn 2021-22. Mae 66% o bobl yn teimlo’n ddiogel mewn gwahanol sefyllfaoedd, i lawr o 71% 2018-19.

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau yn eu hardal leol (30%), sy’n parhau i wrthdroi’r gostyngiad a welwyd yn cyn y pandemig.

Dywed 89% o bobl eu bod yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw. Roedd cynnydd yng nghanran y bobl a oedd yn fodlon bod gwasanaethau a chyfleusterau da ar gael yn eu hardal leol (74%) a’u bod yn gallu cael gafael ar gyfleusterau a gwasanaethau (86%).

Yn ystod 2021-22 roedd cynnydd yn nifer yr aelwydydd a oedd wedi cysylltu â’u hawdurdod lleol am gymorth gan eu bod dan fygythiad o ddigartrefedd, er bod hyn yn dal yn is nag yn 2019-20. Yn ystod y pandemig COVID-19, mae llawer o aelwydydd a oedd yn ddigartref yn flaenorol wedi cael cymorth i gael llety brys dros dro, gyda’r nod o’u symud i lety tymor hir mwy addas.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae llawer o’r dangosyddion ar gyfer cymunedau cydlynus yn dal yn fesurau cymharol ddiweddar a gasglwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ac felly mae’n anodd rhoi sylwadau hyderus ar newidiadau dros amser. Mae effeithiau pandemig COVID-19, yn ogystal â newidiadau yn y ffordd y cesglir yr Arolwg Cenedlaethol, yn effeithio ar y gallu i gymharu â data cynharach.

Mae’r rhan fwyaf o’r dangosyddion yn y nod hwn wedi cael eu dadansoddi’n fanwl i bennu’r ffactorau sy’n gysylltiedig â gwahaniaethau yn lefel y dangosydd.

Mae’r dangosyddion yn y bennod hon yn cael eu cysylltu’n bennaf ag oedran ac anabledd neu iechyd o ran dimensiynau cydraddoldeb. Os oes cysylltiad, mae bod yn hŷn neu mewn iechyd da yn gysylltiedig â gwerthoedd mwy cadarnhaol y dangosydd. Felly, mae cynnydd tymor hir yn gysylltiedig â gwelliannau o ran iechyd ac amddifadedd neu dlodi.

Mae pob un o’r dangosyddion yn gysylltiedig ag o leiaf un mesur sy’n ymwneud â statws economaidd-gymdeithasol neu amddifadedd. Mae’r mesurau gwirioneddol yn wahanol ar draws y dangosyddion ond ym mhob achos mae bod yn well eu byd yn gysylltiedig â gwerthoedd mwy cadarnhaol y dangosydd. Yr unig eithriad yw, mae bod yn economaidd anweithgar yn gysylltiedig â gwirfoddoli mwy, ond mae hyn yn bennaf oherwydd bod pobl sydd wedi ymddeol yn fwy tebygol o wirfoddoli.

Mae cysylltiadau rhwng y gwahanol fesurau o gymunedau cydlynus, yn enwedig yn achos unigrwydd sydd â chysylltiad ystadegol arwyddocaol â phedwar mesur arall. Gall y cysylltiadau weithio’n hawdd yn y naill gyfeiriad neu’r llall, er enghraifft, gall pobl unig fod yn llai tebygol o wirfoddoli ond gall gwirfoddoli hefyd helpu i leihau unigrwydd.

Mae pobl yn teimlo bod troseddu wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, er bod y darlun o droseddau a gofnodwyd yn fwy cymysg. Yn ystod pandemig COVID-19, bu gostyngiad yn y rhan fwyaf o droseddau gan gynnwys troseddau treisgar a gofnodwyd, ond mae troseddau twyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron wedi bod yn cynyddu.

Nid yw’n glir eto a oes unrhyw newidiadau parhaus mewn ymddygiad o ganlyniad i’r pandemig a allai effeithio ar y cynnydd hirdymor tuag at y nod.

Cydlyniant cymunedol

Roedd bron i ddwy ran o dair o oedolion yn cytuno â phob un o’r tri mesur o gydlyniant cymunedol, ymberthyn i’r ardal leol, pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda, ac yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth. Mae hyn yn gynnydd ers y blynyddoedd cyn y pandemig, ac yn ychydig o ostyngiad ers y llynedd (2020-21).

Yn 2021-22, roedd 64% o bobl yn cytuno â’r tri datganiad am eu hardal leol sy’n ffurfio’r dangosydd cenedlaethol, ac roedd 95% yn cytuno ag o leiaf un datganiad.

Mae’r ffigurau hyn wedi bod yn weddol sefydlog ers iddynt gael eu casglu am y tro cyntaf yn 2012 tan y cynnydd sylweddol yn 2020-21. Ni ddaw’n glir a yw’r cynnydd yn 2020-21 a 2021-22 yn effaith byrdymor o'r pandemig (gyda chymunedau’n dod at ei gilydd yn lleol) ac a fyddant yn cael eu cynnal, neu eu cynnal yn rhannol, hyd nes y bydd data ar gael ar gyfer nifer o flynyddoedd i ddod.

Nid oes gwahaniaeth ystadegol rhwng dynion a menywod ar y mesurau unigol nac o ran cytuno â'r tri datganiad.

Mae tuedd glir tuag at fwy o gydlyniant cymunedol wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl sy'n cytuno â thri datganiad am eu hardal leol. Mae'r canlyniadau ar gyfer tair blynedd. 2021-22, 2020-21 a 2018-19. Mae cyfran uwch yn cytuno â'r datganiadau yn y ddwy flynedd ddiwethaf o gymharu â 2018-19.

Teimlo’n ddiogel ar ôl tywyllu

Mae dwy ran o dair o oedolion yn teimlo’n ddiogel mewn gwahanol sefyllfaoedd ar ôl iddi dywyllu.

Y dangosydd cenedlaethol yw canran y bobl a gytunodd gyda'r pedwar datganiad am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu: gartref, wrth gerdded yn eu hardal leol, teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio mewn car. Yn 2021-22, roedd 66% o bobl yn teimlo’n ddiogel ym mhob un o’r pedair sefyllfa. Mae’r canlyniadau hyn wedi aros yn weddol gyson ar draws y blynyddoedd ers gofyn am y tro cyntaf yn 2016-17.

Mae dynion yn teimlo’n fwy diogel (81%) na menywod (51%). Mae tuedd glir tuag at fwy o deimlad o ddiogelwch wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng, gyda 72% o bobl sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn teimlo'n ddiogel ym mhob sefyllfa o gymharu â 54% o bobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl sy'n cytuno â datganiadau ynghylch teimlo'n ddiogel ar ôl iddi dywyllu yn 2021-22. Roedd 96 y cant yn teimlo'n ddiogel gartref, roedd 97 y cant yn teimlo'n ddiogel wrth deithio mewn car, roedd 75 y cant yn teimlo'n ddiogel wrth gerdded yn yr ardal leol, ac roedd 76 y cant yn teimlo'n ddiogel wrth deithio ar gludiant cyhoeddus.

Bodlonrwydd â’r ardal leol

Yn gyffredinol, yn ôl Arolwg Cenedlaethol 2021-22, mae 89% o bobl yn dweud eu bod yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw, sydd ychydig yn uwch na'r canlyniadau yn 2020-21, 2018-19 a 2016‑17.

Roedd 86% o bobl yn fodlon eu bod yn gallu cyrraedd neu ddefnyddio’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, ychydig yn is na 2020-21 ond cynnydd ers 2018‑19 (83%). Nid oedd y gostyngiad bach diweddaraf yn arwyddocaol yn ystadegol.

Dywedodd llai na 60% o bobl (yn 2021-22) fod gwasanaethau trefol fel canolfannau cymunedol, ysgolion uwchradd, llyfrgelloedd a chlybiau ieuenctid neu chwaraeon ar gael yn eu hardal leol. I’r gwrthwyneb, dywedodd dros 80% eu bod yn gallu cerdded o’u cartref i gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, siopau a thafarndai mewn 15 i 20 munud.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl sy'n fodlon â'u mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau. Mae 87 y cant o bobl mewn ardaloedd trefol yn fodlon, o gymharu â 77% y bobl sy'n byw mewn pentrefi bach ac mewn anheddau ynysig.

Dylanwadu ar benderfyniadau lleol

Mae mwy o bobl nawr yn teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau lleol.

Yn 2021-22, roedd 30% o bobl yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol o’i gymharu â 26% yn 2020-21 a 19% yn 2018-19. Mae hyn yn gynnydd sylweddol ers cyn 2020 ac mae’n bosibl ei fod yn adlewyrchu newid go iawn o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig, ond mae angen ei fonitro yn ystod blynyddoedd yr arolwg yn y dyfodol.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl sy'n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol. Yn 2021-22, dywedodd 30 y cant eu bod yn teimlo eu bod yn gallu cael dylanwad ar benderfyniadau, o'i gymharu ag 19 y cant yn 2018-19. Mae'r canlyniad ar gyfer 2021-22 yn uwch nag ym mhob blwyddyn ers gofyn y cwestiwn am y tro cyntaf yn 2012-13.

Gwirfoddoli

Mae canlyniadau data ar-lein a gasglwyd fel rhan o Arolwg Cenedlaethol 2021-22 yn dangos bod 29% o bobl yn dweud eu bod yn gwirfoddoli i glybiau neu sefydliadau. Mae hyn yn cymharu â 26% yn 2019-20 pan gynhaliwyd yr arolwg wyneb yn wyneb. Ym mhob blwyddyn, roedd y bobl fwyaf cyffredin yn gwirfoddoli ar gyfer elusennau a chlybiau chwaraeon.

Mae tystiolaeth bod rhyngweithio cymdeithasol o fudd i lesiant personol ac mae gwirfoddoli yn agwedd ar ryngweithio cymdeithasol sydd wedi dangos manteision cadarnhaol o ran iechyd a llesiant.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl sy'n gwirfoddoli, yn ôl math o fudiad, yn 2021-22. Mae pobl yn fwyaf tebygol o wirfoddoli gyda chyrff elusennol (10 y cant), neu glybiau chwaraeon (8 y cant).

Unigrwydd

Pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o deimlo’n unig, er bod oedolion 45 i 64 oed wedi teimlo’n fwy unig yn ystod y pandemig nag yn y blynyddoedd blaenorol. Pobl 65 oed a hŷn yw’r rhai sy’n teimlo lleiaf unig o hyd.

Casglodd yr Arolwg Cenedlaethol ddata gan ddefnyddio graddfa unigrwydd De Jong Gierveld sy’n mynd i'r afael ag unigrwydd emosiynol a chymdeithasol.

Yn 2021-22, yn seiliedig ar y chwe mesur, canfuwyd bod 13% o bobl yng Nghymru yn unig, sef yr un ganran ag yn 2020-21 ac yn is nag yn 2019-20. Fodd bynnag, mae amrywiadau amlwg yng nghanran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n unig ym mhob un o’r mesurau unigol. Yn 2019-20, dywedodd 36% o bobl eu bod yn colli cael pobl o’u cwmpas o’i gymharu â 53% yn 2021-22 (i lawr o uchafbwynt o 71% yn 2020-21). Yn 2020‑21, roedd cynnydd yng nghyfran y bobl a ddywedodd fod ganddynt ddigon o bobl roeddent yn teimlo’n agos atynt, yn ogystal â’r gyfran oedd â digon o bobl y gallent ddibynnu arnynt. Cafodd y cynnydd hwn ei gynnal yn 2021-22 ar 85% a 78% yn y drefn honno, o’i gymharu â 75% a 69% yn 2019-20 (Siart 5.6)

Mae ffynonellau eraill fel Arolwg Barn a Ffordd o Fyw ONS wedi gweld cynnydd mewn rhai agweddau ar unigrwydd yn ystod y pandemig.

Image
Siart far yn dangos y canlyniadau ar gyfer 2019-20, 2020-21 a 2021-22 a'r chwe chwestiwn a holwyd i greu'r mesur unigrwydd. Mae'r ymatebion i bob un ond am un datganiad yn dangos bod pobl yn llai unig yn 2021-22 nag yn 2019-20.

Allgáu digidol

Cafodd dangosydd cenedlaethol newydd ei osod yn 2021 a fydd yn mesur statws cynhwysiant digidol. Bydd y diffiniad ar gyfer y dangosydd hwn yn seiliedig ar ganlyniad prosiect ymchwil ar y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol sylfaenol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan Brifysgol Lerpwl.

Yn y cyfamser, mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol yn 2021-22 yn dangos bod 93% o oedolion yn defnyddio’r rhyngrwyd at ddibenion personol yn y cartref, yn y gwaith neu yn rhywle arall. Ar hyn o bryd, mae’r arolwg hefyd yn gofyn cwestiynau am weithgarwch digidol a’r sgiliau sydd gan bobl. Mae’r rhain wedi eu grwpio’n 5 math o sgil:

  1. trin gwybodaeth a chynnwys
  2. cyfathrebu
  3. trafod
  4. datrys problemau
  5. bod yn ddiogel ac yn gyfreithiol ar-lein

Yn 2021-22, roedd 78% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd wedi gwneud gweithgareddau a oedd yn ymwneud â phob un o’r 5 sgil hyn o’i gymharu â 73% yn 2019-20.

Digartrefedd

Er bod y gyfradd atal digartrefedd wedi aros yn gyson yn 2021-22, cafodd gwasanaethau ar gyfer y rhai sy’n wynebu digartrefedd eu trawsnewid yn ystod y pandemig, gyda llawer o aelwydydd yn cael cymorth i gael llety brys dros dro drwy ymateb brys. Er bod y dull ‘dim un yn cael ei anghofio’ wedi bod ar waith yn barhaus ers mis Mawrth 2020, mae’r ffocws nawr ar symud o sefyllfa o ddibynnu ar lety dros dro, i system sy’n canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym.

Yn ystod 2021-22, cafodd 9,228 o aelwydydd yng Nghymru eu hasesu fel rhai dan fygythiad o ddigartrefedd, cynnydd o 27% dros 2020-21 ond 8% yn is na’r lefel yn 2019-20.

Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf 6 mis mewn 67% o’r achosion hyn. Ers 2017-18, llwyddwyd i atal digartrefedd mewn oddeutu dwy ran o dair o’r achosion..

Ym mis Hydref 2019, amcangyfrifwyd bod 405 o bobl yn cysgu allan ar draws Gymru, cynnydd o 17% (58 o bobl) o'r flwyddyn flaenorol. Yn 2019, amcangyfrifwyd bod 33 o bobl ddigartref yng Nghymru wedi marw, o’i gymharu â 34 yn 2018 a 13 yn 2017.

Mae’r wybodaeth reoli a gasglwyd ers mis Mawrth 2020 yn dangos, rhwng dechrau y pandemig COVID-19 a diwedd mis Mehefin 2022, fod dros 24,200 o bobl a oedd yn ddigartref yn blaenorol wedi cael cymorth i gael llety brys dros dro, gyda’r nod o’u symud i lety tymor hir sy’n fwy addas. Mae amcangyfrifon misol awdurdodau lleol wedi dangos bod y nifer o bobl sy’n cysgu allan ledled Cymru yn amrywio trwy gydol y flwyddyn, ond ar y cyfan wedi aros o dan 135 ers mis Tachwedd 2020.

Trosedd

Gosodwyd dangosydd cenedlaethol newydd yn 2021 a fydd yn mesur canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder. Nid yw data wedi ei gasglu eto ar gyfer y dangosydd hwn, ond disgwylir iddo fod ar gael am y tro cyntaf yn 2024-25.

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn profi trosedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu wedi cynyddu tra bo cyfran yr oedolion sy’n ddioddefwyr troseddau wedi aros yn gymharol sefydlog. 

Mae data gan Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (ac eithrio twyll) yn 2021-22 yn dangos bod 10% o oedolion wedi dioddef troseddau a bod 1.8% wedi dioddef troseddau personol; yn debyg i’r lefelau yn 2020-21.

Cynyddodd troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yn 2021-21 o 17%, yn dilyn y gostyngiad o 11% yn 2020-21. Cafwyd cynnydd yn y rhan fwyaf o gategorïau troseddau, gan gynnwys troseddau treisgar. Yr eithriadau oedd troseddau yn ymwneud â chyffuriau a throseddau yn ymwneud â meddu arfau, a oedd yn gostwng o’i gymharu â 2020-21. Mae’n debygol bod pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau a gyflwynwyd fel mesurau iechyd cyhoeddus ym mis Mawrth 2020 wedi cael effaith ar nifer yr achosion o sawl math o droseddau.

Mae nifer y troseddau yn ymwneud â thwyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron wedi gostwng 13% yng Nghymru rhwng 2020-21 a 2021-22; i gyfradd o 5 trosedd am bob 1,000 o'r boblogaeth yng Nghymru.

Mae’r data diweddaraf ar ganfyddiadau troseddau o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) (2019-20) yn dangos bod 53% o bobl yng Nghymru yn credu bod troseddu wedi codi’n sylweddol yn genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn debyg i’r blynyddoedd blaenorol. Mae canran y rhai sy’n credu bod troseddu wedi cynyddu’n sylweddol yn eu hardal leol yn llawer iawn llai (15%). Mae’r data diweddaraf am droseddau treisgar yng Nghymru gan y CSEW yn dangos bod nifer yr achosion o droseddau yng Nghymru wedi gostwng i gyfradd o 18 am bob 1,000 oedolyn yn 2019-20.

Image
Siart llinell yn dangos cyfraddau troseddu ar gyfer 2002-03 i 2020-21. Y categorïau yw drais yn erbyn y person, difrod troseddol a llosgi bwriadol, troseddau lladrata a throseddau trefn gyhoeddus. Mae siart yn dangos tuedd gyffredinol ar i lawr am droseddau lladrata a difrod troseddol a llosgi bwriadol, tra bod trais yn erbyn y person a throseddau trefn gyhoeddus wedi gweld rhai cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf. Mae pob categori o droseddau a ddangosir yn y siart yn dangos cynnydd o'i gymharu â 2020-21

Darllen pellach

Ffynonellau data

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Y nod ar gyfer Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Awdur: Stephanie Howarth

Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Mae'r pandemig wedi parhau i gael effaith negyddol ar bresenoldeb mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol. Yn 2021-22, roedd 33% o bobl wedi ymweld â digwyddiad celfyddydol yn y flwyddyn flaenorol, i lawr yn sylweddol o 73% yn 2018-19. Roedd cyfranogiad yn y celfyddydau hefyd wedi gostwng o 20% i 14%. Nid oes data newydd ar bresenoldeb na chyfranogiad plant yn y celfyddydau eleni. 

Bu cynnydd cymysg o ran cymryd rhan mewn chwaraeon. Roedd cyfradd yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd wedi cynyddu am y tro cyntaf ers 2017-18, er nad oedd yn newid arwyddocaol yn ystadegol. Fodd bynnag, mae’r gyfran nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon neu weithgarwch corfforol hefyd wedi cynyddu.

Nid oes data newydd ar gyfranogiad mewn chwaraeon ymysg disgyblion ysgol, er bod disgwyl i’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol diweddaraf gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Roedd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos cynnydd yng nghanran y bobl sy’n siarad Cymraeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 11% o siaradwyr Cymraeg yn rhugl.

Cafodd cyflwr 444 o henebion eu hasesu yn 2021-22. Canfuwyd bod 50% yn sefydlog neu wedi gwella a bod cyflwr 50% wedi gwaethygu. Roedd 16% o’r henebion mewn perygl. Yn gyffredinol, roedd henebion a aseswyd yn ystod y flwyddyn hon yn fwy tebygol o fod mewn cyflwr sy’n gwaethygu neu mewn perygl na’r rhai a aseswyd hyd yma. 

Mae nifer yr amgueddfeydd sy’n cyrraedd safonau achrededig wedi cynyddu gan 5 i 99 ac mae nifer y gwasanaethau archif achrededig yn 14.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae arolygon yn awgrymu bod cynnydd cadarnhaol wedi bod yn y tymor hwy yn nifer y siaradwyr Cymraeg (yn enwedig y rhai nad ydynt yn rhugl) ac yn y dangosyddion ar gyfranogiad a phresenoldeb plant mewn gweithgareddau celfyddydol. Mae cyfranogiad mewn chwaraeon ymysg oedolion a phlant hefyd wedi gwella yn y tymor hwy, ond erys gwahaniaethau mawr rhwng rhai grwpiau. Gwelwyd gostyngiad mewn rhai dangosyddion sy’n ymwneud â’r celfyddydau ymysg oedolion, gyda’r pandemig yn dwysau hynny.

Dim ond dwywaith mae’r dangosydd cenedlaethol ar weithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi cael ei gasglu ac mae’n dangos gostyngiad mewn presenoldeb a chyfranogiad rheolaidd, o 75% yn 2017-18 i 71% yn 2019-20. Wrth edrych ar y celfyddydau’n benodol, gwaethygodd y gostyngiad mewn presenoldeb a chyfranogiad yn ystod y pandemig, ond nid yw’n duedd sefydledig eto. Mae gwahaniaethau mawr yn parhau, yn dibynnu ar oedran, iechyd, amddifadedd a chymwysterau.

Er y gostyngiad o ran presenoldeb yn y flwyddyn ddiweddaraf (2019), mae presenoldeb a chyfranogiad plant a phobl ifanc mewn gweithgareddau celfyddydol wedi cynyddu’n sylweddol dros y degawd diwethaf. 

Mae mwy o amgueddfeydd a gwasanaethau archifau yn cyrraedd y safonau achrededig. Mae 63% bellach wedi cyrraedd y meincnod hwn, i fyny o 59% yn 2017.

Ers 2016-17, gwelwyd cynnydd cadarnhaol o ran oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, er gwaethaf y ffaith bod y sefyllfa wedi aros ar yr un lefel rhwng 2017-18 a 2019-20. Mae cyfranogiad mewn chwaraeon ymysg disgyblion ysgol wedi aros ar yr un lefel yn 2015 a 2018, yn dilyn cynnydd o’r arolwg blaenorol.

Roedd nifer a chanran y bobl sy’n siarad Cymraeg wedi gostwng yng Nghyfrifiad 2011, ond mae arolygon ers hynny’n awgrymu bod y niferoedd yn cynyddu. Bydd data Cyfrifiad 2021 i fonitro’r garreg filltir genedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2022.

Mae data arolwg yn awgrymu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl. Mae canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio’r iaith bob dydd wedi bod yn weddol sefydlog.

Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi gwella fymryn ers 2015, ond mae llai o henebion sydd wedi cael eu hasesu’n ddiweddar mewn cyflwr sefydlog. Yn gyffredinol, roedd 76% o adeiladau rhestredig mewn cyflwr sefydlog neu’n gwella o’i gymharu â 59% o henebion.

Celfyddydau, diwylliant a threftadaeth

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi cael ei gasglu ddwywaith erbyn hyn, am y tro cyntaf yn 2017-18 ac yn fwyaf diweddar yn 2019-20. Mae’n dangos gostyngiad yng nghanran yr oedolion sy’n mynychu neu’n cymryd rhan reolaidd mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth, o 75% yn 2017-18 i lawr i 71% yn 2019-20.

Mae gwahaniaethau mawr o hyd o ran presenoldeb a chyfranogiad rhwng grwpiau. Mae oedolion iau, pobl mewn iechyd da, pobl â chymwysterau uwch neu bobl sy’n byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru yn fwy tebygol o fynychu neu gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn.

Image
Siart far yn dangos data am ddwy flynedd ar gyfer canran yr oedolion sy'n mynychu neu sy'n cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth. Roedd hyn wedi gostwng o 75% yn 2017-18 i 71% yn 2019-20.

Presenoldeb a chyfranogiad oedolion yn y celfyddydau

Gan edrych ar y celfyddydau’n fanylach, mae Arolwg Cenedlaethol Cymru diweddaraf yn dangos bod y pandemig wedi parhau i effeithio ar bresenoldeb mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol. Yn 2021-22, roedd 33% o bobl wedi ymweld â digwyddiad celfyddydol yn y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn sylweddol is na 2018-19 pan oedd y ffigur yn 73%.

Gweld ffilm yw’r gweithgaredd celfyddydol mwyaf cyffredin o hyd. Mae 21% o bobl yn dweud eu bod wedi gweld ffilm yn y sinema yn 2021-22, i lawr o 57% yn 2018-19.

Roedd cyfranogiad yn y celfyddydau wedi cynyddu drwy gydol 2021-22 wrth i’r cyfyngiadau lacio ond roedd y cyfraddau’n dal yn is na chyn y pandemig. Ar gyfer 2021-22 yn gyffredinol, roedd 14% o bobl wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol yn y 12 mis blaenorol, o’i gymharu â 20% pan gasglwyd y data ddiwethaf yn 2018-19. Crefftau a chelfyddydau gweledol welodd y lefel uchaf o gyfranogiad yn 2021-22, gydag 8% o bobl yn cymryd rhan yn y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd 6% o bobl wedi mynd i ddigwyddiad celfyddydol Cymraeg yn y flwyddyn ddiwethaf, neu wedi cymryd rhan mewn digwyddiad o’r fath.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn holi ynglŷn â rhwystrau o ran mynd neu gymryd rhan yn y celfyddydau. Diffyg diddordeb ac anhawster dod o hyd i amser oedd y rhwystrau mwyaf cyffredin a grybwyllwyd, gyda 28% a 22% o bobl yn nodi’r rhesymau hyn. Fodd bynnag, yn achos oedolion hŷn, nodwyd mai rhesymau iechyd oedd y rhwystr mwyaf.

Image
Siart bar yn dangos rhesymau pam nad yw pobl yn mynd i neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol. Mae 28% o bobl yn dweud nad oes ganddynt ddiddordeb a 22% ei bod yn anodd dod o hyd i'r amser. Rhesymau eraill yw ymrwymiadau teuluol, cost, iechyd gwael a diffyg mynediad neu gyfleusterau i bobl anabl.

Plant a’r celfyddydau

Dros y tymor hir, gwelwyd cynnydd yn nifer y plant sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol. Fodd bynnag, mae cyfranogiad plant yn y celfyddydau wedi bod yn fwy sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae data gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn dangos bod cyfran y plant a phobl ifanc sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, er bod gostyngiad bach wedi bod yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael ar ei chyfer. Fe gododd o 76.3% yn 2010 i 86.7% yn 2019. Nid yw data ar gael eto ar gyfer cyfnod y pandemig.

Nid yw cyfranogiad plant yn y celfyddydau wedi newid fawr ddim dros y blynyddoedd diwethaf. Mae tua 86% i 87% o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn digwyddiad celfyddydol ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf hyd at 2019.

Mae gwahaniaethau o ran presenoldeb a chyfranogiad yn ôl rhywedd a chefndir economaidd-gymdeithasol. Roedd genethod a phlant o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o fynychu a chymryd rhan yn y celfyddydau, er bod y bwlch rhwng bechgyn a genethod wedi gostwng yn 2019.

Image
Siart linell ar gyfer 2010 i 2019 yn dangos canran y bobl ifanc 7-18 oed sy'n mynd i ddigwyddiadau celfyddydau unwaith y flwyddyn neu'n amlach. Mae'r siart yn dangos cynnydd rhwng 2010 a 2019 o 76 y cant i 87 y cant, er bod rhywfaint o ostyngiad wedi bod yn ystod rhai blynyddoedd hefyd.

Amgueddfeydd ac archifau

Cafodd y cynllun achredu ar gyfer amgueddfeydd ac archifau ei atal dros dro ar gyfer y rhan fwyaf o’r pandemig, ond mae’r data diweddaraf yn dangos bod 99 o amgueddfeydd wedi cyrraedd y safon achredu yn 2022, cynnydd o bump ers 2019. Mae hyn yn golygu bod 62% o amgueddfeydd wedi eu hachredu erbyn hyn, o’i gymharu â 59% yn 2017 i 2019. Effeithiodd y pandemig ar ymweliadau ag amgueddfeydd yn ystod 2021-22, gyda data gan Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 13% o bobl wedi ymweld ag amgueddfa yn y flwyddyn ddiwethaf o’i gymharu â 37% yn 2018-19.

Roedd 14 o wasanaethau archif achrededig yn 2022. Er bod nifer y rhai sy’n bodloni’r safon achredu wedi cynyddu, mae’r ganran wedi gostwng o 86% yn 2019 i 74% yn 2022. Mae hyn yn sgil nifer yr ymgeiswyr newydd i’r cynllun sydd eto i fynd gerbron y panel achredu.

Cymryd rhan mewn chwaraeon

Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos darlun cymysg o ran cymryd rhan mewn chwaraeon. Am y tro cyntaf ers 2017-18, gwelwyd cynnydd bach yng nghyfran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, er nad oedd y newid hwn yn arwyddocaol yn ystadegol. Yn 2021-22, dywedodd 34% eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy. Cyn hyn, nid oedd y ffigur wedi newid yn ystod y tair blynedd flaenorol yr oedd data ar gael, sef 32%.

Dynion, pobl rhwng 16 i 44 oed a phobl mewn gwaith oedd yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy. Roedd lefelau cyfranogiad yn is ymysg pobl mewn amddifadedd materol a phobl â salwch neu gyflwr hirdymor. Ar gyfer grwpiau ethnig, dim ond y canlyniadau ar gyfer y categorïau Gwyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati), Gwyn arall, ac unrhyw grŵp ethnig arall y mae modd eu dadansoddi. Y grŵp Gwyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati) a welodd y lefel isaf o gyfranogiad rheolaidd sef 33%, er nad oedd hyn yn sylweddol is na’r cyfraddau ar gyfer y grwpiau ethnig eraill.

Er bod cynnydd yn nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, roedd cynnydd hefyd yn nifer y bobl nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon neu weithgarwch corfforol. Roedd 44% o oedolion yn nodi hyn. Dyma’r tro cyntaf i’r ffigur hwn godi ers i ddata ddechrau cael ei gasglu yn yr arolwg yn 2016-17.

Yn gyffredinol, byddai 31% o bobl yn hoffi cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol. Mae hyn wedi cwympo’n sylweddol ers yr arolygon blaenorol lle dywedodd tua 50% y byddent yn hoffi gwneud mwy.

Image
Siart far yn dangos canran yr oedolion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy o 2016-17 i 2019-20. Rhwng 2017-18 a 2019-20 roedd y ffigur yn 32 y cant.

Cyfranogaeth plant mewn chwaraeon

Cynhaliwyd yr arolwg ar chwaraeon ysgol diweddaraf yn ystod 2022 a chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi yn yr hydref. Roedd yr arolwg blaenorol yn 2018 yn dangos bod 48% o ddisgyblion ym mlynyddoedd 3 i 11 yn yr ysgol yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos. Nid oedd hyn wedi newid ers 2015, yn dilyn cynnydd sylweddol ers 2013.

Ychydig iawn o wahaniaeth a welwyd yn y cyfraddau cyfranogi cyffredinol rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda 47% o ddisgyblion cynradd (7 i 11 oed) a 48% o ddisgyblion uwchradd (11 i 16 oed) yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos.

Roedd bechgyn yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd na genethod (50% o’i gymharu â 46%), ond roedd y bwlch wedi lleihau o’i gymharu â’r arolwg blaenorol yn 2015. Roedd cyfraddau cyfranogi disgyblion o’r ysgolion lleiaf difreintiedig yn tueddu i fod yn uwch nag ar gyfer disgyblion o’r ysgolion mwyaf difreintiedig. Roedd y cyfraddau hefyd yn uwch ar gyfer disgyblion o grŵp cymysg neu aml-ethnig ac ar gyfer disgyblion sy’n rhugl yn y Gymraeg.

Roedd ymchwil Chwaraeon Cymru yn ystod y pandemig wedi darganfod erbyn mis Awst 2021 bod oedolion yn dweud bod eu plant yn cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol nag y byddent fel arfer wedi’i wneud cyn y pandemig.

Image
Siart far yn dangos canran y plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy yn 2013, 2015 a 2018. Yn 2015 a 2018 roedd y ffigur yn 48 y cant.

Siaradwyr Cymraeg

Y cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Caiff data o Gyfrifiad 2021 ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn 2022. Yn ôl y cyfrifiad blaenorol yn 2011, roedd 19% o bobl tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y Gymraeg yw miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r data o’r cyfrifiad yn dangos mai ychydig dros 562,000 o bobl yng Nghymru oedd yn siarad Cymraeg yn 2011. Yn 1911, roedd bron i filiwn o bobl yn siarad Cymraeg felly mae’r nifer wedi gostwng yn sylweddol dros y ganrif ddiwethaf. Mae wedi adfer ychydig ers y pwynt isaf ym 1981.

Gan mai dim ond unwaith y degawd y mae’r cyfrifiad yn digwydd, rydym yn defnyddio arolygon i edrych ar dueddiadau rhwng y cyfrifiadau. Nid oes modd cymharu data arolygon â’r cyfrifiad gan fod pobl fel arfer yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn arolygon.

Mae data arolygon ers Cyfrifiad 2011 yn awgrymu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu, er nad yw’r gyfran sy’n rhugl wedi newid rhyw lawer. Golyga hyn fod y cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn deillio’n bennaf o bobl nad ydynt yn rhugl. Mae canran y bobl sy’n rhugl yn y Gymraeg wedi aros ar oddeutu 10% i 11% ers 2012-13, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Mae canran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ond ddim yn rhugl yn 24%. Mae hyn wedi bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf gostyngiad yn 2019-20 pan syrthiodd i 13%.

Ffynhonnell arall o ddata ar siaradwyr Cymraeg yw’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae'r arolwg hwn hefyd yn dangos cynnydd yng nghanran y bobl a oedd yn gallu siarad Cymraeg dros y degawd diwethaf. Newidiodd yr arolwg o gyfweliadau wyneb yn wyneb i gyfweliadau dros y ffôn yn ystod y pandemig, ac nid ydym yn deall effaith hyn ar yr ystadegau yn llawn eto. Mae ymchwil blaenorol yn awgrymu bod rhai dulliau arolygu yn gallu arwain at fwy o bobl yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg na dulliau arolygu eraill.

Image
Siart far yn dangos y gallu i siarad Cymraeg o 2012-13 i Ionawr-Mawrth March 2021 (nid oes data ar gael ar gyfer 2015-16). Mae canran y bobl sy'n gallu siarad o leiaf ychydig o Gymraeg wedi cynyddu dros amser, ac mae'r ffigur bellach yn 34%. Mae canran y bobl sy'n rhugl yn y Gymraeg wedi aros yn weddol sefydlog, sef tua 11%.

Defnydd o’r Gymraeg

Mae’r arolwg diweddaraf o ddefnydd o’r Gymraeg yn dangos mai ychydig o newid a fu o ran pa mor aml mae pobl yn siarad Cymraeg.

Yn 2019-20, roedd 10% o bobl tair oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg. Dyma’r un ganran ag yn yr Arolwg Defnydd o’r Gymraeg blaenorol yn 2013-15. Mae data mwy diweddar o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer pobl 16 oed neu hŷn hefyd yn awgrymu mai prin fu’r newid cyffredinol yng nghyfradd y bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd.

Plant a phobl ifanc yw’r grŵp sydd fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn ôl y cyfrifiad ac arolygon, gyda’r ddwy ffynhonnell yn awgrymu bod tua 40% o’r rhai rhwng 3 i 15 oed yn gallu gwneud hynny. Mae pobl iau y tu hwnt i oedran addysg orfodol yn llai tebygol o ddweud eu bod yn siarad Cymraeg.

Mae’r Arolwg Defnydd o’r Gymraeg yn darparu dadansoddiad o’r defnydd o’r Gymraeg ymysg plant ac oedolion. Roedd yn dangos mai plant sydd fwyaf tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd, ac mae hynny'n debygol o fod yn sgil ei defnyddio’n rheolaidd mewn ysgolion. Roedd canran y plant rhwng 3 a 15 oed a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd yn sylweddol uwch nag unrhyw grŵp oedran arall, gyda bron i chwarter ohonynt yn siarad Cymraeg bob dydd. Mae canran y rhai rhwng 3 a 15 oed sy’n siarad Cymraeg bob dydd yn debyg i ganran y disgyblion sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog mewn ysgolion cynradd, canol ac uwchradd, er nad ydym yn gwybod a ydynt o reidrwydd yr un plant.

Mae plant rhwng 3 a 15 oed yn llawer mwy tebygol o fod wedi dechrau dysgu siarad yr iaith yn yr ysgol na’r rhai 65 oed neu hŷn (69% o’i gymharu â 15%). Mae’n debygol mai’r rheswm am hyn yw’r newid sylweddol yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg dros yr hanner can mlynedd diwethaf, gyda chynnydd cyffredinol yn nifer y disgyblion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd wedi cael eu hagor ledled Cymru.

Mae’r grŵp oedran ieuengaf yn llai tebygol o fod ag o leiaf un rhiant sy’n rhugl yn y Gymraeg. Mae 36% o blant rhwng 3 a 15 oed wedi adrodd am hyn, o’i gymharu â 69% o bobl 65 oed neu hŷn.

Mae’r arolwg ar y defnydd o’r Gymraeg 2019-20 yn dangos bod siaradwyr Cymraeg a ddechreuodd ddysgu siarad yr iaith yn y cartref pan oeddent yn blant ifanc yn llawer mwy tebygol o siarad yr iaith bob dydd neu fod yn rhugl yn y Gymraeg o’i gymharu â’r rhai a ddechreuodd ddysgu siarad Cymraeg yn yr ysgol neu fel oedolyn yn rhywle arall.

Daeth yr arolwg ar y defnydd o’r Gymraeg hefyd i’r casgliad bod siaradwyr Cymraeg ddwywaith yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd os oedd ganddynt o leiaf un rhiant yn rhugl yn y Gymraeg, o’i gymharu â siaradwyr Cymraeg heb riant rhugl.

Mae siaradwyr Cymraeg rhugl yn siarad yr iaith yn amlach na’r rhai nad ydynt yn rhugl.

Adeiladau hanesyddol a henebion

Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi gwella fymryn ers 2015, ond mae llai o henebion sydd wedi cael eu hasesu’n ddiweddar mewn cyflwr sefydlog.

O’r 30,000 o adeiladau rhestredig, mae 76% mewn cyflwr sefydlog neu’n gwella a chredir bod 9% mewn perygl. Yn gyffredinol, mae cyflwr adeiladau rhestredig wedi gwella fymryn ers 2015, pan oedd 74% mewn cyflwr sefydlog neu wedi gwella 

Mae cyflwr sampl o henebion cofrestredig yn cael eu hasesu bob blwyddyn. Yn 2021-22 cynhaliwyd arolygon o gyflwr 444 o henebion. Roedd 50% ohonynt yn sefydlog neu wedi gwella ac roedd 50% ohonynt wedi gwaethygu. Roedd 16% o’r henebion mewn perygl. Yn gyffredinol, roedd henebion a aseswyd yn ystod y flwyddyn hon yn fwy tebygol o fod mewn cyflwr sy’n gwaethygu neu mewn perygl na’r rhai a aseswyd hyd yma.  

O’r 4,200 o henebion cofrestredig yng Nghymru, asesir bod 59% yn gyffredinol mewn cyflwr sefydlog neu wedi gwella. Mae hyn wedi aros yr un fath ers llynedd, ond dros y tymor hwy mae’r ffigur wedi bod yn gostwng yn raddol ers 2016-17, pan oedd 66% mewn cyflwr sefydlog neu wedi gwella. Yn unol â chanfyddiadau’r flwyddyn flaenorol, mae 41% o henebion cofrestredig yn dangos dirywiad, ac mae 15% ohonynt yn cael eu hystyried yn rhai ‘mewn perygl’. Y prif effeithiau yw difrod a dirywiad o ganlyniad i’r tywydd ac erydiad stoc.  

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2019-20, roedd 63% o oedolion wedi ymweld â lle hanesyddol yn y flwyddyn flaenorol. Roeddent yn fwy tebygol o ymweld â chestyll, caerau ac adfeilion. Ni fu unrhyw newid cyffredinol yng nghyfran y bobl sy’n ymweld â mannau hanesyddol ers i’r data gael ei gasglu ddiwethaf yn 2017-18.

Image
Siart linell yn dangos canran yr henebion cofrestredig sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy'n gwella. Mae'n cynyddu o 62% yn 2011-12 i uchafswm o 66% yn 2016-17. Yna mae'n gostwng i 59% yn 2020-21.

Darllen pellach

Roedd fersiynau blaenorol o Adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o:

  • gwirfoddoli neu gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol neu chwaraeon
  • rhwystrau o ran cymryd rhan yn y celfyddydau, gwahaniaethau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol a phoblogaeth o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon
  • tueddiadau yn y mathau o weithgareddau y cymerwyd rhan ynddynt
  • cymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod y pandemig
  • cysylltiadau rhwng y Gymraeg a digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru yn cynhyrchu adroddiadau manwl rheolaidd ar y celfyddydau a chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys Arolwg Omnibws y Plant 2019 ac Arolwg Chwaraeon Ysgolion.

Mae amrywiaeth o ddadansoddiadau o’r Gymraeg ar gael hefyd o Gyfrifiad 2011 ac yn adroddiad yr Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Yn fwy diweddar, roedd y cyhoeddiadau canlynol yn dadansoddi data arolygon sy’n ymwneud â'r Gymraeg yn fwy manwl.

Siarad Cymraeg (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2018 i Fawrth 2019

Ble a phryd y mae pobl yn dysgu’r Gymraeg (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2018 i Fawrth 2019

Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r BoblogaetH: 2001 I 2018

Ffynonellau data

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Y nod ar gyfer Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Awdur: Stefanie Taylor

Gwlad sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud rhywbeth o’r fath wneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang. Mae’r nod hwn yn cydnabod, mewn byd rhyng-gysylltiedig, gall yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod Cymru’n genedl gynaliadwy gael effeithiau cadarnhaol y tu allan i Gymru.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Yn 2020, amcangyfrifwyd bod allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cyfateb i 33.6 miliwn tunnell o garbon deuocsid (CO2).

Yn 2021, cafodd 479 o bobl eu cyfeirio fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth i heddluoedd yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 25% o’i gymharu â 2020 (384 o atgyfeiriadau). Mae’n debyg bod rhywfaint o’r cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i well adroddiadau.

Rhoddodd yr Uned Priodasau Dan Orfod gyngor neu gymorth mewn 8 achos posibl o briodas dan orfod a/neu achosion bosibl o anffurfio organau cenhedlu benywod yn 2021 yng Nghymru, sef 2% o gyfanswm y Deyrnas Unedig.

Adroddwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru fod 11% o oedolion wedi gwneud tri neu ragor o’r pedwar gweithredoedd byd-eang canlynol i helpu gyda materion byd-eang: rhoi neu godi arian, ymgyrchu, gwirfoddoli, neu newid yr hyn maen nhw’n ei brynu.

Yn 2021/22, roedd 23,888 o ymgeiswyr ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yng nghyfnod allweddol 4, a 11,504 ar lefel uwch a ddewisodd elfen yr her dinasyddiaeth fyd-eang.

Cyfran y plant a oedd wedi cael eu himiwneiddio’n rheolaidd erbyn pedair oed oedd 87.0% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022.

Roedd y nifer a gafodd y brechlyn niwmococol cyfun a’r brechlyn ‘6 mewn 1’ yn dal i fod dros 95% ymysg plant blwydd oed am y bedwaredd flwyddyn ar ddeg yn olynol.

95% oedd canran y nifer a gafodd ddos cyntaf y brechlyn MMR cyn eu bod yn ddwy oed.

Roedd gostyngiad bach yn nifer y ceiswyr lloches a oedd yn cael cymorth ddiwedd mis Mawrth 2022, ac mae ffigurau wedi gostwng ers yr un chwarter yn 2020.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2022, roedd cyfanswm o 1,437 o ffoaduriaid wedi cael eu hadsefydlu yng Nghymru o dan y Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed (2016-2022) a Chynllun Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (2021 ymlaen).

Yn 2020/21, roedd 21,570 o fyfyrwyr rhyngwladol wedi cofrestru ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru o dros 180 o wledydd, sef 16.6 y cant o’r holl gofrestriadau.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae data ar gyfer rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at y nod Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau hirdymor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a dangosyddion cenedlaethol eraill sy’n gorgyffwrdd â nod Cymru gydnerth. Mae carreg filltir genedlaethol ar gyfer nwyon tŷ gwydr, sef y bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050.

Yn ogystal, mae carreg filltir genedlaethol sy'n ymwneud ag ôl troed byd-eang sef mai dim ond ei chyfran deg o adnoddau’r ddaear y bydd Cymru yn ei defnyddio erbyn 2050.

Mae ôl troed byd-eang Cymru, sy’n dangos cyfanswm y baich amgylcheddol y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned, yn cyfateb yn fras i bum gwaith maint Cymru. Mae gwaith yn cael ei gomisiynu ar hyn o bryd i ail-gyfrifo’r ôl-troed byd-eang, a bydd ar gael yn 2023.

Mae data ar gael ar gyfer y dangosydd dinasyddiaeth weithredol fyd-eang am y tro cyntaf eleni.

Cyd-destun Byd-eang, Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Ar 1 Ionawr 2016, dechreuodd y byd roi Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 ar waith, sef y cynllun gweithredu trawsnewidiol sy’n seiliedig ar 17 Nod Datblygu Cynaliadwy i fynd i’r afael â heriau mawr y byd dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn pwysleisio agenda gyffredinol sy’n mynnu bod holl aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig (y rhai cyfoethog a rhai tlawd fel ei gilydd) yn cymryd camau i gefnogi datblygu cynaliadwy.

Mae llawer o ffactorau sy’n pennu a yw Cymru’n dod yn wlad sy’n fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda’i nodau llesiant penodol i Gymru, yn darparu fframwaith ar gyfer cyfraniad Cymru at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Ar y cyfan, mae’r chwe adroddiad naratif arall, drwy eu hasesiad o’n cynnydd tuag at y nodau llesiant cenedlaethol, yn dangos ein cyfraniad cyffredinol fel cenedl at yr agenda datblygu cynaliadwy ryngwladol. Er enghraifft, rydym yn adrodd mewn mannau eraill ar dueddiadau fel tlodi, anghydraddoldebau a gwaith teg. Felly, mae’r naratif hwn ar y nod Cymru sy’n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang yn canolbwyntio ar feysydd sydd fwyaf perthnasol i’r agenda fyd-eang yn benodol.

Mae’r 50 o ddangosyddion cenedlaethol ar gyfer Cymru hefyd wedi cael eu mapio at ddibenion dangosol yn erbyn y 17 Nod Datblygu Cynaliadwy i’ch helpu chi i lywio rhwng cynnydd yma yng Nghymru a’r berthynas â phob un o’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Dangosyddion Cenedlaethol: mapio i’r Nodau Llesiant a Nodau Datblygu Cynaliadwy CU (offeryn rhyngweithiol)

Er bod rhywfaint o’r naratif yn seiliedig ar ddangosyddion cenedlaethol ac ystadegau swyddogol, mae rhywfaint o’r data a gyflwynir yn yr adran hon yn gyd-destunol ac yn defnyddio data neu ddatganiadau ffeithiol sy’n ymwneud â pholisïau neu raglenni, lle rydym wedi ystyried ei fod yn berthnasol i’r naratif cyffredinol. Nid yw’r data hyn yn cael eu casglu drwy ffynonellau ystadegau swyddogol, ac er eu bod yn cael eu cynnwys yma ar gyfer cyd-destun, ni allwn ddarparu sicrwydd llawn ynghylch ansawdd data. Fodd bynnag, lle bo’n bosibl, mae rhagor o wybodaeth am y data ar gael yn yr Adroddiad Ansawdd ar gyfer Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol adroddiad ansawdd a’r adroddiad nad yw’n cynnwys dangosyddion.

Newid yn yr hinsawdd

Mae pobl yng Nghymru yn poeni am newid yn yr hinsawdd.

Ym mis Mai 2020, oherwydd pandemig COVID-19 (coronafeirws), newidiodd y modd y cynhaliwyd yr Arolwg Cenedlaethol o gyfweliad wyneb yn wyneb i un dros y ffôn. Newidiwyd geiriad rhai cwestiynau hefyd i fod yn fwy addas i’r modd. Am y rhesymau hyn, nid yw bob amser yn bosibl gwneud cymariaethau uniongyrchol ar draws blynyddoedd ond, lle bo hynny’n berthnasol, cynhwysir canlyniadau blynyddoedd blaenorol i ychwanegu cyd-destun.

Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol ar gyfer 2021-22 yn dangos bod y mwyafrif helaeth (97%) o bobl Cymru o'r farn bod hinsawdd y byd yn newid. Yn 2021-22, roedd 76% o oedolion yn eithaf pryderus neu’n bryderus iawn am newid yn yr hinsawdd, sef yr un canlyniad a welwyd yn 2020-21 (76%) ac yn 2018-19 (76%), a chynnydd o’i gymharu â’r 67% yn 2016-17.

Yn 2021-22, roedd 56% o bobl o’r farn bod newid yn yr hinsawdd yn ganlyniad i weithgarwch dynol yn bennaf neu’n gyfan gwbl. Mae 94% yn meddwl bod gweithgarwch dynol yn gysylltiedig i ryw raddau â newid hinsawdd y byd.

Allyriadau nwyon tŷ gwydr

Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi gostwng ers y 1990au, er gwaethaf rhai cyfnodau o gynnydd.

Nod 13 o Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yw “gweithredu ar frys i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau”. Mae carreg filltir genedlaethol ar gyfer nwyon tŷ gwydr, sef y bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050.

Yn 2020, amcangyfrifwyd bod allyriadau'n cyfateb i 33.6 miliwn tunnell o garbon deuocsid (CO2), gostyngiad o 39.2% ers y flwyddyn sylfaen (1990).Cafodd y gostyngiad hwn ei ysgogi gan arbedion effeithlonrwydd o ran cynhyrchu ynni a gwresogi’r sector busnes, defnyddio nwy naturiol i ddisodli rhai mathau o lo a thanwyddau eraill yn ogystal ag atafael rhai diwydiannau cemegol. Mae amrywiadau mewn cynnyrch gweithgynhyrchu (er enghraifft, mewn haearn a dur, cynhyrchu cemegion mewn swp) wedi cael effaith sylweddol ar y duedd.

Roedd yna ostyngiad o 11.6% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 2020 o'i gymharu â 2019. Mae'r rhan fwyaf o'r gostyngiad hwn yn ganlyniad o gyfuniad o allyriadau llai yn y sector cyflenwi ynni a gostyngiad mewn allyriadau ar draws sawl sector o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws (COVID-19) a'r cyfyngiadau sy'n deillio o hynny a gyflwynwyd yn 2020.

Y sector busnes yw’r ffynhonnell allyriadau mwyaf, sy’n cynhyrchu 26% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Mae’r sector hwn yn cael ei ddominyddu gan hylosgi tanwyddau ffosil ym maes cynhyrchiant diwydiannol, yn bennaf wrth gynhyrchu haearn a dur.

Y sector cyflenwi ynni yw’r ail ffynhonnell fwyaf sy’n cyfrif am bron i 25% o allyriadau Cymru. Dilynir hyn gan y sector amaethyddiaeth (15%), y sector trafnidiaeth (14%), y sector preswyl (11%), gyda sectorau eraill yn gwneud cyfraniadau llai o 5% neu lai.

Mae’r ffigurau blynyddol ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ystyried allyriadau yng Nghymru yn unig. Nid ydynt yn cynnwys allyriadau sy’n deillio o nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru, lle maent yn cael eu cynhyrchu mewn mannau eraill (a elwir hefyd yn ôl troed carbon). Bydd amcangyfrifon ar y sail ehangach hon yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022 fel rhan o adroddiad cynnydd statudol ar y gyllideb garbon.

Image
Siart linell i ddangos cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr (cilodunnell) yng Nghymru rhwng 1990 a 2020. Mae allyriadau yng Nghymru wedi gostwng bron i 40 y cant ers y flwyddyn sylfaen.

Ôl troed byd-eang

Mae carreg filltir genedlaethol hefyd sy'n ymwneud â'r ôl troed byd-eang, sef mai dim ond ei chyfran deg o adnoddau’r ddaear y bydd Cymru yn ei defnyddio erbyn 2050.

Ym mis Rhagfyr 2021, ail-enwwyd y dangosydd ôl-troed ecolegol yn ôl troed byd-eang, i adlewyrchu’n fwy cywir sut cyfeirir ato’n rhyngwladol a natur drawsbynciol yr hyn sy’n cael ei fesur. Bydd diweddariad ac ail-gyfrifo’r ôl-troed byd-eang ar gael yn 2023. Yn ogystal â’r ôl troed ei hun, bydd y gwaith hwn yn cynnwys metrigau ychwanegol i helpu i ddeall rhai o gydrannau pwysicaf ein heffeithiau byd-eang yn well, gan gynnwys ôl troed materol a chyfran yr ôl troed byd-eang sy’n gysylltiedig â gwastraff. Byddwn hefyd yn asesu effeithiau byd-eang defnydd Cymru ar fioamrywiaeth, yn ogystal â gwneud rhywfaint o waith i sicrhau bod hyn yn cyd-fynd yn well â metrigau eraill sy’n seiliedig ar ddefnydd, fel carbon ar gyfer adrodd.

Yn seiliedig ar y cyfrifiad diweddaraf, mae ôl troed byd-eang Cymru yn 2015 yn cyfateb yn fras i bum gwaith maint Cymru. Mae hyn yn ddangosydd o'r baich amgylcheddol llwyr y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned.

Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol

Am y tro cyntaf, gofynnodd Arolwg Cenedlaethol Cymru i bobl pa weithgareddau yr oeddent wedi eu gwneud i helpu gyda materion rhyngwladol fel tlodi, hawliau dynol, rhyfel, ffoaduriaid, neu newid yn yr hinsawdd. (Holwyd y cwestiynau hyn cyn y rhyfel yn Wcráin).

Roedd 11% o’r rhai a arolygwyd wedi gwneud tri neu ragor o’r pedwar  gweithredoedd a ganlyn i helpu gyda materion byd-eang: rhoi neu godi arian, ymgyrchu, gwirfoddoli, neu newid yr hyn maen nhw’n ei brynu.

Mae 31% o bobl yn dweud eu bod nhw wedi rhoi arian yn ystod y tri mis blaenorol i helpu gyda materion byd-eang. Y materion mwyaf cyffredin roedd pobl yn rhoi arian tuag atynt oedd tlodi rhyngwladol (21%) ac i gynorthwyo ffoaduriaid (15%). Roedd 36% o fenywod yn dweud eu bod nhw wedi rhoi arian, o’i gymharu â 26% o ddynion.

Dywed 17% o bobl eu bod nhw wedi ymgyrchu dros faterion rhyngwladol yn y 12 mis diwethaf i helpu gyda materion byd-eang, a dywed 5% eu bod nhw wedi gwirfoddoli. Ymgyrchodd 11% o bobl dros faterion hawliau dynol a 10% yn erbyn newid yn yr hinsawdd, tra bo 2% wedi gwirfoddoli i roi terfyn ar dlodi a 2% i helpu ffoaduriaid.

Dywed 54% eu bod wedi newid yr hyn maent yn ei brynu oherwydd materion byd-eang. Mae pobl o dan 75 oed yn fwy tebygol o fod wedi newid yr hyn maent yn ei brynu (57%) na phobl 75 oed a hŷn (34%). Pobl rhwng 25 a 44 oed oedd y grŵp mwyaf tebygol o fod wedi gwneud newidiadau i’r hyn maent yn ei brynu (63%).

Caethwasiaeth modern

Mae nifer y dioddefwyr posibl o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru sy’n cael eu hatgyfeirio wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys targed ar gyfer ‘Rhoi terfyn ar gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl’. Caethwasiaeth fodern yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi ei ddiffinio yn Neddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae’r ddeddf yn categoreiddio troseddau o gaethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol neu drwy rym a masnachu pobl.

Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae nifer yr achosion o ddioddefwyr posibl caethwasiaeth sy’n cael eu hadrodd i’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol neu drwy broses y Ddyletswydd i Hysbysu  yn parhau i gynyddu bob blwyddyn yng Nghymru.

Yn 2021, cafodd 479 o bobl eu cyfeirio fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth i heddluoedd yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 25% o’i gymharu â 2020 (384 o atgyfeiriadau). 2020 oedd y flwyddyn gyntaf i’r NCA beidio â gweld cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau yn y Deyrnas Unedig o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a chredir yn bennaf fod hyn oherwydd pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau cysylltiedig.

Mae’n debyg bod rhywfaint o'r cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf yn deillio o brosesau adrodd gwell a newidiadau yn y ffordd y cofnodir y data. Yn 2021 roedd 116 o’r atgyfeiriadau ar gyfer menywod (24%) ac roedd 363 ar gyfer dynion (76%).

Cafodd 166 (35%) o unigolion eu cyfeirio ar gyfer categorïau camfanteisio ar oedolion ac fe gafodd 291 (61%) eu cyfeirio ar gyfer camfanteisio yn berson ifanc dan oed. Roedd 22 (5%) yn anhysbys neu heb eu nodi.

Y math mwyaf cyffredin o gamfanteisio ar gyfer oedolion oedd camfanteisio ar lafur, gyda chamfanteisio troseddol yn ail. Y math mwyaf cyffredin ar gyfer plant ifanc dan oed oedd ecsbloetio troseddol.

Priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod

Mae priodasau dan orfod neu achosion posibl o anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael eu nodi yng Nghymru

Mae nod 5 y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys targed i ‘gael gwared ar yr holl arferion niweidiol, fel gorfodi plentyn i briodi neu briodi’n gynnar ac anffurfio organau cenhedlu benywod’.

Yn ôl y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, rhoddodd yr Uned Priodasau Dan Orfod gyngor neu gymorth mewn 8 achos posibl o briodas dan orfod a/neu achosion bosibl o anffurfio organau cenhedlu benywod yn 2021 yng Nghymru, sef 2% o gyfanswm y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn ostyngiad o 15 o achosion (2% o gyfanswm y Deyrnas Unedig) yn 2020.

Oherwydd y niferoedd isel o’i gymharu â rhai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae’r duedd ar gyfer Cymru wedi bod yn anwadal rhwng 2015 a 2021. Ar ben hynny, mae’n bosibl bod y pandemig wedi effeithio ar y niferoedd is eleni, fel cyfyngiadau ar briodasau a theithio. Ar ôl cyflwyno’r cyfyngiadau symud cyntaf, gostyngodd nifer yr atgyfeiriadau i’r FMU. Mae newid i’r drefn o ran a ddylid cofnodi achos newydd fel atgyfeiriad neu ymholiad cyffredinol hefyd yn debygol o fod wedi cael effaith fach ar nifer cyffredinol yr achosion o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol ac felly dylid bod yn ofalus wrth gymharu’n uniongyrchol.

Image
Siart linell yn dangos bod yr Uned Priodasau dan Orfod wedi rhoi cyngor neu gymorth mewn 8 achos posibl a oedd yn gysylltiedig â phriodas dan orfod a/neu achos posibl o anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yn 2021 yng Nghymru. Mae hyn wedi gostwng o 15 o achosion yn 2020. Oherwydd niferoedd isel o gymharu â rhai rhannau eraill o'r DU, mae'r duedd yng Nghymru wedi bod yn gyfnewidiol rhwng 2015 a 2021.

Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang

Mae pobl ifanc yng Nghymru yn dysgu am faterion byd-eang ond mae gostyngiad wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n mynychu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Mae SDG y Cenhedloedd Unedig, sef ‘Addysg o Safon’, yn cydnabod pwysigrwydd cael addysg o ansawdd a bod yr holl ddysgwyr yn meddu ar yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy, gan gynnwys ffyrdd cynaliadwy o fyw, hawliau dynol, cydraddoldeb rhywiol a dinasyddiaeth fyd-eang.

Hyd at 2020/21, yn Nhystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru, roedd elfen Dinasyddiaeth Fyd-eang orfodol, sy’n addysgu myfyrwyr am faterion byd-eang. Ers 2020/21 mae'r elfen Dinasyddiaeth Fyd-eang wedi bod yn anorfodol, felly byddai angen cymryd unrhyw gymariaethau cyn 2020/21 gyda gofal.

Yn 2021/22, roedd 32,535 o ymgeiswyr ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yng nghyfnod allweddol 4, a 20,338 ar lefel uwch a ddewisodd y gydran her dinasyddiaeth fyd-eang. Ar gyfer cyfnod allweddol 4, cyflawnodd 99.1% o'r ymgeiswyr pas lefel 1 neu'n uwch, ac ar y lefel uwch, cyflawnodd 99.3% bas lefel 3 neu'n uwch.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae nifer fawr o fyfyrwyr o amrywiaeth o wledydd yn mynychu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Yn 2020/21, roedd 21,565 o gofrestriadau ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru, yn cynnwys 17% o'r holl gofrestriadau. O'r rhain, roedd 5,395 yn dod o fyfyrwyr sy'n hanu o'r Undeb Ewropeaidd (4% o'r holl gofrestriadau), tra bod 16,170 yn dod o fyfyrwyr sydd ddim yn hanu o'r Undeb Ewropeaidd (12% o'r holl gofrestriadau). Ar ei uchafbwynt yn 2010/11, roedd 26,290 o gofrestriadau ar gyfer sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru gan fyfyrwyr rhyngwladol, sef 20% o boblogaeth myfyrwyr.

Image
Siart linell yn dangos canran y boblogaeth myfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru sy'n fyfyrwyr rhyngwladol, o 2007/08 i 2020/21. Yn 2020/21 roedd 21,565 o fyfyrwyr rhyngwladol. Mae hyn yn debyg i'r ffigurau ar gyfer y 5 mlynedd diwethaf, ond yn is na'r uchafswm yn 2010/11, pan oedd 26,290 o fyfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru.

Tlodi bwyd

Mae rhai oedolion yng Nghymru yn wynebu tlodi bwyd ac yn poeni am fforddio bwyd.

Un o nodau’r Cenhedloedd Unedig, sef ‘Dim Newyn’ yw rhoi diwedd ar newyn, sicrhau diogelwch bwyd a gwella maeth.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2021-22, roedd 2% o aelwydydd wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf gyda 1% arall yn dweud nad oeddent wedi cael bwyd ond eu bod wedi dymuno cael hynny. Mae’n anodd cymharu'n uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau yng ngeiriad y cwestiwn a sut y’i gofynnwyd. 

Yn ôl yr arolwg hefyd, roedd 4% o oedolion yn dweud eu bod wedi mynd heb bryd o fwyd sylweddol o leiaf un diwrnod yn y pythefnos cynt. Roedd hyn yn is na'r 9% a gofnodwyd yn 2018-19 ac yn debyg i 2020-21 a 2017-18 (4%). Fodd bynnag, nid oes modd cymharu’r canlyniadau ar draws blynyddoedd yn uniongyrchol oherwydd newidiadau yng ngeiriad y cwestiwn a sut mae’n cael ei ofyn.

Ceiswyr lloches

Mae nifer y ceiswyr lloches sy’n derbyn cymorth wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ers dechrau’r degawd.

Nod rhif 16 y Cenhedloedd Unedig yw ‘hyrwyddo cymdeithasau heddychlon a chynhwysol ar gyfer datblygu cynaliadwy, darparu mynediad at gyfiawnder i bawb a chreu sefydliadau effeithiol, atebol a chynhwysol ar bob lefel’.

Nid yw ffigurau cyflawn ar gyfer nifer y ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n cael eu hadsefydlu yng Nghymru ar gael. Fodd bynnag, cyhoeddir ffigurau sy’n ymwneud â nifer y ffoaduriaid sy’n adsefydlu o dan Gynllun Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (a’r Cynllun Adsefydlu pobl agored i niwed gynt), a nifer y rhai sy’n derbyn cymorth lloches ar hyn o bryd.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2022, roedd cyfanswm o 1,437 o ffoaduriaid wedi cael eu hadsefydlu yng Nghymru o dan y Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed (2016-2022) a Chynllun Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (2021 ymlaen).

Mae Adran 95 yn darparu cymorth i geiswyr lloches sydd â chais am loches neu apêl heb ei ddatrys a cheiswyr lloches aflwyddiannus a oedd â phlant yn eu cartref pan ddefnyddiwyd yr holl hawliau apelio a oedd yn bosibl, ac mae’n cynnwys y rhai sy’n derbyn:

a) Llety gwasgaredig: y rhai sy’n derbyn llety yn unig, neu lety a chynhaliaeth
b) Cynhaliaeth yn unig: lle mae’r ymgeisydd yn derbyn arian i gynnal ei hun ond wedi dod o hyd i’w lety ei hun

Ar ddiwedd mis Mawrth 2022, roedd dros 2,300 o geiswyr lloches yn cael cymorth yng Nghymru. Mae’r nifer sy’n derbyn cymorth wedi gostwng ychydig ers yr un chwarter yn 2020, ar ôl parhau'n sefydlog rhwng 2016 a 2020.

Image
Siart linell yn dangos nifer y ceiswyr lloches sy'n derbyn cymorth Adran 95, y flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2004 i'r flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2022. Mae nifer y ceiswyr lloches sy'n derbyn cymorth wedi parhau'n sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf 2016-2020, ond mae wedi gostwng bob blwyddyn ers 2020.

Yn 2022 achosodd y rhyfel yn Wcráin i lawer o bobl ffoi o'r gwrthdaro. Erbyn diwedd Awst 2022, mae dros 8,000 o fisas wedi'u rhoi i bobl o Wcráin sydd â noddwr yng Nghymru. Rhoddodd Llywodraeth Cymru rôl "noddwr mawr" i dros 4,500 o'r rhain. Roedd dros 5,300 o bobl gyda noddwyr yng Nghymru wedi cyrraedd yn y DU erbyn diwedd Awst 2022.

Darpariaeth brechu

Mae nifer y plant ifanc sy’n cael brechiadau yn dal yn uchel, ond mae wedi gostwng ychydig ers y lefelau uchaf.

Mae nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, sef ‘Iechyd a llesiant da’, yn nodi pwysigrwydd darparu mynediad at feddyginiaethau a brechlynnau fforddiadwy a hanfodol. Mae gan Sefydliad Iechyd y Byd weledigaeth ar gyfer byd heb y frech goch, rwbela a syndrom rwbela cynhenid.

Roedd y rhan fwyaf o’r plant ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022 i fod i gael eu himiwneiddio yn ystod pandemig COVID-19. Er bod y ddarpariaeth ar gyfer plant iau sy’n cael eu brechiadau mewn practis cyffredinol yn dal yn gadarnhaol, gwelwyd bod y duedd wedi gostwng fymryn dros y pedwar chwarter blaenorol. Y nifer a oedd yn cael y brechlyn ‘6 mewn 1’ (y tri dos) ymysg plant sy’n cyrraedd eu pen-blwydd cyntaf oedd 95.2%, o’i gymharu â 95.6% yn y flwyddyn flaenorol.

Roedd y nifer a oedd yn cael y brechlyn niwmococol cyfun a’r brechlyn ‘6 mewn 1’ yn dal i fod dros 95% ymysg plant blwydd oed ar gyfer y bedwaredd flwyddyn ar ddeg yn olynol.

Roedd ychydig o dan 95% yn cael y dos cyntaf o’r MMR yn ddwy oed. Mae hyn yn is na’r cyfartaledd ar gyfer atal achosion o’r frech goch (95% yw'r targed).

Roedd cyfran y plant a oedd wedi cael eu himiwneiddiadau rheolaidd erbyn eu bod yn bedair oed yn 87% eleni. Roedd y bwlch anghydraddoldeb a gofnodwyd mewn darpariaeth imiwneiddio rhwng plant pedair oed sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn 8.5 pwynt canran, yr un fath â 2020-21. Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith i nodi gwraidd yr anghydraddoldebau hyn a chanfod ymyriadau i leihau’r bwlch.

Image
Siart linell yn dangos canran y nifer sy'n dewis derbyn y brechlyn MMR a'r 6 mewn 1 o 2008-09 i 2020-21. Roedd y nifer a oedd yn dewis cael y brechlynnau '6 mewn 1' a niwmococol cyfun yn parhau i fod yn uwch na 95 y cant ymhlith plant blwydd oed am y drydedd flynedd ar ddeg yn olynol. Roedd ychydig o dan 95 y cant yn dewis cael MMR fel y dos cyntaf yn ddwy oed, ac er bod y ffigur wedi cynyddu ers 2008-09 mae'n is na'r uchafswm yn 2013-14.

Cam diweddaraf rhaglen frechu COVID-19 oedd cyflwyno pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn 2022 i bawb sy’n 75 oed ac yn hŷn, y rhai sydd â system imiwnedd hynod fregus ac oedolion hŷn sy’n byw mewn cartref gofal. Roedd y nifer yn uwch yn y grwpiau ethnig Cymysg Gwyn o’i gymharu â’r grwpiau Du, Asiaidd, Cymysg a grwpiau ethnig eraill cyfunedig. Roedd hyn yn wir ym mhob un o’r grwpiau a oedd yn gymwys ar gyfer hwb y gwanwyn. Roedd y nifer sy’n manteisio hefyd yn uwch yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, o’i gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Cosbi plant yn gorfforol

Daeth cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru ar 21 Mawrth, 2022. Cafodd y canlyniadau a gyflwynir yma eu casglu rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Ionawr 2022, cyn i’r gyfraith hon ddod i rym.

Gofynnwyd i rieni a’r bobl nad ydyn nhw’n rhieni am eu barn ynglŷn â smacio plant ac a oeddent yn cytuno neu’n anghytuno bod angen gwneud hynny weithiau.

Mae’n ymddangos bod agweddau wedi newid ers i’r cwestiwn hwn gael ei ofyn ddiwethaf yn 2019-20. Yn 2019-20, dywedodd 35% o bobl fod weithiau angen smacio plentyn o’i gymharu â 25% nawr. Mae’r gyfran sy’n anghytuno’n gryf bod weithiau angen smacio wedi codi i 40%, i fyny o 30% yn 2019-20.

Mae 32% o ddynion ac 20% o fenywod yn dweud bod weithiau angen smacio plentyn. Mae 84% o bobl rhwng 16 a 24 oed yn dweud nad oes byth angen smacio o’i gymharu â 42% o bobl 75 oed neu hŷn.

Image
Siart far yn dangos ymatebion i Arolwg Cenedlaethol ar gyfer arolwg 2019-20 a'r treial ar-lein yn 2021-22 ynghylch a oedd ymatebwyr yn cytuno bod smacio'n angenrheidiol weithiau. Yn 2019-20 dywedodd 35% o bobl bod angen smacio plentyn weithiau o gymharu â 25% nawr. Mae cyfran y bobl sy'n anghytuno'n gryf bod smacio'n angenrheidiol weithiau wedi codi i 40% (o 30% yn 2019-20).

Safleoedd treftadaeth y byd

Mae nod ‘Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy’ y Cenhedloedd Unedig yn nodi pwysigrwydd gwarchod a diogelu treftadaeth naturiol y byd.

Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn llefydd o Werth Cyffredinol Eithriadol i’r holl ddynoliaeth. Mae hyn yn golygu bod eu harwyddocâd diwylliannol a/neu naturiol mor eithriadol fel ei fod yn bwysig iawn i bobl ym mhob man, nawr ac yn y dyfodol.

Yn 2021 cafodd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru ei hychwanegu at Restr Treftadaeth y Byd UNESCO, y pedwerydd safle yng Nghymru.

Ymunodd â Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn ne-ddwyrain Cymru, Traphont ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Chestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd yng Nghaernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech yng ngogledd-orllewin Cymru.

Darllen pellach

Ffynonellau data

Gwybodaeth gefndir

Beth yw’r adroddiad hwn?

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud yng Nghymru o ran cyflawni’r saith nod llesiant. Mae’n adroddiad statudol sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’n adroddiad sy’n ymwneud â chynnydd ar y cyd Cymru fel cenedl. Nid yw’n adroddiad ar berfformiad sefydliad unigol. Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf ym mis Medi 2017.

Eleni, rydym wedi cyhoeddi adroddiad atodol ar blant a phobl ifanc. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad atodol o'r data sydd yn adroddiad Llesiant Cymru sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n bwriadu gwneud i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a’i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig. Bydd hyn yn helpu i greu Cymru rydym i gyd am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r Ddeddf hefyd yn cyflwyno saith nod llesiant i wneud Cymru yn wlad lewyrchus, gydnerth, iachach, fwy cyfartal a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

Mae rhagor o wybodaeth gefndir am y Ddeddf yn y canllaw hanfodion.

Beth yw’r dangosyddion Cenedlaethol ar gyfer Cymru?

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i Weinidogion Cymru bennu dangosyddion cenedlaethol sy’n asesu cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Rhwng mis Medi 2015 a mis Ionawr 2016 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus eang i nodi pa set fach o ddangosyddion y dylid eu datblygu i fesur cynnydd yn erbyn y nodau llesiant. Cyhoeddwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn ym mis Mawrth 2016 a’u cyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn 2021, gofynnodd Llywodraeth Cymru am farn ar ddangosyddion newydd posibl sy’n seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o COVID-19. Ar sail yr ymatebion hyn a’r mewnbwn ehangach, mae rhai dangosyddion wedi cael eu diweddaru ac mae 4 dangosydd cenedlaethol newydd wedi cael eu cynnwys, a chafodd y set o ddangosyddion ei ddiweddaru ym mis Rhagfyr 2021.

Mae’r dangosyddion cenedlaethol wedi eu llunio i gynrychioli’r canlyniadau ar gyfer Cymru a’i phobl a fydd yn helpu i ddangos cynnydd tuag at y saith nod llesiant. Nid ydynt yn ddangosyddion perfformiad ar gyfer sefydliad unigol.

Mae disgrifiadau llawn o’r dangosyddion cenedlaethol, gan gynnwys eu diffiniadau technegol a gwybodaeth am eu ffynonellau data ac amlder yn y ddogfen dechnegol.

Sut mae hyn yn berthnasol i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig?

Mae Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 yn gynllun gweithredu trawsnewidiol sy’n seiliedig ar 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig i fynd i’r afael â heriau mawr y byd dros y 15 mlynedd nesaf. Mae 17 nod byd-eang y Cenhedloedd Unedig yn golygu y bydd yn rhaid i bob gwlad ar y blaned weithredu i roi diwedd ar dlodi, hyrwyddo ffyniant a llesiant i bawb, diogelu’r amgylchedd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’r nodau hynny i fod yn bellgyrhaeddol, yn canolbwyntio ar bobl, yn gyffredinol ac yn drawsnewidiol. Mae aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig wedi ymrwymo i weithio’n ddiflino i’w gweithredu erbyn 2030, a bydd Cymru’n chwarae ei rhan.

Bydd llawer o ddangosyddion cenedlaethol yn helpu i adrodd am y cynnydd yng Nghymru yn erbyn mwy nag un o Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Rydym wedi mapio’r dangosyddion yn erbyn y nodau.

Beth yw’r cerrig milltir cenedlaethol?

Yn ogystal â gosod dangosyddion cenedlaethol, mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu cerrig milltir cenedlaethol i helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud ar lefel genedlaethol tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Yn dilyn eu datblygu ac ymgynghori arnynt drwy gydol 2021, cafodd y don gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol eu gosod gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2021

Pwy gynhyrchodd yr adroddiad hwn?

Mae’r adroddiad wedi ei gynhyrchu gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru o dan gyfrifoldeb Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru. Mae wedi ei gynhyrchu yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac felly, mae wedi ei gynhyrchu’n annibynnol ar ddylanwad gwleidyddol.

Prydlondeb

Mae’r adroddiad wedi ei gynhyrchu ym mis Medi er mwyn sicrhau ei fod mor agos â phosibl at ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol ond ar ôl cyhoeddi Arolwg Cenedlaethol Cymru, sy’n ffynhonnell ar gyfer 13 o’r dangosyddion cenedlaethol

Bydd y data ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol yn cael ei ddiweddaru wrth i setiau data newydd gael eu cyhoeddi ar gyfer y dangosyddion hynny. 

Cwmpas

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, ac felly dim ond mesurau cynnydd lefel uchel y mae modd eu hystyried yn yr adroddiad hwn. Mae dadansoddiad manylach o lawer o’r pynciau hyn ar gael drwy’r amrywiaeth o ddatganiadau ystadegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ONS neu gynhyrchwyr ystadegol eraill.

Cwmpas yr adroddiad yw Cymru. Ar gyfer rhai dangosyddion, cyfeirir at y sefyllfa o’i chymharu â’r Deyrnas Unedig. Mae’r naratif yn erbyn y nodau ac ar gyfer pob dangosydd yn seiliedig ar gynnydd cenedlaethol yn erbyn y nodau, ac nid yw’n ceisio darparu adroddiad ar gynnydd ar wahanol lefelau daearyddol. Fodd bynnag, mae data ar gyfer nifer o ddangosyddion ar gael yn StatsCymru, ar gais, gyda llai o fanylder daearyddol.

Hygyrchedd

Mae’r adroddiad wedi ei gynhyrchu fel adroddiad ar-lein i wella hygyrchedd, ymatebolrwydd a phrofiad defnyddwyr.

Mae’r rhan fwyaf o’r data sy’n sail i’r adroddiad, gan gynnwys dadansoddiadau llawer mwy manwl, ar gael ar StatsCymru a thrwy wasanaethau data agored StatsCymru.

A yw’r holl ddata’n ystadegau swyddogol?

Eleni, rhoddwyd statws Ystadegau Gwladol i adroddiad Llesiant Cymru. Mae hyn yn golygu ei fod wedi cael ei asesu’n annibynnol i fodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth.

Mae’r rhan fwyaf o’r dangosyddion (36) yn seiliedig ar ffynonellau a gyhoeddwyd fel ystadegau swyddogol. Hynny yw, maent wedi eu cyhoeddi gan ystadegwyr y llywodraeth, neu gan gyrff cyhoeddus eraill, o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae 28 o’r dangosyddion hyn yn seiliedig ar ffynonellau sydd wedi eu cyhoeddi fel Ystadegau Gwladol. Hynny yw, mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol, sy’n dangos ei fod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae hyn yn golygu eu bod yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Mae 12 dangosydd yn seiliedig ar ffynonellau eraill fel data gweinyddol a ddelir gan adrannau’r llywodraeth. Nid oes data ar gyfer dau ddangosydd ar hyn o bryd.

Er nad yw holl ffynonellau’r data a ddefnyddir yn dod o ystadegau swyddogol, mae’r adroddiad ei hun wedi ei ddatblygu a’i gyhoeddi’n unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Beth arall ddylwn i ei wybod am y data?

Mae’r adroddiad ansawdd ar gyfer adroddiadau dangosyddion cenedlaethol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r datganiad hwn yn darparu dolenni i wybodaeth am bob un o’r ffynonellau data a ddefnyddir i fesur y dangosyddion cenedlaethol, neu mae’n darparu’r wybodaeth honno lle nad yw’n bodoli mewn mannau eraill.

Er bod y rhan fwyaf o’r naratif yn adroddiad Llesiant Cymru yn dod o ddangosyddion cenedlaethol, mae rhywfaint o’r data’n dod o ystadegau swyddogol eraill neu ystadegau a thystiolaeth eraill lle rydym wedi ystyried eu bod yn berthnasol i’r naratif cyffredinol. Mae’r data sydd ddim yn cael ei gasglu drwy ffynonellau ystadegau swyddogol yn cael eu defnyddio yn adroddiad Llesiant Cymru ar gyfer cyd-destun, ond ni allwn bob amser sicrhau ansawdd data. Gan fod y data yn yr adroddiad cynnydd wedi dod o amrywiaeth o setiau data, bydd lefel yr wybodaeth o ansawdd sydd ar gael yn amrywio ym mhob achos. Rydym wedi darparu dolenni i’r ffynonellau gwreiddiol a’u gwybodaeth ansawdd lle maent yn bodoli.

Pwy sy’n defnyddio’r adroddiad hwn?

Rhagwelir y bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru; y Senedd (gan gynnwys Aelodau’r Senedd a’i phwyllgorau); y cyfryngau; a’r cyhoedd yn gyffredinol i helpu i ddeall (i) Llesiant Cymru (ii) deall y cynnydd sy’n cael ei wneud yn erbyn y saith nod llesiant a (iii) deall ble mae Cymru’n gwneud cynnydd yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.

Mae’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir yn gallu helpu cyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i gyfraith cenedlaethau’r dyfodol i ddeall mwy am natur y newid a ddisgwylir wrth gyflawni’r nodau llesiant. Dylid ystyried y dangosyddion cenedlaethol fel tystiolaeth ddefnyddiol i helpu cyrff cyhoeddus i ddeall y prif feysydd lle dylid gwneud cynnydd mewn perthynas â’r nodau llesiant.

Bydd gan y dangosyddion cenedlaethol hefyd rôl benodol gan fod yn rhaid i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gyfeirio atynt wrth ddadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn eu hardaloedd. Dylai cyrff cyhoeddus hefyd ddefnyddio’r adroddiad i ddatblygu ac adolygu asesiadau llesiant ac i bennu ac adolygu’r nodau llesiant sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Rhaid i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ystyried yr adroddiad blynyddol ar Lesiant Cymru wrth baratoi a chyhoeddi ei ‘Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol’.

Cyd-destun y Deyrnas Unedig

Ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, mae gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol Raglen Llesiant Genedlaethol. Mae’r dangosfwrdd llesiant yn rhoi trosolwg gweledol o’r 43 prif ddangosydd llesiant cenedlaethol a gellir eu harchwilio drwy’r 10 maes bywyd (meysydd) neu drwy gyfeiriad y newid.

Yn yr Alban, mae’r Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol yn nodi gweledigaeth ar gyfer llesiant cenedlaethol ac yn mesur cyflawniad mewn perthynas â hyn. Lansiwyd Fforwm NP diwygiedig ym mis Mehefin 2018 yn dilyn proses adolygu agored ac mae’n seiliedig ar statud (Deddf Grymuso Cymunedau (Yr Alban) 2015).

Mae’r NDF diwygiedig yn mapio ei un ar ddeg Canlyniad Cenedlaethol i ddwy ar bymtheg Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig ac mae’n rhan bwysig o’r gwaith o leoleiddio agenda SDG yn yr Alban. Adroddir ar gynnydd tuag at y weledigaeth a nodir yn y NPF mewn ffordd agored a thryloyw ar wefan yr NPF drwy 81 o ddangosyddion cenedlaethol sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o fesurau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Yn ogystal â dangos perfformiad ar lefel genedlaethol, gall ystod o is-grwpiau demograffig a daearyddol archwilio’r data i weld a yw canlyniadau’n cael eu gwireddu ar gyfer gwahanol rannau o gymdeithas yr Alban.

Yng Ngogledd Iwerddon, y prif fecanwaith ar gyfer asesu llesiant cymdeithasol yw’r fframwaith llesiant o 12 canlyniad a ddatblygwyd gan y Weithrediaeth flaenorol, ac a gafodd ei drafod a’i fireinio yn ystod 2016-2017. Mae’r fframwaith hwn, sy’n cynnwys 49 o ddangosyddion poblogaeth ategol, yn cynnwys Cynllun Cyflawni Canlyniadau Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon.

Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan yn y rhaglen Mesur Llesiant Cenedlaethol sy’n cael ei harwain gan ONS ac mae’n cyhoeddi dadansoddiad llesiant yn seiliedig ar fesurau llesiant ONS, lle mae data sydd ar gael yng Ngogledd Iwerddon yn caniatáu hynny.

Dolenni perthnasol eraill