Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Rydym yn atal dros dro rai o’r ystadegau am amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Gweler datganiad y Prif Ystadegydd am fanylion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cyhoeddiad diweddaraf

Cyhoeddiadau blaenorol

Adroddiad ansawdd

Datganiad y Prif Ystadegydd

Mae'r Prif Ystadegydd wedi penderfynu atal dros dro adrodd ar ystadegau amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hyn yn dilyn pryderon difrifol ynghylch cywirdeb data ar amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth y misoedd diwethaf a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd.

Mae'r pryderon hyn yn cynnwys anghysondebau o ran maint rhestrau aros yr adroddwyd amdanynt ac anghysondebau o ran lefelau gweithgarwch gweithredol. Mae hyn wedi codi cwestiynau ynghylch dibynadwyedd y data a gyflwynwyd. Bydd yr atal dros dro hwn yn parhau hyd nes y bydd ymchwiliad allanol i ansawdd a llywodraethiant y data wedi'i gwblhau.

Yn y cyfamser, bydd ystadegau ar amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cael eu cyhoeddi, ac eithrio data ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd cyngor ac arweiniad yn cael eu darparu yn y cyhoeddiad ystadegol ar ddehongli’r ystadegau hyn yn briodol, o ystyried na fydd y data yn cwmpasu Cymru gyfan.

Rhaid cynnal y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth wrth gynhyrchu ystadegau swyddogol, a hynny yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Nod y gweithgarwch sy'n cael ei gynnal yw adfer gweithdrefnau adrodd cywir a dibynadwy cyn gynted ag y bo modd, fel y gall yr ystadegau hyn barhau i ddiwallu anghenion defnyddwyr.