Strategaeth Tlodi Plant Cymru: adroddiad cynnydd 2025
Crynodeb o’n cynnydd yn erbyn amcanion y Strategaeth Tlodi Plant i helpu i atal a lliniaru ar dlodi plant.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan y gweinidog
Ni ddylai unrhyw blentyn dyfu i fyny yn llwglyd, yn oer neu heb obaith am y dyfodol. Nid nod polisi yn unig yw rhoi terfyn ar dlodi plant, mae'n rheidrwydd moesol. Ac mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth absoliwt i Lywodraeth Cymru.
Teuluoedd sy'n agored i niwed sydd wedi'u taro galetaf yn sgil siociau economaidd y blynyddoedd diwethaf: y pandemig, yr argyfwng costau byw, a mwy na degawd o gyni. Mae prisiau cynyddol, ansicrwydd gwaith a chyflogau nad ydynt yn codi wedi gwthio gormod o aelwydydd i ymyl y dibyn. Plant a phobl ifanc sydd wedi cario'r pen trymaf, gan golli cyfleoedd, sefydlogrwydd, a'r sicrwydd syml o wybod bod eu teuluoedd yn gallu cael deupen llinyn ynghyd.
Ond nid ydym wedi bod yn segur. Rydym wedi gweithredu gyda thosturi a phenderfyniad i amddiffyn teuluoedd, cryfhau ein cymunedau a rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru. O gymorth brys i fuddsoddiad hirdymor mewn gofal plant, addysg a gwaith teg, mae ein hymateb wedi bod yn glir: pan fydd angen help ar deuluoedd, mae Llywodraeth Cymru yn camu i fyny.
Ers 2022 yn unig, rydym wedi buddsoddi mwy na £7 biliwn i roi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd ledled Cymru. Mae hynny'n cynnwys ein Cronfa Gynghori Sengl, sydd wedi datgloi dros £200 miliwn mewn budd-daliadau heb eu hawlio; ein Cronfa Cymorth Dewisol, sy'n darparu cymorth hanfodol mewn cyfnod o argyfwng; a phrydau ysgol am ddim ar gyfer pob plentyn cynradd, gweinwyd mwy na 50 miliwn o brydau ers 2022.
Rydym wedi ariannu dros 100 miliwn o frecwastau am ddim mewn ysgolion cynradd dros y degawd diwethaf. Rydym wedi codi'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg i £40 yr wythnos. Rydym wedi rhoi hyd at £200 i deuluoedd drwy ein Grant Hanfodion Ysgol i helpu gyda gwisgoedd ac offer. Ac rydym yn buddsoddi £250 miliwn bob blwyddyn i helpu 260,000 o aelwydydd gyda'u biliau Treth Gyngor, mwy nag 1 o bob 5 o gartrefi ledled Cymru.
Rydym yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i bob gweithiwr GIG a gofal cymdeithasol. Rydym yn croesawu newidiadau Llywodraeth y DU i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol sy'n golygu y bydd hyd at 160,000 o weithwyr cymwys yng Nghymru yn elwa o gynnydd o £1,400 y flwyddyn.
Rydym wedi helpu bron i 55,000 o bobl ifanc i gael addysg, hyfforddiant neu weithio drwy ein Gwarant i Bobl Ifanc. Ac rydym yn ehangu Dechrau'n Deg a'r Cynnig Gofal Plant fel y gall mwy o rieni weithio, a mwy o blant ffynnu. Mae lleisiau plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ein hymarfer profiad bywyd yn ei gwneud yn glir bod y polisïau hyn yn gweithio.
Ond rydym hefyd yn gwybod bod gormod o deuluoedd yn dal i stryffaglu. Mae gormod o blant yn tyfu i fyny mewn tlodi. Ac er ein bod yn defnyddio pob opsiwn sydd ar gael inni yng Nghymru, mae'r opsiynau mwyaf pwerus, rheolaeth dros dreth a lles, yn parhau i fod yn nwylo San Steffan.
Dyna pam mae ein Strategaeth Tlodi Plant ar gyfer Cymru 2024, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024, yn nodi nid yn unig yr hyn y byddwn ni yn ei wneud, ond yr hyn yr ydym yn galw ar Lywodraeth y DU i'w wneud. Rydym wedi cyflwyno'r achos yn gyson bod polisïau fel cyfyngu budd-daliadau i 2 blentyn yn unig yn dyfnhau'r caledi i deuluoedd. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU wrth iddynt adolygu'r mesurau hyn, i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ffynnu.
Mae ein Strategaeth 2024 yn nodi ein huchelgeisiau hirdymor ar draws y llywodraeth a sut y byddwn yn gweithio ar draws adrannau a chyda phartneriaid i leihau tlodi plant a sicrhau y gall pob plentyn, person ifanc a'u teulu yng Nghymru ffynnu.
Mae’n darparu fframwaith ar gyfer gweithredu polisïau a rhaglenni sy’n cefnogi’r canlyniadau rydym eisiau eu gweld ar gyfer plant a phobl ifanc nawr ac yn y dyfodol. Dyna pam mae'r adroddiad cynnydd hwn yn canolbwyntio ar yr ymrwymiadau a nodir yn y Strategaeth, ac yn adlewyrchu'r camau a gymerwyd ers i'r Strategaeth flaenorol fod ar waith.
Nawr, a'r Llywodraeth bresennol mewn grym yn San Steffan, mae gennym gyfle gwirioneddol i weithredu gyda'n gilydd.
Gyda'n gilydd, gallwn gyflawni mwy nag y gallai'r naill lywodraeth neu'r llall ei wneud ar ei phen ei hun. Ond mae hynny'n gofyn am ddewrder a gweithredu brys, mae pob blwyddyn a gollwn yn blentyndod a gollir. Mae ein strategaeth yn uchelgeisiol ac yn un ar gyfer y llywodraeth gyfan, un sy'n rhedeg drwy bopeth a wnawn, o addysg i dai, o iechyd i'r economi.
Ac rydym yn gwybod na allwn lwyddo ar ein pen ein hunain. Dim ond drwy bartneriaeth y daw newid parhaol: gydag awdurdodau lleol, y trydydd sector, busnesau, ac yn anad dim, gyda phobl sy'n gwybod o brofiad sut beth yw tlodi.
Nid yw tlodi yn anochel. Ffrwyth dewisiadau gwleidyddol ydyw. Ac rydyn ni'n dewis ymladd yn ei erbyn gyda phob opsiwn sydd ar gael inni, pob adnodd, a phob gronyn o benderfyniad sydd gennym. Am fod pob plentyn yng Nghymru yn haeddu cyfle teg.
Yma yng Nghymru, rydym yn dangos beth yw tosturi ar waith mewn Llywodraeth, gweithredu ymarferol, a'i wreiddiau mewn tegwch, gan drawsnewid bywydau.
Jane Hutt AS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip.
Cyflwyniad
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a roddodd ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion tlodi plant ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion hynny.
Ym mis Ionawr 2024, yn dilyn gwaith ymgysylltu helaeth, cyhoeddwyd Strategaeth Tlodi Plant newydd i Gymru gan ddisodli Strategaeth Tlodi Plant 2015. Mae Strategaeth 2024 yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer camau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant dros y degawd nesaf, ac i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer plant a phobl ifanc, ni waeth beth fo'u cefndiroedd. Mae'n gwneud hyn drwy nodi 5 amcan, 5 blaenoriaeth sy'n gysylltiedig â'r amcanion hynny, ac 19 o ymrwymiadau i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru (gellir gweld y rhestr lawn yn Atodiad A). Yn ogystal, ym mis Hydref 2024, cyhoeddwyd Fframwaith Monitro'r Strategaeth Tlodi Plant yn nodi sut y byddai cynnydd yn erbyn y Strategaeth yn cael ei fesur.
Cyhoeddwyd ydiweddariad Adroddiad Cynnydd blaenorol ym mis Rhagfyr 2022. Mae'r asesiad diweddaraf hwn o gynnydd yn cynnwys tair rhan er mwyn dangos cynnydd Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru ers cyhoeddi'r adroddiad diwethaf. Yn gyntaf, mae'r adroddiad cynnydd polisi hwn yn nodi amrywiaeth o gamau gweithredu a roddwyd ar waith ers y diweddariad diwethaf i ymateb i'r amcanion a'r 19 o ymrwymiadau yn y Strategaeth Tlodi Plant. Yn ail, adroddiad yn dangos data yn erbyn y Fframwaith Monitro y cytunwyd arno yn nodi cynnydd yn erbyn mesurau llesiant, ac yn olaf, adroddiad yn dangos tystiolaeth gan blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd â phrofiad bywyd o dlodi ledled Cymru.
Er bod modd darllen pob adroddiad fel dogfen unigol, caiff tystiolaeth o'r adroddiad Profiad Bywyd a'r adroddiad ar y Fframwaith Monitro ei defnyddio hefyd yn y diweddariad polisi hwn lle y bo'n briodol. Fel y gwelir yn y Strategaeth Tlodi Plant, mae bywydau teuluoedd sy'n byw mewn tlodi yn gymhleth ac yn amrywiol iawn, ac mae llawer o ffactorau yn effeithio ar eu gallu i ddod o hyd i lwybrau allan o dlodi.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cyflogaeth addas â chyflog teg am y gwaith a wneir. Rydym hefyd yn deall fod angen i hyn fod yn gysylltiedig ag addysg a hyfforddiant priodol, ynghyd â chyfleoedd gwirfoddoli. Yn ogystal, mae angen sicrhau bod cymorth ar gael i atal y rhwystrau rhag gallu gweithio neu hyfforddi, ac mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â rhai o'r ffyrdd y caiff cymorth ei gynnig yng Nghymru. Fodd bynnag, rhaid ategu'r nodau tymor hwy hyn â chamau gweithredu mwy dybryd ac uniongyrchol er mwyn helpu'r rheini sydd mewn tlodi nawr. Mae hyn yn cynnwys camau gweithredu i sicrhau bod ganddynt fwyd, tai ac ynni, ymhlith blaenoriaethau eraill. Mae amrywiaeth eang o sefydliadau, elusennau a gwirfoddolwyr yn anelu at helpu pobl sy'n wynebu tlodi yn eu cymunedau, a bydd yr adroddiad hwn hefyd yn ceisio amlygu rhywfaint o'r gwaith ardderchog hwn.
Fel y nodir yn y Fframwaith Monitro, mae 31% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Er gwaethaf y camau gweithredu sylweddol sy'n cael eu cymryd ledled Cymru, mae canran y plant mewn tlodi incwm cymharol wedi parhau'n ystyfnig o uchel dros y degawd diwethaf. Felly mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddefnyddio'r holl ddulliau ysgogi sydd ar gael i ni i roi'r cymorth sydd ei angen i blant a theuluoedd mewn tlodi nawr ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am rai o'r dulliau ysgogi, ac mae hyn yn arbennig o wir am system budd-daliadau'r DU. Felly rhaid i ni barhau i chwarae rhan arweiniol wrth alw am gamau gweithredu ehangach, a chydgysylltu'r camau gweithredu hynny, er mwyn gweithio gyda'n partneriaid i ddileu tlodi plant a'i effeithiau yma yng Nghymru.
Ffigur 1: canran yr holl blant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol, Ebrill 2013 i Fawrth 2024
Mae Ffigur 1 yn dangos yn ystod y degawd diwethaf fod canran y plant sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi cyrraedd uchafbwynt yn ystod 2019 i 2021 (31%). Yn dilyn gostyngiad (nad oedd yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol) yn syth ar ôl hynny, mae wedi cynyddu ers hynny i lefel debyg (31%).
Fel y Strategaeth, nid yw'r adroddiad hwn yn ceisio nodi manylion yn erbyn pob un o'r camau gweithredu mae'r llywodraeth bresennol yn eu cymryd, a gaiff eu cofnodi a'u cyflwyno mewn mannau eraill. Mae'r Adroddiad Cynnydd Tlodi Plant hwn yn ceisio darparu crynodeb lefel uchel o'r prif gynnydd rydym wedi'i wneud yn erbyn ein hamcanion, gan ysgogi camau gweithredu ym mhob rhan o'r llywodraeth sy'n canolbwyntio mwy ar anghenion plant mewn tlodi, yn cefnogi prosesau blaenoriaethu a chydweithio ac yn annog partneriaid i weithio mewn ffyrdd newydd neu wahanol.
Yn ogystal, drwy gydol yr adroddiad hwn, byddwn yn dangos sut mae ein camau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi plant yn cael eu cymryd yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru, sef Cymru fwy cyfartal, lewyrchus, gydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Mae'r Ddeddf ei hun wedi'i hategu gan amrywiaeth o ddeddfwriaeth sy'n gosod dyletswyddau statudol ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb.
Mae'r Strategaeth Tlodi Plant yn defnyddio'r 5 ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf. Drwy gydol yr Adroddiad Cynnydd hwn, ceir enghreifftiau o'r ffordd rydym wedi cydweithio ar draws Llywodraeth Cymru a gyda rhanddeiliaid, ymarferwyr ac eraill i fynd i'r afael â heriau tlodi drwy ddull gweithredu cydgysylltiedig. Rydym wedi sefydlu dulliau o helpu i atal pobl rhag mynd i dlodi, camau gweithredu i liniaru effeithiau gwaethaf byw mewn tlodi a chymorth i'r rhai hynny sydd mewn tlodi i ddod o hyd i lwybrau allan o dlodi a'u dilyn.
Mae ein holl ymdrechion i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd yn unol ag uchelgeisiau'r Rhaglen Lywodraethu.
Fframwaith Monitro
Datblygwyd y Fframwaith Monitro ar ôl cyhoeddi'r Strategaeth Tlodi Plant i'n galluogi i ddangos ein cynnydd wrth ymdrin â thlodi plant mewn ffordd dryloyw. Cafodd y fframwaith ei lywio gan gyngor academaidd annibynnol a safbwyntiau'r Grŵp Cyfeirio Allanol ar Dlodi Plant (CPERG).
Cafodd dangosyddion cenedlaethol perthnasol Llesiant Cymru a mesurau cysylltiedig eu dewis ar gyfer y fframwaith monitro, wedi'u tywys gan gyfres o feini prawf cynhwysiant. Gan fod y dangosyddion hyn yn ymwneud yn bennaf â theuluoedd â phlant a phobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, mae'r Fframwaith Monitro hefyd yn cynnwys data ar gyfer plant o dan 16 oed sy'n deilio o'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.
Profiad bywyd
Ers Adroddiad Cynnydd 2022, gwnaed cryn dipyn o waith i gasglu gwybodaeth gan blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n byw mewn tlodi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n gallu i ddeall y pwysau a achosir gan dlodi a'r effaith y gall penderfyniadau polisi ei chael.
Er mwyn datblygu'r Strategaeth Tlodi Plant, yn 2023 gwnaethom gomisiynu amrywiaeth o sefydliadau i roi adborth i ni o gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ar yr hyn sy'n bwysig i blant, a beth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddynt. Cawsom adborth gan 1,402 o blant a phobl ifanc, a oedd yn cynnwys plant a phobl ifanc o amrywiaeth eang o gefndiroedd gan gynnwys plant â phrofiad o fod mewn gofal, plant o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, plant â phrofiad o ddigartrefedd a phlant ag amhariadau corfforol neu feddyliol.
Ar gyfer yr Adroddiad Cynnydd 2025 hwn, rydym wedi parhau â'r dull o gynnwys y rhai hynny â phrofiad bywyd, gan ofyn pa gymorth y mae pobl wedi'i gael, sut mae'r cymorth hwnnw wedi gwneud gwahaniaeth, a beth arall fyddai'n gwneud gwahaniaeth. Er mwyn gwneud hyn, gwnaethom weithio gyda phartneriaid, sefydliadau'r trydydd sector a grwpiau cymunedol sydd mewn sefyllfa dda i ymgysylltu â phobl ar draws eu cymunedau, gan ofyn am gyngor gan y Grŵp Cyfeirio Allanol ar Dlodi Plant ar y cwestiynau roeddem yn bwriadu eu gofyn. Cymerodd dros 3,000 o bobl ran yn y gwaith hwn, sy'n ein helpu i ddeall yn well beth sy'n bwysig i blant a phobl ifanc nawr, a pha rwystrau y maent yn eu hwynebu wrth gael gafael ar wasanaethau. Defnyddir eu safbwyntiau drwy'r adroddiad hwn i ddangos beth sy'n digwydd yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys gwaith diweddar gan Achub y Plant fel rhan o weithgaredd Pŵer y Llais lle aeth grŵp o ymchwilwyr ifanc o Gwm Rhondda ati i greu animeiddiad pwerus yn rhannu eu syniadau o sut y gellir mynd i'r afael â thlodi plant. Mae hefyd yn cynnwys Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru Codi'r caead ar stigma tlodi yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2024, ac adroddiadau fel adroddiad Sefydliad Bevan, Ciplun ar Dlodi yng Ngaeaf 2024. Gellir edrych ar yr Adroddiad Profiad Bywyd a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r diweddariad hwn fel dogfen ar wahân, ond mae gwybodaeth berthnasol wedi'i chynnwys yn yr Adroddiad Cynnydd hwn.
Drwy waith gwerthfawr ein rhanddeiliaid yng Nghymru, ac adroddiad mwy diweddar Sefydliad Joseph Rowntree Tlodi yng Nghymru 2025, rydym yn gweld yn glir yr heriau mae teuluoedd ledled Cymru yn eu hwynebu ers diwedd y pandemig a'r argyfwng costau byw a arweiniodd at gostau uwch am fwyd a thanwydd, er enghraifft. Mae'r adroddiadau hyn yn awgrymu yn anffodus bod tlodi wedi dod yn `normal newydd’ i rai, a bod lefelau tlodi parhaus wedi cynyddu.
“Mae stigma yn dweud bod pobl mewn tlodi yn bobl ddrwg... ond tlodi sy'n ddrwg, nid y bobl mewn tlodi”
Llais person ifanc.
Rydym yn ddiolchgar iawn i'r plant a'r bobl ifanc, eu teuluoedd, y bobl sy'n gweithio gyda nhw a'r sefydliadau sydd wedi cymryd rhan yn yr holl waith hwn. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn parhau i ddysgu gan bobl a'u cefnogi yn y ffyrdd sy'n eu helpu fwyaf.
Amcan 1: lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd
Mae Amcan 1 yn anelu at helpu teuluoedd i gael mwy o arian yn eu pocedi drwy gynyddu'r swm y maent yn ei gael a lleihau costau. Rydym am sicrhau bod teuluoedd sy'n byw mewn tlodi yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl iddo, ac nad ydynt yn methu allan ar help gan fod systemau yn rhy gymhleth neu'n anodd eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud hi'n haws cael gafael ar fudd-daliadau a helpu pobl i ddod o hyd i waith teg a chyflogau gwell. Drwy gydweithio ar draws adrannau'r llywodraeth a gyda phartneriaid, ein nod yw lleihau'r pwysau ariannol ar deuluoedd a helpu i greu dyfodol mwy sicr i blant yng Nghymru, gan sicrhau dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau plant ym mhob rhan o'n gwaith.
Ymrwymiadau:
- Rhoi system budd-daliadau ar waith yng Nghymru.
- Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pawb sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yn gwneud i bob cyswllt gyfrif.
- Gweithio gydag Estyn a phartneriaid gwella ysgolion er mwyn sicrhau bod addysg yn brofiad niwtral o ran cost i deuluoedd.
Mae'r wybodaeth isod yn darparu trosolwg o'r cynnydd tuag at yr ymrwymiadau hyn yn ogystal â thynnu sylw at enghreifftiau o'r gwaith arall a wnaed ers yr adroddiad cynnydd diwethaf, a'r gwaith sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
Manteisio i'r eithaf ar incwm a lleihau costau aelwydydd drwy sicrhau y caiff hawliadau eu cyflawni a rhoi arian ym mhocedi pobl
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i roi blaenoriaeth i fanteisio i'r eithaf ar incwm fel un o gonglfeini ei strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant. Rydym yn gwneud llawer o bethau i helpu i arbed arian i bobl ledled Cymru fel presgripsiynau'r GIG am ddim. Yn ogystal, cynigir archwiliadau deintyddol am ddim i bawb o dan 25 oed, ynghyd â'n rhaglen Cynllun Gwên, sy'n anelu at atal pydredd dannedd, sydd wedi'i thargedu at ysgolion a meithrinfeydd mewn ardaloedd difreintiedig. Yn 2023 i 2024, cymerodd 1,176 o ysgolion a meithrinfeydd ran yn y rhaglen brwsio dannedd, a oedd yn cynnwys ychydig dros 59,000 o blant, a dosbarthwyd mwy na 203,000 o becynnau brwsio dannedd. Drwy GIG Cymru, rydym hefyd yn darparu profion golwg am ddim i blant hyd at 16 oed, a'r rhai hynny rhwng 16 a 18 oed mewn addysg amser llawn, ac i bobl eraill gymwys. Mae'r camau gweithredu hyn yn sicrhau y gall plant yng Nghymru gael gafael ar y gwasanaethau iechyd sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt.
At hynny, bydd ein gwaith i symleiddio'r system budd-daliadau yng Nghymru, sy'n cefnogi camau gweithredu mewn perthynas ag Ymrwymiad 1, yn ei gwneud hi'n haws i deuluoedd gael gafael ar yr hyn y mae ganddynt yr hawl iddo. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r 22 o awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i droi Siarter Budd-daliadau Cymru yn realiti. Ym mis Ionawr 2025, cyhoeddwyd map llwybr cam 1 Symleiddio Budd-daliadau Cymru. Mae'n nodi'r camau gweithredu lefel uchel sydd eu hangen i sicrhau y gellir darparu'r 3 budd-dal allweddol sy'n gysylltiedig ag awdurdodau lleol (Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Prydau Bwyd Ysgol am Ddim a'r Grant Hanfodion Ysgol) mewn ffordd fwy cydlynol. Bydd hyn yn golygu mai dim ond unwaith y bydd angen i bobl ledled Cymru roi eu gwybodaeth a'u tystiolaeth ategol er mwyn manteisio ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, Prydau Bwyd Ysgol am Ddim a'r Grant Hanfodion Ysgol. Ein nod yw y bydd hyn yn cael ei roi ar waith ym mhob awdurdod lleol erbyn mis Ebrill 2026.
“Mae cael help i dalu'r Dreth Gyngor wedi lleihau rhywfaint o'r pwysau ariannol sydd arnom, gan ei gwneud hi'n haws ymdopi â chostau hanfodol eraill.”
Llais aelod o deulu.
Mae ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn parhau'n elfen bwysig o'n hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'n un o gonglfeini ein cymorth wedi'i dargedu i bobl a theuluoedd, yn enwedig y rhai hynny y mae costau byw uwch yn effeithio arnynt fwyaf. Mae'r cynllun yn darparu help ariannol uniongyrchol i lawer o aelwydydd incwm isel ledled Cymru drwy leihau eu biliau Treth Gyngor, ac rydym wedi parhau i gynnal hawliadau drwy sicrhau y caiff y cynllun ei uwchraddio bob blwyddyn i ystyried y cynnydd mewn costau byw. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos ym mis Mawrth 2025 fod mwy na 256,000 o aelwydydd yng Nghymru yn cael cymorth â'u biliau Treth Gyngor drwy'r cynllun, ac nid yw dros 216,000 o aelwydydd yn talu unrhyw Dreth Gyngor o gwbl.
Yn 2018, gwnaethom ganolbwyntio ar gefnogi grwpiau agored i niwed drwy eithrio pobl ifanc sy'n gadael gofal rhag talu'r Dreth Gyngor tan iddynt droi'n 25 oed. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, bydd yn helpu dros 1,000 o bobl ifanc ledled Cymru. Yn 2019, cawsom wared ar y bygythiad o ddedfryd o garchar am beidio â thalu'r Dreth Gyngor, a chyhoeddwyd Protocol Casglu, gan wella safonau ledled Cymru. Erbyn diwedd y tymor hwn, byddwn wedi rhoi arferion gorfodi tecach ar waith, wedi gwella'r broses apeliadau ac wedi gwella'r gyfundrefn disgowntiau ac eithriadau.
Er mwyn ategu'r cam gweithredu ar fudd-daliadau Cymru, parheir â'r ymgyrch flaenllaw Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi. O'r ymgyrch codi ymwybyddiaeth gyntaf yn 2021 hyd at fis Mawrth 2025, mae'r fenter genedlaethol hon i annog pobl i hawlio budd-daliadau eisoes wedi helpu mwy na 96,000 o bobl i hawlio mwy na £32.7 miliwn o incwm ychwanegol. Gan gydnabod bod angen teilwra dulliau gweithredu er mwyn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl, rydym wedi targedu'r rhai hynny mewn ardaloedd mwy gwledig drwy orsafoedd radio lleol gan eu bod yn fwy effeithiol wrth gyrraedd cymunedau gwledig.
Cyflwynwyd y Gronfa Gynghori Sengl ym mis Ionawr 2020, ac erbyn mis Mawrth 2025 roedd wedi helpu mwy na 388,000 o bobl o'r cymunedau mwyaf difreintiedig a'r cymunedau sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf i gael incwm ychwanegol o fwy na £208.9 miliwn, a chael dyledion gwerth £66.3 miliwn wedi'u dileu. Mae'n cyrraedd y bobl hynny sy'n wynebu'r angen mwyaf drwy weithio gyda phartneriaid mynediad ac atgyfeirio yn y rhanbarthau. Mae'n mabwysiadu model cyflawni sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan sicrhau y gellir cael gafael ar y gwasanaethau cynghori drwy amrywiaeth o sianeli yn unol ag anghenion yr unigolyn, h.y. wyneb yn wyneb, dros y ffôn, e-bost a gwe-sgwrs. Rydym hefyd wedi sicrhau lle gall fod mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd a lle na all pobl wneud cais am gymorth ar-lein, fod darpariaethau ar waith i dderbyn ceisiadau drwy'r post a thros y ffôn. Mae'r camau gweithredu hyn yn cefnogi Ymrwymiad 2 y Strategaeth Tlodi Plant.
Tynnodd yr Adroddiad Profiad Bywyd sylw at bwysigrwydd y dull gweithredu hwn a'r angen i barhau i godi ymwybyddiaeth.
"Dywedodd rhieni y byddai'n gwneud gwahaniaeth mawr pe byddai un ffordd syml a hygyrch o gadarnhau a oeddent yn gymwys i gael gwahanol fudd-daliadau mewn un man. Gwnaethon nhw esbonio eu bod wedi'u llethu ac wedi'u drysu gan yr hyn sydd ar gael a'u bod yn aml yn methu allan ar gymorth gan nad yw'r wybodaeth yn glir.”
Hwylusydd grŵp.
Mae ein Cronfa Cymorth Dewisol yn darparu dau fath o grant:
- taliad arian parod mewn argyfwng i dalu am fwyd, tanwydd neu gostau hanfodol eraill,
- darparu eitemau cartref hanfodol er mwyn helpu pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi.
Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn y gronfa bwysig hon ers 2013 gyda bron i hanner y rhai hynny sy'n cael cyllid yn deuluoedd â phlant. O 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2025, cymeradwyodd y Gronfa Cymorth Dewisol dros 500,000 o geisiadau.
Mae dros 6,000 o weithwyr rheng flaen dros nifer o sectorau gwahanol wedi cael hyfforddiant am ddim ar fudd-daliadau drwy DANGOS dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae hyn yn helpu i gynnwys dulliau manteisio i'r eithaf ar incwm yn eu gwaith, gan eu grymuso i sicrhau bod pob cyswllt yn cyfrif, meithrin eu gwybodaeth am gymorth ariannol a'u gallu i helpu defnyddwyr eu gwasanaeth i gael gafael ar incwm ychwanegol. Mae dros 70% o'r gweithwyr hynny bellach yn defnyddio eu gwybodaeth fel rhan o'u rôl. Rydym wedi rhyddhau cyllid pellach ar gyfer rhaglen 2 flynedd o hyfforddiant am ddim ar fanteisio i'r eithaf ar incwm i weithwyr rheng flaen o fis Chwefror 2025, a fydd yn atgyfnerthu ein hymdrechion i sicrhau bod pawb sydd â hawl i fudd-daliadau yn gallu cael gafael arnynt.
Enghraifft o Fanteisio i'r Eithaf ar Incwm o Grant Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau 2025 i 2026:
- Yn ystod cyfnod grant 2025 i 2026, sefydlodd Contact Cymru bartneriaeth gyda Fforwm Cymru Gyfan a fydd yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol wedi'i bersonoli ac y gellir ymddiried ynddo i rieni sy'n gofalu am blant anabl yng Nghonwy a Gwynedd drwy sesiynau un-i-un, gweithdai ac adnoddau wedi'u dylunio ar y cyd. Gyda’i gilydd, maent yn cynyddu incwm aelwydydd, gwella dealltwriaeth ariannol a llesiant a rhannu gwersi a ddysgir drwy ddigwyddiad cenedlaethol i gefnogi newid cynaliadwy.
Nod y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru oedd helpu pobl ifanc wrth iddynt adael gofal a phontio i fywyd fel oedolyn, gan roi'r cyfle iddynt ffynnu ond gan ddiwallu eu hanghenion sylfaenol ar yr un pryd. Gwnaeth y cynllun peilot fuddsoddiad ariannol uniongyrchol mewn 644 o bobl ifanc a oedd yn gadael gofal ac a oedd yn troi'n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023, ac yn eu dyfodol. Daeth y cynllun peilot pwysig hwn, a roddodd incwm sylfaenol o £1,600 (cyn treth) bob mis i unigolion cymwys a oedd yn gadael gofal am hyd at 2 flynedd, i ben ym mis Mehefin 2025. Mae'r cynllun peilot yn destun gwerthusiad a disgwylir i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn 2027.
Yn gysylltiedig â'r ymdrechion i helpu teuluoedd i leihau eu costau a manteisio i'r eithaf ar eu hincwm, rydym yn gweithio i ddatblygu llythrennedd ariannol o oedran cynnar. Cydnabyddir yn gynyddol ei fod yn un o sgiliau hanfodol bywyd, ac mae'r ymdrechion i'w integreiddio i mewn i'r Cwricwlwm i Gymru i ysgolion yn adlewyrchu'r flaenoriaeth hon. Rydym yn parhau i weithio gyda'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MAPS) i ddatblygu gwybodaeth am lythrennedd ariannol ac arfer da, gan gynnwys sut mae plant yn rhyngweithio ag arian digidol. Rhannwyd y gwerslyfr `Mae'ch Arian o Bwys’ â hyfforddwyr athrawon mathemateg yng Nghyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) ar ôl cyflwyno'r cymhwyster TGAU Mathemateg a Rhifedd newydd, sy'n cynnwys addysg ariannol fel elfen graidd.
Lleihau costau bwyd
Cwblhawyd y broses o gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, fel rhan o'n Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, ym mis Medi 2024, gan nodi carreg filltir bwysig o ran lleihau costau aelwydydd a gwella maeth plant. Mae tua 174,000 o ddisgyblion ychwanegol bellach yn gallu cael pryd o fwyd maethlon am ddim ar bob diwrnod ysgol. Yn 2024 i 2025, darparodd y rhaglen 21.3 miliwn o brydau wedi'i chefnogi gan £93.5 miliwn o gyllid.O fis Medi 2025, gwnaethom hefyd gynyddu gwerth y gyfradd uned fesul pryd o £3.20 i £3.40, gan adlewyrchu'r flaenoriaeth rydym yn ei rhoi ar gyflawni'r ymrwymiad trawsnewidiol hwn.
Gan edrych i'r dyfodol, rhagwelir y bydd y ddarpariaeth hon i holl blant ysgolion cynradd yn darparu dros 28.5 miliwn o brydau yn 2025 i 2026. Yn ogystal â chynnal y ddarpariaeth uchod, mae'r buddsoddiad parhaus hwn hefyd yn cefnogi gweithgaredd hyrwyddo ehangach, gan gynnwys yr ymgyrch Hawliwch Help gyda Chostau Ysgol, sy'n annog pobl i fanteisio ar y cynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd a'r cynllun prydau ysgol am ddim ar sail prawf modd.
Mae ein darpariaeth i holl blant ysgolion cynradd, wedi'i chyfuno â phrydau ysgol am ddim ar sail prawf modd a'r cynllun amddiffyn wrth bontio mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, yn golygu bod tua dwy ran o dair o'r plant sy'n mynychu ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim.
Mae'r Cynllun Llaeth Ysgol hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â phlant sy'n llwgu drwy sicrhau bod deiet mwy o blant yn iach ac yn faethlon. Rydym yn darparu cyllid o £3 miliwn i'r ysgolion hynny yng Nghymru sy'n dewis cymryd rhan yn y cynllun, a ddarparodd laeth am ddim neu laeth â chymhorthdal i 81,374 o blant ledled Cymru yn y cyfnod 2024 i 2025.
Fel y nodir yn y Fframwaith Monitro, dim ond 35% o blant o deuluoedd golud isel sy'n nodi eu bod yn bwyta brecwast bob dydd yn ystod yr wythnos, o gymharu â 50% o deuluoedd golud uchel. Rydym yn dal i ddarparu brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd i'r plant hynny nad ydynt wedi cael brecwast gartref sy'n helpu i sicrhau na fydd unrhyw blentyn yng Nghymru yn llwgu. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth yn dangos i ni fod angen i ni wneud yn siŵr y gall mwy o blant fanteisio ar y cynnig hwn.
Yn ystod gwyliau'r haf, darparodd Llywodraeth Cymru £5.85 miliwn yn 2025 i 2026 i alluogi dros 300 o ysgolion cymwys i gynnal Bwyd a Hwyl gyda thros 14,000 o leoedd yn cael eu cynnig i ddysgwyr ar bob diwrnod gweithredu. Mae hyn yn £1m ychwanegol o gymharu â chyllid y flwyddyn flaenorol gan alluogi mwy o blant ac ysgolion i elwa. Mae diwrnod arferol yn Bwyd a Hwyl yn cynnwys brecwast a chinio iach, cyfle i roi cynnig ar chwaraeon newydd, a chymryd rhan mewn sesiynau celf, crefft neu goginio. Mae'n rhan o Raglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP) sef cynllun mewn ysgolion sy'n darparu prydau iach, bwyd a maeth, addysg a gweithgareddau corfforol i ddysgwyr mewn ardaloedd lle ceir anfantais economaidd-gymdeithasol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i'w hatgoffa o'u pwerau disgresiwn (o dan Ddeddf Addysg 1996) sy'n caniatáu iddynt ddarparu prydau heb godi tâl ar blant o deuluoedd nad oes ganddynt yr hawl i gyllid cyhoeddus, gan gynnwys y rhai hynny sy'n byw o dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae ein canllawiau Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio'r disgresiwn hwn i ddarparu Prydau Ysgol am Ddim i unrhyw blentyn y mae statws mewnfudo ei rieni yn golygu nad oes ganddynt unrhyw hawl i gyllid cyhoeddus. Roedd y gallu i gael Prydau Ysgol am Ddim yn thema gyffredin i'r rhai hynny a ymatebodd i'r arolwg Profiad Bywyd. Er bod y rhan fwyaf ohonynt yn gadarnhaol iawn, awgrymodd rhai nad oedd y rhai hynny â chyfyngiadau deietegol o reidrwydd yn gallu cael gafael ar y bwyd roedd ei angen arnynt neu roeddent ei eisiau.
“Mae prydau ysgol yn ddefnyddiol iawn gan eu bod yn lleihau straen a phryderon ariannol”
Llais rhiant.
“Arhosais mor hir i'w gael, roedd o gymorth gan nad oedd unrhyw wres yn y tŷ; Cefais brydau ysgol am ddim pan gafodd ei gyflwyno i holl blant ysgolion cynradd a wnaeth wahaniaeth i fy sefyllfa ariannol.”
Llais rhiant.
Mae'r Strategaeth Bwyd Cymunedol yn canolbwyntio ar gysylltu cynhyrchwyr yng Nghymru â defnyddwyr a chefnogi prosiectau bwyd wedi'u harwain gan gymunedau. Mae'n rhoi pwyslais ar rôl y Partneriaethau Bwyd Lleol amlasiantaethol y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu cyllido ers 2022.Mae'r partneriaethau hyn yn gweithio ar draws sectorau gan ddod â phobl berthnasol at ei gilydd i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd mwy cynaliadwy wedi'i theilwra at ei hardal leol ac sy'n ymateb i'w hanghenion penodol, fel gweithio i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd. Maent yn gwneud hyn drwy fentrau fel cynllun 'Cerdyn Planed' Bwyd Caerdydd sy'n cynnig disgowntiau ar gynnyrch organig ym Marchnadoedd Ffermwyr y ddinas ac sydd wedi'i gynllunio i ymdrin â diffyg diogeledd bwyd ac i wella mynediad at opsiynau bwyd iach a chynaliadwy i bobl ar incwm isel. Dim ond yn 2024 i 2025, darparwyd bron i £2 filiwn gennym i gefnogi gwaith Partneriaethau Bwyd Lleol.
Ers 2015, rydym hefyd wedi cyllido FareShare Cymru (FSC) er mwyn ailddosbarthu bwyd gwastraff bwytadwy i sefydliadau cymunedol yng Nghymru. Diben y cyllid yw galluogi FSC i weithio i drechu tlodi bwyd gan ar yr un pryd fynd i'r afael â gwastraff bwyd. Rhoddwyd dros £3 miliwn o gyllid i FSC ers 2015. Mae hyn yn helpu i gefnogi'r economi gylchol, gan ddefnyddio bwyd a diodydd gormodol a fyddai fel arall wedi cael eu gwastraffu er mwyn darparu bwyd rhatach i'r rhai hynny y mae ei angen arnynt.
Er ein bod ni'n gweithio'n galed i sicrhau na fydd angen banciau bwyd yn y dyfodol, rydym yn cydnabod y rhan hanfodol y maent yn ei chwarae wrth gefnogi teuluoedd mewn tlodi. Rydym yn cydnabod ymroddiad a gwaith caled awdurdodau lleol, ac amrywiaeth eang o sefydliadau elusennol a gwirfoddol, i ddarparu'r gwasanaethau hyn ar draws ein cymunedau lleol. Rydym hefyd yn cydnabod gwerth cyd-leoli â gwasanaethau eraill, er enghraifft mewn Canolfannau Clyd, a gydag amrywiaeth o wasanaethau cynghori er mwyn helpu i fanteisio i'r eithaf ar incwm. Mae'r Adroddiad Profiad Bywyd yn nodi pa mor werthfawr oedd banciau bwyd i'r ymatebwyr, a bod dros 37% o'r ymatebion i'r arolwg yn dangos bod pobl wedi eu defnyddio. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru, ers 2022, wedi dyrannu dros £8.5 miliwn ar gyfer cymorth bwyd brys i awdurdodau lleol er mwyn hybu mentrau bwyd cymunedol, fel banciau bwyd, pantrïau a mentrau sy'n darparu prydau poeth mewn lleoliadau cymunedol.
Mae banciau bwyd wedi darparu cymorth hanfodol yn ystod adegau anodd, gan sicrhau bod modd diwallu anghenion sylfaenol ein teulu.”
Llais rhiant.
Lleihau costau tanwydd
Gall tlodi tanwydd arwain at sefyllfaoedd lle bydd teuluoedd yn byw mewn cartrefi oer a llaith, ac yn methu â chynhesu bwyd, neu gael dŵr poeth i olchi. Gall gael effeithiau dinistriol ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Er mwyn helpu i ymdrin â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith y Sefydliad Banc Tanwydd yng Nghymru. Mae hyn wedi ei helpu i ddatblygu rhwydwaith partneriaid sy'n cynnwys mwy na 150 o bartneriaid atgyfeirio yng Nghymru. Gall y partneriaid hyn helpu pobl sy'n rhagdalu am eu tanwydd ac sy'n wynebu risg o gael eu datgysylltu drwy roi cymorth iddynt wneud cais am dalebau tanwydd neu i brynu tanwydd oddi ar y grid.
Ers i Lywodraeth Cymru ddechrau cefnogi gwaith y Sefydliad Banc Tanwydd yng Nghymru, mae wedi dosbarthu dros 86,696 o dalebau tanwydd ac wedi helpu dros 505 o gartrefi â thanciau tanwydd oddi ar y grid i brynu tanwydd gan helpu i gefnogi dros 212,269 o bobl. Mae'r cymorth hwn yn helpu'r rhai hynny sy'n byw mewn ardaloedd gwledig lle mae cyfran uwch o bobl yn byw oddi ar y grid, a lle gall yr isafswm lefelau dosbarthu ar gyfer tanciau olew roi pobl mewn sefyllfa fwy bregus. Ers 2024, mae'r Sefydliad Banc Tanwydd yng Nghymru wedi darparu cymorth wedi'i dargedu'n well i'r gymuned Teithiwr Sipsiwn Roma ac mae'n parhau i ystyried ble y gellid darparu cymorth wedi'i dargedu'n well mewn mannau eraill.
Hyd at ddiwedd mis Mawrth 2024, drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd flaenorol, buddsoddodd Llywodraeth Cymru fwy na £479 miliwn ers 2011 i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi. Roedd mesurau a roddwyd ar waith yn eu cartrefi o fudd i dros 82,000 o aelwydydd a rhoddwyd cyngor effeithlonrwydd ynni am ddim i 210,800 o aelwydydd. Yn 2023 i 2024, llwyddodd y gwelliannau hyn i arbed tua £595 i aelwydydd oddi ar eu bil ynni blynyddol. Lansiwyd ein Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ym mis Ebrill 2024, er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd drwy wella effeithlonrwydd ynni hirdymor y cartrefi incwm isel lleiaf thermol effeithlon yng Nghymru. Bydd yr adroddiad blynyddol a fydd yn cynnwys data ar y rhaglen newydd ar gael erbyn diwedd 2025.
“Mae cyngor ar wresogi'r cartref wedi ein helpu i reoli ein defnydd o ynni mewn ffordd fwy effeithiol ac wedi lleihau rhywfaint o'r straen mewn perthynas â chostau cynyddol.”
Llais aelod o deulu.
Lleihau costau addysg
Mae tystiolaeth yn dangos y gall y costau sy'n gysylltiedig â phlant yn mynychu'r ysgol fod yn uchel. Gall gofynion o ran gwisg ysgol ei gwneud hi'n anodd i deuluoedd allu fforddio anfon eu plant i'r ysgol a gall achosi profiadau o stigma i blant. Rydym wedi rhoi sawl cam gweithredu ar waith i helpu i ymdrin â hyn. Ym mis Mai 2023, gwnaethom gyhoeddi'r Canllawiau Statudol ar Wisg Ysgol. Gwnaethom hefyd gomisiynu Plant yng Nghymru i ddatblygu canllawiau ymarfer da i ysgolion ac i roi gwybodaeth ymarferol mewn perthynas â'r polisi gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Mae'r ddwy ddogfen yn darparu arweiniad ymarferol a chyngor i ysgolion a llywodraethwyr er mwyn helpu i leihau cost gwisg ysgol.
Yn 2024 i 2025, rhyddhawyd £13.1 miliwn drwy'r Grant Hanfodion Ysgol (SEG) sydd wedi helpu i leihau'r gofid sy'n gysylltiedig â phrynu gwisg ysgol a chyfarpar (fel hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, cit chwaraeon a chyfarpar arall ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol) ac wedi helpu llawer o deuluoedd i fanteisio ar gyfleoedd dysgu yn yr awyr agored. Galluogodd y cyllid hwn dros 89,000 o ddysgwyr cymwys i fynychu'r ysgol ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â'u cyfoedion. Rydym yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r cyllid hwn drwy'r ymgyrch `Hawliwch Help gyda Chostau Ysgol’. Mae hyn yn adeiladu ar y swm o £23 miliwn a ryddhawyd eisoes yn 2022 i 2023 a'r £13.5 miliwn a ryddhawyd yn 2023 i 2024 a gefnogodd dros 90,000 o ddysgwyr. Mae'r camau gweithredu hyn yn gweithio tuag at Ymrwymiad 3 o'r Strategaeth Tlodi Plant.
Mae'r Adroddiad Profiad Bywyd yn dangos bod cost anfon plant i'r ysgol, gan gynnwys cost gwisg ysgol, yn peri pryder o hyd i rai teuluoedd.
“Mae gwisg ysgol mor ddrud, yn enwedig gyda'r bathodyn. O'n i'n meddwl bod hynny'n dod i ben a bod ysgolion yn cael gwared ar y gofyniad, ond dyw hynny ddim yn digwydd. Os oes un plentyn neu fwy gennych, mae hyn yn broblem fawr o safbwynt ariannol”
Llais rhiant.
“Diolch i'r grant hanfodion ysgol, llwyddais i brynu'r rhan fwyaf o wisg ysgol fy mhlant am ychydig fisoedd, felly cafodd effaith gadarnhaol iawn o ran cymorth ariannol. Yr un peth gyda'r prydau ysgol am ddim, a gynigiodd bryd cynnes i fy merch bob diwrnod fwy neu lai, gan arbed arian ar becynnau cinio”
Llais rhiant.
Yn ogystal, ym mis Ebrill 2023, cafodd y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) sy'n cefnogi plant cymwys rhwng 16 a 18 oed i barhau â'u haddysg ar ôl oedran gadael ysgol, ei gynyddu o £30 i £40 yr wythnos. Cynhaliwyd adolygiad annibynnol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2024, sydd wedi arwain at gamau gweithredu i helpu plant i gael cymorth i aros mewn addysg, gan gynnwys cynyddu'r trothwyon incwm aelwydydd ar gyfer profion modd o fis Medi 2025. Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd cyllid sydd ar gael i bob plentyn yng Nghymru.
“Mae'r LCA wedi sicrhau bod fy mhlentyn yn cael rhywbeth i'w fwyta yn y coleg, does dim angen i mi boeni; roedd ganddo'r hawl i brydau ysgol am ddim yn yr ysgol ond nid yn y coleg, nawr mae ganddo arian, gall fod fel pawb arall.”
Llais rhiant.
Mae gweithgarwch yr LCA a'r Grant Hanfodion Ysgol yn gysylltiedig ag Ymrwymiad 3 o'r Strategaeth Tlodi Plant, gan helpu i sicrhau bod addysg yn brofiad niwtral o ran cost i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Yn 2024 i 2025, darparwyd cyllid i 6 clwstwr o ysgolion ledled Cymru i gynnal cynlluniau peilot 'diogelu rhag tlodi', ar y cyd â Children North East. Gweithiodd yr ysgolion hyn gyda'i gilydd i gwblhau archwiliadau gyda'r staff, y disgyblion a'r rhieni er mwyn deall profiadau bywyd y rhai hynny sy'n wynebu tlodi mewn ysgolion. Mae'r camau gweithredu y gall yr ysgol eu cymryd i wella profiadau a lleihau costau yn rhan o'r broses archwilio a hunanwerthuso.
Mae gwerthusiad annibynnol o'r cynlluniau peilot yn mynd rhagddo. Cytunwyd ar gyllid i lunio partneriaeth â sefydliadau'r trydydd sector i gefnogi Cost y Diwrnod Ysgol a Mynd i'r Afael â Rhwystrau i Gyrhaeddiad mewn ysgolion a lleoliadau. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys datblygu adnoddau ar-lein, canllawiau a chyngor, creu rhwydwaith i bobl ifanc sy'n cyfleu profiadau bywyd dysgwyr a rhannu arferion gorau er mwyn lliniaru effaith tlodi ar ddisgyblion.
Lleihau costau iechyd
Mae tystiolaeth yn awgrymu fod cydberthyniad uniongyrchol rhwng amddifadedd economaidd-gymdeithasol ac iechyd gwaeth. Mae Gwyddoniaeth Ymchwil Tystiolaeth: modelu'r gaeaf 2025 i 2026 yn nodi bod mwy o risg o iechyd gwael, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf, o ganlyniad i dlodi bwyd a thanwydd. Mae'r ffactorau hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd unigolion yn agored i afiechydon anadlol (fel y ffliw) ac y bydd cyflyrau iechyd eraill yn gwaethygu. Mae hyn yn dangos pam mae camau gweithredu, fel y mentrau i leihau costau bwyd a chostau tanwydd a amlinellir uchod, yn bwysig er mwyn sicrhau y gall teuluoedd gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.
Rydym yn gwybod bod problemau camddefnyddio sylweddau yn effeithio'n sylweddol ar rai pobl ifanc. Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc. Dogfen ganllaw yw'r Fframwaith ac fe'i cynlluniwyd i hysbysu a chynorthwyo cynllunwyr iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol wrth ddylunio a darparu gwasanaethau trin o ansawdd uchel, gan weithio gyda'r rhai hynny y mae risg y byddant yn dechrau defnyddio cyffuriau a/neu alcohol, neu y mae ganddynt brofiad o wneud hynny mewn ffordd broblemus yn y gorffennol neu sy'n gwneud hynny ar hyn o bryd. Rydym yn darparu dros £67 miliwn i gefnogi ein polisi camddefnyddio sylweddau, y mae £6.25 miliwn ohono wedi'i neilltuo ar gyfer plant a phobl ifanc. Rydym yn gwybod drwy'r gwaith ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod bod plant a gaiff eu magu mewn cartrefi lle ceir problemau o ran camddefnyddio sylweddau, o bosibl, yn fwy tebygol o wynebu canlyniadau andwyol yn ddiweddarach mewn bywyd. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein gwasanaethau yn darparu ymyriadau ac ataliadau cynnar er mwyn atal niwed tymor hwy, cyn iddo ddigwydd, ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd dull amlasiantaethol o gefnogi plant a phobl ifanc â materion ehangach a all achosi trawma.
Yn ogystal, bydd y Bil Tybaco a Fêps, a fydd yn berthnasol i bedair gwlad y DU, yn golygu na fydd unrhyw berson ifanc a anwyd ar 1 Ionawr 2009 neu ar ôl hynny yn gallu prynu unrhyw gynhyrchion tybaco. Smygu yw'r prif ffactor sy'n achosi afiechydon y gellid eu hatal a marwolaethau cyn amser yng Nghymru o hyd, ac mae'r cyfraddau uchaf i'w gweld yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Ledled Cymru, mae smygu yn achosi tua 3,845 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi arwain y ffordd wrth gyfyngu ar smygu mewn rhai mannau cyhoeddus awyr agored, gan gynnwys ar safleoedd ysbytai, safleoedd ysgolion a mannau chwarae cyhoeddus er mwyn sicrhau na fydd pobl, yn enwedig plant sy'n defnyddio'r ardaloedd hyn, yn mewnanadlu mwg ail-law niweidiol. Rydym hefyd yn pryderu'n fawr am y cynnydd yn nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n fepio. Gwaharddwyd gwerthu fêps untro yng Nghymru ar 1 Mehefin 2025 oherwydd eu heffeithiau amgylcheddol a'r cyswllt rhyngddynt a phobl ifanc sy'n fepio. Bydd deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU o dan y Bil Tybaco a Fêps, ynghyd â'r camau ychwanegol rydym yn eu cymryd yng Nghymru i amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol rhag niwed smygu, yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i greu Cymru ddi-fwg erbyn 2030.
Mae'r rhaglen Bwndeli Babi yn darparu eitemau hanfodol i helpu teuluoedd newydd a theuluoedd sy'n disgwyl babi, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig. Rydym yn darparu £2.5 miliwn o gymorth er mwyn i deuluoedd cymwys allu cofrestru ar gyfer Bwndel Babi o fis Tachwedd 2025, a chaiff y Bwndeli Babi cyntaf eu dosbarthu ym mis Chwefror 2026. Mae rhagor o waith hefyd yn mynd rhagddo i ddatblygu cynllun dilynol i'r Cynllun Gweithredu ar Fwydo ar y Fron ac mae'r argymhellion a wnaed wrthi'n cael eu hadolygu. Mae'r cynllun hwn yn anelu at helpu teuluoedd i wneud penderfyniadau gwybodus o ran sut i fwydo eu babanod. Mae'r Cynllun Cychwyn Iach yn rhoi cerdyn wedi'i ragdalu i unigolion beichiog a theuluoedd â phlant o dan 4 oed gael bwyd iach, llaeth a fitaminau am ddim. Mae'r cynllun eisoes wedi bod o fudd i ryw 20,000 o unigolion yng Nghymru hyd yn hyn. Mae'r cynllun wrthi'n cael ei werthuso, a bydd canlyniadau'r gwerthusiad, y disgwylir iddo gael ei gwblhau ddiwedd 2025, yn helpu i lywio camau gweithredu yn y dyfodol. Mae Cychwyn Iach yn cael ei hyrwyddo'n helaeth gan randdeiliaid, gan gynnwys ar draws rhwydweithiau tlodi bwyd, ac mae'n ofynnol i bob aelod o staff y GIG sy'n gweithio gyda menywod beichiog a theuluoedd â phlant dan 4 oed gwblhau cwrs e-ddysgu Cychwyn Iach. Mae hyn yn cynnwys staff Dechrau'n Deg, staff Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, staff sy'n gweithio mewn canolfannau plant, gweithwyr cymorth gofal iechyd, nyrsys meithrin cymunedol, ymarferwyr cynorthwyol, a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Perthynol i Iechyd.
“Mae o fudd mawr i fi; gallaf ddefnyddio'r cerdyn yn Asda neu Premier; os nad oes amser gen i wneud siop fawr neu os nad oes digon o arian gen i, gallwn fynd i'r siop leol pan nad oedd arian parod gen i, a byddent yn ei dderbyn yn yr un ffordd â cherdyn banc. Roedd e'n wych.”
Llais rhiant.
Pwysau Iach: Cymru Iach yw ein strategaeth 10 mlynedd i gynnal pwysau iach ym mhob un o'n cymunedau. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Ategir y strategaeth gan gyfres o gynlluniau cyflawni. Cyhoeddwyd cynllun cyflawni 2025 i 2027 ar 30 Medi 2025 ac mae'n adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ac yn cyfeirio at gamau gweithredu lle gallwn wneud y newidiadau mwyaf gyda'n gilydd. Mae'n cynnwys 6 thema blaenoriaeth, y mae gan bob un ohonynt ffocws sylfaenol ar leihau anghydraddoldebau iechyd a chefnogi unigolion ifancaf ein cymdeithas.Ymrwymwyd dros £4 miliwn i roi'r camau gweithredu yn y cynllun hwn ar waith, gan gynnwys rhaglenni strategol pwysig fel PIPYN (cynlluniau peilot i reoli pwysau plant a theuluoedd).
Mae Rhaglen Plant Iach Cymru a lansiwyd yn 2016 yn nodi'r sesiynau cyswllt wedi'u trefnu y gall plant a'u teuluoedd eu disgwyl gan eu byrddau iechyd, o'r adeg y byddant yn trosglwyddo o wasanaethau mamolaeth i'r blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol (0 a 7 oed), ac fe'i hariennir drwy Fyrddau Iechyd ledled Cymru. Mae'r cysylltiadau cyffredinol hyn yn cwmpasu tri maes ymyrryd: sgrinio; imiwneiddio; a monitro a chefnogi datblygiad plant. Mae'r rhaglen yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo iechyd a llesiant plant, gyda'r nod o leihau anghydraddoldebau a gwella canlyniadau iechyd i blant yng Nghymru. Mae adolygiad cynhwysfawr o'r rhaglen yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a fydd yn dirwyn i ben yn ystod gwanwyn 2026.
Helpu i leihau costau aelwydydd
Mae menter banc pob dim Cwtch Mawr yn enghraifft o sut mae trefniadau cydweithio cadarn rhwng Llywodraeth Cymru, y trydydd sector a phartneriaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn helpu i leihau costau aelwydydd yn ardal Abertawe. Lansiodd y banc pob dim ym mis Mawrth 2024 a gall ddarparu mynediad at nwyddau hanfodol i deuluoedd incwm isel mewn ffordd garedig ac urddasol. Mae'r fenter hon yn helpu i ddarparu dillad, dillad gwely a chynhyrchion i fabanod ymhlith eitemau hanfodol eraill drwy ddefnyddio nwyddau dros ben a ddarperir gan amrywiaeth o gwmnïau. Yn ogystal â rhoi cymorth i deuluoedd ledled ardal Abertawe, mae hyn hefyd yn helpu i leihau gwastraff ac i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu economi gylchol.
Amcan 2: creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial
Mae Amcan 2 yn ymwneud â sicrhau bod unigolion yn cael yr adnoddau, y cyfleoedd a'r cymorth sydd eu hangen i wireddu eu potensial drwy fynediad at addysg, cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, a gwaith teg. Mae'r ymrwymiad i greu cenedl Gwaith Teg, gan ddymchwel y rhwystrau at gyflogaeth, gwella arferion gweithleoedd, a chefnogi cyfranogiad economaidd cynhwysol yn greiddiol i'r amcan hwn. Mae hyn yn cynnwys camau gweithredu wedi'u targedu i gefnogi pobl anabl, gofalwyr, menywod a chymunedau ethnig lleiafrifol, ochr yn ochr ag ymdrechion i ymdrin â chostau gofal plant a thrafnidiaeth fel ffactorau hanfodol sy'n galluogi pobl i weithio.
Ymrwymiadau:
- Hyrwyddo'r Cyflog Byw Gwirioneddol
- Dileu’r rhwystrau i gyflogaeth a llwybrau gyrfa a wynebir gan bobl anabl, menywod, gofalwyr a phobl ethnig leiafrifol
- Mynd ati ym mhob rhan o'r llywodraeth i ddod o hyd i ddatrysiadau fforddiadwy i gostau gofal plant a thrafnidiaeth, er mwyn dileu'r rhwystrau i gael gwaith a gwneud i waith dalu.
Mae'r wybodaeth a nodir isod yn darparu trosolwg o'r cynnydd tuag at yr ymrwymiadau hyn yn ogystal â thynnu sylw at waith arall a wnaed ers yr adroddiad cynnydd diwethaf, a'r gwaith sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
Y dechrau gorau mewn bywyd
Mae tystiolaeth yn dangos bod buddsoddi ym mlynyddoedd cynnar bywyd plentyn yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant y plentyn hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Er ein bod yn cymryd camau gweithredu cadarnhaol sylweddol, mae angen gwneud mwy i sicrhau y gellir codi ein plant ifancaf allan o dlodi.
Ffigur 2: plant mewn tlodi incwm cymharol yn ôl oedran y plentyn ifancaf yng Nghymru
Mae Ffigur 2 yn dangos mai plant sy'n byw mewn cartrefi lle roedd y plentyn ifancaf rhwng 0 a 4 oed yw'r categori uchaf o bell ffordd sy'n byw mewn tlodi o gymharu â'r holl blant eraill. Er y gellir gweld rhywfaint o ostyngiad bach yn niferoedd y plant sy'n byw mewn aelwydydd lle roedd y plentyn ifancaf rhwng 5 a 10 oed a rhwng 11 a 15 oed, mae'r rhai hynny mewn aelwydydd lle roedd y plentyn ifancaf rhwng 0 a 4 oed yn cynyddu o hyd yn ystod pob cyfnod o 4 blynedd.
Mae rhaglen Dechrau'n Deg yn rhoi cymorth wedi'i dargedu i deuluoedd â phlant o dan 4 oed yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae'n rhan o'r Grant Plant a Chymunedau sy'n cefnogi teuluoedd agored i niwed drwy ymyriadau a gwaith atal cynnar. Ym mis Medi 2022, gwnaethom ddechrau ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn raddol er mwyn cynnwys pob plentyn 2 oed, ac er mwyn gwella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Ym mis Medi 2025, Merthyr Tudful oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru lle gall pob plentyn 2 oed gael gofal plant am ddim o ganlyniad i'r rhaglen ehangu. Yn 2024 i 2025, cafodd 40,943 o blant fudd o wasanaethau Dechrau'n Deg, sef 35.1% o'r holl blant o dan 4 oed yng Nghymru yn 2024.
Mae gan bob plentyn yr hawl i allu mynegi ei hun yn rhydd am y materion sy'n effeithio arno. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod plant sy'n byw mewn tlodi yn dioddef yn anghymesur o ran oedi wrth ddatblygu eu sgiliau iaith, sy'n effeithio ar eu gallu i fynegi eu hunain. Mae cynllun lleferydd, iaith a chyfathrebu Siarad Gyda Fi wedi parhau'n gadarn ers ei lansio ym mis Tachwedd 2020. Rydym yn parhau i wneud gwelliannau pellach wrth nodi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ymhlith plant rhwng 0 a 4 oed 11 mis, gan fuddsoddi £11.5 miliwn yn ein Prosiect Pengwin i ddatblygu offer ac adnoddau i helpu ymarferwyr i nodi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Rydym hefyd wedi cymryd camau i uwchsgilio'r gweithlu yng Nghymru er mwyn ymdrin ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y grŵp oedran hwn, ynghyd â darparu adnoddau i rieni ac eraill, gan helpu i wella eu hyder wrth nodi anghenion ac ymdrin â nhw. Byddwn yn parhau i ddatblygu Siarad Gyda Fi ac i ystyried sut y gallwn ddefnyddio'r dull gweithredu hwn gyda phlant hŷn a phobl ifanc.
Fel rhan o'r broses o ddatgan diwygiad radical o ofal plant a phobl ifanc, rydym yn parhau'n ymrwymedig i wella canlyniadau addysgol i blant â phrofiad o fod mewn gofal, gan gydnabod ar yr un pryd bwysigrwydd ystyried eu hanghenion mewn ysgolion mewn modd cyfannol. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i greu cyfres o ganllawiau arfer da, gan gynnwys siarter rhianta corfforaethol. Bydd y rhain yn helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i roi arferion da ar waith.
Addysg a chynnydd
Mae'r Grant Datblygu Disgyblion (PDG) yn rhoi cyllid i ysgolion a lleoliadau addysgol er mwyn helpu i wella cyrhaeddiad plant o aelwydydd incwm isel ac o gefndiroedd â phrofiad o fod mewn gofal drwy leihau'r rhwystrau at ddysgu. Dyrannwyd cyllid o £128 miliwn i'r grant yn 2025 i 2026, gan adlewyrchu'r cyllid a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol. O'r cyllid hwnnw, bydd ychydig dros £5.6 miliwn ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a hynny'n benodol i roi cymorth i blant â phrofiad o fod mewn gofal yn yr ysgol. Nod y cyllid hwn yw gwella eu cyrhaeddiad drwy leihau'r rhwystrau y maent yn aml yn eu hwynebu wrth gyflawni eu potensial llawn.
Mae'r grant yn galluogi ysgolion a lleoliadau i fabwysiadu dulliau gweithredu wedi'u targedu a dulliau gweithredu ysgol gyfan. Dylai dulliau gweithredu ysgol gyfan allu bod o fudd i bob dysgwr ond rhaid iddynt sicrhau y caiff anghenion disgyblion dan anfantais eu diwallu. Gall ysgolion benderfynu sut i ddefnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion, ond bydd angen i benderfyniadau fod yn seiliedig ar dystiolaeth a bydd angen eu monitro er mwyn gweld eu heffaith. Byddwn yn parhau i weithio gyda chynghorwyr y grant i sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario mewn ffordd strategol ac effeithiol.
Yn ogystal â'r Grant Datblygu Disgyblion, mae'r Grant Hanfodion Ysgol (SEG) ar gael i rieni plant mewn aelwydydd incwm isel ac i blant sy'n derbyn gofal. Ymdrinnir â hyn yn fanylach o dan Amcan 1.
Gall plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gael help ychwanegol i ddysgu. Bu newidiadau cadarnhaol i'n system addysg. Yn arbennig, cynllun statudol newydd ar gyfer plant ag ADY, rolau statudol newydd ym maes iechyd ac addysg a ffyrdd newydd o weithio ar gyfer Cymru gyfan. Ers mis Medi 2025, mae'r system ADY wedi bod yn berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Rydym yn parhau i fuddsoddi'n helaeth mewn ADY. Ers 2020, rydym wedi rhoi mwy na £150 miliwn i awdurdodau lleol ac ysgolion er mwyn helpu i roi trefniadau ADY ar waith ac wedi rhoi mwy na £170 miliwn o gyllid cyfalaf i wella cyfleusterau a seilwaith dros y 5 mlynedd diwethaf. Cafodd mwy na 32,000 o gynlluniau datblygu unigol statudol eu llunio mewn ysgolion drwy brosesau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac mae ymarferwyr yn parhau i weithio'n agos gyda dysgwyr a'u teuluoedd i ddeall eu hanghenion ac i drefnu darpariaeth briodol.
Drwy'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr), byddwn yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod llai o anghydraddoldebau addysgol a bod cyfleoedd ar gael i helpu dysgwyr ac i sicrhau eu bod yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau i ddysgu, datblygu a llwyddo gydol eu hoes. Cyhoeddodd Medr ei Gynllun Strategol (2025 i 2030) a'i Gynllun Gweithredol (2025 i 2026), sy'n dangos ymrwymiad i leihau anghydraddoldebau addysgol gan nodi bod addysg yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu llwybr allan o dlodi. Nododd y cynllun strategol ymrwymiad i ddatblygu llwybrau cliriach a mwy cydlynol ar draws y sector addysg drydyddol ac mae'r ymrwymiad i gynhwysiant a llesiant dysgwyr yn cefnogi amcanion y Strategaeth Tlodi Plant mewn perthynas ag urddas a chreu amgylcheddau dysgu diogel, cynhwysol a pharchus.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gofalwyr di-dâl drwy ein Cynllun Seibiant Byr a'n Cronfa Cymorth i Ofalwyr. Rydym wedi darparu £1.75 miliwn i barhau â'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr sy'n rhoi sesiynau cyngor ariannol yn ogystal â grantiau bach i brynu eitemau hanfodol fel bwyd, eitemau cartref neu dalu bil cyfleustod. Gall gofalwyr ifanc ac oedolion sy'n ofalwyr di-dâl wneud cais i'r cynlluniau hyn. Rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi'r blaenoriaethau ar gyfer gofalwyr di-dâl, fel rhan o'r broses i gyflwyno Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn ystod gwanwyn 2026. Mae'r heriau ariannol y mae llawer o ofalwyr yn eu hwynebu, yn enwedig y rhai hynny nad ydynt mewn swyddi â thâl, yn parhau i fod yn thema bwysig a gaiff ei chodi.
Rydym wedi rhyddhau £3.5 miliwn o gyllid i'r Cynllun Seibiant Byr i'w ehangu tan ddiwedd mis Mawrth 2026. Yn ogystal, mae cyllid ar gyfer 2025 i 2026 yn galluogi'r Prosiect Grymuso a Llesiant Gofalwyr, a weithredir gan Gofalwyr Cymru, i roi cymorth mewn perthynas ag ymholiadau am fudd-daliadau, hawliau gofalwyr a dychwelyd i swyddi â thâl.
Er mwyn helpu i nodi ac ymdrin ag anghydraddoldebau, gan gynnwys ym maes addysg a gwaith, sefydlwyd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl ar ddiwedd y pandemig i ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando ar oedolion a phlant anabl ac i weithio gyda nhw i ddileu'r heriau a'r anghydraddoldebau maent yn parhau i'w hwynebu bob dydd. Aeth 10 gweithgor thematig y Tasglu ati i ddod â thros 350 o randdeiliaid allanol a thros 200 o arweinwyr polisi o bob rhan o'r llywodraeth ynghyd i lunio argymhellion o ansawdd uchel. Yn ogystal, cynhaliodd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl weithgor Plant a Phobl Ifanc a chyfarfod wedi'i deilwra'n benodol â rhieni a gofalwyr i ystyried anghenion ac uchelgeisiau plant a phobl ifanc anabl.
Defnyddiwyd argymhellion y Tasglu i ddatblygu Cynllun Hawliau Pobl Anabl, sy'n cynnwys y canlyniadau sydd eu hangen i greu newid cadarnhaol hirdymor ar gyfer pobl anabl, gan sicrhau bod y Model Cymdeithasol o Anabledd wrth wraidd ein huchelgais i Gymru. Mae'r cynllun, sy'n seiliedig ar waith caled aelodau'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, hefyd yn nodi ein huchelgais trawslywodraethol 10 mlynedd a'r canlyniadau hirdymor rydym yn anelu atynt er mwyn sicrhau y gall plant ac oedolion anabl ffynnu fel aelodau cyfartal o gymdeithas yng Nghymru, ac i herio achosion o wahaniaethu a rhagfarn.
Daeth ymgynghoriad 12 wythnos y Cynllun i ben ym mis Awst 2025 a chyhoeddwyd y crynodeb o'r ymatebion ar 30 Hydref 2025. Byddwn yn sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol i roi cyngor a chymorth ar weithredu a chyflawni'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl a'i effeithiau. Dim ond os bydd sefydliadau a phobl ym mhob rhan o Gymru yn cydweithio i'w gyflawni y gall y cynllun hwn lwyddo.
Y Cynllun Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant, a lansiwyd ym mis Medi 2025. Mae 2 grant ar gael o dan y cynllun, sy'n werth cyfanswm o £1.2 miliwn hyd at fis Medi 2026. Mae'r grant cyntaf, sef y Grant Ymwybyddiaeth ac Ymgysylltu, yn anelu at gyllido gweithgareddau sy'n codi ymwybyddiaeth o grwpiau gwarchodedig neu'n helpu i ymgysylltu â nhw, ac mae'r ail Grant Arloesedd yn rhoi cyllid i gefnogi sefydliadau sy'n cydweithio i wella prosesau cyfathrebu, prosesau gweithio ar y cyd ac ymdrechion i fabwysiadu dulliau arloesol sy'n ymateb i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chynhwysiant.
Yn ogystal, rydym yn cydnabod fod gan wasanaethau lleol ran hanfodol i'w chwarae wrth gefnogi plant a phobl ifanc o gymunedau ethnig lleiafrifol, gan gynnwys dysgwyr sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Rydym hefyd yn deall cymaint y mae ysgolion a dysgwyr yn gwerthfawrogi'r cymorth hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £11 miliwn i awdurdodau lleol unwaith eto yn 2025 i 2026 drwy'r grant Disgyblion o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, Sipsiwn, Roma a Theithwyr er mwyn iddynt barhau i gyllido'r gwasanaethau cymorth hyn. Diben y grant yw cefnogi plant a phobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau at ddysgu, y cwricwlwm ac addysg. Gall hyn gynnwys rhwystrau ieithyddol neu rwystrau iaith, rhwystrau diwylliannol, yn ogystal â rhwystrau systemig a sefydliadol. Ym mis Rhagfyr 2023, gwnaethom gyhoeddi ein canllawiau newydd ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr i ysgolion. Mae'r canllawiau yn helpu i atgyfnerthu'r cymorth sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr y mae ganddynt nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sydd hefyd yn cynnwys dysgwyr o dras Roma yr UE.
Yr economi a gwaith teg
Mae helpu teuluoedd i mewn i waith teg â chyflog da yn ffactor ysgogi pwysig wrth helpu teuluoedd allan o dlodi. Er mwyn cefnogi hyn, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi egwyddorion gwaith teg ar waith ym mhob rhan o'n heconomi drwy fentrau fel y Contract Economaidd sy'n nodi'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a'r busnesau y mae'n eu cefnogi. Mae'n nodi sut y byddwn yn cydweithio mewn partneriaeth i greu busnesau gwydn sy'n cynnig lleoedd deniadol i weithio. Mae ein Canllaw i Waith Teg a'n Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yn tynnu sylw at fanteision gwaith teg a'r camau ymarferol y gall cyflogwyr eu cymryd. Rydym hefyd wedi cefnogi cyfleoedd dysgu i oedolion o dan arweiniad undebau drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, wedi cefnogi Cynnal Cymru wrth iddo geisio cynyddu nifer y cyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig o flwyddyn i flwyddyn, ac wedi cynnal ein hymrwymiad i sicrhau y caiff gweithwyr gofal cymdeithasol eu talu ar gyfradd sy'n cyfateb i'r Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf. Mae'r ymdrechion hyn wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau a bywoliaethau miloedd o weithwyr ar gyflogau isel.
Rydym wedi pennu carreg filltir genedlaethol ar gyfer cael gwared ar y bwlch cyflog rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd erbyn 2050 ac rydym yn rhoi camau gweithredu ar waith, gan gynnwys y rhai hynny a nodwyd yn y Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol er mwyn gwella canlyniadau cyflogaeth a dileu bylchau cyflog.
Ffigur 3: canran y bobl mewn cyflogaeth ac sy'n ennill y cyflog byw gwirioneddol o leiaf
Ffigur 3: yn cyflwyno siart llinell sy'n dangos canran y bobl mewn cyflogaeth sy'n ennill y cyflog byw gwirioneddol o leiaf ers 2015. Dros y cyfnod hwn, mae'r ganran wedi parhau'n gymharol sefydlog, heb fawr amrywiad o flwyddyn i flwyddyn. Cofnodwyd y ganran uchaf yn 2020, a'r un isaf yn 2023.
Mae'r adroddiad ar y Fframwaith Monitro yn nodi fod 67.4% o bobl mewn cyflogaeth yn ennill y cyflog byw gwirioneddol o leiaf yn 2024. Roedd y lefel hon 3.9 pwynt canran yn uwch nag yn 2023 (63.55) ac ychydig yn uwch na'r lefel a gofnodwyd yn 2015 (67.3%).
Mae hefyd yn dangos bod rhagor i'w wneud er mwyn cyflawni'r uchelgeisiau a nodwyd yn y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru sy'n nodi sut y byddwn yn darparu arweinyddiaeth er mwyn cyflawni gwell cydraddoldeb i fenywod a merched yng Nghymru. Mae bwlch cyflog o hyd rhwng cyflogau cyflogeion gwrywaidd a chyflogeion benywaidd. Yn 2024, roedd cyflogeion gwrywaidd yn ennill £0.32 yr awr yn fwy ar gyfartaledd na menywod, ac mae hyn yn llai na'r gwahaniaeth yn 2023 lle roedd gwahaniaeth o £0.82 yr awr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am hyn yn yr adroddiad ar y Fframwaith Monitro.
Yn yr un modd, mae canran y plant sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn uwch ar gyfer y rhai hynny ag anabledd yn y teulu. Rhan o'r rheswm am hyn yw'r anghysondeb o ran lefelau cyflog o fewn teuluoedd lle ceir anabledd yn y teulu. Yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022 i 2024, roedd 35% o blant a oedd yn byw mewn teulu lle roedd rhywun ag anabledd mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â 28% o blant mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl. Rydym yn gwybod hefyd, yn 2024, fod cyflogeion anabl yn ennill £14.00 yr awr ar gyfartaledd o gymharu â chyflogeion nad oeddent yn anabl a oedd yn ennill £15.18 yr awr. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd camau gweithredu fel datblygu'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
Mae atgyfnerthu prosesau caffael cyhoeddus yn ffordd o gyflawni canlyniadau sy'n gymdeithasol gyfrifol, a allai helpu i ymdrin â'r anghysondebau hyn. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyflwyno rheoliadau a fydd yn sicrhau bod pob rhan o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 mewn grym, gan gynnwys rhoi egwyddorion gwaith teg, gan gynnwys cyflog teg, ar waith. Bydd angen i'r rhai hynny sy'n ymgymryd â gwaith caffael cyhoeddus gyflwyno adroddiadau blynyddol ar y ffordd y maent yn defnyddio prosesau caffael i gyfrannu at lesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol. Daeth yr ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft i ben ym mis Hydref 2025. Caiff canlyniadau'r ymgynghoriad eu hystyried, a chaiff camau gweithredu pellach eu cymryd i gyflwyno'r rheoliadau ger bron y Senedd yn 2026. Mae'r camau gweithredu hyn yn rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo i ymdrin ag Ymrwymiad 4 o'r Strategaeth Tlodi Plant.
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ailddylunio ei chymorth cyflogadwyedd ledled Cymru drwy ddatblygu Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd. Yn ystod haf 2025, gwnaethom gynnal digwyddiadau ymgysylltu y daeth mwy na 500 o randdeiliaid iddynt, gan roi adborth ar siâp y rhaglen newydd a'r materion hanfodol y mae angen iddi ymdrin â nhw. Rydym hefyd yn deall fod pwysau costau byw yn fater pwysig i lawer o bobl ledled Cymru. Mae cyflwyniad y Ganolfan Cyngor ar Bopeth: Cyllideb yr Hydref 2025 yn awgrymu bod cost uchel hanfodion fel bwyd, ynni a thai yn cael effaith sylweddol ar y rhai hynny mewn swyddi â chyflogau isel. O gymharu â theuluoedd incwm uwch, bydd cyfran uwch o'u hincwm yn cael ei gwario ar yr hanfodion hyn, gan olygu bod llai o arian ar gyfer eitemau eraill.
Mae ein gweledigaeth ar gyfer cyflogaeth yn ehangu y tu hwnt i ddim ond darparu swyddi. Mae'n ymwneud â meithrin urddas, diben a chyfleoedd, a sicrhau bod pawb, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau, yn cael cyfle i ffynnu. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn rhoi blaenoriaeth i gydweithio er mwyn sicrhau polisïau cyson o ran cyflogadwyedd a sgiliau. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ymdrin â heriau a rennir fel anweithgarwch economaidd a diweithdra ymhlith pobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys llunio fframweithiau ar y cyd sy'n caniatáu atebolrwydd a rennir a phrosesau cyflawni cydgysylltiedig ar draws Llywodraethau'r DU i'n galluogi i gyfuno gwybodaeth, lleihau achosion o ddyblygu a chyflym arloesedd mewn meysydd hanfodol fel ymgysylltu digidol, cydweithio rhwng cyflogwyr, a thwf cynhwysol.
Yng Nghymru, mae gennym weledigaeth a rennir a diben cyffredin. Mae'r Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau yn anelu at uno ymdrechion ar draws pob portffolio Gweinidogol, gan sicrhau bod pawb yn gweithio tuag at yr un nodau. Mae llwybrau integredig yn hanfodol; mae hyn yn golygu cynnwys cymorth cyflogadwyedd fel rhan o wasanaethau iechyd, tai ac addysg, a chreu darpariaethau lle gall pobl gael gafael ar gymorth heb orfod dygymod â systemau dyrys.
Yn ogystal â'r camau gweithredu a nodwyd uchod, mae sawl un o'r camau gweithredu o dan Ymrwymiad 5 o'r Strategaeth Tlodi Plant (dileu rhwystrau i gyflogaeth) yn ategu'r gweithgareddau o dan Ymrwymiad 4 (hyrwyddo'r cyflog byw gwirioneddol a gwaith teg).
Dim ond yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Warant i Bobl Ifanc (YPG) wedi cefnogi dros 12,000 o bobl ifanc, gan gynnig cymorth i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg, hyfforddiant, prentisiaeth, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig. Mae hynny'n cynnwys mwy na 4,000 o bobl a gamodd ymlaen i swyddi.
Dangosodd y gweithgaredd Profiad Bywyd bwysigrwydd y gwaith hwn a'r pryderon sydd gan bobl ifanc wrth symud o'r ysgol i gyflogaeth:
“Mynegodd yr holl bobl ifanc bryder ynghylch dod o hyd i waith pan fyddent yn gadael yr ysgol. Roedden nhw'n teimlo mai dyna oedd y mater pwysicaf y dylai Llywodraeth Cymru ymdrin ag ef. Soniwyd am gylch dieflig lle roedd diffyg profiad ar gyfer swydd yn cael ei roi fel rheswm dros beidio â rhoi swydd iddynt. Cyflogaeth rhwng 16 a 18 oed yw'r pryder mwyaf. Maent yn dweud mai dim ond ar gyfer unigolion dros 18 oed y mae swyddi ar gael, ond yn nodi bod angen iddynt ennill arian pan fyddant yn 16 oed er mwyn gallu cefnogi eu hunain.”
Llais hwylusydd.
Mae cymorth ar gael i bobl ifanc drwy Cymru'n Gweithio yn bennaf, ac mae'r Warant i Bobl Ifanc yn dod ag amrywiaeth o raglenni fel Twf Swyddi Cymru Plws, ReACT Plws a Chymunedau am Waith a Mwy ynghyd. Cyhoeddwyd Gwerthusiad Proses y Warant i Bobl Ifanc (YPG) ar 30 Medi 2025. Tynnodd y Gwerthusiad sylw at effeithiolrwydd y Warant gyda thros 60,000 o bobl ifanc yn manteisio arni a dangosodd fod y dull gweithredu sydd ar waith drwy'r Warant a'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid wedi bod yn llwyddiannus ar y cyfan wrth ymgysylltu â phobl ifanc, gan gynnwys y rhai hynny o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig.
Ym mis Ebrill 2025, gwnaethom lansio Cynllun Arloesol i fynd i'r afael ag Anweithgarwch Economaidd yng Nghymru ym Mlaenau Gwent, Sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot, gan brofi dulliau newydd ac arloesol i helpu unigolion nad ydynt mewn gwaith nac yn chwilio am waith i ddychwelyd tuag at y farchnad lafur. Mae hyn yn rhan o raglen arloesol gwerth £135 miliwn Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, sy'n targedu'r ardaloedd â'r lefelau uchaf o anweithgarwch. ymgyrch Cadw Prydain i Weithio i ddatgloi twf a chyflawni'r Cynllun ar gyfer Newid. Nod y Cynllun Arloesol yw helpu'r unigolion hynny i gymryd y camau blaengar hynny tuag at gyflogaeth, gan wella llesiant a chanlyniadau bywyd y rhai hynny sydd bellaf o'r farchnad lafur. Yn arbennig, mae'n canolbwyntio ar y rhai hynny â chyflyrau iechyd hirdymor, pobl anabl a'r rhai hynny â chyfrifoldebau gofalu. Mae hyn yn cynnwys datblygu dull amlasiantaethol, profi ffyrdd arloesol o ddod ag awdurdodau lleol byrddau iechyd, meddygon teulu, Canolfannau Gwaith, gofal cymdeithasol, sefydliadau'r trydydd sector a chyflogwyr ynghyd, gan sicrhau bod llesiant unigolion wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Gan annog pobl ifanc i fod yn entrepreneuraidd, mae Busnes Cymru yn helpu pobl ifanc i ddod yn hunangyflogedig drwy gymorth penodol Syniadau Mawr Cymru. Ers 2021, mae dros 283,000 o bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed wedi cymryd rhan mewn gweithdai menter mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a lleoliadau cymunedol. Mae 3,761 o bobl ifanc wedi cael cymorth busnes i archwilio syniadau ar gyfer dechrau eu busnes eu hunain, ac mae 850 o gleientiaid wedi dechrau busnes. Bydd Busnes Cymru yn parhau i gyflawni'r ymrwymiad hwn, gan anelu hefyd at ymdrin â thangynrychiolaeth ymhlith menywod, pobl anabl a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.
Mae Grant Dysgu Addysg Bellach Llywodraeth Cymru ar gael i oedolion 19 oed a throsodd, er mwyn astudio'n llawn amser neu'n rhan amser, gan sicrhau bod cyfleoedd dysgu yn hygyrch ac yn gallu cael eu cyflawni o amgylch ymrwymiadau sy'n bodoli eisoes.Bob blwyddyn academaidd, rydym wedi helpu dros 3,000 o ddysgwyr o gartrefi incwm isel i astudio ar gyfer cymwysterau hyd at Lefel 3, a chan gynnwys y lefel honno. Ym mis Mehefin 2025, gwnaethom gynyddu cyfradd grant y Grant Dysgu hwn yn unol â chwyddiant; roedd hyn i ddysgwyr cymwys a oedd yn parhau i astudio neu'n dechrau astudio yn ystod blwyddyn academaidd 2025 i 2026.Yn y gorffennol, rhoddwyd uchafswm o £1,500 i ddysgwyr i'w helpu â chost astudio cwrs hyd at Lefel 3, a chan gynnwys y lefel honno.O fis Medi 2025, mae'r swm hwnnw wedi cynyddu i £1,919. Er mwyn sicrhau bod ein Cynllun Grant Dysgu Addysg Bellach yn parhau'n effeithiol wrth leihau'r rhwystrau ariannol sy'n atal oedolion rhag dychwelyd i addysg, mae adolygiad allanol yn mynd rhagddo a disgwylir iddo ddod i ben ddechrau 2026.
Mae'r adroddiad ar y Fframwaith Monitro yn nodi, yn 2023, fod 89.9% o bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, cynnydd o 2.2 pwynt canran o gymharu â 2022 (87.7%). Mae'r ffigur hwn yn gymharol gyson â'r lefel a gofnodwyd yn 2015 (89.8%). Felly mae'n bwysig bod y gwaith sy'n mynd rhagddo i helpu pobl ifanc i mewn i waith neu hyfforddiant yn parhau.
Mae hyn yn ymwneud yn rhannol â sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y gweithlu sydd ei angen arnynt. Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn helpu busnesau yng Nghymru i fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain ac i ddatblygu gweithlu cryfach â lefel uwch o sgiliau. Yn 2025 i 2026, ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, mae 164 o geisiadau i'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg wedi cael eu cymeradwyo, gan gefnogi dros 10,500 o ymyriadau uwchsgilio unigol. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru i dalu 50% o gostau hyfforddiant achrededig wedi bod o fudd i dros 160 o fusnesau unigol ym mhob sector yng Nghymru.
Rydym yn cydnabod y gall anawsterau o ran salwch, problemau iechyd meddwl neu broblemau camddefnyddio sylweddau atal rhai unigolion rhag cael swydd neu rhag cadw swydd. Mae'r Gwasanaeth Di-waith yn darparu cymorth mentora cymheiriaid am ddim i bobl ddi-waith, sy'n gwella o broblemau iechyd meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau.Rhwng mis Hydref 2022 a mis Medi 2025, cafodd dros 12,000 o bobl gymorth, gan helpu teuluoedd sy'n byw mewn tlodi, drwy wella incwm teuluoedd wrth iddynt ddod o hyd i swyddi.
Mae mynediad cyflym i'r cymorth galwedigaethol a ddarperir gan y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i gadw swyddi drwy anelu at atal pobl rhag bod yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch meddwl neu salwch corfforol a helpu'r rhai hynny sydd ar gyfnod o absenoldeb oherwydd salwch i ddychwelyd i'r gwaith yn gyflymach. Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Medi 2025, mae'r gwasanaeth wedi helpu bron i 9,000 o bobl i aros yn y gwaith neu i ddychwelyd i'r gwaith ac mae'n hanfodol wrth leihau achosion o salwch, allgáu cymdeithasol a thlodi. Mae'r gwasanaethau hyn sydd wedi'u hanelu at oedolion yn ategu camau gweithredu Fframwaith NYTH yr ymdrinnir â nhw yn Amcan 5.
Fel llywodraeth, rydym yn ymwybodol iawn o fanteision niferus gwirfoddoli a'r rôl gadarnhaol y gall gwirfoddoli ei chwarae o ran hyfforddi a meithrin sgiliau ein pobl ifanc, gan gynnwys y cyfleoedd hynny a ddarperir, er enghraifft, mewn meysydd sgiliau gwyrdd fel tyfu cymunedol. Rydym hefyd yn deall pwysigrwydd rhoi profiadau gwirfoddoli cadarnhaol wedi'u cefnogi i bobl ifancach ar oedran cynnar, gan fod hyn yn golygu eu bod yn llawer mwy tebygol o barhau i wirfoddoli a chyfrannu at iechyd a llesiant eu cymunedau drwy gydol eu bywydau. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru, ers haf 2024, wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gyd-ddylunio Dull Newydd o Wirfoddoli ar y cyd â phob sector, er mwyn nodi ein gweledigaeth ar gyfer y math o wlad wirfoddoli yr hoffem ei chreu yma yng Nghymru. Oherwydd eu pwysigrwydd, bu pobl ifanc yn rhan greiddiol o'r broses hon o'r dechrau.
Dileu rhwystrau
Mae diffyg gofal plant neu fynediad at drafnidiaeth addas yn atal unigolion rhag ymgysylltu â chyfleoedd gwaith, hyfforddiant ac addysg. Gall y rhwystrau hyn gael mwy o effaith mewn cymunedau gwledig (y cyfeirir ato weithiau fel y ‘premiwm gwledig’), gan eu bod yn bellach o wasanaethau, bod cyfleoedd cyfyngedig o ran swyddi ac incwm isel. Mae'r Adroddiad Profiad Bywyd yn awgrymu bod cymorth â gofal plant yn helpu i ddarparu sefydlogrwydd i deuluoedd sy'n gweithio, ond roedd diffyg cymorth yn creu her i'r rhai hynny a oedd yn chwilio am waith.
“Dydw i ddim yn gallu cael unrhyw gymorth gan nad wyf yn byw yn ardal cod post Dechrau'n Deg. Mae ffioedd meithrinfa yn ein lladd, ac oherwydd un digid yn y cod post, does dim cyllid ar gael.”
Llais rhiant.
“Diolch i'r cymorth gofal plant drwy'r cynllun cyllid 30 awr, gwnaethom lwyddo i allu cynnal ein swyddi ar yr un lefel yn hytrach na gorfod lleihau ein horiau/rhoi'r gorau i weithio.”
Llais rhiant
“Roedd o gymorth mawr, diolch i'r gofal plant â chymhorthdal, llwyddais i ddechrau dychwelyd i'r gwaith.”
Llais rhiant
Dywedodd pobl wrthym fod Cynnig Gofal Plant Cymru yn gwneud gwahaniaeth sylweddol iddynt. Mae'n rhoi cyllid ar gyfer cyfanswm o 30 awr yr wythnos o addysg feithrin a gofal plant i blant 3 a 4 oed i rieni sy'n gweithio a'r rhai hynny mewn addysg neu hyfforddiant. Ym mis Ebrill 2025, gwnaethom gynyddu'r gyfradd ar gyfer talu'r Cynnig i ddarparwyr er mwyn helpu i sicrhau cynaliadwyedd ac annog parhad a thwf lleoedd gofal plant.
Yn 2022, gwnaethom gomisiynu gwaith ymchwil i adolygu effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant. Mae'r rhain yn rhan o ddyletswydd statudol a osodwyd ar awdurdodau lleol i asesu a oes digon o gyfleoedd gofal plant i gefnogi teuluoedd sy'n gweithio yn eu hardaloedd. Nododd canfyddiadau'r adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2024, sawl maes i'w wella.Yn seiliedig ar argymhellion yr adroddiad, rydym wrthi ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r broses ar gyfer Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant. Nod yr adolygiad yw gwella'r broses hon er mwyn helpu awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau gofal plant digonol, cynaliadwy a hyblyg, gan felly wella hygyrchedd gofal plant yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn yn rhan o Ymrwymiad 6 o'r Strategaeth Tlodi Plant.
Mae'r Adroddiad Profiad Bywyd yn nodi bod anawsterau trafnidiaeth, yn enwedig o ran teithio, yn effeithio ar allu teuluoedd i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys addysg, iechyd a gweithgareddau hamdden. Roedd problemau yn cynnwys cost ac amlder trafnidiaeth yn enwedig i'r rhai hynny sy'n anabl neu sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Er mwyn helpu i ymdrin â'r materion hyn, mae dull gweithredu `Teithio i Bawb’ Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod trafnidiaeth yn hygyrch ac yn gynhwysol, a bod pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn teimlo bod croeso iddynt. Mae hyn yn cynnwys plant ac unigolion o grwpiau economaidd-gymdeithasol is, a'r croestoriadedd sy'n effeithio ar dlodi plant a materion eraill sy'n effeithio ar allu pobl i ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth.
I ategu hyn, mae'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn cynnig model masnachfreinio ar gyfer gwasanaethau bws. Bydd hyn yn ein galluogi i ddylunio a sicrhau gwasanaethau bws i ddiwallu anghenion cymunedol, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig, a sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu'n unol â Chynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, sy'n adlewyrchu egwyddorion Teithio i Bawb. Tynnodd yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant a ddatblygwyd ar gyfer y Bil Bysiau sylw at bwysigrwydd teithiau bws fforddiadwy, dibynadwy a diogel er mwyn i blant gwrdd â ffrindiau, mynd i'r ysgol a mynychu apwyntiadau, a'r ffaith y gall hyn fod yn anodd mewn ardaloedd mwy gwledig yng Nghymru. Gosodwyd y Bil ger bron y Senedd ar 31 Mawrth 2025 a disgwylir iddo gael ei basio yn 2026. Er y bydd angen amser i weithredu'r newidiadau, sy'n cael eu cyflwyno'n rhanbarthol dros nifer o flynyddoedd, mae'r Bil yn rhoi'r adnoddau i ni sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i deithwyr pan gaiff y rhwydwaith bysiau ei gynllunio a'i gyflwyno.
Ar 10 Gorffennaf 2025, o ganlyniad i'n setliad cyllidebol â Jane Dodds AC, lansiodd Llywodraeth Cymru y cynllun peilot ar gyfer tocynnau teithio am £1 ar fysiau. Diben y cynllun yw gwella'r ddarpariaeth tocynnau teithio ar fysiau i bobl ifanc 21 oed neu'n iau. Yn benodol, mae'n cynnig tocyn teithio unigol am £1 a thocyn teithio £3 ar gyfer sawl siwrnai ar yr un diwrnod. Dechreuodd cam cyntaf y cynllun peilot blwyddyn o hyd i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed ar 1 Medi. Cafodd y cynllun ei ymestyn i gynnwys plant rhwng 5 a 15 oed o 3 Tachwedd. Bydd y cynllun peilot yn rhedeg am flwyddyn â chyllideb o £22 miliwn ar draws blynyddoedd ariannol 2025 i 2026 a 2026 i 2027. Mae'r cynllun peilot hwn wedi'i gynllunio i helpu pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant a gweithgareddau hamdden. Drwy leihau costau teithio, ein nod yw dymchwel rhwystrau a rhoi mwy o symudedd ac annibyniaeth i'n pobl ifanc.
Helpu pobl ifanc o ran cost ac argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus. Gallai hyn gynnwys sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus fel gwasanaethau bysiau yn teimlo'n fwy diogel ac yn rhatach er mwyn iddynt allu gwneud pethau fel mynd i'r gwaith neu i weld teulu a ffrindiau.”
Llais aelod o deulu.
Rydym yn cydnabod bod yn rhaid cydgysylltu gwasanaethau i deuluoedd er mwyn i'r cymorth gael yr effaith fwyaf posibl. Er enghraifft, mae cymorth gofal plant yn fwyaf effeithiol pan fydd teuluoedd yn gallu teithio'n hwylus i leoliadau gofal plant ac wedyn parhau ymlaen i'r gwaith neu ymrwymiadau eraill. Felly mae trafnidiaeth reolaidd, fforddiadwy a hygyrch yn hanfodol. Mae'r camau gweithredu a amlinellir uchod wedi'u cynllunio i sicrhau bod teuluoedd yn cael y math hwn o gymorth cyfannol a chydgysylltiedig.
Amcan 3: cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a sicrhau canlyniadau g
Mae Amcan 3 yn ymwneud â chefnogi plant, ni waeth beth fo'u cefndiroedd er mwyn iddynt allu cael y dechrau gorau mewn bywyd a mynd ymlaen i fyw y math o fywydau y maent am eu byw. Mae hyn yn cynnwys darparu cartrefi boddhaol sy'n addas ar gyfer eu hanghenion, help i gefnogi iechyd meddwl a llesiant, a chyfleoedd i ddweud eu dweud ar faterion yn eu cymunedau sy'n effeithio arnynt. Mae'r amcan hwn yn cydnabod bod pobl am fyw mewn ardaloedd â chyfleusterau i chwarae, i gwrdd â ffrindiau ac i deithio i brofiadau diwylliannol heb i opsiynau trafnidiaeth drud eu hatal. Mae'n ymwneud â rhoi dull gweithredu cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y plentyn ar waith ym mhob rhan o'r llywodraeth er mwyn sicrhau na chaiff plant mewn tlodi eu gadael ar ôl.
Ymrwymiadau:
- Ystyried y gymuned wrth ddatblygu, adolygu a chyllido polisïau a rhaglenni perthnasol
- Cefnogi ysgolion i ddatblygu fel ysgolion bro,
- Bwrw ati, ar y cyd â phartneriaid, i gynnig mwy o gyfleoedd chwarae, chwaraeon ac ieuenctid yn y gymuned a chyfleoedd i fwynhau’r celfyddydau, diwylliant ac adnoddau naturiol.
- Datblygu ein Polisi Cymunedau â ffyrdd newydd cydgynhyrchiol a chynhwysol o weithio.
Cymunedau cydlynus
Mae'r Adroddiad Profiad Bywyd yn dangos ei bod hi'n bwysig i bobl gael gwasanaethau sy'n hygyrch iddynt. Lle bo angen teithio i gyrraedd gwasanaethau, ysgolion, clybiau ieuenctid a gwasanaethau eraill, mae angen sicrhau bod opsiynau trafnidiaeth rheolaidd a dibynadwy ar gael i bobl. Maent hefyd am gael mynediad i wasanaethau digidol lle bo angen.
“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae plant a phobl ifanc wedi mynegi pryder cynyddol na allant fforddio mynd i weld eu ffrindiau neu aelodau o'u teulu.”
Plant yng Nghymru: arolwg plant a phobl ifanc.
Dengys yr adroddiad ar y Fframwaith Monitro fod lefelau boddhad o ran mynediad at wasanaethau lleol yn is yn 2024 i 2025 ymhlith aelwydydd a oedd yn wynebu amddifadedd materol. Roedd 73% o'r ymatebwyr hynny yn gymharol fodlon neu'n fodlon iawn, o gymharu â 79% o'r rhai hynny nad oeddent yn wynebu amddifadedd. Gwahaniaeth o 6 phwynt canran.
Rydym hefyd yn deall y gall cyfleoedd i ddod â gwasanaethau lluosog ynghyd, gan annog `siop un stop’ neu ddull gweithredu amlasiantaethol wrth ddarparu gwasanaethau, helpu i oresgyn rhai o'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael gafael arnynt. Mae llawer o'r camau gweithredu sy'n gysylltiedig â'r amcan hwn yn ceisio ymdrin â'r rhwystrau hyn a datblygu gwasanaethau mwy hygyrch wedi'u lleoli yn y gymuned i bawb.
Cynyddodd cyllideb y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol (CFP) i £7.1 miliwn yn 2024 i 2025, i fyny o £6.5 miliwn yn ystod blynyddoedd blaenorol. Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn rhaglen grant cyfalaf dreigl sy'n darparu grantiau o hyd at £300k i brosiectau dan arweiniad y gymuned brynu a gwella tir ac adeiladau a gaiff eu rhedeg gan y gymuned. Mae'r rhaglen hon sy'n seiliedig ar alw yn cyfrannu at gymorth i blant a theuluoedd drwy helpu cyfleusterau cymunedol i ddod yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnig ffocws ar gyfer gweithgareddau cymunedol fel cylchoedd chwarae, cymorth rhianta, banciau bwyd a mynediad at help a chyngor. Yn 2025 i 2026, bydd y gyllideb yn cynyddu i £10 miliwn gan ein galluogi i roi cymorth i hyd yn oed mwy o gyfleusterau cymunedol.
Rydym, yn cydnabod pwysigrwydd mannau gwyrdd i'n cymunedau. Gan adeiladu ar gyllid blaenorol, ers 2023, rydym yn rhoi cyllid drwy grant Ansawdd yr Amgylchedd Lleol i Cadwch Gymru'n Daclus i roi cymorth i gymunedau ledled Cymru er mwyn helpu i wella eu hamgylchedd lleol a datblygu ymdeimlad gwirioneddol o falchder yn eu cymdogaeth. Yn 2025 i 2026, mae hyn wedi cynyddu i £1 miliwn. Mae'r cyllid hwn hefyd yn galluogi Cadwch Gymru'n Daclus i roi cymorth ymarferol a chyngor i grwpiau cymunedol ac unigolion ar 'faterion stepen drws' fel sbwriel, tipio anghyfreithlon a chŵn yn baeddu. Mae hyn yn helpu i ddarparu mannau gwerthfawr i bobl a bywyd gwyllt ffynnu.
Cafodd cyllid cyfalaf ychwanegol hefyd ei ryddhau drwy'r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso (IRCF). Mae hyn yn helpu i ddatblygu hybiau a chanolfannau cymunedol integredig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn darparu gwasanaethau di-dor drwy bwyntiau mynediad unigol lleol a chydleoli staff a gwasanaethau. Cymeradwywyd cyllid yn wreiddiol am gyfnod o dair blynedd o 2022 i 2025, ond cafodd ei ymestyn bellach am ddwy flynedd ychwanegol hyd at 2027. Mae'r gronfa yn cefnogi tai, gweithgareddau i atal unigrwydd ac ynysigrwydd, banciau bwyd, yn ogystal â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mwy cymhleth fel gwasanaethau meddygon teulu, camddefnyddio sylweddau a phodiatreg. Mae'r grantiau hyn yn helpu i fodloni gofynion Ymrwymiad 7 yn y Strategaeth Tlodi Plant.
Mae ysgolion yn chwarae rôl hanfodol wrth greu cymunedau cydlynus. Mae Ymrwymiad 8 o'r Strategaeth Tlodi Plant yn tynnu sylw at yr angen i barhau i helpu ysgolion i ddatblygu fel Ysgolion Bro. Mae'r ysgolion hyn yn ymateb i anghenion eu dysgwyr, teuluoedd a chymunedau drwy bartneriaethau cryf. Yn 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu datblygu Ysgolion Bro a fyddai'n cyd-leoli gwasanaethau ac yn sicrhau gwell lefelau ymgysylltu â rhieni a gofalwyr o fewn oriau ysgol traddodiadol a'r tu allan iddynt. Rydym yn credu bod hyn yn rhan bwysig o bolisi ehangach i fynd i'r afael â thlodi ar gyrhaeddiad addysgol.
I ategu'r dull gweithredu hwn, gwnaethom ddatblygu amrywiaeth o rwydweithiau a chanllawiau i randdeiliaid mewn perthynas ag Ysgolion Bro, ac rydym wedi buddsoddi yn y broses o recriwtio a chadw Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd (FEO) ledled Cymru. Yn 2025 i 2026, caiff £9.5 miliwn ei ddyrannu, gan ychwanegu at dros £16.5m ers 2022. Gall Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd fod yn adnodd effeithiol iawn i ysgolion wrth estyn allan i rieni a gofalwyr a'u hannog i ymgysylltu â dysgu eu plant. Gall Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd sicrhau y caiff partneriaethau cadarnhaol eu meithrin â theuluoedd, ac y caiff cymorth a gwasanaethau wedi'u teilwra eu cynnig. Rydym hefyd yn parhau i gyllido Rheolwyr Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd ym mhob awdurdod lleol, a dyrannwyd dros £660,000 o gyllid bob blwyddyn ers 2022. Y flwyddyn hon, darparwyd £1m ychwanegol o gyllid newydder mwyn helpu i roi dulliau gweithredu a chamau arloesol gan Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd ar waith yn ehangach. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu trefniadau llywodraethu, strwythur a chyfleoedd dysgu proffesiynol ymhellach, a bwriedir cynnal gwaith ymgysylltu pellach â phartneriaid a rhanddeiliaid yn 2026. Mae gwerthusiad o Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a disgwylir i'r adroddiad drafft gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2025.
Yn ogystal, fel rhan o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf (2024 i 2025), roeddem wedi buddsoddi £60 miliwn o gyllid cyfalaf yn benodol i helpu ysgolion i addasu'n ddiogel ac i agor eu safleoedd mewn ffordd effeithiol y tu allan i'w horiau traddodiadol; gan wella eu darpariaeth nid yn unig er budd dysgwyr ond er budd y gymuned o'u cwmpas.
Cymeradwywyd £20 miliwn pellach o gyllid ar gyfer gwaith cyfalaf mewn ysgolion er mwyn parhau i gefnogi awdurdodau lleol yn ystod blwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Cynnig cyfleoedd chwarae, cyfleoedd chwaraeon a chyfleoedd i bobl ifanc
Mae Ymrwymiad 9 o'r Strategaeth Tlodi Plant yn nodi y byddwn yn ceisio sicrhau darpariaeth fwy cymunedol o ran cyfleoedd chwarae, chwaraeon, mynediad i'r celfyddydau a gweithgareddau eraill cost isel i deuluoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gefnogi Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae, sy'n anelu at gefnogi mynediad i mwy o gyfleoedd chwarae yn ystod gwyliau ysgol, ynghyd â darparu bwyd a byrbrydau iach. Rydym wedi darparu £1 filiwn o gyllid bob blwyddyn i'r prosiect hwn ers 2021.
Mae llawer o sefydliadau eraill, gan gynnwys sefydliadau yn y trydydd sector, sy'n darparu gweithgareddau am ddim i blant a phobl ifanc yn ystod gwyliau'r haf. Gan ddefnyddio ei gynllun `Cronfa Cyfle i Bawb’, mae Urdd Gobaith Cymru yn darparu gwersylloedd gwyliau haf i blant na fyddent fel arall yn cael y cyfle i fynd ar wyliau haf. Mae'r gwersylloedd yn darparu amrywiaeth o brofiadau yng nghanolfannau'r Urdd, gan gynnwys meithrin sgiliau, gweithgareddau awyr agored a chael hwyl. Mae'n enghraifft ardderchog o sut mae'r trydydd sector yn mynd ati i helpu plant mewn cymunedau ledled Cymru i allu cymryd rhan yn y gwersylloedd hyn yn rhad ac am ddim.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu er mwyn cefnogi cyfleoedd chwarae i blant. Rydym yn parhau i adeiladu ar yr ymrwymiad sylweddol hwn i'n plant. Yn 2025, cafodd Cymru: Gwlad lle mae Cyfle i Chwarae ei ddiwygio gan ddiweddaru'r fersiwn a gyhoeddwyd yn 2014. Mae'r canllawiau statudol diwygiedig yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol. Yn ogystal, i gefnogi cyfleoedd chwarae yng Nghymru, darparwyd £5 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf i helpu awdurdodau lleol i wella cyfleusterau chwarae i blant, gan gynnwys creu mannau chwarae cynhwysol a hygyrch.
Mae dros 100 o safleoedd hanesyddol Cadw ar agor ac am ddim i ymweld â nhw. Mae 19 o'u safleoedd yn codi tâl mynediad er mwyn helpu i ofalu am yr eiddo. Ym mis Gorffennaf 2025, cyflwynodd Cadw docynnau am £1 i bobl ar fudd-daliadau cymwys, gan sicrhau bod y safleoedd hyn yn fwy hygyrch i blant sy'n byw mewn tlodi, a helpu plant i allu manteisio mwy ar adnoddau hanesyddol a diwylliannol.
Mae'r Adroddiad Profiad Bywyd yn nodi bod mynediad i weithgareddau fforddiadwy a hygyrch i blant a phobl ifanc yn bwysig:
“Helpu drwy gefnogi chwaraeon, cynnig cyfleoedd chwaraeon fforddiadwy i fwy o blant a rhoi grantiau i glybiau chwaraeon lleol er mwyn cadw plant yn heini ac yn iach, a rhoi cyfleoedd iddynt gwrdd â phobl newydd a'u cadw oddi ar y strydoedd.”
Llais hwylusydd.
“Yn fy marn i, byddai'r gwahaniaeth mwyaf yn deillio o gynnig gweithgareddau mwy fforddiadwy a hygyrch i blant a phobl ifanc. Yn enwedig yn ystod gwyliau'r ysgol, does dim digon o opsiynau diogel a chost isel yn lleol”
Llais hwylusydd.
Fel rhan o Bolisi Cymunedau Llywodraeth Cymru, rydym yn parhau i ddatblygu ein dull gweithredu ledled Cymru. Rydym yn cyfarfod â rhanddeiliaid cymunedol er mwyn helpu i ddatblygu ein ffordd o feddwl a'n hopsiynau. Mae'r sgyrsiau hyn wedi tynnu sylw at bwysigrwydd datblygu dull gweithredu yn seiliedig ar asedau mewn perthynas â pholisïau Llywodraeth Cymru, sy'n unol ag Ymrwymiad 10 o'r Strategaeth Tlodi Plant.
Wrth gwrs, mae dulliau cymunedol o gefnogi pobl yn eang iawn o ran yr hyn a gynigir ac o ran pwy sy'n manteisio arnynt. O ran Gwaith Ieuenctid, bu gwaith ymgysylltu eang yn mynd rhagddo â rhanddeiliaid ers cyhoeddi adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, Mae'n Bryd Cyflawni Dros Bobl Ifanc yng Nghymru, ym mis Medi 2021. Galwodd yr adroddiad am fwy o gydweithio wrth ddarparu gwasanaethau i bobl ifanc drwy'r sector gwirfoddol, partneriaid statudol ac awdurdodau lleol er mwyn helpu i gynnig darpariaeth gwaith ieuenctid gyfoethog ac amrywiol a fydd yn eu helpu i gyflawni eu potensial. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau fersiwn derfynol y fframwaith statudol ar gyfer gwaith ieuenctid, ac i ddechrau sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae'r camau gweithredu hyn yn unol ag Ymrwymiad 10 o'r Strategaeth Tlodi Plant.
Fel rhan o ymdrechion i sicrhau cymunedau mwy diogel, mae angen ystyried yr anghydraddoldebau iechyd sy'n gysylltiedig â gwrthdrawiadau traffig ffordd, gyda phlant a phobl ifanc sy'n byw mewn ardaloedd tlawd yn wynebu risg uwch o niwed ar y ffyrdd. Ym mis Medi 2023, gwnaethom gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru. Fel arfer, mae'r ffyrdd hyn mewn ardaloedd preswyl ac ardaloedd adeiledig, gan helpu i ddarparu llwybrau mwy diogel i'r ysgol. Ym mis Gorffennaf 2024, gwnaethom gyhoeddi canllawiau pellach i helpu awdurdodau priffyrdd i asesu ar ba ffyrdd y gellid dychwelyd y terfyn cyflymder i 30 mya. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio gyda phartneriaid Diogelwch ar y Ffyrdd i ddarparu fframwaith cydlynus i gydgysylltu mentrau i roi dull 'Y System Ddiogel' ar waith yn effeithiol. Mae'r bartneriaeth hon wedi arwain at ddatblygu Cynllun Partneriaeth Diogelwch ar y Ffyrdd newydd, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi'n ddiweddarach yn 2025. Bydd y Cynllun hwn yn nodi gweledigaeth genedlaethol a rennir ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru, gan gydnabod bod ffyrdd diogel yn hanfodol er mwyn creu cymunedau mwy cydnerth yng Nghymru, gan amddiffyn y rhai hynny sy'n wynebu'r risg fwyaf.
Mae chwaraeon ac ymarfer corff yn hanfodol ar gyfer datblygiad ac iechyd pobl ifanc. Fel y nodwyd yn y Fframwaith Monitro, yn 2022 i 2023, nododd ychydig dros hanner (56%) y plant ysgol cynradd o deuluoedd golud uchel eu bod yn ymarfer corff o leiaf 4 gwaith yr wythnos i'r pwynt eu bod allan o anadl ac yn chwysu. Dim ond 40% oedd yn gwneud hynny o deuluoedd golud isel.
Gan gydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn, rydym yn parhau i ddarparu cyllid i Chwaraeon Cymru i gefnogi clybiau chwaraeon, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, awdurdodau lleol a phartneriaid cenedlaethol eraill i ddarparu'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon, gan geisio sicrhau bod Cymru yn wlad actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon gydol eu hoes.
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'i hymrwymiadau i bobl Cymru ac yn cydnabod bod chwaraeon yn holl bwysig i'n heconomi ac i'n bywyd cenedlaethol. Mae ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys hyrwyddo mynediad cyfartal i chwaraeon, cefnogi athletwyr ifanc a dawnus a chlybiau llawr gwlad, a buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon o safon fyd-eang ac mewn cyfleusterau newydd. Mae sicrhau y gall plant o bob cefndir, gan gynnwys y rhai hynny mewn tlodi, fanteisio ar gyfleoedd chwaraeon yn rhan bwysig o'r Strategaeth Tlodi Plant. Mae data o arolwg chwaraeon ysgol Chwaraeon Cymru yn 2022 yn dangos fod 32.3% o blant mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol yn ymarfer corff deirgwaith neu fwy bob wythnos. Yn 2024 i 2025, buddsoddodd Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru mewn 180 o brosiectau, gwerth £1,2323,199 mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, allan o gyfanswm buddsoddiad o £4,191,065 o'r gronfa honno. Er bod hyn yn gam cadarnhaol, gellir gwneud mwy yn y maes hwn.
Cefnogi teuluoedd
Fel y nodwyd yn Amcan 2, mae'r Grant Plant a Chymunedau yn cynnig dyraniad cyllid 3 mlynedd i awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion y babanod, y plant, y bobl ifanc a'r oedolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae'r cyllid hwn yn galluogi amrywiaeth o systemau ymyrryd yn gynnar, atal a chymorth fel Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg a Chymorth Rhianta Ymyrraeth Gynnar. Mae'r dyraniad 3 blynedd yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd wrth gynllunio, darparu a gweithio mewn partneriaeth, gan sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn hyrwyddo systemau cymorth amlasiantaethol i deuluoedd, yn enwedig y rhai hynny sy'n byw mewn tlodi. Mae'r rhaglen yn ymdrin ag anghenion ariannol, addysgol, iechyd a chyflogaeth, ac yn rhoi cymorth cynhwysfawr i deuluoedd sy'n wynebu heriau economaidd-gymdeithasol gan anelu at wella perfformiad addysgol, sicrhau gwell iechyd, dynameg teuluol cryfach, a grymuso economaidd.
Ar 21 Mai 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata a oedd yn gysylltiedig â chyflawniadau rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf rhwng 2018 a 2023. Mae'r canfyddiadau yn dangos bod nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) wedi cynyddu 50% rhwng 2018 i 2019 a 2022 i 2023. Dyma'r nifer uchaf o atgyfeiriadau a gofnodwyd erioed, gan ddangos anghenion cynyddol teuluoedd y mae angen cymorth arnynt.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i roi'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf ar waith ac i gefnogi llesiant teuluoedd yng Nghymru. Yn 2025, comisiynwyd darn ffurfiannol o waith ymchwil ansoddol er mwyn deall canfyddiadau'r teuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf. Bydd y gwaith ymchwil yn ystyried sut y caiff rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf ei darparu, canfyddiadau ynghylch ei heffeithiolrwydd, ac yn cynnig argymhellion er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn parhau i ddatblygu i ddiwallu anghenion ei chymunedau.
Rydym hefyd yn ymrwymedig i gefnogi rhieni drwy ein hymgyrch Magu plant. Rhowch Amser Iddo, sy'n rhoi cyngor ymarferol, anogaeth ac awgrymiadau yn seiliedig ar dystiolaeth, gan helpu teuluoedd i ddygymod â heriau cyffredin sy'n gysylltiedig â magu plant.
Iechyd meddwl a llesiant
Mae'r adroddiad ar y Fframwaith Monitro a'r adroddiad Profiad Bywyd yn dangos bod tlodi yn effeithio ar iechyd meddwl a llesiant. Dangosodd data yn 2023, fod 84.5% o ddisgyblion ysgol uwchradd rhwng 11 ac 16 oed o deuluoedd golud uchel yn nodi boddhad bywyd o 6 neu'n uwch ar raddfa o 0 i 10. Mae hyn o gymharu â 70.9% o deuluoedd golud isel, sef bwlch o 13.6 pwynt canran.
Tynnodd yr adolygiad o lenyddiaeth ar gyfer yr adroddiad Profiad Bywyd hefyd sylw at yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant plant a'u teuluoedd:
“Roedd y llwybrau allan o dlodi fel arfer wedi'u ‘blocio’ gan iechyd meddwl gwael. Er enghraifft, yn aml nid oedd rhieni yn gallu gweithio, ymgysylltu â gwasanaethau cymorth na dod o hyd i gymorth oherwydd eu hiechyd meddwl; roedd lefelau presenoldeb plant a phobl ifanc yn yr ysgol yn aml yn wael, oherwydd straen costau ysgol ac achosion o fwlio, a oedd yn arwain yn aml at gyrhaeddiad addysgol isel.”
Plant yng Nghymru: Adroddiad yr arolwg o ymarferwyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at gefnogi plant mewn tlodi sydd ag anghenion iechyd meddwl a llesiant meddyliol. Ym mis Ebrill 2025, gwnaethom gyhoeddi ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol a'n Cynllun Cyflawni newydd. Mae'r strategaeth pob oed newydd yn adeiladu ar y gwaith trawslywodraethol ac amlasiantaethol ledled Cymru er mwyn gwella iechyd meddwl a llesiant meddyliol. Mae'n symud o system dan arweiniad iechyd i system dan arweiniad iechyd a gofal cymdeithasol, gan gydnabod na fydd angen gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar lawer o bobl y mae angen cymorth arnynt, a bod y rhan fwyaf o broblemau iechyd meddwl yn seiliedig ar faterion cymdeithasol a materion llesiant ehangach. Caiff cynnydd yn erbyn y strategaeth ei gyhoeddi bob blwyddyn. Ymdrinnir ymhellach â materion sy'n ymwneud â'r stigma a achosir gan dlodi o dan Amcan 4 yr Adroddiad Cynnydd hwn.
Yn ogystal, cafodd hyd at £2.5 miliwn y flwyddyn ei gyllido o dan y Cytundeb Cydweithio i fyrddau iechyd gynnal prosiectau 'noddfa' a oedd yn cynnig cymorth i blant a phobl ifanc a oedd yn cael argyfwng iechyd meddwl neu emosiynol neu'n wynebu risg o argyfwng o'r fath. Mae'r cyfleusterau hyn yn wahanol ym mhob bwrdd iechyd ond maent yn anelu'n gyffredinol at helpu'r person ifanc i ymdrin â'i emosiynau neu helpu i dawelu'r sefyllfa, gan felly atal achosion lle bydd yr unigolyn yn mynd i adran damweiniau ac achosion brys neu'n cael ei dderbyn i'r ysbyty. Mae pob cynllun peilot yn cael ei werthuso gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio canlyniadau'r gwerthusiadau hyn i ddeall effaith pob un o'r modelau peilot ac i helpu i lywio ein ffordd o feddwl o ran y ddarpariaeth tymor hwy sydd ei hangen. Mae'r cyfleusterau hyn yn rhan o ddarpariaeth gofal argyfwng llawer ehangach sy'n cael ei chyflwyno ledled Cymru, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd meddwl brys 111, pwyswch 2 a'r cynllun cludo cleifion iechyd meddwl cenedlaethol peilot. Rydym yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i greu darpariaeth gydgysylltiedig rhwng y gwasanaethau hyn ac i sicrhau eu bod yn gydnaws â'r model mynediad agored arfaethedig.
Dros y 3 blynedd ddiwethaf, cafwyd gwelliannau nodedig ym maes Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn enwedig o ran lleihau amseroedd aros a gwella'r cymorth i blant niwrowahanol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £13.7 miliwn yn 2025 hyd at fis Mawrth 2027, i drawsnewid gwasanaethau niwrowahaniaeth, gan adeiladu ar y swm o £12 miliwn a ddyrannwyd yn flaenorol (2022 i 2025). Mae'r cyllid hwn yn cefnogi'r Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth, sydd wedi archwilio modelau gwasanaeth integredig, hyfforddiant i'r gweithlu a gwaith ymchwil â chymorth i adnoddau proffilio arloesol er mwyn diwallu anghenion plant ag ADHD ac awtistiaeth yn well.
Yn 2025 i 2026, bydd £5.6 miliwn o'r cyllid hwn yn canolbwyntio ar leihau'r amseroedd aros am asesiadau niwroddatblygiadol i blant. Mae hyn yn pennu'r targed o gael gwared ar bob achos o aros 3 blynedd ledled Cymru erbyn mis Mawrth 2026.
Ym mis Tachwedd 2024, darparwyd £50 miliwn o gyllid ychwanegol i fyrddau iechyd er mwyn lleihau'r amseroedd aros hiraf ledled Cymru. Roedd £3 miliwn o'r pecyn hwn wedi'i neilltuo'n benodol i wasanaethau niwroddatblygiadol i blant. Diolch i'r cyllid hwn, llwyddwyd i gynnal 2,166 o asesiadau ychwanegol ledled Cymru a chafwyd gwared ar bob achos o aros 4 blynedd.
Digartrefedd a thai digonol
Mae gwasanaethau hygyrch a chydgysylltiedig yn allweddol o ran hawliau plant. Mae cartref diogel ac addas yn hanfodol ar gyfer eu llesiant corfforol a meddyliol. Mae atal digartrefedd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan blant safonau byw digonol.
“Nododd rhai pobl ifanc nad oedd cymorth tai digonol ar gael, gan arwain at amodau byw anniogel neu ddigartrefedd. Roedd diffyg tai diogel yn gysylltiedig â rhwystrau ehangach, gan gynnwys mynediad i hyfforddiant, cyflogaeth a gwasanaethau hanfodol.”
Llais hwylusydd.
Mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc yn parhau'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i ddarparu digwyddiadau ymarfer gorau ynghylch lleihau'r ddibyniaeth ar lety dros dro anaddas ac annog trefniadau gweithio mewn partneriaeth rhwng landlordiaid cymdeithasol a thimau cynghori ar dai.
Ym mis Hydref 2024, gwnaethom gynnal cynhadledd genedlaethol ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc a ganolbwyntiodd ar rannu ymarfer da mewn perthynas ag atal digartrefedd. Rydym hefyd wedi cyhoeddi astudiaethau achos ymarfer da i gefnogi'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid sy'n ystyried sut y gellir nodi pobl ifanc sy'n wynebu risg o ddod yn ddigartref yn gynharach a rhoi cymorth iddynt. Rydym wedi gwarchod ac wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer cymorth ac atal digartrefedd yn 2025 i 2026, sydd bellach ar lefel o bron i £220m. Mae hyn yn cynnwys cynnydd o £21 miliwn yn y Grant Cymorth Tai a £7 miliwn tuag at ymyrryd yn gynharach, atal a chymorth ym maes digartrefedd ymysg pobl ifanc.
Mae tystiolaeth o ystadegau Digartrefedd Llywodraeth Cymru yn nodi bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud o ran digartrefedd. Mae'r ystadegau, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2025, yn awgrymu bod nifer yr aelwydydd dan fygythiad o ddod yn ddigartref yn 2024 o 2025 wedi gostwng 10% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yn ogystal, mae nifer y teuluoedd â phlant a gafodd eu rhoi mewn llety dros dro ym mis Mawrth 2025 hefyd wedi gostwng o 27% i 24%.
Cyflwynwyd y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) ym mis Mai 2025. Cafodd ei lywio gan waith ymgysylltu eang â rhanddeiliaid ac mae'n seiliedig ar brofiad bywyd y rhai hynny sydd wedi bod yn ddigartref. Mae'r Bil yn anelu at drawsnewid ein dull o ymdrin â digartrefedd a'n helpu i gyflawni'r uchelgais hirdymor i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Mae'n gosod pwyslais cryfach ar atal digartrefedd a dileu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael yr help sydd ei angen arnynt, gan gynnwys annog mwy o gydweithredu ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru er mwyn cyflawni'r nod hwn. Bydd y Bil pwysig hwn yn helpu i gefnogi amcanion y Strategaeth Tlodi Plant drwy sicrhau y gall plant gael yr hyn y mae ganddynt yr hawl iddo, mwynhau llesiant a chyflawni eu potensial waeth beth fo'u cefndir neu lefelau incwm. Caiff y broses o graffu ar y Bil ei chwblhau ddechrau 2026. Rydym wedi cyhoeddi Asesiad cynhwysfawr o'r Effaith ar Hawliau Plant ochr yn ochr â'r Bil a byddwn yn parhau i sicrhau y caiff safbwyntiau plant a phobl ifanc eu hystyried wrth ddatblygu'r canllawiau a fydd yn cyd-fynd â'r Bil.
Yn ogystal, rydym yn buddsoddi mewn tai cymdeithasol er mwyn helpu i leihau tlodi, gwella iechyd a meithrin twf economaidd. Yn 2024 i 2025, gwnaethom ddyrannu £10 miliwn ychwanegol ar ben y £350 miliwn gwreiddiol i gefnogi 16 o gynlluniau eraill ledled Cymru er mwyn darparu 238 o gartrefi pellach i'w rhentu yn y sector cymdeithasol ledled Cymru. Yn 2025 i 2026, rydym wedi dyrannu £30 miliwn ar gyfer y gwaith hanfodol hwn gan ddod â'r cyfanswm buddsoddiad mewn cyllid tai cymdeithasol i dros £2 biliwn dros dymor y Senedd hon. Mae'r buddsoddiad hwn yn uwch nag erioed o'r blaen, ac o ganlyniad, mae'r nifer uchaf o dai cymdeithasol ers bron i 20 mlynedd wedi cael eu darparu.
Agorodd y Rhaglen Cyfalaf Llety Trosiannol ar gyfer 2025 i 2026 ym mis Ebrill 2025, gyda dyraniad o £100 miliwn. Mae £55 miliwn ychwanegol bellach wedi'i ddyrannu i'r rhaglen eleni sy'n golygu bod dyraniad o £155m ar gael. Mae'r sector tai yn amcangyfrif y bydd y cyllid cyfunol yn darparu dros 1,100 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol. Mae hyn yn cynnig llwybr allan o lety dros dro i deuluoedd ac unigolion, gan helpu plant i feithrin mwy o ymdeimlad o gymuned a sefydlogrwydd a all helpu eu hiechyd, eu hiechyd meddwl a'u llesiant.
Yn gysylltiedig â'r gwaith hwn, mae'r Gronfa Tai â Gofal (HCF) yn darparu cyllid cyfalaf i helpu i ddarparu tai a llety â chymorth i bobl agored i niwed yn y gymdeithas y mae ganddynt anghenion gofal a chymorth. Yn 2024 i 2025, roedd cyllideb gyffredinol o £60.5 miliwn ar gael gyda thua £19 miliwn yn cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth. Mae'r cyllid hwn wedi helpu prosiectau plant fel cartrefi preswyl i blant, gan eu helpu i allu gadael lleoliadau y tu allan i'r sir, cymorth i unigolion sy'n gadael gofal a llety â chymorth i bobl ifanc. Yn 2025 i 2026, rydym yn darparu £60.5 miliwn pellach i barhau i gefnogi plant ag anghenion cymhleth fel un o'r pum grŵp blaenoriaeth sy'n gymwys i gael cyllid drwy'r Gronfa Tai â Gofal.
Mae'r Rhaglen Cartrefi Clyd hefyd yn berthnasol i'r amcan hwn, a cheir rhagor o wybodaeth yn y cynnydd a amlinellir fel rhan o Amcan 1.
Mae byw'n annibynnol gartref, waeth beth fo'r sefyllfa o ran anableddau, yn helpu i gadw teuluoedd gyda'i gilydd. Rydym yn helpu pobl i fyw'n annibynnol drwy addasiadau i gartrefi, sy'n atal cwympiadau, yn lleihau'r ddibyniaeth ar ofal ac yn gwella iechyd a llesiant. Mae gan Raglen Byw'n Annibynnol Llywodraeth Cymru gyllideb flynyddol o dros £31.4 miliwn ac mae'n cefnogi amrywiaeth eang o weithgarwch drwy grantiau seiliedig ar ddyraniadau i bartneriaid gan gynnwys y sector Gofal a Thrwsio, Cymdeithasau Tai drwy Grantiau Addasiadau Ffisegol (PAG) ac awdurdodau lleol drwy raglen 'Galluogi'. Yn ogystal, darperir £32 miliwn drwy'r setliad llywodraeth leol, a roddir i awdurdodau lleol i'w helpu i weithredu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.
Amcan 4: sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a’r gwasanaethau sy’n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio’r stigma sy’n gysylltiedig â thlodi
Mae Amcan 4 yn ymwneud â sicrhau na ddylai'r cymorth y mae plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn ei gael ychwanegu at y beichiau y maent eisoes o bosibl yn eu hwynebu oherwydd eu bod mewn tlodi. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau i gefnogi pobl sydd eisoes o bosibl yn wynebu mwy o straen ac iechyd meddwl a llesiant gwael a gweithio i leihau achosion o wahaniaethu a stigma wedi'u hachosi gan dlodi. Mae'n bwysig bod pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch, a'u bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a'u bod yn cael eu cefnogi mewn ffordd garedig a thosturiol.
Ymrwymiadau:
- Mynd ati mewn modd sy'n canolbwyntio ar hawliau plant o gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu, gyda threchu tlodi ac anghydraddoldeb yn ffactorau ysgogi polisi trawsbynciol.
- Gweithredu Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma a gwireddu ei uchelgais i weld Cymru yn dod yn genedl sy’n ystyriol o drawma.
- Gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i fynd i'r afael â'r rhwystrau i weithredu dulliau sy'n diogelu profiad plant o'r ysgol rhag tlodi, gan greu amgylcheddau addysg cynhwysol.
- Herio gwahaniaethu ac annog cydraddoldeb er mwyn sicrhau nad yw nodweddion gwarchodedig yn ei gwneud hi’n fwy anodd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd wneud yn dda.
Rhoi llais i blant a phobl ifanc
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn sail i'n holl bolisïau ar gyfer plant, ac sy'n effeithio ar blant. Mae'n rhan greiddiol o'n huchelgais i roi'r cychwyn gorau i bob plentyn mewn bywyd ac i wella eu canlyniadau. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gynnwys CCUHP mewn cyfraith ddomestig, ac mae'r Cynllun Hawliau Plant yn nodi ein dull gweithredu ar gyfer cyflawni ein dyletswyddau statudol o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Er mwyn sicrhau bod hawliau plant yn parhau wrth wraidd yr holl waith datblygu polisi, caiff Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant eu defnyddio o hyd gan Lywodraeth Cymru fel ei phrif ffordd o roi sylw dyladwy i CCUHP wrth gyflawni ein swyddogaethau. Maent yn rhan o'n Hasesiadau Effaith Integredig ehangach. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pob gwneuthurwr polisi yn ystyried effeithiau gwahaniaethol polisïau arfaethedig ar wahanol grwpiau o blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai hynny sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant fel y prif ddull cydymffurfio, gan ddiweddaru adnoddau yn barhaus os bydd angen. Rydym hefyd yn rhoi cyllid i Plant yng Nghymru weithredu Cymru Ifanc ar ein rhan, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc leisio eu barn fel rhan o'r broses o ddatblygu polisïau'r llywodraeth.
Ein huchelgais yw Cymru i Bob Plentyn, lle arbennig i dyfu i fyny, i fyw ac i weithio lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u clywed.
“Dylai pob plentyn fod ar yr un lefel. Dydy rhai plant ddim yn cael y plentyndod y dylen nhw ei gael.”
Adroddiad Pŵer y Llais: llais person ifanc.
Mae Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant y Strategaeth Tlodi Plant yn nodi sut y cafodd ei datblygu a beth a gafodd ei ystyried fel rhan o'r broses o'i datblygu. Mae hyn yn cynnwys nodi Erthyglau CCUHP sy'n berthnasol i dlodi plant. Ymgynghorwyd yn benodol â 1,402 o blant er mwyn llywio'r broses o ddatblygu'r strategaeth. Rydym yn parhau i ofyn am safbwyntiau plant wrth i ni ddatblygu ein polisïau gwrthdlodi, gan sicrhau bod eu profiadau bywyd yn llywio ein dull gweithredu. Mae'r camau gweithredu hyn yn ymateb yn uniongyrchol i Ymrwymiad 11 o'r Strategaeth Tlodi Plant.
Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i Sylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn gan nodi manylion y gwaith a wnaed i ddatblygu'r Strategaeth Tlodi Plant newydd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu diweddariadau bob dwy flynedd ar gynnydd tuag at argymhellion Adroddiad y Cenhedloedd Unedig a chaiff y diweddariad nesaf ei gyhoeddi yn 2026. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Chomisiynydd Plant Cymru ac eraill i helpu i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn mabwysiadu dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau plant.
Darparu gwasanaethau â charedigrwydd a thosturi
Mae tystiolaeth o adolygiad o lenyddiaeth yr Adroddiad Profiad Bywyd yn nodi'r heriau mae plant yn eu hwynebu o ganlyniad i fyw mewn tlodi. Mae'n awgrymu bod plant yn teimlo cywilydd, eu bod o dan bwysau gan gyfoedion a'u bod yn cael eu bwlio oherwydd sefyllfa eu teulu. Cyfeiriodd hefyd at arolwg Plant yng Nghymru i Blant a Phobl Ifanc gan awgrymu:
“Roedd 68% o blant a phobl ifanc yn teimlo bod achosion o fwlio neu o gael eu bychanu yn fwyaf tebygol o effeithio ar blant sy'n byw mewn tlodi.”
Maent yn disgrifio achosion lle nad yw plant am fynd i'r ysgol gan nad oes ganddynt y wisg gywir neu na allant fforddio'r trip ysgol, sy'n arwain at ymdeimlad o ynysigrwydd, tristwch, pryder ac at deimlo'n anniogel.
Rydym yn cydnabod bod llawer o bethau a all effeithio ar ddyfodol plentyn ac y gall trawma, gan gynnwys y trawma y gall byw mewn tlodi ei achosi, gael effeithiau parhaus. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o effaith trawma yn ystod plentyndod a sut i gefnogi plant sydd wedi dioddef trawma o'r fath, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddangos ei hymrwymiad drwy ddarparu cyllid a chymorth i Hyb ACE Cymru. Rydym wedi cynyddu'r cyllid hwn o £400,000 i £500,000 yn 2025 i 2026. Mae'r cyllid hwn yn eu helpu i gyd-arwain gyda Straen Trawmatig Cymru i roi Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma ar waith, ynghyd â chymorth gan aelodau'r Grŵp Llywio traws-sector ar gyfer Gweithredu'r Fframwaith. Fel rhan o'i waith, mae'r Grŵp Llywio yn ystyried materion penodol neu grwpiau penodol y gallai fod angen cymorth arnynt. Mae'r wybodaeth hon cael ei defnyddio mewn ffordd uniongyrchol i lywio'r broses o ddatblygu dulliau gweithredu sy'n ystyriol o drawma sy'n anelu at wella bywydau plant a theuluoedd.
Yn ogystal, mae Hyb ACE Cymru a Straen Trawmatig Cymru yn parhau i ddatblygu hyfforddiant ac adnoddau eraill i helpu unigolion, sefydliadau a chymunedau i ddod yn ystyriol o drawma. Mae hyn yn cynnwys mynediad am ddim i becyn e-ddysgu sy'n darparu gwybodaeth sylfaenol am ymarfer sy'n ystyriol o drawma i weithwyr proffesiynol. Gwnaed cynnydd hefyd wrth helpu sefydliadau i asesu a gwella eu harferion sy'n ystyriol o drawma drwy'r pecyn cymorth i sefydliadau sy'n ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (TrACE), a fu'n destun gwerthusiad annibynnol ac a gyhoeddwyd ochr yn ochr ag astudiaethau achos sy'n dangos effaith rhoi'r pecyn cymorth ar waith mewn gwahanol leoliadau. Mae'r adnoddau hyn ar gael i'r cyhoedd ar-lein a thrwy Hwb (platfform dysgu digidol Llywodraeth Cymru i ysgolion) er mwyn helpu gwasanaethau i roi arferion sy'n ystyriol o drawma ar waith.
Mae'r gwaith hwn yn cefnogi Ymrwymiad 12 o'r Strategaeth Tlodi Plant yn uniongyrchol. Mae'n cynnwys nodi a darparu adnoddau i helpu sefydliadau i ddarparu gwasanaethau caredig, tosturiol a chynhwysol.
Ers 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £4 miliwn o gyllid i fannau diogel a chynnes yn y gymuned, y cyfeirir atynt yn aml fel Canolfannau Clyd. Mae'r cyllid hwn yn helpu i ddarparu mannau yn y gymuned lle gall pobl o bob oedran gael gafael ar wasanaethau a chyngor i'w helpu i ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion gan gynnwys problemau â dyledion, sut i gael eu hawliadau, a threchu unigrwydd ac ynysigrwydd.Mae'r mannau hyn yn adnoddau hanfodol i deuluoedd ac fe'u defnyddir yn aml gan nifer o sefydliadau er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad o dan yr un to.
“O ran y ganolfan glyd sy'n cael ei chynnal yma. Rwy'n aml yn galw heibio ac yn cael paned a sgwrs gyda phawb, ac mae'n ffordd dda iawn o ddod â'r gymuned at ei gilydd.”
Llais aelod o deulu.
Creu amgylcheddau cynhwysol
Mae creu amgylchedd addysg mwy cynhwysol yn cynnwys dod o hyd i ffyrdd o ymdrin â'r materion sy'n cael eu hachosi gan dlodi, a'r effaith negyddol y gall hyn ei chael ar iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant. Mae camau gweithredu eisoes ar waith diolch i gyllid parhaus ar gyfer rhoi'r fframwaith Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol ar waith ym mhob ysgol, Unedau Cyfeirio Disgyblion ac Ysgolion Arbennig yng Nghymru. Yn 2025 i 2026, neilltuwyd cyllid o £13.6 miliwn, cynnydd sylweddol ers dechrau'r cyllid yn 2021. Mae tua 9 ysgol allan o bob 10 wrthi'n cynllunio camau gweithredu sy'n gysylltiedig â'u hanghenion llesiant. Bydd ein ffocws nawr yn parhau i gefnogi ysgolion cynradd, a lleoliadau addysg eraill i gwblhau'r cam o gynllunio camau gweithredu. Rydym yn parhau i helpu plant a phobl ifanc i gael help a chymorth proffesiynol drwy wasanaethau cwnsela annibynnol, a bydd rhan o'r cyllid a ddarperir yn helpu i barhau i gyflwyno'r gwasanaethau hyn i ddysgwyr islaw blwyddyn 6. Mae gwaith ymchwil hefyd yn parhau i werthuso effaith y Fframwaith ac i gefnogi lleoliadau drwy ddarparu adnoddau newydd ac ychwanegol i sicrhau y caiff cymorth llesiant ac iechyd meddwl priodol ac effeithiol ei ddarparu i'w dysgwyr. Dylai canfyddiadau'r gwerthusiad gael eu cyhoeddi ddechrau 2026.
Gan weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid fel Estyn, rydym yn parhau i nodi a rhannu ymarfer da wrth nodi a mynd i'r afael â thlodi. Rydym hefyd yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r effaith negyddol y gall tlodi ei chael ar blant, ac i dynnu sylw at ffyrdd y gall dulliau diogelu rhag tlodi helpu i wella bywydau plant a'u teuluoedd. Yn unol â'r camau gweithredu i gyflawni Ymrwymiad 13 o'r Strategaeth Tlodi Plant, mae Estyn wedi parhau i adolygu a diweddaru ei chanllawiau o ran nodi tlodi ac ymdrin â'r rhwystrau. Mae wedi nodi arferion effeithiol yn ystod arolygiadau ac wedi cyhoeddi canfyddiadau i helpu eraill.
Ym mis Tachwedd 2024, cyhoeddodd Estyn adolygiad thematig ar Effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, cymorth, darpariaeth a phontio ar gyfer addysg gynnar. Mae'n parhau i ddatblygu cynllun gweithredu i nodi blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol er mwyn helpu i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Mae hefyd wrthi'n datblygu ei strategaeth gwrthdlodi ei hun.
Yn gysylltiedig â hyn, mae cryn dipyn o waith yn mynd rhagddo i gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn creu amgylcheddau croesawgar i bob plentyn, drwy brosesau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n seiliedig ar anghenion y plentyn. Ymdriniwyd â hyn yn fanylach yn Amcan 2.
Mae tystiolaeth yn dangos ei bod hi'n fwy tebygol y bydd tlodi yn effeithio ar bobl o gefndiroedd a chymunedau penodol. Mae llawer o gamau gweithredu ar waith i helpu i ymdrin â'r rhwystrau i degwch i bob plentyn yng Nghymru. Rydym hefyd yn cydnabod nad yw'n hi'n ddigon dim ond cydnabod achosion o ddiffyg cydraddoldeb neu degwch, fel y nodir yn Ymrwymiad 14 o'r Strategaeth Tlodi Plant, rhaid i ni hefyd geisio herio achosion o wahaniaethu a bwrw ati â'r gwaith hwn.
Mae Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol (SEHRP) 2025 i 2029 yn nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, ac i wneud ein cymdeithas yn decach ac yn fwy cynhwysol. Mae'n creu fframwaith unedig drwy gyfuno ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol, sy'n cynnwys lleihau tlodi, a'n gwaith i hyrwyddo hawliau dynol. Mae'r Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol yn cynnig fframwaith cyffredinol sy'n sicrhau bod y cynlluniau gweithredu mwy penodol (er enghraifft mewn perthynas â rhywedd, anabledd, hil a LHDTC+) yn gweithredu mewn ffordd sy'n gydnaws, yn gyson ac yn seiliedig ar ganlyniadau. Mae'r Strategaeth Tlodi Plant yn gydnaws â'r Amcanion a bennwyd yn y Cynllun Strategol ac mae'r Adroddiad Cynnydd hwn yn dangos yr ymrwymiad i barhau i weithio gan ddilyn dulliau gweithredu seiliedig ar hawliau a cheisio sicrhau gwell tegwch i bob plentyn yng Nghymru.
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a lansiwyd yn wreiddiol ym mis Mehefin 2022, yn galw am Gymru wirioneddol wrth-hiliol. Mae'r Cynllun diwygiedig, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2024, yn ailbwysleisio'r ymrwymiad hwn. Mae tystiolaeth yn nodi bod yr anghydraddoldebau hiliol sy'n gysylltiedig ag amgylchiadau economaidd-gymdeithasol yn ffactorau sylweddol i'w hystyried wrth ymdrin â hiliaeth yng nghyd-destun anghydraddoldebau ehangach. Nodir bod gwaith agos gyda mentrau ehangach Llywodraeth Cymru sy'n anelu at fynd i'r afael â thlodi ac anfantais a hyrwyddo llesiant yn holl bwysig er mwyn cyflawni nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Rydym yn defnyddio ein dylanwad i weithio gyda chyflogwyr ac undebau llafur i greu gweithleoedd gwrth-hiliol, cau'r bwlch cyflog ethnigrwydd, a sicrhau bod cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth ar gael i bawb, nid dim ond y rhai hynny sydd eisoes yn gallu manteisio ar y rhwydweithiau, y mentoriaid neu'r cymorth anffurfiol sy'n aml yn helpu pobl i symud i mewn i rolau uwch. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu Carreg Filltir Genedlaethol sy'n ceisio lleihau'r bwlch tlodi ar gyfer pobl sydd â nodweddion gwarchodedig.
Lleihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â nodweddion allweddol a gwarchodedig penodol (sy’n golygu mai hwy sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a’r rhai heb y nodweddion hynny, erbyn 2035. Ymrwymo i osod targed ymestynnol ar gyfer 2050.
Carreg Filltir Genedlaethol.
Ystyrir bod y Garreg Filltir hon yn gam hanfodol wrth weithio tuag at Gymru fwy cyfartal, ac ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, roedd gwaith pellach yn mynd rhagddo i nodi'r nodweddion priodol i'w cynnwys yn y garreg filltir hon yn y ffordd orau.
Mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023, yn nodi ein hymrwymiad i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ac urddas y gymuned LHDTC+ drwy addysg, gan gynnwys ymrwymiad i gyhoeddi canllawiau cenedlaethol i gefnogi dysgwyr traws mewn ysgolion. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos ag ymarferwyr, arweinwyr ysgolion, awdurdodau lleol ac amrywiaeth eang o randdeiliaid i barhau i fwrw ati â'r gwaith pwysig hwn.
Mae camau gweithredu eraill i gefnogi mwy o gydraddoldeb ym maes addysg yn cynnwys Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif a gyhoeddwyd gennym ym mis Chwefror 2023. Dyma ein cynllun i roi diwedd ar dlodi mislif a chyflawni urddas mislif i bawb, a sicrhau na fydd unrhyw ferch o dan anfantais oherwydd ei mislif. Fel rhan o'r cynllun hwn, mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu'r Grant Urddas Mislif i bob awdurdod lleol er mwyn sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol lle mae pobl yn debygol o fod ar incwm isel.
Fel y nodwyd uchod, er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant, mae angen gweithredu drwy bartneriaethau. Rhaid i'r broses fod yn barhaus, ac rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid ac i ddysgu ganddynt. Un enghraifft o hyn yw adroddiad arfaethedig Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar yr hyn sy'n gweithio wrth atal stigma tlodi a mynd i'r afael ag ef, nad oedd wedi'i gyhoeddi ar adeg drafftio'r adroddiad hwn. Ceir enghreifftiau eraill lle rydym wedi dysgu o'r gwaith a wnaed gan eraill yn y cyflwyniad.
Er y gallwn ymfalchïo yn y camau gweithredu sy'n cael eu cymryd i ymdrin ag anghydraddoldebau, ac i helpu i sicrhau y caiff plant ledled Cymru eu trin ag urddas, rydym yn cydnabod bod rhagor o waith i'w wneud er mwyn helpu i wella lefelau tegwch i bob plentyn yng Nghymru.
Amcan 5: sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol
Mae Amcan 5 yn ymwneud â sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol yn arwain at gydweithio rhanbarthol a lleol cryf ar waith gwrthdlodi, gan leihau achosion o ddyblygu a chefnogi dulliau cyflawni integredig ac effeithiol.
Ymrwymiadau:
- Cryfhau dull Llywodraeth Cymru o integreiddio nodau polisi a chyllid er mwyn galluogi cydweithio tymor hwy ar drechu tlodi.
- Gweithio gyda chyrff cyhoeddus a’r trydydd sector i ddatblygu enghreifftiau arloesol o arferion da a’u rhannu ac i nodi lle mae’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn berthnasol, cefnogi'r ymdrechion ehangach i drechu anfantais ac anghydraddoldebau.
- Nodi'r dull gorau o helpu i gydgysylltu ymdrechion i drechu tlodi ar draws trefniadau partneriaeth presennol.
- Llunio a chefnogi Cymunedau Ymarfer.
- Gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a phartneriaid ehangach i roi fframwaith NYTH ar waith i gyflawni dull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant babanod, plant a phobl ifanc.
Mae'r amcan hwn hefyd yn cydnabod er mwyn cyflawni newid ystyrlon bod yn rhaid i ni weithio o fewn strwythurau presennol a cheisio nodi bylchau ar gyfer trefniadau cydweithio newydd, gan ar yr un pryd sicrhau y gall cydweithwyr mewnol ac allanol rannu arferion da a chydweithio i greu Cymru Fwy Cyfartal. O ystyried natur gydweithredol yr ymrwymiad hwn, mae rhai o'r camau gweithredu a nodwyd hefyd wedi'u cynnwys fel rhan o'r amcanion eraill yn yr adroddiad hwn.
Trefniadau cydweithio cryfach a rhannu arferion da
Mae sicrhau dull gweithredu mwy cydgysylltiedig ar draws Llywodraeth Cymru a'n partneriaid ehangach, gan gynnwys awdurdodau lleol, y trydydd sector a gwasanaethau yn y gymuned, yn hanfodol er mwyn i ni wneud gwahaniaeth mewn perthynas â thlodi plant. Yn unol ag Ymrwymiad 15 ac Ymrwymiad 18 o'r Strategaeth Tlodi Plant, rydym yn chwilio am ffyrdd i integreiddio ein prosesau datblygu polisi yn well, ac rydym yn gwneud hyn mewn sawl ffordd.
Ers mis Ebrill 2024, mae'r Gymuned Ymarfer Trechu Tlodi wedi dod â 320 o gyfranogwyr o amrywiaeth o sefydliadau ynghyd, gan ganolbwyntio ar gydweithio, arloesedd a dulliau ymarferol o drechu tlodi plant, gan gynnwys tlodi bwyd a chefnogi cymunedau.
Mae'r Gymuned Ymarfer wedi ymdrin â materion fel y canlynol:
- cydweithio fel ffordd o ymdrin â thlodi plant
- cydweithio ac arloesedd mewn mannau cymunedol neu ar eu cyfer, a chymorth caredig a thosturiol
- grantiau Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau 2024 to 2025
- enghreifftiau o sut mae sefydliadau yn mynd i'r afael â thlodi bwyd
Bydd Cymunedau Ymarfer yn y dyfodol yn canolbwyntio ar y Blynyddoedd Cynnar a Thlodi mewn Ysgolion.
Yn ogystal, rhoddodd y Gymuned Ymarfer gyfle i'r cyfranogwyr glywed gan swyddfa Comisiynydd Plant Cymru ar Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant sy'n rhoi CCUHP wrth wraidd y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau. Cododd ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o adnoddau a ddatblygwyd gan y Comisiynydd Plant er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o hawliau plant, a gwaith swyddfa'r Comisiynydd.
Yn ogystal â'r Gymuned Ymarfer, sefydlwyd y Grŵp Cyfeirio Allanol ar Dlodi Plant (CPERG) yn 2023 i lywio'r gwaith o ddatblygu Strategaeth Tlodi Plant Cymru. Mae'r Grŵp Cyfeirio Allanol bellach yn cefnogi trefniadau cydweithio ar lefel fwy strategol gan sicrhau ein bod yn parhau i gydweithio wrth ddarparu a gweithredu'r amcanion, y blaenoriaethau a'r Ymrwymiadau sydd wedi'u nodi yn y strategaeth. Mae'r Grŵp wedi rhoi cyngor ac arweiniad fel rhan o elfennau o'r Adroddiad Cynnydd hwn, gan sicrhau ein bod yn ymwybodol o wybodaeth a data perthnasol sydd ar gael i lywio ein dull gweithredu.
Ers 2023, dyfarnwyd dros £2.4 miliwn i 47 o sefydliadau drwy'r Grant Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau, gan ddatblygu partneriaethau newydd a rhai presennol i roi ymyriadau arloesol yn seiliedig ar le ar waith.
Gwers gyson a ddysgwyd o'r prosiectau oedd ei bod hi'n fuddiol cynnwys pobl â phrofiad bywyd o dlodi wrth ddatblygu a chyflwyno. Helpodd eu gwybodaeth a'u profiad i lywio'r broses o ddylunio gwasanaethau, i feithrin ymddiriedaeth gymunedol ac i annog ymgysylltu, gan atgyfnerthu pwysigrwydd buddsoddi mewn datrysiadau integredig dan arweiniad y gymuned. Yn 2024 i 2025, cafodd y prosiectau effaith uniongyrchol ar dros 7,300 o bobl â phrofiad bywyd o dlodi.
Enghraifft o gyllid grant i annog cydweithio wrth roi ymyriadau tlodi plant ar waith 2025 i 2026:
- Rhwydwaith Cyngor i Deuluoedd Gogledd Sir Ddinbych:
- Cydweithrediad newydd rhwng Canolfan Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych (CAD) (yn darparu cyngor ariannol, cyngor ar dai a chyngor ar ynni i bawb yn Sir Ddinbych ni waeth beth fo'u hamgylchiadau na'r mater) a gwasanaeth Cyswllt Teulu Cyngor Sir Ddinbych (yn darparu cymorth i deuluoedd, lleoliadau cyn ysgol ac ysgolion er mwyn gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael profiad cadarnhaol o addysg ac yn cael cyfleoedd i gyflawni eu potensial llawn), wedi'i gyd-ddylunio i ddarparu cyngor arloesol ar ffurf ymyriadau cynnar i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi neu'n wynebu risg o hynny.
- Mae'r prosiect yn cynnwys cynghorwyr arbenigol sy'n rhan o wasanaeth Cyswllt Teulu Cyngor Sir Ddinbych, sy'n rhoi cyfle i deuluoedd ifanc sy'n wynebu anawsterau gael cyngor cynnar yn y gymuned ar faterion sy'n ymwneud â lles, dyledion a thai. Mae'r cydweithrediad arloesol hwn ar ffurf ‘siop un stop’ yn gwella llwybrau cymorth ac yn grymuso teuluoedd mewn tlodi i ffynnu drwy help cydgysylltiedig y gellir ymddiried ynddo ar gyfer eu sefyllfa bresennol.
- Mae'r cydweithrediad newydd hwn yn adeiladu ar gydberthnasau sy'n bodoli eisoes ac yn creu ffyrdd newydd o weithio sy'n osgoi achosion o ddyblygu, yn cynyddu effeithlonrwydd, yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau presennol ac yn gwella'r canlyniadau i blant a theuluoedd mewn tlodi.
Gan ddefnyddio'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth a gafwyd o gylch cyllid grant 2024 i 2025, canolbwyntiodd grant Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau 2025 i 2026 ar ddatblygu, atgyfnerthu ac ychwanegu gwerth at drefniadau gweithio a oedd eisoes ar waith neu ar roi trefniadau cydweithio newydd ar waith i helpu i fynd i'r afael â thlodi plant. Wrth symud ymlaen, bydd parhau i ddatblygu ein Cymunedau Ymarfer yn hanfodol er mwyn sicrhau y caiff y gwersi hyn eu rhannu ac y gellir adeiladu arnynt.
Yn ystod 2022 a 2023, gwnaethom gynnal uwchgynadleddau costau byw rhithwir a ddaeth â thros 500 o randdeiliaid o bob cwr o Gymru ynghyd i drafod effaith yr argyfwng ac i dargedu cymorth yn effeithiol. Pwysleisiodd yr uwchgynadleddau ein hymrwymiad i barhau i wneud popeth o fewn ein pwerau ac i gefnogi ein cymunedau drwy'r cyfnod heriol hwn. Pwysleisiodd yr uwchgynadleddau hefyd bwysigrwydd gweithio fel partneriaid a manteisio i'r eithaf ar ein hymdrechion cyfunol er mwyn creu mwy o effaith ac effaith fwy parhaus.
Rydym hefyd wedi cefnogi cynadleddau i ymarferwyr yn Ne a Gogledd Cymru yn 2024 i 2025 a ymdriniodd â threchu tlodi plant, manteisio i'r eithaf ar incwm a lleihau chostau er mwyn ymdrin â thlodi plant.
Camau gweithredu ehangach i ysgogi trefniadau cydweithio
Ar 31 Mawrth 2021, daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru. Mae'r ddyletswydd yn ofyniad cyfreithiol a gaiff ei gymhwyso at gyrff cyhoeddus penodedig gan gynnwys Gweinidogion Cymru ac mae'n anelu at wella'r canlyniadau i bobl o dan anfantais economaidd-gymdeithasol, gan gynnwys y rhai hynny sy'n byw mewn tlodi. Mae'n golygu bod yn rhaid i wneuthurwyr penderfyniadau roi sylw dyladwy, wrth wneud penderfyniadau strategol, i sut y gallai eu penderfyniad helpu i leihau anghydraddoldebau o ran canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae wedi annog ffocws cryfach ar ymgynghori ac ymgysylltu â'r cymunedau yr effeithir arnynt ac hefyd wedi helpu i lywio'r Asesiadau Effaith Integredig a nodir o dan Amcan 4 o'r Adroddiad Cynnydd. Cafodd rhai o adnoddau'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol eu diweddaru i annog cydweithio a threfniadau gweithio integredig ar draws dyletswyddau. Mae'r cam gweithredu hwn yn cefnogi Ymrwymiad 16 o'r Strategaeth Tlodi Plant.
Mae gan bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol bellach is-grwpiau plant a phobl ifanc sy'n hwyluso trefniadau gweithio mewn partneriaeth ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a'r trydydd sector i wella iechyd a gofal cymdeithasol babanod, plant a phobl ifanc. Mae'r grwpiau hyn yn gweithio'n unol â strategaethau plant rhanbarthol wedi'u llywio gan asesiadau o anghenion y boblogaeth.
Mae Fframwaith (iechyd meddwl a llesiant meddyliol) NYTH, a gyflwynwyd yn 2023, yn hyrwyddo dull gweithredu system gyfan mewn perthynas ag iechyd meddwl a llesiant meddyliol i blant a theuluoedd. Ym mis Chwefror 2024, cyd-gynhyrchwyd adnodd hunanasesu NYTH i helpu sefydliadau i roi egwyddorion NYTH ar waith a'u mabwysiadu. Mae hyfforddiant am ddim ar NYTH ac ar hawliau plant ar gael drwy Blatfformau Dysgu Y Tŷ Dysgu. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant a fforwm misol cenedlaethol er mwyn helpu pobl i gwblhau hunanasesiad NYTH. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal Cymuned Ymarfer genedlaethol yn benodol i NYTH sy'n ymdrin â chefnogi teuluoedd. Ers dechrau 2025, mae gan bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol bellach arweinwyr NYTH ac mae pob un yn cwblhau'r adnodd hunanasesu, gyda chymorth fforymau cenedlaethol a hyfforddiant. Mae'r gwaith hwn yn cefnogi camau gweithredu o dan Ymrwymiad 19 o'r Strategaeth Tlodi Plant.
Mae'n ofynnol i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) gynnal asesiad llesiant a chyhoeddi cynllun llesiant lleol sy'n nodi sut y bydd yn cyflawni ei gyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Er mwyn sicrhau bod trefniadau cydweithio ar waith, mae amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau y dylid eu cynnwys o fewn aelodaeth Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys yr awdurdodau lleol eu hunain, comisiynwyr heddlu a throseddu, a sefydliadau gwirfoddol. Ym mhob rhan o'r cynlluniau cyhoeddedig, ceir amcanion lluosog sy'n anelu at helpu pobl allan o dlodi, sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn gwybod ble i fynd i gael help, tynnu sylw at faterion o ran tlodi tanwydd a thlodi bwyd a'r effaith y gall hyn ei chael ar lesiant plant, a darparu amcanion i helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae'r camau gweithredu hyn yn anelu at gyflawni Ymrwymiad 17 o'r Strategaeth Tlodi Plant.
Mae'r camau gweithredu hyn yn dangos ei bod hi'n hanfodol ein bod yn parhau i gydweithio ar draws pob sefydliad i fynd i'r afael â thlodi os ydym yn gobeithio cael effaith. Gellir gweld enghraifft arall o hyn drwy rwydwaith Deall Stigma Tlodi Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a nodwyd yn Amcan 4 o'r adroddiad hwn.
“Mae angen cymuned fawr arnom. Gan ddod â llawer o wahanol grwpiau a phobl sy'n ceisio helpu, ond yn lle gweithredu'n unigol, dylent ddod at ei gilydd"
Adroddiad Achub y Plant: llais person ifanc.
O dan arweiniad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, o fis Mehefin 2025, Gwent oedd y rhanbarth Marmot cyntaf yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod ei waith yn cael ei gyflawni drwy flaenoriaethau strategol sy'n cynnwys rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, a sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfleoedd economaidd. Mae hyn yn unol ag wyth egwyddor Syr Michael Marmot i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac mae'n gydnaws â'r ffordd `atal’ o weithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei fwriad i Gymru gyfan ddod yn ‘genedl Marmot’. Bydd yn adeiladu ar y llwyddiant yn Nhorfaen, a oedd yn rhan o ardal ehangach Gwent a ddaeth yn rhanbarth Marmot. Yma maent wedi cynnal gwaith systematig i ailddylunio eu strategaeth a'u dull gweithredu, gan symud tuag at 'Ddull Gweithredu Cymunedau', a datblygu model sy'n seiliedig ar ddatblygu rôl cymorth cymunedol fel rhan o'r system llesiant.
Rydym wedi parhau i gefnogi sefydliadau fel Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cyd-bwyllgorau Corfforedig a Medr i ddatblygu eu strategaethau eu hunain i ymdrin â thlodi plant.
Fel rhan o'r broses ddatblygu economaidd-gymdeithasol ym mis Ebrill 2025, cyhoeddwyd datganiad cenhadaeth yr Economi Sylfaenol yn amlinellu amcanion Llywodraeth Cymru i nodi a chefnogi cyfleoedd ar gyfer gwell swyddi, gwaith teg a chyflog da, hyrwyddo cynlluniau fel y Cyflog Byw Gwirioneddol a'r angen i helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol er mwyn cadw pobl, sgiliau a chyfoeth yng Nghymru.
Mae'r gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer dyfodol hirdymor plant ledled Cymru, bydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau a seilwaith hanfodol i gefnogi eu datblygiad, eu llesiant a'u cyfleoedd yn y dyfodol. Ym mis Mai 2026, caiff prosbectws yr Economi Sylfaenol ei ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid i'w gyflwyno i'r weinyddiaeth newydd.
Cydweithio i gynyddu ymwybyddiaeth
Nod Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant (CTF), a sefydlwyd i blant a anwyd rhwng 2002 a 2011, oedd rhoi ased ariannol i bob plentyn pan fyddent yn dod yn oedolyn. Yn benodol, cafodd plant swm cychwynnol o hyd at £250, gyda rhai yn cael cyfraniadau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar wahanol adegau. Caiff y cronfeydd hyn eu cadw mewn ymddiriedolaeth hyd nes y bydd y plentyn yn troi'n 18 oed. Bryd hynny, gellir eu defnyddio at ddibenion addysgol, tai, neu fuddsoddiadau personol eraill.
O 1 Medi 2025, bydd pob cyfrif CTF yn eiddo i unigolion rhwng 14 a 23 oed. Fodd bynnag, mae nifer sylweddol o'r cronfeydd hyn heb eu hawlio o hyd. Rydym wrthi'n gweithio ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr ag adrannau eraill Llywodraeth y DU, i godi ymwybyddiaeth ac i alluogi pobl ifanc i gael gafael ar yr hyn sy'n eiddo iddynt. Mae'r gwaith hwn yn bwysig er mwyn cyflawni uchelgeisiau'r CTF i roi help llaw i bobl ifanc yn ystod adeg drawsnewid hanfodol yn eu bywydau.
Yn olaf, mae'r Strategaeth Tlodi Plant yn cydnabod na allwn weithio ledled Cymru yn unig i gyflawni ein huchelgeisiau i ddileu tlodi plant. Nid oes gennym yr holl ddulliau ysgogi angenrheidiol i wneud hyn, ac felly mae'n rhaid i ni weithio gyda Llywodraeth ehangach y DU i ddylanwadu ar bolisïau fel diwygio lles ac yn arbennig, yr angen i ddod â'r terfyn dau blentyn a'r cap budd-daliadau i ben. Gallwn hefyd ddysgu gan ddulliau eraill o ymdrin â thlodi plant sydd ar waith mewn rhannau eraill o'r DU. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi bod yn cymryd rhan weithredol yng Ngrŵp Gweinidogol y Pedair Gwlad ar Dlodi Plant a Thasglu Tlodi Plant Llywodraeth y DU er mwyn rhannu'r gwersi i'w dysgu wrth fynd i'r afael â thlodi plant ac annog Llywodraeth y DU i ddefnyddio ei dulliau ysgogi, megis diwygio lles, i'r eithaf.
Atodiad A: rhestr o'r holl amcanion, blaenoriaethau ac ymrwymiadau
Amcanion
- Amcan 1: lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd.
- Amcan 2: creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial.
- Amcan 3: cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a sicrhau canlyniadau gwell.
- Amcan 4: sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi.
- Amcan 5: sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol.
Blaenoriaethau
- Blaenoriaeth 1: hawl (rhoi arian ym mhocedi pobl).
- Blaenoriaeth 2: creu cenedl Gwaith Teg (heb adael neb ar ôl).
- Blaenoriaeth 3: creu cymunedau (gwasanaethau cydgysylltiedig hygyrch i ddiwallu anghenion y gymuned).
- Blaenoriaeth 4: cynhwysiant (gwasanaethau caredig, tosturiol nad ydynt yn stigmateiddio).
- Blaenoriaeth 5: galluogi cydweithio (ar lefel ranbarthol a lleol).
Ymrwymiadau
- Rhoi system budd-daliadau ar waith i Gymru sy'n seiliedig ar Siarter Budd-daliadau Cymru ac a ddarperir â thosturi, a chyflymu gwaith gyda'n partneriaid i symleiddio'r broses o wneud cais am Fudd-daliadau Cymru er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch.
- Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pawb sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yn gwneud i bob cyswllt gyfrif, fel bod pobl yn cael gwybodaeth a chyngor wyneb yn wyneb ynglŷn â sut i gael cymorth i fanteisio’n llawn ar eu hawliau ariannol.
- Cyflymu ein gwaith gydag Estyn a phartneriaid Gwella Ysgolion (Awdurdodau Lleol, Consortia) er mwyn sicrhau bod addysg yn brofiad niwtral o ran cost i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
- Hyrwyddo'r Cyflog Byw Gwirioneddol a'r gallu i fanteisio ar undebau llafur, ac ymgorffori gwaith teg mewn ymyriadau ehangach ym maes sgiliau a datblygu economaidd.Byddwn hefyd yn rhoi darpariaethau ein Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ar waith.
- Dileu’r rhwystrau i gyflogaeth a llwybrau gyrfa a wynebir gan bobl anabl, menywod, gofalwyr a phobl ethnig leiafrifol a gwella arferion a diwylliant gweithleoedd.
- Mynd ati ym mhob rhan o'r llywodraeth i ddod o hyd i ddatrysiadau fforddiadwy i gostau gofal plant a thrafnidiaeth, er mwyn dileu'r rhwystrau i gael gwaith a gwneud i waith dalu. Rhaid i hyn gael ei gyflawni heb gyfaddawdu’r angen i sicrhau bod pob darpariaeth gofal plant o safon sy’n diwallu anghenion plant a bod datrysiadau ar gyfer trafnidiaeth yn seiliedig ar ymrwymiadau Cymru Sero Net.
- Ystyried y gymuned wrth ddatblygu, adolygu ac ariannu polisïau a rhaglenni perthnasol, gan hyrwyddo gwasanaethau aml-asiantaeth ‘siop un stop’ yn y gymuned er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r amrywiaeth o anghenion ac anfanteision cydgysylltiedig y mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu.
- Sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi ysgolion i ddatblygu’n ysgolion bro, gan ymateb i anghenion eu cymuned, meithrin partneriaeth gref â theuluoedd a chydweithio’n effeithiol â gwasanaethau eraill.
- Bwrw ati, ar y cyd â phartneriaid, i gynnig mwy o gyfleoedd chwarae, chwaraeon ac ieuenctid yn y gymuned a chyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau’r celfyddydau, diwylliant ac adnoddau naturiol, yn ogystal â gweithgareddau cost isel i deuluoedd i gefnogi iechyd a llesiant.
- Sicrhau ein bod, wrth ddatblygu ein Polisi Cymunedau, yn nodi ffyrdd newydd cydgynhyrchiol o weithio sy’n gynhwysol i bawb, gan ddefnyddio dull gweithredu cymunedol i lywio’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau cydgysylltiedig lleol i drechu tlodi heb stigma.
- Mynd ati mewn modd sy’n canolbwyntio ar hawliau plant o gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu, yn unol â CCUHP, gyda threchu tlodi ac anghydraddoldeb yn ffactorau ysgogi polisi trawsbynciol.
- Gweithio gyda Hyb ACE Cymru a Straen Trawmatig Cymru i weithredu Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma a gwireddu ei uchelgais i weld Cymru yn dod yn genedl sy’n ystyriol o drawma. Bydd hyn yn cynnwys nodi unrhyw adnoddau ychwanegol sydd eu hangen, gan gynnwys help a chymorth i sefydliadau.
- Mynd ati ar frys i roi ffocws newydd i’n gwaith gydag Estyn, ein partneriaid a rhanddeiliaid ehangach i fynd i’r afael â’r rhwystrau i roi dulliau gweithredu ar waith sy’n diogelu profiad plant o’r ysgol rhag tlodi ac yn creu amgylcheddau addysg cynhwysol sy’n seiliedig ar Hawliau’r Plentyn a gwerthoedd gwrth-wahaniaethol yn gyson.
- Herio gwahaniaethu ac annog cydraddoldeb er mwyn sicrhau nad yw nodweddion gwarchodedig yn ei gwneud hi’n fwy anodd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd wneud yn dda. Cadw ffocws clir ar ein cynlluniau cydraddoldeb er mwyn cyflawni hyn.
- Cryfhau dull Llywodraeth Cymru o integreiddio nodau polisi a chyllid er mwyn galluogi cydweithio tymor hwy ar drechu tlodi yn lleol ac yn rhanbarthol.
- Gweithio gyda chyrff cyhoeddus a’r trydydd sector i ddatblygu enghreifftiau arloesol o arferion da a chanlyniadau cadarnhaol a’u rhannu, er mwyn nodi lle mae’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn berthnasol a meysydd gwaith newydd neu sy’n bodoli eisoes y gellid neu y dylid ei chymhwyso atynt, a hyrwyddo a chefnogi perthnasedd y ddyletswydd i ymdrechion ehangach i drechu anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau annheg.
- Nodi’r dull gorau, ar y cyd â phartneriaid, o ddarparu galluedd ychwanegol er mwyn helpu i gydlynu ymdrechion gwrthdlodi ar draws trefniadau partneriaeth rhanbarthol sy’n bodoli eisoes a nodi’r opsiynau i gefnogi gwaith cydweithredol i fynd i’r afael â thlodi plant mewn ffordd well, a chynghori arnynt.
- Sefydlu a chefnogi dull Cymunedau Ymarfer o ddarparu fforwm lle y gall cydweithwyr o wasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector ledled Cymru gymharu gwersi a ddysgwyd a rhannu arferion da er mwyn cefnogi dull cydgysylltiedig o gyllido, datblygu a chyflwyno gwaith i greu Cymru Fwy Cyfartal, gan gynnwys mynd i’r afael â thlodi plant.
- Gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a phartneriaid ehangach i roi fframwaith NYTH ar waith i gyflawni dull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant babanod, plant a phobl ifanc. Mae Fframwaith NYTH yn canolbwyntio ar bwysigrwydd penderfynyddion ehangach iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys pryderon am dlodi plant, ac mae’n dwyn gwasanaethau addysg, gofal cymdeithasol, iechyd a’r trydydd sector ynghyd i weithio mewn partneriaeth i greu dull cydgysylltiedig o ddarparu cymorth iechyd meddwl.
Rhestr termau
Plant
Pobl hyd at 18 oed yn unol â Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru.
Tlodi plant
Mae ein Strategaeth Tlodi Plant yn diffinio tlodi fel a ganlyn:
Cyflwr hirdymor o beidio â chael digon o adnoddau i fforddio bwyd, amodau byw neu amwynderau rhesymol neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau (fel mynediad i gymdogaethau atyniadol a mannau agored) a gymerir yn ganiataol gan eraill yn eu cymdeithas.
Dibynnydd
Rhywun sy'n dibynnu ar ofalwr. Gallai hwn fod yn gymar, yn bartner, yn blentyn, yn ŵyr neu wyres, neu'n rhiant.
Anabledd
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan berson anabledd os oes ganddo amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol 'sylweddol' a 'hirdymor' ar ei allu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd i gyd-fynd â'r ffynonellau data a'r dulliau mesur a ddefnyddiwyd. Mae'n bwysig nodi bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod mai rhwystrau mewn cymdeithas sy'n achosi anabledd i bobl yn hytrach na'r amhariad neu'r gwahaniaeth dan sylw.
Maes
Themâu cyffredinol a ddefnyddir i grwpio dangosyddion tlodi plant sy'n gysylltiedig ag amcanion y Strategaeth Tlodi Plant.
Teulu
Diffinnir fel oedolyn sengl neu gwpwl priod neu sy'n cyd-fyw ac unrhyw blant dibynnol. Ers mis Ionawr 2006, mae partneriaid o'r un rhyw (partneriaid sifil ac unigolion sy'n cyd-fyw) wedi cael eu cynnwys yn yr un teulu.
Graddfa Golud Teuluoedd (FAS)
Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn gweinyddu Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru bob dwy flynedd. Defnyddiwyd y Graddfa Golud Teuluoedd (FAS) i amcangyfrif statws economaidd-gymdeithasol pobl ifanc. Cyfrifwyd sgôr golud gan ddefnyddio 5 canlyniad golud posibl allan o 6.
Profiad bywyd
Gwybodaeth bersonol a feithrinwyd drwy brofiad uniongyrchol na fyddai fel arfer yn amlwg drwy arsylwi, neu drwy sylwadau a luniwyd gan drydydd parti nad yw wedi profi'r sefyllfa drwy lygaid y rhai dan sylw (O’Leary a Tsui, 2022).
Mesur
Ffordd o fesur a monitro canlyniad penodol.
Amddifadedd materol
I ba raddau y gall pobl fforddio pethau sylfaenol fel bwyd a gwres. Nid oes gan bobl mewn amddifadedd materol y gallu i gael nwyddau neu wasanaethau allweddol.
Dangosydd cenedlaethol
Mae'r dangosyddion cenedlaethol wedi'u cynllunio i gynrychioli'r canlyniadau i Gymru, a'i phobl a fydd yn helpu i ddangos cynnydd tuag at gyflawni'r saith nod llesiant.
Amcan
Y newid y mae'r ymyriad yn anelu at ei gyflawni.
Nodwedd warchodedig
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un (yn y gwaith, mewn addysg, fel defnyddiwr, wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus, wrth brynu neu rentu eiddo, fel aelod neu westai o glwb neu gymdeithas breifat) ar sail y nodweddion gwarchodedig canlynol:
- oedran
- ailbennu rhywedd
- bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth
- anabledd
- hil, gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Cyflog Byw Gwirioneddol
Y Cyflog Byw Gwirioneddol yw'r gyfradd gyflog wirfoddol yn y DU. Caiff ei gyfrifo'n annibynnol i adlewyrchu costau byw gwirioneddol a'r gyfradd bresennol yw £12 yr awr (ym mis Ebrill 2024). Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn wahanol i isafswm cyflog statudol y DU (y Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol) Mae'r isafswm statudol yn amrywio yn dibynnu ar oedran y gweithiwr a ph'un a yw'r gweithiwr yn brentis ai peidio.
Tlodi incwm cymharol
Mae unigolyn yn byw mewn aelwyd incwm isel cymharol (neu incwm isel cymharol) os yw incwm yr aelwyd yn llai na 60% o incwm aelwyd canolrifol y DU yn ystod y flwyddyn honno. Mae'r mesur hwn yn dangos yr anghydraddoldeb rhwng aelwydydd incwm isel ac aelwydydd incwm canolig. Y canolrif yw'r pwynt lle mae hanner yr aelwydydd ar incwm is, a hanner ar incwm uwch. Gellir mesur incwm aelwydydd cyn didynnu costau tai neu ar ôl eu didynnu. Mae'r ffigurau yn yr adroddiad hwn sy'n ymwneud â thlodi incwm cymharol yng Nghymru wedi'u datgan ar ôl didynnu costau tai, oni nodir fel arall.
Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN)
Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn bartneriaeth polisi-ymarfer-ymchwil rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd a sefydlwyd yn 2013. Nod y Rhwydwaith yw gwella iechyd a llesiant pobl ifanc yng Nghymru drwy weithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd i gynhyrchu tystiolaeth o ansawdd da ac i ddefnyddio'r dystiolaeth honno i wella iechyd.
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)
Dyma ddull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Mae'n nodi ardaloedd â'r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. Mae MALIC yn gosod yr holl ardaloedd bach yng Nghymru mewn safleoedd o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,909 (lleiaf difreintiedig).
Pobl ifanc
Pobl hyd at 25 oed, yn unol â Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru.
