Mae ein cenhadaeth i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru yn gofyn am ffocws ar gamau ataliol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol pwysau ar y system gyfiawnder. Mae hyn yn cynnwys camau i fynd i'r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a ffynonellau eraill o adfyd yn ystod plentyndod, gan gynnwys anghydraddoldebau strwythurol a chymdeithasol, er enghraifft tlodi ac anghydraddoldebau rhwng y cenedlaethau, yn ogystal â chreu cymunedau cydlynus a goddefgar.
Mae Sicrhau Cyfiawnder i Gymru yn nodi nifer o'r meysydd allweddol lle roedd gweithgarwch Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y camau ataliol hynny ac felly'n cael effaith ar y system gyfiawnder o bosibl. Mae'r adran hon o'r adroddiad cynnydd yn rhoi rhagor o enghreifftiau na chyfeiriwyd atynt yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru.
Dull gweithredu sy'n ystyriol o drawma
Mae Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2022, yn hyrwyddo cydberthnasau tosturiol, empathig a chefnogol, gwasanaethau ac ymyriadau personol sy'n cael eu llunio ar y cyd. Mae'n gam bras ymlaen o ran gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effaith trawma a sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai sydd wedi'i brofi.
Bydd Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma a'r gwaith o hyrwyddo dulliau gweithredu sy'n ystyriol o drawma yn gonglfaen polisïau Llywodraeth Cymru mewn nifer o feysydd. Rydym yn parhau i flaenoriaethu camau gweithredu i atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lliniaru eu heffaith. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Hyb ACE Cymru, Straen Trawmatig Cymru a rhanddeiliaid eraill i gefnogi'r gwaith o roi'r Fframwaith ar waith, gan gynnwys datblygu cynlluniau gweithredu a gwerthuso.
Diddymu amddiffyniad cosb resymol yng Nghymru
Daeth Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 i rym ar 21 Mawrth 2022.
Er mwyn helpu i roi'r Ddeddf ar waith, mae Llywodraeth Cymru yn cyllido cymorth rhianta wedi'i deilwra ochr yn ochr â chynllun datrysiadau y tu allan i'r llys yn lle erlyniadau. Nod y cynllun yw annog a chefnogi rhieni i fabwysiadu technegau rhianta cadarnhaol a hefyd ei gwneud yn hollol glir i bawb bod cosbi plant yn gorfforol yn annerbyniol o dan unrhyw amgylchiadau.
Mae gan awdurdodau lleol hyblygrwydd o ran sut y rhoddir y cymorth, a hynny er mwyn gallu rhoi pecyn cymorth wedi'i deilwra i'r unigolyn, sy'n ystyried pob math o amgylchiadau teuluol a'r anghenion a'r nodau a nodwyd. Paratowyd canllawiau cynhwysfawr mewn ymgynghoriad ag awdurdodau lleol a'r heddlu sy'n nodi disgwyliadau ynglŷn â sut y dylid rhoi cymorth rhianta a'r hyn y dylai'r cymorth ei gwmpasu'n fras.
Darparwyd cyllid o hyd at £810,000 ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2022-2023 i ariannu cymorth rhianta y tu allan i'r llys.
Mae data yn cael eu casglu i ddeall mwy am y ffordd y caiff y cynllun ei ddefnyddio gan gynnwys nifer yr atgyfeiriadau drwy'r cynllun. Mae'r datganiad data cyntaf yn dangos rhwng 21 Mawrth 2022 a 30 Medi 2022, fod 55 o atgyfeiriadau ar gyfer cymorth rhianta y tu allan i'r llys yng Nghymru gan yr heddlu. O'r 55 o atgyfeiriadau, dewisodd 55 o bobl dderbyn y cymorth rhianta a gynigiwyd.
Mae gwaith ar fonitro effaith y Ddeddf hefyd yn parhau. Fel rhan o'r adolygiad ôl-weithredol, mae Llywodraeth Cymru yn monitro agweddau cyhoeddus tuag at gosbi plant yn gorfforol a Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020. Mae'r datganiad ymchwil diweddaraf yn rhoi ciplun o safbwyntiau hyd at fis Tachwedd 2022, y cyntaf ers i'r ddeddf gael ei rhoi ar waith ym mis Mawrth 2022. Mae'n dangos bod y mwyafrif o'r cyhoedd yn anghytuno ‘bod angen smacio plentyn weithiau’ a bod ymwybyddiaeth o'r gyfraith yn parhau i dyfu.
Cymorth i deuluoedd a chymorth rhianta
Ledled Cymru, mae nifer o raglenni cymorth rhianta a theuluoedd cyffredinol ac wedi'u targedu, y gellir ymuno â nhw drwy bob awdurdod lleol megis Teuluoedd yn Gyntaf a Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd neu'r trydydd sector pan fo angen. Gall hyn gynnwys cymorth i'r teuluoedd hynny sydd wedi gwahanu, sy'n gwahanu neu sy'n wynebu anghydfod rhwng y rhieni yn ogystal â chymorth rhianta, gwybodaeth a chyngor rhianta cadarnhaol a help i blant. Y bwriad yw annog rhieni i weithio gyda'i gilydd (lle y bo'n briodol) er mwyn lleihau unrhyw anghydfod yn y cartref, a'r effeithiau negyddol ar blant o ganlyniad i hynny.
Ers mis Tachwedd 2022, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cymorth Rhianta Ymyrraeth Gynnar er mwyn uwchsgilio ac ehangu'r gweithlu rhianta i wella'r cymorth i rieni a theuluoedd yn gyffredinol ymhellach a hyrwyddo cydberthnasau iach yn y cartref. Mae'r cyllid hwn yn parhau â'r cymorth a roddwyd i ddechrau drwy gyllid adfer yn sgil COVID-19 yn 2021.
Mae Magu plant. Rhowch amser iddo ein hymgyrch ar rianta cadarnhaol, a sefydlwyd yn 2015 yn gyntaf, yn cynnig cyngor a chymorth arbenigol am ddim i bob rhiant a gofalwr â phlant hyd at 7 oed drwy ein gwefan ddwyieithog benodedig a'n sianeli hysbysebu digidol a chyfryngau cymdeithasol. Ym mis Tachwedd 2021, cafodd yr ymgyrch ei hymestyn a'i hail-lansio i gynnwys gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni a gofalwyr sydd â phlant hyd at 18 oed. Yn fwy penodol, mae'n rhoi gwybodaeth ac adnoddau o dan yr adran ‘Supporting You’ o'r wefan ar rianta ar y cyd a chymorth gyda chydberthnasau, gan gynnwys ‘Magu'r Plant Gyda'n Gilydd’, sy'n cefnogi plant yn ystod proses wahanu, ‘Gwnewch amser i ofalu am eich hunan a rheoli straen’, a ‘Gofalu amdanoch chi a’ch teulu'.
Teuluoedd yn Gyntaf
Nod Teuluoedd yn Gyntaf yw gwella canlyniadau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, atal a rhoi cymorth i’r teulu cyfan. Elfen allweddol o’r rhaglen yw’r Tîm o Amgylch y Teulu sy’n dwyn ynghyd ystod o weithwyr proffesiynol i helpu teuluoedd i fynd i’r afael â’r heriau y maent yn eu hwynebu.
Gall teuluoedd yng Nghymru fanteisio ar y rhaglen sy’n gallu helpu ag ystod eang o faterion megis perthnasoedd teuluol, rhianta, cyfeirio at gymorth ariannol, materion yn ymwneud ag addysg a llawer mwy. Y bwriad yw cynnig cymorth yn gynnar sydd â’r nod o atal problemau rhag gwaethygu, meithrin cadernid y teulu fel bod teuluoedd yn gallu aros gyda’i gilydd yn ogystal â meithrin sgiliau cynaliadwy i ymdrin ag anawsterau a allai ddod i’r amlwg mewn bywyd.
Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Fel arfer, dyma ddrws blaen yr awdurdod lleol ar gyfer rhieni a theuluoedd sy’n chwilio am gyngor a gwybodaeth neu sydd angen cael eu cyfeirio at fathau eraill o gymorth. Gall Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd helpu gydag ystod o faterion megis rhianta, rhaglenni i deuluoedd, materion iechyd, materion ariannol gan gynnwys gofal plant a chostau gofal plant. Dyma faterion, os cânt gymorth ar eu cyfer, a allai helpu teuluoedd i barhau i weithredu, yn ogystal â chynnal neu wella llesiant a chadernid.
Dechrau'n Deg
Mae'r rhaglen Dechrau'n Deg yn rhoi cymorth mewn meysydd megis gofal plant o ansawdd uchel, cymorth rhianta, cymorth gan ymwelwyr iechyd a chymorth gyda lleferydd, iaith a chyfathrebu, sy'n debygol o gael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd bywyd plant mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru. Yn ein Rhaglen Lywodraethu, gwnaethom ymrwymo i gynnal Dechrau'n Deg, a thrwy ein Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru rydym yn mynd ymhellach, gan ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar fesul cam i blant dwy flwydd oed. Rydym eisoes wedi estyn cyrhaeddiad pob un o bedair elfen ein rhaglen Dechrau'n Deg graidd i fwy na 3,100 o blant 0-4 oed ychwanegol drwy gynyddu'r targed i 38,500 o blant sy'n cael budd o bob un o elfennau'r rhaglen.
Yn ystod 2023-2024, rydym yn darparu £46 miliwn i gynorthwyo’r gwaith o ehangu gofal plant Dechrau’n Deg i dros 9,500 o blant eraill.
Rydym hefyd yn buddsoddi £70 miliwn dros gyfnod o dair blynedd (2022-2025) i gynnal a chryfhau’r seilwaith gofal plant drwy gynnal a gwella lleoliadau gofal plant, yn ogystal â £3.787 miliwn dros gyfnod o dair blynedd (2022-2025) i gefnogi cyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu sy’n ymwneud ag ehangu gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.
System addysg
Mae ysgolion yn chwarae rôl bwysig wrth adnabod ar gam cynnar blant sy'n wynebu risg o ymddieithrio oddi wrth addysg ac atal profiadau negyddol o bosibl a allai arwain at lesiant gwael a chanlyniadau andwyol. Rydym yn parhau i roi cyllid i awdurdodau lleol i'w helpu i ehangu eu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion ac yn y gymuned a rhoi cyfleoedd hyfforddiant i athrawon a staff ysgol i'w helpu i gefnogi plant ag anawsterau iechyd meddwl a llesiant yn well.
Yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i bresenoldeb disgyblion, mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido astudiaeth agos i ymarfer fanwl mewn un awdurdod lleol yng Nghymru ynglŷn â'r hyn sy'n achosi lefelau presenoldeb isel a sut y gellid ymdrin â hyn ar lefel leol a chenedlaethol.
Byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau a'r argymhellion i gefnogi gweithgarwch polisi yn y dyfodol yn y maes hwn.
Rydym wedi comisiynu ymchwil i adolygu'r arferion a ddefnyddir mewn ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion i atal gwaharddiadau o'r ysgol. Mae'r ymchwil yn ymwneud â'r defnydd o waharddiadau ffurfiol a'r defnydd o gosbau (yn enwedig gwaharddiadau mewnol). Caiff canfyddiadau'r ymchwil eu defnyddio i lywio diwygiadau i'n Canllawiau ar Wahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, tynnwyd sylw at adolygiad Comisiwn y Gyfraith o'r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru a'i argymhellion i ddod â phaneli apelio annibynnol, sy’n ystyried gwaharddiadau o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion o dan system dribiwnlysoedd newydd ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Mae hwn yn faes y gwnaethom ymgynghori ymhellach arno fel rhan o'n hymgynghoriad ar y Papur Gwyn gan geisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru (gweler adran 9).
Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru
Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, nodwyd ein bwriadau i dreialu'r defnydd o gynllun incwm sylfaenol yng Nghymru, yn unol â'n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, gyda charfan o bobl ifanc sy'n gadael gofal. Roedd hyn yn cynnwys ymrwymiad i ystyried sut y gellid cynnwys plant sy’n gadael carchar yn y cynllun peilot. Mae’r gweithdrefnau a’r prosesau a gyflwynwyd yn rhan o gyflawni’r cynllun peilot wedi galluogi hyn.
Daeth y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yn weithredol ar 1 Gorffennaf 2022. O dan y cynllun peilot, mae mwy na 600 o bobl ifanc sy'n gadael gofal yng Nghymru a gafodd eu pen-blwydd yn 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 wedi cael cynnig £1,600 y mis (cyn treth) am ddwy flynedd i'w cefnogi wrth iddynt bontio i fyd oedolion. Gall y rhai sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot hefyd gael gafael ar gyngor a chymorth unigol i'w helpu i reoli eu harian a datblygu sgiliau ariannol a chyllidebu. Erbyn 31 Gorffennaf 2023, roedd gan y cynllun peilot gyfraddau cymryd rhan o 97% ymhlith ei grŵp targed.
Mae gan y cynllun peilot ddulliau cyflawni ar gyfer tair sefyllfa:
- Y rhai sydd eisoes yn bwrw tymor yn y carchar neu sydd ar remánd ar y dyddiad y byddent fel arall wedi gallu ymuno â’r cynllun peilot
- Y rhai a allai ddechrau cyfnod yn y carchar neu dreulio amser ar remánd yn ystod cyfnod y cynllun peilot, neu
- Y rhai sy’n cael eu rhyddhau o gyfnod yn y carchar neu o gyfnod ar remánd yn ystod eu hamser o gymryd rhan yn y cynllun peilot.
I grynhoi, mae pobl ifanc sy'n gadael gofal sydd ar remánd neu'n bwrw tymor yn y carchar naill ai cyn neu yn ystod y cynllun peilot, yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun a byddant yn cael taliadau pan na fyddant yn y carchar, wedi’u galw yn ôl neu ar remánd. Er enghraifft, yn ystod dedfryd o garchar a fydd yn digwydd yn ystod misoedd 10-14, gan gynnwys y misoedd hynny, bydd y derbynnydd yn cael taliadau llawn yn ystod misoedd un i naw, ac wedyn o fisoedd 15 i 24. Rydym wedi gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF ac awdurdodau lleol i sicrhau bod y cynllun yn integreiddio'n effeithiol yn y system gyfiawnder a bod taliadau yn cael eu hoedi a’u hailddechrau ar yr adeg gywir. Yn ôl data a gasglwyd yn rhan o fonitro’r cynlluniau peilot, ar 31 Gorffennaf 2023, roedd 11 o unigolion wedi’u hatal rhag cymryd rhan yn y cynllun peilot neu wedi methu â chymryd rhan yn sgil eu hymwneud â’r system cyfiawnder troseddol.
Mae’r cynllun peilot incwm sylfaenol hefyd yn galluogi derbynwyr i enwebu i’w costau rhent gael eu talu yn uniongyrchol o’u hincwm sylfaenol. Ar gyfer pobl ifanc sy’n dechrau cyfnod yn y carchar ac sydd wedi enwebu i’w taliadau landlord ddod o’u hincwm sylfaenol, gellir cadw taliadau landlord am gyfnod (hyd at 52 o wythnosau os ar remánd neu 13 o wythnosau os yn bwrw tymor yn y carchar, neu hyd at ddiwedd eu cyfnod cymhwystra ar gyfer y cynllun peilot, pa bynnag un sydd fyrraf).
Un mater a gododd yn ystod y cynllun peilot yw ei bod yn annhebygol y byddai person ifanc sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol pe bai angen cynrychiolaeth gyfreithiol arnynt oherwydd faint o incwm y maent yn ei gael drwy'r taliad o incwm sylfaenol. Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a'r rhesymau pam mae angen cynrychiolaeth. Gofynnwyd i Lywodraeth y DU wneud newidiadau i drefniadau cymhwystra cymorth cyfreithiol i ddarparu ar gyfer hyn, ond gwrthododd wneud hynny.
Rydym yn ymwybodol bod rhai pobl ifanc sydd o bosibl yn gymwys i gael incwm sylfaenol wedi dewis peidio â chymryd rhan am fod angen cymorth cyfreithiol arnynt. Un o bedair egwyddor allweddol y cynllun peilot yw na ddylai cymryd rhan yn y cynllun peilot olygu bod unrhyw un yn waeth ei fyd. Pan fyddai mynediad at gymorth cyfreithiol yn ffactor o bosibl, byddai hyn wedi cael ei ystyried fel rhan o'r cyfrifiadau ‘gwell eu byd’ cyffredinol y gall pobl ifanc eu gwneud gyda Cyngor ar Bopeth cyn penderfynu ymuno â'r cynllun peilot ai peidio. Pe bai amgylchiadau person ifanc yn newid, sy'n golygu nad yw'n well ei fyd fel rhan o'r cynllun peilot mwyach, gall adael y cynllun peilot unrhyw bryd.
Bydd y gwerthusiad o'r cynllun peilot, a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2022, yn para am bedair blynedd a bydd yn cynnwys ymatebion ac adborth gan dderbynyddion a rhanddeiliaid ynglŷn ag effeithiolrwydd y cynllun peilot incwm sylfaenol a'r ffordd y cafodd ei weithredu. Bydd y gwerthusiad hwn yn llywio'r ffordd rydym yn cefnogi derbynyddion wrth i'w cyfnod o ddwy flynedd o incwm sylfaenol ddod i ben.
Fframwaith atal ar gyfer plant sy'n wynebu risg o ddod i gysylltiad â'r system gyfiawnder
Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i ddrafftio Fframwaith Atal, sy'n elfen allweddol o'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid.
Mae llawer o wasanaethau sy'n helpu i annog plant rhag troseddu a'u tywys tuag at fywydau boddhaus, sy'n rhydd o droseddu. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau datganoledig ‘prif ffrwd’ megis addysg, gofal iechyd a gwasanaethau ieuenctid, yn ogystal â gweithgarwch atal mwy penodol gan dimau arbenigol mewn awdurdodau lleol. Mae'r gwasanaethau hyn yn eu lle ledled Cymru, ond gallant weithredu mewn seilos yn hytrach na bod yn gydgysylltiedig fel rhan o ddull integredig o atal troseddu.
Yn y cyd-destun hwn, bydd y Fframwaith yn amlinellu safbwynt cyfannol a lywir gan dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio i atal plant rhag dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol a sut mae gweithgarwch mewn sectorau gwahanol yn dod ynghyd i gefnogi hyn. Hwn fydd y tro cyntaf inni gynnig y safbwynt system gyfan, cynhwysfawr hwn o atal.
Mae'r Fframwaith yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â phartneriaid datganoledig ac annatganoledig er mwyn sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig. Mae'n adlewyrchu'r dirwedd strategol a gweithredol yng Nghymru, a sefyllfa unigryw cyfiawnder ieuenctid a'r ffordd y mae'n gorgyffwrdd â systemau cyfiawnder a gwasanaethau sy'n ymwneud â lles plant.
Mae'r Fframwaith wedi cael ei gwblhau ar ffurf ddrafft ac mae'n ategu amrywiaeth o waith atal ehangach sy'n cael ei wneud gan Uned Atal Trais Cymru a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru. Byddwn yn mynd ati i weithio gyda phartneriaid i lunio'r Fframwaith terfynol yn 2024. Unwaith y caiff ei gyhoeddi, bydd y Fframwaith yn cefnogi amrywiaeth o waith yn y dyfodol i wella'r ffordd y caiff gweithgarwch atal ei gomisiynu a'i ddarparu yng Nghymru.