Neidio i'r prif gynnwy

Dyma restr o’r newidiadau i’r canllawiau technegol. I weld y canllawiau presennol, dilynwch y dolenni perthnasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:
Newidiadau i’r canllawiau technegol
Ble mae’r newid yn y canllawiau? Crynodeb o’r newid

Dulliau pwyso a disgownt dŵr y Dreth Gwarediadau Tirlenwi: canllawiau technegol
16/11/2023

Diwygiadau i:

  • DTGT/3000 Cyfrifo pwysau trethadwy deunyddiau a disgowntiau dŵr - gwnaed mân newidiadau er mwyn egluro bod disgowntiau dŵr yn cael eu gweithredu'n wahanol yng Nghymru a rhoi mwy o fanylion am y cosbau
  • DTGT/3010 pan fyddwch chi’n cyfrifo pwysau trethadwy deunyddiau  – gan ddefnyddio pont bwyso – cynnwys y ddeddf seneddol berthnasol
  • DTGT/3020 - Pan fyddwch chi’n cyfrifo pwysau trethadwy deunyddiau – mae gan ddulliau amgen o bwyso nawr is-bennawd er mwyn ystyried torri lawr y tu allan i oriau agor ACC
  • DTGT/3030 Disgownt mewn perthynas â chynnwys dŵr deunyddiau – bellach yn nodi'r dystiolaeth lawn sydd ei hangen i gefnogi'r cais ac yn rhoi rhestr o amodau posibl cymeradwyo disgownt dŵr (ddim yn hollgynhwysfawr)
  • DTGT/3060 Mae’r adran Cosb am gymhwyso disgownt dŵr yn anghywir wedi ei hehangu i gynnwys amgylchiadau lle gellir lleihau’r gosb
  • DTGT/3070 Mae mân newidiadau wedi eu gwneud i’r tabl yn null 2. Mae'r paragraff 'os ydych yn anhapus gyda'n penderfyniad' wedi cael ei symud i ddiwedd yr adran
  • Gwnaed mân newidiadau drwy’r holl ddogfen er mwyn newid Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi i chi/eich ac ACC i ni.

Rhyddhad i Adfer Safle: canllawiau technegol
25/07/2023

Diwygiadau:

  • DTGT 4110 Cais am ryddhad i adfer safle i gynnwys ychwanegu is-benawdau a gwahanu’r cynnwys: Deunydd cymwys, Gwneud Cais a Thystiolaeth sy'n ofynnol i gefnogi cais.
  • hefyd yn cynnwys ychwanegiad i gynnwys cyfeirnod a'r ddolen i wneud cais am fan nad yw at ddibenion gwaredu (NDA) ar gyfer adfer safle yn y dyfodol os oes ar y Gweithredwyr Safle Tirlenwi angen storio deunydd
  • newidiadau bychain i egluro'r geiriad yn y paragraffau a nodir uchod
  • tystiolaeth i gefnogi'r cais – wedi’i ail-eirio a rhestr o'r dystiolaeth sydd ei hangen wedi’i hychwanegu
  • paragraff newydd wedi’i ychwanegu i nodi nad yw ACC yn ystyried bod adfer tirlenwi yn cynnwys codi lefelau er mwyn bodloni tirffurf gymeradwy o dan reolaeth cynllunio
  • DTGT4120 y paragraffau sy'n ymwneud â 'ACC yn gofyn am ragor o wybodaeth' wedi cael ei ail-eirio i egluro’r cyfnodau amser
  • DTGT/4130 y paragraff sy'n ymwneud â 'Phenderfyniad ACC' wedi'i rannu'n is-baragraffau ac yn nodi ym mharagraff: 'Penderfyniad ACC ddim wedi ei wneud o fewn cyfnodau amser cytunedig' gyfeiriad clir at beth i'w wneud os ydych yn anhapus gyda'n penderfyniad ac yn cynnwys dolenni i ganllawiau perthnasol
  • DTGT/4140 y paragraff sy'n ymwneud â 'Chymeradwyaeth ACC' wedi’i ail-eirio
  • DTGT/4150 y paragraff sy'n ymwneud ag 'Amrywio’r gymeradwyaeth' wedi'i rannu yn: 'Cais Gweithredwr Safle Tirlenwi' ac 'ACC yn cychwyn amrywiad' a phenawdau wedi’u hychwanegu. Mae dolenni i’r canllawiau ar y cyfnodau amser ar y telerau i amrywio’r gymeradwyaeth ac at y cyfnodau amser i ACC gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad wedi’u hychwanegu i is-baragraff 3.
  • mae DTGT/4160 wedi gwneud mân newidiadau
Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: hysbysiad gronynnau mân
03/04/2023

Diwygiadau i:

  • Adran 3.2.4 profion hwyr neu brofion nas cynhaliwyd, i gynnwys, ar gyfer profion hwyr neu brofion nas cynhaliwyd, y dylid cymhwyso'r gyfradd dreth safonol i warediadau a wnaed ar ôl llwyth y prawf hwyr neu’r prawf nas cynhaliwyd y dylai gweithredwr safle tirlenwi fod wedi'i gynnal, yn hytrach na'r dyddiad.
  • Adran 3.5 Y gofynion o ran cadw cofnodion o brofion Colled Wrth Danio, i gynnwys gofyniad ychwanegol i weithredwyr safleoedd tirlenwi gadw cofnod o gyfeirnod trafodiad y llwyth y cymerwyd sampl ohono.
  • Adran 3.7.1 gwybodaeth ar y ffurflen dreth TGT, i gynnwys y canlynol, sydd wedi'i gynnwys yn y ffurflen dreth:
  • nifer y profion colled wrth danio a basiwyd
  • nifer y profion sy'n aros am ganlyniad
  • nifer y profion a fethwyd

DTGT/4090 Cosbau
03/04/2023

Gwelliannau i linell 4, i gynnwys y dylid cymhwyso cyfradd safonol y dreth i warediadau a wnaed ar ôl llwyth y prawf hwyr neu’r prawf nas cynhaliwyd y dylai gweithredwr safle tirlenwi fod wedi'i gynnal, yn hytrach na'r dyddiad. Mae hyn yn unol â diwygiadau i'r cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: hysbysiad gronynnau mân.

DTGT/4040 Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mân a phrawf colled wrth danio
03/04/2023

Ymhlith y diwygiadau mae:

  • rhagor o enghreifftiau o brosesau trin gwastraff sy'n cynnwys triniaeth fecanyddol gan beiriant
  • enghraifft o ddiwydrwydd dyladwy ar gyfer gwiriadau cyn derbyn
  • eglurder ar amlder profion ar gyfer cymysgeddau newydd o ronynnau mân
  • ar gyfer profion hwyr neu brofion nas cynhaliwyd, y dylid cymhwyso'r gyfradd dreth safonol i warediadau a wnaed ar ôl llwyth y prawf hwyr neu’r prawf nas cynhaliwyd y dylai gweithredwr safle tirlenwi fod wedi'i gynnal, yn hytrach na'r dyddiad. Mae hyn yn unol â diwygiadau i'r cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mân
  • gofyniad cynghori y dylai gweithredwyr safleoedd tirlenwi anfon sampl i labordy o fewn 5 diwrnod gwaith i’w gymryd
  • gwybodaeth y dylid ei darparu yn y ffurflen dreth ynghylch profion colled wrth danio
Gwarediadau anawdurdodedig a Threth Gwarediadau Tirlenwi
31/03/2023
Gwelliannau a wnaed yn unol â dull cyfathrebu a chanllawiau ACC.

DTGT/6030 Swm y dreth a thalu’r dreth
19/12/2022

Gwelliannau a wnaed yn unol â dull cyfathrebu a chanllawiau ACC.

DTGT/4030 Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau
21/09/2022

Diwygiwyd y canllawiau i gynnwys enghreifftiau o beth yw cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau a beth rydym yn ei olygu wrth swm bach o ddeunydd.

Treth Gwarediadau Tirlenwi: Canllawiau technegol ar gofrestru
04/08/2022

Canllawiau wedi’u diwygio i nodi ein dull o ganslo cofrestriad a’n hasesiad o unrhyw gosbau sy’n ymwneud â hysbysiad canslo.
Penderfynu a oes Treth Gwarediadau Tirlenwi yn daladwy
20/06/2022
Wedi'i ddiwygio er mwyn egluro a rhoi rhagor o fanylion am nodweddion ffyrdd dros dro a pharhaol.

DTGT/6030 Swm y dreth a’i thalu
05/04/2022

Diweddarwyd i adlewyrchu ymagwedd ACC at ddulliau cyfrifo gwastraff, i bennu pwysau trethadwy deunydd a waredwyd ar gyfer gwarediadau heb eu hawdurdodi
Canllawiau ar ffeilio Ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi
09/02/2022
Mân ddiwygiadau ac ychwanegu profion a gollwyd a phrofion na dderbyniwyd y canlyniadau eto
DTGT/5080 Gohirio adfer y dreth
08/11/2019
Mân newidiadau
DTGT/5070 Dyletswydd i gadw crynodeb o’r dreth gwarediadau tirlenwi
08/11/2019
Mân newidiadau; iaith wedi'i symleiddio, dolen i’r canllawiau cosbau
DTGT/5060 Talu’r dreth
08/11/2019
Mân newidiadau; dolenni i’r canllawiau cosbau a’r canllawiau credyd ansolfedd cwsmeriaid
DTGT/5050 Anfoneb Dirlenwi
08/11/2019
Mân newidiadau
DTGT/5040 Treth i’w chodi mewn cysylltiad â chyfnod cyfrifyddu ac anfoneb dirlenwi
08/11/2019
Ail-ysgrifennu'r canllawiau er mwyn egluro’r iaith ac adlewyrchu’r sefyllfa ddeddfwriaethol yn well
DTGT/5030 Cofnodion
08/11/2019
Mae DTGT 8010 bellach yn DTGT 5030 gyda mân newidiadau
DTGT/5020 Amrywio cyfnod cyfrifyddu neu ddyddiad llenwi
08/11/2019

Mân newidiadau; iaith symlach

DTGT/5010 Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth
08/11/2019

Mân newidiadau; eglurder ar y cyfnodau cyfrifyddu

DTGT/5000 Cyfrifo’r dreth
08/11/2019

Ail-ysgrifennu’r canllawiau er mwyn ychwanegu cyflwyniad cliriach

DTGT/3060 Cosb am gymhwyso’r disgownt mewn perthynas â dwr yn anghywir
12/08/2019

Llinell wedi’i hychwanegu er mwyn egluro y gallai'r gosb fod yn berthnasol i dorri amodau cymeradwyo disgownt dŵr

DTGT/4030 Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau
12/08/2019

Ychwanegu dolen i DTGT/4030

DTGT/4020 Deunydd cymwys
12/08/2019

Ychwanegu manylion ar God Ymarfer Dyletswydd Gofal Gwastraff

DTGT/6030 Swm y dreth a’i Thalu
12/08/2019

Ychwanegu manylion am sut bydd ACC yn pennu’r pwysau trethadwy

DTGT/6020 Y weithdrefn
12/08/2019

Egluro hysbysiadau rhagarweiniol a hysbysiadau codi treth

DTGT/6010 Yr Amod ar gyfer Codi Treth
12/08/2019

Mân-newidiadau i’r geiriad

DTGT/6000 Gwarediadau anawdurdodedig
12/08/2019

Mân-newidiadau i’r geiriad

DTGT/4280 Adennill yn dilyn methiant i gadw cofnodion neu dystiolaeth arall
12/08/2019

Cynnwys newydd er mwyn adlewyrchu’rd deddfwriaeth

DTGT/4270 Adennill yn dilyn taliad gan gwsmer
12/08/2019

Mân-newidiadau i’r geiriad

DTGT/4260 Cofnod credyd ansolfedd cwsmer
12/08/2019

Mân-newidiadau i’r geiriad

DTGT/4250 Tystiolaeth i gefnogi hawliadau
12/08/2019

Mân-newidiadau i’r geiriad

DTGT/4240 Hawliadau gan bersonau eraill
12/08/2019

Canllawiau newydd ar y cyfnod cyfrifyddu cymwys

DTGT/4230 Hawliadau gan bersonau sy’n cyflawnu gweithrediadau trethadwy
12/08/2019

Cyflwyniad wedi'i aralleirio er mwyn gwneud sail ddeddfwriaethol yr hawliad yn fwy eglur

DTGT/4220 Penderfynu ar swm hawliad ar gyfer rhyddhad dyled ddrwg
12/08/2019

Aralleirio er mwyn egluro ystyr digwyddiad ansolfedd

DTGT/4210 Ansolfedd cwsmer
12/08/2019

Aralleirio er mwyn gwneud y gofynion yn fwy eglur

DTGT/4200 Amgylchiadau sy’n arwain at hawlogaeth i gredyd
12/08/2019

Mân-newidiadau i’r geiriad 

DTGT/4190 Credyd Ansolfedd Cwsmer
12/08/2019

Mân-newidiadau i’r geiriad 

DTGT/4180 Rhyddhadau
12/08/2019

Diweddaru er mwyn adlewyrchu newid deddfwriaethol i’r rhyddhad ar gyfer ail-lenwi safleoedd glo brig a chwareli

DTGT/4110 Cais am rhyddhad i adfer safle
12/08/2019

Diweddaru er mwyn adlewyrchu newid deddfwriaethol i’r rhyddhad ar gyfer adfer safleoedd
DTGT/2080 Canlyniadau torri'r gofynion sy'n gysylltiedig ag NDA
12/07/2019
Mân-newidiadau i’r geiriad; dolen i’r canllawiau ar warediadau esempt 
DTGT/2070 Dyletswyddau gweithredwr safle tirlenwi gan gynnwys cadw cofnodion a'u storio'n ddiogel
12/07/2019
Mân-newidiadau i’r geiriad 
DTGT/2060 Adolygiadau ac apeliadau sy’n ymwneud â dynodi mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu
12/07/2019
Dolen i'r canllawiau ar adolygiadau ac apeliadau 
DTGT/2050 Amrywio neu ganslo dynodiad NDA
12/07/2019
Mân-newidiadau i’r geiriad 
DTGT/2040 Dynodi’r NDA
12/07/2019
Mân-newidiadau i’r geiriad; ychwanegu paragraff ar adolygiadau blynyddol 
DTGT/2030 Mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu
12/07/2019
Aralleirio’r cyflwyniad; dileu cyfeiriadau at system y DU 
DTGTA/3110 Cofrestr o bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy
17/06/2019
Ychwanegu manylion y gofrestr o weithredwyr safleoedd tirlenwi
DTGT/3100 Dyletswydd i gofrestru ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi
17/06/2019
Dileu’r frawddeg ar drefniadau trosiannol
DTGT/1010 Golwg gyffredinol ar y DGT a sut bydd yn cael ei defnyddio
17/06/2019
Newid amser y ferf o'r dyfodol i'r presennol
DTGT/2020 Rhestr o warediadau trethadwy
11/06/2019
Adran newydd am ffyrdd parhaol a dros dro
DTGT/4090 Cosbau
07/06/2019
Diweddaru er mwyn ychwanegu cyfeiriadau at baragraffau perthnasol yn hysbysiad ACC
DTGT/4070 Cam 3: Cofnodi profion colled wrth danio
07/06/2019
Diweddaru'r crynodeb o'r camau y dylid eu cymryd ar ôl methu prawf colled wrth danio
DTGT/4060 Cam 2: Colled wrth danio - gofynion cysylltiedig
07/06/2019
Dileu’r cyfeiriad gwallus
DTGT/4050 Cam 1: Gofynion cyn derbyn
07/06/2019
Dileu'r cyfeiriad at enghreifftiau
DTGT/4040 Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mân a phrawf cholled wrth danio
11/01/2019
Dileu'r adran oedd yn cael ei hailadrodd
DTGT/4020 Deunydd cymwys
07/06/2019
Diweddaru er mwyn cyfeirio at y codau dosbarthu gwastraff
DTGT/4010 Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi
07/06/2019
Dileu'r cyfeiriad at gyfraddau treth 2018; rhoi dolen i dudalen Llywodraeth Cymru ar gyfraddau a bandiau treth
DTGT/3080 Dulliau pwyso eraill
07/06/2019
Newid y rhifo i 3070; mân-newidiadau i’r geiriad
DDTGT/3070 Cosb am gymhwyso’r disgownt mewn perthynas â dwr yn anghywir
11/01/2019
Newid y rhifo i 3060; ychwanegu dolen i ganllawiau DCRhT
DTGT/3060 Cosb am fethu â phennu pwysau yn briodol 
07/06/2019
Newid y rhifo i 3050; ychwanegu dolen i ganllawiau DCRhT
DTGT/3050 ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy deunydd
07/06/2019
Newid y rhifo i 3040
DTGT/3040 Disgownt mewn perthynas â dwr sydd wedi’i gynnwys mewn deunydd
07/06/2019
Newid y rhifo i 3030; mân-newidiadau i’r geiriad
DTGT/3030 Gweithredwr y safle tirlenwi yn cyfrifo pwysau trethadwy deunydd – dulliau pwyso eraill
07/06/2019
Newid y rhifo i 3020; ychwanegu manylion ar y ffurflen gais
DTGT/3020 Gweithredwr y safle tirlenwi yn cyfrifo pwysau trethadwy deunydd – defnyddio pont bwyso
07/06/2019
Newid y rhifo i 3010; ychwanegu dolenni
DTGT/3010 Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd
07/06/2019
Dileu'r adran - pwyntiau pwysig wedi’u symud i DTGT 3000
DTGT/3000 Cofrestru ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
07/06/2019
Geiriad ynglŷn â chynnwys y canllawiau wedi’i ddiweddaru.
DTGT/4040 Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau:gronynnau mân a phrawf cholled wrth danio; DTGT /4050 Cam 1: Gofynion cyn derbyn; DTGT /4060 Cam 2: Colled wrth danio-gofynion cysylltiedig; DTGT /4070 Cam 3: Cofnodi profion colled wrth danio; DTGT /4080 Cadw cofnodion; DTGT /4090 Cosbau; DTGT /4100 Trefniadau pontio
17/01/2019
Ychwanegwyd sawl peth at yr adran hon, sef: manylion pryd nad yw disgownt dŵr yn berthnasol; manylion amodau i geisiadau; enghraifft o amserlen ar gyfer ôl-ddyddio cymeradwyaeth ceisiadau; a manylion cyfnodau adolygu ar gyfer ceisiadau.
DTGT/3040 Disgownt mewn perthynas â dwr sydd wedi’i gynnwys mewn deunydd
11/01/2019
Ychwanegwyd sawl peth at yr adran hon, sef: manylion pryd nad yw disgownt dŵr yn berthnasol; manylion amodau i geisiadau; enghraifft o amserlen ar gyfer ôl-ddyddio cymeradwyaeth ceisiadau; a manylion cyfnodau adolygu ar gyfer ceisiadau.
Treth Gwarediadau Tirlenwi
11/01/2019
Diweddarwyd yr hafan hon i gynnwys manylion allweddol y dreth.
Sut i dalu eich Treth Gwarediadau Tirlenwi
14/11/2018
Diweddarwyd i gynnwys manylion cywir y broses talu drwy BACS
Canllawiau ar Ryddhad ac Esemptiadau
26/11/2018
Caiff manylion yr holl esemptiadau a’r rhyddhad eu casglu nawr gyda’r rhyddhad i adfer safle
DTGT/5010 Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â chyfrifo’r dreth
29/11/2018
Ychwanegwyd nodyn yn datgan nad oes modd addasu gwallau yn y diwygiadau mewn cyfnodau cyfrifyddu diweddarach
DTGT/8010 Cofnodion TGT mae’n rhaid eu cadw a’u storio’n ddiogel
29/11/2018
Ychwanegwyd nodyn yn rhoi manylion am faint o amser mae’n rhaid cadw cofnodion
Disgownt Dŵr
23/11/2018
Ychwanegwyd nodyn yn rhoi safbwynt ACC ar geisiadau am ddisgownt dŵr gyda gwarediadau a ddigwyddodd cyn cyflwyno’r cais
Rhyddhad i Adfer Safle
23/11/2018
Ychwanegwyd nodyn yn dweud bod rhyddhad i adfer safle ar gael ar gyfer deunyddiau sydd dim ond yn cynnwys deunydd cymwys neu uwch-bridd o 11 Hydref 2018. Ceir hefyd diffiniad o uwch-bridd.
Sut mae diwygio eich ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi
29/11/2018
Ychwanegwyd nodyn er mwyn cyfeirio cwsmeriaid at eu rheolwyr cysylltiadau cwsmeriaid os oes angen help arnynt wrth lenwi’r ffurflen dreth. Nodir hefyd nad oes modd addasu gwallau yn y diwygiadau mewn cyfnodau cyfrifyddu diweddarach
DTGT/4070 Cam 3: Cofnodi profion colled wrth danio
14/11/2018
Nodyn wedi’i ddiweddaru er mwyn cyfeirio cwsmeriaid at eu rheolwyr cysylltiadau cwsmeriaid i gael templed o’r ffurflen canlyniadau profion tanio
DTGT/4050 Cam 1: Gofynion cyn derbyn
14/11/2018
Nodyn wedi’i ddiweddaru er mwyn cyfeirio cwsmeriaid at eu rheolwyr cysylltiadau cwsmeriaid i gael templed o’r holiadur cyn derbyn
DTGT/4040 Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mân a phrawf cholled wrth danio
14/11/2018
Dileu’r cyfeiriad at ‘siart llif gronynnau mân cymwys’; mae’r siart llif ar gael gan reolwyr cysylltiadau cwsmeriaid