Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ddogfen hon yn darparu dolenni lle mae rhagor o wybodaeth ar gael am ansawdd y data dangosyddion anstatudol a ddefnyddir yn yr adroddiadau cynnydd ar gyfer y 7 nod llesiant yn adroddiad Llesiant Cymru. Mae’r dolenni’n rhoi manylion fel cwmpas, cryfder a chyfyngiadau’r data, a hefyd y prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu a chyhoeddi’r setiau data y tu ôl i’r ystadegau a ddyfynnwyd yn yr adroddiad cynnydd.

Er bod y rhan fwyaf o’r naratif yn adroddiad Llesiant Cymru yn dod o ddangosyddion cenedlaethol, mae rhywfaint o’r data cyd-destunol yn dod o ystadegau swyddogol eraill neu ystadegau a datganiadau ffeithiol sy’n gysylltiedig â pholisïau neu raglenni penodol, lle’r ydym o’r farn eu bod yn berthnasol i’r naratif cyffredinol.

Mae’r data sydd ddim yn cael ei gasglu drwy ffynonellau ystadegau swyddogol yn cael eu defnyddio yn yr adroddiad Llesiant Cymru ar gyfer cyd-destun, ond ni allwn bob amser sicrhau ansawdd data. Gan fod y data yn yr adroddiad cynnydd wedi dod o amrywiaeth o setiau data, bydd lefel yr wybodaeth o ansawdd sydd ar gael yn amrywio ym mhob achos. Lle bo gan y ffynonellau data gwreiddiol adroddiadau ansawdd manwl, rydym wedi darparu dolenni i’r adroddiadau hynny. Lle nad oes adroddiadau ansawdd ar gael ar gyfer ffynhonnell, mae gwybodaeth ychwanegol, lle bo ar gael, wedi ei chynnwys yn y ddogfen hon.

Mae’r Adroddiad Ansawdd ar gyfer y Dangosyddion Cenedlaethol, sydd i’w weld ar dudalennau gwe Llesiant Cymru, yn cynnwys gwybodaeth am ansawdd y data a ddefnyddir ar gyfer y dangosyddion. Gan hynny, nid yw’r ffynonellau data hynny wedi eu cynnwys yn y ddogfen hon.

Cyflawniad academaidd disgyblion 4 i 14 oed mewn pynciau craidd (Llywodraeth Cymru)

Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol. Gweler yr adran Gwybodaeth am Ansawdd Allweddol yn y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Cyflawniad academaidd disgyblion 4 i 14 oed mewn pynciau craidd, 2019

Dangosyddion Cyfartaledd Crynodiadau Ansawdd Aer (Llywodraeth Cymru)

Bob blwyddyn, mae model Mapio Hinsawdd Llygredd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyfrifo’r crynodiadau llygredd cyfartalog ar gyfer pob cilometr sgwâr yn y Deyrnas Unedig. Mae’r model yn cael ei raddnodi yn erbyn mesuriadau a gymerir o rwydwaith monitro ansawdd aer cenedlaethol y Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r data cyhoeddedig hwn i neilltuo crynodiad o NO2, PM2.5 a PM10 i bob annedd breswyl yng Nghymru ar sail y cilometr sgwâr o Gymru y mae wedi ei leoli ynddo.

Gweler adran Methodoleg data llygredd cefndir wedi ei fodelu (Defra, y Deyrnas Unedig) am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Ansawdd aer ar StatsCymru

Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (Llywodraeth Cymru)

Mae adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (legislation.gov.uk) yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol adolygu’r ansawdd aer presennol a’r ansawdd aer tebygol yn ei ardal yn y dyfodol. Mae adran 83 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ddynodi ardal rheoli ansawdd aer pan na fydd amcan ansawdd aer cenedlaethol yn cael ei gyflawni, neu pan na fydd yn debygol o gael ei gyflawni. Mae Adran 84 wedyn yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Lleol ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer yr Ardal.

Mae’r tabl cysylltiedig yn crynhoi’r awdurdodau lleol ledled Cymru sydd wedi datgan Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer gweithredol.

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a’r Gweinyddiaethau Datganoledig wedi darparu amrywiaeth o adnoddau i helpu awdurdodau lleol gyda’r broses o Adolygu ac Asesu Ansawdd Aer. Mae’r holl offer hyn ar gael ar-lein a gellir eu llwytho i lawr (Gwefan Defra).

Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer

Llygredd Aer ac Iechyd yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Mae ffynonellau data ar gyfer y daflen ffeithiau i’w gweld ar waelod y ddogfen. Nid yw pob un o’r ffynonellau data hyn yn cael eu cyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol. Llygredd Aer ac Iechyd yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Adroddiadau blynyddol (Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus)

Mae gan y Comisiynydd ddyletswydd statudol i gyhoeddi’r mewnlif o bobl a benodir i swyddi cyhoeddus a’r data amrywiaeth a ddatganwyd ganddynt. Mae’r data llif hwn yn ategu’r data ‘stoc’ mae Tîm Polisi Penodiadau Cyhoeddus Swyddfa’r Cabinet yn ei gyhoeddi ar y rhai a benodir yn eu swyddi ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Nid oedd data stoc ar gyfer y flwyddyn 2019-20 ar gael pan ysgrifennwyd adroddiad blynyddol 2019/20. Adroddiadau blynyddol (Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus).

Mae rhagor o fanylion am y broses o gasglu a chyhoeddi data amrywiaeth ymgeiswyr, cyfweleion a phenodeion ar gyfer penodiadau cyhoeddus ar gael yn adran Amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus yr adroddiad.

Mae ystadegau penodiadau cyhoeddus ar gyfer Llywodraeth Cymru ar gael yn nhablau 62 i 73 yr adroddiad.

Arolwg blynyddol o oriau ac enillion (Llywodraeth Cymru)

Daw’r data hyn o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, sy’n cael ei redeg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac sy’n cael ei gyhoeddi fel Ystadegau Gwladol.

Arolwg blynyddol o oriau ac enillion, 2020

Gweler yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, Cyflogau Isel a Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg am ganlyniadau pensiwn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ONS) am ragor o wybodaeth.

Genedigaethau yng Nghymru a Lloegr (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Tablau cryno ar gyfer genedigaethau, Cymru a Lloegr 2019 yr gyfer gwefan SYG

Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol. Gweler yr adrannau Mesur y Data a Chryfderau a Chyfyngiadau yn y datganiad i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyfrifiad o'r boblogaeth (Llywodraeth Cymru)

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2011 ar 27 Mawrth 2011. Y cyfrifiad o'r boblogaeth, 2011.

Darllenwch ganllaw defnyddwyr Cyfrifiad 2011 (SYG) i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Arolwg Omnibws Plant (Cyngor Celfyddydau Cymru)

Gweler adran Methodoleg Arolwg Omnibws Plant 2019: Adroddiad Presenoldeb a Chyfranogiad Cyffredinol (Cyngor Celfyddydau Cymru) i gael rhagor o wybodaeth. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol.

Coronafeirws a chyflogaeth: dadansoddiad ar nodweddion gwarchodedig (Llywodraeth Cymru)

Cafodd y dadansoddiad hwn ei gyhoeddi fel cyhoeddiad ad-hoc heb ei drefnu i gynorthwyo grŵp cynghori BAME COVID-19 yn ogystal â’r adolygiad parhaus o fesurau’r cyfyngiadau symud yng Nghymru. Coronafeirws a chyflogaeth: dadansoddiad ar nodweddion gwarchodedig.

Mae’r data’n edrych ar nodweddion dwy garfan wahanol o bobl yng Nghymru: gweithwyr hanfodol (allweddol), a phobl sy’n gweithio mewn diwydiannau y dywedwyd wrthynt am gau yng Nghymru ym mis Mawrth 2020.

Mae’r data’n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2019.

Edrychwch ar adrannau Nodiadau ar Ddata y tabiau Cynnwys yn y tablau data i gael rhagor o wybodaeth.

Coronafeirws (COVID-19) a’r boblogaeth pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru (Llywodraeth Cymru)

Mae’r erthygl hon yn crynhoi canfyddiadau amrywiaeth o ddadansoddiadau sy’n ymwneud â’r boblogaeth pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar feysydd lle gallai effaith y Coronafeirws (COVID-19) a/neu’r mesurau ataliol dilynol effeithio’n anghymesur ar y boblogaeth BAME. Coronafeirws (COVID-19) a’r boblogaeth pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru

Cyfeiriwch at y ffynonellau sydd wedi eu cysylltu yn yr erthygl i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Coronafeirws (COVID-19) a’r effaith ar bobl anabl yng Nghymru (Llywodraeth Cymru)

Cafodd y dadansoddiadau hyn eu dwyn ynghyd i gynorthwyo gwaith grŵp llywio a gomisiynwyd gan Fforwm Cydraddoldeb Anabledd Llywodraeth Cymru i ystyried ac adrodd ar effaith COVID-19 ar bobl anabl yng Nghymru. Mae’r erthygl hon yn crynhoi’r dadansoddiadau oedd ar gael i’r grŵp llywio hyd at 18 Chwefror 2021. Coronafeirws (COVID-19) a’r effaith ar bobl anabl yng Nghymru

Cyfeiriwch at y ffynonellau sydd wedi eu cysylltu yn yr erthygl i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Troseddau yng Nghymru a Lloegr: Tablau data fesul Ardal Heddlu (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Cyhoeddir y tablau data hyn ochr yn ochr â’r bwletin Troseddu Cymru a Lloegr, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben fis Mawrth 2021. Nid yw data troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Troseddau yng Nghymru a Lloegr: Tablau data fesul Ardal Heddlu (SYG)

Wrth ddehongli data ar gyfer ardaloedd heddlu, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o newidiadau diweddar i arferion cofnodi. I gael rhagor o wybodaeth, gweler adran 3.3 y Canllaw i Ddefnyddwyr ar ystadegau troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr: Mesur troseddu yn ystod pandemig y Coronafeirws (COVID-19) (SYG)).

Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Mae data Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (SYG) wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Cyhoeddir data’r Arolwg Troseddu sy’n cael ei weithredu dros y ffôn ar gyfer Cymru a Lloegr fel Ystadegau Arbrofol, sydd yn y cyfnod profi ac nad ydynt wedi eu datblygu’n llawn eto. Mae gwybodaeth am ansawdd a methodoleg data Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar gael yn yr adran Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr yn yr Arweiniad i Ddefnyddwyr ar ystadegau troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr: Mawrth 2020 (SYG).

Tablau Tueddiadau a Demograffig Blynyddol (SYG)

Am nodiadau esboniadol ar yr ystadegau hyn, gweler y Canllaw i Ddefnyddwyr ar ystadegau troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr: Mesur troseddu yn ystod pandemig y Coronafeirws (COVID-19) (SYG).

Tablau data Canfyddiadau Eraill (SYG)

Mae’r ffolder ZIP y gellir ei llwytho i lawr ar gyfer y tablau Canfyddiadau Eraill yn cynnwys dogfen gyfarwyddiadau Tabl Agored CSEW sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am ddiffiniadau.

Nifer yr Achosion o Droseddau Personol (SYG)

Mae’r ffolder ZIP y gellir ei llwytho i lawr ar gyfer y tablau Nifer yr Achosion o Droseddau Personol yn cynnwys dogfen gyfarwyddiadau Tabl Agored CSEW sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am ddiffiniadau.

Marwolaethau pobl ddigartref yng Nghymru a Lloegr (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Mae’r datganiad hwn yn cynrychioli’r drydedd set o ffigurau swyddogol ar farwolaethau pobl ddigartref. Cynhyrchir y ffigurau fel Ystadegau Arbrofol (Canllaw i Ystadegau Arbrofol (SYG)) hynny yw, maent yn y cyfnod profi ac nid ydynt wedi eu datblygu’n llawn eto. Mae’n bwysig bod defnyddwyr yn ymwybodol o gyfyngiadau’r amcangyfrifon a nodir yn y datganiad hwn. Marwolaethau pobl ddigartref yng Nghymru a Lloegr (SYG)

Gweler yr adrannau Mesur y Data a Chryfderau a Chyfyngiadau yn y datganiad i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael ym Mynegai Marwolaethau Pobl ddigartref yng Nghymru a Lloegr (SYG).

Bylchau cyflog i bobl anabl yn y Deyrnas Unedig (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Gweler yr adran Ansawdd a methodoleg yn y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Bylchau cyflog i bobl anabl yn y Deyrnas Unedig (SYG)

Adroddiad ar ôl-troed Ecolegol a Charbon (Llywodraeth Cymru)

Gweler adran Methodoleg yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Adroddiad ar ôl-troed Ecolegol a Charbon

Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw’r Chweched Senedd? (Senedd Cymru)

Cafodd yr erthygl ymchwil hon ei chynhyrchu gan Ymchwil y Senedd fel rhan o gyfres o erthyglau a gyhoeddwyd adeg etholiad 2021 y Senedd. Gweler y ffynonellau data cysylltiedig yng nghyfeiriadau’r erthygl. Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw’r Chweched Senedd? (Senedd Cymru).

Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol)

Mae’r rhain yn allyriadau nwyon tŷ gwydr a amcangyfrifir gan Restr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol y Deyrnas Unedig. Mae allbynnau o’r Rhestr wedi cael eu dosbarthu fel Ystadegau Gwladol. Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol)

Mae’r cynhyrchwyr yn cael eu harchwilio ac mae rhestr sylfaenol y Deyrnas Unedig yn destun rhaglen o adolygiadau arbenigol blynyddol trylwyr (CU, UE), ac adolygiadau dwyochrog a chyfoed mynych. Mae’r gweithgareddau hyn yn dadansoddi’r dulliau, y tybiaethau a’r ffynonellau data sy’n sail i gyflwyniadau yn y Deyrnas Unedig ac yn asesu tryloywder, cywirdeb, cyflawnder, cysondeb y cyfresi amser a chymharedd (yn erbyn gwledydd eraill sy’n adrodd) rhestr y Deyrnas Unedig.

Edrychwch ar yr adran methodoleg ar wefan y Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Cynhyrchu Ynni yng Nghymru (Llywodraeth Cymru)

Comisiynwyd Regen gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cronfa ddata o brosiectau cynhyrchu ynni yng Nghymru; canfod i ba raddau mae’r prosiectau'n eiddo i unigolion, sefydliadau a chymunedau yng Nghymru; a dadansoddi’r data i lunio adroddiad ar gynnydd.

Edrychwch ar yr adran Methodoleg yn adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2019 i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth (Llywodraeth Cymru)

Ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth, 2017 i 2019

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn samplu tua 18,000 o gartrefi yng Nghymru bob blwyddyn. Fodd bynnag, gall maint y samplau ar gyfer pobl sydd â ‘nodweddion gwarchodedig’ (fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol)) fod yn gymharol fach. Gan hynny, er mwyn gwella’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer pobl sydd â ‘nodweddion gwarchodedig’, mae dadansoddiad manylach wedi cael ei gynhyrchu o set ddata gyfun sy’n cyfuno 3 blynedd o ddata APS. Mae’r dadansoddiad hwn ar gael ar ein Gwefan StatsCymru. Mae rhai o’r dadansoddiadau hyn wedi cael eu cyhoeddi fel Ystadegau Gwladol tra bo eraill yn cael eu cyhoeddi fel Ystadegau Arbrofol.

Mae manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei ddatblygu a’i gynnal ar gael yn adroddiad Gwybodaeth am Ddull ac ansawdd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (SYG).

Bylchau cyflog ethnig (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Bylchau cyflog ethnig: 2019 (SYG)

Mae’r dadansoddiad hwn yn defnyddio data o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Gweler yr adran ar ffynonellau data ac ansawdd yn y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael yn yr Arolwg Blynyddol o’r boblogaeth (SYG).

Canlyniadau arholiadau (Llywodraeth Cymru)

Oherwydd canslo’r cyfnod arholiadau arferol yn 2019/20 a’r tarfu parhaus ar ysgolion o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â chyfrifo na chyhoeddi mesurau perfformiad ar gyfer 2019/20 na 2020/21, ar gyfer carfannau Blwyddyn 11 a’r chweched dosbarth.

Ar ôl canslo arholiadau cyhoeddus, mae pob cymhwyster a fyddai wedi cael ei sefyll ar ffurf arholiadau yn ystod tymor yr haf 2019/20 wedi cael ei ddisodli gan y gorau o naill ai’r radd a asesir gan y ganolfan (CAG) neu’r radd safonedig a gyfrifir gan CBAC. Penderfynwyd ar raddau a aseswyd gan y ganolfan gan ddefnyddio amcangyfrif proffesiynol gorau’r athro o’r hyn y byddai’r disgybl yn ei gyflawni pe bai wedi gallu sefyll arholiad. Gall athrawon ddefnyddio unrhyw faen prawf maent yn dymuno ei ddefnyddio wrth amcangyfrif graddau gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) waith cwrs wedi ei gwblhau, ffug arholiadau neu gyflawniad academaidd blaenorol.

Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol. Edrychwch ar yr adran Gwybodaeth am Ansawdd Allweddol yn y ddogfen Canlyniadau arholiadau: Medi 2019 i Awst 2020: Nodiadau.

Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, Ystadegau’r Uned Priodasau dan Orfod 2020 (Yr Uned Priodasau dan Orfod)

Ystadegau’r Uned Priodasau dan Orfod (Yr Uned Priodasau dan Orfod)

Mae’r Uned Priodasau Dan Orfod yn uned ar y cyd rhwng y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a’r Swyddfa Gartref sy’n gweithio ar bolisi priodas dan orfod, gwaith maes a gwaith achos y llywodraeth. Mae’n gweithredu y tu mewn i’r Deyrnas Unedig, lle darperir cymorth i unrhyw unigolyn, a thramor, lle darperir cymorth conswlaidd i ddinasyddion Prydain, gan gynnwys dinasyddion deuol.

Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol. Gweler y Canllaw i Ddefnyddwyr ar: Ystadegau’r Uned Priodasau dan Orfod 2020 (Yr Uned Priodasau dan Orfod) ar gyfer gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Tlodi tanwydd (Llywodraeth Cymru)

Amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru

Mae adroddiad Amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru, 2018 yn cyflwyno canlyniadau’r amcangyfrifon tlodi tanwydd a gyfrifwyd ar gyfer Cymru, gan ddefnyddio Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18, Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 a data ar brisiau tanwydd. Mae ystadegau o Arolwg Cyflwr Tai Cymru ac Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol.

Cynhyrchwyd adroddiad amcangyfrifon tlodi tanwydd ardal leol i ategu adroddiad 2018. Nid yw’r canlyniadau hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol - maent yn seiliedig ar ddata wedi eu modelu i ddarparu lefelau dangosol o dlodi tanwydd ar lefel awdurdod lleol, a dylid bod yn ofalus wrth eu trin. Dim ond i edrych ar dueddiadau cyffredinol a nodi meysydd lle ceir tlodi tanwydd arbennig o uchel neu isel y dylid eu defnyddio. Ni ddylid eu defnyddio i ganfod tueddiadau dros amser.

Gweler Amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru: cefndir ar gyfer gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (canolrif enillion yr awr ar gyfer gweithwyr amser llawn, heb gynnwys goramser) (Llywodraeth Cymru)

Daw’r data o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE), sy’n cael ei redeg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyhoeddir y rhain fel Ystadegau Gwladol. Gweler y tabiau Gwybodaeth gryno a Gwybodaeth am ansawdd ystadegau ar y dudalen Gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (enillion canolrifol fesul awr gweithwyr llawn amser heb gynnwys goramser) (£) ar StatsCymru.

Incwm gwario gros aelwydydd (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Incwm gwario gros aelwydydd (SYG)

I gael golwg gyffredinol ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd i lunio allbynnau cyfrifon rhanbarthol, darllenwch y Canllaw methodoleg cyfrifon rhanbarthol (SYG). Bwriad y canllaw hwn yw rhoi dealltwriaeth i’r defnyddiwr o’r hyn sydd wedi ei gynnwys yng nghyfrifon rhanbarthol y Deyrnas Unedig, sut mae amcangyfrifon rhanbarthol o GVA(I), GVA(P), GVA(B), GDHI a GFCF yn cael eu llunio, y gwahanol ddata sy’n cael eu defnyddio i gasglu’r amcangyfrifon, a’r cysyniadau sy’n sail i’r broses gyfan.

Incwm gwario gros aelwydydd yn rhanbarthol, Bwletinau Ystadegol y Deyrnas Unedig (SYG)

Mae incwm gwario gros aelwydydd yn cael ei ddynodi’n Ystadegyn Gwladol. Gweler y ddogfen Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg Incwm gwario aelwydydd gros yn y Rhanbarth (SYG).

Disgwyliad oes y wladwriaeth iechyd (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Disgwyliad oes y wladwriaeth iechyd (SYG)

Gweler yr adrannau Mesur y Data a Chryfderau a Chyfyngiadau yn y datganiad i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Disgwyliadau oes Iechyd, Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg y Deyrnas Unedig (SYG). Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol.

Cofnod Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adroddiad ansawdd Cofnod Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol.

Lefelau’r cymhwyster uchaf gan oedolion o oedran gweithio yn ôl blwyddyn a chymhwyster (Llywodraeth Cymru)

Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithiol, 2020

Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler yr adran Gwybodaeth am ansawdd yn y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan (Llywodraeth Cymru)

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan

Mae’r data hyn yn wybodaeth reoli am bobl sy’n cael eu rhoi mewn llety dros dro a phobl sy’n cysgu allan ar gyfer mis Mai 2021. Mae’n cynnwys llety dros dro a darparu llety hirdymor i bobl sy’n mynd at awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.

Nid yw’r data hwn wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, ac mae’n bosibl y bydd y data’n cael ei ddiwygio yn y dyfodol.

Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu darparu data cynhwysfawr, ac adlewyrchir hyn (lle bo hynny’n berthnasol) yn y troednodiadau. Ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu allan, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad fesul awdurdod lleol (o fis Tachwedd 2020). Ar gyfer data ar ddefnyddio llety, rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig i ddechrau.

Ar hyn o bryd, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol na chymharu â misoedd blaenorol. Mae’r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a’r canllawiau a ddarparwyd yn parhau i gael eu mireinio a’u gwella.

Ystadegau digartrefedd (Llywodraeth Cymru)

Ystadegau digartrefedd

Gweler yr adroddiad ar ansawdd ar ddigartrefedd am wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol.

Aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog: ar gyfer blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben rhwng 1995 a 2020 (Adran Gwaith a Phensiynau)

Aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog: ar gyfer blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben rhwng 1995 a 2020 (Adran Gwaith a Phensiynau)

Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler y gyfres incwm aelwyd is na’r cyfartaledd: adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2020 (Adran Gwaith a Phensiynau) am ragor o wybodaeth.

Sut rydym yn gwneud yng Nghymru? Adroddiadau (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Sut rydym yn gwneud yng Nghymru? (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Drwy gydol pandemig COVID-19, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i’r cyhoedd yng Nghymru sut mae coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant.

Mae’r arolwg yn cyfweld oddeutu 600 o unigolion a ddewiswyd ar hap bob yn ail wythnos. Dechreuodd ym mis Ebrill 2020 ac mae’n cynnwys cyfres o gwestiynau cyffredin a ofynnwyd ym mhob wythnos arolwg, gyda chwestiynau eraill yn newid yn dibynnu ar faterion sy’n dod i’r amlwg.

Ystadegau Mewnfudo a Ffoaduriaid (Swyddfa Gartref)

Ystadegau Mewnfudo: Rhestr o dablau (Swyddfa Gartref)

Daw’r data hyn o ddata gweinyddol y Swyddfa Gartref, a gyhoeddir fel Ystadegau Gwladol. Gweler y Canllaw i Ddefnyddwyr ar gyfer Ystadegau Mewnfudo (Swyddfa Gartref) am wybodaeth ynghylch ansawdd a methodoleg data’r Swyddfa Gartref.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nhabiau Nodiadau’r tablau data.

Tablau a ddefnyddiwyd:

Asy_D11 – ystadegau mewnfudo

Res_D01 – ystadegau ffoaduriaid

Y farchnad lafur yn rhanbarthau’r Deyrnas Unedig (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Y farchnad lafur yn rhanbarthau’r Deyrnas Unedig (SYG)

Mae’r bwletin hwn yn defnyddio data a gasglwyd o’r Arolwg o’r Llafurlu, a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth sy’n deillio ohono, sef yr arolwg mwyaf o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Mae gwybodaeth ansawdd a methodoleg am gryfderau, cyfyngiadau a defnyddiau priodol, ar gael yn y ddogfen Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg am yr Arolwg o’r Llafurlu (SYG). Mae adroddiadau monitro ansawdd a pherfformiad yr Arolwg o'r llafurlu (SYG) yn darparu data ar gyfraddau ymateb a materion yn ymwneud ag ansawdd.

Trosolwg o’r Farchnad Lafur (Llywodraeth Cymru)

Trosolwg o’r Farchnad Lafur

Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler yr adran Gwybodaeth Ansawdd Allweddol yn yr adroddiad misol diweddaraf.

Lefel y cymhwyster uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio (Llywodraeth Cymru)

Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio, 2020

Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler adran Gwybodaeth am ansawdd y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Tablau byw ar ddigartrefedd (Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol)

Tablau byw ar ddigartrefedd (Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol)

Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol. Mae gwybodaeth am ansawdd a chyfyngiadau data ar gael yn y datganiad ystadegol (Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol) a’r nodiadau technegol (Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol).

Disgwyliad oes (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Disgwyliad oes ar gyfer ardaloedd lleol yn y DU: rhwng 2001 a 2003 a 2018 i 2020 (SYG)

Mae data disgwyliad oes iechyd wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler yr adrannau Mesur y Data a Chryfderau a Chyfyngiadau yn y bwletin am wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg o ran cryfderau, cyfyngiadau, defnyddiau priodol, a sut mae’r data wedi cael eu creu ar gael yn y ddogfen Disgwyliadau oes iechyd, Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg y Deyrnas Unedig (SYG).

Disgwyliad Oes a Marwolaeth yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Mae’r cyhoeddiad Disgwyliad Oes a Marwolaeth yng Nghymru 2020 (Iechyd Cyhoeddus Cymru) yn disgrifio tueddiadau mewn disgwyliad oes, disgwyliad oes iach a marwoldeb, ynghyd â dadansoddiad dadelfeniad disgwyliad oes yng Nghymru.

Mae’r adrannau nodiadau yn rhoi arweiniad pellach ar ddiffiniad y dangosydd, unrhyw gafeat, a’r dulliau a’r ffynonellau data a ddefnyddir. Nid yw rhai o’r ffynonellau data a ddefnyddir yn Ystadegau Swyddogol.

Gwastraff Trefol Awdurdodau Lleol (Llywodraeth Cymru)

Gwastraff trefol awdurdodau lleol ar StatsCymru

Casglwyd data ar wastraff trefol gan ddefnyddio system adrodd ar-lein ar gyfer data gwastraff o’r enw ‘WasteDataFlow’. Yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rheoli hyn.

Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler Rheoli Gwastraff Trefol Awdurdodau Lleol: adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Priodasau yng Nghymru a Lloegr (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Priodasau yng Nghymru a Lloegr, 2017 (SYG)

Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler y Canllaw i Ddefnyddwyr ar ystadegau priodasau (SYG) a’r Wybodaeth Ansawdd a Methodoleg am Briodasau yng Nghymru a Lloegr (SYG) i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Amddifadedd materol (Llywodraeth Cymru)

Amddifadedd materol ac incwm isel, Ebrill 2019 i Fawrth 2020

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn defnyddio’r Arolwg o Adnoddau Teulu i gyhoeddi ystadegau am blant a phensiynwyr mewn amddifadedd materol yn ei hadroddiad Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (Adran Gwaith a Phensiynau), wedi ei ddadansoddi ar gyfer gwledydd y Deyrnas Unedig a rhanbarthau Lloegr.

Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler y gyfres incwm aelwyd is na’r cyfartaledd: adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2020 (Adran Gwaith a Phensiynau) am ragor o wybodaeth.

Ystadegau mamolaeth a genedigaethau (Llywodraeth Cymru)

Ystadegau mamolaeth a genedigaethau, 2020

Mae’r datganiad hwn yn canolbwyntio ar ystadegau ar gyfer genedigaethau gan ddefnyddio data a gafwyd o set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Mae set ddata’r Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnod geni plentyn â chofnod asesu cychwynnol ei fam (lle bo hynny’n bosibl). Mae’r holl ystadegau a gynhyrchir o’r ffynhonnell hon yn ystadegau arbrofol (GSS) gan fod y set ddata yn dal yn gymharol newydd ac nad oes gan bob eitem ddata ganran uchel o ddata dilys wedi ei gofnodi.

Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg yn y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Caethwasiaeth fodern (Swyddfa Gartref)

Caethwasiaeth fodern: Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol a Dyletswydd i Hysbysu ystadegau’r Deyrnas Unedig, crynodeb diwedd blwyddyn 2020 (Swyddfa Gartref)

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol.

Dadansoddi marwolaethau (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Mae ystadegau Marwolaeth Cymru a Lloegr wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Mae gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ystadegau marwoldeb ar gael yn yr Wybodaeth Ansawdd a Methodoleg am Farwolaethau yng Nghymru a Lloegr (SYG) ac yn y Canllaw Defnyddwyr i Ystadegau Marwolaethau (SYG). Mae ffynonellau ychwanegol o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer yr ystadegau marwoldeb a ddefnyddiwyd yn adroddiad Llesiant Cymru wedi eu rhestru isod.

Gwelwyd cynnydd o draean yn nifer y marwolaethau yn y cartref yn 2020, tra bu gostyngiad yn nifer y marwolaethau mewn ysbytai ac eithrio COVID-19 (SYG)

Darllenwch yr adran gwybodaeth am yr erthygl hon i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Marwolaethau cysylltiedig â COVID-19 yn ôl ardal leol ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol (SYG)

Gweler yr adrannau Mesur y Data a Chryfderau a Chyfyngiadau yn y bwletin am ragor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Marwolaethau cysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru a Lloegr (SYG)

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael yn yr Wybodaeth Ansawdd a Methodoleg am Farwolaethau cysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru a Lloegr (SYG).

Dadansoddiad misol o farwolaethau, Cymru a Lloegr (SYG)

Gweler yr adrannau Mesur y Data a Chryfderau a Chyfyngiadau yn y bwletin am ragor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol o ran marwoldeb y gellid bod wedi ei osgoi yng Nghymru

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg o ran cryfderau, cyfyngiadau, defnyddiau priodol, a sut mae’r data wedi cael eu creu ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd a methodoleg anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol (SYG).

Hunanladdiadau yng Nghymru a Lloegr (SYG)

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg o ran cryfderau, cyfyngiadau, defnyddiau priodol, a sut mae’r data wedi cael eu creu ar gael yn y ddogfen Disgwyliadau oes iechyd, Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg y Deyrnas Unedig (SYG).

Cyfrif cenedlaethol o gysgu allan (Llywodraeth Cymru)

Cyfrif cenedlaethol o gysgu allan

Cynhaliwyd ymarfer monitro cenedlaethol ar gyfer pobl sy’n cysgu allan gan Awdurdodau Lleol, mewn partneriaeth ag asiantaethau lleol eraill, i fesur faint sy’n cysgu allan ledled Cymru. Roedd yn cynnwys ymarfer casglu gwybodaeth dros gyfnod o bythefnos ym mis Hydref 2019 (Cam 1), wedi ei ddilyn gan gyfrif ciplun un noson ar 7 Tachwedd 2019 (Cam 2). Amcangyfrif ciplun yw’r cyfrif ym mis Tachwedd 2019 i raddau helaeth, a dim ond awgrym bras iawn o lefelau cysgu allan sydd ar noson y cyfrif. Mae amrywiaeth o ffactorau’n gallu effeithio ar gyfrif pobl sy’n cysgu allan yn ystod un noson, gan gynnwys lleoliad, amseru a thywydd. Mae’r ffigurau hyn ar wahân i ystadegau digartrefedd statudol sy’n rhoi gwybodaeth am nifer yr aelwydydd sy’n gwneud cais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 oherwydd eu bod yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd.

Gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd yn yr adroddiad Cyfrif Cenedlaethol o Gysgu Allan, Tachwedd 2019 i gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Arolwg Cenedlaethol Cymru (Llywodraeth Cymru)

Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler yr adroddiadau ansawdd ar gyfer canlyniadau misol, chwarterol a blynyddol Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y dudalen Gwybodaeth Dechnegol.

Marwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru a Lloegr fesul chwarter blwyddyn (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Marwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru a Lloegr fesul chwarter blwyddyn (SYG)

Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler yr adrannau Mesur y Data a Chryfderau a Chyfyngiadau yn y bwletin am ragor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg, cryfderau, cyfyngiadau, defnyddiau priodol, a sut cafodd y data eu creu ar gael yn Adran 10 y bwletin blynyddol (SYG) a’r Wybodaeth Ansawdd a Methodoleg am farwolaethau sy’n ymwneud ag alcohol yn y Deyrnas Unedig (SYG).

Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur (Llywodraeth Cymru)

Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur, 2019 a 2020 (dros dro)

Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler adran Gwybodaeth am ansawdd y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Tlodi parhaus (Llywodraeth Cymru)

Tlodi parhaus, 2019

Daw data ar dlodi parhaus yng Nghymru gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol. Gweler Dynameg Incwm: gwybodaeth gefndir a methodoleg (Adran Gwaith a Phensiynau) i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Llesiant personol (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Amcangyfrifon llesiant personol blynyddol (SYG)

Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol. Mae data ar gyfer amcangyfrifon lles personol yn deillio o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS), sef arolwg mwyaf y DU o aelwydydd, sy’n cynnwys cwestiynau llesiant personol y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd data a methodoleg yr arolwg ar gael yn yr Wybodaeth Ansawdd a Methodoleg am Lesiant Personol yn y Deyrnas Unedig (SYG).

Llesiant personol ac economaidd (SYG)

Mae’r dadansoddiad a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar ddwy ffynhonnell ddata wahanol, sef yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac Effeithiau Trethi a Budd-daliadau.  Gweler yr adran ansawdd a methodoleg yn y datganiad am ragor o wybodaeth. Mae rhagor o wybodaeth ansawdd a methodoleg ar gyfer y ffynonellau data ar gael yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg (SYG) ac Effeithiau trethi a budd-daliadau ar incwm aelwydydd: Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg (SYG).

Tablau data agored troseddau a chanlyniadau a gofnodwyd gan yr heddlu (Swyddfa Gartref)

Tablau data agored troseddau a chanlyniadau a gofnodwyd gan yr heddlu (Swyddfa Gartref)

Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol. Mae gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael yn Troseddau a chanlyniadau a gofnodwyd gan yr heddlu: Canllaw Defnyddwyr Tablau Data Agored (Swyddfa Gartref).

Offeryn adrodd Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd y Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Offeryn adrodd Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd y Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Lansiwyd y Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru yn 2016, ac fe’i datblygwyd i:

  • Ddeall yr effaith mae ymddygiad unigolion, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru
  • Ysbrydoli a goleuo camau gweithredu i wella iechyd y genedl.

Mae gwybodaeth fanwl am ffynonellau data, ansawdd a methodoleg ar gael yn y Canllaw Technegol (GIG Cymru).

Cyflog Byw Gwirioneddol (Living Wage Foundation)

Cyflog Byw Gwirioneddol (Living Wage Foundation)

Sefydliad ymgyrchu yn y Deyrnas Unedig yw’r Living Wage Foundation. Ei nod yw annog cyflogwyr i dalu cyflog byw. Gweler adran 5 (Methodoleg) yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Ailgylchu – Pwy sy’n arwain y byd o ddifri? (Eunomia)

Sefydliad annibynnol yw Eunomia sy’n darparu ymgynghoriaeth amgylcheddol â ffocws masnachol ar gyfer cleientiaid cyhoeddus a phreifat. Cynhyrchodd Eunomia adroddiad yn 2017 yn dadansoddi data gwastraff trefol o nifer o wledydd. Gweler adran dull a thybiaethau yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Cynhyrchiant rhanbarthol ac is-ranbarthol yn y Deyrnas Unedig: Chwefror 2020 (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Cynhyrchiant is-ranbarthol yn y DU: Chwefror 2020 (SYG)

Mae’r data yn y datganiad hwn yn cael eu dosbarthu fel Ystadegau Arbrofol (Canllaw i Ystadegau Arbrofol (SYG)). Gweler yr adran ansawdd a methodoleg yn yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Gwerth ychwanegol gros rhanbarthol (wedi ei gydbwyso) y pen a chydrannau incwm (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Gwerth ychwanegol gros rhanbarthol (wedi ei gydbwyso) y pen a chydrannau incwm (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

I gael golwg gyffredinol ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd i lunio allbynnau cyfrifon rhanbarthol, darllenwch y Canllaw methodoleg cyfrifon rhanbarthol (SYG). Bwriad y canllaw hwn yw rhoi dealltwriaeth i’r defnyddiwr o’r hyn sydd wedi ei gynnwys yng nghyfrifon rhanbarthol y Deyrnas Unedig, sut mae amcangyfrifon rhanbarthol o GVA(I), GVA(P), GVA(B), GDHI a GFCF yn cael eu llunio, y gwahanol ddata sy’n cael eu defnyddio i gasglu’r amcangyfrifon, a’r cysyniadau sy’n sail i’r broses gyfan.

Mae amcangyfrifon Gwerth Ychwanegol Gros Rhanbarthol (wedi eu cydbwyso) wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler yr Adroddiad ar Ansawdd a Methodoleg Gwerth Ychwanegol Crynswth y Rhanbarth (SYG) (wedi ei gydbwyso).

Ystadegau’r farchnad lafur ranbarthol yn y Deyrnas Unedig: bwletinau ystadegol (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Ystadegau’r farchnad lafur ranbarthol yn y Deyrnas Unedig: bwletinau ystadegol (SYG)

Mae’r bwletin hwn yn defnyddio data a gasglwyd o’r Arolwg o’r Llafurlu, a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth sy’n deillio ohono, sef yr arolwg mwyaf o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig. Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol.

Mae gwybodaeth ansawdd a methodoleg am gryfderau, cyfyngiadau a defnyddiau priodol, ar gael yn y ddogfen Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg am yr Arolwg o’r Llafurlu (SYG). Mae adroddiadau monitro ansawdd a pherfformiad yr Arolwg o'r llafurlu (SYG) yn darparu data ar gyfraddau ymateb a materion yn ymwneud ag ansawdd.

Tlodi Incwm cymharol (Llywodraeth Cymru)

Tlodi incwm cymharol, Ebrill 2019 i Fawrth 2020

Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler Tlodi Incwm Cymharol: methodoleg am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion (Llywodraeth Cymru)

Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion: Ebrill 2021

Ystadegau ar ysgolion, athrawon a disgyblion gan gynnwys data ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ym mis Ebrill 2021. Mae data cyfrifiad ysgolion wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol.

Arolwg ar Chwaraeon Ysgol (Chwaraeon Cymru)

Mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, 2018 (Chwaraeon Cymru) yn arolwg ar-lein o gyfranogiad chwaraeon disgyblion a darpariaeth Addysg Gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion. Cynhaliwyd yr arolwg diweddaraf yn ystod tymor yr haf 2018 rhwng 16 Ebrill a 24 Gorffennaf.

Roedd y disgyblion yn llenwi holiadur ar eu cyfranogiad a’u hagweddau tuag at Addysg Gorfforol a chwaraeon. Gofynnwyd i aelod o staff o bob ysgol lenwi holiadur ar ddarpariaeth addysg gorfforol a chwaraeon yn eu hysgol. Fel arfer, bydd hyn yn cael ei wneud gan y cydlynydd Addysg Gorfforol mewn ysgolion cynradd neu’r pennaeth Addysg Gorfforol mewn ysgolion uwchradd. Mae’r data o’r arolwg hwn yn galluogi Chwaraeon Cymru a’i bartneriaid i fonitro’n strategol y tueddiadau o ran cymryd rhan mewn chwaraeon, gan gynnwys chwaraeon allgyrsiol a chymunedol. Mae’r arolwg hefyd yn caniatáu olrhain darpariaeth Addysg Gorfforol mewn ysgolion, yn ogystal ag agweddau athrawon a disgyblion at Addysg Gorfforol a chwaraeon.

Mae’r ystadegau a gyflwynir yn y papur hwn ac yn y set genedlaethol o dablau data cysylltiedig yn canolbwyntio ar ddisgyblion mewn ysgolion prif ffrwd ym Mlynyddoedd 3-11. Yn arolwg 2017/18, cymerodd 118,893 o ddisgyblion Blwyddyn 3-11 ran yn yr arolwg ac fe wnaeth 1,055 o athrawon lenwi holiadur darpariaeth Arolwg ar Chwaraeon Ysgol.

Gweler y tab Gwybodaeth dechnegol yn y tablau data i gael rhagor o wybodaeth.

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth (Llywodraeth Cymru)

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth: Gweithio yng Nghymru, 2006 i 2017

Ni chyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol. Gweler adran Methodoleg yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) 2020 (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n llunio’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol.

Gweler SoNaRR 2020: Ein dull (Cyfoeth Naturiol Cymru) i gael trosolwg o’r dull y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’i ddefnyddio i asesu llwyddiant neu fethiant Cymru o ran Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Mae’r Cofrestri adnoddau naturiol (Cyfoeth Naturiol Cymru) yn darparu gwybodaeth ychwanegol am y pwysau a’r cyfleoedd allweddol, asesiadau Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a rhestri tystiolaeth ar gyfer yr wyth ecosystem eang a ddefnyddiwyd yn SoNaRR2020.

Mae rhagor o wybodaeth ansawdd a methodoleg ar gael yn y penodau perthnasol ar gyfer yr wyth ecosystem eang (Cyfoeth Naturiol Cymru) a’r wyth thema drawsbynciol (Cyfoeth Naturiol Cymru) a ddefnyddiwyd yn SoNaRR2020.

Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion)

Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Adroddiad Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2019/20

Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN), sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cancer Research UK; Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD); a Phrifysgol Caerdydd. Cynhelir yr arolwg bob dwy flynedd, gan roi cipolwg rheolaidd ar ymddygiadau iechyd pobl ifanc 11-16 mlwydd oed yng Nghymru. Caiff yr arolwg ei gwblhau ar-lein yn yr ystafell ddosbarth. Yn 2019/20, cymerodd bron i 120,000 o fyfyrwyr ran yn yr arolwg.

Gweler adran Methodoleg yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Ystadegau Undebau Llafur (Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol)

Ystadegau Undebau Llafur (Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol)

Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol sy’n gyfrifol (ynghyd â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol) am gyhoeddi’r Ystadegau Gwladol ar aelodaeth o undeb llafur.

Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler yr adran gwybodaeth dechnegol yn adroddiad 2020 (Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol) am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Ystadegau cerbydau allyriadau isel iawn (Adran Drafnidiaeth)

Pob cerbyd (VEH01) (Adran Drafnidiaeth)

Daw bron yr holl ystadegau yn y gyfres ystadegau trwyddedu cerbydau o gronfa ddata cerbydau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Prif bwrpas y gronfa ddata yw gweinyddu cofnodion cofrestru a thrwyddedu cerbydau (ar gyfer Prydain cyn mis Gorffennaf 2014, ac ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan ers y dyddiad hwn).

Mae’r holl ystadegau sy’n deillio o gronfa ddata trwyddedu cerbydau DVLA wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Gweler Ystadegau Trwyddedu Cerbydau: Nodiadau a Diffiniadau (Adran Drafnidiaeth) ar gyfer gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Y diweddaraf am frechlynnau mewn plant yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Data cenedlaethol ar gyfer pobl sy'n cael eu himiwneiddio (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Mae data am y niferoedd sy’n cael brechiadau yn cael eu darparu gan gynllun cenedlaethol COVER Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ni chyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol. Mae’r cynllun gwyliadwriaeth hwn, sy’n cael ei redeg gan Raglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Ganolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy, yn cyfrifo’r ddarpariaeth brechu gan ddefnyddio data o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Mae’r Gronfa yn cael ei chynnal gan Wasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru ac mae’n cynnwys cofnodion wedi eu hechdynnu o gronfa ddata swyddfeydd Iechyd Plant yr holl fyrddau iechyd ledled Cymru. Mae’r Gronfa yn cael ei hadnewyddu bob chwarter.

Enwadur y cyfrifiadau defnyddio a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad COVER blynyddol yw nifer y plant a gofrestrwyd gyda swyddfeydd Iechyd Plant a gyrhaeddodd ben-blwyddau mesur allweddol yn ystod y flwyddyn rhwng Ebrill a Mawrth ac a oedd yn byw ac yn preswylio yn ardaloedd byrddau iechyd Cymru ar ddiwedd y cyfnod hwn. Tybir bod y plant wedi eu brechu erbyn oedran mesur os oes ganddynt ddyddiad brechu wedi ei gofnodi yn eu cofnod iechyd plentyn, sydd cyn y pen-blwydd perthnasol.

Gall ansawdd y data yn y Gronfa fod yn llai yn achos plant hŷn sy’n cael cyswllt llai aml â gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, ac y gallai eu cofnodion iechyd plant fod yn cael eu diweddaru yn llai aml.

Adroddiad ar ansawdd dŵr ymdrochi Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Adroddiad Dŵr Ymdrochi yng Nghymru 2020 (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Gweler yr adran ar fonitro a dosbarthu yn 2020 yn yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Arolwg Cyflwr Tai Cymru (Llywodraeth Cymru)

Arolwg Cyflwr Tai Cymru (Asesiad o elfennau o’r Safon Ansawdd Tai Cymru): Ebrill 2017 i Mawrth 2018

Mae’r datganiad hwn yn edrych ar asesiad o rai elfennau o Safonau Ansawdd Tai Cymru (WHQS) fel y’u mesurwyd yn Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18. Dylai defnyddwyr sydd eisiau edrych ar dueddiadau wrth fodloni’r safon ansawdd ar gyfer tai cymdeithasol dros amser ddefnyddio Ystadegau Swyddogol Safon Ansawdd Tai Cymru, a dylai’r rheini sydd am gymharu ar draws deiliadaethau ddefnyddio adroddiad Arolwg Cyflwr Tai Cymru (gan nodai mai dim ond is-set o elfennau sydd wedi cael eu mesur). Nid oes modd cymharu’r ddwy ffynhonnell ddata yn uniongyrchol. Gallwch weld rhagor o wybodaeth ar sut y gwnaeth yr arolwg asesu Safon Ansawdd Tai Cymru yn yr Adroddiad technegol.

Safon Ansawdd Tai Cymru (Llywodraeth Cymru)

Safon Ansawdd Tai Cymru

Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn cyflwyno gwybodaeth o'r casgliad data blynyddol sy'n mesur y cynnydd hunan-gofnodedig a wneir gan landlordiaid cymdeithasol o ran cyflawni’r Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) ar gyfer eu stoc. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ansawdd yr ystadegau hyn yn yr adroddiad ansawdd.

Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (Llywodraeth Cymru)

Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Mae’r data hyn wedi eu dynodi’n Ystadegau Gwladol. Mae gwybodaeth am gyd-destun, ansawdd a methodoleg ar gael yn y tabiau gwybodaeth gryno a gwybodaeth am ansawdd ystadegau yn nhablau Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth StatsCymru.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n cynnal yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei ddatblygu a’i gynnal ar gael yn adroddiad Gwybodaeth am Ddull ac ansawdd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (SYG).

Y defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru (Llywodraeth Cymru)

Y defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru (canfyddiadau cychwynnol): Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau cychwynnol Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Daeth yr arolwg i ben yn gynharach nag a gynlluniwyd yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae rhagor o wybodaeth am oblygiadau hyn, a’r cyfyngiadau ar y data o’r herwydd (gan gynnwys diffyg amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol), yn yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

Lefelau Gweithgareddau Chwaraeon Cymru yn ystod pandemig y Coronafeirws (Chwaraeon Cymru)

Lefelau Gweithgareddau Chwaraeon Cymru yn ystod pandemig y Coronafeirws (Chwaraeon Cymru)

Cynhaliodd Savanta ComRes gyfweliadau â 1,004 o oedolion (16+) yng Nghymru ar-lein rhwng 13 ac 16 Awst 2021. Cafodd data eu pwysoli i fod yn ddemograffig gynrychiadol o oedolion Cymru yn ôl rhyw, oedran, rhanbarth, gradd gymdeithasol, a’r aelwydydd amcangyfrifedig sydd â phlant o dan 16 mlwydd oed. Mae Savanta ComRes yn aelod o Gyngor Arolygon Prydain (BPC) ac mae’n cadw at ei reolau.

Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein gan ddefnyddio paneli cyfranogwyr mewnol Savanta. Cynigir yr arolwg i bawb ar y panel sy’n byw yng Nghymru ac sydd rhwng 16 a 99 mlwydd oed.

Caiff y panel ei ddiweddaru’n gyson drwy ychwanegu aelodau newydd a dileu aelodau segur ac aelodau ansawdd gwael yn rheolaidd.

Gan fod yr arolwg yn cael ei gynnal ar sail “optio i mewn” (h.y. mae aelodau o’r panel yn dewis cymryd rhan), nid yw cyfranogwyr yn gorfod cwblhau’r arolwg ar ôl dechrau ac mae modd iddynt roi’r gorau iddo unrhyw adeg.

Gan fod yr arolwg yn cael ei gynnal bob chwarter nid yw ymatebwyr a lenwodd yr arolwg yn y chwarter blaenorol yn cael eu heithrio gan fod digon o amser wedi bod rhwng arolygon i atal unrhyw anawsterau o ran y data a gesglir.

Safleoedd Treftadaeth y Byd (Cadw)

Gweler Deall Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru (Cadw) i gael gwybodaeth am Safleoedd Treftadaeth y Byd.