Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Prif Ystadegydd

Dyma’r pumed tro i adroddiad blynyddol Llesiant Cymru gael ei gyhoeddi. Mae’n rhoi cipolwg ar gyflwr y wlad a’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn erbyn y saith nod llesiant.

Chwe blynedd ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 ddod i rym, rydym wedi pwyso a mesur, ym mhob pennod, yr hyn rydym wedi’i ddysgu dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal ag asesu’r cynnydd tymor hir tuag at y nodau gan ddefnyddio’r 46 o ddangosyddion cenedlaethol a data eraill.

Fel gydag adroddiad y llynedd, mae’r pandemig wedi parhau i effeithio ar rywfaint o’r data a ddefnyddir yma. Mae rhai casgliadau data wedi cael eu gohirio ac mae eraill wedi gorfod newid eu dull er mwyn gallu ymdrin â heriau’r pandemig. Nid yw data ar gyfer rhai dangosyddion cenedlaethol yn berthnasol i gyfnod y pandemig eto. Lle mae data wedi parhau i fod ar gael, wrth reswm, mae’r tueddiadau’n edrych yn wahanol iawn eleni ar gyfer rhai pynciau, ac mae hyn yn fwy amlwg i rai grwpiau mewn cymdeithas nag eraill. Mae hyn i gyd yn ychwanegu at gymhlethdod dehongli cynnydd hirdymor Cymru tuag at y nodau llesiant, gydag effaith lawn y pandemig yn debygol o ddigwydd dros nifer o flynyddoedd i ddod.

Un o’r themâu sy’n deillio o adroddiad eleni yw effaith y pandemig ar anghydraddoldebau sydd, mewn nifer o achosion, wedi ehangu. Er enghraifft, roedd pobl hŷn, dynion a phobl mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19. Yn y farchnad lafur, cafwyd effaith anghymesur ar grwpiau a oedd eisoes o dan anfantais, gan gynnwys pobl mewn swyddi â chyflog isel, mewn swyddi llai diogel, pobl ifanc a phobl sy’n cyrraedd diwedd eu bywydau gweithio. Mae’r bwlch ym mherfformiad ysgolion rhwng y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys wedi ehangu yn y graddau TGAU uchaf, bu cynnydd hefyd yn yr anghydraddoldebau o ran cymryd rhan mewn chwaraeon. Mewn cyferbyniad, fodd bynnag, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau bellach ar ei gyfradd isaf erioed ac mae cydlyniant cymunedol wedi gwella’n sylweddol.

Argyfwng mawr arall sy’n wynebu’r byd yw’r argyfwng hinsawdd a natur. Mae adroddiad eleni yn cynnwys canfyddiadau o’r asesiad diweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru sy’n dod i’r casgliad bod amrywiaeth fiolegol wedi dirywio a bod Cymru’n defnyddio adnoddau ar gyfradd anghynaliadwy. Mae cynnydd yn cael ei wneud mewn rhai meysydd, mae Cymru’n parhau i fod yn un o’r gwledydd gorau yn y byd o ran ailgylchu ac mae cynnydd pellach wedi bod o ran capasiti ynni adnewyddadwy. Mae nifer y cerbydau allyriadau isel iawn sydd wedi’u cofrestru wedi treblu (er bod hynny o lefel isel). Fodd bynnag, mae cyflymder y newid sydd ei angen yn debygol o fod yn llawer mwy yn y dyfodol.

Newidiadau sydd ar y gweill i’r dangosyddion cenedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio’r set o 46 o ddangosyddion cenedlaethol er mwyn asesu cynnydd tuag at saith nod llesiant Cymru. Eleni, rydym wedi manteisio ar y cyfle i edrych eto ar y set o ddangosyddion cenedlaethol a nodi lle mae’r pandemig wedi tynnu sylw at fylchau. O ganlyniad, rydym yn ymgynghori ar ddau atodiad posibl i’r dangosyddion ar ddulliau teithio a chynhwysiant digidol, yn ogystal â cheisio barn ar unrhyw fylchau eraill.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn nodi cynigion ar gyfer y cerrig milltir cenedlaethol cyntaf erioed. Mae cerrig milltir yn uchelgais fesuradwy sy’n disgrifio cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y saith nod llesiant. Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys cynigion ar gyfer naw carreg filltir yn erbyn wyth o’r dangosyddion cenedlaethol.

Mae’r ymgynghoriad ar gerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol ar agor tan 26 Hydref ac edrychaf ymlaen at glywed eich barn.

Yn ddiweddarach eleni, bydd y cerrig milltir a’r dangosyddion wedi’u diweddaru yn cael eu gosod gerbron y Senedd. Bydd hyn yn cynnwys newidiadau y cytunwyd arnynt yn flaenorol i’r dangosyddion, ond a gafodd eu gohirio oherwydd y pandemig, yn ogystal ag awgrymiadau newydd. Mae’r newidiadau y cytunwyd arnynt yn flaenorol yn cynnwys:

  • Diwygio’r dangosyddion ynghylch ansawdd gwaith, gan ystyried argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg.
  • Defnyddio cwestiwn newydd Arolwg Cenedlaethol Cymru, sy’n canolbwyntio ar ‘ddinasyddion byd-eang gweithredol’ i ddisodli’r dangosydd ar bartneriaethau Nodau Datblygu Cynaliadwy.
  • Ymestyn y dangosydd cydraddoldeb cyflog i gynnwys bylchau cyflog ar sail ethnigrwydd ac anabledd, ochr yn ochr â’r dangosydd presennol ar gyflog y rhywiau.
  • Ymestyn y dangosydd ar allyriadau nwyon tŷ gwydr i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Y prif newid fydd cynnwys cyfran Cymru o hedfan rhyngwladol a llongau rhyngwladol.
  • Diwygio’r dangosydd ar siaradwyr Cymraeg i adlewyrchu nifer yn hytrach na chanran y siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn cyd-fynd â’r uchelgais cenedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
  • Ail-enwi ôl-troed ecolegol yn ôl troed byd-eang, sy’n adlewyrchu’n fwy cywir sut cyfeirir ato’n rhyngwladol a natur drawsbynciol yr hyn sy’n cael ei fesur.

Pan fydd data ar gael, rydym wedi adrodd ar rai o’r pynciau newydd hyn yn adroddiad Llesiant Cymru eleni gan ei fod yn darparu cyd-destun a gwybodaeth werthfawr ochr yn ochr â’r dangosyddion presennol. Bydd adroddiad y flwyddyn nesaf yn ymdrin â’r dangosyddion newydd yn ogystal ag adrodd yn erbyn y cerrig milltir cenedlaethol.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd

Prif bwyntiau

  • Mae marchnad lafur Cymru’n parhau i berfformio’n gryf, gyda’r bwlch rhwng Cymru a’r DU yn gyfyng mewn termau hanesyddol. 
  • Fel sy’n wir ar draws y DU yn gyffredinol, mae’r twf yn yr economi ac mewn incwm gwirioneddol wedi bod yn araf ers dirwasgiad 2008, gan adlewyrchu twf gwan mewn cynhyrchiant. Dros y tymor hwy, ers 1999, mae Cymru wedi cadw i fyny’n fras â’r DU drwyddi draw. Ond, mae ei pherfformiad yn parhau i fod yn wan o’i gymharu â pherfformiad llawer o rannau eraill o’r DU.   
  • Mae cyfranogiad pobl ifanc (19 i 24 oed) mewn addysg a’r farchnad lafur wedi cynyddu dros y cyfnod ers dirwasgiad 2008 cyn gostwng rhywfaint yn fwy diweddar.  
  • Mae proffil cymwysterau poblogaeth oedran gweithio Cymru wedi bod yn gwella dros amser. Mae cyrhaeddiad mewn ysgolion uwchradd wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf, er bod deilliannau plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal yn waeth.  
  • Ychydig o newid sydd wedi bod yn y lefelau tlodi incwm cymharol cyffredinol yng Nghymru ers dros 15 mlynedd, er bod cynnydd bach wedi bod mewn tlodi plant dros y blynyddoedd diwethaf.  
  • Mae’r asesiad cynhwysfawr diweddaraf o adnoddau naturiol Cymru (SoNaRR) yn dangos bod amrywiaeth fiolegol yn dirywio ar y cyfan. Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen.  
  • Mae Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu gwastraff cartrefi, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.  
  • Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl.
  • Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi gostwng bron i draean ers y 1990au, er gwaethaf rhai cyfnodau o gynnydd. Bydd angen newid yn gyflymach yn y dyfodol er mwyn cyrraedd targedau.
  • Mae capasiti trydan wedi’i osod o ynni adnewyddadwy yn parhau i gynyddu ond yn arafach nag yn y blynyddoedd diwethaf. 
  • Bu disgwyliad oes yn codi, er ei fod ar gyflymder arafach yn ystod y degawd diwethaf. Fodd bynnag, mae wedi gostwng am y cyfnod diweddaraf, gan adlewyrchu effaith y pandemig COVID-19.
  • Mae disgwyliad oes iach yn parhau i fod yn waeth i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, ond nid oes tystiolaeth bod y bwlch yn cynyddu.  
  • Mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni gyda phwysau geni isel wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn y ffigurau isaf yn 2014 a 2015. 
  • Roedd cyfran y plant a oedd wedi cael eu himiwneiddiadau rheolaidd erbyn eu bod yn bedair oed yn 88% eleni, yr uchaf ers adrodd ar y mesur hwn am y tro cyntaf. 
  • Mae’r data diweddaraf yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi gostwng i 4.3%, sef y lefel isaf erioed. Mae’r data diweddaraf hefyd yn dangos bod y bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd wedi lleihau. Ar gyfartaledd, mae gweithwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn ennill tua 1.4% yn llai yr awr na gweithwyr gwyn Prydeinig, er bod gwahaniaethau mawr ymysg gwahanol leiafrifoedd ethnig. 
  • Yn y flwyddyn ddiweddaraf, gwelwyd cynnydd sylweddol mewn cydlyniant cymunedol. Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i ddweud a yw hyn yn ddechrau tuedd barhaus.  
  • Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau yn eu hardal leol, sy’n ymddangos fel pe bai’n gwrthdroi’r gostyngiad a welwyd yn y ddwy set flaenorol o ganlyniadau.
  • Mae achosion troseddau casineb hiliol a gofnodwyd wedi gostwng rhywfaint yn 2019-20.
  • Cyn y pandemig, doedd dim newid yng nghyfran yr oedolion na’r plant a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd. Yn fwy diweddar, mae’r pandemig wedi ehangu anghydraddoldebau o ran cymryd rhan mewn chwaraeon.
  • Mae’r data arolwg diweddaraf yn awgrymu bod cynnydd yng nghanran y bobl sy’n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg, ond nid yn rhugl. Mae’r defnydd o’r iaith yn parhau’n gyson.  
  • Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi bod yn sefydlog ar y cyfan, ond mae llai o henebion sydd wedi cael eu hasesu’n ddiweddar mewn cyflwr sefydlog.
  • Yn 2021 mae Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru wedi cael ei hychwanegu at Restr Treftadaeth y Byd UNESCO, y pedwerydd safle yng Nghymru. 

Cymru lewyrchus

Awduron: Jonathan Price a Luned Jones

Y nod: Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

  • Mae effeithiau’r pandemig wedi bod yn flaenllaw mewn ffactorau eraill sy’n effeithio ar ganlyniadau economaidd, gan gynnwys y newid i berthynas fasnachu newydd â’r Undeb Ewropeaidd. Mae esblygiad y pandemig a’i ganlyniadau tymor hwy yn dal yn ansicr iawn ar adeg ysgrifennu’r adroddiad.
  • Mae perfformiad economaidd sylfaenol Cymru yn parhau i fod yn wannach na’r DU drwyddi draw o ran cynnyrch economaidd (gwerth ychwanegol gros) ac incwm aelwydydd (incwm gwario gros aelwydydd), ond mae’n eithaf tebyg i’r rhannau hynny o’r DU sydd â nodweddion tebyg.
  • Mae’r data wedi parhau i ddangos bod y bylchau hanesyddol mewn cyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch rhwng Cymru a rhannau eraill o’r DU wedi lleihau, gyda Chymru’n perfformio’n well na rhai rhanbarthau yn Lloegr. Mae hyn yn newid sylweddol ers y cyfnod cyn datganoli yn y 1980au a’r 1990au.
  • Mae data’r farchnad lafur yn anwadal dros y tymor byr ac mae’n bwysig peidio â gor-ddehongli newidiadau diweddar, yn enwedig yng nghyd-destun y pandemig. Gyda’r rhybudd hwn, mae data’r farchnad lafur yn awgrymu bod y pandemig wedi effeithio ar berfformiad economaidd Cymru mewn ffordd sy’n debyg yn fras i’r DU (ac eithrio Llundain).
  • Er bod perfformiad Cymru o ran cyflogau a chynhyrchiant yn dal yn llai cadarnhaol na pherfformiad y farchnad lafur, mae data’n dangos gwelliannau cymedrol yng nghynhyrchiant cymharol Cymru dros y degawd diwethaf, gan wrthdroi’r dirywiad cyn dirwasgiad 2008.
  • Mae’n rhy gynnar i asesu effeithiau’r pandemig ar bobl ifanc, er bod tystiolaeth gynnar yn dangos bod y canlyniadau economaidd-gymdeithasol wedi effeithio’n anghymesur arnynt.
  • Cyn y pandemig, yn 2019, roedd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi gostwng ychydig i 88.9% ar ddiwedd 2019, ac roedd y gyfradd ar gyfer pobl ifanc 19-24 oed wedi codi ychydig i 84.3%.
  • Lleihaodd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ym mis Ebrill 2020 i 4.3%, ac mae tystiolaeth o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion a’r Arolwg o’r Llafurlu yn awgrymu nad oedd ffactorau COVID-19 wedi cael effaith amlwg eto ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y DU. 
  • Mae’r data diweddaraf (cyn y pandemig) ar gyfraddau cyffredinol tlodi incwm cymharol yn awgrymu nad ydynt wedi newid llawer yng Nghymru. Gwelwyd cynnydd bychan mewn cyfraddau tlodi plant, yn wahanol i ostyngiad bychan mewn tlodi pensiynwyr.
  • Ar y cyfan, cynyddodd lefelau cymwysterau yng Nghymru yn 2020, gan barhau â’r cynnydd cyffredinol sydd wedi’i weld dros amser.
  • Roedd cyrhaeddiad yn yr ysgol uwchradd (gan ddefnyddio graddau TGAU ar draws pob pwnc) wedi cynyddu ers y flwyddyn flaenorol. Mae deilliannau plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal i fod yn waeth na grwpiau eraill. Mae merched yn dal i berfformio’n well na bechgyn.
  • Roedd nifer y cerbydau allyriadau isel iawn a gofrestrwyd yn newydd yng Nghymru wedi treblu rhwng 2019 a 2020 i dros 3,600.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae’r cynnydd tuag at y nod wedi bod yn gymysg, gyda gwelliannau mawr ym mherfformiad cyffredinol y farchnad lafur ond llai o gynnydd o ran mynd i’r afael â thlodi a lefelau incwm isel. Mae cynnydd wedi’i wneud o ran datgarboneiddio, ond bydd angen newid yn gyflymach yn y dyfodol er mwyn cyrraedd targedau.

Mae’r pandemig wedi cael effaith amlwg ar y data diweddaraf, ac nid yw’r goblygiadau ar gyfer tueddiadau tymor hwy yn glir. Am y rheswm hwn, mae’r casgliadau canlynol yn cael eu llunio’n bennaf ar sail tystiolaeth cyn y pandemig.

  • Fel sy’n wir ar draws y DU yn gyffredinol, mae’r twf yn yr economi ac mewn incwm gwirioneddol wedi bod yn araf ers dirwasgiad 2008, gan adlewyrchu twf cynhyrchiant gwan. Dros y tymor hwy, ers 1999, mae Cymru wedi cadw i fyny’n fras â’r DU drwyddi draw, ond mae ei pherfformiad yn parhau i fod yn wan o’i gymharu â pherfformiad llawer o rannau eraill o’r DU. 
  • Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru yn llawer agosach at gyfartaledd y DU na’r gwerth ychwanegol gros (GVA) y pen, gyda gwahaniaethau yn dibynnu ar y mesur a ddefnyddiwyd a chyda’r bwlch lleiaf pan asesir ar gyfer y cartref canolrifol.
  • Mae marchnad lafur Cymru’n parhau i berfformio’n gryf, gyda’r bwlch rhwng Cymru a’r DU yn gyfyng mewn termau hanesyddol.
  • Mae cyfranogiad pobl ifanc 19 i 24 oed mewn addysg a’r farchnad lafur wedi cynyddu dros y cyfnod ers dirwasgiad 2008.
  • Mae gan Gymru fwy o bobl mewn gwaith ar gyflogau isel na rhannau eraill o’r DU. Yn ogystal, mae’r dystiolaeth ar agweddau eraill ar ansawdd gwaith yn awgrymu darlun cymysg yng Nghymru.
  • Ychydig o newid sydd wedi bod yn y lefelau tlodi incwm cymharol cyffredinol yng Nghymru ers dros 15 mlynedd, er bod cynnydd bach wedi bod mewn tlodi plant dros y blynyddoedd diwethaf.
  • Mae proffil cymwysterau poblogaeth oedran gweithio Cymru wedi bod yn gwella dros amser. Mae cyrhaeddiad mewn ysgolion uwchradd wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf, er bod deilliannau plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal yn waeth.
  • Mae rheoli’r rhyngweithio rhwng twf economaidd a datblygu economi arloesol, carbon isel yn gymhleth ac yn arwain at heriau, ond mae arwyddion cadarnhaol mewn rhai sectorau.
  • Mae teithio’n cyfrannu’n sylweddol at allyriadau carbon, ond nid oes tystiolaeth o symud oddi wrth geir fel y prif ddull o deithio.

Gwerth ychwanegol gros

Fel sy’n wir ar draws y DU yn gyffredinol, mae’r twf yn yr economi ac mewn incwm gwirioneddol wedi bod yn araf ers dirwasgiad 2008, gan adlewyrchu twf gwael mewn cynhyrchiant.

Dros y tymor hwy, ers 1999, a chymryd dangosyddion economaidd drwyddynt draw, mae Cymru wedi cadw’n weddol gyson â’r DU. Er bod y perfformiad economaidd yn parhau i fod yn wan o’i gymharu â llawer o rannau eraill o’r DU, mae data cynhyrchiant dros y degawd diwethaf yn rhoi awgrym o obaith.

Mae gwerth ychwanegol gros (GVA) yn cynrychioli gwerth yr holl nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir mewn ardal. Dyma ffynhonnell yr incwm gwirioneddol y mae pobl yn ei ennill a’r sylfaen y gellir codi trethi arni i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Er bod gwerth ychwanegol gros y pen poblogaeth Cymru wedi tyfu’n weddol debyg i’r gyfradd ledled y DU ers 1999, mae’n dal yn is na bron pob un o wledydd a rhanbarthau eraill y DU.

Gan edrych ar y cynnydd yn fwy diweddar, tyfodd gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yn arafach yn 2019 nag yn y DU drwyddi draw. Cynyddodd 2.1% (heb gyfrif am chwyddiant).

Mae perfformiad cymharol wael Cymru o ran gwerth ychwanegol gros y pen yn bennaf yn adlewyrchu’r lefelau cynhyrchiant cymharol isel. Mae cynhyrchiant, wedi’i fesur fel gwerth ychwanegol gros yr awr a weithir, yn parhau i fod yn is yng Nghymru nag ym mhob rhan arall bron o'r DU. Yn 2019, roedd yn 84% o ffigur y DU, sy’n gynnydd o 0.2 pwynt canran o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae data dros y degawd diwethaf yn cadarnhau gwelliannau cymedrol mewn cynhyrchiant cymharol (gwerth ychwanegol gros yr awr a weithir), gan efallai wrthdroi tuedd o waethygu cyn y dirwasgiad.

Image
Siart linell yn dangos bod y gwerth ychwanegol gros (GVA) y pen yng Nghymru wedi tyfu’n weddol debyg i’r DU ers 1999 ac yn 2019, y ffigur ar gyfer y DU oedd 85%.

Incwm aelwydydd

Mae incwm aelwydydd yn ddangosydd gwell o ffyniant a llesiant materol pobl na gwerth ychwanegol gros. Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru yn llawer agosach at gyfartaledd y DU na gwerth ychwanegol gros (GVA) y pen, ond mae gwahaniaethau yn dibynnu ar y mesur a ddefnyddiwyd, gyda’r bwlch lleiaf wrth ystyried yr incwm canolrifol. Dim ond hyd at 2018 y mae data ar gael ar hyn o bryd, felly mae’r adran hon yn canolbwyntio ar dueddiadau tymor hwy.

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar incwm yn defnyddio’r mesur incwm gwario gros aelwydydd (GDHI). O ran y mesur hwn, mae Cymru, yn ôl y data diweddaraf (2018), ar 81% o ffigur y DU, ar ôl gostwng o 88% pan oedd y ffigur uchaf yn 2003. Mae’r gostyngiad cymharol hwn wedi’i ysgogi’n rhannol gan gynnydd mawr yn incwm aelwydydd yn Llundain, sydd wedi helpu i godi cyfartaledd y DU.

Er mai Cymru sydd â’r ail incwm gwario gros aelwydydd isaf y pen o wledydd a rhanbarthau’r DU, mae’n cymharu’n fras ag ardaloedd yn y DU sydd â nodweddion tebyg.

Mae Cymru’n perfformio’n well ar ddangosydd incwm canolrifol aelwydydd (ar ôl caniatáu ar gyfer costau tai). O ran y dangosydd hwn, sy’n adlewyrchu amgylchiadau aelwyd nodweddiadol yn well, mae incwm cyfartalog yng Nghymru wedi bod ymhell dros 90% o ffigur y DU yn gyffredinol, ac yn nes at 95% yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, hyd yn oed ar y mesur hwn, mae Cymru’n dal yn agos at waelod y ‘tabl cynghrair’ o wledydd a rhanbarthau’r DU.

Image
Mae’r siart linell yn dangos bod incwm gwario gros yr aelwyd (GDHI) y pen wedi cynyddu ar gyfer Cymru a’r DU rhwng 1999 a 2018, gyda’r bwlch yn ehangu ychydig.

Marchnad llafur

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae effeithiau’r pandemig wedi ysgogi newidiadau yn y farchnad lafur yng Nghymru. Wrth edrych ar y tymor hwy, mae’r farchnad lafur yng Nghymru yn parhau i berfformio’n gryf mewn termau cymharol, gyda’r bwlch rhwng Cymru a’r DU yn gyfyng o’i gymharu â’r sefyllfa hanesyddol.

Mae’r rhan fwyaf o ddata’r farchnad lafur yn seiliedig ar arolwg ac yn anwadal, ac ni ddylid gor-ddehongli newidiadau tymor byr. Yn gyffredinol, dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r gyfradd cyflogaeth wedi gostwng, ac mae diweithdra wedi cynyddu, gan adlewyrchu effaith y pandemig.  

Mae data o ffynonellau gweinyddol mwy amserol yn dangos bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi dilyn trywydd y DU yn gyffredinol ar y cyfan (ac eithrio Llundain) yn ystod y pandemig.

Mae’r bylchau mewn cyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch rhwng Cymru a’r DU yn dal yn gyfyng mewn cyd-destun hanesyddol, gyda Chymru’n perfformio’n well na nifer o ranbarthau’r DU.

Mae COVID-19 wedi cael effeithiau niweidiol ar y farchnad lafur, ac mae hynny wedi cael effaith anghymesur ar grwpiau a oedd eisoes o dan anfantais. Mae hyn yn cynnwys pobl mewn swyddi sy’n talu’n wael, mewn swyddi llai diogel, pobl ifanc, pobl sy’n cyrraedd diwedd eu bywyd gwaith, a phobl mewn grwpiau amrywiol a oedd eisoes yn profi anghydraddoldebau yn y farchnad lafur. Mae dadansoddiad pellach o’r effaith ar anghydraddoldebau ar gael yn y bennod Cymru sy'n Fwy Cyfartal.

Image
Siart linell yn dangos bod y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed wedi cynyddu rhywfaint ar gyfer Cymru a’r DU rhwng 1999 a 2019 (gyda gostyngiad o gwmpas 2008-2010), ond roedd gostyngiad diweddar ar gyfer y ddwy gyfradd yn ystod pandemig Covid-19.
Image
Siart linell yn dangos gostyngiad cyffredinol yn y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru a’r DU rhwng 1999 a 2019, gyda chynnydd mwy diweddar ar gyfer Cymru.

Cyfranogiad mewn addysg a’r farchnad llafur

Cyn y pandemig, roedd cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur wedi cynyddu ers y dirwasgiad. Mae’n rhy gynnar i asesu effaith y pandemig ar y duedd hon. 

Gan ddefnyddio’r prif fesur o bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, bu cynnydd ymysg pobl ifanc 19 i 24 oed cyn y pandemig. Ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed, cynyddodd y gyfran ychydig rhwng 2008 a 2012, ac mae wedi amrywio rhwng 89% a 90% yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd y grŵp oedran 19 i 24 yn teimlo effaith y dirwasgiad yn 2008 yn fwy amlwg. Ers hynny, mae’r gyfran mewn addysg neu yn y farchnad lafur wedi bod yn cynyddu’n gyffredinol, er ei bod wedi sefydlogi yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.  Ar ddiwedd 2019, roedd y gyfradd yn 84.3%, tua 7 pwynt canran yn uwch nag yn 2012.

Mae menywod 16 i 18 oed yn fwy tebygol na dynion o fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Yn y grŵp oedran 19 i 24, mae cyfraddau cyfranogiad dynion yn uwch na menywod fel arfer, er bod y bwlch wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae ffigurau mwy diweddar am bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar gael o ffynhonnell eilaidd, llai cadarn. Mae’r rhain yn awgrymu cynnydd ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed a 19 i 24 oed yn 2020.

Image
Siart linell yn dangos bod canran y bobl 16-18 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi aros ar tua 89-90% dros y 15 mlynedd diwethaf, gyda'r gyfran gyfatebol o 19-24 yn cynyddu yn y blynyddoedd cyn y pandemig.

Enillion

Yn seiliedig ar y ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’ answyddogol, mae gan Gymru fwy o bobl mewn gwaith sy’n talu’n wael na rhannau eraill o’r DU, ond mae’r gyfran yn debyg i nifer o ranbarthau yng ngogledd Lloegr. 

Mae’r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyfrifo gan y Living Wage Foundation a bennodd y fethodoleg (sydd wedi newid ers cyhoeddiadau blaenorol). Ei nod yw adlewyrchu costau byw. Yn y cyfnod diweddaraf (Ebrill 2020), roedd 22.4% o weithwyr yng Nghymru yn ennill llai na’r cyflog byw gwirioneddol. Mae’r gyfran hon wedi gostwng o 23.1% yn 2012, pan gyflwynwyd y cyflog byw, ond nid oes patrwm clir dros amser.

Mae’n llawer mwy cyffredin i weithwyr rhan amser ennill llai na’r cyflog byw gwirioneddol o’u cymharu â gweithwyr amser llawn (38.6% o’i gymharu â 15.7%).

Mae tua 30% o weithwyr yn dod o dan drefniadau cydfargeinio, lle mae cyflog ac amodau’n cael eu negodi rhwng cyflogwr ac undeb llafur. Mae’r gyfran hon wedi bod yn gostwng, ond mae’n dal yn uwch yng Nghymru nag mewn llawer o ardaloedd yn Lloegr.

Dros y tymor hwy, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi bod yn gostwng. Fodd bynnag, cododd yn 2018, gan ddisgyn yn ôl i 6.2% yn 2019 ac i’r lefel isaf erioed o 4.3% yn 2020. Nid yw’r bylchau hyn yn ystyried gwahaniaethau mewn lefelau addysg a phrofiad, sy’n amrywio ar draws y rhywiau ac yn effeithio ar lefelau enillion.

Image
Siart linell yn dangos bod y gwahaniaeth canrannol mewn enillion rhwng dynion a menywod wedi gostwng yn gyffredinol ar gyfer Cymru a’r DU ers 1999, gyda llai o fwlch yng Nghymru nag yn Lloegr yn y blynyddoedd diwethaf.

Ansawdd gwaith

Mae’r dystiolaeth ar ansawdd gwaith yn awgrymu darlun cymysg yng Nghymru.

Mae tystiolaeth yn yr arolwg sy’n awgrymu bod gweithwyr yn dweud bod rhai agweddau ar swyddi yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn well nag ar gyfer y DU gyfan. Mae’r agweddau hyn yn cynnwys perthnasoedd â rheolwyr, ymwneud â phenderfyniadau sefydliadol a lefelau uchel o ddisgresiwn o ran tasgau. Fodd bynnag, roedd yr un arolwg yn awgrymu mai gweithwyr Cymru oedd â’r lefelau uchaf o straen ym Mhrydain.

Y dangosydd cenedlaethol ar gyfer ansawdd cyflogaeth yw canran y bobl sy’n cael eu cyflogi ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy’n ennill mwy na dwy ran o dair o gyflog canolrifol y DU.

Yn 2020, roedd 70.7% o bobl mewn gwaith yn bodloni’r diffiniad hwn. Mae’r ffigur hwn wedi bod yn cynyddu’n gyffredinol ers 2016.

Mae canran y bobl sy’n fodlon ar eu swydd yr un fath fwy neu lai, sef 82% yn 2019-20. Mae bodlonrwydd mewn swydd yn tueddu i gynyddu gydag oedran.

Image
Siart bar sy'n dangos canran y bobl mewn cyflogaeth sy'n ennill mwy na 2/3 o gyflog cyfartalog canolrifol y DU. Yn 2020, roedd 70.7% o bobl mewn cyflogaeth yn bodloni'r diffiniad hwn. Mae'r ffigur hwn wedi bod yn cynyddu ar y cyfan ers 2016.

Tlodi ac amddifadedd

Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 15 mlynedd, ac mae’n is na’r cyfraddau yn ystod y 1990au. 

Pobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yw’r rheini sy’n byw mewn aelwyd lle mae cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm cyfartalog aelwydydd y DU (fel sy’n cael ei roi gan y canolrif).

Mae plant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r boblogaeth yn gyffredinol. Roedd cynnydd bychan yng nghyfradd y plant mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai) yn y data mwyaf diweddar, hyd at 31% yn 2017-2020. Mae tlodi incwm cymharol ar gyfer oedolion o oedran gweithio yn parhau’n gyson yng Nghymru ond mae’n dal yn uwch na’r hyn a welir mewn gwledydd eraill yn y DU. Gostyngodd canran y pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol 1 pwynt canran am yr ail gyfnod yn olynol yn dilyn cynnydd graddol ers tua 2013.

Yn y cyfnod diweddaraf, roedd 71% o blant a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw mewn aelwydydd sy’n gweithio (tua 140,000 o blant). Mae hyn wedi cynyddu yn ystod y pum cyfnod diwethaf, o 60% yn y cyfnod 2012 i 2015.

Ystyrir bod person mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol mewn o leiaf tair o bob pedair blynedd yn olynol. Roedd tebygolrwydd o 12% y byddai unigolyn yng Nghymru mewn tlodi parhaus rhwng 2015 a 2019 (ar ôl talu costau tai). Roedd plentyn yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi parhaus, sef 15%.

Mae amddifadedd materol yn fesur o safonau byw a diffinnir bod person yn byw mewn amddifadedd materol os nad yw ef neu hi yn gallu cael gafael ar nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau. Aelwydydd incwm isel yw’r rheini y mae cyfanswm incwm yr aelwyd yn llai na 70% o incwm cyfartalog aelwydydd y DU, cyn talu costau tai. Roedd 14% o blant a oedd yn byw yng Nghymru rhwng 2017-18 a 2019-20 mewn amddifadedd materol ac aelwydydd incwm isel. Mae hyn yn gynnydd o dri phwynt canran o’i gymharu â’r hyn a adroddwyd y llynedd, ond gall tueddiadau fod yn anwadal. Roedd 7% o bensiynwyr a oedd yn byw yng Nghymru rhwng 2017-18 a 2019-20 mewn amddifadedd materol.

Image
Siart linell yn dangos bod cyfrannau’r rhai mewn tlodi incwm cymharol (yn ôl oedran) yn is ar y cyfan nag yn y 1990au, ond maent wedi aros yn gymharol sefydlog yn y blynyddoedd diwethaf. Plant yw’r grŵp sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol yn gyson a phensiynwyr yw’r rhai lleiaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol erbyn hyn.

Cymwysterau

Mae proffil cymwysterau poblogaeth Cymru wedi bod yn gwella dros amser.

Sgiliau a chymwysterau yw'r un dylanwad mwyaf ar siawns pobl o fod mewn gwaith ac ar eu hincwm.

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod cynnydd o hyd yn y gyfran o bobl sy’n meddu ar gymwysterau lefelau uwch. Yn 2020, roedd 41.4% o oedolion o oedran gweithio yn gymwys i lefel addysg uwch o leiaf (a elwir yn lefel 4 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol), i fyny o 38.8% y flwyddyn flaenorol. Y newid yng nghyfran yr oedolion o oedran gweithio yng Nghymru sy’n meddu ar gymwysterau lefel 4 neu uwch oedd y cynnydd mwyaf o un flwyddyn i’r llall ers i’r ystadegau ddechrau cael eu cyfrifo o dan y diffiniad o’r boblogaeth oedran gweithio rhwng 18 a 64 oed yn 2008.

Dros y degawd diwethaf, bu gostyngiadau mawr yng nghyfran y bobl o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau, ac mae’r ffigur bellach yn 7.3%.

Mae oedolion hŷn yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau nag oedolion iau.

Mae cyfran uwch o ddynion na menywod heb unrhyw gymwysterau ym mhob grŵp oedran bron. Mae menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau lefel 4 neu uwch.

Image
Siart linell yn dangos bod cyfran y boblogaeth o oedran gweithio heb gymwysterau wedi gostwng yn raddol rhwng 2008 a 2020 a bod y gyfran sydd â chymhwyster NQF lefel 4 neu uwch wedi cynyddu.

Cyrhaeddiad mewn ysgolion

Mae cyrhaeddiad mewn ysgolion uwchradd wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf, er bod deilliannau plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal yn waeth.

Yn 2019, roedd tua chwech o bob deg o blant 4 oed ar lefel ddatblygu ddisgwyliedig neu uwch ar gyfer eu hoedran mewn mathemateg ac iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn Saesneg. Roedd tua naw o bob deg o blant o fewn un cam o’u datblygiad disgwyliedig. Mae’r ffigurau hyn yn debyg i’r flwyddyn flaenorol.

Mae’r darlun yn wahanol ar gyfer iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn Gymraeg, lle’r oedd tua un o bob tri o blant ar gam a oedd yn gyson â’u datblygiad. Mae hyn oherwydd bod plant o deuluoedd di-Gymraeg wedi cofrestru mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Er mwyn rhoi cyd-destun i hyn, erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen, pan fydd plant yn 7 oed, mae tua 82% yn cyrraedd y lefel ddisgwyliedig.

Mae’r dangosydd dosbarthu graddau TGAU ar berfformiad ysgolion uwchradd yn canolbwyntio ar ganlyniadau TGAU disgyblion blwyddyn 11 ar draws pob pwnc. Yn 2019/20, roedd canran yr ymgeiswyr a gafodd A*-A, A*-C ac A*-G yr uchaf ers 2014/15, gyda’r cynnydd yn y flwyddyn ddiweddaraf yn fwy nag ym mhob blwyddyn arall. Roedd y deilliannau’n is i ddisgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Mae merched yn parhau i berfformio’n well na bechgyn ym mhob un o’r pum dangosydd yng Nghyfnod Allweddol 4.

Yn dilyn canslo arholiadau cyhoeddus yn yr haf 2020, mae'r holl raddau a fyddai wedi cael eu dyfarnu yn dilyn arholiad wedi cael eu disodli gan y radd orau o'r radd aseswyd gan y ganolfan (CAG) neu'r radd safonol a gyfrifwyd gan CBAC.

Image
Siart far yn dangos bod canran yr ymgeiswyr a gafodd A*-G yn is ar gyfer y rheini sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim na’r rheini nad ydynt yn gymwys, ar gyfer pob un o’r 5 mlynedd diwethaf. Fe wnaeth y bwlch hwn leihau yn 2019/20.

Allyriadau nwyon tŷ gwydr o fusnesau

Mae rheoli’r rhyngweithio rhwng twf economaidd ac economi arloesol, carbon isel yn gymhleth ac yn arwain at heriau, ond mae arwyddion cadarnhaol.

Meddwl am syniadau newydd a ffyrdd gwell o wneud pethau yw’r ffordd bwysicaf o wella cynhyrchiant ac, o bosibl, lleihau allyriadau carbon.

At ei gilydd, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi gostwng 31% ers y flwyddyn sylfaen. Y sector busnes yw’r ail ffynhonnell fwyaf (ar ôl cyflenwi ynni) sy’n cyfrif am bron i chwarter allyriadau Cymru. Mae allyriadau o’r sector hwn wedi gostwng yn sylweddol ers 1990 (gostyngiad o 32%), ond mae allyriadau busnes wedi cynyddu 7% rhwng 2018 a 2019.

Image
Siart linell yn dangos gostyngiad sylweddol mewn Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr gan fusnesau yng Nghymru oddeutu 1999-2002 ac mae wedi aros yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.

Modd trafnidiaeth

Mae rhai dulliau o deithio’n cyfrannu’n sylweddol at allyriadau carbon, ond nid oes tystiolaeth o symud oddi wrth geir fel y prif ddull o deithio eto.

Cyn y pandemig, ac ar ôl adfer yn araf ar ôl y dirwasgiad yn 2008, mae’r duedd hirdymor i ddefnyddio mwy o drafnidiaeth yng Nghymru wedi ailgydio, gan effeithio ar bob dull ac eithrio bysiau (lle mae’r defnydd wedi lleihau). Mae teithio wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y pandemig, ac mae data’r DU yn awgrymu bod hyn wedi effeithio ar bob dull ar wahân i gerdded a beicio. Mae hyn wedi effeithio’n arbennig o ddifrifol ar drafnidiaeth gyhoeddus. 

Fel yn y rhan fwyaf o rannau eraill o’r DU y tu allan i Lundain, trafnidiaeth ffyrdd breifat yw’r brif ffordd o deithio o hyd, ac mae’n cyfrif am y mwyafrif llethol o deithiau cymudo yng Nghymru.

Yn 2019, defnyddiodd pedwar o bob pump o gymudwyr yng Nghymru gar fel eu dull arferol o deithio, gostyngiad bach ers y ffigur uchaf o 84% yn 2013.

Bu cynnydd sylweddol yn nifer y cerbydau allyriadau isel iawn sydd newydd gael eu cofrestru yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’r nifer bron yn treblu rhwng 2019 a 2020 i dros 3,600.

Mae cyfran y bobl sy’n cerdded neu’n beicio i’r gwaith, yn teithio ar y trên ac yn defnyddio bysiau wedi aros yn weddol sefydlog dros y 15 mlynedd diwethaf (er bod cyfran y niferoedd sy’n defnyddio trenau wedi cynyddu mewn trafnidiaeth gyhoeddus, a’r nifer sy’n defnyddio bysiau wedi gostwng).

Dros amser, gallai dibynnu llai ar gerbydau petrol a disel a defnyddio mwy o gerbydau allyriadau isel iawn gyfrannu at ostyngiad mewn allyriadau.

Image
Siart gylch yn dangos bod y mwyafrif helaeth (80%) o bobl yng Nghymru yn teithio i’r gwaith mewn car yn 2019, roedd 10% yn cerdded ac roedd y gweddill yn teithio i’r gwaith ar fws, trên neu feic.

Cymru gydnerth

Awdur: Luned Jones

Y nod: Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, newid yn yr hinsawdd).

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Cafodd yr ail Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020, a chyhoeddwyd y penodau tystiolaeth ym mis Mawrth 2021. Mae’r adroddiad yn asesu cynnydd yn erbyn pedwar nod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy sydd, o edrych arnynt gyda’i gilydd, yn dangos sut mae’r ffordd mae Cymru’n defnyddio adnoddau naturiol yn effeithio ar gymdeithas, economi a’r amgylchedd. Dyma gasgliadau cyffredinol yr adroddiad:

  • Mae Cymru’n defnyddio adnoddau naturiol ar gyfradd anghynaliadwy ac nid yw wedi cyflawni’r nod o wella a diogelu adnoddau naturiol.
  • Mae amrywiaeth, hyd a lled, cyflwr a chysylltedd y rhan fwyaf o ecosystemau Cymru yn golygu bod ganddynt gadernid isel ar y cyfan.
  • Mae mwy i’w wneud o hyd i wneud yn siŵr bod lleoedd iach i bobl, sy’n cael eu diogelu rhag risgiau amgylcheddol.
  • Mae gan Gymru gryn ffordd i fynd i sicrhau economi adfywiol.

O’r dangosyddion cenedlaethol diweddaraf:

  • Mae’r asesiad risg llifogydd diweddaraf yn dangos bod tua 245,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd oherwydd moroedd, afonydd a dŵr wyneb.
  • Roedd crynodiad cyfartalog llygryddion aer wedi aros yn weddol sefydlog rhwng 2019 a 2020.
  • Parhaodd y gyfradd ailgylchu i gynyddu gyda bron i ddwy ran o dair o wastraff trefol yn cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio yn 2019-20. Roedd faint o wastraff trefol a gynhyrchwyd wedi gostwng 2%.
  • Roedd capasiti trydan wedi’i osod a chapasiti gwres wedi’i osod a oedd yn dod o ynni adnewyddadwy wedi cynyddu 5% yn eu tro. Mae’r trydan adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu tua hanner (51%) y trydan sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae data ar gyfer rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at nod Cymru Gydnerth. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau hirdymor i ansawdd aer, mwy o gapasiti ynni adnewyddadwy a gwelliannau sylweddol yng nghyfraddau ailgylchu gwastraff cartrefi. Fodd bynnag, mae dangosyddion eraill yn dangos bod amrywiaeth fiolegol yn dirywio ar y cyfan a bod y rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth yn ystod y can mlynedd diwethaf.

  • Mae’r asesiad cynhwysfawr diweddaraf o adnoddau naturiol Cymru yn dangos bod amrywiaeth fiolegol yn dirywio ar y cyfan.
  • Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen.
  • Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl.
  • Mae Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu gwastraff cartrefi, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.
  • Mae capasiti trydan wedi’i osod o ynni adnewyddadwy yn parhau i gynyddu ond yn arafach nag yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn ogystal â’r dangosyddion cenedlaethol, mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn darparu asesiad cynhwysfawr o gynnydd yn erbyn pedwar nod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Bioamrywiaeth

Mae colli bioamrywiaeth yn cyflymu’n fyd-eang ac ar gyfraddau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Er bod gwelliant wedi bod yn statws poblogaethau rhai rhywogaethau yng Nghymru, mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn dangos bod bioamrywiaeth yn dirywio ar y cyfan.

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn cadarnhau bod nifer o rywogaethau’n dirywio’n barhaus, gyda llai o fywyd gwyllt, mewn llai o leoedd.

Mae data rhywogaethau o’r Cynllun Monitro Gloÿnnod Byw yn dangos mai 2020 oedd y drydedd flwyddyn dda yn olynol ar gyfer gloÿnnod byw yng Nghymru. Ond yn y tymor hir roedd 31% o’r rhywogaethau a aseswyd yn dangos gostyngiad ystadegol arwyddocaol yn y tymor hir.

Mae tueddiadau Rhaglen Genedlaethol Monitro Ystlumod yn dangos bod poblogaethau’r rhywogaethau ystlumod sy’n cael eu monitro naill ai’n sefydlog neu’n cynyddu.

Mae cynnydd tymor hir wedi bod yn yr adar dŵr sy’n gaeafu hefyd. Fodd bynnag, mae llawer o rywogaethau eraill, yn enwedig adar tir amaeth, yn parhau i ostwng ac mae rhai cynefinoedd pwysig wedi cael eu colli.

Mae gwaith wedi cael ei gomisiynu drwy Raglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru ar ddatblygu’r dangosydd cenedlaethol ar Statws Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn wedi canolbwyntio ar gyfuno amcangyfrifon blynyddol yn un dangosydd newid yn nosbarthiad rhywogaethau â blaenoriaeth dros amser.

Mae dangosydd arbrofol a ddatblygwyd yn ddiweddar fel rhan o’r gwaith hwn yn dangos bod dosbarthiad rhywogaethau yng Nghymru wedi gostwng dros y tymor hi, ond wedi bod yn sefydlog yn fwy diweddar. Dros y cyfnod hir (1970-2016), bod y mynegai newid dosbarthiad ar gyfer rhywogaethau â blaenoriaeth adran 7 yng Nghymru wedi gostwng i 87% o’i werth sylfaenol ym 1970 (h.y. gostyngiad o 13% ym maint dosbarthu cyfartalog). Ystyrir hyn yn ostyngiad ystadegol arwyddocaol. Dros y cyfnod hir hwn, dangosodd 16% o rywogaethau gynnydd cryf neu wan a dangosodd 34% ddirywiad cryf neu wan. Dros y cyfnod byr (2011-2016), cynyddodd gwerth y dangosydd o 85 i 87 ac aseswyd ei fod yn sefydlog. Rhwng 2011 a 2016, roedd 35% o rywogaethau’n dangos cynnydd cryf neu wan ac roedd 19% yn dangos dirywiad cryf neu wan.

Canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru fod 54% o bobl yn credu bod gostyngiad wedi bod yn amrywiaeth y rhywogaethau yng Nghymru, gyda 29% arall yn meddwl na fu unrhyw newid. Roedd 63% yn credu y byddai gostyngiad yn y dyfodol.

Cynefin

Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen.

Yn adroddiad Llesiant Cymru 2019, fe wnaethom adrodd bod 31% o’n tir yn cael ei ystyried yn lled-naturiol. Defnyddir y dangosydd cenedlaethol hwn i asesu cyfran ein tir sydd â chynefinoedd lled-naturiol, wedi’u haddasu llai gan mai’r rhain sydd fwyaf tebygol o ffurfio ecosystemau iach a chryf. Bydd dangosydd wedi’i ddiweddaru ar gael yn 2023. Yn ystod cyfnod mor fyr, ni fyddem yn disgwyl i’r dangosydd hwn newid, er y gallai fod newidiadau wedi bod i’r cynefinoedd unigol sy’n ffurfio’r dangosydd cyfansawdd hwn.

Canfu’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2016 fod amrywiaeth yn dirywio ar y cyfan, fel y gwelir wrth golli cynefinoedd a rhywogaethau. Canfu nad oedd gan yr un ecosystem yng Nghymru yr holl nodweddion angenrheidiol ar gyfer cadernid. Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn adrodd am nodweddion cadernid ar gyfer pob ecosystem fel uchel, canolig neu isel i ganfod y patrymau cadernid sy’n dod i’r amlwg ar draws y dirwedd genedlaethol. Mae’r rhan fwyaf yn isel neu’n ganolig. Mae lefelau o’r fath yn peryglu gwasanaethau ecosystem hanfodol ac adferiad bioamrywiaeth, sy’n golygu nad yw Cymru’n gallu ymdopi ag effeithiau’r argyfwng hinsawdd a natur.

Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen. Ychydig iawn o gynefinoedd yng Nghymru y disgrifir eu bod mewn cyflwr da oherwydd nifer o bwysau. Er enghraifft, mae gorfaethu ac addasiadau ffisegol yn effeithio’n bennaf ar gynefinoedd dŵr croyw.

Ansawdd dŵr

Mae ansawdd ein dŵr, boed mewn moroedd, afonydd, nentydd neu’r ddaear, yn gwella’n gyffredinol.

Mae dŵr yn un o adnoddau naturiol Cymru rydym yn dibynnu arno’n gyson, gan gynnwys ar gyfer dŵr yfed, yr economi, diwydiant, trin carthffosiaeth ac amaethyddiaeth.

Yn 2020-21 roedd Dŵr Cymru a Dŵr Hafren Dyfrdwy wedi darparu tua 925 megalitr y dydd (Ml/d) o ddŵr yfed i ateb y galw, gyda mwy o alw yn ystod y cyfnodau prysuraf fel yn ystod tywydd sych a phoeth neu yn ystod cyfyngiadau aros gartref COVID-19. Amcangyfrifir bod cyfanswm y dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat (heb fod ar y prif gyflenwad) yn 13.8 Ml/d.

Wrth edrych ar y dangosydd cenedlaethol, sy’n cyfuno cyrff dŵr daear a dŵr wyneb, mae gan 40% o’r holl gyrff dŵr statws da neu well yn 2019. Adroddwyd ar ansawdd cyrff dŵr daear ddiwethaf yn 2015 a bydd yr adroddiad nesaf ar gael yn hwyrach eleni.

Mae ansawdd dŵr ymdrochi yn cael ei fonitro mewn 105 o safleoedd dynodedig ar hyd arfordir Cymru. Yn 2020, ar gyfer y trydydd tymor yn olynol, roedd holl ddyfroedd ymdrochi Cymru yn bodloni’r safonau a bennwyd gan y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi – cafodd 84 eu dyfarnu’n rhagorol, roedd 14 yn dda a 7 yn bodloni’r safon ofynnol, ddigonol.  

Image
Siart gylch yn dangos bod mwyafrif helaeth (80%) y dyfroedd ymdrochi yng Nghymru wedi cael eu hasesu fel rhai rhagorol yn 2020.

Perygl llifogydd

Mae’r asesiad risg llifogydd diweddaraf yn dangos bod rhai cartrefi yng Nghymru mewn perygl o lifogydd oherwydd moroedd, afonydd a dŵr wyneb.

Mae’r data diweddaraf ar asesu’r risg o lifogydd yn berthnasol i 2019, a chawsant eu diwygio yn 2021. Mae hyn yn dangos bod bron i 42,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd o afonydd a bod mwy na 60,000 o eiddo mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd llanw. Mae hyn yn cynnwys eiddo preswyl ac amhreswyl. O’r rhain, mae dros 20,000 yn elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd afonydd a dros 50,000 o amddiffynfeydd rhag llifogydd llanw.

Mae bron i 54,000 eiddo mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd dŵr wyneb, a achosir pan fydd dŵr glaw yn trwytho’r ddaear a systemau draenio.

Mae rhai eiddo mewn perygl o fwy nag un math o lifogydd. Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl cynhyrchu amcangyfrif llawn o gartrefi sydd mewn gwahanol lefelau o berygl yn sgil o leiaf un math o berygl llifogydd heb gyfrif yr eiddo hyn ddwywaith (neu deirgwaith) o bosibl.

Canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru fod bron i hanner y bobl (48%) yn poeni am lifogydd yn eu hardal leol, ac mae 86% yn poeni am lifogydd mewn rhannau eraill o Gymru. Mae’n ymddangos bod mwy a mwy yn pryderu ers i’r cwestiynau gael eu gofyn diwethaf yn 2018-19. Efallai fod y pryder cynyddol am lifogydd oherwydd y llifogydd helaeth a gafwyd yn ystod gaeaf 2019-20.

Ansawdd aer

Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl.

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar allyriadau nitrogen deuocsid (NO2) yn dangos bod lefelau crynodiad wedi bod yn gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf. Yn dilyn cynnydd bach yn 2016, mae crynodiadau cyfartalog wedi aros ar tua 9 µg/m3 yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Gostyngodd crynodiadau o ddeunydd gronynnol ar gyfartaledd (PM10 a PM2.5) i’w gwerthoedd isaf yn 2017, cyn cynyddu ychydig yn 2018 a 2019.

Ceir y crynodiadau uchaf o allyriadau nitrogen deuocsid mewn ardaloedd trefol a ger ffyrdd prysur, sy’n adlewyrchu cyfraniad traffig a gweithgareddau trefol at ansawdd aer gwael.

Mae llygredd aer yn cael effaith sylweddol ar iechyd y cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae 44 o ardaloedd rheoli ansawdd aer yng Nghymru. Mae un o’r rhain oherwydd lefelau gronynnau PM10 sy’n uwch na’r terfyn cymedrig blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl, a’r gweddill oherwydd bod y lefelau NO2 yn uwch na’r terfyn.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod baich dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor hir yn cyfateb i 1,000 i 1,400 o farwolaethau (ar oedrannau nodweddiadol) bob blwyddyn.

Image
Siart linell yn dangos bod ansawdd aer wedi gwella’n sylweddol ers y 1970au, er ei fod wedi aros yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.

Ailgylchu

Mae Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu gwastraff cartrefi, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.

Mae faint o wastraff trefol a gynhyrchir yng Nghymru wedi gostwng yn raddol ers dechrau’r 2000au, gyda gostyngiad o 2% rhwng 2018-19 a 2019-20.

Mae Cymru wedi gwneud gwelliannau mawr o ran rheoli gwastraff trefol dros y degawd diwethaf drwy gynyddu faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu, a lleihau faint sy’n cael ei waredu.

Erbyn hyn, mae Cymru’n cael ei chydnabod fel y wlad sydd â’r gyfradd ailgylchu gwastraff cartrefi uchaf yn y DU, yr ail uchaf yn Ewrop a’r trydydd uchaf yn y byd. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod bron i ddwy ran o dair (65.1%) o wastraff trefol wedi cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio yn 2019-20. Mae hyn yn gynnydd o ddau bwynt canran o’i gymharu â blwyddyn yn gynharach.

Yn ôl SoNaRR 2020, cafodd amcangyfrif o 8.9 miliwn tunnell o wastraff ei gynhyrchu yng Nghymru yn 2018, heb gynnwys gwastraff o fwyngloddio a chwarela, amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota. Daeth ychydig dros hanner y gwastraff hwn o’r sector adeiladu a dymchwel. Cafwyd gostyngiad ystadegol arwyddocaol yn y gwastraff a gynhyrchir gan gartrefi, diwydiant a masnach o’i gymharu â 2012. Ond mae’n anodd asesu’r duedd o ran cyfanswm y gwastraff a gynhyrchir gan nad oes set ddata gynhwysfawr reolaidd.

Mae lleihau ac ailddefnyddio gwastraff yn un ffordd o leihau faint o adnoddau rydym yn eu defnyddio. Yn ôl amcangyfrifon 2015, pe bai pawb ar y blaned yn defnyddio’r un faint â chyfartaledd Cymru, byddai angen 2.5 planed arnom i ddarparu’r adnoddau angenrheidiol ac amsugno’r gwastraff.

Mae ôl troed ecolegol gwlad yn dangos cyfanswm y baich amgylcheddol y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned. Mae ôl troed ecolegol Cymru, sef 10.05 miliwn hectar global, tua phum gwaith maint Cymru.

Image
Siart far yn dangos bod canran y gwastraff trefol a gafodd ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio yng Nghymru wedi cynyddu’n gyffredinol o 32.4% yn 2012-13 i 65.1% yn 2019-20.

Cynhyrchu ynni adnewyddadwy

Mae capasiti prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy wedi codi yn y degawd diwethaf er bod y cynnydd wedi arafu dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd tua 27% o’r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru yn deillio o ffynonellau adnewyddadwy yn 2019. Mae’r trydan adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu yn cyfateb i ychydig dros hanner (51%) y trydan sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru.

Ar ddiwedd 2019, roedd y capasiti trydan wedi’i osod ar gyfer ynni adnewyddadwy yn 3,372 megawat (MW). Mae hyn 5% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol a thros ddwywaith y capasiti yn 2012.

Mae ynni gwynt yn cyfrif am bron i 59% y capasiti trydan adnewyddadwy.

Mae Cymru’n cynhyrchu bron i ddwywaith y trydan y mae’n ei ddefnyddio, sy’n golygu ei bod yn allforiwr net trydan.

Ar ddiwedd 2019, roedd cyfanswm y capasiti gwres adnewyddadwy yng Nghymru yn 686MW. Mae hyn 5% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol a thros un ar ddeg gwaith y capasiti gwres yn 2012.

Image
Siart far yn dangos cynnydd sylweddol cyffredinol yn y capasiti trydan a gwres adnewyddadwy yng Nghymru rhwng 2012 a 2019.

Cymru iachach

Awdur: Rachel Dolman

Y nod: Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle mae modd deall dewisiadau ac ymddygiad sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

  • Er bod disgwyliad oes yn uwch i fenywod, mae cyfran y bywyd sy’n cael ei dreulio mewn iechyd da yn uwch i ddynion (78% i ddynion o’i gymharu â 75% i ferched).
  • COVID-19 oedd y prif reswm dros gynnydd yn nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yn 2020, a dyma oedd prif achos cyffredinol y marwolaethau. Roedd marwolaethau nad oeddent o ganlyniad i COVID-19 ychydig yn is na chyfartaledd 2015 i 2019.
  • Mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd broblemus yn uwch ymysg merched na bechgyn mewn ysgolion uwchradd, ac mae’n cynyddu gydag oedran.
  • Roedd y profiad o seiberfwlio a gofnodwyd yn uwch ymysg merched na bechgyn.
  • Mae canran fechan o oedolion yn dweud eu bod yn dilyn llai na dau ymddygiad ffordd o fyw iach. Nid yw canran y plant sy’n rhoi gwybod am hyn wedi newid.
  • Roedd tua un o bob chwech o fenywod beichiog yn ysmygu ac roedd dros chwarter yn ordew yn eu hasesiad cychwynnol. Roedd cyfraddau ysmygu yn gostwng gydag oedran, o tua un o bob tri o fenywod beichiog o dan 20 oed i un o bob deg o fenywod dros 35 oed.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae’n anodd pennu’r cynnydd cyffredinol sy’n cael ei wneud tuag at y nod ers Deddf 2015, gan nad yw data sy’n cwmpasu cyfnod digon hir o amser neu nifer digonol o ddata ar gael ar gyfer llawer o’r dangosyddion eto. Mae’r data dangosyddion diweddaraf ar ddisgwyliad oes iach yn cwmpasu 2010-2014, ond mae data o ffynonellau eraill yn awgrymu na fu unrhyw newid sylweddol mewn disgwyliad oes iach ar enedigaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd y newid ym modd Arolwg Cenedlaethol Cymru, lle mae data dangosyddion wedi cael eu casglu, nid yw data ynghylch tueddiadau cymaradwy ar gael mwyach.

  • Bu disgwyliad oes yn codi, er ei fod ar gyflymder arafach yn ystod y degawd diwethaf. Fodd bynnag, mae wedi gostwng am y cyfnod diweddaraf, gan adlewyrchu effaith y pandemig COVID-19.
  • Mae disgwyliad oes iach yn parhau i fod yn waeth i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, ond nid oes tystiolaeth bod y bwlch hwnnw’n cynyddu.
  • Oherwydd y newid ym modd Arolwg Cenedlaethol Cymru ac oherwydd bod rhai o’r cwestiynau wedi cael eu haddasu, nid yw’n bosibl ystyried tueddiadau ar gyfer mesurau ffordd o fyw iach i oedolion. Cyn y pandemig, rhwng 2016-18 a 2019-20, nid oedd newid sylweddol yng nghyfran yr oedolion a ddywedodd fod ganddynt lai na dau ymddygiad ffordd o fyw iach.
  • Mae cyfraddau ysmygu ac yfed plant wedi gostwng yn sylweddol dros y tymor hwy, ond wedi sefydlogi dros y blynyddoedd diwethaf. Mae canran y plant sy’n dilyn llai na dau o’r pedwar ymddygiad ffordd iach o fyw yn parhau i fod yn 12%.
  • Nid yw’r prif fesurau llesiant meddyliol wedi cael eu casglu ers dechrau’r pandemig. Ychydig iawn o newid oedd yn y data a gasglwyd ar gyfer plant cyn COVID-19 dros y blynyddoedd diwethaf. Mae lefelau bodlonrwydd ar fywyd oedolion ar y cyfan wedi dirywio ychydig o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.
  • Mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni gyda phwysau geni isel wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn y ffigurau isaf yn 2014 a 2015.

Disgwyliad oes

Bu disgwyliad oes yn codi, er ei fod ar gyflymder arafach yn ystod y degawd diwethaf. Fodd bynnag, mae wedi gostwng am y cyfnod diweddaraf, gan adlewyrchu effaith y pandemig COVID-19.

Disgwyliad oes adeg geni oedd 82.1 mlynedd am fenywod a 78.3 mlynedd am ddynion ar gyfer 2018-20. Roedd hyn yn ostyngiad bach ar gyfer dynion a menywod, yn dilyn cyfraddau marwolaeth uwch yn 2020 sy'n gysylltiedig â’r pandemig COVID-19. Mae hyn yn dilyn arafiad mewn gwelliannau disgwyliad oes ers tua 2011 yn dilyn lawer o flynyddoedd o gynnydd cyn hyn.

Image
Siart linell yn dangos bod cynnydd mewn disgwyliad oes ar gyfer dynion a menywod wedi arafu dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae wedi gostwng am y cyfnod diweddaraf, gan adlewyrchu effaith y pandemig COVID-19.

Anghydraddoldebau yn nisgwyliad oes a marwolaethau

Mae llawer o anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes a marwolaeth o hyd.

Mae gwaith dadansoddi diweddar (ar sail 2017-2019) yn dangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes iach (fel y’i mesurir gan Fynegai Goleddol Anghydraddoldeb) rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig wedi aros yn sefydlog – 17.0 mlynedd ar gyfer dynion a 18.3 blynedd ar gyfer menywod.

Mae’r bwlch disgwyliad oes yn llawer llai, sef 9.0 mlynedd i ddynion a 7.4 mlynedd i fenywod. Y rheswm am hyn yw bod y rheini sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn treulio cyfran fwy o lawer o’u bywydau mewn afiechyd. Mae’r bwlch rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig wedi aros yn sefydlog.

Yn 2019, roedd cyfran y marwolaethau roedd modd eu hosgoi wedi parhau i fod yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’i gymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Roedd marwolaethau roedd modd eu hosgoi yn cyfrif am 39.4% o’r holl farwolaethau ymysg dynion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’i gymharu â 18.9% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Ar gyfer menywod, roedd y ffigurau cyfatebol yn 27.6% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a 12.4% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mae data’r dangosydd diweddaraf ar ddisgwyliad oes iach yn cwmpasu 2010-2014. Mae data o ffynonellau eraill ar gyfer 2017 i 2019 yn awgrymu nad oedd newid sylweddol mewn disgwyliad oes iach ar enedigaeth i ddynion na menywod ers 2014 i 2016.

Image
Siart linell yn dangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes a’r disgwyliad oes iach ar gyfer dynion a menywod wedi aros yn weddol gyson rhwng 2011-2013 a 2017-2019

Achosion marwolaethau

Arweiniodd COVID-19 at gynnydd yn nifer y marwolaethau yn 2020, gyda marwolaethau o ganlyniad i achosion eraill yn is na’r cyfartaledd.

COVID-19 oedd y prif reswm dros gynnydd yn nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yn 2020, a dyma oedd prif achos cyffredinol y marwolaethau. Roedd marwolaethau nad oeddent yn ganlyniad i COVID-19 ychydig yn is na chyfartaledd 2015 i 2019.

Roedd y nifer uchaf nesaf yn sgil dementia a chlefyd Alzheimer (gyda marwolaethau uwch na’r cyfartaledd) a chlefyd isgemia’r galon (gyda marwolaethau is na’r cyfartaledd). Roedd llai o farwolaethau na’r disgwyl o ganlyniad i’r ffliw a niwmonia, sy’n debygol o fod yn rhannol oherwydd bod cadw pellter cymdeithasol wedi lleihau’r lledaeniad.

Roedd y gyfradd marwolaethau safonedig yn ôl oedran oherwydd COVID-19 am y 14 mis rhwng mis Mawrth 2020 ac Ebrill 2021 yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig bron ddwywaith y gyfradd marwolaethau yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Er bod patrwm tebyg i’w weld ar gyfer marwolaethau o bob achos, mae’r gwahaniaeth ar gyfer marwolaethau oherwydd COVID-19 yn fwy.

Mae’r cyfraddau ar gyfer marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ar eu hisaf ers 2014. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod oedi wrth gofrestru marwolaethau yn effeithio ar y ffigurau diweddaraf. Roedd cofrestriadau 2019 yn dangos bod y cyfraddau  hunanladdiad yn dal yn sefydlog ar y cyfan ond roedd gostyngiad bach i fenywod, gan ddychwelyd at y gyfradd a welwyd yn 2017. Mae’r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos nad oedd cyfraddau hunanladdiad ar draws Cymru a Lloegr gyda’i gilydd wedi cynyddu yn ystod cyfnod cynnar y pandemig. Roedd cyfraddau hunanladdiad yn is rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2020 (y don gyntaf o COVID-19 yng Nghymru a Lloegr) o’i gymharu â’r un cyfnod mewn blynyddoedd blaenorol.

Mae data dros dro ar gyfer 2020 yn awgrymu efallai y bydd cynnydd yn nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol, er nad yw’r data’n dweud wrthym a fu cynnydd yn y gyfradd.

Image
Siart dymbel yn dangos 10 prif achos marwolaeth yn 2020, ac yn cymharu â chyfartaledd 2015-19

Babanod pwysau geni isel

Mae canran y babanod â phwysau geni isel wedi cynyddu rhywfaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae cynnydd bychan wedi bod yng nghyfran y babanod sy’n cael eu geni gyda phwysau geni isel yn y blynyddoedd diwethaf, gyda’r nifer uchaf erioed yn 2020. Mae hyn yn dilyn y ffigurau isaf a gofnodwyd yn 2014 a 2015.

Mae gwaith dadansoddi blaenorol wedi dangos bod y gyfran yn cynyddu gydag amddifadedd, gyda 7.4% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig wedi cael eu geni gyda phwysau geni isel yn 2017 o'i gymharu â 3.9% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Roedd tua un o bob chwech (17%) o fenywod beichiog yn ysmygu ac roedd dros chwarter (29%) yn ordew yn eu hasesiad cychwynnol.

Mae’r cyfraddau ysmygu ar gyfer menywod beichiog yn gostwng gydag oedran o tua un o bob tair menyw o dan 20 oed i un o bob deg menyw dros 35 oed.

Cynyddodd nifer y genedigaethau rhwng 2001 a 2012, ond mae wedi gostwng ers hynny. Mae’r gyfradd ffrwythlondeb yng Nghymru ar y lefel isaf erioed ac mae’n dal yn is na Lloegr.

Image
Siart linell yn dangos cynnydd yng nghanran y genedigaethau byw unig blant gyda phwysau geni o dan 2,500g o’i gymharu â 2005

Ymddygiadau ffordd o fyw iach

Mae canran fechan o oedolion yn dilyn llai na dau ymddygiad ffordd o fyw iach.

Cafodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2020-21 ei addasu oherwydd y pandemig, gyda newid ym modd yr arolwg a newidiadau i rai cwestiynau o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Gan fod y pynciau hyn yn gallu bod yn sensitif i newidiadau o’r fath, nid yw’n bosibl cymharu’r canlyniadau â data o flynyddoedd blaenorol. Mae’r data a gyflwynir yma ar gyfer chwarter 4 (mis Ionawr i fis Mawrth) 2020-21:

  • roedd y cyfraddau ysmygu yn 14%
  • roedd 17% o oedolion yn yfed mwy na’r hyn a awgrymir yn y canllawiau wythnosol
  • roedd 31% o oedolion (16 oed a hŷn) yn bwyta pum dogn o ffrwythau neu lysiau y dydd, yn unol â’r hyn a argymhellir, yn 2020-21
  • roedd tua 7% o oedolion yn dweud eu bod yn dilyn llai na dau ymddygiad ffordd o fyw iach

Roedd tueddiadau blaenorol yn dangos nad oedd newid sylweddol yng nghyfran yr oedolion a ddywedodd fod ganddynt lai na dau ymddygiad ffordd o fyw iach rhwng 2016-17 a 2019-20.

Gostyngodd cyfraddau ysmygu ac yfed ymhlith plant yn sylweddol rhwng 2002 a 2014, ond mae’r lefelau wedi bod yn debyg iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Nid yw canran y plant sy’n dilyn llai na dau ymddygiad ffordd o fyw iach wedi newid eleni (12%).

Image
Siart linell yn dangos canran y plant sy’n yfed o leiaf unwaith yr wythnos ac sy’n ysmygu o leiaf unwaith yr wythnos, rhwng 1986 a 2020.

Gweithgaredd corfforol

Nid yw llawer ohonom yn bodloni canllawiau gweithgarwch corfforol.

Mae 51% o oedolion yn bodloni’r canllawiau gweithgarwch corfforol. Oherwydd y newid yn Arolwg Cenedlaethol Cymru, ni ellir cymharu’r canlyniadau diweddaraf â chanlyniadau arolygon blaenorol. Roedd tueddiadau blaenorol yn dangos nad oedd newid sylweddol mewn lefelau gweithgarwch corfforol rhwng 2016-17 a 2019-20.

Mae lefelau gweithgarwch corfforol yn gostwng yn yr ysgol uwchradd. Roedd 23% o’r rheini ym mlwyddyn 7 yn bodloni’r canllawiau ar gyfer plant o’i gymharu ag 11% ym mlwyddyn 11.

Roedd ychydig dros draean y plant 11 i 16 oed yn cerdded neu’n beicio i’r ysgol, gyda’r rheini o deuluoedd mwy cefnog yn fwy tebygol o gerdded neu feicio.

Image
Siart far yn dangos canran y plant yn y grwpiau blwyddyn 7 i 11 sy’n bodloni’r canllawiau gweithgarwch corfforol a argymhellir a chanran yr oedolion sy’n bodloni’r canllawiau, yn ôl grŵp oedran. Mae’r ganran yn gostwng gydag oedran ar gyfer oedolion a phlant.

Iechyd meddwl a llesiant

Drwy gydol y pandemig mae pobl wedi bod yn poeni am eu hiechyd meddwl a’u llesiant.

Oherwydd y pandemig, nid yw’r dangosydd cenedlaethol ar lesiant meddyliol (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick Edinburgh ar gyfer oedolion) wedi cael ei ddiweddaru fel y bwriadwyd eleni. Roedd y data diweddaraf ar gyfer 2018-19 yn dangos cynnydd bach mewn lles meddyliol o’i gymharu â 2016-17, ond mae COVID-19 a’r mesurau a ddefnyddiwyd i’w reoli yn debygol o fod wedi cael effaith niweidiol ar lesiant meddyliol.

Mae arolygon ymgysylltu Iechyd Cyhoeddus Cymru a gynhaliwyd drwy gydol y pandemig wedi dangos bod pobl yn poeni am iechyd meddwl ac mae tua thraean o oedolion wedi dweud bod eu hiechyd meddwl yn waeth nag oedd cyn y pandemig. Roedd mwy o drigolion mewn cymunedau mwy difreintiedig, menywod a grwpiau oedran iau yn poeni ynghylch iechyd meddwl a llesiant.

Roedd bodlonrwydd ar fywyd ar gyfartaledd wedi bod yn cynyddu ers 2011-12, gyda lefelau gorbryder yn gostwng rhywfaint ar gyfartaledd. Fodd bynnag, yn y data diweddaraf a gasglwyd cyn pandemig y coronafeirws, nodwyd rhywfaint o ostyngiad mewn lefelau bodlonrwydd ar fywyd a gorbryder.

Mae gwaith dadansoddi ar gyfer y DU wedi dangos bod lefelau bodlonrwydd ar fywyd yn uwch ymhlith y rheini sy’n gweithio, sy’n briod neu sy’n mwynhau iechyd da.

Mae data dangosyddion cenedlaethol ar gyfer plant rhwng 10 a 15 oed, a gasglwyd cyn y pandemig, yn dangos mai ychydig o newid sydd wedi bod yn sgôr gymedrig yr holiadur cryfder ac anawsterau. Mae llesiant meddyliol a bodlonrwydd ar fywyd plant 11 i 16 oed yn lleihau gydag oedran, ac yn lleihau mwy ymhlith merched na bechgyn.

Image
Siartiau llinell yn dangos ychydig o newid mewn sgoriau cyfartalog ar gyfer bodlonrwydd ar fywyd, teimlo’n werth chweil, teimlo’n hapus a theimlo’n bryderus rhwng 2012 a 2020

Tai peryglus

Mae cyflwr tai peryglus wedi gwella yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Mae amrywiaeth o ffactorau’n bwysig i iechyd pawb – er enghraifft mae cyflogaeth, llygredd aer a thai i gyd yn effeithio ar ganlyniadau iechyd cyffredinol.

Mae cyflwr tai yng Nghymru wedi gwella dros y deng mlynedd diwethaf, gan leihau’r perygl posibl i iechyd y preswylwyr. Mae anheddau tai cymdeithasol sy’n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru yn parhau i gynyddu, gyda 99% o’r anheddau bellach yn cydymffurfio (gan gynnwys methiannau derbyniol).

Dangosodd yr Arolwg Cyflwr Tai Cymru diweddaraf nad oedd y peryglon mwyaf difrifol (categori 1) i’w gweld mewn 82% o’r anheddau yn 2017-18, o’i gymharu â 71% yn 2008. Gwelwyd gwelliannau ym mhob deiliadaeth.

Image
Siart far yn dangos mai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig oedd â’r ganran uchaf o anheddau a oedd yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru

Defnydd cyfryngau cymdeithasol problemus

Mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd broblemus a seiberfwlio yn effeithio ar ferched yn fwy na bechgyn.

Mae data o 2019/20 yn dangos bod defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd broblemus, ar gyfartaledd, yn cynyddu gydag oedran, a’i fod yn uwch ymysg merched na bechgyn. 

Dywedodd cyfran gymharol fach o’r glasoed eu bod wedi bod yn rhan o seiberfwlio (tua un o bob deg). Fodd bynnag, dywedodd cyfran fwy eu bod wedi profi seiberfwlio (bron i un o bob pump). Ychydig iawn o wahaniaeth oedd rhwng y profiad o seiberfwlio yn ôl oedran, ond roedd merched yn fwy tebygol na bechgyn o fod wedi dweud eu bod yn cael eu seiberfwlio.

Image
Siart far yn dangos mai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig oedd â’r ganran uchaf o anheddau a oedd yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru

Cymru sy’n fwy cyfartal

Awdur: Sue Leake

Y nod: Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).

Yn 2002 mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae’r model hwn yn nodi ffordd wahanol o ystyried anabledd. Yn hytrach na diffinio pobl fel pobl anabl yn ôl eu nam (hynny yw, y model meddygol ar gyfer anabledd), ystyrir bod pobl sydd â namau yn anabl oherwydd rhwystrau corfforol, agweddol a sefydliadol sy’n cael eu creu gan gymdeithas.

Mae’r data a adroddir yma yn deillio o amrywiaeth o ffynonellau sy’n adlewyrchu’r data diweddaraf mwyaf dibynadwy sydd ar gael. Mae llawer o’r ffynonellau hyn yn defnyddio diffiniadau o anabledd, sy’n seiliedig ar y model meddygol yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn Neddf Cydraddoldeb 2010 mae anabledd yn golygu cyflwr corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar nifer o wahanol grwpiau poblogaeth, gyda phobl hŷn, dynion a phobl mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael gyda’r clefyd. Mae hefyd wedi tynnu sylw at amrywiaeth o anghydraddoldebau strwythurol a oedd yn bodoli cyn y pandemig.

Mae effeithiau mwy anuniongyrchol niwed economaidd-gymdeithasol yn fwy tebygol o gael eu teimlo gan grwpiau sydd eisoes o dan anfantais. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc, menywod, pobl anabl a grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Roedd tua 230,000 o bobl yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau yng Nghymru yn 2019 y dywedwyd wrthynt am gau yn gynnar yn 2020, sef tua 16% o’r holl weithlu. Mae menywod, pobl ifanc a gweithwyr o gefndir lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu cyflogi yn y diwydiannau hynny.

Anfantais economaidd-gymdeithasol

  • Roedd bron i chwarter yr holl bobl yng Nghymru (23%) yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai) rhwng 2017 a 2020. Plant sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi cymharol (31% o blant o gymharu â 18% o bensiynwyr).
  • Roedd bron i hanner (49%) y rhieni sengl mewn amddifadedd materol yn 2019-20 a dywedodd 1% o aelwydydd eu bod wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod 2020-21.
  • Er bod cyfraddau marwolaethau cyffredinol fel arfer yn uwch mewn ardaloedd mwy difreintiedig, rhwng mis Mawrth a diwedd mis Gorffennaf 2020, roedd y gyfradd marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru bron ddwywaith yn uwch na’r gyfradd yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Rhywedd

  • Roedd menywod yn fwy tebygol o gael eu hystyried yn weithwyr hanfodol yn ystod pandemig COVID-19 na dynion. Mae 40% o’r holl fenywod sy’n gweithio yng Nghymru yn weithwyr hanfodol, o gymharu â 28% o ddynion. Mae menywod hefyd yn fwy tebygol o fod yn gweithio mewn diwydiannau a oedd wedi gorfod cau yn ystod dyddiau cynnar y pandemig (18% o’r holl fenywod mewn cyflogaeth o’i gymharu â 14% o ddynion).
  • Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Yn ystod haf 2020, dyfarnwyd mwy o raddau A*, A a B i ferched na bechgyn. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng graddau ar raddfa A* ac A: dyfarnwyd 4.6 a 4.8 pwynt canran yn fwy i ferched na bechgyn, yn y drefn honno.
  • Lleihaodd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ym mis Ebrill 2020 i 4.3%, ac mae tystiolaeth o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion a’r Arolwg o’r Llafurlu yn awgrymu nad oedd ffactorau COVID-19 wedi cael effaith amlwg eto ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y DU.
  • Yn 2019-20, roedd 43% o benodiadau cyhoeddus newydd a 46% o ailbenodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i fenywod.

Oedran

  • Ymysg y rheini sydd rhwng 16 a 64 oed, mae’r gyfradd cyflogaeth yn dal ar ei huchaf ymysg y rheini rhwng 25 a 49 oed, ac ar ei hisaf yn y grŵp oedran 50 oed a hŷn.
  • Er mai'r grŵp oedran 50 i 54 oed oedd i gyfrif am y gyfran fwyaf o’r rheini a oedd yn cael eu hystyried yn weithwyr hanfodol yn ystod COVID-19, sef 13.5%, roedd gweithwyr o dan 25 oed yn fwy tebygol o weithio mewn diwydiannau a oedd yn gorfod cau yn ystod cyfnod cynnar y pandemig. Roedd dros chwarter (27%) y gweithwyr yn y diwydiannau hynny o dan 25 oed.

Ethnigrwydd

  • Mae 5.2% o boblogaeth Cymru’n disgrifio eu hunain o gefndir Du, Asiaidd neu grŵp lleiafrifoedd ethnig arall. Yr ail grŵp ethnig mwyaf (ar ôl Gwyn) yw Asiaidd, sy’n 2.4% o’r boblogaeth (2017-19).
  • Mae’r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd yng Nghymru yn 1.4%. Mae hyn yn golygu bod gweithwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig wedi ennill 1.4% yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn Prydeinig yn 2019, er bod tystiolaeth o Gymru a Lloegr yn dangos bod gwahaniaethau mawr ymysg gwahanol leiafrifoedd ethnig. 
  • Roedd gweithwyr Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o weithio mewn diwydiannau a oedd wedi gorfod cau yn ystod cyfnod cynnar pandemig COVID-19 (20% o weithwyr o leiafrifoedd ethnig o’i gymharu â 15% o weithwyr Gwyn). Roedd pobl Ddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig hefyd yn cael eu cynrychioli’n anghymesur mewn nifer o alwedigaethau y gellid ystyried eu bod mewn risg uwch o COVID-19, fel gweithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol, cogyddion a gyrwyr tacsis.
  • Roedd cyfran uchel o weithwyr o rai lleiafrifoedd ethnig yn gweithio fel gweithwyr hanfodol yn ystod y pandemig. Mae dros hanner y gweithwyr Bangladeshaidd a hanner y gweithwyr Du, Affricanaidd, Caribïaidd a Du Prydeinig yn gweithio mewn galwedigaethau hanfodol.
  • Mae plant o rai grwpiau ethnig yn parhau i gyflawni’n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o’u cymharu ag eraill, gyda chyfran uwch o ddisgyblion TGAU Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael graddau A*, A a B yn ystod haf 2020 na disgyblion Gwyn.
  • Yn 2019-20, roedd 6% o benodiadau cyhoeddus newydd a 18% o ailbenodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
  • Cafwyd gostyngiad o 1.6% yn nifer y troseddau casineb hiliol a gofnodwyd rhwng 2018-19 a 2019-20.
  • Yn etholiadau Senedd Cymru 2021, etholwyd tri aelod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig (5% o’r holl Aelodau a etholwyd).

Crefydd

  • Mae’r amcangyfrifon diweddaraf (2017-2019) yn dangos bod bron i hanner y boblogaeth (47.9%) yn ystyried eu hunain yn Gristnogion, a dywedodd 47.3% nad oedd ganddynt grefydd.
  • Mwslimiaid oedd dros 55,000 o bobl (1.8% o’r boblogaeth). Mae dros ddwy ran o dair o'r boblogaeth Fwslimaidd yn byw yn Ne-ddwyrain Cymru.

Cyfeiriadedd rhywiol

  • Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf, mae 2.9% o boblogaeth Cymru yn ystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol.
  • Roedd 367 o briodasau o’r un rhyw yn 2017, ac mae partneriaethau sifil wedi gostwng yn sylweddol i tua 32 y flwyddyn ers 2014.
  • Cofnodwyd 763 o droseddau casineb gan yr heddlu lle’r oedd cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei ystyried yn ffactor cymhellol yn 2019-20. Serch hynny, mae ymchwil Stonewall Cymru yn awgrymu nad yw’r heddlu’n cael gwybod am lawer o ddigwyddiadau o’r fath.

Anabledd

  • Mae’r gyfradd cyflogaeth ymysg oedolion anabl 16 i 64 oed (46.7% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021) yn dal yn is nag ymysg y rheini nad ydynt yn anabl.
  • Roedd cyfran y bobl a oedd â salwch cyfyngus hirdymor neu anabledd a oedd mewn aelwyd mewn amddifadedd materol wedi aros ar 21% yn 2019-20, ond mae ddwywaith yn uwch na’r gyfradd i'r rhai nad ydynt yn anabl (9%).
  • Roedd y bwlch cyflog ar sail anabledd yng Nghymru yn 9.9% yn 2018. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill 9.9% yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl.
  • Mae cyfran ychydig yn uwch o bobl anabl cyflogedig yn gweithio mewn diwydiannau a oedd yn gorfod cau yn ystod cyfnod cynnar y pandemig o gymharu â gweithwyr nad ydynt yn anabl (17% o’i gymharu â 15%).
  • Roedd traean o bobl anabl cyflogedig yng Nghymru (33.2%) yn cael eu cyflogi mewn galwedigaethau y gellid ystyried eu bod mewn risg uwch o COVID-19, o’u cymharu â 30.6% o bobl gyflogedig nad ydynt yn anabl. Ar gyfer menywod anabl cyflogedig, roedd 41% yn cael eu cyflogi mewn galwedigaethau o’r fath. 

Statws priodasol

  • Mae’n dal yn wir fod pobl sy’n briod yn llai tebygol o fod mewn amddifadedd materol na’r bobl sydd wedi gwahanu neu ysgaru.
  • Yn 2020-21, yn ystod pandemig COVID-19, roedd y rheini a oedd yn sengl, wedi gwahanu neu wedi ysgaru yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na’r rheini a oedd yn briod. Fodd bynnag, beth bynnag oedd eu statws priodasol, roedd pobl yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ‘teimlo’n unig weithiau’ nag yn 2019-20.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Ychydig iawn o arwyddion eu bod yn gwella y mae rhai anghydraddoldebau wedi’u dangos yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac mae pandemig COVID-19 yn debygol o fod wedi effeithio mwy ar rai o’r rheini sydd eisoes o dan anfantais. Fodd bynnag, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi bod yn lleihau ac mae arwyddion bod gwell amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus. 

  • Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 15 mlynedd.
  • Mae bwlch o hyd rhwng deilliannau addysgol plant yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rheini nad ydynt yn gymwys. Mae’r bwlch ar lefel TGAU wedi ehangu yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gyda data (hyd at 2019) yn dangos bod y bwlch yn ehangu yn ystod cyfnodau cynharach yn yr ysgol wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn.
  • Ar y cyfan, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi bod yn lleihau. Ond mae llai o fenywod na dynion yn cael eu cyflogi mewn gwaith sy’n ennill mwy na dwy ran o dair o gyfartaledd y DU.
  • Mae sgoriau bodlonrwydd ar fywyd yn gostwng ar gyfer y rheini rhwng 45 a 64 oed, ac mae’r rheini rhwng 16 a 24 oed bellach yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na’r rheini sy’n 65 oed a hŷn.
  • Mae plant o rai grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn parhau i gyflawni’n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o’u cymharu â disgyblion Gwyn, gyda’r bwlch ar lefel TGAU yn ehangu yn 2019/20.
  • Er gwaethaf rhywfaint o welliant, mae’r boblogaeth Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn dal i gael ei thangynrychioli mewn bywyd gwleidyddol lleol. Ond mae cyfran y penodiadau cyhoeddus a wneir gan Lywodraeth Cymru i’r rhai o gefndir lleiafrifoedd ethnig wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf.
  • Mae hil yn dal i gael ei hystyried yn ffactor sy’n cymell bron i ddwy ran o dair o’r holl droseddau casineb, er gwaethaf gostyngiad bach mewn troseddau casineb hiliol a gofnodwyd yn 2019-20.
  • Mae’r rheini sydd wedi ysgaru, gwahanu neu erioed wedi priodi yn dal i fod yn fwy tebygol o gael trafferthion ariannol, gyda theuluoedd un rhiant yn fwyaf tebygol o fod mewn amddifadedd materol.
  • Mae cyfran y boblogaeth yng Nghymru sy’n ystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol wedi bod yn cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf (sef 2.9% o’r boblogaeth erbyn hyn).
  • Ers 2014, pan ddaeth priodasau o’r un rhyw yn gyfreithiol, mae nifer y priodasau o’r un rhyw wedi cynyddu (i 367 yn 2017) ac mae nifer y partneriaethau sifil sy’n cael eu ffurfio wedi gostwng yn sylweddol i tua 32 partneriaeth bob blwyddyn.
  • Mae troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu lle’r oedd cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei ystyried yn ffactor cymhellol wedi parhau i gynyddu (mae’n bron i un rhan o bump o’r holl droseddau casineb a gofnodir erbyn hyn) er bod ymchwil Stonewall Cymru yn awgrymu nad yw’r heddlu’n cael gwybod am lawer o ddigwyddiadau o’r fath.
  • Roedd cyfraddau cyflogaeth pobl anabl yn codi ond gostyngodd i gyfradd debyg i Ragfyr 2018 yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021. Mae’r gyfradd cyflogaeth ymysg oedolion anabl (16 i 64) yn dal yn is nag ymysg y rheini nad ydynt yn anabl.
  • Mae bwlch cyflog ar sail anabledd yn parhau ac mae aelwydydd sy’n cynnwys rhywun anabl yn dal yn fwy tebygol o gael trafferthion ariannol.
  • At ei gilydd, mae deilliannau addysgol plant ag anghenion addysgol arbennig wedi bod yn gwella.

Anfantais economaidd-gymdeithasol

Cyn pandemig COVID-19, roedd cyfraddau tlodi cyffredinol wedi aros yn gymharol sefydlog yng Nghymru am dros 15 mlynedd, a phlant oedd y grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol.

Rhwng 2017-18 a 2019-20, roedd bron i chwarter y boblogaeth (23%) yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl talu eu costau tai.

Plant yw’r grŵp poblogaeth sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol (cyfeiriwch at siart 1.8 yn gynharach yn yr adroddiad). Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod hyn yn wir am 31% o blant yng Nghymru o’i gymharu â 18% o bensiynwyr.

Yn 2019-20, roedd 13% o oedolion yn cael eu hystyried mewn amddifadedd materol (hynny yw, yn methu fforddio pethau penodol fel cadw’r tŷ’n ddigon cynnes, cynilo’n rheolaidd, neu gael gwyliau unwaith y flwyddyn). Mae hyn yn wir am ganran uwch o fenywod (15%) o’i gymharu â dynion (11%).

Mae aelwydydd un rhiant yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd materol na mathau eraill o aelwydydd. Roedd bron i hanner (49%) y rhieni sengl mewn amddifadedd materol yn 2019-20.

Dywedodd 1% o aelwydydd yn 2020-21 eu bod wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf gyda 2% arall yn dweud nad oeddent wedi cael bwyd ond eu bod wedi dymuno cael hynny. Amcangyfrifwyd bod 155,000 o aelwydydd (12% o aelwydydd) yn byw mewn tlodi tanwydd yn 2018.

Mae disgwyliad oes iach yn parhau i fod yn waeth i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, ond nid oes tystiolaeth bod y bwlch yn cynyddu.

Mae bwlch o hyd rhwng deilliannau addysgol plant yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rheini nad ydynt yn gymwys. Mae’r bwlch ar lefel TGAU wedi ehangu yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gyda data (hyd at 2019) yn dangos bod y bwlch yn ehangu yn ystod cyfnodau cynharach yn yr ysgol wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn.

Ar lefel TGAU, mae’r bwlch rhwng disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sydd wedi cael graddau TGAU A* i A wedi ehangu ychydig rhwng 2015/16 a 2018/19, o 14.6% pwynt canran yn 2015/16 i 14.8 pwynt canran yn 2018/19. Mae’r bwlch ar gyfer A* i A wedi ehangu ymhellach yn 2019/20 i 17.8 pwynt canran.

Fodd bynnag, yn 2019/20 roedd y bwlch rhwng disgyblion nad oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac a oedd wedi cael graddau A* i C wedi lleihau i 24.7 pwynt canran yn 2019/20, gan gynyddu rhwng 2015/16 a 2018/19 o 24.9 i 28.1 pwynt canran.

Rhywedd

Mae deilliannau addysgol merched yn parhau i fod yn well ar lefel TGAU ac mae merched yn fwy tebygol o aros mewn addysg y tu hwnt i 16 oed. Er bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau yn 2020, mae cyfraddau cyflogaeth yn dal yn is i fenywod na dynion.

Mae disgwyliad oes yn dal yn hirach i ferched nag i ddynion ond mae cyfran y bywyd a dreulir mewn iechyd da yn uwch i ddynion.

Oherwydd y pandemig, nid yw’r dangosydd cenedlaethol ar lesiant meddyliol (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick Edinburgh ar gyfer oedolion) wedi cael ei ddiweddaru fel y bwriadwyd eleni. Roedd y data diweddaraf, ar gyfer 2018-19, yn dangos bod sgoriau llesiant meddyliol i fechgyn yn eu glasoed yn uwch ar gyfartaledd, ac roeddent yn fwy bodlon ar eu bywydau na merched yn eu glasoed, gyda’r bwlch yn ehangu wrth iddynt gyrraedd 16 oed. Mae hyn yn parhau wrth iddynt dyfu’n oedolion, gyda sgoriau llesiant meddyliol cyfartalog ar gyfer dynion yn gyson uwch na menywod ar draws pob grŵp oedran, er bod cyfraddau hunanladdiad yn dal yn uwch ymysg dynion na menywod.

Mae arolygon ymgysylltu Iechyd Cyhoeddus Cymru a gynhaliwyd drwy gydol y pandemig wedi dangos bod pobl yn poeni am iechyd meddwl ac mae tua thraean o oedolion wedi dweud bod eu hiechyd meddwl yn waeth nag oedd cyn y pandemig. Roedd mwy o drigolion mewn cymunedau mwy difreintiedig, menywod a grwpiau oedran iau yn poeni ynghylch iechyd meddwl a llesiant.  

Mewn addysg, o’r Cyfnod Sylfaen (hyd at 7 oed) i Gyfnod Allweddol 3 (14 oed), mae cyfran uwch o ferched na bechgyn yn cyflawni’r deilliannau disgwyliedig. Mae’r bwlch yn lleihau hyd at Gyfnod Allweddol 2 i ddechrau, ond wedyn mae’n ehangu wrth i’r disgyblion fynd yn hŷn.

Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Yn ystod haf 2020, dyfarnwyd mwy o raddau A*, A a B i ferched na bechgyn. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng graddau ar raddfa A* ac A: dyfarnwyd 4.6 a 4.8 pwynt canran yn fwy i ferched na bechgyn, yn y drefn honno.

Mae cyfran uwch o ferched 16-18 oed na bechgyn yn aros mewn addysg amser llawn. Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer y rheini rhwng 19 a 24 oed.

Mae cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru yn is ar gyfer menywod nag ar gyfer dynion, 70.2% ar gyfer menywod a 74.2% ar gyfer dynion yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021. Mae cyfraddau anweithgarwch economaidd (heb gynnwys myfyrwyr) yn uwch ar gyfer menywod (23.1%) na dynion yn ystod y cyfnod hwn (18.0%).

Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ar sail enillion canolrifol amser llawn yr awr (heb gynnwys goramser), yn 4.3% yn 2020, i lawr o 6.2% yn 2019. Fodd bynnag, ar gyfer gweithwyr rhan-amser yng Nghymru, roedd menywod yn cael 1.5% yn fwy na dynion ar gyfartaledd. Ar gyfer yr holl weithwyr, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 11.5% yn 2020. Mae hyn yn uwch nag ar gyfer gweithwyr amser llawn a gweithwyr rhan-amser, oherwydd mae menywod yn llenwi mwy o swyddi rhan-amser sydd, o’u cymharu â swyddi amser llawn, â thâl canolrifol is yr awr. O blith 11 o wledydd a rhanbarthau’r DU lle mae dynion yn ennill mwy na menywod (gweithwyr amser llawn), Cymru sydd â’r ail fwlch cyflog lleiaf.

Mae menywod yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn eu cymuned, er bod dynion ychydig yn fwy tebygol o ddioddef troseddau treisgar na menywod. Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, dywedodd 51% o fenywod eu bod yn teimlo’n ddiogel o’i gymharu ag 84% o ddynion. Er bod canlyniadau’r blynyddoedd blaenorol yn dangos bod menywod yn teimlo’n llai diogel na dynion, gallai pandemig COVID-19 effeithio ar y gwahaniaeth a welwyd yn y canlyniadau diweddaraf hyn ar yr adeg honno pan oedd y wlad ar lefel Rhybudd 4 gyda chyfyngiadau COVID-19 ar waith.

Yn 2019-20, roedd 43% o benodiadau cyhoeddus newydd a 46% o ailbenodiadau cyhoeddus a wnaed gan Lywodraeth Cymru i fenywod. Roedd y cyfrannau hyn o fenywod a gafodd eu penodi i swyddi cyhoeddus yn uwch yn ystod y ddwy flynedd flaenorol.

Image
Siart linell yn dangos y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 ac 64 oed yn ôl rhywedd. Er gwaethaf rhai amrywiadau, mae’r ddau ryw wedi gweld cynnydd graddol yn y gyfradd gyflogaeth rhwng 2005 a 2021. Er bod gan fenywod gyfraddau sy’n gyson is na dynion, mae’r bwlch wedi lleihau.

Oedran

Rydym yn tueddu i fod yn fwy bodlon ar fywyd yn gynharach mewn bywyd ac yn y grwpiau oedran hŷn. Mae tlodi incwm cymharol bellach yn uwch yn y boblogaeth sy’n gweithio nag mewn aelwydydd pensiynwyr.

Mae llesiant goddrychol yn tueddu i fod yn uwch yn gynharach mewn bywyd ac yn y grwpiau oedran hŷn, gan ostwng yn y grŵp oedran 25 i 64 oed. Yn 2019-20, mae’r sgôr bodlonrwydd ar fywyd cyfartalog uchaf ar gyfer y grŵp oedran 65 i 74 oed (8.1) ac ar gyfer y grŵp 75 oed a hŷn (8.0), ac mae ar ei isaf yn y grŵp oedran 45 i 64 oed (7.6). Roedd y patrwm yn debyg yn 2020-21 ond roedd y sgoriau bodlonrwydd ar fywyd ar gyfer pob grŵp oedran ychydig yn is, yn amrywio o 7.4 (ar gyfer pobl 45 i 64 oed) i 7.7 (i'r rhai 65 oed a hŷn).

Image
Siart far yn dangos mai pobl dros 65 oed sydd mwyaf bodlon mewn bywyd yn 2020-21, a phobl 45-64 oed sydd wedi lleiaf bodlon o blith yr holl grwpiau oedran.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cyfran uwch o’r boblogaeth o oedran gweithio wedi bod mewn tlodi cymharol nag aelwydydd pensiynwyr.

Mae’r gyfradd cyflogaeth ar ei huchaf yn y grŵp oedran 25 i 49 ac mae’r gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl 65 oed a hŷn, a welodd gynnydd yn flaenorol, wedi bod yn weddol sefydlog ers 2019. Mae’n rhy gynnar i asesu effeithiau’r pandemig ar bobl ifanc, er bod tystiolaeth gynnar yn dangos bod y canlyniadau economaidd-gymdeithasol wedi effeithio’n anghymesur arnynt. 

Mae grwpiau oedran iau mewn mwy o berygl o ddioddef troseddau (gan gynnwys troseddau treisgar), gyda’r grŵp oedran 16 i 24 oed yn profi’r cyfraddau uchaf yn y rhan fwyaf o gategorïau troseddau a’r rheini dros 75 oed yn profi’r cyfraddau troseddu isaf yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf hyd at fis Mawrth 2020.

Yn 2019-20, roedd 56% o benodiadau cyhoeddus newydd ac ailbenodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i bobl 55 oed neu hŷn, gan adlewyrchu penodiad rhai pobl iau i fyrddau cyrff cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae pobl hŷn (65 oed a hŷn) yn fwy tebygol o fod ag ymdeimlad cryf o gymuned o’i gymharu â grwpiau oedran iau, ac mae 90% o’r rheini sy’n 65 oed a hŷn yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw.

Ethnigrwydd

Mae plant o rai grwpiau ethnig (er enghraifft, Tsieineaidd, Asiaidd a phobl â chefndir ethnig cymysg) yn tueddu i gyflawni’n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o’i gymharu ag eraill. Yn gyffredinol, mae’r boblogaeth lleiafrifoedd ethnig bellach yn cael ei chynrychioli’n well mewn penodiadau cyhoeddus.

Roedd 94.8% o’r boblogaeth (rhwng 2017 a 2019) yn disgrifio eu grŵp ethnig fel Gwyn, gan amrywio yn ôl rhanbarth o 97.3% o’r boblogaeth yng Ngogledd Cymru i 93.3% yn Ne-ddwyrain Cymru.

Mae 5.2% o boblogaeth Cymru’n disgrifio eu hunain fel pobl Ddu, Asiaidd neu o grŵp lleiafrifoedd ethnig. Yr ail grŵp ethnig mwyaf (ar ôl Gwyn) yw Asiaidd, sy’n 2.4% o’r boblogaeth (2017-19).

Yn arholiadau haf 2020 ar lefel TGAU, dyfarnwyd graddau A*, A a B i ganran uwch o ddisgyblion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig na disgyblion Gwyn.

Gwnaeth y bwlch rhwng disgyblion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a disgyblion Gwyn a gafodd raddau A*-A dyfu rhwng 2015/16 a 2019/20 o 4.5 i 6.2 pwynt canran. Ar gyfer disgyblion a gafodd raddau A*-C, fe wnaeth y bwlch rhwng disgyblion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a disgyblion Gwyn dyfu rhwng 2015/16 a 2017/18 gan gyrraedd canran uchel o 4.1 cyn lleihau dros y ddwy flynedd ddiwethaf i 2.5 pwynt canran yn 2019/20.

Mae cyfran gymharol uchel o boblogaeth lleiafrifoedd ethnig Cymru yn cofrestru ar gyfer addysg uwch yng Nghymru. Roedd 8.8% o’r disgyblion o Gymru a gofrestrodd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2019/20 o grŵp lleiafrifoedd ethnig.

Yn 2019-20, roedd 6% o benodiadau cyhoeddus newydd a 18% o ailbenodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae penodiadau cyhoeddus o’r cymunedau lleiafrifoedd ethnig hyn wedi bod yn cynyddu. Yn 2013-14 roedd y ffigurau hyn yn 4.3% o benodiadau newydd a 2.0% o ailbenodiadau.

Mae cyfraddau cyflogaeth a chyflog cyfartalog yn dal yn is ar gyfer grwpiau o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac mae pobl yn y grwpiau hyn yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol.

Mae’r cyfraddau cyflogaeth (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021) ymysg poblogaeth Cymru rhwng 16 a 64 oed ar eu huchaf ymysg unigolion o gefndir ethnig Gwyn a’r rheini yn y categori ‘grŵp ethnigrwydd arall’ (y ddau yn 73%), gyda’r cyfraddau cyflogaeth ar eu hisaf ymysg unigolion ag ethnigrwydd Du (57%). Y cyfraddau cyfatebol ymysg unigolion o gefndir Asiaidd a phobl â chefndir ethnig cymysg oedd 65% a 64% yn y drefn honno.

Mae cyfraddau cyflogaeth ar gyfer grwpiau ethnig yn wahanol ar gyfer dynion a menywod, gyda’r bwlch mwyaf mewn cyfraddau cyflogaeth i’w weld yn y grŵp ethnig Asiaidd (dynion 79% o’i gymharu â menywod 54%).

Image
Siart far yn dangos cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yn ôl rhywedd ar gyfer 5 grŵp ethnig eang ar gyfer y cyfnod rhwng 2017 a 2019. Mae’r gyfradd gyflogaeth yn uwch ar gyfer dynion nag ar gyfer menywod ym mhob grŵp ethnig eang (Gwyn, Du, Asiaidd, Cymysg/grwpiau aml-ethnig a grŵp ethnig arall).

Mae’r bwlch cyflog rhwng gweithwyr Gwyn a gweithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi gostwng i’w lefel isaf ers 2012 yng Nghymru a Lloegr. Mae bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd yn amrywio ar draws rhanbarthau ac, yn 2019, roedd y blwch cyflog mwyaf yn Llundain (23.8%) a’r lleiaf yng Nghymru (1.4%), er bod rhywfaint o anghysondeb yn y bwlch yng Nghymru.  Mae tystiolaeth o bob rhan o Gymru a Lloegr yn dangos bod y rhan fwyaf o’r grwpiau lleiafrifoedd ethnig a ddadansoddwyd yn parhau i ennill llai na gweithwyr Gwyn Prydeinig ond, yn 2019, roedd y rheini yn y grwpiau ethnig Tsieineaidd, Gwyn Gwyddelig, Gwyn ac Asiaidd i gyd yn ennill cyflog uwch yr awr na gweithwyr Gwyn Prydeinig.

Mae grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o ddioddef tlodi incwm cymharol. Ar gyfer y cyfnod rhwng 2015-16 a 2019-20 roedd 29% o debygolrwydd y byddai pobl o aelwydydd lle mae’r penteulu yn dod o grŵp lleiafrifoedd ethnig yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae hyn yn cymharu â thebygolrwydd o 24% ar gyfer aelwydydd lle mae’r penteulu yn dod o grŵp ethnig Gwyn. Yn ystod pandemig COVID-19:

  • roedd dadansoddiad yn dangos bod 20% o’r holl weithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn gweithio mewn diwydiannau a oedd yn gorfod cau yn sgil y cyfyngiadau, o’i gymharu â 15% o weithwyr gwyn
  • er bod cyfran y gweithwyr hanfodol o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig ychydig yn uwch na’r gyfran o’r holl weithwyr mewn cyflogaeth, mae’r data sydd ar gael yn dangos bod hyn yn amrywio ar gyfer gwahanol grwpiau ethnig; mae mwy na hanner y gweithwyr o ethnigrwydd Bangladeshaidd yn weithwyr hanfodol, ac mae hanner y gweithwyr o gefndiroedd Du, Affricanaidd, Caribïaidd a Du Prydeinig yn gweithio mewn galwedigaethau hanfodol
  • roedd dadansoddiad yn dangos bod pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynrychioli’n anghymesur mewn nifer o alwedigaethau y gellid ystyried eu bod mewn risg uwch o COVID-19, megis gweithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol, cogyddion a gyrwyr tacsis
  • er gwaethaf gostyngiad bach (1.6%) mewn troseddau casineb a gofnodwyd yn 2019-20, roedd hil yn dal i gael ei hystyried yn ffactor cymhellol mewn bron i ddwy ran o dair o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru
Image
Siart linell yn dangos bod cyfanswm y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru wedi cynyddu bob blwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf, o ychydig dan 2,300 o droseddau yn 2014-15 i ychydig dros 4,000 yn 2019-20, er bod y cynnydd yn y flwyddyn ddiwethaf wedi arafu.

Crefydd

Cristnogaeth yw’r grefydd fwyaf yng Nghymru o hyd, ond er bod gan 4% o’r boblogaeth grefydd arall, mae llawer o bobl bellach yn dweud nad oes ganddynt grefydd.

Cristnogaeth yw’r grefydd fwyaf o hyd yng Nghymru er bod y gyfran o’r boblogaeth sy’n dweud eu bod yn Gristnogion wedi gostwng yn y degawd diwethaf, ac mae nifer y bobl sy’n dweud nad oes ganddynt grefydd neu eu bod yn dilyn crefydd ar wahân i Gristnogaeth yn cynyddu. Yn 2017-2019, nododd bron i hanner poblogaeth Cymru eu bod yn Gristion (47.9%), a nododd 47.3% o’r boblogaeth nad oedd ganddynt grefydd.

Roedd bron i 55,500 o bobl (1.8% o’r boblogaeth) yn Fwslimiaid. Roedd dros ddwy ran o dair (69%) o'r boblogaeth Fwslimaidd yn byw yn Ne-ddwyrain Cymru.

Roedd cyfran uwch o fenywod na dynion wedi nodi bod ganddynt grefydd (56.5% o’i gymharu â 48.3%) ac roedd cyfran y bobl a nodwyd bod ganddynt grefydd yn cynyddu yn ôl grŵp oedran. Mae hyn yn wahanol i’r gyfran o bobl a ddywedodd nad oedd ganddynt grefydd, a oedd yn amlwg yn gostwng wrth i oedran gynyddu. Mae gan y boblogaeth Fwslimaidd broffil oedran iau na’r rhan fwyaf o grefyddau eraill yng Nghymru.

Roedd crefydd yn ffactor ysgogol mewn 5% o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2019-20. Cafodd cyfanswm o 199 o droseddau casineb crefyddol eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru yn 2019-20, yn debyg i’r nifer a gofnodwyd yn 2018-19 (ffactor ysgogol 206 o droseddau).

Mae cyfraddau cyflogaeth y rheini sy’n ystyried eu hunain yn Gristion neu heb grefydd yn debyg. Ymysg Mwslimiaid, mae’r gyfradd cyflogaeth ar gyfer menywod (38% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021) tua hanner y gyfradd ar gyfer dynion (78%).

Cyfeiriadedd rhywiol

Mae’r niferoedd sy’n ystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, neu sydd wedi dewis peidio â nodi eu bod yn heterorywiol yn cynyddu, gyda phriodasau o’r un-rhyw yn fwy cyffredin nawr na phartneriaethau sifil.

Yn 2019, nododd 94.4% o boblogaeth Cymru eu bod yn heterorywiol, gyda 2.9% yn nodi eu bod yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol. Mae cyfran uwch o’r grŵp oedran 16 i 45 oed yn ystyried eu hunain yn hoyw/lesbiaidd neu’n ddeurywiol na grwpiau oedran eraill.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae cyfran y boblogaeth yng Nghymru sy’n ystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol wedi cynyddu o 1.6% i 2.9%.

Ers 2014, pan ddaeth priodasau o’r un-rhyw yn gyfreithiol, mae nifer y priodasau o’r un-rhyw wedi cynyddu (i 367 yn 2017) ac mae nifer y partneriaethau sifil sy’n cael eu ffurfio wedi gostwng yn sylweddol (34 partneriaeth yn 2019).

Yn 2019-20, roedd cyfran is o oedolion a nododd eu bod yn heterorywiol mewn amddifadedd materol (12%) wrth gymharu â’r rheini nad oeddent yn heterorywiol (22%).

Yn 2019-20, cafodd 763 o droseddau casineb eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru lle’r oedd cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei ystyried yn ffactor cymhellol (i fyny o 670 yn 2017-18). Roedd cyfeiriadedd rhywiol yn ffactor cymhellol mewn bron i un rhan o bump o'r holl droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2019-20.

Mae ymchwil Stonewall Cymru yn y gymuned LGBT yn 2017 yn dangos bod bron i un o bob pedwar o bobl LGBT (23%) yn dweud eu bod wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol a/neu hunaniaeth o ran rhywedd yn ystod y 12 mis diwethaf ac nad oedd llawer ohonynt wedi rhoi gwybod i’r heddlu am y digwyddiad.

Anabledd

Yn gyffredinol, mae’r canlyniadau ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig yn gwella, ac er bod y cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn cynyddu, mae bwlch cyflog anabledd yn parhau ac mae aelwydydd sy’n cynnwys rhywun anabl yn dal yn fwy tebygol o gael trafferthion ariannol.

Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru (2019-20) yn dangos bod bodlonrwydd ar fywyd yn gyffredinol is ar gyfer pobl â salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol (roedd eu sgôr cymedrig yn 6.9) nag ar gyfer pobl heb salwch neu anabledd (7.5).

Mae deilliannau addysgol disgyblion ag anghenion addysgol arbennig wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2019/20, dyfarnwyd gradd A* i G i 98% o ddisgyblion ym mlwyddyn 11 ag anghenion addysgol arbennig yn eu harholiadau TGAU, y ganran uchaf o’r 5 mlynedd diwethaf. Roedd canran y graddau A*, A a B a ddyfarnwyd hefyd ar eu huchaf ers 5 mlynedd.

Image
Siart linell yn dangos canran y disgyblion Blwyddyn 11 sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig a gafodd graddau A* i G yng Nghyfnod Allweddol 4 rhwng 2015-16 a 2019-20. Fe wnaeth y ganran gynyddu’n sydyn i 97.8% yn 2019-20, yn dilyn gostyngiad yn y pedair blynedd flaenorol.

O’r boblogaeth oed gweithio, mae pobl anabl (15.2%) yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau na phobl nad ydynt yn anabl (4.9%) ac maent yn llai tebygol o fod â chymwysterau uwch na lefel 2.

Yn y cyfnod diweddaraf (2017-18 i 2019-20), roedd 38% o’r plant a oedd yn byw mewn aelwyd lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 26% mewn cartrefi lle nad oedd neb yn anabl. Yn yr un modd, roedd 31% o oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn aelwyd lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 18% o’r rheini a oedd yn byw mewn aelwyd lle nad oedd neb yn anabl.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, yn 2019-20, roedd un o bob pum person â salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol yn byw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol o’i gymharu ag un o bob deg o’r rheini nad oeddent yn anabl.

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021, roedd y gyfradd cyflogaeth ymysg pobl anabl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru yn 46.7% ac roedd y gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl yn 79.6%. Mae’r bwlch cyflogaeth anabledd ar gyfer 2021, sef 32.9 pwynt canran, wedi gostwng o’i gymharu â 5 mlynedd yn ôl pan oedd yn 35.5 pwynt canran. Roedd y bwlch cyflog i bobl anabl yng Nghymru yn 9.9% yn 2018. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill 9.9% yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Roedd y bwlch cyflog yng Nghymru yn llai na’r bwlch cyflog ar gyfer y DU gyfan (12.2%).

Image
Siart far yn dangos y bwlch yn y gyfradd anabledd bob blwyddyn rhwng 2016 a 2021. Mae'n dangos bod y bwlch cyflogaeth anabledd ar gyfer 2021, sef 32.9 pwynt canran, wedi gostwng o 35.5 pwynt canran yn 2016 gyda rhai amrywiadau rhyngddynt.

Yn ystod pandemig COVID-19, roedd cyfran uwch o bobl anabl cyflogedig yn gweithio mewn diwydiannau a oedd yn gorfod cau yn sgil cyfyngiadau o’u cymharu â gweithwyr nad ydynt yn anabl (16.6% o’i gymharu â 14.7%). Roedd traean o’r bobl anabl cyflogedig yng Nghymru (33.2%) yn cael eu cyflogi mewn galwedigaethau y gellid ystyried eu bod mewn risg uwch o COVID-19, o’i gymharu â 30.7% o bobl gyflogedig nad ydynt yn anabl. Ar gyfer menywod anabl cyflogedig, roedd 41% yn cael eu cyflogi mewn galwedigaethau o’r fath. 

Yn 2019-20, roedd 5% o benodiadau cyhoeddus newydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i unigolion a oedd wedi datgan anabledd.

Roedd anabledd yn ffactor cymhellol mewn 11% o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2019-20, ychydig yn uwch na 2017-18 a oedd yn 9%.

Statws priodasol

Mae bod yn briod yn gysylltiedig â bodlonrwydd uwch ar fywyd a thebygolrwydd is o fod mewn amddifadedd materol. Mae aelwydydd un rhiant yn dal i wynebu heriau, ac maent yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd materol na mathau eraill o aelwydydd.

Roedd cyfanswm o 13,197 o briodasau yng Nghymru yn 2017. O’r rhain, roedd 12,830 (97.2%) ymysg cyplau o ryw gwahanol, gyda 367 (2.8%) o briodasau’n cynnwys cyplau o’r un rhyw.

Mae nifer y partneriaethau sifil a ffurfiwyd yn 2019 yn dal yn isel (34 partneriaeth) o’i gymharu â’r lefelau yn 2013.

Yn 2019-20, roedd 20% o’r oedolion a oedd wedi cael ysgariad a 36% o’r rhai a oedd wedi gwahanu (ond yn dal yn briod yn gyfreithiol) mewn amddifadedd materol o’i gymharu ag 8% o’r rhai a oedd wedi priodi ac 8% o’r rhai a oedd yn weddw. Roedd bron i hanner (49%) y rheini sy’n rhieni sengl mewn amddifadedd materol.

Roedd canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2019-20 yn cadarnhau bod cyfran uwch o’r boblogaeth briod yn dweud eu bod yn fodlon iawn â bywyd, gan deimlo bod y pethau maen nhw’n eu gwneud yn werth chweil ac roeddent yn hapus iawn o’u cymharu â’r rheini sydd erioed wedi priodi, wedi gwahanu, wedi ysgaru neu’n weddw. Yn gyffredinol, roedd lefelau bodlonrwydd ar fywyd yn ystod pandemig COVID-19 yn is nag yn 2019-20, er bod y gostyngiad yn llai amlwg i’r rheini a oedd wedi gwahanu neu ysgaru.

Yn 2020-21, yn ystod pandemig COVID-19, roedd y rheini a oedd yn sengl, wedi gwahanu neu wedi ysgaru yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na’r rheini a oedd yn briod. Fodd bynnag, beth bynnag oedd eu statws priodasol, roedd pobl yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig weithiau nag yn 2019-20.

Aelwydydd un rhiant ac aelwydydd un pensiynwr oedd yr aelwydydd lleiaf tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau ar ôl iddi dywyllu yn 2020-21.

Image
Siart far yn dangos bodlonrwydd ar fywyd yn ôl statws priodasol yn 2020-21 ar raddfa o 0-10. Pobl briod oedd mwyaf bodlon mewn bywyd (7.7) a phobl a oedd wedi gwahanu, ond yn dal i fod yn briod yn gyfreithiol, oedd â'r lefel isaf o fodlonrwydd ar fywyd (7.0)

Mae’r data manwl diweddaraf ar nodweddion y rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref (2018-19) yn dangos bod perthynas yn chwalu yn un o’r prif bethau sy’n achosi i aelwydydd fod mewn perygl o fod yn ddigartref. O’r rhai sy’n cael eu hystyried yn ddigartref ac mewn angen blaenoriaethol, mae ychydig dros hanner y rheini’n aelwyd un person ac mae traean yn rhieni sengl gyda phlant dibynnol.

O’r rhai rhwng 16 a 64 oed, y rhai a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil oedd â’r cyfraddau cyflogaeth uchaf (80%) o’i gymharu â’r rhai a oedd wedi gwahanu neu ysgaru (72%), sengl (65%) neu weddw (52%). Yn gyffredinol, mae cyfraddau cyflogaeth yn is i fenywod nag i ddynion ac mae hyn yn arbennig o wir i fenywod sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil. Roedd cyfradd cyflogaeth dynion priod yn 86% o’i gymharu â 76% i fenywod priod yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021.

Cymru o gymunedau cydlynus

Awdur: Dr Steven Marshall

Y nod: Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

  • Mae’r pandemig wedi effeithio’n eang ar fywydau pobl Cymru yn yr un modd â llefydd eraill ac mae hyn wedi effeithio ar y dangosyddion yn y bennod mewn ffyrdd gwahanol gyda rhai’n dangos gwelliant tra bo eraill wedi gweld gostyngiad. Ni fydd yn glir tan y blynyddoedd i ddod a yw’r newidiadau’n rhai tymor byr neu’n newid parhaus neu rannol barhaus.
  • Mae’r mesur sy’n ymwneud â chydlyniant cymunedol wedi cynyddu ers 2018-19, o ychydig dros 50% i bron i 70% yn cytuno eu bod yn perthyn i’w hardal, bod pobl yn cyd-dynnu’n dda ac yn trin ei gilydd â pharch. Mae 68% o bobl yn teimlo’n ddiogel mewn gwahanol sefyllfaoedd, sydd ychydig yn is na 2018-19.
  • Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau yn eu hardal leol (26%), sy’n ymddangos fel pe bai’n gwrthdroi’r gostyngiad a welwyd yn y ddwy set flaenorol o ganlyniadau.
  • Ni fu unrhyw newid o ran bodlonrwydd ar yr ardal leol, er bod cynnydd yng nghanran y bobl a oedd yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd/defnyddio cyfleusterau a gwasanaethau.
  • Yn ystod 2019-20, roedd gostyngiad yn nifer yr aelwydydd a oedd wedi cysylltu â’u hawdurdod lleol i gael cymorth gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref, gyda dros ddwy ran o dair o’r rhain yn cael eu hatal rhag bod yn ddigartref. Yn ystod pandemig COVID-19, mae llawer o aelwydydd a oedd yn ddigartref yn flaenorol wedi cael cymorth i gael llety brys dros dro.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae llawer o’r dangosyddion ar gyfer cymunedau cydlynus yn dal yn fesurau cymharol ddiweddar a gasglwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ac felly mae’n anodd rhoi sylwadau hyderus ar newidiadau dros amser. Mae effeithiau pandemig COVID-19, yn ogystal â newidiadau yn y ffordd yr oedd yn rhaid casglu’r Arolwg Cenedlaethol, yn effeithio ar y gallu i gymharu â data cynharach.

  • Mae’r rhan fwyaf o’r dangosyddion yn y nod hwn wedi cael eu dadansoddi’n fanwl i bennu’r ffactorau sy’n gysylltiedig â gwahaniaethau yn lefel y dangosydd.
  • Mae’r dangosyddion yn y bennod hon yn cael eu cysylltu’n bennaf ag oedran ac anabledd neu iechyd o ran dimensiynau cydraddoldeb. Os oes cysylltiad, mae bod yn hŷn neu mewn iechyd da yn gysylltiedig â gwerthoedd mwy cadarnhaol y dangosydd. Felly, mae cynnydd tymor hir yn gysylltiedig â gwelliannau o ran iechyd ac amddifadedd neu dlodi.
  • Mae pob un o’r dangosyddion yn gysylltiedig ag o leiaf un mesur sy’n ymwneud â statws economaidd-gymdeithasol neu amddifadedd. Mae’r mesurau gwirioneddol yn wahanol ar draws y dangosyddion ond ym mhob achos mae bod yn well eu byd yn gysylltiedig â gwerthoedd mwy cadarnhaol y dangosydd. Yr unig eithriad yw, mae bod yn economaidd anweithgar yn gysylltiedig â gwirfoddoli mwy, ond mae hyn yn bennaf oherwydd bod pobl sydd wedi ymddeol yn fwy tebygol o wirfoddoli.
  • Mae cysylltiadau rhwng y gwahanol fesurau o gymunedau cydlynus, yn enwedig yn achos unigrwydd sydd â chysylltiad ystadegol arwyddocaol â phedwar mesur arall. Gall y cysylltiadau weithio’n hawdd yn y naill gyfeiriad neu’r llall, er enghraifft, gall pobl unig fod yn llai tebygol o wirfoddoli ond gall gwirfoddoli hefyd helpu i leihau unigrwydd. Ar wahân i unigrwydd, mae gan bob un o’r dangosyddion gysylltiad â’r ardal ddaearyddol, hyd yn oed ar ôl rheoli ffactorau eraill. Fodd bynnag, nid yw bob amser yr un rhannau o Gymru.
  • Mae pobl yn teimlo bod troseddu wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, er bod y darlun o droseddau a gofnodwyd yn fwy cymysg. Yn ystod pandemig COVID-19, bu gostyngiad yn y rhan fwyaf o fathau o droseddau gan gynnwys troseddau treisgar a gofnodwyd ond mae troseddau twyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron wedi bod yn cynyddu.
  • Nid yw’n glir eto a oes unrhyw newidiadau parhaus mewn ymddygiad o ganlyniad i’r pandemig a allai effeithio ar y cynnydd tymor hir tuag at y nod.

Cydlyniant cymunedol

Roedd dros ddwy ran o dair o oedolion yn cytuno â phob un o’r tri mesur cydlyniant cymunedol. Mae hyn yn gynnydd ar y blynyddoedd diwethaf.

Yn 2020-21, roedd 70% o bobl yn cytuno â’r tri datganiad am eu hardal leol sy’n ffurfio’r dangosydd cenedlaethol, ac roedd 95% yn cytuno ag o leiaf un datganiad.

Mae’r ffigurau hyn wedi bod yn weddol sefydlog ers iddynt gael eu casglu am y tro cyntaf yn 2012 tan y cynnydd sylweddol yn 2020-21. Fodd bynnag, nes bydd data ar gael ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ni fydd yn glir a yw’r cynnydd diweddar yn un o effeithiau tymor byr y pandemig (gyda chymunedau’n dod ynghyd yn lleol), neu a fydd yn cael ei gynnal neu ei gynnal yn rhannol.

Nid oes gwahaniaeth ystadegol rhwng dynion a menywod ar y mesurau unigol nac o ran cytuno â'r tri datganiad.

Mae tuedd glir tuag at fwy o gydlyniant cymunedol wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am eu hardal leol yn 2020-21.  Roedd 83 y cant yn cytuno â’r datganiad ‘Yn perthyn i’r ardal leol’, roedd 86 y cant yn cytuno bod ‘Pobl yn yr ardal o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda’ ac roedd 84 y cant yn cytuno bod ‘Pobl yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth’.

Teimlo’n ddiogel ar ôl tywyllu

Mae dwy ran o dair o oedolion yn teimlo’n ddiogel mewn gwahanol sefyllfaoedd ar ôl iddi dywyllu.

Y dangosydd cenedlaethol yw canran y bobl a gytunodd gyda'r pedwar datganiad am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu: gartref, wrth gerdded yn eu hardal leol, teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio mewn car. Yn 2020-21, roedd 68% o bobl yn teimlo’n ddiogel ym mhob un o’r pedair sefyllfa, yn debyg i’r 69% yn 2016-17.

Casglwyd data am deithio mewn car am y tro cyntaf yn 2016-17 ond mae’r mesurau eraill yn y dangosydd yn weddol sefydlog ers iddynt gael eu casglu am y tro cyntaf yn 2012.

Mae dynion yn teimlo’n fwy diogel (84%) na menywod (51%). Mae tuedd glir tuag at fwy o deimlad o ddiogelwch wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng, gyda 76% yn teimlo’n ddiogel yn y cwintel lleiaf difreintiedig a 54% yn y cwintel mwyaf difreintiedig.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu yn 2020-21. Roedd 97 y cant yn teimlo’n ddiogel gartref, roedd 98 y cant yn teimlo’n ddiogel wrth deithio mewn car, roedd 78 y cant yn teimlo’n ddiogel wrth gerdded yn yr ardal leol ac roedd 78 y cant yn teimlo’n ddiogel wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Bodlonrwydd â’r ardal leol

Mae 87% yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw ac mae 87% yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd neu ddefnyddio cyfleusterau a gwasanaethau.

Yn gyffredinol, yn ôl Arolwg Cenedlaethol 2020-21, mae 87% o bobl yn teimlo’n fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw, yn debyg i’r canlyniadau yn 2018-19 a 2016-17.

Roedd 87% o bobl yn fodlon eu bod yn gallu cyrraedd neu ddefnyddio’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, cynnydd ers 2018-19 (83%).

Dywedodd llai na 60% o bobl (yn 2018-19) fod gwasanaethau cyngor fel canolfannau cymunedol, ysgolion uwchradd, llyfrgelloedd a chlybiau ieuenctid neu glybiau chwaraeon ar gael yn eu hardal leol. I’r gwrthwyneb, dywedodd dros 80% fod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, siopau a thafarndai i gyd o fewn 15 i 20 munud ar droed o’u cartref.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl a oedd yn fodlon â mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da yn ôl math o ardal yn 2018-19. Y rheini o ardaloedd ‘trefol’ (poblogaeth dros 10,000) oedd yn fwyaf bodlon, sef 84 y cant, ac roedd y lefelau isaf mewn ‘pentrefi bach ac anheddau ynysig’, lle’r oedd 65 y cant yn fodlon.

Dylanwadu ar benderfyniadau lleol

Mae mwy o bobl nawr yn teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau lleol.

Yn 2020-21, roedd 26% o bobl yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar yr ardal leol.

Mae canlyniadau 2020-21 yn debyg i’r rheini yn 2012-13 a 2013-14 ac yn uwch na chanlyniadau 2016-17 a 2018-19, sy’n gwrthdroi’r hyn a oedd yn ymddangos fel dirywiad yn y blynyddoedd diwethaf.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol. Yn 2020-21, dywedodd 27 y cant eu bod yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau, o’i gymharu â 19 y cant yn 2018-19. Mae canlyniad 2020-21 ar lefel debyg i’r canlyniadau yn 2012-13 a 2013-14.

Gwirfoddoli

Mae ychydig dros chwarter oedolion yn gwirfoddoli.

Mae tystiolaeth bod rhyngweithio cymdeithasol o fudd i lesiant personol ac mae gwirfoddoli yn agwedd ar ryngweithio cymdeithasol sydd wedi dangos manteision cadarnhaol o ran iechyd a llesiant.

Yn 2019-20 mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol yn dangos bod 26% o bobl Cymru wedi gwirfoddoli, yr un fath ag yn y flwyddyn flaenorol. Mae pobl fel arfer yn gwirfoddoli ar gyfer elusennau a chlybiau chwaraeon.

Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol yn dyddio’n ôl cyn y pandemig ac felly nid ydynt yn dangos unrhyw newidiadau mewn gwirfoddoli o ganlyniad. Fodd bynnag, mae gwybodaeth reoli gan Wirfoddoli Cymru yn dangos bod nifer mawr o bobl wedi cofrestru i wirfoddoli yn ystod camau cynnar y pandemig, gyda chyfanswm nifer y gwirfoddolwyr cofrestredig ers mis Mehefin 2018 yn cynyddu o oddeutu 11,000 ar ddechrau mis Mawrth 2020 i fwy na 30,000 ar ddechrau mis Gorffennaf 2020.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl sy’n gwirfoddoli, yn ôl math o sefydliad, yn 2019-20. Mae pobl yn fwy tebygol o wirfoddoli ar gyfer mudiadau elusennol (9 y cant), ysgolion neu grwpiau pobl ifanc (6 y cant) neu glybiau chwaraeon (67 y cant).

Unigrwydd

Pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o deimlo’n unig, er bod oedolion 45 i 64 oed wedi teimlo’n fwy unig yn ystod y pandemig nag yn y blynyddoedd blaenorol. Pobl 65 oed a hŷn yw’r rhai sy’n teimlo’r lleiaf unig o hyd.

Casglodd yr Arolwg Cenedlaethol ddata gan ddefnyddio graddfa unigrwydd De Jong Gierveld sy’n mynd i'r afael ag unigrwydd emosiynol a chymdeithasol.

Yn 2019-20, yn seiliedig ar y chwe mesur, canfuwyd bod 15% o bobl yng Nghymru yn unig. Mae’n syndod efallai, bod hyn wedi gostwng i 13% yn 2020-21. Fodd bynnag, mae amrywiad amlwg yng nghanran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n unig ym mhob un o’r mesurau unigol. Yn 2019-20, dywedodd 36% o bobl eu bod yn colli cael pobl o’u cwmpas o’i gymharu â 71% yn 2020-21. Ar y llaw arall, roedd llai o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwrthod yn 2020-21 a dywedodd mwy o ymatebwyr fod ganddynt ddigon o bobl roedden nhw’n teimlo’n agos atynt.

Mae ffynonellau eraill fel Arolwg Barn a Ffordd o Fyw y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gweld cynnydd mewn rhai agweddau ar unigrwydd yn ystod y pandemig.

Image
Siart far yn dangos y canlyniadau ar gyfer 2019-20 a 2020-21 a’r chwe chwestiwn a ofynnwyd i greu’r mesur o unigrwydd. Mae’r ymatebion i bob datganiad ond un yn dangos bod pobl yn llai unig yn 2020-21.

Digartrefedd

Er bod y gyfradd atal digartrefedd wedi aros yn gyson yn 2019-20, cafodd gwasanaethau ar gyfer y rheini sy’n wynebu digartrefedd eu trawsnewid yn ystod y pandemig gyda llawer o aelwydydd yn cael cymorth i gael llety brys dros dro.

Yn ystod 2019-20, cafodd bron i 10,000 o aelwydydd yng Nghymru eu hasesu fel rhai mewn perygl o fod yn ddigartref, sef gostyngiad o 7% ers 2018-19.

Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf chwe mis mewn 67% o’r achosion hyn. Mae’r gyfradd atal digartrefedd wedi aros yn gyson ers 2017-18.

Ym mis Hydref 2019, amcangyfrifwyd bod 405 o bobl yn cysgu allan ar draws Gymru, cynnydd o 17% (58 o bobl) o'r flwyddyn flaenorol. Yn 2019, amcangyfrifwyd bod 33 o bobl ddigartref yng Nghymru wedi marw, o’i gymharu â 34 yn 2018 a 13 yn 2017.

Mae’r wybodaeth reoli a gasglwyd ers mis Mawrth 2020 yn dangos, rhwng dechrau COVID-19 a diwedd mis Mehefin 2021, fod dros 12,400 o bobl a oedd yn ddigartref wedi cael cymorth i gael llety brys dros dro, gyda’r nod o’u symud i lety tymor hir sy’n fwy addas. Mae awdurdodau lleol wedi amcangyfrif bod llai na 100 o bobl yn cysgu allan ledled Cymru ers mis Tachwedd 2020.

Trosedd

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn profi trosedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer y troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu wedi gostwng tra bod cyfran yr oedolion sy’n ddioddefwyr troseddau wedi aros yn gymharol sefydlog. Fodd bynnag, mae troseddau sy’n ymwneud â thwyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron wedi bod yn cynyddu. 

Mae’r data diweddaraf ar y canfyddiad o droseddau o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) (2019-20) yn dangos bod 53% o bobl yng Nghymru yn credu bod troseddu wedi codi’n sylweddol yn genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn debyg i’r blynyddoedd blaenorol. Mae canran y rhai sy’n credu bod troseddu wedi cynyddu’n sylweddol yn eu hardal leol yn llawer iawn llai (15%).

Mae data gan CSEW (ac eithrio twyll) yn 2020-21 yn dangos bod 10% o oedolion wedi dioddef troseddau a bod 3% wedi dioddef troseddau personol; yn debyg i’r lefelau yn 2019-20.

Gostyngodd nifer y troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yn 2020-21 (gostyngiad o 11%). Roedd hyn yn wir am y rhan fwyaf o gategorïau troseddau gan gynnwys troseddau treisgar, ac eithrio troseddau yn ymwneud â chyffuriau a throseddau trefn gyhoeddus. Mae’n debygol y bydd pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau a gyflwynwyd fel mesurau iechyd y cyhoedd wedi effeithio ar hyn.

Mae’r data diweddaraf am droseddau treisgar yng Nghymru gan y CSEW yn dangos bod nifer yr achosion o droseddau treisgar yng Nghymru wedi gostwng i gyfradd o 18 am bob 1,000 oedolyn yn 2019-20.

Mae nifer y troseddau yn ymwneud â thwyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron wedi cynyddu 33% yng Nghymru rhwng 2019-20 a 2020-21; i gyfradd o 6 trosedd am bob 1,000 o'r boblogaeth yng Nghymru.

Image
Siart linell yn dangos cyfraddau’r gwahanol droseddau fesul 1,000 o bobl rhwng 2002-03 a 2018-19. Mae ‘trais yn erbyn y person’ wedi bod yn cynyddu ers 2012-13, ond mae lladrata, difrod troseddol a llosgi bwriadol wedi gostwng ers 2002-03.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Awdur: Stephanie Howarth

Y nod: Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

  • Yn 2019-20, roedd gostyngiad yng nghyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan reolaidd mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth. Dywedodd 71% o oedolion eu bod yn gwneud y gweithgareddau hyn o leiaf dair gwaith y flwyddyn.
  • Roedd gostyngiad hefyd yn nifer y plant a phobl ifanc a oedd yn mynychu gweithgareddau celfyddydol yn 2019, i lawr o’r lefel uchaf erioed a gofnodwyd yn y flwyddyn flaenorol. Gwelwyd gostyngiad bach hefyd yn nifer y plant a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol.
  • Nid oes data newydd eleni ar y dangosydd cenedlaethol ar gyfranogiad mewn chwaraeon. Fodd bynnag, yn ôl ymchwil gan Chwaraeon Cymru, fe wnaeth yr anghydraddoldebau o ran cymryd rhan mewn chwaraeon ehangu yn ystod y pandemig.
  • Mae darlun cymysg yn y data diweddar ar nifer y siaradwyr Cymraeg. Dangosodd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth gynnydd yng nghanran y bobl a oedd yn siarad Cymraeg yn 2020-21, ac roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos gostyngiad mawr yn nifer y siaradwyr Cymraeg nad oeddent yn rhugl yn 2019-20, cyn dychwelyd i’r lefelau mwy arferol yn fuan wedyn.
  • Gan ddefnyddio’r dangosydd cenedlaethol ar ddefnyddio’r Gymraeg, roedd 10% o bobl tair oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd yn 2019-20. Mae’r cyfrifiad ysgolion yn dangos bod canran y plant sy’n gallu siarad Cymraeg gartref yn 2020/21 wedi aros ar lefel debyg i’r blynyddoedd blaenorol (tua 11%).
  • Cafodd cyflwr 178 o henebion eu hasesu yn 2020-21. Canfuwyd bod 52% yn sefydlog neu wedi gwella a bod 48% wedi gwaethygu, a bod 21% o’r rhain yn cael eu hystyried mewn perygl. Yn gyffredinol, roedd henebion a aseswyd yn 2020-21 yn fwy tebygol o fod mewn cyflwr sy’n gwaethygu neu mewn perygl na’r rheini a aseswyd hyd yma.  

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae cynnydd cadarnhaol wedi bod yn y tymor hwy yn nifer y siaradwyr Cymraeg (yn enwedig y rhai nad ydynt yn rhugl) ac yn y dangosyddion ar gyfranogiad a phresenoldeb plant mewn gweithgareddau celfyddydol. Ond nid oes cynnydd wedi bod ar y dangosydd cenedlaethol o ran nifer yr oedolion a phlant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, ac mae gwahaniaethau mawr rhwng rhai grwpiau. Mae asesiadau o’r amgylchedd hanesyddol hefyd yn awgrymu cynnydd cymysg.

  • Dim ond dwywaith mae’r dangosydd cenedlaethol ar weithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi cael ei gasglu ac mae’n dangos gostyngiad mewn presenoldeb a chyfranogiad rheolaidd – o 75% yn 2017-18 i 71% yn 2019-20. Mae gwahaniaethau mawr yn parhau, yn dibynnu ar oedran, iechyd, amddifadedd a chymwysterau.
  • Er y gostyngiad yn y flwyddyn ddiweddaraf, mae presenoldeb a chyfranogiad plant a phobl ifanc mewn gweithgareddau celfyddydol wedi cynyddu’n sylweddol dros y degawd diwethaf. 
  • Mae ychydig dros 60% o amgueddfeydd ac archifdai wedi cyrraedd safonau achrededig y DU.
  • Mae cyfranogiad oedolion mewn chwaraeon wedi aros yr un fath dros y tair blynedd diwethaf, gyda 32% o oedolion yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos yn 2019-20. Mae cyfranogiad mewn chwaraeon ymysg disgyblion ysgol wedi aros ar yr un lefel yn 2015 a 2018, yn dilyn cynnydd o’r arolwg blaenorol.
  • Roedd nifer a chanran y bobl sy’n siarad Cymraeg wedi gostwng yng Nghyfrifiad 2011, ond mae arolygon ers hynny’n awgrymu bod y niferoedd yn cynyddu. Bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar gael yn 2022, a fydd yn darparu’r amcangyfrif swyddogol nesaf o nifer y siaradwyr Cymraeg.
  • Mae data arolwg yn awgrymu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl. Mae canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio’r iaith bob dydd wedi bod yn weddol sefydlog.
  • Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi bod yn sefydlog ar y cyfan, ond mae llai o henebion sydd wedi cael eu hasesu’n ddiweddar mewn cyflwr sefydlog. Yn gyffredinol, roedd 76% o adeiladau rhestredig mewn cyflwr sefydlog neu’n gwella o’i gymharu â 59% o henebion.

Celfyddydau, diwylliant a threftadaeth

Mae presenoldeb a chyfranogiad rheolaidd mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi gostwng ymysg oedolion. Nid oes gennym ddata eto i ddeall sut mae’r darlun wedi newid yn ystod y pandemig.

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi cael ei gasglu ddwywaith erbyn hyn, am y tro cyntaf yn 2017-18 ac yn fwyaf diweddar yn 2019-20. Mae’n dangos bod gostyngiad wedi bod yng nghanran yr oedolion sy’n mynychu neu’n cymryd rhan reolaidd mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth, o 75% yn 2017-18 i 71% yn 2019-20.

Mae gwahaniaethau mawr o hyd o ran presenoldeb a chyfranogiad rhwng grwpiau. Mae oedolion iau, pobl mewn iechyd da, pobl â chymwysterau uwch neu bobl sy’n byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru yn fwy tebygol o fynychu neu gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn.

Wrth edrych yn fanylach ar y celfyddydau, roedd pobl yn llawer mwy tebygol o fynd i ddigwyddiad celfyddydol na chymryd rhan yn y celfyddydau. Aeth tua 70% o oedolion i ddigwyddiad celfyddydol yn 2019-20, a ffilm oedd y dewis mwyaf poblogaidd. Ond dim ond 19% o oedolion a gymerodd ran yn y celfyddydau.

Image
Siart far yn dangos dwy flynedd o ddata ar gyfer canran yr oedolion a oedd yn mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth yn rheolaidd. Gostyngodd hyn o 75% yn 2017-18 i 71% yn 2019-20.

Plant a’r celfyddydau

Dros y tymor hir, gwelwyd cynnydd yn nifer y plant sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol. Fodd bynnag, mae cyfranogiad plant yn y celfyddydau wedi bod yn fwy sefydlog.

Mae cyfran y plant a phobl ifanc sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, er bod gostyngiad bach wedi bod yn y flwyddyn ddiweddaraf. Fe gododd o 76.3% yn 2010 i 86.7% yn 2019.

Nid yw cyfranogiad plant yn y celfyddydau wedi newid fawr ddim dros y blynyddoedd diwethaf. Mae tua 86-87% o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn digwyddiad celfyddydol ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf.

Mae gwahaniaethau o ran presenoldeb a chyfranogiad yn ôl rhywedd a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Image
Siart linell ar gyfer 2010 i 2019 yn dangos canran yr unigolion rhwng 7 a 18 oed a oedd yn mynychu digwyddiadau celfyddydol unwaith y flwyddyn neu fwy. Mae’r siart yn dangos cynnydd rhwng 2010 a 2019 o 76 y cant i 87 y cant, er bod gostyngiadau bach wedi bod mewn rhai blynyddoedd ar hyd y ffordd.

Chwaraeon

Cyn y pandemig, nid oedd newid yng nghyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan reolaidd mewn chwaraeon am y tair blynedd diwethaf. Yn fwy diweddar, mae’r pandemig wedi ehangu anghydraddoldebau o ran cymryd rhan mewn chwaraeon.

Roedd 32% o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon o leiaf dair gwaith yr wythnos yn 2019-20, sydd heb newid ers y ddwy flynedd flaenorol. Mae cyfran yr oedolion nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon wedi aros yr un fath hefyd, sef 41%.

Dynion, grwpiau oedran iau a phobl mewn gwaith oedd fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy.

Roedd yr arolwg chwaraeon diweddaraf mewn ysgolion yn 2018 yn dangos bod 48% o ddisgyblion ym Mlynyddoedd 3 i 11 yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos. Nid oedd hyn wedi newid ers 2015, yn dilyn cynnydd mawr ers 2013.

Ni chasglwyd data ar gyfer y dangosydd cenedlaethol ar gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, canfu ffigurau o’r Arolwg Cenedlaethol yn ystod haf 2020 fod y pandemig wedi cael effaith gymysg ar weithgarwch corfforol. Ar draws mis Gorffennaf a mis Awst 2020, dywedodd 43% o oedolion eu bod yn gwneud yr un faint o ymarfer corff, roedd 32% wedi gwneud llai na’r arfer a 25% wedi gwneud mwy.

Yn ôl ymchwil gan Chwaraeon Cymru, fe wnaeth yr anghydraddoldebau o ran cymryd rhan mewn chwaraeon ehangu yn ystod y pandemig. Roedd oedolion hŷn ac oedolion mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwneud llai o chwaraeon neu weithgarwch corfforol, o’i gymharu â chyn y pandemig. Roedd yr un peth yn wir am blant o aelwydydd economaidd-gymdeithasol is.

Image
Siart far yn dangos canran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy o 2016-17 i 2019-20. O 2017-18 i 2019-20, roedd y ffigur yn 32 y cant.
Image
Siart far yn dangos canran y plant a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy yn 2013, 2015 a 2018. Yn 2015 a 2018, roedd y ffigur yn 48 y cant.

Y Gymraeg

Mae data arolygon ers Cyfrifiad 2011 yn awgrymu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu, er nad yw’r gyfran sy’n rhugl wedi newid.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 19% o bobl tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Gan mai dim ond unwaith y degawd y mae’r cyfrifiad yn digwydd, rydym yn defnyddio arolygon i edrych ar dueddiadau nes bydd data o Gyfrifiad 2021 ar gael. Nid oes modd cymharu data arolygon â’r cyfrifiad gan fod pobl fel arfer yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn arolygon.

Dros y tymor hir, mae cynnydd wedi bod yng nghanran y bobl sy’n dweud eu bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg. Daw’r cynnydd hwn yn bennaf gan bobl nad ydynt yn rhugl yn y Gymraeg. Mae canran y bobl sy’n rhugl yn y Gymraeg wedi aros ar oddeutu 10-11% ers 2012-13, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Roedd gostyngiad yn 2019-20 ymysg pobl nad ydynt yn rhugl pan syrthiodd o 22% yn 2018-19 i 13% yn 2019-20. Mae wedi dychwelyd i’w lefel flaenorol ers hynny.

Mae data mwy diweddar o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi dangos cynnydd yng nghanran y bobl a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2020. Newidiodd yr arolwg o gyfweliadau wyneb yn wyneb i gyfweliadau dros y ffôn yn ystod y pandemig, ac nid ydym yn deall effaith hyn ar yr ystadegau yn llawn eto. Mae ymchwil blaenorol yn awgrymu bod rhai dulliau arolygu yn gallu arwain at fwy o bobl yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Plant yw’r grŵp sydd fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn ôl y cyfrifiad ac arolygon. Fodd bynnag, mae’r cyfrifiad ysgolion yn dangos bod nifer y plant sy’n gallu siarad Cymraeg gartref wedi aros ar lefel debyg i’r blynyddoedd blaenorol (ychydig dros 10%).

Image
Siart bariau wedi’u pentyrru yn dangos rhuglder yn y Gymraeg o 2012-13 i fis Ionawr i fis Mawrth 2021 (nid oes data ar gael ar gyfer 2015-16). Mae canran y bobl sydd ag o leiaf rhywfaint o allu i siarad Cymraeg wedi cynyddu dros amser ac erbyn hyn mae’n 34%. Mae canran y bobl sy’n rhugl yn y Gymraeg wedi aros yn sefydlog ar tua 11%.

Mae’r arolwg diweddaraf o ddefnydd o’r Gymraeg yn dangos mai ychydig o newid a fu o ran pa mor aml y mae pobl yn siarad Cymraeg.

Yn 2019-20, roedd 10% o bobl tair oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg. Dyma’r un ganran ag yn yr Arolwg Defnydd Iaith blaenorol yn 2013-15.

Wrth edrych ar siaradwyr Cymraeg yn unig (gan gynnwys y rheini sydd ond yn siarad ychydig o eiriau), roedd dros hanner yn siarad Cymraeg bob dydd. Mae hyn wedi amrywio rhwng arolygon defnydd iaith, gan ostwng o 63% yn 2004-06 i 53% yn 2013-15, a chynyddu i 56% yn 2019-20.

Roedd amlder y defnydd o’r Gymraeg yn amrywio yn ôl oedran. Roedd dros ddwy ran o dair o blant 3 i 15 oed sy’n siarad Cymraeg yn siarad Cymraeg bob dydd, yr uchaf o blith unrhyw grŵp oedran. Mae’n debyg bod hyn yn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn defnyddio’r iaith yn rheolaidd yn yr ysgol.

Oedolion iau oedd â’r cyfraddau isaf o siarad Cymraeg bob dydd. Roedd 45% o’r siaradwyr Cymraeg rhwng 16 a 29 oed yn siarad Cymraeg bob dydd, cynnydd o 5 pwynt canran o’i gymharu â’r arolwg blaenorol yn 2013-15.

Roedd canran y siaradwyr Cymraeg a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd yn weddol gyson rhwng y grwpiau oedran hŷn, yn amrywio rhwng 53% a 55%.

Mae cysylltiad clir rhwng amlder siarad Cymraeg a rhuglder. Mae siaradwyr Cymraeg rhugl yn siarad yr iaith yn amlach na’r rhai nad ydynt yn rhugl.

Adeiladau hanesyddol a henebion

Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi bod yn sefydlog ar y cyfan, ond mae llai o henebion sydd wedi cael eu hasesu’n ddiweddar mewn cyflwr sefydlog.

O’r 30,000 o adeiladau rhestredig, mae 76% mewn cyflwr sefydlog neu’n gwella a chredir bod 9% mewn perygl. Yn gyffredinol, mae cyflwr adeiladau rhestredig wedi aros yn debyg dros y bum mlynedd diwethaf. 

Mae cyflwr sampl o henebion cofrestredig yn cael eu hasesu bob blwyddyn. Yn 2020-21, cafodd y broses casglu data ei tharfu’n ddifrifol a’i gohirio oherwydd pandemig COVID-19. Cynhaliwyd arolygon o gyflwr 178 o henebion. Roedd 52% ohonynt yn sefydlog neu wedi gwella ac roedd 48% ohonynt wedi gwaethygu. Roedd 21% o’r henebion mewn perygl. Yn gyffredinol, roedd henebion a aseswyd yn 2020-21 yn fwy tebygol o fod mewn cyflwr sy’n gwaethygu neu mewn perygl na’r rheini a aseswyd hyd yma.  

O’r 4,200 o henebion cofrestredig yng Nghymru, asesir bod 59% yn gyffredinol mewn cyflwr sefydlog neu wedi gwella. Mae’r ffigur hwn wedi bod yn gostwng yn raddol bob blwyddyn ers 2016-17, pan oedd 66% mewn cyflwr sefydlog neu wedi gwella. Mae 41% o henebion cofrestredig yn dangos dirywiad, ac mae 15% ohonynt yn cael eu hystyried yn rhai ‘mewn perygl’. Y prif effeithiau yw difrod a dirywiad o ganlyniad i’r tywydd a llystyfiant.  

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2019-20, roedd 63% o oedolion wedi ymweld â lle hanesyddol yn y flwyddyn ddiwethaf. Roeddent yn fwy tebygol o ymweld â chestyll, caerau ac adfeilion. Cafodd y data hwn ei gasglu diwethaf yn 2017-18 ac ni fu unrhyw newid cyffredinol yng nghyfran y bobl a fu’n ymweld â mannau hanesyddol ers hynny.

Image
Siart linell yn dangos canran yr henebion cofrestredig sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella. Mae’n codi o 62% yn 2011-12 i uchafswm o 66% yn 2016-17. Mae’n gostwng wedyn i 59% yn 2020-21.

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Awdur: Dr William Perks

Y nod: Gwlad sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud rhywbeth o’r fath wneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang. Mae nod 7 yn cydnabod, mewn byd rhyng-gysylltiedig, gall yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod Cymru’n genedl gynaliadwy gael effeithiau cadarnhaol y tu allan i Gymru.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

  • Cynyddodd nifer y bobl a gafodd eu hatgyfeirio fel dioddefwyr caethwasiaeth fodern yng Nghymru ar y flwyddyn flaenorol, gyda 384 o atgyfeiriadau yn 2020. Mae hyn yn gynnydd o 17% o’i gymharu â 2019, er y gallai prosesau adrodd gwell fod yn gyfrifol am rywfaint o'r cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar lefel y DU, mae’n ymddangos bod hyn wedi aros ar yr un lefel yn 2020 (10,613 o ddioddefwyr posibl) o’i gymharu â 2019 (10,616).
  • Rhoddodd yr Uned Priodasau Dan Orfod gyngor neu gymorth mewn 15 achos yn ymwneud â phriodas bosibl dan orfod a/neu achos posibl o anffurfio organau cenhedlu bywyd yn 2020 yng Nghymru.
  • Yn 2019/20, o fewn y Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru, roedd dros 28,000 o ymgeiswyr ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ychydig o dan 12,000 yn astudio Lefel A.
  • Roedd cyfran y plant a oedd wedi cael eu himiwneiddiadau rheolaidd erbyn eu bod yn bedair oed yn 88.0% eleni, yr uchaf ers adrodd ar y mesur hwn am y tro cyntaf.
  • Roedd y nifer a oedd yn cael y brechlyn niwmococol cyfun a’r brechlyn ‘6 mewn 1’ yn dal i fod dros 95% ymysg plant blwydd oed. Roedd ychydig o dan 95% yn cael y dos cyntaf o’r MMR yn ddwy oed.
  • Roedd gostyngiad bach yn nifer y ceiswyr lloches a oedd yn cael cymorth ddiwedd mis Mawrth 2021, er bod y ffigurau wedi aros yn gyson ar y cyfan ers yr un chwarter yn 2016. Hyd at fis Mawrth 2021, roedd cyfanswm o 1,434 o ffoaduriaid wedi cael eu hadsefydlu yng Nghymru o dan y Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed (2014-2020) a Chynllun Adsefydlu’r DU (2021 - ymlaen).
  • Roedd bron i 22,000 o fyfyrwyr rhyngwladol o dros 180 o wledydd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2019/20.
  • Yn 2021 mae Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru wedi cael ei hychwanegu at Restr Treftadaeth y Byd UNESCO, y pedwerydd safle yng Nghymru.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae data ar gyfer rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at y nod ‘Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau tymor hir i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a dangosyddion cenedlaethol eraill sy’n gorgyffwrdd â nod Cymru Gydnerth, a chynnydd yn nifer yr asedau amgylchedd hanesyddol (safleoedd treftadaeth y byd UNESCO). Fodd bynnag, mae ôl troed ecolegol Cymru, sy’n dangos cyfanswm y baich amgylcheddol y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned, yn cyfateb yn fras i bum gwaith maint Cymru.

Cyd-destun Byd-eang, Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Ar 1 Ionawr 2016, dechreuodd y byd roi Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 ar waith, sef y cynllun gweithredu trawsnewidiol sy’n seiliedig ar 17 Nod Datblygu Cynaliadwy i fynd i’r afael â heriau mawr y byd dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn pwysleisio agenda gyffredinol sy’n mynnu bod holl aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig, y rhai cyfoethog a rhai tlawd fel ei gilydd, yn cymryd camau i gefnogi datblygu cynaliadwy.

Mae llawer o ffactorau sy’n pennu a yw Cymru’n dod yn wlad sy’n fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda’i nodau llesiant penodol i Gymru, yn darparu fframwaith ar gyfer cyfraniad Cymru at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Ar y cyfan, mae’r chwe adroddiad naratif arall, drwy eu hasesiad o’n cynnydd tuag at y nodau llesiant cenedlaethol, yn dangos ein cyfraniad cyffredinol fel cenedl at yr agenda datblygu cynaliadwy ryngwladol. Er enghraifft, rydym yn adrodd mewn mannau eraill ar dueddiadau fel tlodi, anghydraddoldebau a gwaith teg. Felly, mae’r naratif hwn ar y nod Cymru sy’n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang yn canolbwyntio ar feysydd sydd fwyaf perthnasol i’r agenda fyd-eang yn benodol.

Mae’r 46 o ddangosyddion cenedlaethol ar gyfer Cymru hefyd wedi cael eu mapio at ddibenion dangosol yn erbyn y 17 Nod Datblygu Cynaliadwy i’ch helpu chi i lywio rhwng cynnydd yma yng Nghymru a’r berthynas â phob un o’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Dangosyddion cenedlaethol: mapio i’r Nodau Llesiant a Nodau Datblygu Cynaliadwy CU (offeryn rhyngweithiol)

Image
""

Er bod rhywfaint o’r naratif yn seiliedig ar ddangosyddion cenedlaethol ac ystadegau swyddogol, mae rhywfaint o’r data a gyflwynir yn yr adran hon yn gyd-destunol ac yn defnyddio data neu ddatganiadau ffeithiol sy’n ymwneud â pholisïau neu raglenni, lle rydym wedi ystyried ei fod yn berthnasol i’r naratif cyffredinol. Nid yw’r data hyn yn cael eu casglu drwy ffynonellau ystadegau swyddogol, ac er eu bod yn cael eu cynnwys yma ar gyfer cyd-destun, ni allwn ddarparu sicrwydd ynghylch ansawdd data. Fodd bynnag, lle bo modd, mae rhagor o wybodaeth am y data ar gael yn yr Adroddiad Ansawdd ar gyfer Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol.

Newid yn yr hinsawdd

Mae pobl yng Nghymru yn poeni am newid yn yr hinsawdd.

Oherwydd newidiadau yn y ffordd y cynhaliwyd Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2020-21, dim ond ym mis Mai 2020 a mis Ionawr-Mawrth 2021 y mae data ar gyfer safbwyntiau ar newid yn yr hinsawdd ar gael.

Ym mis Mai 2020 a rhwng Ionawr a Mawrth 2021, mae’r mwyafrif helaeth (98%) yn dal i gredu bod hinsawdd y byd yn newid. Mae hyn yn gynnydd o 93% yn 2018-19 a 2016-17.

Ym mis Mai 2020, roedd 78% o oedolion (ac yn Ionawr-Mawrth 2021, 76% o oedolion) yn eithaf pryderus neu’n bryderus iawn am newid yn yr hinsawdd, sy’n cyd-fynd â’r ffigurau blynyddol llawn diwethaf yn 2018-19 (76%) a chynnydd o’i gymharu â’r 67% yn 2016-17.

Yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, roedd y mwyafrif helaeth o’r rheini a oedd yn meddwl bod hinsawdd y byd yn newid o hyd yn credu ei fod yn rhannol neu’n bennaf oherwydd gweithgarwch dynol (95%).

Allyriadau nwyon tŷ gwydr

Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi gostwng ers y 1990au, er gwaethaf rhai cyfnodau o gynnydd.

Nod rhif 13 Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yw “gweithredu ar frys i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd”

Er gwaethaf cynnydd bach iawn rhwng 2018 a 2019 (0.2%), mae allyriadau yng Nghymru wedi gostwng bron i draean (31%) ers y flwyddyn sylfaen. Cafodd y gostyngiad hwn ei ysgogi gan arbedion effeithlonrwydd o ran cynhyrchu ynni a gwresogi’r sector busnes, defnyddio nwy naturiol i ddisodli rhai mathau o lo a thanwyddau eraill yn ogystal ag atafael rhai diwydiannau cemegol. Mae amrywiadau mewn cynnyrch gweithgynhyrchu (er enghraifft, mewn haearn a dur, cynhyrchu cemegion mewn swp) wedi cael effaith sylweddol ar y duedd.

Y sector cyflenwi ynni oedd y ffynhonnell allyriadau mwyaf o hyd, gan gynhyrchu 29% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Mae’r sector hwn yn cael ei ddominyddu gan allyriadau gorsafoedd pŵer a oedd yn cyfrif am ddwy ran o dair o gyfanswm allyriadau’r cyflenwad ynni yn 2019. Y sector busnes yw’r ail ffynhonnell fwyaf sy’n cyfrif am bron i chwarter allyriadau Cymru.

Bydd amcangyfrifon o allyriadau nwyddau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru, hyd yn oed os ydynt yn cael eu cynhyrchu mewn gwledydd eraill, yn cael eu cynhyrchu yn 2022 ar gyfer cyfnod cyntaf cyllideb garbon Cymru.

Image
Siart linell i ddangos cyfaint yr allyriadau nwyon tŷ gwydr (cilotunnell) yng Nghymru rhwng 1990 a 2019. Er bod cynnydd bach iawn rhwng 2018 a 2019 (0.2 y cant), mae allyriadau yng Nghymru wedi gostwng bron i draean (31 y cant) ers y flwyddyn sylfaen.

Caethwasiaeth modern

Mae nifer y dioddefwyr posibl o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru sy’n cael eu hatgyfeirio wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys targed ar gyfer “Rhoi terfyn ar gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl”. Caethwasiaeth fodern yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio yn y DU ac mae wedi’i ddiffinio yn Neddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae’r ddeddf yn categoreiddio troseddau o gaethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol neu drwy rym a masnachu pobl.

Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA), mae nifer yr achosion o ddioddefwyr posibl caethwasiaeth sy’n cael eu hadrodd i’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol yn parhau i gynyddu bob blwyddyn yng Nghymru. Fodd bynnag, ar lefel y DU, mae’n ymddangos bod hyn wedi aros ar yr un lefel yn 2020 (10,613 o ddioddefwyr posibl) o’i gymharu â 2019 (10,616).

Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r NCA beidio â gweld cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau yn y DU o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a chredir yn bennaf fod hyn oherwydd pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau cysylltiedig. Mae nifer o ffactorau’n debygol o fod wedi dylanwadu ar gyfraddau atgyfeirio drwy gydol y flwyddyn, fel y cyfyngiadau symud yn y DU yn golygu bod dioddefwyr yn llai tebygol o ryngweithio ag ymatebwyr cyntaf, neu lai o deithio i’r DU.

Yn 2020, cafodd 384 o bobl eu cyfeirio fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth i heddluoedd yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 17% o’i gymharu â 2019 (329 o atgyfeiriadau) ac mae’n debyg bod rhywfaint o'r cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf yn deillio o brosesau adrodd gwell a newidiadau yn y ffordd y cofnodir y data. Roedd 117 o’r atgyfeiriadau yn fenywod (30%) ac roedd 266 yn ddynion (69%), a doedd rhyw 1 (llai na 1.0%) heb ei nodi neu'n anhysbys.

Cafodd 157 (41%) o unigolion eu cyfeirio ar gyfer categorïau camfanteisio ar oedolion ac fe gafodd 216 (56%) eu cyfeirio ar gyfer camfanteisio yn berson ifanc dan oed. Roedd 11 (3.0%) yn anhysbys neu heb eu nodi.

Y math mwyaf cyffredin o gamfanteisio ar gyfer oedolion oedd camfanteisio troseddol, gyda chamfanteisio ar weithwyr yn ail. Y math mwyaf cyffredin ar gyfer plant ifanc dan oed oedd ecsbloetio troseddol.

Priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod

Mae priodasau dan orfod neu achosion posibl o anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael eu nodi yng Nghymru.

Mae nod 5 y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys targed i “gael gwared ar yr holl arferion niweidiol, fel gorfodi plentyn i briodi neu briodi’n gynnar ac anffurfio organau cenhedlu benywod”.

Yn ôl y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, rhoddodd yr Uned Priodasau Dan Orfod (FMU) gyngor neu gymorth mewn 15 achos posibl o briodas dan orfod a/neu achosion bosibl o anffurfio organau cenhedlu benywod yn 2020 yng Nghymru, sef 2% o gyfanswm y DU. Mae hyn yn ostyngiad o 37 o achosion a 3% o gyfanswm y DU yn 2019.

Oherwydd y niferoedd isel o’i gymharu â rhai rhannau eraill o’r DU, mae’r duedd ar gyfer Cymru wedi bod yn anwadal rhwng 2015 a 2020. Ar ben hynny, mae’n bosibl bod y pandemig wedi effeithio ar y niferoedd is eleni, fel cyfyngiadau ar briodasau a theithio. Ar ôl cyflwyno’r cyfyngiadau symud cyntaf, gostyngodd nifer yr atgyfeiriadau i’r FMU. Mae newid i’r drefn o ran a ddylid cofnodi achos newydd fel atgyfeiriad neu ymholiad cyffredinol hefyd yn debygol o fod wedi cael effaith fach ar nifer cyffredinol yr achosion o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol ac felly dylid bod yn ofalus wrth gymharu’n uniongyrchol.

Image
Siart linell yn dangos bod yr Uned Priodasau Dan Orfod (FMU) wedi rhoi cyngor neu gymorth mewn 15 achos yn ymwneud â phriodas bosibl dan orfod a/neu achos bosibl o anffurfio organau cenhedlu bywyd (FGM) yn 2020 yng Nghymru. Mae hyn yn ostyngiad o 37 o achosion yn 2019. Oherwydd y niferoedd isel o’i gymharu â rhai rhannau eraill o’r DU, mae’r duedd ar gyfer Cymru wedi bod yn anwadal rhwng 2015 a 2020.

Pobl ifanc

Mae pobl ifanc yng Nghymru yn dysgu am faterion byd-eang ond mae gostyngiad wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n mynychu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Mae un o Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, sef ‘Addysg o Safon’, yn cydnabod pwysigrwydd cael addysg o ansawdd a bod yr holl ddysgwyr yn meddu ar yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy, gan gynnwys ffyrdd cynaliadwy o fyw, hawliau dynol, cydraddoldeb rhywiol a dinasyddiaeth fyd-eang.

Yn y Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru, mae elfen Dinasyddiaeth Fyd-eang orfodol, sy’n addysgu myfyrwyr am faterion byd-eang.

Yn 2019/20, roedd dros 28,000 o ymgeiswyr ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ychydig o dan 12,000 yn astudio Lefel A, sy’n debyg iawn i’r niferoedd yn 2018/19 (Cyfnod Allweddol 4: 27,774, Lefel A: 13,529). Nid oes data newydd ar y graddau a ddyfarnwyd oherwydd newidiadau a roddwyd ar waith oherwydd y pandemig.

Mae nifer mawr o fyfyrwyr o amrywiaeth o wledydd yn mynychu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Yn 2019/20, roedd 21,995 o fyfyrwyr rhyngwladol o dros 180 o wledydd, sef 17.5% o gyfanswm poblogaeth y myfyrwyr. Mae hyn yn debyg i’r ffigurau ar gyfer y pum mlynedd diwethaf ond yn is na’r lefel uchaf yn 2010/11, pan oedd 26,290 o fyfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru, a oedd yn cyfrif am 20.1% o’r boblogaeth myfyrwyr.

Image
Siart linell yn dangos canran y myfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru sy’n fyfyrwyr rhyngwladol, rhwng 2000/01 a 2019/20. Roedd 21,995 o fyfyrwyr rhyngwladol o dros 180 o wledydd. Mae hyn yn debyg i’r ffigurau ar gyfer y 5 mlynedd diwethaf ond yn is na’r lefel uchaf yn 2010/11, pan oedd 26,290 o fyfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru.

Tlodi bwyd

Mae rhai oedolion yng Nghymru yn wynebu tlodi bwyd ac yn poeni am fforddio bwyd.

Un o nodau’r Cenhedloedd Unedig, sef ‘Dim Newyn’ yw rhoi diwedd ar newyn, sicrhau diogelwch bwyd a gwella maeth.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2020-21, roedd 1% o aelwydydd wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf gyda 2% arall yn dweud nad oeddent wedi cael bwyd ond eu bod wedi dymuno cael hynny. Mae’n anodd cymharu'n uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau yng ngeiriad y cwestiwn a sut mae'n cael ei ofyn. 

Yn ôl yr arolwg hefyd, roedd 4% o oedolion yn dweud eu bod wedi mynd heb bryd o fwyd sylweddol o leiaf un diwrnod yn y pythefnos cynt. Roedd hyn yn is na'r 9% a gofnodwyd yn 2018-19 ac yn debyg i 2017-18 (4%). Fodd bynnag, nid oes modd cymharu’r canlyniadau ar draws blynyddoedd yn uniongyrchol oherwydd newidiadau yng ngeiriad y cwestiwn a sut mae’n cael ei ofyn.

Ceiswyr lloches

Mae nifer y ceiswyr lloches sy’n derbyn cymorth wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ers dechrau’r degawd.

Nod rhif 16 y Cenhedloedd Unedig yw “hyrwyddo cymdeithasau heddychlon a chynhwysol ar gyfer datblygu cynaliadwy, darparu mynediad at gyfiawnder i bawb a chreu sefydliadau effeithiol, atebol a chynhwysol ar bob lefel”.

Nid yw ffigurau cyflawn ar gyfer nifer y ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n cael eu hadsefydlu yng Nghymru ar gael. Fodd bynnag, cyhoeddir ffigurau sy’n ymwneud â nifer y ffoaduriaid sy’n adsefydlu o dan Gynllun Adsefydlu’r DU (a’r Cynllun Adsefydlu pobl agored i niwed gynt), a nifer y rhai sy’n derbyn cymorth lloches ar hyn o bryd.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2021, roedd dros 2,700 o geiswyr lloches yn cael cymorth yng Nghymru. Er ei fod yn ostyngiad bach o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, mae’r niferoedd wedi aros yn gyson ar y cyfan ers yr un chwarter yn 2016, yn dilyn cynnydd ers lefel isel yn 2012.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2021, roedd cyfanswm o 1,434 o ffoaduriaid wedi cael eu hadsefydlu yng Nghymru o dan y Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed (2014 - 2020) a Chynllun Adsefydlu’r DU (2021 ymlaen).

Image
"Siart linell yn dangos nifer y ceiswyr lloches a gafodd cymorth Adran 95, rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2004 a’r flwyddyn a ddaeth i ben mis Mawrth 2021. Mae nifer y ceiswyr lloches sy’n derbyn cymorth wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf (2016-2021) ond mae wedi cynyddu ers dechrau’r ddegawd (2011 ymlaen). "

Cwmpas brechiad

Mae nifer y plant ifanc sy’n cael brechiadau yn dal yn uchel, ond mae wedi gostwng ychydig ers y lefelau uchaf.

Mae nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, sef ‘Iechyd a llesiant da’, yn nodi pwysigrwydd darparu mynediad at feddyginiaethau a brechlynnau fforddiadwy a hanfodol. Mae gan Sefydliad Iechyd y Byd weledigaeth ar gyfer byd heb y frech goch, rwbela a syndrom rwbela cynhenid.

Yn 2019-20, roedd nifer y plant un a phedair oed a oedd yn cael brechiadau rheolaidd wedi cynyddu o’i gymharu â 2018-19, ac roedd y nifer a oedd yn cael brechiadau rheolaidd yn ddwy a phum mlwydd oed wedi aros yn sefydlog.

Roedd y nifer a oedd yn cael y brechlyn niwmococol cyfun a’r brechlyn ‘6 mewn 1’ yn dal i fod dros 95% ymysg plant blwydd oed ar gyfer y deuddegfed flwyddyn yn olynol.

Roedd ychydig o dan 95% yn cael y dos cyntaf o’r MMR yn ddwy oed. Mae hyn yn is na’r cyfartaledd ar gyfer atal achosion o’r frech goch (targed 95%).

Roedd cyfran y plant a oedd wedi cael eu himiwneiddiadau rheolaidd erbyn eu bod yn bedair oed yn 88.0% eleni, yr uchaf ers adrodd ar y mesur hwn am y tro cyntaf.

Roedd y bwlch anghydraddoldeb a gofnodwyd mewn darpariaeth imiwneiddio rhwng plant pedair oed sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig wedi gostwng o’i gymharu â 2018-19, o 9.2 pwynt canran i 7.7 pwynt canran. Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith i nodi gwraidd yr anghydraddoldebau hyn a chanfod ymyriadau i leihau’r bwlch.

Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae dros 90% o oedolion Cymru wedi cael o leiaf un dos o’r brechlyn COVID-19. Mae anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth gyda chyfraddau is mewn ardaloedd difreintiedig ac ymysg grwpiau o gefndiroedd Du Affricanaidd a Du Caribïaidd, er bod yr anghydraddoldebau hyn yn lleihau.

Image
"Siart linell yn dangos canran y bobl a gafodd y brechlyn MMR a’r brechlyn 6 mewn 1 rhwng 2008-09 a 2019-20. Roedd y nifer a oedd yn cymryd y brechlyn niwmococol cyfun a’r brechlyn ‘6 mewn 1’ yn dal i fod dros 95 y cant ymysg plant blwydd oed ar gyfer y deuddegfed flwyddyn yn olynol. Roedd ychydig o dan 95 y cant wedi cael y dos cyntaf o'r MMR yn ddwy oed, ac er bod y nifer wedi cynyddu ers 2008-09, mae’n is na’r uchafbwynt yn 2013-14 "

Safleoedd treftadaeth y byd

Mae gan Gymru safle treftadaeth y byd UNESCO newydd.

Mae nod ‘Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy’ y Cenhedloedd Unedig yn nodi pwysigrwydd gwarchod a diogelu treftadaeth naturiol y byd.

Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn llefydd o Werth Cyffredinol Eithriadol i’r holl ddynoliaeth. Mae hyn yn golygu bod eu harwyddocâd diwylliannol a/neu naturiol mor eithriadol fel ei fod yn bwysig iawn i bobl ym mhob man, nawr ac yn y dyfodol.

Yn 2021 mae Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru wedi cael ei hychwanegu at Restr Treftadaeth y Byd UNESCO, y pedwerydd safle yng Nghymru.

Mae’n ymuno â Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn ne-ddwyrain Cymru, Traphont ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Chestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd yng Nghaernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech yng ngogledd-orllewin Cymru.

Image
""

Darllen pellach

Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o:

  • tlodi bwyd
  • cynefinoedd lled-naturiol
  • mannau gwyrdd
  • ansawdd pridd
  • ansawdd dŵr
  • effeithlonrwydd ynni cartrefi
  • datblygiad a chyrhaeddiad addysgol plant
  • unigrwydd ac ymdeimlad o gymuned
  • cyfranogiad mewn cynrychiolaeth gyhoeddus
  • gwirfoddoli neu gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol neu chwaraeon
  • disgwyliad oes a ffordd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd
  • pobl sy’n chwilio am gymorth gyda’u tai
  • y tebygolrwydd o ddioddef trosedd
  • troseddu treisgar, ymosodiadau rhywiol a cham-drin domestig
  • rhwystrau o ran cymryd rhan yn y celfyddydau
  • gwahaniaethau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol a phoblogaeth o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon
  • tueddiadau yn y mathau o weithgareddau y cymerwyd rhan ynddynt
  • cysylltiadau rhwng y Gymraeg a digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol
  • defnydd plant o’r Gymraeg
  • anffurfio organau cenhedlu benywod
  • crynodiad pridd
  • defnyddio bagiau siopa untro
  • safleoedd treftadaeth UNESCO
  • eco-ysgolion a Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru
  • cymryd rhan yn y rhaglen Cymru o blaid Affrica

Dolenni defnyddiol i gael rhagor o wybodaeth

Cymru lewyrchus

Trosolwg o’r farchnad lafur, yn rhoi diweddariad ar y farchnad lafur yng Nghymru bob mis.

Mae dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau yn dangos tueddiadau yn y canlyniadau economaidd allweddol i Gymru, o’i gymharu â’r DU.

Mae Ystadegau Trafnidiaeth Prydain Fawr (Yr Adran Drafnidiaeth) yn gasgliad blynyddol o ystadegau trafnidiaeth, gan gynnwys data ar gyfer Cymru ar nifer o bynciau.

Cymru gydnerth

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 (Cyfoeth Naturiol Cymru) yn darparu asesiad cynhwysfawr o i ba raddau y mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy. Mae’n dod i’r casgliad bod angen i ni ddefnyddio systemau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Mae gweithgarwch dynol yn ysgogi newid amgylcheddol. Ewch i’r bennod Pontydd i’r Dyfodol (Cyfoeth Naturiol Cymru).

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn darparu data ar safbwyntiau pobl ar faterion amgylcheddol.

Cynhyrchodd y Panel Cynghori ar Aer Glân adroddiad ar COVID-19 ac Ansawdd yr Aer, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021.

Cymru iachach

Mae fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) yn darparu data ar gyfer y dangosyddion yn y fframwaith yn ôl nodweddion ac ardal fach.

Mae dangosfwrdd Llesiant y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi trosolwg gweledol o lesiant yn y DU.

Mae fframwaith canlyniadau cenedlaethol y gwasanaethau cymdeithasol yn dangos y cynnydd a wnaed o ran gwella gofal a chymorth.

Nod proffil adfer COVID-19 (Iechyd Cyhoeddus Cymru)yw monitro a deall tueddiadau iechyd ehangach sy’n gysylltiedig â COVID-19. 

Nod Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru, Rhoi tegwch iechyd wrth wraidd ymateb ac adferiad cynaliadwy COVID-19 (Iechyd Cyhoeddus Cymru) yw helpu i gefnogi a chyfrannu at ymateb ac adferiad cynaliadwy ar ôl y coronafeirws yng Nghymru.

Cymru sy’n fwy cyfartal

A yw Cymru’n decach? (2018) (Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol)

Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Adroddiad ar Arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol 2017/18 ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Iechyd Ysgolion, Hewitt G, et al (2019).

Canolfan Cydraddoldeb a Chynhwysiant (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Adroddiad Ysgol Cymru (2017) (Stonewall cymru)

LGBT yng Nghymru – Trosedd casineb a Gwahaniaethu (Stonewall Cymru)

LGBT yng Nghymru – Adroddiad Gwaith (Stonewall Cymru)

Ystadegau’r Gweithlu Addysg yng Nghymru ( Cyngor y Gweithlu Addysg)

Dangosydd Data Arolwg Cenedlaethol LGBT 2017 ( Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth): canlyniad arolwg y DU yn 2017 ond mae data ar gael ar gyfer Cymru. Mae’r themâu’n cynnwys addysg, iechyd, bywyd yn y DU, diogelwch a’r gweithle.

Allan ar y stryd: Digartrefedd Pobl Ifanc LGBTQ+ yng Nghymru (Llamau)

Cymru o gymunedau cydlynus

Arolwg Cenedlaethol Cymru: Arolwg misol a chwarterol 2020-21

Unigrwydd (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2019 i Fawrth 2020

Gwirfoddoli (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2019 i Fawrth 2020

Ymdeimlad o gymuned (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2018 i Fawrth 2019

Roedd dadansoddiad pellach o ddata Arolwg Cenedlaethol 2018-19 yn cynnwys dadansoddiad atchweliad i amlygu ffactorau arwyddocaol ar gyfer y gwahanol ddangosyddion.

Teimlo’n ddiogel mewn ardal leol (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2018 i Fawrth 2019

Dylanwadu ar benderfyniadau mewn ardal leol (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2018 i Fawrth 2019

Teimlo’n fodlon ar yr ardal leol (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2018 i Fawrth 2019

Mapio unigrwydd yn ystod pandemig y coronafeirws (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Coronafeirws ac unigrwydd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Anabledd ac unigrwydd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru yn cynhyrchu adroddiadau manwl rheolaidd ar y celfyddydau a chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys Arolwg Omnibws y Plant 2019 ac Arolwg Chwaraeon Ysgolion.

Mae amrywiaeth o ddadansoddiadau o’r Gymraeg ar gael hefyd o Gyfrifiad 2011 ac yn adroddiad yr Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Yn fwy diweddar, roedd y cyhoeddiadau canlynol yn dadansoddi data arolygon sy’n ymwneud â'r Gymraeg yn fwy manwl.

Siarad Cymraeg (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2018 i Fawrth 2019

Ble a phryd y mae pobl yn dysgu’r Gymraeg (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2018 i Fawrth 2019

Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol y DU o’r Nodau Datblygu Cynaliadwy (Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol): dyma Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol cyntaf y DU sy’n nodi’r cynnydd tuag at y Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol y DU: Adroddiad atodol Cymru, 2019. Adroddiad atodol i Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol y DU

Data’r DU ar gyfer dangosyddion Nodau Datblygu Cynaliadwy

Ffynonellau’r data

Cymru lewyrchus

Perfformiad economaidd

Gwerth ychwanegol gros rhanbarthol (wedi’i gydbwyso) y pen ac elfennau incwm (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Cynhyrchiant rhanbarthol ac is-ranbarthol yn y DU: Gorffennaf 2021 (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Incwm aelwydydd

Incwm gwario gros aelwydydd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Incwm gwario gros aelwydydd yn rhanbarthol, bwletinau ystadegol y Deyrnas Unedig (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Cartrefi islaw’r incwm cyfartalog (tabl 2-5ts) (Adran Gwaith a Phensiynau)

Y farchnad lafur

Ystadegau’r farchnad lafur ranbarthol yn y DU: bwletinau ystadegol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Trosolwg o’r Farchnad Lafur, Amcangyfrif o unigolion 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth yn ôl gweithgarwch economaidd a grwpiau oedran (StatsCymru)

Cyflog

Y Cyflog Byw Gwirioneddol (Living Wage Foundation)

Ystadegau undebau llafur (Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol)

Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (canolrif enillion yr awr ar gyfer gweithwyr amser llawn, heb gynnwys goramser) (StatsCymru)

Gwaith teg

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth: Gweithio yng Nghymru, 2006 i 2017

Pobl sy’n cael eu cyflogi ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy’n ennill mwy na dwy ran o dair o gyflog canolrifol y DU yn ôl chwarter (StatsCymru)

Canran y bobl sy’n weddol fodlon neu’n fodlon iawn ar eu swyddi yn ôl oedran (StatsCymru)

Tlodi

Tlodi Incwm Cymharol

Amddifadedd materol

Tlodi Parhaus

Cymwysterau

Lefelau’r cymhwyster uchaf gan oedolion o oedran gweithio yn ôl blwyddyn a chymhwyster

Addysg

Cyflawniad academaidd disgyblion 4 i 14 oed mewn pynciau craidd, 2019

Canlyniadau arholiadau: Medi 2019 i Awst 2020

Busnesau

Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yn ôl Blwyddyn (StatsCymru)

Teithio

Ystadegau Trafnidiaeth: Prydain Fawr 2019 (Yr Adran Drafnidiaeth)

Ystadegau cerbydau allyriadau isel iawn (Yr Adran Drafnidiaeth)

Cymru gydnerth

Bioamrywiaeth

Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Adroddiad ERAMMP-78: Adroddiad Interim ar Ddatblygu Dangosydd-44 (Statws Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru) (ERAMMP)

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Cynefinoedd

Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Dŵr

Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Adroddiad Dŵr Ymdrochi yng Nghymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Perygl Llifogydd

Asesu Perygl Llifogydd Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Ansawdd Aer

Dangosyddion Cyfartaledd Crynodiadau Ansawdd Aer (StatsCymru)

Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (Ansawdd Aer Cymru)

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Llygredd Aer ac Iechyd yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Ailgylchu a Defnyddio Adnoddau

Gwastraff Trefol Awdurdodau Lleol (StatsCymru)

Ailgylchu – pwy sy’n arwain y byd o ddifri? (Eunomia)

Olion Troed Ecolegol a Charbon Cymru

Ynni

Data cynhyrchu ynni Carbon Isel (StatsCymru)

Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2019

Cymru iachach

Marwolaethau

Disgwyliad Oes (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Dadansoddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o dueddiadau disgwyliad oes a marwolaeth

Disgwyliad oes yn ôl amddifadedd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Disgwyliad Oes Iach (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Marwolaethau y mae modd eu hosgoi (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Marwolaethau yn ôl achos (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Cyfradd marwolaethau safonedig yn ôl oedran (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Hunanladdiadau yng Nghymru a Lloegr: cofrestriadau 2019 (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Marwolaethau cysylltiedig ag alcohol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Llesiant

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Ffactorau sy’n effeithio ar lesiant (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Mesurau llesiant gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ffyrdd o fyw

Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr (Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion)

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mamolaeth a phwysau geni isel

Ansawdd tai

Ystadegau Genedigaethau’r (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Cymru sy’n fwy cyfartal

Ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth (poblogaethau)

Arolwg Cenedlaethol Cymru, ar foddhad mewn bywyd, ymdeimlad o gymuned, ymdeimlad o ddiogelwch, amddifadedd materol

Tlodi

Tlodi Incwm Cymharol

Arolwg Cenedlaethol Cymru (amddifadedd materol) (StatsCymru)

Tlodi tanwydd

Addysg

Canlyniadau arholiadau

Iechyd a Lles Myfyrwyr, 2019/20 (Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion)

Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur

Y farchnad lafur

Ystadegau’r Farchnad Lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth)

Cymryd rhan yn y Farchnad Lafur (StatsCymru)

Coronafeirws a chyflogaeth: dadansoddiad ar nodweddion gwarchodedig

Coronafeirws (COVID-19) a’r boblogaeth pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru

Coronafeirws (COVID-19) a’r effaith ar bobl anabl yng Nghymru

Bylchau cyflog

Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE)

Bwlch cyflog rhwng ethnigrwydd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Bwlch cyflog i bobl anabl (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Penodiadau cyhoeddus

Adroddiadau blynyddol y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus

Priodasau

Priodasau yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Troseddau

Tablau data agored am Droseddau a Gofnodwyd gan yr Heddlu (Y Swyddfa Gartref)

Nifer y troseddau (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Marwolaethau cysylltiedig â COVID-19 yn ôl ardal leol ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol: marwolaethau rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf 2020 (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Etholiadau’r Senedd 2021

Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw’r Chweched Senedd (Ymchwil y Senedd)

Lefel y cymhwyster uchaf a ddelir gan oedolion o oedran gweithio

Digartrefedd

Ystadegau Digartrefedd

Cymru o gymunedau cydlynus

Gwirfoddoli

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Gwirfoddolwyr yng Nghymru

Digartrefedd

Digartrefedd Statudol, Darpariaeth Llety Digartrefedd a Chysgu Allan - gwybodaeth reoli fisol

Cyfrif cenedlaethol o gysgu allan

Marwolaethau pobl ddigartref yng Nghymru a Lloegr: cofrestriadau 2019 (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Troseddau

Data Canfyddiad Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr 2020-21: Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Tuedd Flynyddol a Thablau Demograffig (tabl D2) (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Mae niferoedd troseddau treisgar CSEW yn dod o dablau data agored am Droseddau Personol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Tablau data agored am Droseddau a Gofnodwyd gan yr Heddlu (Y Swyddfa Gartref)

Troseddau a Gofnodwyd gan yr Heddlu 2020-21-19 (tabl P1) (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Cyfrifir cyfradd y troseddau a gofnodwyd gan yr Heddlu gan ddefnyddio Amcangyfrifon Canol Blwyddyn (StatsCymru)

Data arall

Daw’r holl ddata eraill o Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Presenoldeb a chyfranogiad yn y celfyddydau

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Arolwg Omnibws Plant 2019 - Cyngor Celfyddydau Cymru

Cymryd rhan mewn chwaraeon

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Arolwg Chwaraeon Ysgolion 2018 (Chwaraeon Cymru)

Lefelau Gweithgareddau Chwaraeon Cymru yn ystod pandemig y Coronafeirws (Chwaraeon Cymru)

Y Gymraeg

Cyfrifiad 2011

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Data’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion

Arolwg Defnydd Iaith

Amgueddfeydd ac archifau

Cadw

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Newid hinsawdd a thlodi bwyd

Arolwg Cenedlaethol Cymru a’r Dangosydd canlyniadau

Nwyon tŷ gwydr

Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol

Caethwasiaeth fodern

Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol: Ystadegau’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol – Crynodeb diwedd blwyddyn 2020 (Y Swyddfa Gartref)

Priodas dan orfod

Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, Ystadegau’r Uned Priodasau dan Orfod 2020 (Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad)

Bagloriaeth Cymru

Data a ddarparwyd gan CBAC ar gais

Myfyrwyr tramor addysg uwch

Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Data (HESA)

Ceisiwr lloches

Ystadegau mewnfudo, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021 (Y Swyddfa Gartref)

Ffoaduriaid: Ystadegau mewnfudo, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021 (Y Swyddfa Gartref)

Imiwneiddio

Adroddiad blynyddol COVER - nifer y plant a gafodd brechlynnau yng Nghymru yn 2020 (Iechyd Cyhoeddus Cymru), Iechyd Cyhoeddus Cymru a StatsCymru

Goruchwylio COVID-19 yn gyflym (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Safleoedd Treftadaeth y Byd

Deall Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru (Cadw)

Gwybodaeth gefndir

Beth yw’r adroddiad hwn?

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud yng Nghymru o ran cyflawni’r saith nod llesiant. Mae’n adroddiad statudol sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’n adroddiad sy’n ymwneud â chynnydd ar y cyd Cymru fel cenedl. Nid yw’n adroddiad ar berfformiad sefydliad unigol. Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf ym mis Medi 2017.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n bwriadu gwneud i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a’i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig. Bydd hyn yn helpu i greu Cymru rydym i gyd am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r Ddeddf hefyd yn cyflwyno saith nod llesiant i wneud Cymru yn wlad lewyrchus, gydnerth, iachach, fwy cyfartal a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

Mae rhagor o wybodaeth gefndir am y Ddeddf yn y canllaw Hanfodion.

Beth yw’r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer Cymru?

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i Weinidogion Cymru bennu dangosyddion cenedlaethol sy’n asesu cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Rhwng mis Medi 2015 a mis Ionawr 2016 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus eang i nodi pa set fach o ddangosyddion y dylid eu datblygu i fesur cynnydd yn erbyn y nodau llesiant. Cyhoeddwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn ym mis Mawrth 2016 a’u cyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r dangosyddion cenedlaethol wedi’u llunio i gynrychioli’r canlyniadau ar gyfer Cymru a’i phobl a fydd yn helpu i ddangos cynnydd tuag at y saith nod llesiant. Nid ydynt yn ddangosyddion perfformiad ar gyfer sefydliad unigol.

Mae disgrifiad llawn o’r dangosyddion cenedlaethol, gan gynnwys eu diffiniad technegol a gwybodaeth am eu ffynonellau data ac amlder yn y ddogfen dechnegol.

Sut mae hyn yn berthnasol i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig?

Mae Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 yn gynllun gweithredu trawsnewidiol sy’n seiliedig ar 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig – i fynd i’r afael â heriau mawr y byd dros y 15 mlynedd nesaf. Mae 17 nod byd-eang y Cenhedloedd Unedig yn golygu y bydd yn rhaid i bob gwlad ar y blaned weithredu i roi diwedd ar dlodi, hyrwyddo ffyniant a llesiant i bawb, diogelu’r amgylchedd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’r nodau hynny i fod yn bellgyrhaeddol, yn canolbwyntio ar bobl, yn gyffredinol ac yn drawsnewidiol. Mae aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig wedi ymrwymo i weithio’n ddiflino i’w gweithredu erbyn 2030, a bydd Cymru’n chwarae ei rhan.

Bydd llawer o ddangosyddion cenedlaethol yn helpu i adrodd am y cynnydd yng Nghymru yn erbyn mwy nag un o Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Rydym wedi mapio’r dangosyddion yn erbyn y nodau.

Cerrig milltir cenedlaethol

Yn ogystal â gosod dangosyddion cenedlaethol, mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu cerrig milltir cenedlaethol i helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud ar lefel genedlaethol tuag at gyflawni’r nodau llesiant.

Pwy gynhyrchodd yr adroddiad hwn?

Mae’r adroddiad wedi’i gynhyrchu gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru o dan gyfrifoldeb Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru. Mae wedi’i gynhyrchu yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac, felly, mae wedi’i gynhyrchu’n annibynnol ar ddylanwad gwleidyddol.

Amseroldeb

Mae’r adroddiad yma wedi’i gyhoeddi ym mis Medi er mwyn sicrhau ei fod mor agos â phosib i ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol, ond hefyd ar ôl cyhoeddiad yr Arolwg Cenedlaethol Cymru sy’n ffynhonell i 14 o’r dangosyddion cenedlaethol.

Bydd y data ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol yn cael ei ddiweddaru wrth i setiau data newydd gael eu cyhoeddi ar gyfer y dangosyddion hynny. 

Cwmpas

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, ac felly dim ond mesurau cynnydd lefel uchel y mae modd eu hystyried yn yr adroddiad hwn. Mae dadansoddiad manylach o lawer o’r pynciau hyn ar gael drwy’r amrywiaeth o ddatganiadau ystadegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol neu gynhyrchwyr ystadegol eraill.

Cwmpas yr adroddiad yw Cymru. Ar gyfer rhai dangosyddion, cyfeirir at y sefyllfa o’i chymharu â’r DU. Mae’r naratif yn erbyn y nodau ac ar gyfer pob dangosydd yn seiliedig ar gynnydd cenedlaethol yn erbyn y nodau, ac nid yw’n ceisio darparu adroddiad ar gynnydd ar wahanol lefelau daearyddol. Fodd bynnag, mae data ar gyfer nifer o ddangosyddion ar gael yn StatsCymru, neu ar gais, ar lefelau manylder daearyddol is.

Hygyrchedd

Mae’r adroddiad wedi’i gynhyrchu fel adroddiad ar-lein i wella hygyrchedd, ymatebolrwydd a phrofiad defnyddwyr.

Mae’r rhan fwyaf o’r data sy’n sail i’r adroddiad, gan gynnwys dadansoddiadau llawer mwy manwl, ar gael ar StatsCymru a thrwy wasanaethau data agored StatsCymru.

A yw’r holl ddata’n ystadegau swyddogol?

Mae’r rhan fwyaf o’r dangosyddion (32) yn seiliedig ar ffynonellau a gyhoeddwyd fel ystadegau swyddogol. Hynny yw, maent wedi’u cyhoeddi gan ystadegwyr y llywodraeth, neu gan gyrff cyhoeddus eraill, o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae 24 o’r dangosyddion hyn yn seiliedig ar ffynonellau sydd wedi’u cyhoeddi fel Ystadegau Gwladol. Hynny yw, mae Awdurdod Ystadegau’r DU wedi dynodi’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol, sy’n dangos ei fod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae hyn yn golygu eu bod yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Mae 12 dangosydd yn seiliedig ar ffynonellau eraill fel data gweinyddol a ddelir gan adrannau’r llywodraeth. Nid oes data ar gyfer dau ddangosydd ar hyn o bryd.

Er nad yw holl ffynonellau’r data a ddefnyddir yn dod o ystadegau swyddogol, mae’r adroddiad ei hun wedi’i ddatblygu a’i gyhoeddi’n unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Cyn adroddiad 2020, roeddem wedi bwriadu ceisio dynodiad Ystadegau Gwladol drwy asesiad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Yng ngoleuni’r pandemig, mae hyn wedi cael ei ohirio ond rydym yn bwriadu mynd ar drywydd hyn eto yn y dyfodol.

Beth arall ddylwn i ei wybod am y data?

Mae’r adroddiad ansawdd ar gyfer adroddiadau dangosyddion cenedlaethol ochr yn ochr â’r datganiad hwn yn darparu dolenni at wybodaeth am bob un o’r ffynonellau data a ddefnyddir i fesur y dangosyddion cenedlaethol, neu yn darparu’r wybodaeth honno lle nad yw’n bodoli mewn mannau eraill.

Er bod y rhan fwyaf o’r naratif yn adroddiad Llesiant Cymru yn dod o ddangosyddion cenedlaethol, mae rhywfaint o’r data’n dod o ystadegau swyddogol eraill neu ystadegau a thystiolaeth eraill lle rydym wedi ystyried eu bod yn berthnasol i’r naratif cyffredinol. Mae’r data sydd ddim yn cael ei gasglu drwy ffynonellau ystadegau swyddogol yn cael eu defnyddio yn adroddiad Llesiant Cymru ar gyfer cyd-destun, ond ni allwn bob amser sicrhau ansawdd data. Gan fod y data yn yr adroddiad cynnydd wedi dod o amrywiaeth o setiau data, bydd lefel yr wybodaeth o ansawdd sydd ar gael yn amrywio ym mhob achos. Rydym wedi darparu dolenni i’r ffynonellau gwreiddiol a’u gwybodaeth ansawdd lle maent yn bodoli.

Pwy sy’n defnyddio’r adroddiad hwn?

Rhagwelir y bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru; y Senedd (gan gynnwys Aelodau’r Senedd a’i phwyllgorau); y cyfryngau; a’r cyhoedd yn gyffredinol i (i) helpu i ddeall Llesiant Cymru (ii) deall y cynnydd sy’n cael ei wneud yn erbyn y saith nod llesiant a (iii) deall ble mae Cymru’n gwneud cynnydd yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.

Mae’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir, ar ôl eu cyhoeddi, yn gallu helpu cyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i gyfraith cenedlaethau’r dyfodol i ddeall mwy am natur y newid a ddisgwylir wrth gyflawni’r nodau llesiant. Dylid ystyried y dangosyddion cenedlaethol fel tystiolaeth ddefnyddiol i helpu cyrff cyhoeddus i ddeall y prif feysydd lle dylid gwneud cynnydd mewn perthynas â’r nodau llesiant.

Bydd gan y dangosyddion cenedlaethol hefyd rôl benodol gan fod yn rhaid i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gyfeirio atynt wrth ddadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn eu hardaloedd. Dylai cyrff cyhoeddus hefyd ddefnyddio’r adroddiad i ddatblygu ac adolygu asesiadau llesiant ac i bennu ac adolygu’r nodau llesiant sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Rhaid i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ystyried yr adroddiad blynyddol ar Lesiant Cymru wrth baratoi a chyhoeddi ei ‘Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol’.

Cyd-destun y DU

Ar gyfer y DU gyfan, mae gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol Raglen Llesiant Genedlaethol. Mae’r dangosfwrdd llesiant (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol) yn rhoi trosolwg gweledol o’r 43 prif ddangosydd llesiant cenedlaethol a gellir eu harchwilio drwy’r 10 maes bywyd (meysydd) neu drwy gyfeiriad y newid.

Yn yr Alban, mae’r Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol (NPF) yn nodi gweledigaeth ar gyfer llesiant cenedlaethol ac yn mesur cyflawniad mewn perthynas â hyn. Lansiwyd Fforwm NPF diwygiedig ym mis Mehefin 2018 yn dilyn proses adolygu agored ac mae’n seiliedig ar statud (Deddf Grymuso Cymunedau (Yr Alban) 2015).

Mae’r NPF diwygiedig yn mapio ei un ar ddeg Canlyniad Cenedlaethol i ddwy ar bymtheg Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig ac mae’n rhan bwysig o’r gwaith o leoleiddio agenda Nodau Datblygu Cynaliadwy yn yr Alban. Adroddir ar gynnydd tuag at y weledigaeth a nodir yn y NPF mewn ffordd agored a thryloyw ar wefan y Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol drwy 81 o ddangosyddion cenedlaethol sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o fesurau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Yn ogystal â dangos perfformiad ar lefel genedlaethol, gall ystod o is-grwpiau demograffig a daearyddol archwilio’r data i weld a yw canlyniadau’n cael eu gwireddu ar gyfer gwahanol rannau o gymdeithas yr Alban.

Yng Ngogledd Iwerddon, y prif fecanwaith ar gyfer asesu llesiant cymdeithasol yw’r fframwaith llesiant o 12 canlyniad a ddatblygwyd gan y Weithrediaeth flaenorol, ac a gafodd ei drafod a’i fireinio yn ystod 2016-2017. Mae’r fframwaith hwn, sy’n cynnwys 49 o ddangosyddion poblogaeth ategol, yn cwmpasu Cynllun Cyflawni Canlyniadau Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon.

Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan yn y rhaglen Mesur Llesiant Cenedlaethol sy’n cael ei harwain gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac mae’n cyhoeddi dadansoddiad llesiant (Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon) yn seiliedig ar fesurau llesiant y Swyddfa Ystadegau Gwladol, lle mae data sydd ar gael yng Ngogledd Iwerddon yn caniatáu hynny.

Dolenni perthnasol eraill

Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol (Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru)

Tueddiadau yn y dyfodol

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol y DU ( Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol)

Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol y DU: Adroddiad atodol Cymru 2019

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stephanie Howarth
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 297/2021