Gwybodaeth am ansawdd ar gyfer adroddiad Llesiant Cymru: 2025
Sut i ddod o hyd i wybodaeth am ansawdd y data a ddefnyddir yn adroddiad Llesiant Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r dolenni’n rhoi manylion fel cwmpas, cryfder a chyfyngiadau’r data, a hefyd y prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu a chyhoeddi’r setiau data y tu ôl i’r ystadegau a ddyfynnwyd yn yr adroddiad cynnydd.
Er bod y rhan fwyaf o’r naratif yn adroddiad Llesiant Cymru yn dod o ddangosyddion cenedlaethol, mae rhywfaint o’r data cyd-destunol yn dod o ystadegau swyddogol eraill neu ystadegau a datganiadau ffeithiol sy’n gysylltiedig â pholisïau neu raglenni penodol, lle’r ydym o’r farn eu bod yn berthnasol i’r naratif cyffredinol.
Mae data o ffynonellau ac eithrio Ystadegau Swyddogol yn cael eu defnyddio yn yr adroddiad Llesiant Cymru ar gyfer cyd-destun, ond ni allwn bob amser sicrhau ansawdd data yn drylwyr.. Gan fod y data yn yr adroddiad cynnydd wedi dod o amrywiaeth o setiau data, bydd lefel yr wybodaeth o ansawdd sydd ar gael yn amrywio ym mhob achos. Lle bo gan y ffynonellau data gwreiddiol adroddiadau ansawdd manwl, rydym wedi darparu dolenni i’r adroddiadau hynny. Lle nad oes adroddiadau ansawdd ar gael ar gyfer ffynhonnell, mae gwybodaeth ychwanegol, lle bo ar gael, wedi ei chynnwys yn y ddogfen hon.
Arolwg Cenedlaethol Cymru blwyddyn ariannol 2024 i 2025
Arolwg Cenedlaethol Cymru yw ffynhonnell 14 o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol ac mae’n cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell ddata gyd-destunol drwy gydol adroddiad Llesiant Cymru.
Cafwyd problemau gwaith maes yn ystod 2024 i 2025 gan arwain at gyfraddau ymateb is na blynyddoedd blaenorol, meintiau sampl llai, a rhai gwahaniaethau yng nghyfansoddiad y sampl (gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth). Oherwydd maint llai'r samplau, mae’r cyfyngau hyder o ran amcangyfrifon yn ehangach nag mewn blynyddoedd blaenorol, yn enwedig ar gyfer ardaloedd daearyddol llai ac is-grwpiau poblogaeth.
Bydd yr holl ystadegau o Arolwg Cenedlaethol Cymru sy'n seiliedig ar ddata 2024 i 2025 yn cael eu dynodi fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad, yn hytrach nag ystadegau swyddogol achrededig fel mewn blynyddoedd blaenorol.
Fodd bynnag, mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn. Ar lefel genedlaethol, mae'r arolwg yn parhau i ddarparu amcangyfrifon rhesymol, yn enwedig pan gaiff ei ddefnyddio ochr yn ochr â ffynonellau eraill. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli unrhyw wahaniaethau ymddangosiadol rhwng 2024 i 2025 a blynyddoedd blaenorol: gallai’r gwahaniaethau adlewyrchu problemau gwaith maes, neu newid go iawn, neu'r ddau.
Cerrig milltir a dangosyddion llesiant cenedlaethol
Mae’r adran hon yn darparu dolenni lle mae rhagor o wybodaeth ar gael mewn perthynas ag ansawdd y data a ddefnyddir yn y dangosyddion cenedlaethol a gyhoeddir yn adroddiad Llesiant Cymru. Mae’r dolenni’n rhoi manylion fel cwmpas, cryfder a chyfyngiadau’r data, a hefyd y prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu a chyhoeddi’r setiau data y tu ôl i’r dangosyddion. Mae'r ddogfen hon hefyd yn rhoi gwybodaeth am y dulliau a ddefnyddir i asesu cynnydd gyda'r cerrig milltir cenedlaethol.
Cerrig milltir cenedlaethol
Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cam cyntaf o gerrig milltir cenedlaethol Cymru, gyda’r ail gam yn cael ei osod ym mis Tachwedd 2022. Mae cyfanswm o 17 o gerrig milltir cenedlaethol, sy’n cynnwys 16 o ddangosyddion cenedlaethol. Mae’r cerrig milltir yn dargedau cenhedlaeth sy’n disgrifio cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y saith nod llesiant.
Rydym wedi asesu cynnydd pob un o'r cerrig milltir cenedlaethol. Asesir y newid ers 2015, gan mai dyma oedd blwyddyn sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, er nad oedd y cerrig milltir eu hunain wedi’u gosod tan yn ddiweddarach. Os nad oedd data ar gael ar gyfer 2015, defnyddiwyd y flwyddyn agosaf bosibl.
Mae sawl rhan i rai o’r 17 o gerrig milltir, felly mae cyfanswm o 21 asesiad cynnydd. Rydym yn nodi bod pob mesur naill ai wedi gwella, wedi dirywio, heb newid neu heb ei asesu. Nid ydym wedi ystyried a yw’r cerrig milltir ar y trywydd iawn i gael eu cyflawni, dim ond asesu cyfeiriad y newid. Lle bo modd, defnyddir cyfyngau hyder i asesu arwyddocâd ystadegol y newid. Nid yw cyfyngau hyder ar gael ar gyfer rhai o’r dangosyddion nad ydynt yn seiliedig ar ddata’r arolwg. Yn yr achosion hynny, mae newid dros amser wedi cael ei asesu ar sail arweiniad gan yr arbenigwr data.
Dangosyddion cenedlaethol
Gan fod y data ar gyfer y dangosyddion wedi dod o amrywiaeth o setiau data, bydd lefel yr wybodaeth o ansawdd sydd ar gael yn amrywio ym mhob achos. Ar gyfer y dangosyddion a gymerir o ddata a ddynodir gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau fel Ystadegau Swyddogol Achrededig, bydd adroddiadau ansawdd ar gael mewn mannau eraill sy’n rhoi manylion y fethodoleg a ddefnyddiwyd a hefyd yn ymdrin â materion sy’n ymwneud ag ansawdd data. Gan hynny, lle bo hynny’n wir, rydym wedi darparu dolenni i’r adroddiadau ansawdd hynny. Ar gyfer y dangosyddion lle mae’r data yn Ystadegau Swyddogol, yn hytrach na rhai sydd wedi eu dynodi’n Ystadegau Swyddogol Achrededig, efallai na fydd adroddiad ansawdd ar gael. Fodd bynnag, bydd gwybodaeth o ansawdd ar gael yn y datganiad ystadegol, os cyhoeddir un. Felly, yn yr achosion hyn, rydym wedi rhoi dolenni i’r datganiad ystadegol perthnasol.
Ar gyfer rhai dangosyddion lle nad yw’r data’n cael ei gyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol, mae’n debygol y bydd llai o wybodaeth am ansawdd wedi ei chyhoeddi yn barod, ac felly rydym wedi cynnwys mwy o fanylion am ansawdd yn y ddogfen hon.
Dangosydd 1: Canran genedigaethau sengl byw gyda phwysau geni o lai na 2,500g
Ffynhonnell: Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
Mae gwybodaeth am ansawdd data ar gael yn yr adroddiad ansawdd sy’n cyd-fynd â’r datganiad blynyddol ar Ystadegau mamolaeth a genedigaethau.
Dangosydd 2: Disgwyliad oes iach adeg geni, gan gynnwys y bwlch rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig
Ffynhonnell: Swyddfa Ystedegau Gwladol (SYG)
Cyhoeddir disgwyliad oes iach adeg geni, gan gynnwys gwybodaeth dechnegol am y mesurau, gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cyhoeddi dogfen Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg gynhwysfawr, templed Excel ar gyfer cyfrifo disgwyliad oes iach (SYG) yn ogystal ag ystadegau disgwyliad oes iach (SYG). Nid yw’r sylw i’r gyfres amser a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol mor gyflawn â’r hyn a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, felly Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r brif ffynhonnell y cyfeirir ati ar gyfer y dangosydd hwn ar hyn o bryd.
Dangosydd 3: Canran yr oedolion sydd â dau neu fwy ymddygiad ffordd iach o fyw
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae’r data o Arolwg Cenedlaethol Cymru Gall ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i’w fesur ac efallai y bydd rhai gwahaniaethau rhwng yr hyn mae pobl yn ei ddweud a’r hyn maen nhw’n ei wneud. Fodd bynnag, mae data’r arolwg yn dal i fod yn ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau dros amser a rhwng gwahanol grwpiau. Mae’r dangosydd hwn yn cyfuno gwybodaeth am 5 ymddygiad gwahanol o ran ffordd o fyw. Ni ddylid cymharu canlyniadau 2020-21 ymlaen â'r blynyddoedd blaenorol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canlyniadau ar ffordd o fyw oedolion ac adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Dangosydd 4: Lefelau llygredd Nitrogen Deuocsid (NO2) yn yr aer
Ffynhonnell 1: Crynodiad Aer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Ffynhonnell 2: Amcangyfrifon Poblogaeth Ardaloedd Bach, SYG
Bob blwyddyn, mae model Mapio Hinsawdd Llygredd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyfrifo’r crynodiadau llygredd cyfartalog ar gyfer pob cilometr sgwâr yn y Deyrnas Unedig. Mae’r model yn cael ei raddnodi yn erbyn mesuriadau a gymerir o rwydwaith monitro ansawdd aer cenedlaethol y Deyrnas Unedig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r data cyhoeddedig hwn i neilltuo crynodiad o NO2, PM2.5 a PM10 i bob annedd breswyl yng Nghymru ar sail y cilometr sgwâr o Gymru y mae wedi ei leoli ynddo.
Ar gyfer pob ardal cynnyrch y cyfrifiad (unedau daearyddol ystadegol sy’n cynnwys tua 150 o aelwydydd), cynhyrchwyd cyfartaledd ar gyfer y crynodiadau llygredd sy’n gysylltiedig â phob annedd i roi crynodiad NO2, PM2.5 a PM10 cyfartalog ar draws ardal cynnyrch y cyfrifiad.
Ar gyfer pob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol, cyfrifwyd cyfartaledd pwysedig y boblogaeth dros ardal cynnyrch y cyfrifiad i roi crynodiad NO2, PM2.5 a PM10 cyfartalog yn seiliedig ar ble mae pobl yn byw yn yr awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd hynny. Cafodd yr un cyfrifiad ei ailadrodd hefyd ar draws holl ardaloedd cynnyrch y cyfrifiad er mwyn rhoi ffigur cymharol ar gyfer Cymru gyfan.
Mae ffigurau ansawdd aer 2023 yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth 2022.
Dangosydd 5: Canran y plant sydd â dau neu fwy ymddygiad ffordd iach o fyw
Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (Iechyd Cyhoeddus Cymru).
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, sy’n cael ei arwain gan y Ganolfan Gwerthuso a Datblygu Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd mewn partneriaeth gydarhwng Llywodraeth Cymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cancer Research UK; a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD). Cynhelir yr arolwg bob dwy flynedd, ac mae’n rhoi ciplun rheolaidd o ymddygiadau iechyd pobl ifanc rhwng 11-16 oed yng Nghymru. Mae’r arolwg yn cael ei gwblhau ar-lein yn yr ystafell ddosbarth. Ym mlwyddyn academaidd 2021 i 2022, roedd bron i 125,000 o fyfyrwyr o 202 o ysgolion wedi cymryd rhan yn yr arolwg.
Gweler adran “Dulliau” yr adroddiadiau cenedlaethol am ragor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Dangosydd 6: Mesur datblygiad plant ifanc
Ffynhonnell: Asesiadau sylfaenol y Cyfnod Sylfaen, Llywodraeth Cymru
Gweler yr adran ar asesiadau sylfaenol y Cyfnod Sylfaen yn y datganiad ystadegol ar gyfer cyflawniad Academaidd disgyblion yn asesiad sylfaenol y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 3, 2022. Oherwydd bod y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd i Gymru wedi cael ei gyflwyno, nid yw’r data asesu sylfaenol yn cael ei gofnodi gan ysgolion mwyach. Y cyhoeddiad hwn yn 2022 yw'r set data olaf ar gyfer datganiadau gwaelodlin.
Dangosydd 7: Sgôr 9 pwynt wedi ei chapio cyfartalog ar gyfer disgyblion, gan gynnwys y bwlch rhwng y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys
Ffynhonnell 1: Cronfa Ddata Arholiadau Cymru (drwy sefydliadau dyfarnu a chorff casglu dan gontract)
Ffynhonnell 2: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD), Llywodraeth Cymru
Cyhoeddir y data hwn fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler adran Gwybodaeth Ansawdd Allweddol y datganiad ystadegol blynyddol ar Ganlyniadau Arholiadau.
Oherwydd y tarfu ar ysgolion o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws (COVID-19), cadarnhaodd y Gweinidog Addysg ar y pryd na fyddai Llywodraeth Cymru yn cyfrifo nac yn cyhoeddi mesurau perfformiad yn 2021/22 ar gyfer carfannau Blwyddyn 11 a chweched dosbarth. Parhaodd hyn â’r trefniadau rhwng 2019 i 2020 a 2020 i 2021.
Roedd cyfnodau arholiadau 2021 i 2022 a 2022 i 2023 yn flynyddoedd pontio lle roedd disgyblion o Gymru yn dychwelyd i sefyll arholiad ysgrifenedig. Ni ddychwelwyd yn llwyr i'r system arholiadau cyn y pandemig. Er mwyn gwneud iawn am unrhyw darfu ar amserlen yr ysgol, cafodd disgyblion a safodd arholiadau yn 2021 i 2022 ddewis ehangach o gwestiynau o’r maes llafur, gyda Cymwysterau Cymru yn gosod canlyniadau hanner ffordd (yn fras) rhwng 2018 i 2019 (y tro diwethaf i arholiadau gael eu sefyll) a chanlyniadau 2020i 2021. Gwelodd blwyddyn ysgol 2022 i 2023 newid pellach yn ôl i’r trefniadau asesu cyn y pandemig (gan gadw rhywfaint o gymorth ar gyfer dysgwyr). Roedd y gefnogaeth hon ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw a dull cefnogol o bennu graddau. Yn 2022 i 2023 gosododd Cymwysterau Cymru y canlyniadau ar lefel genedlaethol tua hanner ffordd rhwng canlyniadau 2018 i 2019 a 2021 i 2022. Yn 2023 i 2024 mae Cymwysterau Cymru wedi dychwelyd i ddyfarnu canlyniadau yn unol â chanlyniadau cyn y pandemig, , gan arwain at ostyngiad bach o ganlyniadau 2022 i 2023.
Cafodd disgyblion a gafodd gymhwyster yn ystod cyfnodau haf 2019 i 2020 a 2020 i 2021 raddau ar sail model graddau a bennwyd gan y ganolfan neu a aseswyd gan y ganolfan. Cafodd graddau eu pennu gan ysgolion a cholegau, ar sail eu hasesiad o waith dysgwyr, gan ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth (gan gynnwys asesiadau heb fod yn arholiad, ffug arholiadau, a gwaith dosbarth).
Oherwydd y trefniadau arholi amrywiol sydd wedi bod ar waith ers 2018 i 2019, rhaid bod yn ofalus wrth gymharu canlyniadau rhwng blynyddoedd dilynol.
Dangosydd 8: Canran yr oedolion â chymwysterau ar wahanol lefelau’r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, SYG
Cyhoeddir y data hwn fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler adran ansawdd y datganiad ystadegol Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio. Sylwch na ellir cymharu amcangyfrifon ar gyfer 2022 ymlaen â blynyddoedd blaenorol yn dilyn newidiadau i’r cwestiynau ar gymwysterau Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
Dangosydd 9: Gwerth Ychwanegol Gros fesul awr gweithio, mynegai (Deyrnas Unedig = 100)
Ffynhonnell: Cyfrifon rhanbarthol, SYG
Cyhoeddir y data hwn gan y SYG. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we gwybodaeth ansawdd a methodoleg Cynhyrchiant Llafur (SYG).
Dangosydd 10: Incwm Gwario Gros yr Aelwydydd y pen
Ffynhonnell: Cyfrifon rhanbarthol, SYG
Cyhoeddir y data hwn gan y SYG. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y papur gwybodaeth ansawdd a methodoleg incwm gwario gros yr aelwydydd rhanbarthol (SYG).
Dangosydd 11: Canran y busnesau sy’n gwneud gweithgareddau arloesedd gweithredol
Ffynhonnell: Adran Busnes a Masnach, Arolwg Arloesedd y DU
Mae Arolwg Arloesedd y Deyrnas Unedig yn cael ei gynnal bob 2 flynedd gan y SYG ar ran yr Adran Busnes a Masnach (DBT) ac yn flaenorol ar ran yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Arolwg Arloesi’r Deyrnas Unedig yw’r brif ffynhonnell ddata ar gyfer arloesi ym myd busnes yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r data hwn bellach yn cael ei gyhoeddi gan yr Adran Busnes a Masnach.
I gael rhagor o wybodaeth am Arolwg Arloesi'r DU, a diffiniadau o fusnesau sy'n arloesi’n weithredol, ewch i: Arolwg arloesedd y Deyrnas Unedig 2023: adroddiad - GOV.UK (Yr Adran Busnes a Masnach).
Dangosydd 12: Capasiti mewn megawat (MW) y cyfarpar ynni adnewyddadwy a osodir
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
Daw’r dangosydd o’r astudiaeth Cynhyrchu Ynni yng Nghymru. Comisiynwyd Regen gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cronfa ddata o brosiectau cynhyrchu ynni yng Nghymru; canfod i ba raddau mae’r prosiectau'n eiddo i unigolion, sefydliadau a chymunedau yng Nghymru; a dadansoddi’r data i lunio adroddiad ar gynnydd.
Mae'r dull ymchwil a ddatblygwyd gan Regen i greu darlun manwl o gynhyrchu ynni ledled Cymru yn cynnwys:
- adnabod, coladu, glanhau a chroesgyfeirio cofnodion o’r cyfresi data presennol
- dilysu a dadansoddi’r data i sicrhau trosolwg cenedlaethol cadarn a data lleol pan fydd ar gael
- dilysu’r data gyda rhanddeiliaid a’r diwydiant lle bo'n briodol
- ymchwilio i fanylion perchenogaeth, gan gynnwys cyfeirio at Dŷ’r Cwmnïau i bennu prosiectau sy’n eiddo lleol
Mae'r prif ffynonellau data a ddefnyddir yn yr astudiaeth hon wedi'u rhestru yn adroddiad Defnyddio Ynni yng Nghymru 2023.
Dangosydd 13: Crynodiad carbon a deunydd organig mewn pridd
Ffynhonnell 1: Arolwg Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir
Ffynhonnell 2: Arolwg Maes Cenedlaethol Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a'r Amgylchedd
Gan fesur samplau pridd yn defnyddio’r fethodoleg colled wrth danio i bennu crynodiad carbon y pridd yn y 0 i 15 cm uchaf. Fe wnaeth Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir gasglu tystiolaeth ar gyfer pob un o’r 6 chanlyniad arfaethedig o gynllun Glastir; lliniaru newid yn yr hinsawdd, gwella ansawdd pridd a dŵr, atal dirywiad bioamrywiaeth, rheoli coedlannau yn well a gwella mynediad at dirwedd Cymru a chyflwr nodweddion hanesyddol. Cyflawnwyd llawer o hyn drwy arolwg maes o 300 o sgwariau 1km ledled Cymru, gyda hanner ohonynt yn canolbwyntio ar ardaloedd sy’n cael blaenoriaeth ar gyfer taliadau uwch. Dewiswyd y sgwariau 1km ar hap o 26 dosbarth tir, gan sicrhau darpariaeth dda o dirwedd Cymru. Nid oedd yr arolwg yn cynnwys ardaloedd dinesig tra-datblygedig ac felly ni ddylid ei ystyried fel rhestr ar gyfer safleoedd tir llwyd.
Ail-arolygwyd 224 o'r 300 sgwâr 1km gwreiddiol gan Arolwg Maes Cenedlaethol y Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd rhwng 2021 a 2023. Roedd cyfanswm o 150 sgwâr yn cynrychioli tirwedd ehangach Cymru ac ail-arolygwyd 74 sgwâr i dargedu effaith Glastir. Cafodd y ddau arolwg, Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir a’r Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd, eu cynnal dros nifer o flynyddoedd i leihau rhagfarn data a gyflwynwyd gan eithafion tywydd un flwyddyn. Roedd arwynebedd ‘tir Glastir’ ym mhob sgwâr 1km yn amrywio a chafodd hyn ei ystyried yn ystod y gwaith dadansoddi.
Aseswyd statws a newid y crynodiad carbon gan ddefnyddio data arolwg a ailadroddwyd o raglenni arolwg maes Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir a Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd. Roedd hyn yn wahanol i adroddiadau blaenorol, lle aseswyd newid drwy gysylltu crynodiadau carbon yn ystadegol yn y Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir â monitro cynharach o'r Arolwg Cefn Gwlad, a oedd yn defnyddio dull samplu cydnaws ond a oedd yn cynnwys llai o safleoedd monitro. Ystyrir bod y dull presennol, a wnaed yn bosibl gan Arolwg Maes Cenedlaethol y Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd, yn rhoi gwerth mwy cadarn a chynrychioladol i Gymru.
Gwybodaeth am arolwg Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir ac Arolwg Maes Cenedlaethol y Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd
Gwybodaeth am y Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir)
Dangosydd 14: Ol-troed byd-eang Cymru
Ffynhonnell: Deall Ôl Troed Amgylcheddol Byd-eang ac Effeithiau Defnydd Cymru (JNCC)
Mae’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur wedi cyfrifo ôl troed byd-eang ar gyfer Cymru yn ddiweddar gan ddefnyddio’r fethodoleg Ôl Troed Ecolegol. Mae hyn yn rhan o brosiect ehangach i wella dealltwriaeth o ôl troed amgylcheddol byd-eang ac effeithiau nwyddau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru, ond a allai gael eu cynhyrchu yn unrhyw le yn y byd.
Mae gwybodaeth am y fethodoleg ar gael yn yr adroddiad Understanding the Global Environmental Footprint and Impacts of Welsh Consumption (JNCC).
Dangosydd 15: Swm y gwastraff a gynhyrchir, nad yw’n cael ei ailgylchu, y pen
Ffynhonnell 1: System llif data gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell 2: Arolwg gwastraff diwydiannol a masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell 3: Arolwg gwastraff adeiladu a dymchwel Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru
Mae’r dangosydd hwn yn cael ei gyfrifo o 3 elfen ar wahân – gwastraff cartrefi, Gwastraff Adeiladu a Dymchwel, a Gwastraff Diwydiannol a Masnachol.
Gwastraff Cartrefi
Mae’r elfen hon yn seiliedig ar wastraff cartrefi gweddilliol (h.y. heb ei ailgylchu) a gesglir. Nid yw’r data hwn yn ystyried unrhyw wastraff sy’n cael ei gynhyrchu fel gwastraff gweddilliol os yw'n cael ei ailgylchu yn ddiweddarach, na gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu mewn ffrydiau ailgylchu sy’n cael ei wrthod ar gyfer ei waredu yn ddiweddarach. Ffynhonnell y data hwn yw Llif Data Gwastraff, sy’n casglu data gwastraff trefol awdurdodau lleol yn rheolaidd. Mae’r data yn seiliedig ar flwyddyn ariannol. Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yn y datganiad ystadegol: Rheoli gwastraff trefol awdurdod lleol.
Gwastraff Adeiladu a Dymchwel
Mae’r elfen hon yn seiliedig ar ddiffiniad targed adfer Adeiladu a Dymchwel Fframwaith Gwastraff yr UE. Nid yw hyn yn cynnwys gwastraff peryglus a phridd a cherrig naturiol. Mae’n cynnwys gweithgareddau ôl-lenwi. Ffynhonnell y data hwn yw arolwg gwastraff Adeiladu a Dymchwel 2019, lle casglwyd data o 508 o safleoedd busnes o wahanol sectorau a meintiau ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2021 a mis Medi 2021. Mae gwybodaeth fethodolegol ychwanegol ar gael yn Adran 2 yr adroddiad Arolwg gwastraff adeiladu a dymchwel (Cyfoeth Naturiol Cymru).
Gwastraff Diwydiannol a Masnachol
Ffynhonnell y data hwn yw arolwg gwastraff Diwydiannol a Masnachol 2018, lle casglwyd data o 1,755 o safleoedd busnes o wahanol sectorau a meintiau ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2019 a mis Hydref 2019. Mae gwybodaeth fethodolegol ychwanegol ar gael yn Adran 2 yr adroddiad: Arolwg o wastraff diwydiannol a masnachol a gynhyrchwyd yng Nghymru 2018 (Cyfoeth Naturiol Cymru).
Dangosydd 16: Canran y bobl sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) sy’n ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (StatsCymru)
Cyfrifir y dangosydd hwn o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae'r dangosydd hwn yn mesur canran y bobl sy’n cael eu cyflogi, ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol.
Gweler Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg yr Arolwg blynyddol o'r boblogaeth (SYG)
Mae’r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyfrifo gan y Living Wage Foundation (Saesneg yn Unig) sy'n pennu’r fethodoleg. Ei nod yw adlewyrchu costau byw.
Dangosydd 17: Gwahaniaeth cyflog ar sail rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd
Ffynhonnell 1: Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, SYG
Ffynhonnell 2: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae’r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (canolrif enillion yr awr ar gyfer gweithwyr amser llawn, heb gynnwys goramser) (£)(StatsCymru)yn cael ei gyfrifo o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ac yn cael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'n seiliedig ar enillion canolrifol fesul awr amser llawn. Mae gwybodaeth am wahaniaeth cyflog ar sail Anabledd ac Ethnigrwydd yn cael ei chyfrifo o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
Cyfrifir gwahaniaethau cyflog anabledd drwy rannu’r gwahaniaeth mewn cyflog fesul awr rhwng gweithwyr anabl a gweithwyr nad ydynt yn anabl â’r cyflog fesul awr ar gyfer gweithwyr nad ydynt yn anabl. Cyfrifir gwahaniaethau cyflog ethnigrwydd drwy rannu’r gwahaniaeth mewn cyflog fesul awr rhwng gweithwyr Gwyn a Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig â’r cyflog fesul awr ar gyfer gweithwyr Gwyn. Mae gwahaniaethau cyflog ar sail anabledd ac ethnigrwydd yn seiliedig ar enillion canolrifol yr awr ar gyfer pob gweithiwr
Gweler Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, Cyflogau isel a Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg am ganlyniadau pensiwn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion; Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth; a data a gwybodaeth am wahaniaeth tâl ar sail ethnigrwydd ac anabledd: Cyflog canolrifol yr awr a’r gwahaniaeth cyflog rhwng enillion fesul awr gweithwyr yn ôl statws anabledd ac ethnigrwydd, Cymru, 2014 i 2024.
Dangosydd 18: Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y Deyrnas Unedig, wedi ei fesur ar gyfer pawb, plant, oedolion o oedran gweithio a’r rhai o oedran pensiwn
Ffynhonnell: Cartrefi islaw'r incwm cyfartalog, Arolwg o Adnoddau Teulu, Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Cyhoeddir y data hwn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae gwybodaeth am fethodoleg ac ansawdd ar gael ar wefan ystadegau Cartrefi islaw'r incwm cyfartalog.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal dadansoddiad ychwanegol o setiau data Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog er mwyn ystyried statws economaidd, deiliadaeth tai, teulu, ethnigrwydd a nodweddion anabledd. Mae’r data a’r dadansoddiadau cryno hyn ar gael ar dudalennau gwe Ystadegau Tlodi Llywodraeth Cymru. Mae gwybodaeth am fethodoleg a dehongli data hefyd ar gael ar y tudalennau hyn.
Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy’n cwmpasu’r flwyddyn ariannol 2020 i 2021 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod 2020 i 2021 yn y cyfrifiadau. Ar gyfer y cyfnodau a ddangosir, mae amcangyfrifon a gyfrifwyd yn flaenorol fel cyfartaleddau treigl 3 i 5 blynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 2 i 4 blynedd sy’n hepgor data arolwg 2020 i 2021. Mae amcangyfrifon 2020 i 2021 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan effeithiodd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ddifrifol ar brosesau casglu data.
Casglwyd data yn ystod 2021 i 2022 drwy gyfweliadau dros y ffôn yn hytrach na’r dull wyneb yn wyneb sefydledig a ddefnyddiwyd cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Er ein bod wedi asesu ansawdd data 2021 i 2022 i fod yn ddigon cadarn i’w gyhoeddi, mae rhywfaint o duedd weddilliol yn sampl yr arolwg o hyd o ganlyniad i’r newid ym modd yr arolwg. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd data ar gael yn adroddiad technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Dangosydd 19: Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn amddifadedd materol
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Cafodd y cwestiynau yn Arolwg Cenedlaethol Cymru eu cymryd o’r Arolwg o Adnoddau Teulu, ac mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i ddosbarthu pobl yn defnyddio dull tebyg, ond nid union yr un fath (mae’r Arolwg o Adnoddau Teulu hefyd yn defnyddio incwm a gofynnwyd rhai cwestiynau yn yr Arolwg Cenedlaethol i’r rhai a oedd yn cael eu hystyried fel rhai ‘ar y ffin’ o ran bod yn ddifreintiedig yn unig).
Gofynnwyd i oedolion nad oeddent yn bensiynwyr a oeddent wedi cael pethau fel ‘gwyliau oddi cartref am o leiaf wythnos y flwyddyn’, ‘digon o arian i gadw eu cartref mewn cyflwr priodol o ran addurn’ neu a oeddent yn gallu ‘cynilo £10 y mis neu fwy yn rheolaidd’. Roedd y cwestiynau’n canolbwyntio ar a oeddent yn gallu fforddio’r eitemau hyn.
Gofynnwyd cwestiynau ychydig yn wahanol i bensiynwyr, er enghraifft, a oedd eu ‘cartref yn ddigon cynnes’ a oeddent yn gallu ‘defnyddio car neu dacsi pan oedd angen’, neu a oeddent yn cael ‘mynd i wneud eu gwallt neu i dorri eu gwallt yn rheolaidd’. Roedd y cwestiynau hyn hefyd yn gofyn a allent eu fforddio, ond hefyd yn canolbwyntio ar beidio â gallu cael yr eitemau hyn am resymau eraill, fel iechyd gwael, neu neb i’w helpu ac ati.
Rhoddwyd sgôr i’r bobl nad oedd ganddynt yr eitemau y gofynnwyd amdanynt. Er enghraifft, os nad oedd ganddynt unrhyw eitem ar y rhestr, byddent yn sgorio 100, ac os oedd ganddynt bob eitem, byddent yn sgorio 0. Roedd pobl nad oeddent yn bensiynwyr ac a oedd wedi cael sgôr o 25 neu uwch, yn cael eu hystyried mewn amddifadedd ac roedd pensiynwyr a oedd wedi cael sgôr o 20 neu uwch yn cael eu hystyried mewn amddifadedd. Mae pensiynwyr a phobl nad ydynt yn bensiynwyr wedi cael eu grwpio gyda’i gilydd ar gyfer y dangosydd hwn.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg.
Dangosydd 20: Cyfran y cyflogeion y pennir eu cyflog drwy gydfargeinio
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, SYG
Ceir canlyniadau ar gyfer y dangosydd hwn o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, SYG. Mae’r dangosydd hwn yn mesur swyddi gweithwyr 16 oed a hŷn, ac mae eu cyflog yn cael ei bennu gan gyfeirio at gydgytundeb ym mis Ebrill yn y blynyddoedd a ddangosir.
Dangosydd 21: Canran y boblogaeth 16-64 oed mewn gwaith yng Nghymru
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Cyhoeddir y data hwn gan y SYG. Gweler tudalen we Ansawdd a Methodoleg yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (SYG) a thudalen we Ansawdd a Methodoleg yr Arolwg o'r Llafurlu (SYG).
Dangosydd 22: Canran y bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi ei fesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran
Ffynhonnell 1: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD)
Ffynhonnell 2: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru
Ffynhonnell 3: Cofnod Myfyrwyr, Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Ffynhonnell 4: Y Brifysgol Agored
Ffynhonnell 5: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ffynhonnell 6: Amcangyfrifon canol-blwyddyn o drigolion, Amcanestyniadau poblogaeth, SYG
Gweler adran ansawdd y datganiad ystadegol Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur a’r bwletin ystadegol ar gyfer Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Mae rhagor o fanylion ar gael yn y nodyn methodoleg ar gyfer cael amcangyfrifon o gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur a’r canllaw i wahanol ffynonellau ystadegau NEET yng Nghymru.
Dangosydd 23: Canran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae’r dangosydd yn defnyddio canran y bobl sy'n ‘cytuno’n gryf’ neu'n ‘tueddu i gytuno’ â’r datganiad “Rwy’n gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fy ardal leol”. Ni ofynnwyd y cwestiynau ynghylch y dangosydd fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru blwyddyn ariannol 2022 i 2023.
Mae dadansoddiad mwy manwl ar gael yn yr adroddiad ystadegol “Dylanwadu ar benderfyniadau yn yr ardal leol”. Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg.
Dangosydd 24: Canran y bobl sy’n fodlon â’u gallu i gyrraedd/ cael mynediad at y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae’r dangosydd hwn yn mesur canran y bobl 16 oed a hŷn sy’n dweud eu bod yn teimlo’n fodlon iawn neu’n eithaf bodlon â’u gallu i gyrraedd/ cael mynediad at y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, o fewn 15 i 20 munud ar droed o’u cartref. Ni ofynnwyd y cwestiwn fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022 i 2023.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg.
Dangosydd 25: Canran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae hyn yn seiliedig ar 4 cwestiwn gwahanol a ofynnwyd ddiwethaf yn 2021 i 2022 fel rhan o’r Arolwg Cenedlaethol Cymru, ac mae’n defnyddio canran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n ‘ddiogel iawn’ neu’n ‘eithaf diogel’ ym mhob un o’r sefyllfaoedd canlynol ar ôl iddi dywyllu:
- yn eu cartref
- wrth gerdded ar eu pennau eu hunain
- wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
- wrth deithio mewn car
Mae dadansoddiad mwy manwl ar gael yn yr adroddiad ystadegol “Teimlo’n ddiogel yn yr ardal leol”.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg.
Dangosydd 26: Canran y bobl sy’n fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae’r dangosydd hwn yn mesur canran y bobl 16 oed neu hŷn sy’n dweud eu bod yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol’ fodlon â’u hardal leol fel lle i fyw. Gofynnwyd y cwestiwn ddiwethaf fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru blwyddyn ariannol 2021 i 2022.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth a’r adroddiad ymchwil "Teimlo’n fodlon â’r ardal leol".
Dangosydd 27: Canran y bobl sy’n cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal, bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda, a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae’r dangosydd hwn yn seiliedig ar 3 chwestiwn gwahanol a ofynnwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ym mlwyddyn ariannol 2021 i 2022, ac mae’n defnyddio cyfran y bobl sy’n cytuno’n gryf neu’n tueddu i gytuno ar y canlynol:
- eu bod yn perthyn i’w hardal leol
- bod yr ardal leol yn lle gall pobl o gefndiroedd gwahanol gyd-dynnu’n dda
- bod pobl yn yr ardal leol yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg a’r adroddiad ymchwil “Ymdeimlad o gymuned”.
Dangosydd 28: Canran y bobl sy’n gwirfoddoli
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae’r dangosydd yn defnyddio canran yr oedolion sy’n rhoi o’u hamser am ddim i helpu clybiau neu sefydliadau. Nid yw’r data a gyflwynir yn cynnwys pobl sy’n gofalu am rywun.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg.
Dangosydd 29: Sgôr lles meddyliol cymedrig ar gyfer pobl
Oedolion
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae’r sgôr lles meddyliol cymedrig yn cael ei chyfrifo yn ôl Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Edinburgh (WEMWBS). Er mwyn asesu lles meddyliol ar raddfa WEMWBS, rhoddwyd 14 datganiad i’r ymatebwyr fel “Rydw i wedi bod yn teimlo wedi ymlacio” a “Rydw i wedi bod yn meddwl yn glir” a gofynnwyd iddynt pa mor aml roedden nhw’n teimlo fel hyn ar raddfa 5 pwynt, lle’r oedd 1 yn ‘ddim o’r amser’ a 5 yn ‘drwy’r amser’. Cyfrifwyd sgôr rhwng 14 a 70 ar sail yr ymatebion hyn, gyda sgoriau uwch yn dangos gwell llesiant. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y datganiad gan gynnwys llesiant meddyliol.
Ym mlwyddyn ariannol 2022 i 2023, oherwydd natur sensitif y pwnc, cafodd y cwestiynau Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Edinburgh eu gofyn yn rhan ar-lein yr arolwg.
Ni ddylid cymharu canlyniadau 2021 i 2022 ymlaen â'r blynyddoedd blaenorol. Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Plant
Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Mae’r sgôr lles meddyliol cymedrig yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Edinburgh (SWEMWBS). Mae'r data yn seiliedig ar Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr (Iechyd Cyhoeddus Cymru) y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, sy’n cael ei arwain gan y Ganolfan Gwerthuso a Datblygu Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd mewn partneriaeth gydarhwng Llywodraeth Cymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cancer Research UK; a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD). Cynhelir yr arolwg bob 2 flynedd, ac mae’n rhoi ciplun rheolaidd o ymddygiadau iechyd pobl ifanc rhwng 11-16 oed yng Nghymru. Mae’r arolwg yn cael ei gwblhau ar-lein yn yr ystafell ddosbarth. Ym mlwyddyn academaidd 2021 i 2022, roedd bron i 125,000 o fyfyrwyr o 202 o ysgolion wedi cymryd rhan yn yr arolwg. Gweler adran “Dulliau” yr adroddiadiau cenedlaethol am ragor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Dangosydd 30: Canran y bobl sy’n unig
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Dyma ganran yr oedolion sy’n unig yn ôl graddfa unigrwydd De Jong Gierveld.
Ar gyfer y raddfa hon, dangoswyd cyfres o 6 datganiad i’r ymatebwyr a gofynnwyd iddynt nodi i ba raddau roedd pob datganiad yn berthnasol i’r ffordd roeddent yn teimlo. Roedd 3 datganiad am ‘unigrwydd emosiynol (EL)’ a 3 am ‘unigrwydd cymdeithasol (SL)’.
- Rwy’n teimlo gwacter cyffredinol (EL)
- Rwy’n gweld eisiau cael pobl o’m cwmpas (EL)
- Rwy’n teimlo fy mod i’n cael fy ngwrthod yn aml (EL)
- Mae digon o bobl y gallaf ddibynnu arnynt pan fydd gen i broblemau (SL)
- Mae llawer o bobl y gallaf ymddiried yn llwyr ynddynt (SL)
- Mae digon o bobl rwy’n teimlo’n agos atynt (SL)
Mae’r raddfa’n defnyddio 3 chategori ymateb: Ydw / Mwy neu lai / Nac ydw - lle mae’r atebion niwtral a chadarnhaol yn cael eu sgorio fel “1” ar y cwestiynau negyddol (yn yr achos hwn, cwestiynau 1 i 3). Ar yr eitemau sydd wedi eu geirio’n gadarnhaol (cwestiynau 4 i 6), mae’r atebion niwtral a negyddol yn cael eu sgorio fel “1”. Mae hyn yn golygu bod ateb ‘mwy neu lai’ yn cael yr un sgôr â ‘ie’ neu ‘na’, yn dibynnu ar y cwestiwn.
Mae’r sgoriau ar gyfer pob cwestiwn unigol yn cael eu hychwanegu at ei gilydd i ddarparu mesur unigrwydd cyffredinol. Mae hyn yn rhoi amrediad posibl o sgoriau o 0 i 6, lle mai 0 yw’r lleiaf unig a 6 yw’r mwyaf unig. At ddibenion adrodd, rydym wedi ystyried bod pobl sydd â sgôr o 4 i 6 yn unig. Ym mlwyddyn ariannol 2021 i 2022, oherwydd natur sensitif rhai o’r cwestiynau, cafodd y modiwl unigrwydd ei gynnwys mewn adran ar-lein o’r arolwg. Ar ôl llenwi’r adran ffôn, gofynnwyd i’r ymatebwyr fynd ar-lein a llenwi’r adran olaf. Aeth 90% o’r bobl a gwblhaodd yr arolwg ffôn ymlaen i lenwi’r adran ar-lein.
Yn 2022 i 2023, gofynnwyd y modiwl unigrwydd yn adran ffôn yr arolwg.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Dangosydd 31: Canran yr anheddau sy’n rhydd o beryglon
Ffynhonnell 1: Arolwg Cyflwr Tai Cymru blwyddyn ariannol 2017 i 2018
Ffynhonnell 2: Arolwg Byw yng Nghymru 2008
Roedd Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017 i 2018 yn mesur canran yr anheddau a oedd yn rhydd o beryglon categori 1 yn seiliedig ar y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch mesur a modelu’r peryglon hyn ar gael ym mhrif ganlyniadau ac adroddiad technegol Arolwg Cyflwr Tai Cymru.
Dangosydd 32: Nifer yr eiddo (cartrefi a busnesau) mewn perygl canolig neu uchel o lifogydd o afonydd a’r môr
Ffynhonnell: Data’r asesiad bygythiad llifogydd cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
Defnyddir model yr Asesiad Bygythiad Llifogydd, ynghyd â’r Set Ddata Derbynyddion Cenedlaethol 2025 diweddaraf i bennu nifer yr eiddo (preswyl ac amhreswyl) mewn perygl o lifogydd o Afonydd, y Môr a Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach yng Nghymru. Mae'r wybodaeth ar gyfer 2025 ac mae'n cynnwys presenoldeb a thynnu amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y modelu (senarios a amddiffynnir a rhai nas amddiffynnir).
Categorïau ar gyfer y risg o lifogydd
Risg Uchel
Mwy neu’n hafal i 1 mewn 30 (3.3%) o siawns mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Risg ganolig
Llai nag 1 mewn 30 (3.3%) ond yn fwy neu’n hafal i 1 mewn 100 (1%) o siawns mewn unrhyw flwyddyn benodol ar gyfer llifogydd o afonydd a dŵr wyneb a llai nag 1 mewn 30 (3.3%) ond yn fwy na neu’n hafal i 1 mewn 200 (0.5%) ar gyfer y môr.
Risg Isel
Llai nag 1 mewn 100 (1%) ar gyfer afonydd a llifogydd dŵr wyneb ac 1 mewn 200 (0.5 y cant) ar gyfer y môr ond yn fwy na neu'n hafal i 1 siawns mewn 1,000 (0.1%) mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Mae'r Asesiad Bygythiad Llifogydd fel arfer yn cynnwys llifogydd o afonydd gyda dalgylch sy’n fwy na 3 cilomedr sgwâr, a llifogydd o’r môr (ar hyd yr arfordir agored ac aberoedd llanw)). Cynrychiolir cyrsiau dŵr llai sydd â dalgylch o lai na 3 cilomedr sgwâr yn nata a mapiau Dŵr Wyneb yr Asesiad Bygythiad Llifogydd.
Mae’r asesiad yn ystyried lleoliad a safon yr amddiffyniad a gynigir gan amddiffynfeydd rhag llifogydd ac yn addasu’r categori risg yn unol â hynny o senario cychwynnol ‘heb ei amddiffyn’.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau adroddiadau, tystiolaeth a data llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dangosydd 33: Canran yr anheddau â pherfformiad ynni digonol
Ffynhonnell: Arolwg cyflwr tai cymru blwyddyn ariannol 2017 i 2018
Mae gan anheddau sydd â pherfformiad ynni digonol sgôr SAP (Gweithdrefn Asesu Safonol) o 65 neu uwch. Cafodd y sgoriau SAP eu mesur gan syrfewyr cymwys fel rhan o Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017 i 2018. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adroddiad effeithlonrwydd ynni anheddau ac adroddiad technegol Arolwg Cyflwr Tai Cymru.
Dangosydd 34: Nifer yr aelwydydd a gafodd eu hatal rhag bod yn ddigartref am bob 10,000 aelwyd
Ffynhonnell 1: Casglu data digartrefedd, Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell 2: Amcangyfrifon aelwydydd ar gyfer Cymru, Llywodraeth Cymru
Mae gwybodaeth am ansawdd data ar gael yn yr adroddiad ansawdd sy’n cyd-fynd â’r datganiad ar Ddigartrefedd.
Dangosydd 35: Canran y bobl sy'n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth o leiaf 3 gwaith y flwyddyn
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae’r dangosydd hwn yn mesur canran y bobl sy'n dweud eu bod wedi mynychu neu gymryd rhan mewn gweithgaredd celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth 3 gwaith neu fwy yn ystod y 12 mis diwethaf.
Mae dadansoddiad mwy manwl ar gael yn yr adroddiad ystadegol “Celfyddydau, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd". Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg.
Dangosydd 36: Canran y bobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd ac sy’n gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg
Ffynhonnell 1: Cyfrifiad o'r boblogaeth, SYG
Ffynhonnell 2: Arolwg o’r Defnydd o’r Gymraeg
Ffynhonnell 3: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae’r canlyniadau’n seiliedig ar ddata’r cyfrifiad a data’r Arolwg o’r Defnydd o’r Gymraeg.
Er mwyn bod yn gyson â dangosydd cenedlaethol 37, ‘Nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg’, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2011 fel llinell sylfaen ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg, wedi ei gyfuno â data o Arolwg o’r Defnydd o’r Gymraeg Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020 ar gyfer y rhai sy’n dweud eu bod naill ai’n ‘rhugl yn y Gymraeg’, yn gallu ‘siarad cryn dipyn o Gymraeg’, neu’r rhai sydd ‘yn gallu siarad ychydig o Gymraeg yn unig’; ac sydd hefyd yn siarad Cymraeg bob dydd.
Nododd yr Arolwg o’r Defnydd o’r Gymraeg 2019 i 2020 fod 10% o bobl 3 oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau. Dyma’r un ganran ag yn yr Arolwg Defnydd o’r Gymraeg Ebrill 2013 i Fawrth 2015.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn darparu data blynyddol ar gyfer pobl 16 oed neu hŷn ac yn awgrymu bod y dangosydd hwn wedi bod yn sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf ers Cyfrifiad 2011, sef tua 10 i 12%.
Gweler adroddiad ansawdd yr Arolwg o’r Defnydd o’r Gymraeg am ragor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg.
Dangosydd 37: Nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg
Ffynhonnell: Cyfrifiad o'r boblogaeth, SYG
Rydym o'r farn mai’r cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth am nifer y bobl sy’n 3 oed a hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ansawdd a dulliau yn gysylltiedig â'r cyfrifiad ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae gwybodaeth ar gael hefyd o ffynonellau fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Mae’r gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg rhwng y cyfrifiad ac arolygon aelwydydd yn rhai hirsefydlog, gydag arolygon aelwydydd fel arfer yn rhoi amcangyfrifon uwch o’r gallu i siarad Cymraeg i ni. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (‘Gwahaniaethau mewn amcangyfrifon o Sgiliau Cymraeg’) a Llywodraeth Cymru ('data Cymraeg o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: 2001 i 2018') wedi archwilio rhesymau posibl dros rai o’r gwahaniaethau hyn yn y gorffennol. Er enghraifft, mae’r cyfrifiad yn holiadur hunan-lenwi statudol ac mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn arolwg gwirfoddol sy’n defnyddio cyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn.
Yn dilyn cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 am y Gymraeg, mae cynllun gwaith wedi cael ei gyhoeddi sy’n amlinellu’r gwaith mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn ystod 2023-24 a’r tu hwnt i wella ein dealltwriaeth o’r prif arolwg a ffynonellau data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg. Ochr yn ochr â’r cynllun gwaith hwn cafwyd blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd.
Rhwng cyfrifiadau, defnyddir Arolwg Cenedlaethol Cymru i fonitro tueddiadau yng nghyfran yr oedolion sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r dangosydd yn seiliedig ar oedolion 16 oed neu hŷn sy’n dweud eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r cwestiwn yn caniatáu i bobl ateb ie, na, a hefyd yn caniatáu i bobl ddweud nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg ond eu bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg. At ddiben y dangosydd hwn, diffinnir pobl sy’n gallu siarad Cymraeg fel y rhai sy’n ateb ‘ie’ i’r cwestiwn hwn yn unig.
Mae’n bosibl cymharu â chanlyniadau blynyddoedd blaenorol Arolwg Cenedlaethol Cymru (2012 i 2015).
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg.
Dangosydd 38: Canran y bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy
Oedolion
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Ar gyfer y dangosydd hwn, dangoswyd cyfres o weithgareddau dan do ac awyr agored i’r ymatebwyr a gofynnwyd iddynt a oeddent wedi cymryd rhan yn unrhyw un ohonynt. Os oeddent, gofynnwyd iddynt sawl gwaith yr oeddent wedi cymryd rhan yn y gweithgaredd dros y 4 wythnos flaenorol.
Roedd y cwestiynau a ofynnwyd yn deillio’n wreiddiol o’r Arolwg ar Oedolion Egnïol, sydd bellach wedi eu hymgorffori yn Arolwg Cenedlaethol Cymru, gyda mân addasiadau. Nid oes modd cymharu canlyniadau’r Arolwg ar Oedolion Egnïol ac Arolwg Cenedlaethol Cymru yn uniongyrchol oherwydd y gwahaniaethau yn nyluniad yr arolwg.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg.
Plant
Ffynhonnell: Arolwg Chwaraeon Ysgolion, Chwaraeon Cymru
Mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgolion yn arolwg ar-lein o gyfranogiad chwaraeon disgyblion a darpariaeth addysg gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion. Cynhaliwyd yr Arolwg Chwaraeon Ysgolion diweddaraf yn 2022. Mae’r disgyblion yn llenwi holiadur ar eu cyfranogiad a’u hagweddau tuag at Addysg Gorfforol a chwaraeon. Yn arolwg 2022, cymerodd 116,000 o ddisgyblion blwyddyn 3 i 11 ran yn yr arolwg o 1,000 o ysgolion.
Dangosydd 39: Canran yr amgueddfeydd ac archifau sy'n cadw casgliadau archifol/treftadaeth sy’n cyrraedd safonau achrededig y Deyrnas Unedig
Ffynhonnell: Achrediad gwasanaethau archifau, Llywodraeth Cymru
Mae’r mesur ar gyfer amgueddfeydd yn dangos nifer y sefydliadau cyhoeddus sydd wedi cyrraedd Safon Achredu Amgueddfeydd y Deyrnas Unedig. Y llinell sylfaen i fod yn gymwys ar gyfer statws achredu yw bod y sefydliad yn bodloni diffiniad 1998 Cymdeithas yr Amgueddfeydd o amgueddfa, sef: “Mae amgueddfeydd yn galluogi pobl i archwilio casgliadau ar gyfer cael ysbrydoliaeth, dysgu a mwynhau. Maent yn sefydliadau sy’n casglu a diogelu arteffactau a sbesimenau a gofalu eu bod ar gael ac yn cael eu cadw mewn ymddiriedolaeth ar gyfer y gymdeithas”; maent yn safle/lle/adeilad ffisegol sy’n agored i’r cyhoedd yn rheolaidd; maent yn galluogi’r cyhoedd i weld casgliadau’r sefydliad, ac ymgysylltu â nhw; mae ganddynt gyfansoddiad priodol sy’n cefnogi diben hirdymor amgueddfa gyhoeddus. Er mwyn ennill statws Achredu, rhaid i amgueddfa ddangos ei bod yn cael ei llywodraethu a’i rheoli’n briodol, yn rheoli ei chasgliadau’n effeithiol ac yn darparu profiadau priodol i ddefnyddwyr.
Mae’r mesur ar gyfer archifau yn dangos nifer y sefydliadau sy’n cadw archifau sydd wedi cyrraedd Safon Achredu’r Gwasanaeth Archifau yn y Deyrnas Unedig. Y diffiniad sylfaenol o wasanaeth archifau i’w gynnwys yn y mesur hwn yw y dylai’r Archifau Gwladol gydnabod bod y sefydliad yn Lle i Gadw cofnodion cyhoeddus lleol (ac sydd felly’n gorfod bodloni’r Safon Achredu er mwyn cadw’r dynodiad statudol hwn), a hefyd fod yn aelod o Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru.
Mae gwybodaeth am y broses achredu ar gyfer amgueddfeydd ac archifau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dangosydd 40: Canran yr asedau amgylchedd hanesyddol dynodedig sydd mewn cyflwr sefydlog neu well
Ffynhonnell: Cadw
Henebion cofrestredig
Mae arolygon o gyflwr henebion cofrestredig yng Nghymru wedi bod yn cael eu cynnal ers canol yr 1980au; maent yn cael eu cynnal yn fewnol gan dîm o Wardeiniaid Henebion Maes Cadw. Heddiw, gwneir hyn drwy raglen arolwg treigl lle mae 10 y cant o’r asedau’n cael eu harolygu bob blwyddyn gyda methodoleg asesu gyson. Defnyddir saith categori cyflwr cyffredinol, sy’n amrywio o rai sydd wedi eu dinistrio i rai sydd wedi gwella’n sylweddol.
Mae’r rhan fwyaf o’r henebion cofrestredig yn strwythurau cloddwaith ac yn adeiladau hanesyddol heb eu meddiannu, sydd fel arfer mewn cyflwr gwael fel cestyll, abatai canoloesol a gweddillion diwydiannol segur. Mae nifer ohonynt mewn lleoliadau anghysbell a gwledig. Mae natur ffisegol yr henebion cofrestredig yn golygu, yn absenoldeb unrhyw ymyriadau penodol, y byddai’r asesiad mwyaf tebygol o gyflwr ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt yn sefydlog neu’n dangos mymryn o ddirywiad. Mae gwelliant i gyflwr bron yn ddieithriad yn digwydd o ganlyniad i ymyrraeth weithredol fel rheoli tir mewn ffordd gadarnhaol a phrosiectau cadwraeth sydd wedi eu targedu. Y prif fygythiadau sy’n effeithio ar henebion sydd wedi eu cofnodi fel rhai sydd mewn perygl yw'r tywydd, storm a difrod llifogydd sylweddol – mae pob un o’r rhain yn gysylltiedig ag effeithiau newid yn yr hinsawdd a thwf llystyfiant gormodol sydd heb gael ei glirio sy’n arwain at bydredd naturiol cyflymach – y ffordd orau o reoli hyn yw drwy arferion rheoli tir cadarnhaol.
Adeiladau rhestredig
Mae arolygon o gyflwr adeiladau rhestredig wedi bod yn cael eu cynnal yng Nghymru ers 1998. Mae’r rhaglenni adolygu’n cwmpasu cyfnod treigl o bum mlynedd, gydag oddeutu 20 y cant o’r stoc o adeiladau rhestredig yng Nghymru’n cael eu harolygu bob blwyddyn. Bydd y rhaglen o arolygon yn sicrhau bod cyflwr y 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru yn ystod cyfnod y rhaglen yn cael eu hasesu gan ddefnyddio methodoleg gyson. Cyfrifir cyfran yr adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella gan ddefnyddio data arolwg sy’n bodoli’n barod a’r data diweddaraf sydd ar gael o 20 y cant o’r stoc adeiladau sydd wedi cael ei ail-arolygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r ffigurau a gyflwynir ar gyfer pob blwyddyn yn ymwneud â’r sampl a arolygwyd yn ystod y flwyddyn honno. Daw sampl pob blwyddyn o nifer fach o awdurdodau lleol ar draws gwahanol ranbarthau Cymru. Rhaid disgwyl rhywfaint o amrywiad o un flwyddyn i’r llall.
Dangosydd 41: Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru
Ffynhonnell: Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol
Mae data lefel y Deyrnas Unedig ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael ei gynhyrchu o dan gontract i’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net. Cyhoeddir yr adroddiad ar y set ddata hon yn flynyddol ac mae’n rhoi gwybodaeth am y fethodoleg, y ffynonellau data a’r sicrwydd ansawd (Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol).
Mae data Cymru ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yn seiliedig ar ddata ar lefel y Deyrnas Unedig gyda ffynonellau data penodol i Gymru yn cael eu defnyddio pan fyddant ar gael. Lle nad oes data ar lefel Cymru, defnyddir amrywiaeth o ddulliau i rannu data ar lefel y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhannu yn ôl cyfran y boblogaeth neu weithgarwch economaidd. Mae mwy o ansicrwydd wrth fodelu systemau cymhleth fel allyriadau amaethyddol a defnydd tir. Mae cynhyrchwyr yr ystadegau a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau ansawdd y data.
Mae’r sectorau a ddefnyddir wrth adrodd ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru wedi newid, ond nid yw hyn yn effeithio ar yr amcangyfrif o gyfanswm yr allyriadau. Soniwyd yn flaenorol am allyriadau tiriogaethol yng Nghymru gan ddefnyddio sectorau Cyfathrebu Cenedlaethol (NC). Mae’r rhain wedi cael eu disodli gan sectorau Ystadegau Allyriadau Tiriogaethol (TES) er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr yn well. Mae'r sectorau Ystadegau Allyriadau Tiriogaethol yn debyg i'r sectorau Cyfathrebu Cenedlaethol blaenorol ac mae'r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net wedi cyhoeddi map rhwng y ddiffiniad o'r ddau sector (Yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net).
Dangosydd 42: Allyriadau nwyon tŷ gwydr a briodolir i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau byd-eang yng Nghymru
Ffynhonnell: Prifysgol Leeds, Sefydliad Ymchwil i Gynaliadwyedd
Mae gwybodaeth am ansawdd ystadegau allyriadau defnydd ar gael yn Atodiad A y Datganiad o Gynnydd Cyllideb Carbon 1 yn yr adran methodoleg (tudalen 96).
Dangosydd 43: Ardal o ecosystemau iach yng Nghymru
Ffynhonnell: Nodyn briffio, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu dull newydd gan ddefnyddio delweddau lloeren i ddiweddaru ein dealltwriaeth bresennol o ddosbarthiad a graddfa cynefinoedd ledled Cymru. Bydd modd ei ddiweddaru dros y blynyddoedd nesaf gan ddefnyddio methodoleg a ffynonellau data cyson.
Dylid ystyried bod yr amcangyfrif diweddaraf sy’n defnyddio’r fethodoleg newydd hon yn un ‘arbrofol’ ar hyn o bryd, oherwydd bwriedir gwneud rhagor o waith i fireinio’r dull er mwyn gallu cyflwyno’r canlyniadau’n fwy manwl yn y dyfodol. Mae’r amcangyfrif o gynefinoedd lled-naturiol a gyflwynir yma yn cynnwys ardaloedd sy’n amlwg yn gynefinoedd lled-naturiol, y rhai sy’n rhedyn a rhai darnau o dir, a elwir yma yn gynefinoedd ‘lled-naturiol ymgeisiol’ sydd â’r potensial i weithredu’n fwy tebyg i gynefinoedd lled-naturiol na chynefinoedd sydd wedi bod yn destun gwelliant amaethyddol dwys.
Am ragor o fanylion, gweler Brîff Cyfoeth Naturiol Cymru: Llinell sylfaen newydd o’r ardal o gynefin lled-naturiol yng Nghymru ar gyfer Dangosydd 43(Cyfoeth Naturiol Cymru).
Dangosydd 44: Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru
Ffynhonnell: Adroddiad Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd 78: datblygu dangosydd 44
Mae gwaith wedi cael ei gomisiynu drwy Raglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru ar ddatblygu’r dangosydd cenedlaethol ar Statws Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn wedi canolbwyntio ar gyfuno amcangyfrifon blynyddol yn un dangosydd newid yn nosbarthiad rhywogaethau â blaenoriaeth dros amser.
Gweler Adroddiad-78 y Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd: Adroddiad Interim ar Ddatblygu Dangosydd-44 (Statws Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru) i gael rhagor o wybodaeth ynghylch methodoleg.
Dangosydd 45: Canran y cyrff dŵr wyneb a chyrff dŵr daear sydd wedi sicrhau statws cyffredinol da neu uchel
Ffynhonnell: Arsylwi Dyfroedd Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Ansawdd dŵr: Canran y cyrff dŵr wyneb a chyrff dŵr daear sydd wedi sicrhau statws cyffredinol da neu uchel o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae cyrff dŵr wyneb yng Nghymru yn cael eu dosbarthu ar sail eu statws gan Gyfoeth Naturiol Cymru fel un o ofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Diffinnir statws da fel dŵr sy'n dangos newid bach yn unig o’r hyn a ddisgwylir fel arfer o dan amodau lle nad oes neb wedi tarfu arnynt. Mae statws cyffredinol da (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) yn cynnwys y canlynol:
Dŵr wyneb
- ‘Statws dŵr wyneb da’ yw’r hyn sy'n cael ei gyflawni gan gorff dŵr wyneb pan fydd ei ‘statws ecolegol’ a’i ‘statws cemegol’ yn dda o leiaf.
- Mae ‘statws ecolegol’ yn fynegiant o strwythur a gweithrediad ecosystemau dyfrol sy’n gysylltiedig â dyfroedd wyneb. Mae dyfroedd o’r fath yn cael eu dosbarthu fel rhai â ‘statws ecolegol da’ pan fyddant yn bodloni gofynion y Gyfarwyddeb.
- Mae ‘statws cemegol dŵr wyneb da’ yn golygu nad yw crynodiadau’r cemegau yn y corff dŵr yn uwch na’r gwerthoedd terfyn amgylcheddol a nodir yn y Gyfarwyddeb.
Dŵr daear
- ‘Statws dŵr daear da’ yw’r hyn sy'n cael ei gyflawni gan gorff dŵr daear pan fydd ei statws meintiol a’i statws cemegol yn dda.
- Mae ‘statws meintiol’ yn fynegiant o’r graddau yr effeithir ar gorff dŵr daear yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan waith tynnu dŵr. Mae’r statws yn dda os ydy hyn yn cydymffurfio â gofynion y Gyfarwyddeb.
- Mae ‘statws cemegol da’ yn cael ei briodoli i ddŵr daear pan fydd yn bodloni gofynion y Gyfarwyddeb ar gyfer y lefelau uchaf o gemegau diffiniedig.
Dangosydd 46: Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol yng Nghymru
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Cyflwynwyd cyfres newydd o gwestiynau am gymryd rhan mewn materion byd-eang yn 2021 ac fe’i cynhwyswyd yn adran ar-lein yr Arolwg Cenedlaethol. Mae’r cwestiynau’n gofyn a yw ymatebwyr wedi rhoi neu godi arian, gwirfoddoli neu gefnogi unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud â materion byd-eang fel hawliau dynol, ffoaduriaid, neu faterion amgylcheddol byd-eang.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg.
Dangosydd 47: Canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder
Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW)
Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW – yr arolwg troseddu) yn arolwg blynyddol sy'n gofyn i bobl 16 oed a hŷn a ydynt yn hyderus bod y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn deg ac yn effeithiol. Mae amcangyfrifon yr arolwg troseddu yn ystadegau swyddogol achrededig ac fe'u hadolygwyd yn annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (Saesneg yn unig) ym mis Hydref 2024.
Am wybodaeth am ansawdd a methodoleg yr arolwg troseddu gan gynnwys holiaduron, gweler Methodoleg troseddu a chyfiawnder (GOV.UK)(Saesneg yn unig). Gellir dod o hyd i feintiau sampl Cymru ar gyfer y cwestiynau canfyddiadau am gyfiawnder troseddol ochr yn ochr â'r amcangyfrifon yn nhablau data agored canfyddiadau y system cyfiawnder troseddol (GOV.UK)(Saesneg yn unig).
Arolwg Anghenion Cyfreithiol
Comisiynwyd Arolwg Anghenion Cyfreithiol 2023 gan Gymdeithas y Gyfraith a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol i nodi anghenion cyfreithiol pobl. Mae'r arolwg, a gynhaliwyd gan YouGov, yn cwmpasu 34 o wahanol faterion cyfreithiol, sut mae defnyddwyr cyfreithiol wedi ymdrin â'r materion hyn ynghyd â'u canlyniadau, ac mae’n asesu hyder ymatebwyr mewn gwahanol sefyllfaoedd cyfreithiol.
Er mwyn galluogi cynnal dadansoddiad manylach o ran deall anghenion cyfreithiol unigolion yng Nghymru, cynyddwyd nifer yr ymatebwyr a holwyd yng Nghymru yn uwch na'r gyfran gynrychioliadol o boblogaeth gyffredinol Cymru a Lloegr. Cafodd cyfanswm o 1,565 o ymatebwyr eu holi yng Nghymru, a chafodd eu hatebion eu pwysoli i lawr yn y prif amcangyfrifon i adlewyrchu'r gyfran gywir o'r boblogaeth.
Mae graddfa hygyrchedd cyfiawnder yn cynnwys naw cwestiwn (gweler Atodiad B o adroddiad technegol yr arolwg) sy'n ymwneud ag effeithiolrwydd a thegwch y system cyfiawnder nad yw'n droseddol. Mae ymatebwyr yn ateb trwy raddfa Likert pedwar pwynt ac mae system sgorio (0 – 3) yn cael ei chymhwyso i bob ymateb. Cafodd y rhain eu crynhoi gan roi sgôr gyffredinol ac yna eu trawsnewid i gynhyrchu sgôr ar raddfa 0 i 100. Ystyriwyd bod gan ymatebwyr gyda sgoriau o 0 i 50 sgoriau uchel, sy'n dangos hyder uchel yn hygyrchedd y system gyfiawnder nad yw'n droseddol. Mae sgoriau o 51 i 69 yn dangos hyder canolig, ac mae sgôr o 70+ yn dangos hyder isel yn hygyrchedd y system gyfiawnder nad yw'n droseddol.
I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg gweler yr adroddiad technegol ar wefan y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol (Saesneg yn unig).
Dangosydd 48: Canran y siwrneiau drwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus
Ffynhonnell: Arolwg o’r Llafurlu, SYG
Hyd nes bydd data ar gael o Arolwg Teithio Cenedlaethol, mesurir y dangosydd hwn gan ddefnyddio data ar y dull arferol o deithio i’r gwaith o’r arolwg llafurlu. Gweler adroddiad ansawdd yr Arolwg o’r Llafurlu (SYG) am ragor o wybodaeth.
Dangosydd 49: Canran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai
Ffynhonnell: Arolwg Adnoddau Teulu, yr Adran Gwaith a Phensiynau
Canran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu ragor o’u hincwm ar gostau tai sy’n deillio o ddata o Arolwg Adnoddau Teulu yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae costau tai yn cynnwys rhenti, llog morgais ac ad-daliadau cyfalaf, trethi dŵr a charthffosiaeth, sicrwydd yswiriant strwythurol, taliadau gwasanaeth a threth gyngor (net o ad-daliadau). Nid yw defnydd domestig o ynni fel costau nwy a thrydan yn cael ei gasglu fel rhan o’r arolwg hwn, ac nid yw wedi ei gynnwys. Incwm yw incwm gros digyfwerth ar gyfer pob aelod o’r aelwyd ac mae’n cynnwys yr holl fudd-daliadau, pensiynau, buddsoddiadau ac enillion. Cyflwynir data ar gyfer gwahanol ddeiliadaethau tai, gan gynnwys: Pob daliadaeth; perchnogaeth lwyr; perchnogaeth gyda morgais; rhent preifat; a thai cymdeithasol ar rent (gan awdurdod lleol neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig). Mae’r canlyniadau yn seiliedig ar ddata blynyddoedd ariannol. Oherwydd maint sampl bach Cymru yn y data Arolwg Adnoddau Teulu, mae 3 blwyddyn ariannol yn cael eu cyfuno.
Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy’n cwmpasu’r flwyddyn ariannol 2020 i 2021 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod y flwyddyn 2020 i 2021 yn y cyfrifiadau. Ar gyfer y cyfnodau a ddangosir, mae amcangyfrifon a gyfrifwyd yn flaenorol fel cyfartaleddau treigl 3 i 5 blynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 2 i 4 blynedd sy’n hepgor data arolwg 2020 i 2021. Mae amcangyfrifon y flwyddyn ariannol 2020 i 2021 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig COVID-19, pan effeithiodd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ddifrifol ar brosesau casglu data.
Casglwyd data yn ystod y flwyddyn 2021 i 2022 drwy gyfweliadau dros y ffôn yn hytrach na’r dull wyneb yn wyneb sefydledig a ddefnyddiwyd cyn y pandemig COVID-19. Er ein bod wedi asesu ansawdd data y flwyddyn 2021 i 2022 i fod yn ddigon cadarn i’w gyhoeddi, mae rhywfaint o duedd weddilliol yn sampl yr arolwg o hyd o ganlyniad i’r newid ym modd yr arolwg. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd data ar gael yn adroddiad technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau.
mae'n bwysig nodi bod y ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau'r Arolwg o Adnoddau Teulu sydd â sampl fach ar gyfer Cymru, ac mae'n annhebygol bod newidiadau o un flwyddyn i'r llall yn ystadegol arwyddocaol. Felly, rydym yn eich cynghori i fod yn ofalus wrth edrych ar y newidiadau dros amser. Cafodd maint sampl aelwydydd Cymru a gyhoeddwyd gan yr Arolwg o Adnoddau Teulu hwb yn y flwyddyn 2021 i 2022. Gwelodd y flwyddyn 2022 i 2023 ostyngiad yn y sampl ond roedd yn dal yn uwch na'r hyn a gyflawnwyd 2020 i 2011 a 2020 i 2021.
Dangosydd 50: Statws cynhwysiant digidol
Yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, ochr yn ochr â datblygu safon byw digidol sylfaenol. Bydd rhagor o fanylion am y mesur ar gyfer y dangosydd hwn yn cael eu hychwanegu wrth i’r dangosydd gael ei ddatblygu.
Cymru lewyrchus
I gael gwybodaeth am ansawdd ffynonellau data Dangosyddion Cenedlaethol, cyfeiriwch at y ffynonellau data cerrig milltir a’r dangosyddion llesiant Cenedlaethol.
Dangosyddion sydd wedi'u cynnwys yn y bennod hon
Dangosydd 6: Mesur datblygiad plant ifanc
Dangosydd 9: Gwerth Ychwanegol Gros fesul awr gweithio, mynegai (Deyrnas Unedig = 100)
Dangosydd 10: Incwm Gwario Gros Aelwydydd y pen
Dangosydd 11: Canran y busnesau sy’n gwneud gweithgareddau arloesedd gweithredol
Dangosydd 17: Gwahaniaeth cyflog ar sail rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd
Dangosydd 19: Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn amddifadedd materol
Dangosydd 20: Cyfran y cyflogeion y pennir eu cyflog drwy gydfargeinio
Dangosydd 21: Canran y bobl mewn cyflogaeth
Dangosydd 49: Canran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai
Ffynonellau Data Cyd-destunol
Perfformiad economaidd
Gwerth ychwanegol gros rhanbarthol (wedi’i gydbwyso) y pen a chydrannau incwm (SYG)
I gael golwg gyffredinol ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd i lunio allbynnau cyfrifon rhanbarthol, darllenwch y Canllaw methodoleg cyfrifon rhanbarthol (SYG). Bwriad y canllaw hwn yw rhoi dealltwriaeth i’r defnyddiwr o’r hyn sydd wedi ei gynnwys yng nghyfrifon rhanbarthol y Deyrnas Unedig, sut mae amcangyfrifon rhanbarthol o GVA(I), GVA(P), GVA(B), GDHI a GFCF yn cael eu llunio, y gwahanol ddata sy’n cael eu defnyddio i gasglu’r amcangyfrifon, a’r cysyniadau sy’n sail i’r broses gyfan.
Mae amcangyfrifon Gwerth Ychwanegol Gros Rhanbarthol (wedi eu cydbwyso) wedi eu dynodi’n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr Wybodaeth ar Ansawdd a Methodoleg Gwerth Ychwanegol Crynswth y Rhanbarth (wedi ei gydbwyso) (SYG).
Cynhyrchiant rhanbarthol ac is-ranbarthol yn y Deyrnas Unedig: Mehefin 2023 (SYG)
Gweler yr adran ar ffynonellau data ac ansawdd yn yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr (SYG)
Cyhoeddir y data hwn fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr adrannau mesur y data a chryfderau a chyfyngiadau yn y datganiad i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Incwm aelwydydd
Incwm gwario gros aelwydydd (SYG)
I gael golwg gyffredinol ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd i lunio allbynnau cyfrifon rhanbarthol, darllenwch y Canllaw methodoleg cyfrifon rhanbarthol (SYG). Bwriad y canllaw hwn yw rhoi dealltwriaeth i’r defnyddiwr o’r hyn sydd wedi ei gynnwys yng nghyfrifon rhanbarthol y Deyrnas Unedig, sut mae amcangyfrifon rhanbarthol o GVA(I), GVA(P), GVA(B), GDHI a GFCF yn cael eu llunio, y gwahanol ddata sy’n cael eu defnyddio i gasglu’r amcangyfrifon, a’r cysyniadau sy’n sail i’r broses gyfan.
Incwm gwario gros aelwydydd yn rhanbarthol, Bwletinau Ystadegol y Deyrnas Unedig (SYG)
Mae incwm gwario gros aelwydydd yn cael ei ddynodi’n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler y ddogfen Gwybodaeth ansawdd a methodoleg incwm gwario aelwydydd gros yn y rhanbarth (SYG).
Y farchnad lafur
Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth)
Yn flaenorol, roedd yr amcangyfrifon hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol achrededig (hyd at haf 2024). Fodd bynnag, bu gostyngiad ym maint samplau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth dros y blynyddoedd diwethaf, o ystyried hyn a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi cael ei ail-bwysoli i gyd-fynd â’r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) wedi cytuno y dylid atal yr achrediad hwn ac y dylid ail-ddynodi’r amcangyfrifon fel ystadegau swyddogol (OSR). Gweler adran gwybodaeth am ansawdd y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Trosolwg o’r farchnad lafur
Dynodir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol. Gweler yr adran gwybodaeth ansawdd yn yr adroddiad misol diweddaraf.
Ystadegau’r farchnad lafur ranbarthol yn y DU Bwletinau ystadegol (SYG)
Mae’r bwletin hwn yn defnyddio data a gasglwyd o’r Arolwg o’r Llafurlu, a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth sy’n deillio ohono, sef yr arolwg mwyaf o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig. Dynodir y data hwn yn Ystadegau Swyddogol Achrededig.
Mae gwybodaeth ansawdd a methodoleg am gryfderau, cyfyngiadau a defnyddiau priodol, ar gael yn y ddogfen Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg am yr Arolwg o’r Llafurlu (SYG). Mae adroddiadau monitro ansawdd a pherfformiad yr Arolwg o'r llafurlu (SYG) yn darparu data ar gyfraddau ymateb a materion yn ymwneud ag ansawdd.
Arolwg blynyddol o oriau ac enillion
Daw’r data hyn o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, sy’n cael ei redeg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac sy’n cael ei gyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol Achrededig.
Gweler Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, Cyflogau Isel a Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg am Ganlyniadau Pensiwn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (SYG) i gael rhagor o wybodaeth.
Cyfranogiad mewn addysg a’r farchnad lafur
Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur: 2022 a 2023(dros dro)
Dynodir y data hwn yn Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler adran gwybodaeth am ansawdd y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Gwaith teg ac Enillion
Cyflog Byw Gwirioneddol (Living Wage Foundation)
Mae’r Living Wage Foundation yn sefydliad ymgyrchu yn y Deyrnas Unedig sy’n ceisio perswadio cyflogwyr i dalu cyflog byw. Gweler adran 4 (methodoleg) yr adroddiad ar gyfrifo Cyflog Byw Gwirioneddol 2024 (Living Wage Foundation) am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Canran y bobl sy’n weddol fodlon neu’n fodlon iawn ar eu swyddi yn ôl oedran (StatsCymru)
Cesglir y data hyn fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Gweler adran gwybodaeth ansawdd yr Arolwg Cenedlaethol Cymru am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (canolrif enillion yr awr ar gyfer gweithwyr amser llawn, heb gynnwys goramser) (StatsCymru)
Daw’r data o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, sy’n cael ei redeg gan y SYG. Cyhoeddir y rhain fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler y tabiau Gwybodaeth gryno a Gwybodaeth am ansawdd ystadegau ar y dudalen Gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (enillion canolrifol fesul awr gweithwyr llawn amser heb gynnwys goramser) (£) (StatsCymru).
Arolwg blynyddol o oriau ac enillion
Daw’r data hyn o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, sy’n cael ei redeg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac sy’n cael ei gyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol Achrededig.
Tlodi
Tlodi incwm cymharol
Dynodir y data hwn yn Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler y gyfres incwm aelwyd is na’r cyfartaledd: adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg (Yr Adran Gwaith a Phensiynau) am ragor o wybodaeth.
Tlodi parhaus
Daw data ar dlodi parhaus yng Nghymru gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol. Gweler Dynameg Incwm: gwybodaeth gefndir a methodoleg (Yr Adran Gwaith a Phensiynau) i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Amddifadedd materol
Casglir y data hwn fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Gweler adroddiadau ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y dudalen gwybodaeth technegol.
Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr (Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion)
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cancer Research UK; Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD); a Phrifysgol Caerdydd. Cynhelir yr arolwg bob 2 flynedd, ac mae’n rhoi ciplun rheolaidd o ymddygiadau iechyd pobl ifanc rhwng 11-16 oed yng Nghymru. Mae’r arolwg yn cael ei gwblhau ar-lein yn yr ystafell ddosbarth. Yn y flwyddyn academaidd 2019 i 2020, roedd bron i 120,000 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan yn yr arolwg.
Gweler adran Dulliau yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Mae rhagor o ddata manwl ar gael ar Ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru: Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd.
Cymru gydnerth
I gael gwybodaeth am ansawdd ffynonellau data Dangosyddion Cenedlaethol, cyfeiriwch at y ffynonellau data cerrig milltir a’r dangosyddion llesiant Cenedlaethol.
Dangosyddion sydd wedi'u cynnwys yn y bennod hon
Dangosydd 4: Lefelau llygredd Nitrogen Deuocsid (NO2) yn yr aer
Dangosydd 12: Capasiti (mewn MW) y cyfarpar ynni adnewyddadwy a osodwyd
Dangosydd 13: Crynodiad carbon a deunydd organig mewn pridd
Dangosydd 15: Swm y gwastraff a gynhyrchir, nad yw’n cael ei ailgylchu, y pen
Dangosydd 33: Canran yr anheddau â pherfformiad ynni digonol
Dangosydd 43: Ardaloedd o ecosystemau iach yng Nghymru
Dangosydd 44: Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru
Ffynonellau data cyd-destunol
Bioamrywiaeth a Chynefinoedd
Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n llunio’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol.
Gweler Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020:Ein Dull (CNC) i gael trosolwg o ddull CNC o ymdrin ag Adnoddau Naturiol (SMNR).
Adroddiad Sefyllfa Byd Natur ar gyfer Cymru (Partneriaeth Sefyllfa Byd Natur)
Dŵr
Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n llunio’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol.
Gweler Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020:Ein Dull (CNC) i gael trosolwg o ddull CNC o ymdrin ag Adnoddau Naturiol (SMNR).
Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Gweler yr adran ar fonitro a dosbarthu yn 2024 yn yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Ansawdd aer
Mae adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (Deddfwriaeth y DU) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol adolygu’r ansawdd aer presennol a’r ansawdd aer tebygol yn ei ardal yn y dyfodol. Mae adran 83 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddynodi ardal rheoli ansawdd aer pan na fydd amcan ansawdd aer cenedlaethol yn cael ei gyflawni, neu pan na fydd yn debygol o gael ei gyflawni. Mae Adran 84 wedyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer yr Ardal.
Mae’r tablau Ansawdd Aer yng Nghymru yn crynhoi’r awdurdodau lleol ledled Cymru sydd wedi datgan bod ganddynt ardaloedd rheoli ansawdd aer gweithredol.
Cymru iachach
I gael gwybodaeth am ansawdd ffynonellau data Dangosyddion Cenedlaethol, cyfeiriwch at y ffynonellau data cerrig milltir a’r dangosyddion llesiant Cenedlaethol.
Dangosyddion sydd wedi'u cynnwys yn y bennod hon
Dangosydd 1: Canran genedigaethau sengl byw gyda phwysau geni o lai na 2,500g
Dangosydd 3: Canran yr oedolion gyda dau neu fwy ymddygiad ffordd iach o fyw
Dangosydd 5: Canran y plant gyda dau neu fwy ymddygiad ffordd iach o fyw
Dangosydd 29: Sgôr lles meddyliol cymedrig ar gyfer pobl
Dangosydd 31: Canran yr anheddau sy’n rhydd o beryglon
Ffynonellau Data Cyd-destunol
Ystadegau marwolaeth ar gyfer Cymru a Lloegr wedi eu dynodi’n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Mae gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ystadegau marwoldeb ar gael yn yr Wybodaeth Ansawdd a Methodoleg am Farwolaethau yng Nghymru a Lloegr (SYG) ac yn y Canllaw defnyddwyr i ystadegau marwolaethau (SYG). Mae ffynonellau ychwanegol o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer yr ystadegau marwoldeb a ddefnyddiwyd yn adroddiad Llesiant Cymru wedi eu rhestru isod.
Marwolaethau sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr (SYG)
Disgwyliad iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Gweler y “ddogfen dechnegol” y gellir ei llwytho i lawr oddi ar y dudalen we. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i gyhoeddi’r SII ar lefel genedlaethol fel rhan o’i Datganiad ar ddisgwyliad oes a chyflwr iechyd (SYG).
Disgwyliad oes ar gyfer ardaloedd lleol yn y Deyrnas Unedig (SYG)
Mae data disgwyliad oes iechyd wedi eu dynodi’n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr adrannau mesur y data a chryfderau a chyfyngiadau yn y bwletin i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg o ran cryfderau, cyfyngiadau, defnyddiau priodol, a sut mae’r data wedi cael eu creu ar gael yn y ddogfenDisgwyliadau oes iechyd, Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg y Deyrnas Unedig (SYG).
Disgwyliad oes a marwolaeth yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Mae’r cyhoeddiad disgwyliad oes a marwolaeth yng Nghymru yn disgrifio tueddiadau mewn disgwyliad oes, disgwyliad oes iach a marwoldeb, ynghyd â dadansoddiad dadelfeniad disgwyliad oes yng Nghymru.
Mae’r adrannau nodiadau yn rhoi arweiniad pellach ar ddiffiniad y dangosydd, unrhyw gafeat, a’r dulliau a’r ffynonellau data a ddefnyddir. Nid yw rhai o’r ffynonellau data a ddefnyddir yn Ystadegau Swyddogol.
Ystadegau mamolaeth a genedigaethau
Mae’r datganiad hwn yn canolbwyntio ar ystadegau ar gyfer genedigaethau gan ddefnyddio data a gafwyd o set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Mae set ddata’r Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnod geni plentyn â chofnod asesu cychwynnol ei fam (lle bo hynny’n bosibl). Mae’r holl ystadegau a gynhyrchir o’r ffynhonnell hon yn ystadegau arbrofol (GSS) gan fod y set ddata yn dal yn gymharol newydd ac nad oes gan bob eitem ddata ganran uchel o ddata dilys wedi ei gofnodi.
Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg yn y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr (Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion)
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cancer Research UK; Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD); a Phrifysgol Caerdydd. Cynhelir yr arolwg bob 2 flynedd, ac mae’n rhoi ciplun rheolaidd o ymddygiadau iechyd pobl ifanc rhwng 11-16 oed yng Nghymru. Mae’r arolwg yn cael ei gwblhau ar-lein yn yr ystafell ddosbarth. Ym mlwyddyn academaidd 2019 i 2020, roedd bron i 120,000 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan yn yr arolwg.
Gweler adran Dulliau yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Mae rhagor o ddata manwl ar gael ar Ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru: Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd.
Arolwg Cyflwr Tai Cymru (asesiad o elfennau o’r Safon Ansawdd Tai Cymru): Ebrill 2017 i Fawrth 2018
Mae’r datganiad hwn yn edrych ar asesiad o rai elfennau o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) fel sy’n cael eu mesur gan Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017 i 2018. Dylai defnyddwyr sy’n dymuno edrych ar dueddiadau o ran cyrraedd y safon ansawdd ar gyfer tai cymdeithasol dros amser ddefnyddio Ystadegau Swyddogol Safon Ansawdd Tai Cymru. Dylai’r rhai sy’n dymuno cymharu ar draws deiliadaeth ddefnyddio adroddiad SATC Arolwg Cyflwr Tai Cymru (gan nodi mai dim ond is-set o elfennau sydd wedi cael eu mesur). Nid oes modd cymharu’r 2 ffynhonnell ddata yn uniongyrchol. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am sut mae’r arolwg wedi asesu’r Safon Ansawdd Tai Cymru yn Adroddiad Technegol Safon Ansawdd Tai Cymru.
Safon Ansawdd Tai Cymru
Mae’r ystadegau swyddogol hyn yn cyflwyno gwybodaeth o’r casgliad data blynyddol sy’n mesur y cynnydd mae landlordiaid cymdeithasol yn dweud eu bod yn ei wneud o ran cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru yn gysylltiedig â’u stoc. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ansawdd yr ystadegau hyn yn Adroddiad Ansawdd Safon Ansawdd Tai Cymru.
Peryglon mewn tai a thrwyddedau
Gwybodaeth am gyflwr eiddo preswyl a aseswyd gan awdurdodau lleol o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.
Cymru sy'n fwy cyfartal
I gael gwybodaeth am ansawdd ffynonellau data Dangosyddion Cenedlaethol, cyfeiriwch at y ffynonellau data cerrig milltir a’r dangosyddion llesiant Cenedlaethol.
Dangosyddion sydd wedi'u cynnwys yn y bennod hon
Dangosydd 17: Gwahaniaeth cyflog ar sail rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd
Dangosydd 19: Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn amddifadedd materol
Dangosydd 21: Canran y bobl mewn cyflogaeth
Dangosydd 29: Sgôr lles meddyliol cymedrig ar gyfer pobl
Dangosydd 30: Canran y bobl sy’n unig
Ffynonellau data cyd-destunol
Cyfrifiad poblogaeth (Llywodraeth Cymru a'r SYG)
Cynhelir y cyfrifiad bob 10 mlynedd. Cynhaliwyd y cyfrifiad diweddaraf ar 21 Mawrth 2021. Gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Cyfrifiad 2021 (SYG) am ragor o wybodaeth.
Mae ystyriaethau ansawdd penodol hefyd ar gyfer gwybodaeth Cyfrifiad 2021 a gasglwyd am grefydd, a chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd (SYG).
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cwblhau rhagor o waith ansawdd i ddarparu gwybodaeth fanylach am yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o hunaniaeth rhywedd a chanllawiau ar eu defnydd priodol. Gweler eu hamcangyfrifon o hunaniaeth rhywedd Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr, canllawiau ychwanegol ar ansicrwydd a defnydd priodol (SYG) a gyhoeddwyd ar 26 Mawrth.
Arolwg Ysgolion Uwchradd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (Iechyd Cyhoeddus Cymru) (Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd)
Cynhelir arolwg o ddysgwyr ym mhob ysgol uwchradd a gynhelir a rhai ysgolion annibynnol yng Nghymru bob 2 flynedd. Mae'r arolwg yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau: iechyd meddwl a llesiant, gweithgarwch corfforol a maeth, defnyddio sylweddau, iechyd rhywiol a pherthnasoedd cymdeithasol. Gweler erthygl methodoleg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion am ragor o wybodaeth. Nid yw’r ystadegau hyn yn ystadegau swyddogol.
Cymru o gymunedau cydlynus
I gael gwybodaeth am ansawdd ffynonellau data Dangosyddion Cenedlaethol, cyfeiriwch at y ffynonellau data cerrig milltir a’r dangosyddion llesiant Cenedlaethol.
Dangosyddion sydd wedi'u cynnwys yn y bennod hon
Dangosydd 26: Canran y bobl sy’n fodlon ar yr ardal leol fel lle i fyw
Dangosydd 28: Canran y bobl sy’n gwirfoddoli
Dangosydd 30: Canran y bobl sy’n unig
Dangosydd 34: Nifer yr aelwydydd a gafodd eu hatal rhag bod yn ddigartref am bob 10,000 aelwyd
Dangosydd 47:Canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder
Dangosydd 50: Statws cynhwysiant digidol
Ffynonellau data cyd-destunol
Digartrefedd
Gweler Digartrefedd: adroddiad ansawdd i gael gwybodaeth am beth yw'r ystadegau hyn; defnyddwyr a defnyddiau; y cylch prosesu data; safonau; ac ansawdd.
Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan
Mae manylion am ansawdd yr ystadegau ar gael yn adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg y cyhoeddiad.
Troseddau
Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (SYG)
Mae amcangyfrifon Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn ystadegau swyddogol achrededig ac fe'u hadolygwyd yn annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Hydref 2024. Maent yn cydymffurfio â'r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a dylid eu labelu fel "ystadegau swyddogol achrededig". Mae gwybodaeth am ansawdd a methodoleg data Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar gael yn yr adran Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr yn yr Arweiniad i Ddefnyddwyr ar ystadegau troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr: Mawrth 2025 (SYG).
Tablau data canfyddiadau eraill (SYG)
Mae’r ffolder ZIP y gellir ei llwytho i lawr ar gyfer y tablau canfyddiadau eraill yn cynnwys dogfen gyfarwyddiadau tabl agored CSEW sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am ddiffiniadau.
Nifer yr achosion o droseddau personol (SYG)
Mae’r ffolder ZIP y gellir ei llwytho i lawr ar gyfer y tablau nifer yr achosion o droseddau personol yn cynnwys dogfen gyfarwyddiadau tabl agored CSEW sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am ddiffiniadau.
Troseddau yng Nghymru a Lloegr: Tablau data Ardal Heddlu (SYG)
Mae’r tablau data hyn yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r bwletin Troseddau yng Nghymru a Lloegr, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024. Nid yw data troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu wedi eu dynodi’n Ystadegau Swyddogol Achrededig.
Troseddau casineb yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Gartref)
Ystadegau ar droseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu, gan gynnwys adran ar ansawdd a ffynonellau data.
Gweler yr adroddiadau ansawdd ar gyfer canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y dudalen Gwybodaeth Dechnegol.
Am wybodaeth am y fethodoleg a ddefnnyddiwyd yn adroddiad Tlodi ac amddifadedd (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2022 i Fawrth 2023 gweler yr adroddiad technegol ar ddadansoddiad atchweliad, Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
For information on the methodology used in the Poverty and deprivation (National Survey for Wales): April 2022 to March 2023 report see the technical report on Regression analysis, April 2021 to March 2022.
Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
I gael gwybodaeth am ansawdd ffynonellau data Dangosyddion Cenedlaethol, cyfeiriwch at y ffynonellau data cerrig milltir a’r dangosyddion llesiant Cenedlaethol.
Dangosyddion sydd wedi'u cynnwys yn y bennod hon
Dangosydd 37: Nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg
Dangosydd 40: Canran yr asedau amgylchedd hanesyddol dynodedig sydd mewn cyflwr sefydlog neu well
Ffynonellau data cyd-destunol
Presenoldeb a chyfranogiad yn y celfyddydau
Gweler yr adroddiadau ansawdd ar gyfer canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y dudalen Gwybodaeth Dechnegol.
Arolwg Omnibws Plant 2023 (Cyngor Celfyddydau Cymru)
Gweler adran methodoleg Arolwg omnibws plant 2023: Adroddiad presenoldeb a chyfranogiad cyffredinol i gael rhagor o wybodaeth. Cyhoeddir y data hwn fel Ystadegau Swyddogol.
Cymryd rhan mewn chwaraeon
Gweler yr adroddiadau ansawdd ar gyfer canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y dudalen Gwybodaeth Dechnegol.
Y Gymraeg
Cyfrifiad poblogaeth (Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Cynhelir y cyfrifiad bob 10 mlynedd. Cynhaliwyd y cyfrifiad diweddaraf ar 21 Mawrth 2021. Gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Cyfrifiad 2021 (SYG) am ragor o wybodaeth.
Mae ystyriaethau ansawdd penodol hefyd ar gyfer gwybodaeth Cyfrifiad 2021 a gasglwyd am grŵp ethnig, pobl anabl a chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd (SYG).
- Y Gymraeg yng Nghymru
- Y Gymraeg yn ôl nodweddion y boblogaeth
- Cyfansoddiad cartrefi o ran y Gymraeg
- Cyfraddau trosglwyddo’r Gymraeg ar yr aelwyd yn ôl rhyw
Gweler yr adroddiadau ansawdd ar gyfer canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y dudalen Gwybodaeth Dechnegol.
Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Dynodir y data hwn yn Ystadegau Swyddogol Achrededig. Mae gwybodaeth am gyd-destun, ansawdd a methodoleg ar gael yn y tabiau gwybodaeth gryno a gwybodaeth am ansawdd ystadegau yn nhablau Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth StatsCymru.
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei ddatblygu a’i gynnal ar gael yn adroddiad Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (StatsCymru).
Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
I gael gwybodaeth am ansawdd ffynonellau data Dangosyddion Cenedlaethol, cyfeiriwch at y ffynonellau data cerrig milltir a’r dangosyddion llesiant Cenedlaethol.
Dangosyddion sydd wedi'u cynnwys yn y bennod hon
Dangosydd 14: Ôl-troed byd-eang Cymru
Dangosydd 41: Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru
Dangosydd 46: Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol yng Nghymru
Dangosydd 48: Canran y siwrneiau drwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus
Ffynonellau data cyd-destunol
Arolwg Cenedlaethol Cymru
Gweler yr adroddiadau ansawdd ar gyfer canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y dudalen Gwybodaeth Dechnegol.
Am wybodaeth am y fethodoleg a ddefnnyddiwyd yn adroddiad Tlodi ac amddifadedd (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2022 i Fawrth 2023 gweler yr adroddiad technegol ar ddadansoddiad atchweliad, Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Caethwasiaeth Fodern, ystadegau Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (Y Swyddfa Gartref)
Gweler adran gwybodaeth am ansawdd yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol.
Ystadegau Priodasau dan Orfod (Uned Priodasau dan Orfod)
Mae’r Uned Priodasau Dan Orfod yn uned ar y cyd rhwng y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a’r Swyddfa Gartref sy’n gweithio ar bolisi priodas dan orfod, gwaith maes a gwaith achos y llywodraeth. Mae’n gweithredu y tu mewn i’r Deyrnas Unedig, lle darperir cymorth i unrhyw unigolyn, a thramor, lle darperir cymorth conswlaidd i ddinasyddion Prydain, gan gynnwys dinasyddion deuol.
Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol. Gweler y Canllaw i Ddefnyddwyr ar: Ystadegau’r Uned Priodasau dan Orfod (Uned Priodasau dan Orfod) ar gyfer gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang, dadansoddiad a ddarparwyd gan CBAC (gweler y tablau data cyfatebol)
Dadansoddiad a ddarparwyd gan CBAC ar gyfer cynhyrchu’r adroddiad llesiant.
Ystadegau mewnfudo a ffoaduriaid (Y Swyddfa Gartref)
Daw’r data hyn o ddata gweinyddol y Swyddfa Gartref, a gyhoeddir fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler y Canllaw i Ddefnyddwyr ar gyfer Ystadegau Mewnfudo (Y Swyddfa Gartref) am wybodaeth ynghylch ansawdd a methodoleg data’r Swyddfa Gartref.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nhabiau Nodiadau’r tablau data.
Tablau a ddefnyddiwyd
Asy_D11 – ystadegau mewnfudo
Nifer y plant a gafodd brechlynnau yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Mae data am y niferoedd sy’n cael brechiadau yn cael eu darparu gan gynllun cenedlaethol COVER Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ni chyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol. Mae’r cynllun gwyliadwriaeth hwn, sy’n cael ei redeg gan Raglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Ganolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy, yn cyfrifo’r ddarpariaeth brechu gan ddefnyddio data o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Mae’r Gronfa yn cael ei chynnal gan Wasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru ac mae’n cynnwys cofnodion wedi eu hechdynnu o gronfa ddata swyddfeydd Iechyd Plant yr holl fyrddau iechyd ledled Cymru. Mae’r Gronfa yn cael ei hadnewyddu bob chwarter.
Enwadur y cyfrifiadau defnyddio a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad COVER blynyddol yw nifer y plant a gofrestrwyd gyda swyddfeydd Iechyd Plant a gyrhaeddodd ben-blwyddau mesur allweddol yn ystod y flwyddyn rhwng Ebrill a Mawrth ac a oedd yn byw ac yn preswylio yn ardaloedd byrddau iechyd Cymru ar ddiwedd y cyfnod hwn. Tybir bod y plant wedi eu brechu erbyn oedran mesur os oes ganddynt ddyddiad brechu wedi ei gofnodi yn eu cofnod iechyd plentyn, sydd cyn y pen-blwydd perthnasol.
Gall ansawdd y data yn y Gronfa fod yn llai yn achos plant hŷn sy’n cael cyswllt llai aml â gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, ac y gallai eu cofnodion iechyd plant fod yn cael eu diweddaru yn llai aml.
