Y llynedd, ni chyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau yr ystod arferol o ddata tlodi ac amddifadedd materol oherwydd problemau ansawdd data gyda data 2020-21, o ganlyniad i bandemig COVID-19. Ar gyfer data 2021-22, er bod rhywfaint o effaith o hyd ar ansawdd oherwydd y ddibyniaeth barhaus ar gyfweliadau dros y ffôn yn hytrach na chyfweliadau wyneb yn wyneb, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi asesu bod ansawdd y data yn fwy cadarn.
Dosbarthiad incwm aelwydydd
Mae ffigurau blwyddyn ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan yn dangos cynnydd mewn incwm canolrifol aelwydydd mewn termau real rhwng 2020-21 a 2021-22. Roedd y cynnydd yn 0.5% cyn costau tai (BHC) ac yn 1.6% ar ôl costau tai (AHC). Roedd y twf yn incwm aelwydydd y Deyrnas Unedig yn amrywio ar draws y dosbarthiad incwm:
- roedd incwm aelwydydd unigolion yn chwarter isaf y dosbarthiad incwm yn dangos gostyngiadau mewn termau real
- roedd y rhai rhwng y 25fed a’r 75fed canradd wedi cofnodi cynnydd mewn incwm gwirioneddol
- roedd y darlun yn fwy cymysg ar gyfer y cwintel incwm uchaf
Tlodi incwm cymharol
Pobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yw’r rhai sy’n byw mewn aelwyd lle mae cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm cyfartalog aelwydydd y Deyrnas Unedig (fel sy’n cael ei roi gan y canolrif).
Ar gyfer rhanbarthau a gwledydd y Deyrnas Unedig, mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd eleni ar gyfer y cyfnod rhwng 2019-20 a 2021-22. Nid yw’r amcangyfrifon yn cynnwys data arolwg 2020-21 yn y cyfrifiadau, gan y bernir bod y data ar gyfer y flwyddyn honno o ansawdd rhy isel, fel y nodwyd uchod.
Rhwng 2019-20 a 2021-22, roedd 21% o holl bobl Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai).
Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 17 mlynedd, gyda phlant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r boblogaeth yn gyffredinol. Er bod cyfraddau’r bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru wedi gostwng yn y cyfnod diweddaraf ar draws y grwpiau oedran, nid oedd yr un o’r newidiadau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol.
Ffigur 1.8: Canran o bob grŵp oedran yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), cyfartaleddau tair blynedd ariannol
Disgrifiad o Ffigur 1.8: Siart linell yn dangos pobl yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai) o 1998 ymlaen. Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 17 mlynedd, gyda phlant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r boblogaeth yn gyffredinol.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o set ddata Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog, yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn seiliedig ar yr Arolwg o Adnoddau Teulu
[Nodyn 1] Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy’n cwmpasu 2020-21 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod 2020-21 yn y cyfrifiadau. Ar gyfer y ddau gyfnod diweddaraf a ddangosir, mae amcangyfrifon a gyfrifwyd yn flaenorol fel cyfartaleddau treigl tair blynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl dwy flynedd sy’n hepgor data arolwg 2020-21. Mae amcangyfrifon 2020-21 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig COVID-19, pan effeithiodd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ddifrifol ar brosesau casglu data.
Amddifadedd materol
Mae amddifadedd materol yn fesur o safonau byw, a diffinnir bod rhywun yn byw mewn amddifadedd materol os nad yw’n gallu cael gafael ar nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau. Aelwydydd incwm isel yw’r rhai mae cyfanswm incwm yr aelwyd yn llai na 70% o incwm cyfartalog aelwydydd y Deyrnas Unedig, cyn talu costau tai.
Roedd parhau â chyfyngiadau pandemig COVID-19 yn 2021-22 wedi effeithio ar fesur amddifadedd materol, fel y gwnaeth yn 2020-21. Roedd y cyfyngiadau a oedd ar waith yn effeithio ar fynediad pobl at rai cyfleoedd neu wasanaethau cymdeithasol, waeth beth fo’r amddifadedd neu’r cyfyngiadau ariannol. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu ystadegau ar gyfer y ddwy flynedd yn uniongyrchol â’r cyfnod cyn y pandemig.
Ffigur 1.9: Canran y bobl mewn amddifadedd materol (ar gyfer pensiynwyr) ac incwm isel cymharol cyfun (ar gyfer plant ac oedolion o oedran gweithio) yng Nghymru, y blynyddoedd ariannol 2010-11 i 2021-22
Disgrifiad o Ffigur 1.9: Graff llinell yn dangos bod cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn aelwydydd incwm isel a oedd mewn amddifadedd materol a phensiynwyr a oedd mewn amddifadedd materol ill dau wedi gostwng cyn y pandemig. Mae’r duedd ar gyfer plant sy’n byw mewn aelwydydd incwm isel a oedd mewn amddifadedd materol wedi amrywio llawer mwy.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o set ddata Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog, yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn seiliedig ar yr Arolwg o Adnoddau Teulu
[Nodyn 1] Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy’n cwmpasu 2020-21 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod 2020-21 yn y cyfrifiadau. Ar gyfer y ddau bwynt data newydd, mae amcangyfrifon a gyfrifwyd yn flaenorol fel cyfartaleddau treigl tair blynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl dwy flynedd sy’n hepgor data arolwg 2020-21. Mae amcangyfrifon 2020-21 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig COVID-19, pan effeithiodd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ddifrifol ar brosesau casglu data.
[Nodyn 2] Ar gyfer 2021-22, nid oes modd cymharu amcangyfrifon o amddifadedd materol yn gwbl deg â’r cyfnod cyn y pandemig. Effeithiwyd ar nifer o’r cwestiynau a ofynnwyd fel rhan o’r mesur amddifadedd materol gan gyfyngiadau cysylltiedig â’r pandemig ar fynediad at wasanaethau a chyfleoedd cymdeithasol.
Yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig, roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn aelwydydd incwm isel a oedd mewn amddifadedd materol yn dilyn tuedd ar i lawr o 18% yn y cyfnod rhwng 2010-11 a 2012-13, i 13% yn 2017-18 i 2019-20. Roedd gostyngiad hefyd mewn amddifadedd materol ymysg pensiynwyr (ni ystyrir incwm ar gyfer y mesur hwn), er ei fod yn ostyngiad llai serth. Roedd gostyngiad yn rhan gynharach y cyfnod hwn ar gyfer plant, ond ar ôl cyfnod yn gorffen 2016-17, roedd cyfraddau incwm isel ac amddifadedd materol cyfun ar gyfer plant yn amrywio.
Fel yr eglurwyd uchod, mae’r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer y cyfnod rhwng 2019-20 a 2021-22 ac nid oes modd eu cymharu’n uniongyrchol â’r cyfnod cyn y pandemig. Ar gyfer y cyfnod hwn, roedd 13% o blant, ac 11% o oedolion o oedran gweithio sy’n byw yng Nghymru, yn byw mewn aelwydydd incwm isel a oedd yn wynebu amddifadedd materol. Roedd 7% o bensiynwyr sy’n byw yng Nghymru mewn amddifadedd materol (ni ystyrir incwm ar gyfer y mesur hwn).
Yn 2022-23, dywedodd 3% o aelwydydd eu bod wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd diffyg arian, gyda 3% arall yn dweud nad oeddent wedi cael bwyd ond eu bod wedi dymuno cael hynny.
Tlodi parhaus
Ystyrir bod rhywun mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol mewn o leiaf tair o bob pedair blynedd yn olynol. Mae data o’r arolwg ‘Understanding Society’ yn dangos bod tebygolrwydd o 12% y byddai unigolyn yng Nghymru mewn tlodi parhaus rhwng 2017 a 2021 (ar ôl talu costau tai). Roedd plentyn yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi parhaus, sef 17%.
Incwm a wariwyd ar gostau tai
Ychwanegwyd dangosydd cenedlaethol ar ganran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai at y dangosydd cenedlaethol a osodwyd ym mis Rhagfyr 2021, yn seiliedig ar ddata o Arolwg Adnoddau Teulu yr Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd pandemig COVID-19 yn ystod 2020-21 wedi effeithio ar gasglu data ar gyfer yr Arolwg o Adnoddau Teulu felly nid yw data arolwg y flwyddyn honno wedi cael ei gynnwys yn y cyfrifiadau ar gyfer y cyfnod diweddaraf (2019-20 i 2021-22) oherwydd bernir ei fod o ansawdd isel.
Ar gyfer y cyfnod diweddaraf y mae digon o ddata ar gael ar ei gyfer (2019-20 i 2021-22), roedd 18% o aelwydydd yn gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai. Mae’r ganran hon wedi bod yn weddol gyson ar 19% ers y cyfnod 2011-12 i 2013-14, ond mae’n amrywio yn ôl deiliadaeth tai. Mae hi’n rhy gynnar i ddweud a yw’r newid a nodwyd yn y cyfnod diweddaraf yn ostyngiad gwirioneddol ynteu a yw oherwydd bod mwy o anwadalrwydd o ganlyniad i’r gostyngiad ym maint sampl yr arolwg.
Yn y cyfnod hyd at 2019-20 i 2021-22, dim ond 2% o aelwydydd sy’n berchen ar eu cartref eu hunain yn llwyr a 14% o’r rhai sy’n berchen ar gartref gyda morgais oedd yn gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai. Mae’r canrannau’n uwch ar gyfer y ddwy ddeiliadaeth arall: 36% o’r rhai sy’n rhentu’n breifat, 43% o’r rhai mewn tai rhent cymdeithasol.
Mae cynnydd yng nghostau ynni aelwydydd wedi bod yn nodwedd amlwg o’r blynyddoedd diwethaf ac mae hyn wedi arwain at gynnydd yng nghanran yr aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd. Prif ffigur 2021 oedd bod tua 14% o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd ac amcangyfrifir bod hyn wedi codi i gymaint â 45% erbyn mis Ebrill 2022. Amcangyfrifir bod canran yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd difrifol wedi codi o 3% i 8% dros yr un cyfnod.
Mae’r cynnydd sylweddol mewn prisiau tanwydd yn ffactor pwysig o ran cynyddu costau i aelwydydd ac i fusnesau, gyda phob math o danwydd yn cyrraedd y prisiau uchaf yn 2022. Wrth gymharu â 2010, roedd costau yn 2022 95% yn uwch am drydan, 67% yn uwch am nwy, 24% yn uwch am danwydd solet, a 46% yn uwch am danwydd hylif. Cyflwynwyd nifer o gynlluniau cymorth, fel y Warant Pris Ynni a’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yng Nghymru, i leihau effaith y cynnydd hwn ar aelwydydd a busnesau.
Mae tlodi tanwydd yn effeithio’n anghymesur ar aelwydydd gwahanol, gyda’r rhai sy’n byw yn yr anheddau hynaf (cyn 1919) yn fwy tebygol o fod mewn tlodi tanwydd (22% o aelwydydd o’r fath yn 2021), ac roedd bron i dri chwarter (74%) o’r holl aelwydydd sydd â’r 10% isaf o incwm yng Nghymru yn debygol o fod mewn tlodi tanwydd yn 2021.