Neidio i'r prif gynnwy

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, ar gyfer defnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ar ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.

Gellir gweld rhestr lawn o'n cyhoeddiadau mwyaf diweddar ar ein calendr i ddod.

Ymateb i'r coronafeirws (COVID-19)

Yn ystod mis Mawrth 2022, cyhoeddwyd y cynllun Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: COVID-19 – Cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig. Mae'r cynllun hwn yn esbonio bod y cysylltiad rhwng dal yr haint COVID-19, salwch difrifol, derbyniadau i’r ysbyty a marwolaeth wedi'i wanhau'n sylweddol. Golyga hyn y gallwn ddechrau symud y tu hwnt i'r ymateb brys i'r pandemig a chynllunio ar gyfer dyfodol pan fyddwn yn pontio'n raddol i fyw'n ddiogel gyda’r coronafeirws.

Yn unol â'r cynllun hwn, rydym wedi parhau i adolygu ein hallbynnau COVID-19 ac rydym wedi rhoi’r gorau i gyhoeddi llawer ohonynt, neu wedi lleihau eu hamlder, gan gynnwys rhoi’r gorau i ddiweddaru dangosfwrdd rhyngweithiol COVID-19 yng Nghymru y chwarter hwn. Mae cynnwys tebyg i’r hyn a gasglwyd ar COVID-19 ar ddangosfwrdd Cymru yn dal i gael ei ddiweddaru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddangosfyrddau gwyliadwriaeth Coronafeirws (COVID-19) (Iechyd Cyhoeddus Cymru).

Rydym wedi parhau hefyd i gadw’r allbynnau allweddol a sicrhau bod data yn parhau ar gael ar amlder priodol drwy StatsCymru. Mae trosolwg o ddangosyddion COVID-19 ar gael ar ein tudalen ymchwil ac ystadegau cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19).

Mae croeso i chi anfon unrhyw sylwadau neu adborth ar y ffordd rydych yn defnyddio'r datganiadau, ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer eu newid, drwy e-bostio KAS.COVID19@llyw.cymru

Yr economi a'r farchnad lafur

Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiad misol trosolwg o'r farchnad lafur, sy'n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau mewn perthynas â'r farchnad lafur ynghyd er mwyn rhoi'r darlun diweddaraf o'r effaith y mae COVID-19 a digwyddiadau eraill yn parhau i'w chael ar y farchnad lafur. Mae ein dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau wedi cael ei ddiweddaru hefyd.

 Ym mis Gorffennaf, diweddarwyd ein dangosyddion allbwn tymor byr i gwmpasu chwarter cyntaf 2022, yn ogystal â chyhoeddi amcangyfrifon o gynhyrchiant is-ranbarthol ar gyfer 2020.

Cyhoeddwyd hefyd am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf ddata o'r arolwg blynyddol o oriau ac enillion ar gyfran y swyddi gweithwyr y mae eu cyflog wedi'i osod gan gyfeirio at gytundeb ar y cyd ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU. Cyhoeddwyd y data yma ar StatsCymru ac mae'n cwmpasu 2012 i 2021.

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.economi@llyw.cymru.

Tablau mewnbwn allbwn

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ariannu rhaglen waith ar gyfer gwella ystadegau economaidd Cymru, gan gynnwys datblygu Tablau Mewnbwn Allbwn i Gymru dros y tair blynedd nesaf. Fel rhan o'r gwaith hwn, hoffem ddeall yn well beth yw’r angen am dablau o'r fath ymhlith defnyddwyr allanol ehangach– byddwn yn cysylltu â defnyddwyr a rhanddeiliaid yn ddiweddarach eleni.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Addysg

Ysgolion

Gwnaethom barhau i gyhoeddi data wythnosol ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol tymor yr haf. Bydd y datganiad wythnosol yn ailddechrau yn yr hydref, a bwriedir cyhoeddi’r datganiad cyntaf ar 14 Medi.

Ni chafodd unrhyw gyhoeddiadau ystadegol eraill eu cyhoeddi ym mis Mehefin a mis Gorffennaf. Bydd nifer o ddatganiadau ystadegol yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref, gan gynnwys un wrth i ddisgyblion ddechrau yn yr ysgol ac asesiadau athrawon ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, wedi iddynt gael eu hatal dros dro yn ystod y pandemig.

Mae’r dyddiadau cyhoeddi canlynol wedi eu cyhoeddi ymlaen llaw:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni yn ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.

Addysg drawsbynciol ac addysg ôl-16

Mae data dros dro ar raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd ar gyfer dau chwarter cyntaf blwyddyn academaidd 2021/22 wedi eu cyhoeddi erbyn hyn drwy ein dangosfwrdd rhagweithiol ac ar StatsCymru.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd casgliad cynhwysfawr o ystadegau dysgu ôl-16 yn ôl grŵp ethnig y dysgwyr. Mae’n cwmpasu cyfranogiad mewn addysg ôl-16 a deilliannau dysgwyr, a bydd yn cyfuno dadansoddiad newydd â'r hyn a gyhoeddwyd eisoes fel rhan o'n datganiadau ystadegol eraill. Mae’r adroddiad yn nodi’r ystadegau sylfaenol ar ddysgu ôl-16 ar gyfer dysgwyr o wahanol gefndiroedd ethnig er mwyn gallu canfod anghydraddoldebau, a’u monitro, yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i ymgorffori’r dadansoddiad newydd yn ein datganiadau ystadegol rheolaidd ar ddysgu ôl-16.

Er mwyn rhoi adborth, neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Addysg uwch a chyllid myfyrwyr

Rydym wedi cyhoeddi ein bwletin diweddaraf ar y Gymraeg mewn addysg uwch.

Er mwyn rhoi adborth, neu am unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â'n blwch post AU a Chyllid i Fyfyrwyr: addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru

Tai

Mae gwybodaeth reoli fisol am ddarpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan yn parhau i gael ei chyhoeddi'n rheolaidd, ynghyd â data chwarterol a blynyddol ar gynllun Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir).

Hefyd, cafodd nifer o allbynnau ystadegau tai rheolaidd eu cyhoeddi ers mis Mehefin – roedd y rhain yn cynnwys:

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i gyhoeddi data misol ar Fynegai Prisiau Tai ar gyfer Cymru, a chyhoeddwyd (Cofrestrfa Tir EM) (Saesneg yn unig) y diweddaraf o'r rhain (ar gyfer mis Mehefin 2022) ar 17 Awst 2022 ochr yn ochr â data ar gyfer gweddill y DU (ONS) (Saesneg yn unig). 

Mae data ar y Dreth Trafodiadau Tir yn dal i gael eu cyhoeddi’n rheolaidd gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Cysylltwch â ni drwy flwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.

Amodau Tai a Thlodi Tanwydd

Yn y diweddariad chwarterol diwethaf, darparwyd gwybodaeth am amcangyfrifon tlodi tanwydd newydd wedi'u modelu fel ag yr oeddent ym mis Hydref 2021. Byddwn yn cyhoeddi dadansoddiad manylach o'r data yma yn ystod y misoedd nesaf er mwyn rhoi mwy o wybodaeth am bwy sy'n cael ei effeithio gan dlodi tanwydd. Bydd adroddiad methodoleg fanwl yn cyd-fynd â hyn.

Mae gwaith yn parhau i ddatblygu dangosfwrdd tlodi tanwydd i ddod ag ystod o ddata sy'n berthnasol i dlodi tanwydd ynghyd

Rydym yn parhau i weithio gyda Thîm Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) i ddarparu cefnogaeth ddadansoddol wrth ddatblygu’r Safon ar ôl 2020. Mae'r ymgynghoriad ar y safon arfaethedig nawr ar gau ac mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynllunio cyhoeddiad cyn hir sy'n rhoi gwybodaeth am ba ddata sydd ar gael ledled y DU am effeithlonrwydd ynni tai, gan ganolbwyntio ar wybodaeth a ddarperir drwy Dystysgrifau Perfformiad Ynni.

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed eich awgrymiadau ar gyfer prosiectau dadansoddol sy'n ymwneud ag amodau tai, awgrymiadau ar gyfer ffynonellau i ymchwilio iddynt, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cael gafael ar ddata sydd gennym eisoes ar gyfer prosiectau ymchwil. Cysylltwch â ni drwy'r blwch post (ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru) os bydd gennych unrhyw ymholiadau, ceisiadau neu fewnbwn mewn perthynas ag unrhyw un o'r uchod.

Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Perfformiad a Gweithgareddau’r GIG

Rydym yn parhau i ddarparu diweddariadau misol ar weithgareddau'r GIG, ac yn eu gwella, gan gynnwys ein hallbynnau misol ar berfformiad a gweithgaredd y GIG mewn perthynas ag ambiwlansys, adrannau damweiniau ac achosion brys, atgyfeiriadau i apwyntiadau cyntaf fel cleifion allanol, profion diagnostig a therapïau, atgyfeiriadau i driniaeth a chanser. Yn y chwarter olaf, cafodd gwybodaeth reoli a oedd newydd ei chasglu ar gyfer nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaeth yng Nghymru, yn ogystal â nifer y llwybrau cleifion yr ydym yn parhau i adrodd arnynt, ei hychwanegu gennym.

Yng ngoleuni’r effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar weithgarwch y GIG ac ar lefelau perfformiad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros i bobl yng Nghymru. Y chwarter hwn hefyd, rydym wedi ymgorffori’r mesuriadau perfformiad hyn yn erbyn yr uchelgeisiau yn y datganiad ystadegol hwn ac ar StatsCymru.

Gofal Sylfaenol a Gofal yn y Gymuned

Mewn ystadegau gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned, ac yn dilyn datganiad ystadegol cynhwysfawr ar y gweithlu meddygon teulu y chwarter diwethaf, rydym wedi cyhoeddi erthygl ystadegol arall sy'n rhoi cipolwg newydd o ran poblogaeth a gweithlu practisau ymarferwyr cyffredinol a gofal sylfaenol yn ôl lefel amddifadedd. Cyhoeddwyd adroddiadau newydd ac wedi’u diweddaru ar gyfer mamolaeth a genedigaethau, bwydo ar y fron a Rhaglen Plant Iach Cymru y chwarter hwn hefyd.

Ystadegau eraill Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd data newydd gan Arolwg Cenedlaethol Cymru ar elfennau o iechyd y boblogaeth gan gynnwys ffyrdd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd ac ymddygiad oedolion ac iechyd cyffredinol a salwch ymhlith oedolion.

Mae diweddariadau wedi bod i amrywiol agweddau eraill ar ystadegau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol y chwarter hwn hefyd, gan gynnwys data ar; Gwasanaethau deintyddol y GIG, absenoldeb oherwydd salwch y GIG, staff a gyflogir gan y GIG, camddefnyddio sylweddau, mesurau gofal llygaid, ystadegau erthyliadau, cofrestrau awdurdodau lleol o bobl anabl, nifer y bobl a gadwyd o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, atgyfeiriadau ac amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl ac amseroedd aros am apwyntiad cyntaf Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed arbenigol.

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan Ystadegau ac ymchwil ac mae data sylfaenol manylach ar gael yn yr adran Iechyd a gofal cymdeithasol o StatsCymru.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Ymchwil Data Gweinyddol Cymru

Rydym wedi parhau i ddatblygu ein cynllun ymchwil grant craidd ar gyfer rhaglen ymchwil newydd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru ar gyfer 2022-2026. Mae hyn wedi cynnwys ymgynghori ag amrywiaeth eang o feysydd polisi a rhanddeiliaid. Rydym yn disgwyl cyhoeddi ein cynllun cyn ein digwyddiad lansio Ymchwil Data Gweinyddol Cymru cyn diwedd 2022. Bydd yn darparu rhagor o fanylion am feysydd thema ein hymchwil:

  • Newid hinsawdd
  • Addysg
  • Y blynyddoedd cynnar
  • Tai
  • Iechyd meddwl
  • Sgiliau a chyflogadwyedd
  • Gofal cymdeithasol
  • PANDAR (COVID-19)
  • Llesiant
  • Cyfiawnder Cymdeithasol

Rydym wedi parhau i gefnogi cyflenwi microddata Llywodraeth Cymru i’r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) er mwyn i'r setiau data hyn gael eu defnyddio'n ddiogel gan ymchwilwyr at ddiben prosiectau dadansoddi data er budd y cyhoedd.

Rydym hefyd wedi cynnal trafodaethau adeiladol gyda phartneriaid eraill y llywodraeth (ee Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, DVLA ac awdurdodau lleol) i’w hannog a’u cefnogi i ddarparu eu data yn SAIL.

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ADRUWales@llyw.cymru.

Llesiant Cymru

Mae disgwyl i adroddiad blynyddol Llesiant Cymru gael ei gyhoeddi ar 29 Medi eleni. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar lesiant yng Nghymru i'n helpu i asesu a ydym yn gwneud cynnydd yn erbyn y saith nod llesiant cenedlaethol a osodwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r adroddiad yn ystyried cynnydd yn erbyn y 50 o ddangosyddion cenedlaethol, ochr yn ochr ag ystod o ddata perthnasol eraill.

Fel yn 2021, bydd adroddiad hawdd ei ddeall yn cael ei gyhoeddi yn ychwanegol i'r prif adroddiad er mwyn helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cael gwybodaeth ystadegol am Gymru.

Yn 2018, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar wahân ar lesiant plant, ochr yn ochr â’r prif adroddiad Llesiant Cymru. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad o lesiant plant yn seiliedig ar y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, a defnyddiodd hefyd Arolwg Carfan y Mileniwm a ffynonellau eraill megis data ar blant mewn aelwydydd heb waith o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Rydym wedi derbyn adborth bod bwlch mewn data ar blant, felly eleni byddwn yn cynhyrchu adroddiad llesiant plant a phobl ifanc wedi'i ddiweddaru ochr yn ochr â'r prif adroddiad.

Eleni fydd y tro cyntaf i adroddiad Llesiant Cymru gynnwys adrodd ar y cerrig milltir cenedlaethol. Mae cerrig milltir cenedlaethol yn cynorthwyo i fesur cyflymder y newid sydd ei angen i gyflawni'r nodau llesiant. Pennwyd y set gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021 a bydd adroddiad arnynt eleni fel rhan o adroddiad Llesiant Cymru pan fo data ar gael. Ymgynghorir ar hyn o bryd ar yr ail set o gerrig milltir cenedlaethol yn cael eu hymgynghori ar hyn o bryd, ac mae disgwyl iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Hydref 2022.

Ym mis Rhagfyr 2021, cafodd set wedi'i diweddaru o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod gennym hefyd. Byddwn yn adrodd ar rai o'r dangosyddion newydd hyn am y tro cyntaf eleni. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Canran y bobl mewn cyflogaeth, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy'n ennill y Cyflog Byw gwirioneddol o leiaf
  • Y gwahaniaeth mewn cyflogau ar sail rhyw, anabledd, ac ethnigrwydd
  • Cyfran y gweithwyr y mae eu cyflog yn cael ei bennu drwy gydfargeinio
  • Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol yng Nghymru
  • Canran yr aelwydydd sy'n gwario 30% neu mwy o'u hincwm ar gostau tai

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni ar stephanie.howarth001@llyw.cymru.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Rhyddhau canlyniadau blwyddyn lawn 2021-22 am y tro cyntaf

Ar 14 Gorffennaf, cyhoeddwyd canlyniadau blwyddyn lawn ar gyfer arolwg 2021-22 ar ein gwefan. Hwn oedd y datganiad blwyddyn lawn cyntaf ers 2019-20 (cyn y pandemig COVID-19).

Ymhlith y pynciau a drafodwyd yn arolwg 2021-22 roedd:

  • Yr ardal leol a'r amgylchedd: cydlyniant cymunedol, diogelwch mewn ardaloedd lleol, gwasanaethau awdurdodau lleol, ansawdd yr amgylchedd lleol, llygredd sŵn.
  • Ymddygiadau ffordd iach o fyw: smygu, alcohol, deiet, BMI a gweithgarwch corfforol.
  • Chwaraeon: cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol eraill.
  • Ysgolion a phlant: boddhad gydag ysgol, mynediad at ddyfeisiau ar gyfer dysgu a theithio llesol i'r ysgol, a gweithgarwch corfforol plant.
  • Cyflogadwyedd
  • Addysg a hyfforddiant ôl-orfodol
  • Defnydd a sgiliau rhyngrwyd
  • Gwasanaethau iechyd: gwasanaethau meddygon teulu, iechyd deintyddol, gofal llygaid a chlyw
  • Boddhad cyffredinol gyda Llywodraeth Cymru, gwasanaethau iechyd ac addysg
  • Lles anifeiliaid anwes: perchnogaeth, lle cawsant eu caffael, microsglodion ac yswiriant
  • Y celfyddydau: presenoldeb a chyfranogiad... a llawer mwy!

Cyhoeddwyd datganiad yn cwmpasu'r prif ganlyniadau gyda thablau a siartiau ychwanegol ar gael ar y dangosydd canlyniadau. Bydd adroddiadau mwy manwl ar bynciau penodol yn cael eu cyhoeddi dros y 12 mis canlynol. Mae'r holiadur ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru eleni a holl flynyddoedd eraill yr arolwg ar gael ar-lein.

Cysylltwch â ni yn arolygon@llyw.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Arolwg Cenedlaethol 2023-24 ymlaen

Mae cynigion ar gyfer y contract i gyflwyno Arolwg Cenedlaethol Cymru o 2023-24 ymlaen bellach wedi cau. Mae'r contract yn cwmpasu gwaith maes o fis Mawrth 2023 tan fis Mawrth 2028. Bydd y gwaith rhagarweiniol yn dechrau yn yr hydref. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ChrisMcGowan@llyw.cymru.

Cyfiawnder cymdeithasol

I gael gwybodaeth am yr ystod ehangach o ystadegau sydd i’w cael mewn perthynas â thlodi, ewch i’n tudalen ar gasglu ystadegau sy'n gysylltiedig â thlodi.

Costau byw

Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau perthnasol i sicrhau bod data lefel Cymru ar fetrigau costau byw allweddol ar gael pan fo hynny'n bosibl. Fel y soniwyd uchod, rydym yn cynllunio dadansoddiad manylach ar dlodi tanwydd yn ystod y misoedd nesaf ac yn gweithio tuag at ddangosfwrdd tlodi tanwydd. Er na fydd dangosfwrdd rhyngweithiol COVID-19 yng Nghymru yn parhau i gael ei ddiweddaru, byddwn yn parhau i gyhoeddi data StatsCymru rheolaidd ar Daliadau Cymorth Brys a wnaed o'r Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn darparu cipolwg amserol ar yr argyfwng costau byw.

Ym mis Awst, dosbarthwyd cylchlythyr gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn tynnu sylw at amrywiaeth o wybodaeth ac ystadegau swyddogol ar gostau byw yn y DU, gan gynnwys dolenni at y crynodeb o Economi'r DU (ONS) (Saesneg yn unig) sy'n rhoi gwybodaeth fras am gyhoeddiadau newydd ar gostau byw a'r economi. Mae'r data diweddaraf ar chwyddiant, prisiau petrol, prisiau nwy, cyflogau, gweithgynhyrchu a gwerthiannau manwerthu yn ogystal â data arolygon o'r arolwg Barn a Ffordd o Fyw ynghylch pryderon am gostau byw a newidiadau mewn ymddygiadau yn cael eu cynnwys. Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd erthygl ym mis Awst ar ba gamau y mae pobl yn eu cymryd oherwydd costau byw cynyddol.

Mae Cyngor ar Bopeth wedi cyhoeddi dangosfwrdd data (Saesneg yn unig) sy'n rhoi cipolwg ar sut y mae'r argyfwng yn effeithio ar eu cleientiaid.

Yn ystod y misoedd nesaf rydym yn bwriadu ystyried y ffyrdd gorau o ddod â gwybodaeth allweddol ar gostau byw ynghyd, er mwyn gwneud data perthnasol yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Fel y crybwyllwyd yn y diweddariad ynghylch iechyd a gwasanaethau cymdeithasol uchod, rydym wedi cyhoeddi erthygl ystadegol sy'n rhoi cipolwg newydd ar boblogaeth a gweithlu practisau cyffredinol a chlystyrau gofal sylfaenol yn ôl lefel amddifadedd.

Ym mis Awst, gwnaethom hefyd gyhoeddi erthygl newydd yn disgrifio'r patrymau a welir yn data dangosydd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) rhwng gwahanol gategorïau o amddifadedd hirsefydlog, a gefnogwyd gan set ddata ar StatsCymru.

Os hoffech gael eich hysbysu pan gaiff gwybodaeth ddiweddaraf MALIC ei chyhoeddi, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru i danysgrifio. Gallwn hefyd ddarparu sesiynau gwybodaeth ynglŷn â MALIC 2019. Os hoffech drefnu sesiwn o’r fath ar eich cyfer chi, eich sefydliad neu’ch rhwydwaith cysylltwch â ni i drafod hyn.

Yr ymateb i Wcráin

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r Swyddfa Gartref, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i gefnogi cyhoeddi data ar ymateb y DU i'r rhyfel yn Wcráin, gan gynnwys data ar y rhai sy'n ceisio lloches yng Nghymru. Dyma’r cyhoeddiadau presennol:

Diogelwch cymunedol

Bydd tri chyhoeddiad sy’n ymwneud â'r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi. Dyma nhw:

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.

Cydraddoldeb

Bydd rhai o'n allbynnau cydraddoldeb rheolaidd sy'n deillio o ddata’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth Blynyddol yn cael eu cyhoeddi'n hwyrach na'r arfer oherwydd gwaith ail-bwysoli ffynhonellau sy’n parhau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae hyn yn effeithio ar ein hamcangyfrifon ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol chwarterol yn ogystal â'n datganiad Cyfeiriadedd Rhywiol blynyddol.

Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd

Rydym wedi datblygu ein Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb sy’n disgrifio ein cwmpas, cylch gwaith a’n blaenoriaethau, ac rydym yn gobeithio ei chyhoeddi ym mis Medi 2022. Mae blaenoriaethau ymchwil pob uned yn cael eu datblygu gyda rhanddeiliaid yn seiliedig ar ymrwymiadau sydd eisoes wedi'u gwneud a gofynion sy'n dod i'r amlwg o’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau, y Cynllun Gweithredu LHDTC+ a'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl.

Rydym wedi bod yn gweithio drwy sut a phryd y gallwn ddefnyddio dulliau cydgynhyrchiol drwy gydol y cylch tystiolaeth. Rydym yn y broses o ymchwilio i sut y gallem oresgyn rhai rhwystrau wrth fabwysiadu'r ffordd hon o weithio.

Rydym hefyd yn gweithio ar y tasgau canlynol:

  • archwiliad tystiolaeth a fydd yn rhoi dealltwriaeth o'r wybodaeth sydd ar gael, y bylchau a'r anghysondebau sydd angen mynd i'r afael â nhw.
  • gweithio gyda’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu nodau, camau gweithredu a mesurau.
  • gwaith comisiynu i helpu i ddeall sut y gallwn gasglu tystiolaeth yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd.
  • datblygu arolwg o ddata cydraddoldeb ar draws cyrff y sector cyhoeddus.
  • gweithio'n agos gyda thîm y Tasglu Anabledd a'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ i ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu gwaith.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru

Masnach

Arolwg Masnach Cymru

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddadansoddi canfyddiadau trydydd Arolwg Masnach Cymru, blwyddyn gyfeirio 2020. Disgwyliwyd cyn hyn y byddai’r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai 2022. Fodd bynnag, bu oedi yn y broses oherwydd bod angen cynnal gwiriadau ansawdd pellach ac i gyflwyno prosesau priodoli newydd i’r fethodoleg gan fod sawl blwyddyn o ddata wedi’u casglu erbyn hyn.

Bydd gwaith maes ar gyfer pedwaredd flwyddyn yr arolwg yn cael ei lansio ym mis Medi a bydd yn rhedeg tan fis Rhagfyr gan gasglu data 2021.

Cwblhawyd ymchwil ansoddol ddilynol ynghylch 'Modd 5' Masnach mewn Gwasanaethau a Rheolau Tarddiad a chyhoeddir y canfyddiadau yn haf 2022.

Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymru

Cyhoeddwyd y prif ganlyniadau o Ystadegau Masnach Ranbarthol ar gyfer masnach nwyddau rhyngwladol Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022 gan CThEM ym mis Gorffennaf 2022: Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig: Ebrill 2021 i Fawrth 2022

Ochr yn ochr â'r pennawd uchod, mae'r dangosfwrdd masnach rhyngweithiol hefyd wedi'i ddiweddaru:

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ystadegau.masnach@llyw.cymru

Trafnidiaeth

Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi amcangyfrifon o ddamweiniau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu ac anafusion ffyrdd yr adroddwyd amdanynt yng Nghymru ar gyfer 2021 a oedd yn parhau i ddangos yr effaith a gafodd COVID-19 ar deithio ledled Cymru.

Ym mis Awst, gwnaethom ddiweddaru ein dangosfwrdd rhyngweithiol ar gyfer damweiniau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu ar gyfer chwarter cyntaf 2022 (Ionawr i Fawrth 2022). Mae hyn yn cynnwys nifer o achosion o ddadansoddiadau gan gynnwys difrifoldeb neu anaf a math o ddefnyddiwr ffordd.

I roi adborth ac i wneud sylwadau, cysylltwch â ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Y Gymraeg

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth 

Mae data ar y Gymraeg o Arolwg Blynyddol y Boblogaeth: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 y bwriadwyd eu cyhoeddi ar 31 Awst wedi'u canslo. Mae hyn oherwydd yr oedi cyn bod y data Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth diwygiedig, a oedd wedi’u hailbwysoli a’u gywiro ar gael oddi wrth yr Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae'r datganiadau hyn wedi'u diweddaru ar ein tudalennau ystadegau ac ymchwil ar y wefan i hysbysu defnyddwyr ynghylch y canslo. Bydd data ar gyfer y cyfnod Ebrill 2021 i Fawrth 2022 nawr yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â data ar gyfer y cyfnod Gorffennaf 2021 i Fehefin 2022 y bwriedir eu cyhoeddi ar hyn o bryd ym mis Hydref 2022.

Cyfrifiad

Y cyfrifiad yw'r ffynhonnell awdurdodol ar nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a dyma sut y byddwn yn mesur cynnydd yn erbyn yr uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 (ONS) (Saesneg yn unig) ar 28 Mehefin 2022. Roedd y rhain yn amcangyfrifon o nifer y bobl ac aelwydydd yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi rhan dau o'u hymateb i'r ymgynghoriad diweddar ar allbynnau Cyfrifiad 2021 (ONS) (Saesneg yn unig). Fel rhan o'u hymateb, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi ymrwymo i ymchwilio i'r posibilrwydd o gyhoeddi set ddata ehangach am yr iaith Gymraeg.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn disgwyl gallu cyhoeddi canlyniadau'r Cyfrifiad fesul pwnc yn ystod tymor yr hydref a'r gaeaf eleni. Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am gyhoeddi'r canlyniadau ar y Gymraeg, yn yr un modd â chanlyniadau Cyfrifiad 2011. Mae disgwyl i ganlyniadau ar y Gymraeg gael eu cyhoeddi ym mis Hydref neu fis Tachwedd. Mae rhagor o fanylion am y cynlluniau cyhoeddi ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cyfrifiad Ysgol

Cyhoeddwyd y data diweddaraf o Gyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion Chwefror 2022 ar 31 Awst. Mae nifer o ddangosyddion yr iaith Gymraeg ar gael gan gynnwys gwybodaeth am gyfrwng yr ysgol, gallu disgyblion ac athrawon yn y Gymraeg ac a yw disgyblion yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yr Iaith Gymraeg (StatsCymru)

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch DataIaithGymraeg@llyw.cymru.

Amaethyddiaeth a'r amgylchedd

Cyhoeddwyd ffigyrau ailgylchu chwarterol diweddaraf yr awdurdod lleol ar 28 Gorffennaf ar gyfer y cyfnod o fis Hydref i mis Rhagfyr 2021. Mae disgwyl y ffigyrau blynyddol llawn erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae'r arolwg blynyddol o dir amaethyddol a da byw ar y gweill gydag amcangyfrifon lefel Cymru i'w gyhoeddi ym mis Tachwedd.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch ystadegau.amaethyddiaeth@llyw.cymru.

Poblogaeth a demograffeg

Cyhoeddir diweddariad demograffeg chwarterol ar wahân sy'n cynnwys popeth sy'n ymwneud â'r boblogaeth.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru

Ymholiadau cyffredinol ynghylch ystadegau

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru

Pwnc-benodol

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau

Twitter

YstadegauCymru

Cylchlythyr electronig a gwasanaeth hysbysiadau Llywodraeth Cymru

Newyddion a hysbysiadau

Ymholiadau gweinyddol

E-bost GweinydduGGD@llyw.cymru