Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y gweinidog

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i fynd i'r afael â thlodi plant fel prif flaenoriaeth. Byddwn yn parhau i fanteisio i'r eithaf ar yr holl ysgogiadau sydd ar gael i ni, a byddwn yn chwarae rôl arweiniol wrth gydgysylltu camau ehangach i weithio tuag at ddileu tlodi plant a'i effeithiau yma yng Nghymru.

Drwy ein hymgynghoriad ar y strategaeth hon a'n gwaith ymgysylltu ehangach, rydym wedi clywed am yr effaith y mae tlodi yn ei chael ar blant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru. Dywedodd pobl wrthym hefyd am ymdrechion sylweddol cymunedau, sefydliadau trydydd sector, grwpiau ffydd a chyrff cyhoeddus i fynd i'r afael ag effeithiau'r argyfwng costau byw a thlodi yn ehangach.

Rydym hefyd wedi clywed yn glir fod llawer o'r polisïau a'r cynlluniau sydd ar waith gennym yn briodol, ond bod angen inni, er mwyn gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl, ganolbwyntio'n fwy ar gydweithio'n ddoethach ar draws y llywodraeth a chyda phartneriaid eraill i ddarparu atebion Gwnaed yng Nghymru. Mae angen inni hefyd fod yn gliriach ynglŷn â'r ffordd y byddwn yn gosod trefniadau monitro ac atebolrwydd cadarn yn eu lle i olrhain cynnydd mewn perthynas â dangosyddion allweddol tlodi plant.

Mae effaith gyfunol cyni, ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, pandemig COVID-19, chwyddiant ystyfnig o uchel ac ansefydlogrwydd byd-eang yn golygu ein bod yn cyhoeddi'r strategaeth hon yn ystod y cyfnod ariannol anoddaf ers dechrau datganoli. Felly, mae'n bwysig bod y strategaeth hon yn cydnabod realiti'r her a wynebir ar hyn o bryd ond hefyd yn nodi fframwaith i'w dilyn wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol. Rhaid inni ymgorffori blaenoriaethau ac amcanion y strategaeth hon ym mhob rhan o'r llywodraeth er mwyn sicrhau bod mynd i'r afael â thlodi plant wrth wraidd y penderfyniadau a wneir yn ystod cyfnod y strategaeth hon a thu hwnt.

Wrth i Weinidogion Cymru gyflawni ein dyletswydd i roi sylw dyledus i CCUHP, rhaid inni sicrhau ein bod yn cyflawni dros bob plentyn a pherson ifanc. Rydym am i Gymru fod yn wlad lle y gall pob plentyn gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, drwy blentyndod hapus ac iach a chyfleoedd i wireddu ei ddyheadau. Rhaid i hyn hefyd olygu mabwysiadu dull croestoriadol lle rydym yn mynd i'r afael â phob math o wahaniaethu, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, anabledd a rhywioldeb.

Rhaid inni hefyd gydnabod bod y prif ysgogiadau ariannol a phenderfyniadau economaidd a all helpu i drechu tlodi yn rhai a gedwir yn ôl. Ers 2010, mae Gweinidogion Cymru wedi galw'n gyson ar Lywodraeth y DU i wneud penderfyniadau tecach sy'n blaenoriaethu anghenion y rhai mwyaf anghenus, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Ni ddylid tanbrisio maint yr her a wynebwn, a rhaid i'n hymdrechion ar y cyd barhau i ganolbwyntio ar fuddiannau'r genhedlaeth bresennol o blant a phobl ifanc, yn ogystal â chenedlaethau'r dyfodol. Dim ond drwy drefniadau gweithio cadarn ar draws y llywodraeth i gefnogi cydweithio effeithiol ar lefelau rhanbarthol a lleol y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn gallu arfer ei hawliau.

Jane Hutt AS

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip.

Cyflwyniad

Mae'r strategaeth hon yn adlewyrchu'r adborth a gafwyd gan bobl yn ystod yr ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft. Roedd y mwyafrif llethol o bobl yn cytuno bod yr amcanion a'r blaenoriaethau yn briodol.

Mae'r strategaeth yn pennu cyfeiriad camau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant dros y degawd nesaf neu fwy ac i wireddu ein dyheadau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau na'u cefndir. Mae hefyd yn darparu fframwaith i'n galluogi i fanteisio i'r eithaf ar yr ysgogiadau sydd ar gael i ni er mwyn helpu i ddileu tlodi plant.

Nod y strategaeth yw sicrhau integreiddio cryfach ar draws ein polisïau, ein rhaglenni a'n cynlluniau gweithredu cenedlaethol a chefnogi cydweithio ar lefelau rhanbarthol a lleol. Bydd hyn yn cyflawni ein huchelgais i sicrhau profiad a chanlyniadau tecach i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Fodd bynnag, ni ellir ystyried y strategaeth ar ei phen ei hun ac nid yw'n ddogfen annibynnol. Mae'r uchelgeisiau a nodir yma yn ystyried nifer o ddyletswyddau deddfwriaethol pwysig a osodir ar Weinidogion Cymru a byddant yn llywio ein polisïau, ein cynlluniau a'n rhaglenni ym mhob rhan o'r llywodraeth, nawr ac am flynyddoedd i ddod.

Nid yw'r strategaeth yn ceisio nodi, nac ailddatgan yr holl gamau y mae'r llywodraeth bresennol yn eu cymryd. Mae dogfennau eraill eisoes yn manylu ar y camau rydym wedi ymrwymo iddynt yn y Rhaglen Lywodraethu a'r ffordd y byddwn yn mesur cynnydd tuag at eu cyflawni. Bydd y strategaeth yn ysgogi'r camau hynny i ganolbwyntio'n fwy ar anghenion plant mewn tlodi, yn cefnogi sefydliadau a chydweithio ac yn annog partneriaid i weithio mewn ffyrdd newydd neu wahanol. Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda'n partneriaid i gytuno ar ffyrdd y gallwn fesur dylanwad ein strategaeth ar dlodi plant, yn ogystal â'i heffeithiau, mewn modd tryloyw.

Lle rydym yn defnyddio'r term ‘plant’ yn y strategaeth hon, rydym yn cyfeirio at bob unigolyn dan 18 oed. Lle rydym yn defnyddio'r term ‘pobl ifanc’ yn y strategaeth hon, rydym yn cyfeirio at bob unigolyn dan 25 oed. Lle rydym yn defnyddio'r term ‘pobl’ yn y strategaeth hon, rydym yn cyfeirio at blant, pobl ifanc ac oedolion.

Ein gweledigaeth i Gymru:

“Gwlad sy’n galluogi plant a phobl ifanc i arfer eu hawliau, sicrhau llesiant da a gwireddu eu potensial, ni waeth beth fo’u cefndir na'u hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a'u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).”

Diben y Strategaeth Tlodi Plant yw edrych i'r dyfodol a chynllunio ar ei gyfer, a phennu amcanion a fydd yn helpu i ddileu tlodi plant ac effeithiau gwaethaf tlodi yng Nghymru dros y degawd nesaf neu fwy.

Mae'n edrych y tu hwnt i fesurau incwm safonol ac yn ceisio sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc, ni waeth beth fo'i amgylchiadau ariannol, yn cael yr un cyfleoedd, yn gallu manteisio ar yr un gwasanaethau, ac yn gallu arfer ei hawliau yn yr un ffordd â'i gyfoedion.

Rydym wedi datblygu pum amcan lefel uchel hirdymor i lywio ein hymdrechion ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru o dan y Rhaglen Lywodraethu bresennol a Rhaglenni Llywodraethu'r dyfodol.

Gwnaethom gynnal ymgynghoriad ffurfiol dros gyfnod o 12 wythnos ac fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, gwnaethom ofyn i bobl a oeddent yn cytuno â'n Hamcanion a'n Blaenoriaethau arfaethedig.

Cafwyd 155 o ymatebion i'r ymgynghoriad, ac o blith y rheini a atebodd y cwestiynau am ein Hamcanion a'n Blaenoriaethau, yn gyffredinol: 

  • roedd 91% yn cytuno â'n Pum Amcan
  • roedd 87% yn cytuno â'n Pum Blaenoriaeth

Rydym wedi adlewyrchu'r adborth arall a gafwyd ym mhob rhan o'r Strategaeth. 

  • Amcan 1: lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd.
  • Amcan 2: creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial.
  • Amcan 3: cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a sicrhau bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a sicrhau canlyniadau gwell.
  • Amcan 4: sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi.
  • Amcan 5: sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol.

Mae'r gwaith ymgysylltu ac ymgynghori a wnaed i ddatblygu'r strategaeth hon wedi ein helpu i ddeall ble mae angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion, fel rhan o'n gwaith ehangach i gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu, er mwyn sicrhau mwy o newid mewn cyn lleied o amser â phosibl, a chynnal y newid hwnnw. 

Felly, o dan bob amcan, rydym hefyd wedi nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu i ddiwallu'r angen hwnnw am newid parhaus. 

  • Blaenoriaeth 1: hawl (rhoi arian ym mhocedi pobl).
  • Blaenoriaeth 2: creu cenedl Gwaith Teg (heb adael neb ar ôl).
  • Blaenoriaeth 3: creu Cymunedau (gwasanaethau cydgysylltiedig hygyrch i ddiwallu anghenion y gymuned).
  • Blaenoriaeth 4: cynhwysiant (gwasanaethau caredig, tosturiol nad ydynt yn stigmateiddio).
  • Blaenoriaeth 5: galluogi cydweithio (ar lefel ranbarthol a lleol).

O dan y blaenoriaethau hyn, rydym wedi nodi ymrwymiadau penodol, y dylid eu hystyried yng nghyd-destun gwaith ehangach ym mhob rhan o'r Llywodraeth ac nid fel ymrwymiadau ar wahân. 

  1. Rhoi system budd-daliadau ar waith i Gymru sy'n seiliedig ar Siarter Budd-daliadau Cymru ac a ddarperir â thosturi, a chyflymu gwaith gyda'n partneriaid i symleiddio'r broses o wneud cais am Fudd-daliadau Cymru er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch.
  2. Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pawb sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yn gwneud i bob cyswllt gyfrif, fel bod pobl yn cael gwybodaeth a chyngor wyneb yn wyneb ynglŷn â sut i gael cymorth i fanteisio'n llawn ar eu hawliau ariannol.
  3. Cyflymu ein gwaith gydag Estyn a phartneriaid Gwella Ysgolion (Awdurdodau Lleol, Consortia) er mwyn sicrhau bod addysg yn brofiad niwtral o ran cost i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
  4. Hyrwyddo'r Cyflog Byw Gwirioneddol a'r gallu i fanteisio ar undebau llafur, ac ymgorffori gwaith teg mewn ymyriadau ehangach ym maes sgiliau a datblygu economaidd. Byddwn hefyd yn rhoi darpariaethau ein Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ar waith.
  5. Dileu'r rhwystrau i gyflogaeth a llwybrau gyrfa a wynebir gan bobl anabl, menywod, gofalwyr a phobl ethnig leiafrifol a gwella arferion a diwylliant gweithleoedd.
  6. Mynd ati ym mhob rhan o'r llywodraeth i ddod o hyd i ddatrysiadau fforddiadwy i gostau gofal plant a thrafnidiaeth, er mwyn dileu'r rhwystrau i gael gwaith a gwneud i waith dalu. Rhaid i hyn gael ei gyflawni heb gyfaddawdu'r angen i sicrhau bod pob darpariaeth gofal plant o safon sy'n diwallu anghenion plant a bod datrysiadau ar gyfer trafnidiaeth yn seiliedig ar ymrwymiadau Cymru Sero Net.
  7. Ystyried y gymuned wrth ddatblygu, adolygu ac ariannu polisïau a rhaglenni perthnasol, gan hyrwyddo gwasanaethau aml-asiantaeth 'siop un stop' yn y gymuned er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r amrywiaeth o anghenion ac anfanteision cydgysylltiedig y mae pobl sy'n byw mewn tlodi yn eu hwynebu.
  8. Sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi ysgolion i ddatblygu'n ysgolion bro, gan ymateb i anghenion eu cymuned, meithrin partneriaeth gref â theuluoedd a chydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill.
  9. Bwrw ati, ar y cyd â phartneriaid, i gynnig mwy o gyfleoedd chwarae, chwaraeon ac ieuenctid yn y gymuned a chyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau'r celfyddydau, diwylliant ac adnoddau naturiol, yn ogystal â gweithgareddau cost isel i deuluoedd i gefnogi iechyd a llesiant.
  10. Sicrhau ein bod, wrth ddatblygu ein Polisi Cymunedau, yn nodi ffyrdd newydd cydgynhyrchiol o weithio sy'n gynhwysol i bawb, gan ddefnyddio dull gweithredu cymunedol i lywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau cydgysylltiedig lleol i drechu tlodi heb stigma.
  11. Mynd ati mewn modd sy'n canolbwyntio ar hawliau plant o gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu, yn unol â CCUHP, gyda threchu tlodi ac anghydraddoldeb yn ffactorau ysgogi polisi trawsbynciol.
  12. Gweithio gyda Hyb ACE Cymru a Straen Trawmatig Cymru i weithredu Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma a gwireddu ei uchelgais i weld Cymru yn dod yn genedl sy'n ystyriol o drawma. Bydd hyn yn cynnwys nodi unrhyw adnoddau ychwanegol sydd eu hangen, gan gynnwys help a chymorth i sefydliadau.
  13. Mynd ati ar frys i roi ffocws newydd i'n gwaith gydag Estyn, ein partneriaid a rhanddeiliaid ehangach i fynd i'r afael â'r rhwystrau i roi dulliau gweithredu ar waith sy'n prawfesur profiad plant o'r ysgol ac yn creu amgylcheddau addysg cynhwysol sy'n seiliedig ar Hawliau'r Plentyn a gwerthoedd gwrth-wahaniaethol yn gyson.
  14. Herio gwahaniaethu ac annog cydraddoldeb er mwyn sicrhau nad yw nodweddion gwarchodedig yn ei gwneud hi'n fwy anodd i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd wneud yn dda, gan gynnal ffocws clir ar ein cynlluniau cydraddoldeb er mwyn cyflawni hyn.
  15. Cryfhau dull Llywodraeth Cymru o integreiddio nodau polisi a chyllid er mwyn galluogi cydweithio tymor hwy ar drechu tlodi yn lleol ac yn rhanbarthol.
  16. Gweithio gyda chyrff cyhoeddus a'r trydydd sector i ddatblygu enghreifftiau arloesol o arferion da a chanlyniadau cadarnhaol a'u rhannu, er mwyn nodi lle mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn berthnasol a meysydd gwaith newydd neu sy'n bodoli eisoes y gellid neu y dylid ei chymhwyso atynt, a hyrwyddo a chefnogi perthnasedd y ddyletswydd i ymdrechion ehangach i drechu anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau annheg.
  17. Nodi'r dull gorau, ar y cyd â phartneriaid, o ddarparu galluedd ychwanegol er mwyn helpu i gydlynu ymdrechion gwrthdlodi ar draws trefniadau partneriaeth rhanbarthol sy'n bodoli eisoes a nodi'r opsiynau i gefnogi gwaith cydweithredol i fynd i'r afael â thlodi plant mewn ffordd well, a chynghori arnynt.
  18. Sefydlu a chefnogi dull Cymunedau Ymarfer o ddarparu fforwm lle y gall cydweithwyr o wasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector ledled Cymru gymharu gwersi a ddysgwyd a rhannu arferion da er mwyn cefnogi dull cydgysylltiedig o gyllido, datblygu a chyflwyno gwaith i greu Cymru Fwy Cyfartal, gan gynnwys mynd i'r afael â thlodi plant.
  19.  Gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a phartneriaid ehangach i roi fframwaith NYTH ar waith i gyflawni dull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant babanod, plant a phobl ifanc. Mae Fframwaith NYTH yn canolbwyntio ar bwysigrwydd penderfynyddion ehangach iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys pryderon am dlodi plant, ac mae'n dwyn gwasanaethau addysg, gofal cymdeithasol, iechyd a'r trydydd sector ynghyd i weithio mewn partneriaeth i greu dull cydgysylltiedig o ddarparu cymorth iechyd meddwl.

Mae'r heriau economaidd-gymdeithasol presennol yn golygu ei bod hi'n bwysicach nag erioed ein bod yn cydweithio'n effeithiol â'n partneriaid er mwyn sicrhau bod yr ysgogiadau sydd ar gael i ni yn cael yr effaith fwyaf posibl. Dyma'r ffordd orau o wneud yn siŵr y gall pob plentyn a pherson ifanc arfer ei hawliau o dan y CCUHP a chreu Cymru Fwy Cyfartal.

Rydym yn cadw'r diffiniad o dlodi plant y cytunwyd arno yn 2011. Mae hyn yn adlewyrchu'r ysgogiadau sydd ar gael inni a'n hawydd i gyfrannu, nid yn unig at ddileu tlodi, ond hefyd at ddileu effeithiau gwaethaf tlodi ar blant a phobl ifanc. 

“Cyflwr hirdymor o beidio â chael digon o adnoddau i fforddio bwyd, amodau byw neu amwynderau rhesymol neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau (fel mynediad i gymdogaethau atyniadol a mannau agored) a gymerir yn ganiataol gan eraill yn eu cymdeithas”.

Prif ddangosydd tlodi plant yw canran y plant sy'n byw mewn aelwydydd islaw 60% o incwm aelwydydd canolrifol y DU (ar ôl costau tai). Mae'r ystadegau yn llwm, ac mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod 28% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn ystod y tair blwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2020-2022. 

Mae anfantais economaidd-gymdeithasol  yn groestoriadol iawn. Mae hyn yn golygu bod cysylltiad rhwng amddifadedd a nodweddion gwarchodedig, a bod rhai pobl a chymunedau yn wynebu canlyniadau gwaeth o ganlyniad i'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu oherwydd eu nodweddion gwarchodedig yn ogystal â'u hanfantais economaidd-gymdeithasol. Gellir ystyried y croestoriadedd rhwng amddifadedd a nodweddion eraill fel gwe, lle mae elfennau gwahanol yn cysylltu â'i gilydd, gan waethygu eu heffaith.

Dengys y dystiolaeth fod nodweddion penodol aelwydydd, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig, yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd plant yn wynebu tlodi ac anfantais: 

  • Mae plant sy'n byw mewn aelwyd lle nad oes unrhyw oedolyn yn gweithio yn parhau i wynebu mwy o risg o dlodi incwm cymharol (43%) o gymharu â phlant sy'n byw mewn aelwyd sy'n gweithio (26%).
  • roedd 81% o'r plant a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw mewn aelwydydd sy'n gweithio.
  • Aelwydydd â rhiant unigol oedd y math o deulu a oedd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol (sef 38%). Mae 88% o rieni unigol â phlant dibynnol yn fenywod.
  • Roedd tebygolrwydd o 40% y byddai pobl y mae eu penteulu yn perthyn i grŵp Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol yn byw mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â thebygolrwydd o 22% ar gyfer y rheini y mae eu penteulu yn perthyn i grŵp ethnig Gwyn.
  • Mae plant sy’n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr yn profi lefelau uchel o anfantais, ac mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod bron i chwarter y plant sy’n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr yn Nghymru a Lloegr sy’n iau na 19 oed yn profi amddifadedd ar 3 dimensiwn neu ragor, o gymharu â dim ond dau y cant o blant eraill.
  • Roedd 31% o'r plant a oedd yn byw mewn teulu lle roedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â 26% o'r rheini a oedd yn byw mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall tlodi gael effaith negyddol ar fywydau beunyddiol plant a phobl ifanc a'u llesiant drwy gydol eu bywyd.

Gwyddom fod tlodi yn cael effaith uniongyrchol ar anghydraddoldebau iechyd, cyrhaeddiad addysgol, y gallu i gael tai o safon weddus, cyfleoedd chwarae, hamdden a chwaraeon a'r cyfle i fwynhau adnoddau naturiol, gweithgareddau diwylliannol a dathlu treftadaeth.

  • Mae plant sy'n byw mewn tlodi yn fwy tebygol o wynebu canlyniadau iechyd gwaeth ac anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys pwysau geni isel, iechyd corfforol gwael, a phroblemau iechyd meddwl.
  • Erys bwlch cyrhaeddiad addysgol ar lefel TGAU, ac mae dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn llawer llai tebygol o ennill y graddau uchaf na myfyrwyr eraill.
  • Mae tystiolaeth yn nodi'r cysylltiad rhwng tlodi a'r risg y bydd plant yn cael eu cam-drin a'u hesgeuluso, gan adlewyrchu'r gydberthynas rhwng cam-drin domestig, iechyd meddwl gwael a chamddefnyddio sylweddau, mwy o risg o niwed i blant a mwy o risg o dlodi teuluoedd.
  • Mae hyn hefyd yn golygu y bydd plant sy'n dod yn rhan o'r system ofal yn aml wedi wynebu tlodi, y gallant fod yn destun trefniadau gofal gan berthynas lle mae incwm yr aelwyd yn isel ac y gallant wynebu caledi ariannol wrth iddynt adael gofal a phontio i fywyd fel oedolyn.
  • Pan fydd rhiant neu berson ifanc yn dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid, yn enwedig os caiff ei garcharu, bydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar gyllid y teulu a chyfleoedd i godi allan o dlodi. Ar yr un pryd, er nad yw'r gydberthynas rhwng tlodi a throseddu yn un llinol, mae cysylltiad cryf rhwng problemau fel iechyd meddwl gwael, camddefnyddio sylweddau a diffyg diddordeb mewn addysg a'r risg o ddod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol, a thlodi.
  • Gall cymunedau gwledig wynebu heriau penodol sy'n gysylltiedig â phellter o wasanaethau allweddol, cyfleoedd cyfyngedig am swyddi ac incymau isel, costau byw uwch (a elwir weithiau yn 'premiwm gwledig'), argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus, ynysigrwydd cymdeithasol a stoc dai gyfyngedig.

Mae angen i bawb gydweithio i liniaru effaith tlodi ac anghydraddoldeb ym mhopeth a wnawn. Mae angen inni hefyd gydweithio dros yr hirdymor i gyflawni'r newidiadau mawr a fydd yn gwneud gwahaniaeth i lefelau tlodi yn y dyfodol, er gwaethaf heriau economaidd-gymdeithasol byd-eang.

Bydd y strategaeth yn darparu'r fframwaith i ysgogi cydweithio o fewn y llywodraeth ac yn ehangach ledled Cymru, a helpu i ail-gydbwyso camau tuag at atal tlodi a lliniaru effeithiau gwaethaf tlodi.

Rydym am weithio gyda'n partneriaid tuag at Gymru:

  • lle gall plant, beth bynnag fo incwm eu teulu, arfer eu hawliau o dan CCUHP, heb wahaniaethu
  • lle gall oedolion â phlant a phobl ifanc dibynnol gael gafael ar addysg, hyfforddiant a gwaith teg a manteisio'n llawn ar eu hawliau ariannol pan fo angen, a lle nad ydynt o dan anfantais ariannol o ganlyniad i wahaniaethu neu ddiffyg cymorth i oresgyn amgylchiadau heriol
  • lle y caiff gwahaniaethu yn erbyn pobl â nodweddion gwarchodedig ac anfantais o ganlyniad i amgylchiadau personol eu herio er mwyn sicrhau cyfle cyfartal

Mae llawer o gynlluniau gweithredu a strategaethau Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyhoeddi neu eu diweddaru ers i'r Strategaeth Tlodi Plant ddiwethaf gael ei chyhoeddi. Nid ydym yn cynnig rhestru pob un ohonynt yma nac ailadrodd pob un o'r camau gweithredu ynddynt a all fod yn berthnasol i fynd i'r afael â thlodi plant. Fodd bynnag, rydym yn amlinellu'r gweithgarwch sydd fwyaf perthnasol i'r strategaeth er mwyn dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i drechu tlodi a'i blaenoriaeth i wneud hynny. 

Sut y gwnaethom ddatblygu'r strategaeth hon

Cyhoeddir y Strategaeth Tlodi Plant hon o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae’r Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion ar gyfer tlodi plant ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion hynny. Cyhoeddwyd Strategaeth Tlodi Plant diwethaf Cymru yn 2015, ac mae'r strategaeth hon yn disodli strategaeth 2015.

Yn 2011, Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) mewn cyfraith ddomestig, drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae'r Mesur yn ymgorffori'r ddyletswydd i ystyried CCUHP a Phrotocolau Dewisol yng nghyfraith Cymru, ac yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i ofynion CCUHP wrth wneud eu penderfyniadau. Mae byw mewn tlodi yn tanseilio'r hawliau plant a warantwyd gan CCUHP. Mae CCUHP yn gytundeb rhyngwladol sy'n nodi hawliau plant. Mae'n rhestru'r hawliau, neu ‘erthyglau’, sydd gan bob plentyn a pherson ifanc ym mhob cwr o'r byd. Mae ein hymrwymiad i hawliau plant a CCUHP wedi'i adlewyrchu ym mhob rhan o'r strategaeth hon a'i hamcanion. Mae'r cyfeiriadau at ‘Erthyglau’ yn yr amcanion yn ymwneud ag Erthyglau CCUHP.

Rhaid i bopeth a wnawn o dan Erthygl 2 o CCUHP fod heb wahaniaethu. Mae croestoriadedd yn derm y gellir ei ddefnyddio i'n helpu i ystyried gwahaniaethu, anghydraddoldeb ac anfantais. Mae'n gofyn inni ystyried y cyfuniad o hunaniaethau gwahanol sydd gan bob unigolyn (fel cefndir economaidd, rhyw a hunaniaeth o ran rhywedd, ffydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd a mwy). Gallai'r rhain olygu bod unigolion yn cael eu hymyleiddio neu eu trin yn annheg, gan gynnwys drwy effaith gyfunol nodweddion, a rhaid inni feddwl am bob un o'r rhain wrth ystyried sut mae gwahaniaethu yn digwydd. Wrth inni weithio i fynd i'r afael â thlodi plant, byddwn hefyd yn ystyried materion cydraddoldeb, gan gynnwys sut rydym yn hyrwyddo Erthygl 22 (plant ffoaduriaid), Erthygl 14 (rhyddid meddwl, cred neu grefydd), Erthygl 23 (plant anabl), ac Erthygl 30 (plant o grwpiau lleiafrifol neu gynhenid).

Gall plant a phobl ifanc sy'n wynebu anfantais oherwydd eu cefndir neu eu hamgylchiadau ei chael hi'n anodd lleisio eu barn yn unol â'u hawl o dan Erthygl 12 (parchu barn y plentyn). Wrth ddatblygu'r strategaeth hon, clywsom gan 1,402 o blant a phobl ifanc â phrofiad bywyd o dlodi, a gymerodd ran drwy sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ac ar eu rhan. Mae'n bwysig bod y polisïau a nodir yn y strategaeth hon yn cael eu cyflawni mewn ffordd sy'n ceisio barn plant a phobl ifanc sydd â phrofiad bywyd o dlodi.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhan greiddiol o'r ffordd rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ceisio cyflawni dros bobl Cymru a gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, feddwl mwy am yr hirdymor, gweithio'n well gyda phobl a chymunedau a gyda'i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig.

Cymaint yw cymhlethdod rhywfaint o'r gwaith, fel mynd i'r afael â thlodi plant, nes bod angen i bob un o'r Gweinidogion gydweithio, fel un Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus a'r trydydd sector, er mwyn ei gyflawni. Mae ein Cynllun plant a phobl ifanc yn nodi'r hyn y mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ei olygu i blant a phobl ifanc ac yn enghraifft wych o'r ffordd rydym yn cyflawni ein Rhaglen Lywodraethu, ac mae mynd i'r afael â thlodi plant ac anghydraddoldeb yn ffactor ysgogi canolog.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi ein dyletswyddau wrth gyflawni ein swyddogaethau, ac mae'n ganolog i'n huchelgeisiau i wneud y canlynol; dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth; hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu; a meithrin cydberthnasau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu ein nodau a'n hamcanion ar gyfer cydraddoldeb hyd at 2024, ynghyd â'r prif gamau i'w cymryd i gyflawni'r amcanion hynny.

Ar yr un pryd, bydd angen i bob un o'r Cynlluniau Gweithredu isod ystyried y croestoriadedd rhwng tlodi a gwahaniaethu:

Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Mae'n gwella'r broses o wneud penderfyniadau ac yn helpu'r rheini sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn sicrhau bod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, a bydd yn adeiladu ar y gwaith da y mae cyrff cyhoeddus eisoes yn ei wneud.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yw'r ddeddfwriaeth a greodd safonau'r Gymraeg. A safonau'r Gymraeg sy'n hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, ac yn sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru. Rhaid i'r gwaith o gyflawni'r polisïau a'r cynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth hon roi sylw i’r ddeddfwriaeth hon.

Daeth adolygiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o strategaethau, rhaglenni ac ymyriadau tlodi ac allgau cymdeithasol rhyngwladol, Tlodi ac allgau cymdeithasol: Ffordd ymlaen (2022), i'r casgliad y byddai angen i strategaeth yn erbyn tlodi flaenoriaethu meysydd gweithredu er mwyn bod yn effeithiol. Mae'n nodi y dylai safbwyntiau'r rheini sydd â phrofiad bywyd o dlodi ac allgáu cymdeithasol chwarae rôl hanfodol wrth bennu'r hyn sy'n bwysig.

Awgrymodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru bedwar maes polisi lle y gallai Llywodraeth Cymru gydgysylltu ei hymdrechion, sef: Lleihau costau a chynyddu incwm i'r eithaf, ‘Llwybrau’ allan o dlodi, Amgylchedd a Baich meddyliol ac iechyd meddwl.

Ar sail y pedwar maes hyn y datblygwyd y ‘pedwar maes trafod’ a gafodd eu cynnwys yn y ddogfen cyn ymgynghori a ddefnyddiwyd fel sail i'r sesiynau ymgysylltu a gynhaliwyd i gasglu tystiolaeth i lywio drafft ymgynghori'r strategaeth hon.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes balch o weithio i sicrhau bod safbwyntiau pobl Cymru wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn. Gwnaethom weithio gyda'n partneriaid i gynnal digwyddiadau ymgysylltu yn y cymunedau lle mae pobl yn byw, wedi'u cynnal gan sefydliadau y mae pobl yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt. Cafodd y gwaith hwn ei wneud gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd ac aelodau o gymunedau â phrofiad bywyd o dlodi.

Roedd hyn yn arbennig o bwysig er mwyn ymgysylltu â phobl â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl a niwroamrywiol, pobl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gofalwyr di-dâl, pobl LHDTC+ a menywod sy'n cael cymorth oherwydd materion y ddau ryw. Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal a gofalwyr sy'n berthnasau.

Drwy'r gweithgarwch ymgysylltu cyn ymgynghori, ymgysylltwyd â'r canlynol: 

  • 3,272 o bobl, gan gynnwys 1,953 drwy waith wedi'i dargedu at y rheini â nodweddion gwarchodedig

O blith y cyfanswm: 

  • roedd 1,402 yn blant neu'n bobl ifanc
  • roedd 1,329 yn rhieni/gofalwyr a 319 yn neiniau a theidiau/hen neiniau a theidiau
  • roedd 222 yn gynrychiolwyr o sefydliadau (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol)

Rydym wedi dwyn ynghyd y dystiolaeth a gasglwyd drwy ein gwaith cyn ymgynghori ac wedi ei chyhoeddi yn adroddiad ‘Yr hyn rydym wedi'i glywed’. Mae Hawliau plant a phobl ifanc: adroddiad cydymffurfio (Hydref 2020 i Mawrth 2023) (gweler Astudiaeth Achos 4) hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ein gwaith i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc.

Rydym wedi cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar fersiwn ddrafft o'r strategaeth hon. Mae ‘Crynodeb o'r Ymatebion’ ar gael. Cafodd yr ymgynghoriad ei hyrwyddo fel rhan o raglen y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip o gyfarfodydd ac ymweliadau ledled Cymru. Cafodd ei hyrwyddo hefyd yn ystod digwyddiadau rhwydweithio perthnasol ac yn electronig. Cawsom 155 o ymatebion i'r ymgynghoriad.

Mae'r wybodaeth a gasglwyd drwy ein gweithgarwch ymgysylltu a thrwy’r ymgynghoriad wedi cael effaith uniongyrchol ar ein penderfyniadau ynglŷn â chynnwys y strategaeth hon.

Amcan 1. Lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd

Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o'r hyn y mae ganddynt yr hawl i'w gael a'i gwneud yn haws i bobl hawlio cymorth ariannol, a helpu pobl i dalu am fwyd, tanwydd a thai, yn ogystal ag eitemau hanfodol fel eitemau ar gyfer y mislif a gwisg ysgol, drwy'r cyflog cymdeithasol.

Gwyddom y gall problemau fel allgáu digidol a chost ac argaeledd trafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ei gwneud hi'n anodd i bobl gael gafael ar wybodaeth a chyngor am eu hawliau ariannol a'r cymorth sydd ar gael.

Gall fod yn arbennig o anodd i bobl ethnig leiafrifol, gan gynnwys Ceiswyr Lloches neu Ffoaduriaid a phobl sy’n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr, gael gafael ar wybodaeth a chyngor, yn enwedig os yw Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt. Gall y system budd-daliadau fod yn arbennig o gymhleth i bobl â phrofiad o fod mewn gofal. Gwyddom fod heriau penodol yn bodoli hefyd o ran y gallu i fanteisio ar fudd-daliadau anabledd a gofalwyr a dangos hawl i'w cael. Gall teuluoedd lle mae gan blentyn neu oedolyn anghenion iechyd cymhleth neu salwch angheuol wynebu baich ariannol ychwanegol ar adeg pan fydd cyfrifoldebau gofalu neu salwch yn atal rhiant rhag gweithio. Gall cyngor ar gymorth ariannol fod yn arbennig o bwysig ar yr adegau hyn.

Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi cael gwybodaeth a chyngor wyneb yn wyneb gan weithwyr y maent yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt, beth bynnag fo'r rheswm pam y mae'r gweithiwr yn cysylltu â nhw. Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi'r gallu i gael gwybodaeth a chyngor yn eu cymunedau.

Rydym am i bob gwasanaeth a sefydliad ystyried sut mae'r hyn y maent yn ei wneud yn ei gwneud hi'n haws i blant a theuluoedd fanteisio ar eu hawliau ariannol a chael gafael ar nwyddau cost isel neu am ddim, heb stigma.

Bydd y gwaith a wneir o dan Amcan 1 yn hyrwyddo hawliau plant o dan Erthygl 26 (Nawdd Cymdeithasol), Erthygl 27 (safon byw sy'n ddigonol) ac Erthygl 24 (iechyd a gwasanaethau iechyd) CCUHP. Nod y gwaith o dan Amcan 1 yw gwneud yn siŵr bod teuluoedd yn gallu manteisio'n llawn ar eu hawliau i gael nawdd cymdeithasol a'u bod yn cael help i brynu eitemau hanfodol, cadw mwy o arian yn eu pocedi a sicrhau safon byw sy'n ddigonol ar gyfer eu plant, gan gydnabod bod bwyd a thlodi tanwydd yn bwysig i gefnogi iechyd a llesiant plant.

Cynyddu incymau i'r eithaf

Rydym am i bobl allu cael gafael yn hawdd ar wybodaeth a chyngor ar eu hawliau ariannol. Bydd hyn yn golygu bod plant a phobl ifanc sy'n tyfu i fynnu mewn teuluoedd y mae angen budd-daliadau lles arnynt yn cael yr holl gymorth ariannol y mae ganddyn nhw a'u teuluoedd yr hawl i'w cael.

Mae creu System Budd-daliadau gydlynol i Gymru wedi bod yn uchelgais i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol ers tro, er mwyn sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cynyddu incwm eu haelwyd i'r eithaf drwy hawlio'r holl gymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl i'w gael. Credwn y dylai'r system nawdd cymdeithasol gael ei darparu â thosturi, bod yn deg o ran y ffordd y mae'n trin pobl, a bod wedi'i dylunio mewn modd sy'n sicrhau ei bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at drechu tlodi. Mae Siarter Budd-daliadau Cymru yn nodi'r egwyddorion a fydd yn sail i ddarparu system budd-daliadau gydlynol a thosturiol i Gymru, ac mae'n cefnogi llywodraeth leol i nodi ble y gallwn symleiddio'r broses gwneud cais am fudd-daliadau Cymru er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch.

‘Budd-daliadau Cymru‘ yw taliadau i unigolion sydd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn helpu aelwydydd i dalu eu biliau treth gyngor, ac mae'r Grant Hanfodion Ysgol a Phrydau Ysgol Am Ddim yn helpu aelwydydd i dalu cost y diwrnod ysgol.

Mae Cronfa Cymorth Dewisol Cymru yn darparu grantiau ar ffurf Taliadau Cymorth mewn Argyfwng er mwyn helpu mewn argyfwng neu pan fydd bygythiad uniongyrchol i iechyd neu lesiant, a Thaliadau Cymorth Unigol er mwyn helpu pobl i barhau i fyw'n annibynnol yn y gymuned, neu ddechrau gwneud hynny.

Gan adeiladu ar ein Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm, rydym yn gweithio i sicrhau bod teuluoedd sy'n dibynnu ar fudd-daliadau lles y DU yn gallu manteisio ar eu hawliadau. Rydym yn ariannu Cyngor ar Bopeth a’u partneriaid, drwy'r Gronfa Gynghori Sengl, i ddarparu Advicelink Cymru lle gall pobl gael cymorth i fanteisio ar eu hawliau a rheoli eu hymrwymiadau ariannol. Rydym yn ariannu rhaglen hyfforddi Dangos ar gyfer gweithwyr rheng flaen, fel eu bod yn fwy abl i gefnogi defnyddwyr eu gwasanaethau i gael gafael ar yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl i'w gael.

Drwy waith arloesol fel y Cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru, rydym yn treialu dulliau o gynyddu incymau pobl yng Nghymru i'r eithaf. Rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023, cafodd mwy na 600 o bobl ifanc a oedd yn gadael gofal yng Nghymru gynnig £1,600 y mis (cyn treth) am gyfnod o ddwy flynedd, i'w helpu i bontio i fywyd oedolyn. Cafodd y rhai a gymerodd ran yn y cynllun peilot hefyd gyngor a chymorth unigol i'w helpu i reoli eu harian a meithrin eu sgiliau ariannol a chyllidebu. Rydym wedi comisiynu tîm arbenigol wedi'i arwain gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd i arwain y gwerthusiad pellgyrhaeddol o'r cynllun peilot. Bydd y tîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr byd-eang ym maes gwerthusiadau cymhleth, incwm sylfaenol, gofal cymdeithasol ac ymyriadau nawdd cymdeithasol yn asesu effaith y cynllun peilot, y ffordd y cafodd ei gynnal a'r rhai a gymerodd ran ynddo, yn ogystal â'r costau a'r manteision i gymdeithas ehangach.

Wrth inni adeiladu ar Gynllun Cenedl Noddfa, byddwn yn ystyried sut y gallwn gefnogi ein nod i hyrwyddo cynhwysiant ariannol ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches ymhellach, er mwyn osgoi tlodi, lleihau neu liniaru effeithiau tlodi a gwella amodau byw i'r rhai ar incymau isel.

Mae Maethu Cymru yn ein helpu i bennu strwythur a lefelau talu newydd ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Cenedlaethol i ofalwyr maeth. Mae Grŵp Arbenigol wedi'i sefydlu, gyda'r nod o sicrhau dull gwell a chyson sy'n seiliedig ar anghenion o gefnogi teuluoedd Gwarcheidiaeth Arbennig ledled Cymru.

Er mwyn gwireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, rydym am i'n plant a'n pobl ifanc gael cyfleoedd i ddysgu sgiliau bywyd, meithrin gwybodaeth ariannol a dysgu sut i reoli arian. Felly, mae llythrennedd ariannol wedi'i ymgorffori yn y Cwricwlwm i Gymru ac yn elfen benodol o'r fframwaith rhifedd. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddod ar draws cyd-destunau sy'n ymwneud â chyllid personol, lle y gallant feithrin y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i reoli eu harian, dehongli gwybodaeth, gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, asesu risgiau a dod yn ddefnyddwyr beirniadol.

Lleihau costau

Gwyddom fod yr argyfwng costau byw presennol wedi rhoi baich ariannol ychwanegol ar aelwydydd incwm isel a bod rhagolwg economaidd y DU yn annhebygol o wella yn y byrdymor. Nid yw'n dderbyniol bod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd talu am hanfodion fel tai, bwyd, tanwydd ac eitemau ar gyfer y mislif. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi mwy o arian ym mhocedi pobl drwy leihau costau a chynnal ein hymrwymiad i'r cyflog cymdeithasol. Mae'r cyflog cymdeithasol yn mesur faint yn well eu byd y mae pobl o ganlyniad i wariant cymdeithasol y llywodraeth ar gymorth a gwasanaethau.

Lleihau costau bwyd

Mae tlodi bwyd yn ymwneud â fforddiadwyedd bwyd a'r gallu i gael gafael arno mewn cymunedau lleol. Gall pobl wynebu ‘premiwm tlodi’ mewn siopau bwyd lleol lle mae prisiau'n uwch, a gallant fod yn gyfyngedig o ran eu gallu i dalu am drafnidiaeth er mwyn cael gafael ar fwyd am brisiau sy'n cynnig gwerth gwell am arian mewn ardaloedd eraill. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng cael gafael ar fwyd iach fforddiadwy ac anghydraddoldebau iechyd.

Gall pob plentyn sy'n mynychu ysgol gynradd a gynhelir gan awdurdod lleol gael brecwast am ddim yn yr ysgol, os yw ei ysgol yn darparu brecwast am ddim. Erbyn mis Medi 2024, bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig Cinio Ysgol Am Ddim o ganlyniad i'n Cytundeb Cydweithio â Plaid Cymru. Wrth gyflwyno’r cynnig hwn, rydym yn dysgu gwersi gwerthfawr a fydd yn cael eu hystyried mewn unrhyw gynlluniau i ehangu’r cynnig prydau ysgol am ddim ymhellach yn y dyfodol, os bydd cyllid ar gael.

Rydym yn cefnogi Partneriaethau Bwyd traws-sector a all helpu i feithrin gwydnwch mewn rhwydweithiau bwyd lleol drwy gydlynu gweithgarwch sy'n gysylltiedig â bwyd ar lawr gwlad sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd. Bydd hyn yn cynnig rhagor o gymorth er mwyn helpu teuluoedd incwm isel i gael gafael ar fwydydd iach cost isel ac am ddim.

Mae Pwysau Iach: Cymru Iach yn cynnwys Blaenoriaeth Genedlaethol i ddileu rhwystrau er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd a deiet ar draws y boblogaeth. Nod y polisi yw sicrhau cymorth amlwg i bob teulu mewn angen ledled Cymru, gyda systemau cyfan yn cydweithio fel bod modd lleihau'r bwlch anghydraddoldebau iechyd drwy raglenni sy'n galluogi newid cadarnhaol.

Lleihau costau tanwydd

Pan na all teuluoedd fforddio gwresogi eu cartrefi, caiff hyn effaith negyddol ar amodau tai (fel lleithder) a'u hiechyd a'u llesiant. Mae gorfod gwneud penderfyniadau anodd fel dewis rhwng bwyta a gwresogi yn ychwanegu at faich meddyliol tlodi.

Mae'r cyllid rydym wedi'i roi i'r Sefydliad Banc Tanwydd wedi creu rhwydwaith cryfach o bartneriaid ledled Cymru i gefnogi pobl ar fesuryddion rhagdalu sy'n wynebu risg o hunanddatgysylltu neu sydd eisoes wedi gwneud hynny, yn ogystal â'r aelwydydd oddi ar y grid hynny y mae'n rhaid iddynt brynu tanwydd ond na allant fforddio ychwanegu rhagor at y tanc.

Ein huchelgais hirdymor yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru, gan sicrhau ein bod ond yn defnyddio'r ynni sydd ei angen arnom, er mwyn cadw cartrefi'n ddigon cynnes am gost fforddiadwy. Mae hyn wedi'i nodi yn Rhaglen Cartrefi Clyd Newydd: datganiad polisi, 2023. Bydd angen i'r Rhaglen asesu'r effaith y mae'r mesurau wedi ei chael ar aelwydydd unigol mewn perthynas â gostwng biliau, effaith y cynllun ar dlodi tanwydd, arbedion carbon dros oes yr asedau a ôl-osodwyd, wedi'u mesur mewn CO2e, a'r cyfraniad at fuddiannau ehangach i'r gymuned, fel sgiliau a'r economi sylfaenol.

Fforddiadwyedd dŵr

Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod llawer o aelwydydd eisoes yn ei chael hi'n anodd fforddio biliau dŵr a bod biliau dŵr yn debygol o godi dros y blynyddoedd nesaf er mwyn ariannu gwelliannau amgylcheddol gan y cwmnïau dŵr. Mae cwmnïau dŵr yn cynnig amrywiaeth o dariffau cymdeithasol er mwyn helpu aelwydydd cymwys, yn ogystal â mesurau i bob cwsmer sy'n ei chael hi'n anodd talu, fel seibiannau talu, cyngor ar effeithlonrwydd dŵr a chyfeirio at gymorth arall. Er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i gwmnïau dŵr helpu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn ariannol, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu'r canllawiau ar dariffau cymdeithasol a gyhoeddwyd yn 2013 er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i gwmnïau dŵr.

Lleihau costau addysg

Mae plant a phobl ifanc wedi dweud wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu stigmateiddio a'u hallgáu yn yr ysgol pan na all eu teuluoedd dalu am hanfodion fel gwisg ysgol a chyfarpar. Mae rhieni/gofalwyr yn wynebu pwysau ariannol gwirioneddol wrth geisio talu am eitemau hanfodol a phethau fel tripiau ysgol.

Gall plant o deuluoedd incwm isel sy'n gymwys i gael budd-daliadau penodol wneud cais am Grant Hanfodion Ysgol. Mae plant ym mhob blwyddyn ysgol orfodol, o'r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11, bellach yn gymwys. Rydym wedi cyhoeddi Polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion: canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu. Rhaid i ysgolion ystyried y canllawiau hyn, sy'n canolbwyntio ar driniaeth deg, cost a fforddiadwyedd, ystyriaethau ymarferol a'r angen i ymgynghori â rhieni, disgyblion a'r gymuned.

Ers mis Ebrill 2023, mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg wedi cynyddu yng Nghymru o £30 i £40 yr wythnos ar gyfer myfyrwyr addysg bellach cymwys mewn chweched dosbarth neu goleg. Mae hwn yn ymrwymiad ar gyfer dwy flwyddyn academaidd, tra bydd adolygiad cynhwysfawr o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn cael ei gynnal.

Lleihau costau iechyd

Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng tlodi ac anghydraddoldebau iechyd.

Drwy ddarparu'r cyflog cymdeithasol, mae pobl yng Nghymru yn cael budd o bresgripsiynau am ddimpharcio am ddim ar safleoedd ysbytai ledled Cymru, fel rhan o ethos gwasanaeth iechyd sy'n rhad ac am ddim.

Drwy Gynllun Gweithredu Cymru sy’n Falch o’r Mislif, rydym wedi darparu cyllid ar gyfer awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach er mwyn darparu eitemau ar gyfer y mislif am ddim ym mhob ysgol yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol yn darparu eitemau mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol o dan y trefniadau grant presennol.

Mae bwydo ar y fron yn bwysig i iechyd a datblygiad babanod a'u mamau ac mae'n gysylltiedig ag atal anghydraddoldebau iechyd sylweddol. Darparu llaeth y fron yw’r gweithgaredd mwyaf hygyrch a chost-effeithiol sydd ar gael o ran iechyd y cyhoedd, ac mae Cynllun bwydo ar y fron 2019 i 2024 yn nodi'r ffordd rydym yn cefnogi mamau i ddewis bwydo ar y fron.

Rydym yn gweithio i hyrwyddo Cychwyn Iach er mwyn helpu menywod beichiog a theuluoedd ifanc i gael budd-daliadau penodol i brynu llaeth, fformiwla babanod, ffrwythau a llysiau, a chael fitaminau am ddim.

Rydym wedi gweithio gyda'n gwasanaethau iechyd partner i dreialu Bwndeli Babi ac rydym yn ystyried y ffordd orau y gallwn ddefnyddio'r gwersi a ddysgwyd i helpu teuluoedd incwm isel i gael gafael ar yr hanfodion yn barod ar gyfer eu baban newydd.

Blaenoriaeth 1: hawl (rhoi arian ym mhocedi pobl)

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Rhoi system budd-daliadau ar waith i Gymru sy'n seiliedig ar y Siarter ac a ddarperir â thosturi, a chyflymu gwaith gyda'n partneriaid i symleiddio'r broses o wneud cais am Fudd-daliadau Cymru er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch.
  • Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pawb sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yn gwneud i bob cyswllt gyfrif, fel bod pobl yn cael gwybodaeth a chyngor wyneb yn wyneb ynglŷn â sut i gael cymorth i fanteisio'n llawn ar eu hawliau ariannol.
  • Cyflymu ein gwaith gydag Estyn a phartneriaid Gwella Ysgolion (Awdurdodau Lleol, Consortia) er mwyn sicrhau bod addysg yn brofiad niwtral o ran cost i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. 

Amcan 2: creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial

Mae 1000 diwrnod cyntaf bywyd, o'r adeg y caiff plentyn ei genhedlu nes y bydd yn ddwy oed, yn dylanwadu'n sylweddol ar ganlyniadau plant, rhieni a theuluoedd, drwy gydol bywyd, o genhedlaeth i genhedlaeth.

Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng plant sy'n tyfu i fyny mewn tlodi a'u cyfoedion yn dechrau'n gynnar ac yn para drwy'r ysgol. Rydym am i bawb rannu ein huchelgeisiau i bob plentyn a pherson ifanc gael cymorth i wireddu ei botensial a mwynhau dyfodol heb dlodi. Mae pobl wedi dweud wrthym fod angen i blant anabl, plant niwroamrywiol a phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol gael cymorth mwy amserol a phriodol i wireddu eu potensial.

Mae tystiolaeth gref y gall gwahaniaethu ar sail rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, ethnigrwydd, anabledd a rhywioldeb gael effaith negyddol ar brofiad a deilliannau addysgol a'r gallu i sicrhau gwaith teg. Mae'r gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn is na'r gyfradd ar gyfer pobl Wyn. Mae'r gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn is na'r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl. Awgryma ymchwil fod rhieni unigol yn wynebu heriau penodol i sicrhau cyflogaeth addas a bod 90% o rieni unigol yn fenywod.

Dywedodd plant a phobl ifanc wrthym eu bod am gael mwy o gyfleoedd i gael profiad gwaith o safon, cyngor ar yrfaoedd yn yr ysgol a'r sefydliad addysg bellach, a modelau rôl cadarnhaol ym myd gwaith a hunangyflogaeth.

Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod am gael gwaith teg, hyblyg, gydag amodau gweithio da a chyflog teg. Maent am gael cyfleoedd i symud ymlaen yn eu gyrfa drwy addysg a hyfforddiant. Mae pobl wedi dweud wrthym y gall fod yn anodd iawn gwneud i waith dalu os na allant fanteisio ar ofal plant a thrafnidiaeth fforddiadwy. Mae hyn yn arbennig o wir am rieni unigol a theuluoedd lle mae oedolyn neu blentyn yn anabl.

Mae angen economi sy'n creu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, er mwyn galluogi pobl i fanteisio ar y cyfoeth a grëir drwy sicrhau gwaith teg.

Ar bob cam o gwrs bywyd (o enedigaeth, drwy fywyd hyd at farwolaeth), mae pethau y gallwn eu gwneud er mwyn helpu pobl i godi allan o dlodi drwy ddarpariaeth chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar, addysg, hyfforddiant a chymorth i gael gwaith teg. Gall helpu rhieni/gofalwyr i gael gwaith godi plant allan o dlodi.

O dan Amcan 2, rydym yn nodi gwaith a fydd yn hyrwyddo hawliau plant o dan Erthygl 6 (yr hawl i fyw, goroesi a datblygu), Erthygl 31 (hamdden, chwarae a diwylliant), Erthygl 28 (yr hawl i addysg), Erthygl 29 (nodau addysg) ac Erthygl 27 (safon byw sy'n ddigonol). Gwyddom y gall tlodi gael effaith andwyol ar ddatblygiad plant a'r gallu i ddysgu drwy chwarae yn y blynyddoedd cynnar ac rydym wedi nodi'r ffyrdd rydym yn ceisio mynd i'r afael â hyn. Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg, ond gall tlodi gael effaith negyddol ar brofiadau addysgol, cyfranogiad a deilliannau i blant. Ein huchelgais yw sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb drwy fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a chefnogi pob dysgwr. Bydd adeiladu economi gref a helpu pobl ifanc a rhieni/gofalwyr i gael gwaith teg yn helpu i sicrhau safon byw ddigonol ar gyfer  y genhedlaeth hon o blant a chenedlaethau'r dyfodol.

Y dechrau gorau mewn bywyd

Mae tystiolaeth gynyddol fod cysylltiad cryf rhwng tlodi a chanlyniadau gwybyddol yn y blynyddoedd cynnar. Gwyddom fod buddsoddi ym mlynyddoedd cynnar plentyn yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant plant. Rydym am gynnig y dechrau gorau i blant mewn bywyd.

Dechrau'n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o wella canlyniadau i deuluoedd â phlant dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Rydym yn ymrwymedig i barhau i gefnogi ein rhaglen Dechrau'n Deg flaenllaw, ac yn unol â'r Cytundeb Cydweithio, rydym wedi ymestyn yr ymrwymiad hwn i fynd ati'n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar i gynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg. Mae'r broses raddol o ehangu rhaglen Dechrau'n Deg yn cydnabod yr effaith sylweddol y gall ymyrryd yn gynnar a darparu gofal plant o ansawdd uchel ei chael ar ganlyniadau plant.

Rydym wedi lansio ein dull o ymdrin â Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod babanod a phlant bach yn cael profiad dysgu a gofal ysgogol o ansawdd uchel mewn unrhyw leoliad a/neu ysgol y maent yn ei fynychu/mynychu (a elwir yn ffurfiol yn addysg a gofal plentyndod cynnar).

Mae Rhaglen Drawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar wedi bod yn gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ystyried sut i ddarparu gwasanaethau blynyddoedd cynnar mewn ffordd fwy systematig, gan sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir ac yn y ffordd gywir.

Mae cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel yn hanfodol i ddatblygiad emosiynol a chorfforol pob plentyn. Gall plant sy'n tyfu i fyny mewn tlodi wynebu rhwystrau i gael cyfleoedd chwarae yn yr un ffordd â'u cyfoedion.

Sefydlwyd Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae er mwyn mynd i'r afael â llwgu yn ystod y gwyliau drwy gynnig bwyd/byrbrydau iach am ddim mewn cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau, ynghyd â'r opsiwn i gynyddu'r ddarpariaeth chwarae yn ystod y gwyliau bresennol. Rhennir y cyllid ar sail fformiwla rhwng y 22 o awdurdodau lleol. Mae'r cynllun yn targedu ardaloedd difreintiedig, a gall weithredu yn ystod pob cyfnod o wyliau'r ysgol, yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol.

Mae plant sy'n byw mewn tlodi yn wynebu mwy o risg o ddatblygu anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, a thrwy ymyrryd yn gynnar, gallwn leihau'r risg y byddant yn wynebu canlyniadau negyddol. Mae cynllun cyflawni Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu 'Siarad Gyda Fi' yn cynrychioli buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cymorth cyffredinol a phenodol i feithrin sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar.

Prif nod ein polisïau a'n rhaglenni ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw cefnogi'r dechrau gorau mewn bywyd bob amser. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y gall diffyg gofal plant priodol a fforddiadwy ei gwneud hi'n anodd i rieni/gofalwyr wneud i waith dalu.

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn cynnig hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth i blant 3 a 4 oed rhieni sy'n gweithio am 48 wythnos y flwyddyn; mae rhieni sydd wedi'u cofrestru ar gyrsiau addysg uwch ac addysg bellach hefyd yn cael budd o'r Cynnig. Mae'r penderfyniad hwn i ehangu'r Cynnig Gofal Plant yn dangos ein hymrwymiad i helpu teuluoedd sy'n gweithio i dalu costau gofal plant. Mae gwerthusiadau wedi dangos bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar allu rhieni i ennill mwy ac yn creu mwy o opsiynau i rieni o ran cyflogaeth. Caiff y Cynnig Gofal Plant hefyd ei gefnogi gan Grant Cymorth Ychwanegol Cynllun Gofal Plant Cymru. Bwriedir i'r cyllid ar wahân hwn sicrhau bod elfen gofal plant y Cynnig yn gynhwysol i blant cymwys y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, fel y rheini ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Diwygiwyd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant wedi'i reoleiddio ym mis Mai 2023 er mwyn cynnwys mwy o eglurder ac arweiniad ar gymorth cyntaf, diogelu, a gwarchodwyr plant sy'n gweithio gyda chynorthwywyr. Roeddent hefyd yn cynnwys adran newydd ar sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel i bob plentyn, ym mhob lleoliad.

Mae dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau, i'r graddau y bo'n rhesymol bosibl, fod y ddarpariaeth gofal plant yn eu hardal yn ddigonol i fodloni gofynion rhieni i weithio neu hyfforddi. Er mwyn helpu awdurdodau lleol i gyflawni'r ddyletswydd hon, bob pum mlynedd rhaid iddynt asesu'r cyflenwad a'r galw am ofal plant yn eu hardal. Rhaid i'r asesiad gynnwys cynllun gweithredu sy'n dangos sut y bydd yr awdurdod lleol yn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth. Cynhaliwyd yr Asesiad llawn diwethaf o Ddigonolrwydd Gofal Plant yn 2022.

Fel rhan o'r broses asesu hon, bydd awdurdodau lleol yn ystyried yn benodol anghenion rhieni sydd â phlant ag anghenion ychwanegol neu gymhleth; rhieni sy'n gweithio oriau nodweddiadol; rhieni ethnig leiafrifol, yn ogystal ag amrywiaeth o grwpiau eraill o rieni.

Addysg a chynnydd

Mae tlodi yn effeithio ar brofiadau a deilliannau addysgol ac mae bwlch cyrhaeddiad yn bodoli rhwng dysgwyr o aelwydydd incwm isel a'u cyfoedion. Cenhadaeth ein Cenedl yw sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb drwy fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a chefnogi pob dysgwr. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar uchelgeisiau a chyrhaeddiad. Bydd pob dysgwr, beth bynnag fo'i gefndir, yn cael ei gefnogi i fod yn ddinesydd iach, brwdfrydig, blaengar a moesegol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith. Mae hyn yn cynnwys gyrfaoedd ymarferol seiliedig ar addysg, profiadau cysylltiedig â gwaith, a chyngor ar yrfaoedd.

Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn cynnig cymorth ychwanegol wedi'i dargedu i ddysgwyr difreintiedig, a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i adolygu'r ffordd y caiff ei ddefnyddio ac yn cefnogi ysgolion i ddefnyddio'r grant yn effeithiol. Mae cyllid y Grant hwn yn ceisio codi cyrhaeddiad plant a phobl ifanc o deuluoedd ar incwm isel. Mae’n gwneud hyn drwy leihau’r rhwystrau y maent yn aml yn eu hwynebu rhag cyflawni eu potensial yn llawn. Caiff y cyllid hefyd ei ddarparu i blant â phrofiad o fod mewn gofal. Mae’r Grant yn adnodd allweddol ar gyfer gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymri o safonau a dyheadau uchel i bawb. Mae’r Grant yn cael ei ddarparu i ysgolion a lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 3 a 15 oed. Dylai’r defnydd o’r Grant ganolbwyntio ar y meysydd allweddol a ganlyn: dysgu ac addysgu o safon uchel, Ysgolion Bro, Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, dyheadau uchel a gefnogir gan gydberthnasau cadarn, iechyd a lles, arweinyddiaeth, Cwricwlwm i Gymru a chymwysterau, a chefnogaeth ar gyfer cynnydd ôl-16.

Mae’r Grant Disgyblion o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru, yn cefnogi plant a phobl ifanc sy’n profi rhwystrau rhag dysgu a chael mynediad at y cwricwlwm ac addysg. Mae’r gefnogaeth hon yn hanfodol i sicrhau tegwch mewn addysg i bob plentyn a phob person ifanc. Ers 2021, mae dyrannu’r cyllid i bob un o’r 22 awdurdod lleol wedi helpu i sefydlu Gwasanaethau Cyrhaeddiad Disgyblion o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol ledled Cymru.

Mae’r buddsoddiad hwn wedi galluogi awdurdodau lleol i ddatblygu’r seilwaith, y sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol i gefnogi dysgwyr sy’n ffoaduriaid neu’n geiswyr lloches i gael mynediad at addysg. Mae’r cyllid hefyd yn cefnogi Gwasanaethau Addysg i Deithwyr o fewn awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i ymgysylltu ag addysg a chael mynediad at y cwricwlwm.

Gall teuluoedd sydd â phlentyn ag anghenion dysgu ychwanegol wynebu costau ychwanegol a heriau ychwanegol i gydbwyso cyfrifoldebau gofalu â chyflogaeth. Dywedodd rhai rhieni/gofalwyr wrthym eu bod yn pryderu nad yw eu plant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i wireddu eu potensial. Byddwn yn mynd ati i ddiwygio ein system Anghenion dysgu ychwanegol a'n darpariaeth a'n harferion ar sail ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac addysg gynhwysol, gan sicrhau newidiadau cadarnhaol i ddysgwyr ag ADY a monitro effeithiolrwydd y system. Mae ein Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth (2021) yn nodi'r trefniadau ar gyfer cefnogi llwybrau asesu a diagnosis i blant.

Mae cyfrifoldebau gofalu yn gysylltiedig â risg o dlodi a heriau i fanteisio ar addysg a hyfforddiant. Mae ein Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl yn cynnwys blaenoriaeth i gefnogi gofalwyr di-dâl, gan gynnwys gofalwyr ifanc, mewn addysg ac yn y gweithle ac annog cyflogwyr a lleoliadau addysgol/hyfforddiant i addasu eu polisïau a'u harferion, gan alluogi gofalwyr di-dâl i gael gwaith a dysgu ochr yn ochr â'u rôl ofalu.

Mae'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid yn cyfrannu at ein nod o fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol drwy ein helpu i ailennyn diddordeb pobl ifanc a chodi eu huchelgeisiau, er mwyn sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl. Y Warant i Bobl Ifanc yw ein hymrwymiad allweddol i helpu pob person ifanc 16-24 oed i gael addysg neu hyfforddiant, gwaith neu hunangyflogaeth.

Gwnaethom gomisiynu adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru ac rydym yn ymateb i'r argymhellion. Drwy'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod cyfleoedd ar gael i gefnogi dysgwyr a rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddysgu, datblygu a llwyddo drwy gydol eu hoes.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ac ehangu Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, drwy nodi ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i barhau i “adeiladu ar” y rhaglen. Mae'r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf yn gynllun mewn ysgolion sy’n darparu prydau iach, addysg ar fwyd a maeth, gweithgarwch corfforol a sesiynau cyfoethogi i blant mewn ardaloedd dan anfantais economaidd-gymdeithasol yn ystod gwyliau'r ysgol.

Yr economi a gwaith teg

Mae adeiladu economi gref a chefnogi pobl i lwyddo a ffynnu yn yr economi honno yn hanfodol er mwyn lleihau tlodi plant yn yr hirdymor. Mae ein Cenhadaeth Economaidd: blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer economi fwy llewyrchus, gwyrddach a mwy cyfartal. Mae gwella llesiant pawb yng Nghymru yn rhan greiddiol o'r genhadaeth. Economi llesiant yw economi sy'n gweithredu o fewn terfynau amgylcheddol diogel, ac sy'n gwasanaethu llesiant y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol yn anad dim arall. Rydym am roi ffocws ar ddatblygu economaidd, gyda'r nod o dyfu'r economi a lleihau anghydraddoldebau mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn gosod dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol newydd ar gyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru, yn hyrwyddo gwaith teg ac yn gosod dyletswydd ar rai cyrff cyhoeddus i ystyried dulliau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol a chyflawni dyletswyddau rheoli contract.

Nod Busnes Cymru yw cefnogi microfusnesau a BBaChau, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, a darpar entrepreneuriaid i ddechrau a thyfu eu busnesau ac adeiladu economi sy'n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd, a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol. Yn gyson â'r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau, bydd Busnes Cymru yn gweithio gyda busnesau i gynnig amrywiaeth o gymorth i entrepreneuriaid a busnesau er mwyn gwella dulliau rheoli, arferion cyflogaeth ac adnoddau dynol, gwella arferion cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweithio mewn ffordd fwy cynhwysol, mabwysiadu'r Addewid Cydraddoldeb, a dod yn gyflogwyr cynhwysol o ran oedran.

Er mwyn cefnogi'r Warant i Bobl Ifanc, mae Syniadau Mawr Cymru yn cynnig cyngor a chymorth i bobl ifanc (entrepreneuriaid) a rhwydwaith o Fodelau Rôl Syniadau Mawr Cymru er mwyn cynnig ysbrydoliaeth a meithrin galluoedd blaengar a dealltwriaeth o hunangyflogaeth a'r broses o ddechrau busnes.

Mae gwobrwyo teg yn rhan allweddol o'n huchelgeisiau ar gyfer Gwaith teg, gan hyrwyddo'r Cyflog Byw Gwirioneddol (yn seiliedig ar gostau byw), cefnogi ac annog cyflogwyr i gynnig cyflogaeth o ansawdd uchel, gwella'r cynnig i weithwyr, hyrwyddo arferion cyflogaeth teg, sicrhau gwerth cymdeithasol buddsoddi ac annog y sector cyhoeddus i ymgorffori’r blaenoriaethau wrth gynllunio'r gweithlu.

Mae ein Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau yn nodi blaenoriaethau polisi a buddsoddi clir, ac yn mireinio ein ffocws ar gyflawni a gweithgarwch partneriaid. Blaenoriaethau allweddol y Cynllun yw: Pobl ifanc yn gwireddu eu potensial; Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd; Hyrwyddo Gwaith Teg i bawb; Cefnogi pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor i weithio, a Meithrin diwylliant dysgu am oes.

Nodau ein Rhaglen Cymoedd Technoleg yw gwneud Cymoedd De Cymru yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer datblygu technolegau newydd i gefnogi diwydiant arloesol. Mae'r rhaglen yn creu swyddi cynaliadwy, yn bennaf ym maes technolegau newydd a gweithgynhyrchu uwch ledled y Cymoedd. Drwy wahanol elfennau'r rhaglen, sef seilwaith, sgiliau a thwf busnes, rydym yn hau hadau cyflogaeth o ansawdd uchel ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â gweithio gyda busnesau i greu swyddi cadarn heddiw.

Mae ein dull sy'n datblygu o gyllidebu ar sail rhyw yng Nghymru wedi cynnwys cynllun peilot cyllidebu ar sail rhywedd er mwyn helpu pobl i feithrin sgiliau mewn meysydd nad ydynt yn gysylltiedig â rhywedd penodol yn nodweddiadol. Mae hyn wedi'i alluogi drwy ein rhaglen Cyfrif Dysgu Personol, sy'n cynnig cymorth i bobl gyflogedig sy'n ennill llai na'r cyflog cyfartalog feithrin sgiliau lefel uwch, gan eu helpu i fanteisio ar amrywiaeth ehangach o gyfleoedd gwaith.

Trafnidiaeth

Rydym yn cydnabod bod trafnidiaeth hygyrch a fforddiadwy yn hanfodol er mwyn i bobl allu dod o hyd i lwybr allan o dlodi drwy fanteisio ar addysg, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth.

Nod Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, Llwybr Newydd, yw lleihau cost a gwella hygyrchedd trafnidiaeth gynaliadwy i bawb yng Nghymru, gan gynnwys myfyrwyr.

Mae ein Cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth 2022 i 2027 yn rhestru'r camau rydym yn eu cymryd i sicrhau bod trafnidiaeth yn hawdd i'w defnyddio ac yn cynnig gwerth da am arian i ddiwallu anghenion pobl, nawr ac yn y dyfodol. Fel rhan o'n hymrwymiad i archwilio ‘Tocynnau Teithio Tecach’ ledled Cymru, rydym yn ystyried amrywiaeth o opsiynau i'w gwneud yn fwy fforddiadwy i bawb yn y gymuned deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys mynd ati'n ofalus i ystyried tocynnau teithio rhatach i bobl ifanc. Rydym hefyd yn ystyried cyfleoedd i sicrhau bod ein strategaeth tocynnau teithio yn achub ar gyfleoedd i annog darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig i deithwyr drwy'r dull un tocyn a thechnoleg talu wrth deithio er mwyn sicrhau'r pris gorau am bob taith ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Blaenoriaeth 2: creu cenedl Gwaith Teg (heb adael neb ar ôl)

Byddwn yn gwneud y canlynol: 

  1. Hyrwyddo'r Cyflog Byw Gwirioneddol a'r gallu i fanteisio ar undebau llafur, ac ymgorffori gwaith teg mewn ymyriadau ehangach ym maes sgiliau a datblygu economaidd. Byddwn hefyd yn rhoi darpariaethau ein Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ar waith.
  2. Dileu'r rhwystrau i gyflogaeth a llwybrau gyrfa a wynebir gan bobl anabl, menywod, gofalwyr a phobl ethnig leiafrifol a gwella arferion a diwylliant gweithleoedd.
  3. Mynd ati ym mhob rhan o'r llywodraeth i ddod o hyd i ddatrysiadau fforddiadwy i gostau gofal plant a thrafnidiaeth, er mwyn dileu'r rhwystrau i gael gwaith a gwneud i waith dalu. Rhaid i hyn gael ei gyflawni heb gyfaddawdu'r angen i sicrhau bod pob darpariaeth gofal plant o safon sy'n diwallu anghenion plant a bod datrysiadau ar gyfer trafnidiaeth yn seiliedig ar ymrwymiadau Cymru Sero Net

Amcan 3: cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a sicrhau bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a sicrhau canlyniadau gwell

Yng Nghymru, rydym am sicrhau'r gorau i'n plant, ni waeth beth fo'u cefndir, o ble y maent yn dod, nac ym mhle y maent yn byw. Rydym am i bob un ohonynt gael y dechrau gorau mewn bywyd ac i fynd ymlaen i fyw'r bywyd y maent yn dymuno ei fyw.

Dywedodd pobl wrthym eu bod am gael cartrefi gweddus mewn cymunedau cydlynus. Maent am allu lleisio eu barn am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn eu cymunedau ac am yr hyn sydd ei angen i gefnogi eu llesiant. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pobl sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr a phobl ifanc LHDTC+, a ddywedodd wrthym eu bod yn wynebu gwahaniaethu a diffyg dealltwriaeth o'u hanghenion.

Mae'r rhwystrau ymarferol i gost ac argaeledd trafnidiaeth a baich meddyliol apwyntiadau niferus yn golygu bod pobl am gael gwasanaethau cydgysylltiedig yn agos at eu cartref. Mae gwasanaethau cydgysylltiedig lleol sy'n cyfathrebu â'i gilydd a chyda theuluoedd yn arbennig o bwysig i deuluoedd lle mae plentyn neu oedolyn yn niworamrywiol neu'n anabl.

Mae pobl am allu meithrin cydberthnasau â gweithwyr y maent yn ymddiried ynddynt sy'n deall anghenion penodol pawb yn y gymuned, ac maent yn gwerthfawrogi'r gallu i gael gafael ar wybodaeth, cyngor, cymorth i deuluoedd a chymorth ar gyfer anghenion emosiynol ac iechyd meddwl i wella eu llesiant, yn y gymuned.

Maent am gael cyfleoedd yn y cymunedau lle maent yn byw i chwarae a chymryd rhan mewn chwaraeon, gweithgareddau hamdden a gweithgareddau i'r teulu sy'n cefnogi eu llesiant meddyliol a chorfforol. Yn gysylltiedig â hyn, siaradodd plant a phobl ifanc am bwysigrwydd mannau gwyrdd glân a gofalu am yr amgylchedd.

Mae'n bwysig hefyd nad yw trafnidiaeth a chostau mynediad yn atal pobl rhag achub ar gyfleoedd diwylliannol, fel amgueddfeydd a dathliadau amrywiaeth.

Deellir bod angen darparu gwasanaethau cydgysylltiedig cymunedol sy'n hyrwyddo dull Dim Drws Anghywir. Clywsom am rai enghreifftiau da o hyn, ond nid fel profiad cyffredin i'r teuluoedd y gwnaethom siarad â nhw. Rydym yn cydnabod nad yw cynnig gwasanaethau wedi'u cyd-leoli mewn un lle bob amser yn gosteffeithlon mewn rhai cymunedau, yn enwedig cymunedau gwledig. Fodd bynnag, gall cylchdroi gwasanaethau dros dro gynnig arlwy da mewn ardaloedd â phoblogaethau llai.

Bydd ein gwaith o dan Amcan 3 y strategaeth hon yn hyrwyddo hawliau plant o dan Erthygl 18 (cyfrifoldebau rhiant a chymorth gan y wladwriaeth), Erthygl 19 (diogelu rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod), Erthygl 24 (iechyd a gwasanaethau iechyd), Erthygl 27 (safon byw sy'n ddigonol) ac Erthygl 31 (chwarae, hamdden a diwylliant). Mae'r strategaeth yn nodi'r ffordd rydym yn cefnogi rhieni/gofalwyr a'n hawydd i gryfhau'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd incwm isel yn y cymunedau lle maent yn byw. Nid yw'r gydberthynas rhwng camdriniaeth a thlodi yn un syml, ond gall cynnig cymorth cynnar i deuluoedd ac adeiladu cymunedau sy'n ffynnu leihau'r risg o niwed i blant. Mae cysylltiad cryf rhwng tlodi plant ac anghydraddoldebau iechyd. Mae’r strategaeth yn nodi ein polisïau i gefnogi iechyd meddwl a lles, a’n polisïau ar gyfer tai gweddus sy’n effeithlon o ran ynni. Rydym yn gwybod bod tai mewn cyflwr gwael yn effeithio’n negyddol ar iechyd plant. Bydd ein cynlluniau ar gyfer tai gweddus sy'n effeithlon o ran ynni ac atal digartrefedd yn helpu i sicrhau safon byw ddigonol i blant. Gall hybu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth hygyrch yn y gymuned helpu rhieni/gofalwyr i sicrhau hawliau ac ymyriadau a all eu cefnogi nhw i sicrhau safon byw ddigonol i’w plant. Rydym yn nodi y byddwn yn gweithio tuag at gynnig gwasanaethau cydgysylltiedig mewn cymunedau a chyfleoedd lleol i chwarae a chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau i bobl ifanc er mwyn cefnogi iechyd a llesiant.

Rhywle gweddus i fyw

Mae sefyllfa economaidd pobl yn cael effaith uniongyrchol ar y risg y byddant yn mynd yn ddigartref, neu'n byw mewn tai annigonol neu o ansawdd gwael.

Ar 1 Rhagfyr 2022, newidiodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 y ffordd y mae pob landlord yng Nghymru yn rhentu ei eiddo, gan wella'r ffordd rydym yn rhentu, yn rheoli ac yn byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru. Mae Rhentu Cartrefi Cymru yn golygu bod rhai newidiadau wedi'u gwneud i'r ffordd y caiff contractau tenantiaid cymdeithasol a phreifat eu darparu, y ffordd y caiff eu cartrefi eu cynnal a'u cadw, a'r ffordd y maent yn cyfathrebu â'u landlordiaid.

Gallai hyd at 2,000 o eiddo gwag hirdymor gael eu hadfer drwy'r Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol. Mae'r cynllun hwn yn rhedeg ochr yn ochr â chynlluniau eraill gan Lywodraeth Cymru, fel Cynllun Lesio Cymru, sydd â'r nod o wella'r gallu i gael gafael ar dai fforddiadwy tymor hwy yn y sector rhentu preifat.

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru baratoi asesiad o anghenion llety sipsiwn a theithwyr ac adrodd ar yr angen am safleoedd ychwanegol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal, boed y rheini’n safleoedd preswyl parhaol neu’n safleoedd tramwy dros dro. Rydym yn adolygu pa mor gadarn yw’r asesiadau ledled Cymru er mwyn diwallu’r anghenion o ran safleoedd ledled Cymru ar gyfer Cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.

Rydym yn cymryd camau penodol i fynd i'r afael â digartrefedd drwy Rhoi diwedd ar ddigartrefedd: cynllun gweithredu lefel uchel 2021 i 2026, a gafodd ei adolygu a'i ddiweddaru ym mis Awst 2023 er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â strategaethau trechu tlodi Llywodraeth Cymru. Rydym yn bwriadu pasio deddfwriaeth i drawsnewid gwasanaethau digartrefedd, gan roi'r pwysais ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Mae ein Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru yn nodi amrywiaeth o gynigion sy'n ceisio atal digartrefedd, gan ganolbwyntio'n benodol ar blant, pobl ifanc a'r rheini â phrofiad o fod mewn gofal.

Mae'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid diwygiedig bellach yn cynnwys atal digartrefedd ymysg pobl ifanc, er mwyn sicrhau bod pobl ifanc sy'n wynebu risg o fynd yn ddigartref yn cael eu nodi'n gynnar a bod cymorth addas yn cael ei roi ar waith. Drwy symud tuag at ailgartrefu cyflym a diwygio deddfwriaethol, byddwn yn sicrhau bod digartrefedd yn rhywbeth prin, byrhoedlog ac na fydd yn digwydd eto. Pan fydd pobl yn mynd yn ddigartref, byddant yn cael cymorth i sicrhau cartrefi sefydlog o ansawdd da cyn gynted â phosibl. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi rhent cymdeithasol yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

Gwyddom fod tai oer a llaith yn peri risg i iechyd a llesiant plant ac yn rhoi straen ychwanegol ar rieni. O ran gosod mesurau effeithlonrwydd ynni, cred Llywodraeth Cymru y dylai Rhaglen Cartrefi Clyd ganolbwyntio ymdrech a, lle bo angen, buddsoddiad ar wella effeithlonrwydd ynni ar gyfer yr aelwydydd hynny sydd lleiaf tebygol o allu talu am welliannau eu hunain (h.y. aelwydydd mewn tlodi tanwydd neu a allai wynebu tlodi tanwydd, a'r rheini sydd mewn tlodi tanwydd difrifol) yn y sectorau perchen-feddianwyr, rhentu preifat a thai cydweithredol.

Cymunedau

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn seiliedig ar werthoedd cymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol sy'n arbennig i Gymru. Mae Cymru yn wlad â chyfoeth o weithredu cymunedol, lle mae mentrau wedi'u datblygu gan aelodau o'r gymuned i fynd i'r afael ag anghenion y gymuned. Ein rôl ni yw galluogi'r dulliau gweithredu hyn a'u datblygu, gan sicrhau bod popeth a gyflwynir yn diwallu anghenion penodol cymunedau lleol bob amser.

Rydym yn cydnabod mai'r hyn sydd ei angen yw ymateb trawsbynciol ar draws y llywodraeth gyfan, yn hytrach na rhaglen gymunedol annibynnol. Rydym wedi cyhoeddi ymchwil ar ddulliau gweithredu seiliedig ar le o ymgysylltu â'r gymuned a  darparu cymorth i gymunedau, sy'n llywio ein ffordd o feddwl.

Bydd hyn yn golygu gweithio gyda'n cymunedau a phartneriaid eraill i gyd-lunio atebion a fydd yn helpu i gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu ac, ar yr un pryd, yn grymuso ac yn cysylltu pob un o'n cymunedau, ac yn eu galluogi i ffynnu. Rydym am wrando ar ein cymunedau a dysgu oddi wrthynt, gan ddefnyddio gwybodaeth leol a phrofiadau a gafwyd drwy fawr ymdrech! Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu Polisi Cymunedau i gefnogi hyn.

Mae ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn darparu cyllid er mwyn helpu cymunedau ym mhob cwr o Gymru i brynu, datblygu a gwella adeiladau a mannau gwyrdd lleol hanfodol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi prosesau Trosglwyddo Asedau Cymunedol a datblygiadau a arweinir gan y gymuned drwy ddarparu fframwaith cymorth sy'n cynnig cyngor, canllawiau a chyllid.

Rydym yn buddsoddi er mwyn gwneud yn siŵr bod ysgolion yn gallu gweithredu a datblygu fel Ysgolion Bro, sy'n estyn allan i deuluoedd i'w cynnwys ac yn gweithio gyda'r gymuned ehangach i gefnogi pob disgybl, yn enwedig disgyblion o aelwydydd incwm isel. Wrth symud ymlaen, rydym am i bob ysgol yng Nghymru fod yn Ysgol Fro: gan feithrin partneriaeth gref â theuluoedd; ymateb i anghenion eu cymuned a chydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill.

Cynnig cyfleoedd chwarae, chwaraeon ac ieuenctid

Gall plant a phobl ifanc sy'n tyfu i fyny mewn tlodi wynebu rhwystrau ariannol, ymarferol ac amgylcheddol i gael cyfleoedd i chwarae a chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cadarnhaol.

Cymru: gwlad lle mae cyfle i chwarae yw'r canllawiau statudol sy'n helpu awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn eu hardaloedd, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol. Dylai cyfleoedd fod yn gynhwysol ac yn annog plant a phobl ifanc i chwarae a dod ynghyd os byddant yn dymuno gwneud hynny, gan gydnabod y gall rhai plant wynebu rhwystrau i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd chwarae yn eu hardal.

Rydym yn darparu cyllid i Chwaraeon Cymru er mwyn cefnogi clybiau chwaraeon, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, awdurdodau lleol a phartneriaid cenedlaethol eraill i gyflawni'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon, sy'n ceisio gwneud Cymru yn genedl egnïol lle gall pawb fwynhau chwaraeon drwy gydol eu hoes. Mae'r chwe lefel o fwriad strategol a nodir yn strategaeth Chwaraeon Cymru, 'Galluogi Chwaraeon yng Nghymru i Ffynnu' yn cynnwys rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r cymhelliant i bob person ifanc fwynhau a gwneud cynnydd drwy chwaraeon; gan roi'r sylfeini iddo fyw bywyd egnïol, iach a chyfoethog.

Mae anghydraddoldebau iechyd sylweddol yn gysylltiedig â damweiniau traffig ffyrdd, ac mae plant a phobl ifanc sy'n byw mewn ardaloedd tlawd yn wynebu mwy o risg o gael eu niweidio ar y ffyrdd. Ers mis Medi 2023, mae'r rhan fwyaf o derfynau cyflymder 30 milltir yr awr (mya) yng Nghymru wedi newid i 20 mya. Bydd hyn yn helpu i greu cymunedau iachach a mwy diogel, gan leihau nifer y gwrthdrawiadau a chynnig cyfleoedd mwy diogel i blant a phobl ifanc chwarae a chymdeithasu yn eu cymunedau.

Nod Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru yw sicrhau bod pobl ifanc yn ffynnu. Mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i dyfu, datblygu, cyflawni a bod yn hapus wrth iddynt dyfu'n oedolion. Mae'n helpu i feithrin sgiliau bywyd pobl ifanc a chynnig cyfleoedd iddynt ddysgu, ac mae'n helpu pobl ifanc i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau a all effeithio ar eu bywydau. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu a mynd ar drywydd argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, y bwriedir iddynt sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Gwyddom fod profiadau diwylliannol a chreadigol yn cyfrannu at ganlyniadau iechyd cadarnhaol, llesiant personol, cydlyniant cymunedol a thwf economaidd. Bydd hyn yn llywio gwaith datblygu polisi parhaus ar fynediad i ddiwylliant.

Cefnogi teuluoedd

Mae angen cymorth ar bob teulu weithiau. Mae amgylchiadau heriol yn peri mwy o risg o dlodi a gall pwysau ymdopi â chaledi ariannol roi straen ychwanegol ar deuluoedd hefyd.

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yw'r pwynt cyswllt cyntaf am gyngor a gwybodaeth am wasanaethau lleol i deuluoedd a gofalwyr. Maent yn darparu help, cymorth a chyngor diduedd ac am ddim ar amrywiaeth o faterion teuluol fel gofal iechyd, cyllid, gofal iechyd, addysg a gwasanaethau hamdden.

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn hyrwyddo mwy o waith aml-asiantaeth er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael help a chymorth cyfannol fel y bo angen. Mae'r rhaglen ar gael i bob teulu yng Nghymru a gall helpu gydag amrywiaeth eang o faterion, fel rhianta, cyfeirio at gymorth ariannol, cydberthnasau teuluol, materion addysg, a llawer mwy. Y bwriad yw cynnig cymorth cynnar gyda'r nod o atal problemau rhag gwaethygu.

Ledled Cymru, mae ein partneriaid mewn gwasanaethau cyhoeddus yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i rieni a gofalwyr i'w helpu i fagu plant mewn modd cadarnhaol. Mae Magu Plant. Rhowch amser iddo yn wefan ddwyieithog benodol sy'n cynnig awgrymiadau defnyddiol, gwybodaeth a chyngor ar bryderon rhianta cyffredin ac yn hyrwyddo dull cadarnhaol o fagu plant.

Er mwyn helpu ysgolion i ddatblygu fel Ysgolion Bro, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a gyflogir gan ysgolion. Gwyddom y gall y swyddogion hyn fod yn adnodd effeithiol iawn i ysgolion estyn allan at rieni a gofalwyr a'u cynnwys yn nysgu eu plant. Gall swyddog ymgysylltu â theuluoedd sicrhau y caiff partneriaethau cadarnhaol eu meithrin â theuluoedd, ac y caiff cymorth a gwasanaethau pwrpasol eu cynnig.

Iechyd meddwl a llesiant

Gwyddom fod plant a phobl ifanc sy'n tyfu i fyny mewn tlodi yn fwy tebygol o wynebu anawsterau iechyd meddwl. Mae pobl â phroblemau iechyd meddwl hefyd yn llawer mwy tebygol o wynebu tlodi.

Cyhoeddwyd yr adolygiad annibynnol o Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Siarad â Fi 2 ym mis Mawrth 2023, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu drwy gydol y flwyddyn er mwyn llunio’r strategaeth iechyd meddwl ddilynol, a fydd yn destun ymgynghoriad yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Byddwn wedi sicrhau bod y syniadau cynnar hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd gan y rheini sydd â phrofiad bywyd o dlodi.

Mae’r Fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn nodi’r ffyrdd y byddwn yn hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol, term ambarél sy'n disgrifio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o gysylltu pobl ag asedau cymunedol lleol. Mae asedau cymunedol yn cynnwys grwpiau, ymyriadau a gwasanaethau cymunedol y gellid eu darparu ar-lein neu wyneb yn wyneb, yn ogystal ag adeiladau, tir neu hyd yn oed berson yn y gymuned. Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ffordd o gysylltu pobl, beth bynnag fo'u hoedran neu gefndir, â'u cymuned er mwyn rheoli eu hiechyd a'u llesiant yn well.

Blaenoriaeth 3: creu cymunedau (gwasanaethau cydgysylltiedig hygyrch i ddiwallu anghenion y gymuned)

Byddwn yn gwneud y canlynol: 

  1. Ystyried y gymuned wrth ddatblygu, adolygu ac ariannu polisïau a rhaglenni perthnasol, gan hyrwyddo gwasanaethau aml-asiantaeth 'siop un stop' yn y gymuned er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r amrywiaeth o anghenion ac anfanteision cydgysylltiedig y mae pobl sy'n byw mewn tlodi yn eu hwynebu.
  2. Sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi ysgolion i ddatblygu'n ysgolion bro, gan ymateb i anghenion eu cymuned, meithrin partneriaeth gref â theuluoedd a chydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill.
  3. Bwrw ati, ar y cyd â phartneriaid, i gynnig mwy o gyfleoedd chwarae, chwaraeon ac ieuenctid yn y gymuned a chyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau'r celfyddydau, diwylliant ac adnoddau naturiol, yn ogystal â gweithgareddau cost isel i deuluoedd i gefnogi iechyd a llesiant. 
  4. Sicrhau, wrth ddatblygu ein Polisi Cymunedau, ein bod yn nodi ffyrdd newydd, cydgynhyrchiol o weithio, sy'n gynhwysol i bawb, gan ddefnyddio dull gweithredu cymunedol i lywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau cydgysylltiedig lleol i drechu tlodi heb stigma. 

Amcan 4: herio'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi a sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi

Rydym yn disgwyl i'r bobl a'r gwasanaethau sy'n cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd weithredu mewn ffordd nad yw'n ychwanegu at faich y pwysau sy'n gysylltiedig â thlodi. Gwyddom y gall y pwysau hyn arwain at lesiant meddyliol ac iechyd meddwl gwael. Rhaid inni wneud yn siŵr nad yw plant a phobl ifanc yn cael eu heithrio am fod eu teuluoedd yn ennill incwm isel.

Gall rhai pobl mewn tlodi wynebu gwahaniaethau a stigma o ganlyniad i'w nodweddion gwarchodedig a'u profiad o dlodi. Mae hyn yn cael effaith negyddol uniongyrchol ar lesiant. Mae angen inni gefnogi dealltwriaeth well o effaith tlodi ac anghydraddoldeb ar hawliau plant ar draws gwasanaethau.

Rydym yn cydnabod bod pobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn gweithio'n galed o dan amgylchiadau heriol. Mae cefnogi'r gweithlu yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau caredig a thosturiol ac mae trechu tlodi yn rhan greiddiol o'r ymdrech i leddfu'r pwysau a wynebir gan y gwasanaethau hynny ar hyn o bryd.

Mae llawer o bobl wedi dweud wrthym nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y gwasanaethau sydd yno i'w cefnogi. Nid ydynt bob amser yn teimlo bod y bobl sy'n gweithio gyda nhw yn gwrando arnynt, a gwnaethant nodi pwysigrwydd cydberthnasau sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn manteisio ar eu hawliadau mewn perthynas â mentrau i leihau costau a gwneud y gorau o incwm, profiad sydd yn aml yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu stigmateiddio, a'u bod yn 'broblem'.

Rhannodd plant a phobl ifanc negeseuon clir â ni ynglŷn â theimlo eu bod yn cael eu stigmateiddio a'u heithrio yng nghymuned yr ysgol. Roedd rhywfaint o hyn yn ymwneud â chost y diwrnod ysgol (gwisg ysgol, teithiau ysgol) a chost y flwyddyn ysgol, gan gynnwys gweithgareddau nad ydynt yn ymwneud â dysgu, fel diwrnodau dim gwisg ysgol, promiau, ac ati. Disgrifiodd pobl y ffyrdd y mae stigma ac eithrio yng nghymuned yr ysgol yn cael effaith negyddol ar frwdfrydedd a photensial i ddysgu ac, mewn rhai achosion, presenoldeb.

Dywedodd plant â phrofiad o fod mewn gofal wrthym nad ydynt bob amser yn teimlo eu bod yn gallu lleisio eu barn am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud amdanynt.

Gall plant a phobl ifanc deimlo nad yw'r ysgol yn deall eu hamgylchiadau na'r ffordd y mae oedolion yn siarad â nhw ac yn ymateb iddynt, gan gynnwys eu cosbi. Gall plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, gofalwyr ifanc, y rheini â phrofiad o fod mewn gofal a phlant a phobl ifanc Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol ei chael hi'n arbennig o anodd sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, a bod eu hanghenion yn cael eu deall.

Mae Amcan 4 yn canolbwyntio ar y ffyrdd y byddwn yn hyrwyddo Erthygl 12 (parchu barn y plentyn), Erthygl 24 (iechyd a gwasanaethau iechyd), Erthygl 29 (nodau addysg) ac Erthygl 42 (bod yn ymwybodol o hawliau). Rydym am wneud yn siŵr nad yw plant a phobl ifanc yn cael eu stigmateiddio oherwydd amgylchiadau ariannol eu teuluoedd. Mae angen cymorth ar bobl sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd i ddeall yr effaith y mae tlodi yn ei chael ar hawliau plant a sut i wneud yn siŵr nad yw plant a phobl ifanc yn cael eu stigmateiddio. Bydd gwasanaethau caredig a thosturiol yn helpu plant a phobl ifanc i gael profiadau addysgol da ac yn lleihau effaith tlodi plant ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant.

Rhoi llais i blant a phobl ifanc

Gwyddom fod yn rhaid inni wrando ar leisiau plant a phobl ifanc wrth ddatblygu polisïau sy'n effeithio arnynt, ac mae hyn yn rhan o'n cyfrifoldeb o dan CCUHP. Gall plant a phobl ifanc sy'n tyfu i fyny mewn tlodi wynebu rhwystrau i arfer eu hawl i gael eu clywed, ac mae angen inni gymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael â hyn.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu Swyddfa'r Comisiynydd Plant fel hyrwyddwr annibynnol hawliau plant. Rôl y Comisiynydd yw bod yn hyrwyddwr annibynnol a diogelu a chefnogi hawliau plant a phobl ifanc, gan eirioli dros eu diddordebau a gwneud yn siŵr bod eu lleisiau'n cael eu clywed ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cymru Ifanc, un o fentrau Plant yng Nghymru sy'n ceisio sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd i godi materion sy'n bwysig iddynt a bod eu lleisiau'n cael eu clywed gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, swyddogion polisi, swyddogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion. Mae'r gwaith hwn yn seiliedig ar CCUHP a'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol dros Blant a Phobl Ifanc.

Fel enghraifft o'n gwaith gyda Cymru Ifanc, rydym wrthi'n gweithio gyda Bwrdd Prosiect Cymru Ifanc Plant yng Nghymru i gyd-lunio fersiwn i bobl ifanc o Gynllun Gwella'r Gyllideb, a gaiff ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

Sefydlwyd y Tasglu Hawliau Anabledd er mwyn nodi'r anghydraddoldebau a'r rhwystrau sy'n effeithio ar fywydau llawer o blant ac oedolion anabl yng Nghymru. Mae gan y Tasglu nifer o weithgorau sy'n mynd ar drywydd ei flaenoriaethau, gan gynnwys ‘y model cymdeithasol o anabledd’ a ‘plant a phobl ifanc’. Mae'r gweithgorau yn dwyn pobl â phrofiad bywyd, sefydliadau cynrychioliadol, ac arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru ynghyd.

Drwy'r gwaith ymgysylltu i lywio'r strategaeth ddrafft hon ar gyfer ymgynghori, rydym wedi clywed tystiolaeth gan 1,402 o blant a phobl ifanc. Wrth symud ymlaen, byddwn yn cytuno ar ffyrdd o gynnwys plant a phobl ifanc fel y gallant roi gwybod inni a ydym yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni ein hamcanion a'n blaenoriaethau i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda'n partneriaid i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel yn cael cyfleoedd cyson i gael eu clywed ar lefel gymunedol, lleol a rhanbarthol.

Darparu gwasanaethau â charedigrwydd a thosturi

Dywedodd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd â phrofiad bywyd o dlodi wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu stigmateiddio a'u beirniadu gan y gwasanaethau y maent yn ceisio cymorth ganddynt.

Yn ymarferol, mae angen i bob sefydliad a system weithio mewn ffordd sy'n ystyriol o drawma. Mae hynny'n golygu deall ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu a chydnabod a deall effaith anghydraddoldebau diwylliannol, hanesyddol ac o ran rhywedd, yn ogystal ag anghyfiawnder cymdeithasol.

Mae Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma yn ein helpu i ddeall y rolau y mae pob un ohonom yn eu chwarae, a'r gwahaniaeth y gallwn ei wneud drwy fod yn fwy caredig, yn fwy tosturiol ac yn fwy deallgar tuag at ein gilydd.

Rydym eisoes yn datblygu'r dull gweithredu hwn mewn nifer o ffyrdd, ac mae'r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid yn seiliedig ar ddull hawliau ‘plant yn gyntaf’. Mae hyn yn golygu sicrhau bod ein hymdrechion yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach nag ar y gwasanaeth, gan ymateb mewn ffordd sy'n cydnabod budd pennaf y plentyn er mwyn diwallu anghenion yr unigolyn yn y ffordd orau.

Rydym yn hyrwyddo gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y plentyn a'r unigolyn drwy ein polisïau i Roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru  sy'n canolbwyntio ar gefnogi aelwydydd a theuluoedd drwy gynnig y datrysiadau tai sydd fwyaf addas i'w hanghenion unigol, helpu i gynnal tenantiaethau presennol a thorri cylchoedd ailadroddus digartrefedd, darparu ar gyfer cymunedau cydlynus cynaliadwy, a chwalu'r stigma sy'n gysylltiedig yn rhy aml â digartrefedd. Mae dulliau o'r fath sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn hefyd yn rhan greiddiol o'n deddfwriaeth a'n polisïau ar ofal cymdeithasol.

Ein nod yw sicrhau bod pob gwasanaeth yn garedig, yn dosturiol ac yn hyrwyddo gwydnwch, heb farnu. Wrth wraidd y dull gweithredu hwn y mae pwysigrwydd meithrin cydberthnasau sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth.

Creu amgylcheddau addysg cynhwysol

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu amrywiaeth o ganllawiau ac adnoddau i helpu ysgolion i ddeall tlodi ac addysgu plant difreintiedig, gan gynnwys Prosiect Mynd i'r afael ag Effaith Tlodi ar Addysg.

Nod ein Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol yw cefnogi llesiant emosiynol a meddyliol da drwy hyrwyddo amgylchedd diwylliannol cadarnhaol mewn ysgolion, lle y mae plant a phobl ifanc yn meithrin cydberthnasau cadarnhaol â'r staff a'r dysgwyr eraill, a lle y mae eu cydberthnasau â'r gymuned ehangach yn cael eu hatgyfnerthu.

Gall plant a phobl ifanc gael eu bwlio oherwydd eu hamgylchiadau. Er mwyn i ddysgwyr elwa'n llawn ar eu profiad yn yr ysgol, rhaid iddynt deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu cefnogi'n briodol. Rhaid i ysgolion fabwysiadu polisi dim goddefgarwch tuag at bob math o fwlio. Ein gweledigaeth yw herio bwlio mewn modd cyfannol, gan fynd i'r afael ag achosion sylfaenol ymddygiad annerbyniol, a chreu amgylchedd cynhwysol ac ysgogol lle mae dysgwyr yn teimlo'n ddiogel ac yn barod i ddysgu. Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod ysgolion yn gweithio tuag at feithrin cydberthnasau cadarnhaol a pharchus ymysg plant a phobl ifanc. Rydym wrthi'n diweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio Hawliau, parch, cydraddoldeb er mwyn gwella'r cyngor ar fwlio sy'n seiliedig ar ragfarn.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymruchanllawiau ategol yn nodi pwysigrwydd neilltuo amser i gynnal y broses ADY mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn – gan roi safbwyntiau plant a'u teuluoedd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Fel rhan o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, mae dyletswydd wedi'i gosod ar gyrff llywodraethu a phenaethiaid i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o CCUHP a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Wrth i'r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno, bydd pob ysgol a lleoliad yng Nghymru yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar hawliau'r plentyn – gan roi pwyslais ar rôl ganolog hawliau wrth feithrin ein plant a'n pobl ifanc i fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd.

Mae arolygiadau Estyn yn cynnwys arolygu pa mor effeithiol y mae ysgolion a gynhelir, Unedau Cyfeirio Disgyblion a gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a llesiant disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a/neu'r rheini o aelwydydd incwm isel. Mae sawl enghraifft o arferion da.

Blaenoriaeth 4: cynhwysiant (gwasanaethau caredig, tosturiol nad ydynt yn stigmateiddio)

Byddwn yn gwneud y canlynol: 

  • Mynd ati mewn modd sy'n canolbwyntio ar hawliau plant o gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu, yn unol â CCUHP, gyda threchu tlodi ac anghydraddoldeb yn ffactorau ysgogi polisi trawsbynciol.
  • Gweithio gyda Hyb ACE Cymru a Straen Trawmatig Cymru i roi Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma ar waith, a fydd yn cynnwys nodi unrhyw adnoddau ychwanegol sydd eu hangen, gan gynnwys help a chymorth ar gyfer sefydliadau.
  • Mynd ati ar frys i roi ffocws newydd i'n gwaith gydag Estyn, ein partneriaid a rhanddeiliaid ehangach er mwyn mynd i'r afael â'r rhwystrau i roi dulliau prawfesur addysg o safbwynt tlodi ar waith a chreu amgylcheddau addysg cynhwysol sy'n seiliedig ar Hawliau'r Plentyn a gwerthoedd nad ydynt yn gwahaniaethu yn gyson.
  • Herio gwahaniaethu ac annog cydraddoldeb er mwyn sicrhau nad yw nodweddion gwarchodedig yn ei gwneud hi'n fwy anodd i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd wneud yn dda, gan gynnal ffocws clir ar ein cynlluniau cydraddoldeb er mwyn cyflawni hyn.

Amcan 5: sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol

Er mwyn inni gyflawni ein hamcanion mewn modd effeithiol, mae angen inni greu'r amodau cywir i alluogi newid. Bydd hyn yn hollbwysig er mwyn cyflawni ein dull Gwnaed yng Nghymru, Gwnaed i Gymru.

Mae ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu gyfredol yn cael eu llunio a'u cyflwyno, ac mae'r angen i drechu tlodi ac anghydraddoldeb yn ffactor ysgogi canolog. Mae neges y bobl a'r sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd mewn tlodi ac yn siarad ar eu rhan yn glir – mae angen inni sicrhau mwy o integreiddio ar draws polisïau, rhaglenni a buddsoddiadau Llywodraeth Cymru. Dywedodd pobl wrthym y bydd atgyfnerthu'r broses o integreiddio gwaith trawslywodraethol ymhellach yn cefnogi cydweithio cryfach ar lefelau rhanbarthol a lleol, gan arwain at gynllunio a chyflawni mwy effeithlon ac effeithiol.

Wrth inni fynd ar drywydd gwaith o dan Amcan 5 y strategaeth hon, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn gallu arfer ei hawliau drwy bolisïau a dulliau cyflawni sy'n hyrwyddo ac yn diogelu hawliau plant, yn unol ag Erthygl 4 (rhoi'r Confensiwn ar waith).

Gwyddom fod angen penderfyniadau cyllidebol symlach a mwy penodol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi gwaith trawslywodraethol i roi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar waith. Rydym yn cyhoeddi Cynllun Gwella'r Gyllideb bob blwyddyn. Mae'r Cynllun yn nodi ein gweledigaeth, gan gynnwys uchelgeisiau byrdymor a thymor canolig dros y pum mlynedd nesaf, i wella'r broses gyllidebu yn Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio Deddf 2015 a'r pum ffordd o weithio i ysgogi gwelliant parhaus. Rydym wedi sefydlu Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb roi cyngor, adborth a thystiolaeth o safbwynt cydraddoldeb a chynhwysiant.

Er mwyn ysgogi'r newid sydd ei angen a chael effaith diriaethol ar dlodi plant, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn cydweithio i wella bywydau plant a'u teuluoedd sy'n byw mewn aelwydydd tlawd a lleihau tlodi yn y tymor hwy. Mae'r trydydd sector (sefydliadau gwirfoddol ac elusennau) a chymunedau ffydd (sefydliadau a grwpiau crefyddol) yn darparu cymorth hollbwysig i blant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru ac yn chwarae rôl allweddol wrth fynd i'r afael â thlodi plant. Gall y sector preifat (busnesau) hefyd fod yn allweddol i gefnogi llwybrau allan o dlodi drwy weithgarwch uniongyrchol busnesau a thrwy weithio mewn partneriaeth ag elusennau bach a lleol, pobl a chymunedau.

Mae pobl sy'n gweithio mewn cyrff cyhoeddus a'r trydydd sector wedi dweud wrthym fod angen cydgysylltu a chydweithio cryfach rhwng sefydliadau sy'n gweithio ar lefelau lleol a rhanbarthol i drechu tlodi, gan gynnwys tlodi plant, a bod angen inni ddefnyddio ein pwerau i ddwyn partneriaid ynghyd a chanolbwyntio ar weithredu lle mae'r angen mwyaf.

Ar lefel ranbarthol, mae Byrddau Gwasanaethau CyhoeddusByrddau Partneriaeth RhanbartholChyd-bwyllgorau Corfforedig yn dwyn partneriaid lleol a rhanbarthol ynghyd i hybu llesiant drwy gydweithio mewn ffordd fwy effeithiol.

Gall dull Marmot helpu partneriaid lleol a rhanbarthol i drechu annhegwch drwy fynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd – yr amodau cymdeithasol ac economaidd sy'n llywio eich iechyd. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn gweithio tuag at ddod yn Rhanbarth Marmot ac rydym wedi ceisio cymorth yr Athro Syr Michael Marmot a'i dîm yn y Sefydliad Tegwch Iechyd.

Mae Rhaglen yr Economi Sylfaenol yn ystyried sut rydym yn gwario arian yng Nghymru a sut y gallwn wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynglŷn â sut i'w wario ar gyfer y tymor hwy. Mae'r Economi Sylfaenol yn ymwneud â chyflawni canlyniadau gwell i bobl sydd dan anfantais drwy sicrhau ein bod yn cydweithio ar draws sectorau i wella cyfleoedd economaidd, addysgol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Drwy weithio yn y ffordd hon, rydym yn helpu i greu Cymru fwy cydnerth a gwyrddach drwy leihau cadwyni cyflenwi byd-eang a chryfhau busnesau sydd â'u gwreiddiau yng Nghymru. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant. Bydd y dull gweithredu hwn yn sicrhau bod darparu swyddi a chyfleoedd lleol wrth wraidd ein cymunedau.

Fel rhan o Raglen Lywodraethu gyfredol Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i leihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol, er mwyn eu galluogi i fwrw ati gyda'u gwaith hollbwysig a pheidio â chael eu llesteirio gan unrhyw fiwrocratiaeth ddiangen.

Mae Canolfan Rhagoriaeth Grantiau Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno proses gyllido a meincnodi hirach, er mwyn galluogi cyllid tymor hwy/amlflwyddyn lle y bo'n briodol.

Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Mae'n gwella'r broses o wneud penderfyniadau ac yn helpu'r rheini sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn rhoi cyfle inni wneud pethau'n wahanol yng Nghymru. Mae'n sicrhau bod trechu anghydraddoldeb wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, a bydd yn adeiladu ar y gwaith da y mae cyrff cyhoeddus eisoes y ei wneud.

Mae adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Gwerthuso'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru a'r Alban (2021), yn ystyried sut mae Cymru yn rhoi'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol (rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) ar waith, neu'n paratoi i wneud hynny. Mae'r adroddiad yn nodi sut y gellir rhoi'r ddyletswydd ar waith yn effeithiol, y rhwystrau i wneud hynny, sut mae'r ddyletswydd yn effeithio ar ymddygiad cyrff cyhoeddus a'r camau y mae angen eu cymryd i sicrhau llwyddiant yn y dyfodol.

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi datblygu cyfres o adnoddau, Y Ffordd Gywir: Dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant, sy’n gosod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth wraidd gwaith cynllunio a darparu gwasanaethau. Wrth inni weithio gyda phartneriaid er mwyn cryfhau trefniadau cydweithio, dod o hyd i ddatrysiadau ar y cyd a hybu arferion da, bydd yn bwysig sicrhau ein bod ni gyda’n gilydd yn mabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant. Wrth inni weithio gyda phartneriaid i alluogi cydweithio ac i gefnogi arferion da, byddwn yn meddwl am ddull gweithredu seiliedig ar hawliau plant fel egwyddor yn sail i'r gwaith a ddatblygwn ac a ddarparwn ar y cyd. Bydd hyn yn hyrwyddo Erthygl 42 (gwybodaeth am hawliau) o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector, cymunedau ffydd a'r sector preifat yn bartneriaid allweddol wrth fynd i'r afael â thlodi plant, ac maent eisoes yn arwain gwaith pwysig i wella bywydau plant a phobl ifanc, nawr ac yn y dyfodol. Er bod sefydliadau ledled Cymru yn gweithio i fynd i'r afael â'r un materion, mae angen dull cryfach o alluogi cydweithio a dysgu a rennir er mwyn cefnogi datrysiadau effeithiol, wedi'u haddasu i anghenion lleol.

Blaenoriaeth 5: galluogi cydweithio (ar lefel ranbarthol a lleol)

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  1. Cryfhau dull Llywodraeth Cymru o integreiddio nodau polisi a chyllid er mwyn galluogi cydweithio tymor hwy ar drechu tlodi yn lleol ac yn rhanbarthol.
  2. Gweithio gyda chyrff cyhoeddus a'r trydydd sector i ddatblygu enghreifftiau arloesol o arferion da a chanlyniadau cadarnhaol a'u rhannu, er mwyn nodi lle mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn berthnasol a meysydd gwaith newydd neu sy'n bodoli eisoes y gellid neu y dylid ei chymhwyso atynt, a hyrwyddo a chefnogi perthnasedd y ddyletswydd i ymdrechion ehangach i drechu anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau annheg
  3. Nodi'r dull gorau, ar y cyd â phartneriaid, o ddarparu galluedd ychwanegol er mwyn helpu i gydlynu ymdrechion gwrthdlodi ar draws trefniadau partneriaeth rhanbarthol a nodi a chynghori ar yr opsiynau i gefnogi gwaith cydweithredol i fynd i'r afael â thlodi plant mewn ffordd well.
  4. Sefydlu a chefnogi dull Cymunedau Ymarfer o ddarparu fforwm lle y gall cydweithwyr o wasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector ledled Cymru gymharu gwersi a ddysgwyd a rhannu arferion da er mwyn cefnogi dull cydgysylltiedig o gyllido, datblygu a chyflwyno gwaith i greu Cymru Fwy Cyfartal, gan gynnwys mynd i'r afael â thlodi plant.
  5. Gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a phartneriaid ehangach i roi fframwaith NYTH ar waith i gyflawni dull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant babanod, plant a phobl ifanc. Mae Fframwaith NYTH yn canolbwyntio ar bwysigrwydd penderfynyddion ehangach iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys pryderon am dlodi plant, ac mae'n dwyn gwasanaethau addysg, gofal cymdeithasol, iechyd a'r trydydd sector ynghyd i weithio mewn partneriaeth i greu dull cydgysylltiedig o ddarparu cymorth iechyd meddwl. 

Sut y byddwn yn monitro ein cynnydd ac yn adrodd arno

Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, gosododd ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion tlodi plant ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion hynny.

Lluniwyd y strategaeth hon ar y cyd â'r plant, y bobl ifanc, y teuluoedd a'r sefydliadau sydd wedi rhoi o'u hamser er mwyn ein helpu i ddeall beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddynt. Rydym yn ymrwymedig i gynnal y ffordd hon o weithio wrth inni gyflwyno'r strategaeth ddrafft.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn llywio penderfyniadau gwell yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn cydbwyso anghenion y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r cerrig milltir cenedlaethol yn mesur ein proses ar y cyd fel cenedl a bydd y cynnydd a wneir tuag at gyflawni'r cerrig milltir cenedlaethol hyn yn ein helpu i greu Cymru fwy cynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol.

Byddwn yn cynhyrchu Fframwaith i fonitro ac adrodd ar effaith y strategaeth hon, gan weithio gydag arbenigwyr academaidd annibynnol, a fydd yn ystyried Dangosyddion Cenedlaethol Llesiant Cymru. Bydd Adroddiad Cynnydd nesaf y Strategaeth Tlodi Plant ar gael ym mis Rhagfyr 2025.