Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant.

Cyhoeddwyd gyntaf: 26 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Medi 2024

Rhagair

Rhagair gan y Prif Ystadegydd

Mae’r flwyddyn nesaf yn nodi 10 mlynedd ers Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf hon yn sail i adroddiad Llesiant Cymru, sy’n mynnu ein bod ni’n pwyso a mesur yn flynyddol y cynnydd rydym ni’n ei wneud tuag at y saith nod llesiant.

Eleni, fe welsom ni newid bach i’r diffiniad o un o’r saith nod hynny. Fe wnaeth Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) newid y geiriau “gwaith teilwng” am “gwaith teg” yn y diffiniad o nod Cymru Lewyrchus. Mae’r newid hwn yn golygu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r dangosyddion cenedlaethol a’u cerrig milltir cysylltiedig i sicrhau eu bod yn dal i fesur cynnydd tuag at eiriad newydd y nod a hynny mewn ffordd briodol. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal cyn yr adroddiad Llesiant Cymru nesaf. Fel rhan o’r adolygiad hwn, byddwn ni’n ystyried y newidiadau a wnaethom ni i’r dangosyddion cenedlaethol yn 2021 a wnaeth ystyried yr argymhellion o’r Comisiwn Gwaith Teg.

Beth yw’r canfyddiadau eleni?

Mewn adroddiadau Llesiant Cymru blaenorol, rydym ni wedi canfod bod anghydraddoldebau’n ehangu, bod yr argyfwng costau byw wedi effeithio ar incwm pobl, a bod plant a phobl ifanc yn dioddef yn waeth ers y pandemig. Gyda saib yn Arolwg Cenedlaethol Cymru eleni (sy’n darparu data ar gyfer tua chwarter y dangosyddion cenedlaethol), mae nifer o bynciau lle nad oes data ar gael i ddarparu asesiad mwy diweddar. Ond o edrych ar y dangosyddion sydd wedi cael eu diweddaru eleni ac ar ddata o flynyddoedd blaenorol, nid oes fawr o dystiolaeth eto bod y tueddiadau ehangach hyn yn newid. 

Mae tystiolaeth o hyd bod pobl sydd â phrofiad o amddifadedd yn debygol o fod â chanlyniadau gwaeth. O ran llesiant meddyliol, mae’r bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig wedi ehangu, ac mae pobl sy’n byw mewn amddifadedd materol yn fwy tebygol o fod yn unig. Mae’r bwlch o ran marwolaethau y mae modd eu hosgoi rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig ar ei lefel uchaf ers 2003 ar gyfer dynion ac ers i’r gyfres ddechrau ar gyfer menywod. Mae plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn dal i fod â chanlyniadau addysgol gwaeth, gyda’r bwlch graddau A* i C yn ehangu (ond y bwch graddau A* i A yn cyfyngu). Yn ogystal, wrth edrych ar gydlyniant cymunedol, mae tuedd amlwg tuag ymdeimlad cynyddol o gymuned, bodlonrwydd â’r ardal leol a diogelwch ar ôl iddi dywyllu wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng.

Ffordd newydd o gyfathrebu cynnydd

Wrth i ni nesáu at 10 mlynedd ers Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym ni wedi ystyried sut y gallwn ni barhau i ddarparu gwybodaeth newydd a ffyrdd gwell o gyfathrebu cynnydd tuag at y nodau llesiant. Gan adeiladu ar adborth gan ddefnyddwyr, eleni rydym ni’n arbrofi gyda ffordd newydd o ddangos cynnydd, gan ganolbwyntio ar yr 17 carreg filltir genedlaethol. Mae’r cerrig milltir yn dargedau cenhedlaeth sy’n disgrifio cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y saith nod llesiant. Rydym ni wedi edrych ar y data ar gyfer pob carreg filltir ers 2015, sef pan ddaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i rym, ac wedi asesu a yw’r duedd wedi bod yn gwella ai peidio ers y dyddiad hwnnw. 

Mae sawl rhan i rai o’r 17 o gerrig milltir, felly fe wnaethom ni asesu cyfanswm o 21 cynnydd i gyd. Roedd deg o’r rhain wedi gwella ers 2015, sy’n awgrymu bod Cymru’n mynd i’r cyfeiriad cywir tuag at y garreg filltir. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, er y gallai’r duedd fod yn symud i’r cyfeiriad cywir, bydd angen i ni symud yn gyflymach i gyrraedd y targed erbyn 2050. Roedd pum carreg filltir wedi dirywio, nid oedd pump wedi newid fawr ddim, neu o gwbl, ac nid oedd modd asesu cynnydd un garreg filltir gan mai dim ond blwyddyn o ddata oedd ar gael. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd y cerrig milltir yn parhau i ddilyn y tuedd tymor hirach a sefydlwyd cyn 2015.

Gallwch chi ddarllen mwy am y dull gweithredu rydym ni wedi’i fabwysiadu yn y bennod ar gerrig milltir cenedlaethol. Gan fod hon yn ffordd newydd o gyflwyno’r wybodaeth hon, rydym ni’n awyddus i glywed eich adborth ynghylch a yw hyn yn eich helpu i ddeall y cynnydd tuag at y nodau llesiant.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd

Prif bwyntiau

Prif bwyntiau

Yn dilyn cyfnodau economaidd anodd o ganlyniad i’r pandemig a’r rhyfel yn Wcráin, mae pethau wedi gostegu rhywfaint yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Er hynny, prin wnaeth economi ehangach y Deyrnas Unedig dyfu yn 2023 gyda chanlyniad tebyg yng Nghymru hefyd. 

Mae chwyddiant bellach wedi dychwelyd i gyfraddau mwy nodweddiadol, sef tua tharged Banc Lloegr o 2%. Fodd bynnag, mae chwyddiant wedi effeithio ar safonau byw, gydag incwm gwario aelwydydd y Deyrnas Unedig y pen yn parhau i fod yn is na’r lefel cyn y pandemig ar ôl ystyried chwyddiant. 

Rhwng 2021 a 2023, roedd 21% o holl bobl Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, ar ôl talu costau tai. Mae plant yn parhau i fod y grŵp poblogaeth sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol. Mae’r data diweddaraf (2020-21 a 2022-23) yn dangos bod hyn yn wir am 29% o blant yng Nghymru o’i gymharu ag 16% o bensiynwyr.

Mae data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos bod y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig wedi cynyddu yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024. Cynyddodd y gyfradd ddiweithdra yn y ddwy wlad, tra bod y gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng. Fodd bynnag, yn y ddwy wlad, mae nifer y bobl oedran gweithio a oedd yn economaidd anweithgar oherwydd salwch yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig. 

Mae cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru yn dal yn is ar gyfer menywod nag ar gyfer dynion (70.2% a 76.8% yn y drefn honno yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024). Mae’r bwlch wedi tyfu i 6.6 pwynt canran o 4.8 pwynt canran yn y flwyddyn flaenorol. Mae’r bwlch yn y gyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn 2024, sef 30.9 pwynt canran, wedi gostwng o 35.4 pwynt canran yn 2016.

Sefydlwyd carreg filltir genedlaethol ar gymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur yn 2021, sef y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Mae’r amcangyfrifon dros dro yn dangos bod 85.8% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2022, i fyny o 83.7% yn 2021. Mae’r cynnydd hwn yn bennaf oherwydd cynnydd yn y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed. 

Ym mis Ebrill 2023, 5.6% oedd y bwlch cyflog rhwng y rhyweddau (llawnamser), yr un fath â’r flwyddyn flaenorol. Yn 2023, ehangodd y bwlch cyflog anabledd ychydig o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, i 12.2%, a chyfyngodd y bwlch cyflog ethnigrwydd ychydig i 13.8%.

Mae’r dangosydd cenedlaethol o garbon mewn pridd ar gyfer 2021-23 yn dangos bod crynodiad y carbon yn ein huwchbridd yn sefydlog ar y cyfan, ar wahân i dir âr a choetir llydanddail, lle gwelwyd bod carbon wedi’i golli o'r uwchbridd o’i gymharu â'r crynodiadau yn 2013-16.

Roedd bron i 49,000 eiddo yng Nghymru mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd o afonydd a mwy na 79,000 eiddo mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd llanw yn 2024. 

Ar ôl cynyddu yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19), roedd faint o wastraff cartref a oedd yn cael ei gynhyrchu, ond ddim yn cael ei ailgylchu, fesul person, wedi gostwng 

Gostyngodd disgwyliad oes am yr ail gyfnod yn olynol, sy'n cynnwys cyfnod y pandemig coronafeirws. Roedd y bwlch disgwyliad oes rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yn debyg i’r cyfnod blaenorol ar gyfer menywod a dynion. Mae disgwyliad oes iach wedi gostwng o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol.

Cynyddodd nifer y marwolaethau o bob achos yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ond roedden nhw’n is na’r nifer uchel o farwolaethau a welwyd yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae cynnydd bach wedi bod yn nifer y babanod pwysau geni isel, gyda 2022 yr uchaf erioed. Nid oedd y ffigur hwn wedi newid yn 2023.

Roedd bodlonrwydd ar fywyd a lefelau gorbryder ymysg oedolion wedi dirywio o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Yn ystod haf 2023, roedd 69.7% o ferched wedi cael graddau A* i C. Roedd hyn 7.3 pwynt canran yn uwch na bechgyn. Mae’r bwlch wedi lleihau ychydig yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd llai difreintiedig yn fwy tebygol o gytuno â phob un o’r tri mesur cydlyniant cymunedol. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu a bod yn fodlon ar eu hardal leol na phobl sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Mae canran yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd wedi gostwng, ac mae nifer yr unigolion mewn llety dros dro wedi cynyddu. Mae’r amcangyfrif o nifer yr unigolion sy’n cysgu allan dros 50% yn uwch o’i gymharu ag amcangyfrifon 2022. 

Roedd tua 7% o oedolion yng Nghymru wedi dioddef trosedd (ac eithrio twyll) yn 2023-24. Roedd troseddau sy’n cael eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru (ac eithrio twyll) wedi gostwng 4% yn 2023-24 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac roedd yr un peth yn wir am drais yn erbyn y person.

Roedd cyfanswm nifer y troseddau casineb sy’n cael eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru wedi gostwng 4% yn 2022-23. Fodd bynnag, roedd troseddau casineb lle’r oedd statws crefydd neu drawsryweddol yn ffactor ysgogol wedi cynyddu 26% a 22% yn y drefn honno

Ers 2016-17, gwelwyd cynnydd cymharol fawr yn yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, er gwaethaf y ffaith bod y sefyllfa wedi aros ar yr un lefel rhwng 2017-18 a 2019-20. Roedd nifer y disgyblion ysgol oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon wedi cynyddu ond erbyn hyn mae wedi gostwng i lefelau tebyg i’r hyn welwyd yn 2013. 

Mae’r data cyntaf ar ôl y pandemig ar bresenoldeb a chyfranogiad plant mewn gweithgareddau celfyddydol yn dangos bod y ddau wedi gostwng ers 2019. Mae hyn yn cyferbynnu â’r darlun ar gyfer oedolion, lle na wnaeth y ganran a oedd yn mynychu ac yn cymryd rhan yn rheolaidd yn y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth newid yn sylweddol ar ôl y pandemig.

Mae dadansoddiad newydd o’r defnydd o’r Gymraeg yn dangos bod dros hanner y siaradwyr Cymraeg 16 oed a hŷn yn siarad Cymraeg â’u cydweithwyr o leiaf peth o’r amser, a bod ychydig o dan 1 o bob 5 bob amser yn siarad Cymraeg â chydweithwyr. 

Yn 2022, amcangyfrifwyd bod allyriadau nwyon tŷ gwydr a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru yn dod i gyfanswm o 35.7 miliwn o dunelli o garbon deuocsid cyfatebol (MtCO2e), gostyngiad o 0.1% ers 2021.

Cymru lewyrchus

Y nod i Gymru lewyrchus

Awduron: Dr Thomas Nicholls a Sue Leake 

Cymru lewyrchus: Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith teg.

Beth ydym wedi ei ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Yn dilyn cyfnodau economaidd anodd o ganlyniad i’r pandemig a’r rhyfel yn Wcráin, mae pethau wedi gostegu rhywfaint yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Er hynny, prin wnaeth economi ehangach y Deyrnas Unedig dyfu yn 2023 gyda chanlyniad tebyg yng Nghymru hefyd. 

Mae chwyddiant bellach wedi dychwelyd i gyfraddau mwy nodweddiadol, sef tua tharged Banc Lloegr o 2%. Fodd bynnag, mae chwyddiant yn dal i fod wedi effeithio ar safonau byw, gydag incwm gwario aelwydydd y Deyrnas Unedig y pen yn parhau i fod yn is na’r lefel cyn y pandemig ar ôl ystyried chwyddiant. 

Rhwng 2021 a 2023, roedd 21% o holl bobl Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai).

Mae perfformiad economaidd sylfaenol Cymru yn parhau i fod yn wannach na’r Deyrnas Unedig drwyddi draw o ran cynnyrch economaidd (gwerth ychwanegol gros) ac incwm aelwydydd (incwm gwario gros aelwydydd ac incwm canolrifol aelwydydd), ond mae’n eithaf tebyg i rai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig sydd â nodweddion a phriodweddau tebyg. 

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi Arolwg o'r Llafurlu (LFS) a dyma sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd fel y brif ffynhonnell data ar gyfer asesu perfformiad economaidd tymor byr economi Cymru. Nid yw’r Arolwg o’r Llafurlu bellach yn cael ei ystyried yn ffynhonnell gwybodaeth ddibynadwy am dueddiadau diweddar am amodau’r farchnad lafur yng Nghymru, yn bennaf oherwydd bod llai o bobl yn ymateb i’r arolwg. Drwy ddefnyddio gwybodaeth o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a ffynonellau eraill fel cyfran y gweithlu sy’n hawlio budd-daliadau oherwydd diweithdra a nifer y bobl ar gyflogresi TWE mae’n amlwg bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi parhau i ddatblygu mewn ffordd debyg i'r farchnad lafur yn y Deyrnas Unedig.     

Mae data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos bod y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig wedi cynyddu yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024. Cynyddodd y gyfradd diweithdra yn y ddwy wlad. Gostyngodd y gyfradd anweithgarwch economaidd. Fodd bynnag, yn y ddwy wlad, mae nifer y bobl oedran gweithio a oedd yn economaidd anweithgar oherwydd salwch yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig. 

Sefydlwyd carreg filltir genedlaethol ar gymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur yn 2021, sef y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Mae’r amcangyfrifon dros dro yn dangos bod 85.8% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2022, i fyny o 83.7% yn 2021. Mae’r cynnydd hwn yn bennaf oherwydd cynnydd yn y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed. Mae’n dal i fod yn rhy gynnar i asesu effaith y pandemig ar y duedd hon.

Roedd 52% o weithwyr yn dod o dan drefniadau cydfargeinio yn 2023, lle mae cyflog ac amodau’n cael eu negodi rhwng cyflogwr ac undeb llafur. Mae’r gyfres amser ar gyfer y dangosydd hwn yn anwadal, ond roedd yn isel yn 2023 o’i gymharu â’r cyfartaledd ers 2011. 

Ym mis Ebrill 2023, 5.6% oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (llawnamser), yr un fath â’r flwyddyn flaenorol. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023, roedd y gwahaniaeth cyflog ar sail anabledd yn £1.75 yr awr (neu 12.2%) sy’n golygu bod gweithwyr anabl yng Nghymru yn ennill £1.75 yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Mae hyn wedi codi £0.43 (2.5 pwynt canran) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023 roedd y gwahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd yn £1.93 yr awr (neu 13.8%), sy’n golygu bod gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru yn ennill £1.93 yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn. Roedd y gwahaniaeth cyflog wedi lleihau £0.30 (3.0 pwynt canran) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

Mae data am deithio a siwrneiau yn dangos i ni bod lefel y traffig yng Nghymru yn 2023 wedi aros ar tua 3% o dan lefelau cyn y pandemig, er bod lefel traffig bysiau 17% yn is nag yn 2019. Mae’r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod mwyafrif helaeth trigolion Cymru yn teithio i’r gwaith mewn car yn 2022 (79%), ac yn 2021-22 roedd y rhan fwyaf o bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed fel arfer yn cerdded i’r ysgol neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (68%). 

Mae proffil cymwysterau poblogaeth oedran gweithio Cymru wedi bod yn gwella dros amser. Yn 2023, roedd cyfran y boblogaeth gyda chymwysterau lefel 3 (cyfwerth i Safon Uwch) a lefel 4 (cyfwerth i lefel gradd) wedi cynyddu, ac roedd cyfran y boblogaeth heb unrhyw gymwysterau wedi gostwng rhywfaint.

Beth yw’r cynnydd tymor hirach at y nod?

Cymysg fu’r cynnydd at y nod, gyda gwelliannau ym mherfformiad cyffredinol y farchnad lafur o’i gymharu â’r cyfnod cyn datganoli ond llai o gynnydd wrth fynd i’r afael â thlodi, cynhyrchiant a chyflogau isel, a lefelau incwm isel. Mae cynnydd wedi ei wneud o ran datgarboneiddio, ond bydd angen newid yn gyflymach yn y dyfodol er mwyn cyrraedd targedau.

Roedd canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yn 2022-23 yn 21% o’i gymharu â 25% tuag at ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Mae plant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r boblogaeth yn gyffredinol, ond mae amlder tlodi wedi gostwng yma hefyd. 

Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru yn llawer agosach at gyfartaledd y Deyrnas Unedig na’r gwerth ychwanegol gros (GVA) y pen, gyda gwahaniaethau yn dibynnu ar y mesur a ddefnyddiwyd a chyda’r bwlch lleiaf pan asesir ar gyfer y cartref canolrifol.

Y garreg filltir genedlaethol ar gyflogaeth (sy'n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) yw dileu’r bwlch rhwng y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur. Mae’r bylchau hanesyddol mewn cyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch rhwng Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi lleihau ers datganoli, gyda Chymru’n perfformio’n well na rhai rhanbarthau yn Lloegr dros y tymor canolig. Mae hyn yn newid sylweddol ers y cyfnod cyn datganoli yn y 1980au a’r 1990au.

Mae yna ganran uwch o bobl sy’n ennill llai na’r cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Yn ogystal, mae’r dystiolaeth ar agweddau eraill ar ansawdd gwaith yn awgrymu darlun cymysg yng Nghymru. 

Mae proffil cymwysterau poblogaeth oedran gweithio Cymru wedi bod yn gwella dros amser. Un o’r cerrig milltir cenedlaethol ar gymwysterau yw y bydd 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Yn 2023, roedd 67.4% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru wedi cymhwyso i lefel 3 neu uwch. Y garreg filltir genedlaethol arall ar gymwysterau yw y bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050. Yn 2023, roedd gan bump o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru 5% neu lai o oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau.

Cynyddodd cyrhaeddiad mewn ysgolion uwchradd yn y blynyddoedd cyn y pandemig. Amharwyd ar arholiadau cyhoeddus yn 2020 a 2021 oherwydd pandemig COVID-19, ac roedd 2021/222 yn flwyddyn bontio lle’r oedd disgyblion yn sefyll arholiadau ysgrifenedig gyda rhai addasiadau. Mae data ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23, lle gwelwyd newid pellach yn ôl i’r trefniadau asesu cyn y pandemig (gan gadw rhywfaint o gymorth ar gyfer dysgwyr), yn dangos rhywfaint o welliant parhaus o’i gymharu â blynyddoedd cyn y pandemig. Fodd bynnag, mae canlyniadau plant o gefndiroedd o amddifadedd yn dal i fod yn waeth. 

Mae rheoli’r rhyngweithio rhwng twf economaidd a datblygu economi arloesol, garbon isel yn gymhleth ac yn arwain at heriau, ond mae arwyddion cadarnhaol mewn rhai sectorau. 

Ers dirwasgiad 2008, mae buddsoddi yn arloesedd cwmnïau yng Nghymru wedi amrywio. Cofnodwyd bod pethau wedi gwella rhywfaint cyn y pandemig o ran bod busnesau’n arloesi.

Mae teithio’n cyfrannu’n sylweddol at allyriadau carbon, ond nid oes tystiolaeth o symud oddi wrth geir fel y prif ddull o deithio.

O 2023 ymlaen, mae data Prydain Fawr yn dangos bod lefelau traffig a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn codi’n ôl ers y pandemig ond heb gyrraedd y lefelau cyn y pandemig eto, gydag effaith benodol ar ddefnyddio bysiau.

Perfformiad economaidd

Fel sy’n wir ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, mae twf yn yr economi ac mewn incwm gwirioneddol wedi bod yn araf ers dirwasgiad 2008, gan adlewyrchu twf gwael mewn cynhyrchiant.   Mae twf cynhyrchiant hefyd wedi bod yn wan dros y cyfnod hwn yn y rhan fwyaf o wledydd datblygedig eraill, ond mae wedi bod yn arbennig o wael yn y Deyrnas Unedig. Mae’r cyfnod hir o dwf araf mewn cynhyrchiant ac incwm gwirioneddol yn ddigynsail yn y cyfnod modern.

Dros yr hirdymor, ers 1998, a chymryd dangosyddion economaidd gyda’i gilydd, mae Cymru wedi cadw’n weddol gyson â’r Deyrnas Unedig. Er bod y perfformiad economaidd yn parhau i fod yn wan o’i gymharu â llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae data cynhyrchiant dros y degawd diwethaf yn rhoi awgrym o obaith. Fodd bynnag, mae’r bwlch gyda’r Deyrnas Unedig gyfan yn dal yn fawr, ac nid yw’r Deyrnas Unedig ei hun yn perfformio’n gryf o’i chymharu â lefelau cynhyrchiant yn rhyngwladol. 

Mae gwerth ychwanegol gros (GVA) yn cynrychioli gwerth yr holl nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir mewn ardal. Dyma ffynhonnell yr incwm gwirioneddol y mae pobl yn ei ennill a’r sylfaen y gellir codi trethi arni i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. 

Er bod gwerth ychwanegol gros y pen poblogaeth Cymru wedi tyfu’n weddol debyg i’r gyfradd ledled y Deyrnas Unedig ers 1998, mae’n dal yn is na bron pob un o wledydd a rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig. 

Mae’r data diweddaraf (ar gyfer 2022) yn dangos mai gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru oedd 72.1% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig, yr ail isaf o blith 12 gwlad y Deyrnas Unedig a rhanbarthau Lloegr, o flaen Gogledd-ddwyrain Lloegr. 

Mae perfformiad Cymru o ran gwerth ychwanegol gros y pen yn bennaf yn adlewyrchu’r lefelau cynhyrchiant cymharol isel. Mae cynhyrchiant, sy’n cael ei fesur fel gwerth ychwanegol gros yr awr a weithir, yn is yng Nghymru nag mewn gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig a rhanbarthau yn Lloegr. Yn 2022 roedd yn 82.7% o ffigur y Deyrnas Unedig. Ers 2004, mae cynhyrchiant yng Nghymru wedi bod rhwng 81.7% a 85.3% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig.

Ffigur 1.1: Gwerth ychwanegol gros yr awr a weithir yng Nghymru, gan gymharu â’r Deyrnas Unedig (y DU = 100), 1998 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.1: Siart linell sy’n dangos bod gwerth ychwanegol gros (gwerth ychwanegol gros) yr awr a weithir yng Nghymru o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig (mynegai prisiau cyfredol y Deyrnas Unedig = 100) wedi bod yn weddol sefydlog ers 1998, gyda chynhyrchiant Cymru yn parhau i fod yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o gynhyrchiant llafur Rhanbarthol, y Deyrnas Unedig, 1998 i 2022, y SYG

Arloesi mewn busnesau

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf o arolwg arloesi’r Deyrnas Unedig ar gyfer y cyfnod 2020 i 2022 yn dangos bod 31% o fusnesau Cymru yn weithredol o ran arloesi (yn seiliedig ar ddiffiniad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)). Mae hyn yn golygu eu bod yn gwneud gweithgareddau fel cyflwyno cynnyrch, gwasanaethau, prosesau neu arferion neu strwythurau busnes newydd neu well; neu’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu neu hyfforddiant. 

Cymru oedd â’r gyfran isaf o gwmnïau arloesi o holl wledydd y Deyrnas Unedig a rhanbarthau Lloegr yn ystod y cyfnod. Mae hyn yn defnyddio lleoliad daearyddol yn seiliedig ar leoliad prif swyddfa’r busnesau. Nid yw’n glir faint o effaith y gallai hyn ei chael ar fesur arloesi yng Nghymru. Mae cyfnod diweddaraf yr arolwg (2020-22) yn cynnwys pandemig COVID-19, sy’n debygol o fod wedi cael effaith ar arloesedd busnes.

Ers dirwasgiad 2008, mae buddsoddiad mewn arloesedd busnes wedi amrywio. Mae’r cyfnod diweddaraf (2020 i 2022) yn dangos gostyngiad yng Nghymru o’i gymharu â chyfnodau blaenorol, er bod gostyngiadau hefyd yng nghanrannau’r busnesau arloesedd gweithredol ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig.

Ffigur 1.2: Busnesau arloesedd gweithredol yng Nghymru Cymru a’r Deyrnas Unedig, 2008-10 i 2020-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.2: Siart linell yn dangos bod cyfran y busnesau arloesedd gweithredol yng Nghymru wedi dilyn tuedd y Deyrnas Unedig yn agos, gyda’r ddau yn dangos gostyngiad ar gyfer cyfnod diweddaraf yr arolwg (2020-22).

Ffynhonnell: Arolwg Arloesedd y DU, Yr Adran Busnes a Masnach.

Incwm aelwydydd

Mae incwm aelwydydd yn ddangosydd gwell o ffyniant a llesiant materol pobl na gwerth ychwanegol gros. Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru yn llawer agosach at gyfartaledd y Deyrnas Unedig na gwerth ychwanegol gros (GVA) y pen, ond mae gwahaniaethau yn dibynnu ar y mesur a ddefnyddiwyd, gyda’r bwlch lleiaf wrth ystyried yr incwm canolrifol. 

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar incwm yn defnyddio mesur incwm gwario gros aelwydydd (GDHI). Y garreg filltir genedlaethol ar incwm aelwydydd yw gwella GDHI y pen erbyn 2035. O ran y mesur hwn, mae Cymru, yn ôl y data diweddaraf (2022), ar 82% o ffigur y Deyrnas Unedig, ar ôl gostwng o 88% pan oedd y ffigur uchaf yn 2003. Mae’r gostyngiad cymharol hwn wedi ei ysgogi’n rhannol gan gynnydd mawr yn incwm aelwydydd yn Llundain, sydd wedi helpu i godi cyfartaledd y Deyrnas Unedig. 

Er mai dim ond un o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig sydd ag incwm gwario gros aelwydydd y pen is na Chymru, mae’n cymharu’n fras ag ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â nodweddion tebyg.

Ffigur 1.3: Incwm gwario gros aelwydydd y pen, Cymru a’r Deyrnas Unedig, 1999 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.3: Siart linell yn dangos bod incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) y pen wedi cynyddu’n gyffredinol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ers 1999, gyda’r gwerth i Gymru yn parhau’n is na’r Deyrnas Unedig ar draws y cyfnod amser.

Ffynhonnell: Incwm Gwario Gros Aelwydydd Rhanbarthol, Y SYG

Y farchnad lafur

Yr Arolwg o’r Llafurlu yw’r ffynhonnell swyddogol a mwyaf amserol o ddata sy’n disgrifio amodau’r farchnad lafur yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Er bod maint sampl cymharol fach yn golygu bod y data bob amser yn anwadal, dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi dod yn llawer mwy amlwg, yn bennaf oherwydd bod cyfraddau ymateb wedi gostwng. O ganlyniad, nid yw’r data ar lefel gwlad a rhanbarth y Deyrnas Unedig yn cael eu dosbarthu fel ystadegau swyddogol achrededig mwyach, gyda chyfyngau hyder cymharol fawr ar gyfer amcangyfrifon Cymru, sy’n gwneud y data’n llai dibynadwy ac yn fwy ansicr.   

Ar wahân i faterion ansawdd data’r Arolwg o'r Llafurlu presennol, mae bob amser yn synhwyrol ystyried data eraill ar y farchnad lafur a gyhoeddir ochr yn ochr â data’r Arolwg o’r Llafurlu, i fesur sefyllfa ddiweddaraf y farchnad lafur yng Nghymru. Mae ffynonellau data eraill yn cynnwys data Cyllid a Thollau EF sy’n cofnodi union nifer y gweithwyr Talu Wrth Ennill (TWE) a data’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n cyfrif nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn bennaf am resymau diweithdra. Mae’r data hyn yn dangos bod y momentwm yn y farchnad lafur wedi arafu yn ystod 2024. Mae rhagolygon diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a Banc Lloegr yn disgwyl i ganlyniadau’r farchnad lafur yn y Deyrnas Unedig ddirywio dros y tymor agos.     

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn caniatáu amcangyfrifon o ganlyniadau’r farchnad lafur ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o’r boblogaeth, a dyma’r ffynhonnell ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol cysylltiedig. Gan fod y rhan fwyaf o ddata’r farchnad lafur yn seiliedig ar arolwg ac yn anwadal, ni ddylid gor-ddehongli newidiadau tymor byr. Y garreg filltir genedlaethol ar gyflogaeth (sy'n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) yw dileu’r bwlch rhwng y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur. Yn ôl yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 73.5% yn y flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2024, tra bo cyfradd y Deyrnas Unedig yn 75.4%. Ers diwedd Mawrth 2005, mae’r gyfradd cyflogaeth wedi cynyddu 4.1 pwynt canran yng Nghymru a 2.9 pwynt canran yn y Deyrnas Unedig, gyda’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth yn lleihau o 3.1 pwynt canran i 1.9 pwynt canran. 

Mae COVID-19 wedi cael effeithiau niweidiol ar y farchnad lafur, ac mae hynny wedi cael effaith anghymesur ar grwpiau a oedd eisoes o dan anfantais. Mae hyn yn cynnwys pobl mewn swyddi sy’n talu’n wael, mewn swyddi llai diogel, pobl ifanc, pobl sy’n cyrraedd diwedd eu bywyd gwaith, a phobl mewn grwpiau amrywiol a oedd eisoes yn profi anghydraddoldebau yn y farchnad lafur. Fodd bynnag, mae llawer o’r effeithiau niweidiol wedi cael eu lleihau neu eu gwrthdroi wedyn (mae dadansoddiad o'r anghydraddoldebau wedi’i gynnwys yn y bennod Cymru sy’n Fwy Cyfartal). 

Un nodwedd sy’n peri pryder yn y farchnad lafur yn y blynyddoedd diwethaf yw’r cynnydd mawr mewn anweithgarwch economaidd ymysg pobl o oedran gweithio oherwydd salwch. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn adrodd bod 26,100 yn fwy o bobl oedran gweithio yn economaidd anweithgar yng Nghymru oherwydd salwch tymor hir yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024 o’i gymharu â’r flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020. Mae hyn yn gynnydd o tua 20%. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn adrodd bod 358,200 yn fwy o bobl yn anweithgar oherwydd salwch ledled y Deyrnas Unedig, sy’n gynnydd o 17%.

Ffigur 1.4: Cyfradd cyflogaeth pobl rhwng 16 a 64 oed, y flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2005 i fis Mawrth 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.4: Siart linell sy’n dangos bod y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed wedi cynyddu’n gyffredinol ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2011 yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Dros y pedair blynedd diwethaf (ers dechrau pandemig COVID-19), mae’r gyfradd wedi bod yn fwy anwadal yng Nghymru. Mae cyfradd y Deyrnas Unedig wedi aros yn uwch na chyfradd Cymru ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2005.

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Y SYG

Nodyn: Nid yw echelin y siart yn cychwyn ar sero. 

Ffigur 1.5: Cyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer pobl 16 i 64 oed, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2005 i fis Mawrth 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.5: Siart linell sy’n dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) wedi gostwng yn raddol ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2005 yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, dros y pedair blynedd diwethaf (ers dechrau pandemig COVID-19), mae’r gyfradd wedi cynyddu ar gyfer y ddwy ardal. Mae’r gyfradd yng Nghymru bob amser wedi bod yn uwch na chyfradd y Deyrnas Unedig, gyda maint y bwlch yn amrywio dros amser.

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Y SYG

Nodyn: Nid yw echelin y siart yn cychwyn ar sero.

Cyfranogiad mewn addysg a’r farchnad lafur

Sefydlwyd carreg filltir genedlaethol ar gymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur yn 2021, sef y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.

Mae’r amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2022 yn dangos bod 85.8% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, sydd wedi cynyddu o 83.7% yn 2021. Mae’r cynnydd yn bennaf oherwydd cynnydd mewn cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed. 

Gan ddefnyddio’r prif fesur o bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, bu cynnydd yn y grwpiau oedran 16 i 18 a 19 i 24 rhwng 2021 a 2022, gyda’r cynnydd cyffredinol ar gyfer y rhai 16 i 18 (0.9 pwynt canran) yn llai na’r cynnydd cyffredinol ar gyfer y rhai 19 i 24 oed (2.7 pwynt canran). Ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, roedd hyn yn dilyn cyfnod lle’r oedd y gyfran wedi aros yn sefydlog ar oddeutu 89 i 90% rhwng 2012 a 2018. 

Mae ffigurau mwy diweddar am bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar gael o ffynhonnell eilaidd, lai cadarn. Mae’r rhain yn awgrymu cynnydd mewn cyfranogiad yn 2023, yn enwedig ar gyfer y grŵp oedran 16 i 18. 

Ffigur 1.6: Canran y bobl ifanc yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, 2004 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.6: Siart linell sy’n dangos bod canran y bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi aros yn gymharol gyson ers 2004, tra bod canran y rheini rhwng 19 a 24 oed wedi disgyn yn is na 80% rhwng 2009 a 2014. Ers hynny mae wedi gwella i 85.4% yn 2022.

Ffynhonnell: Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, Llywodraeth Cymru

Nodyn: Nid yw echelin y siart yn cychwyn ar sero. 

(p): Mae’r ffigurau ar gyfer 2022 yn rhai dros dro.

Gwaith Teg ac Enillion

Cyflwynwyd dangosydd cenedlaethol ar gyfran y gweithwyr y pennir eu cyflog drwy gydfargeinio ym mis Rhagfyr 2021, ar sail data o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE). Roedd tua 52% o swyddi gweithwyr yn dod o dan drefniadau cydfargeinio yn 2023, lle mae cyflog ac amodau’n cael eu negodi rhwng cyflogwr ac undeb llafur. Mae hyn wedi aros yn gyson ers 2022 ond mae’n is nag mewn llawer o flynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, mae’n uwch o lawer nag ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd eraill y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhanbarthau Lloegr, ac mae’n adlewyrchu’r gyfran gymharol uwch o weithwyr yng Nghymru sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus ac ym maes gweithgynhyrchu.

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar gyfer gwaith teg ac enillion yn ystyried canran y bobl sy’n cael eu cyflogi ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol. Mae’r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyfrifo gan y Living Wage Foundation sy'n pennu’r fethodoleg. Ei nod yw adlewyrchu costau byw. 

Yn 2023, roedd 64% o’r bobl hynny sy'n cael eu cyflogi ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) yn ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol, a oedd wedi disgyn o 68% yn 2022 ac a oedd yn is nag ar unrhyw gyfnod yn y degawd diwethaf. Mae hyn yn seiliedig ar y cyflog byw gwirioneddol ar gyfer 2023-24 fel y’i cyhoeddwyd ym mis Hydref 2023.

Ffigur 1.7: Canran y bobl sy’n cael eu cyflogi, ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol, 2012 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.7: Siart linell yn dangos bod nifer y bobl mewn cyflogaeth sy’n ennill y cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru o leiaf, wedi disgyn i 64% yn 2023, ar ôl amrywio rhwng 65% a 70% rhwng 2012 a 2022.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Mae data o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn awgrymu bod canran y bobl sy’n fodlon ar eu swydd yr un fath fwy neu lai, sef 83% yn 2022-23. Mae bodlonrwydd mewn swydd yn tueddu i gynyddu gydag oedran.

Mae carreg filltir genedlaethol wedi cael ei gosod er mwyn dileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Dros yr hirdymor, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau (ar sail canolrif enillion amser llawn yr awr a heb gynnwys goramser) wedi lleihau. Ym mis Ebrill 2023, 5.6% oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (llawnamser), yr un fath â’r flwyddyn flaenorol. Roedd y bwlch wedi ehangu rhywfaint yn y Deyrnas Unedig i 7.7%. 

Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer yr holl weithwyr yn parhau i fod yn llawer iawn uwch, sef 11.8%. Mae hyn oherwydd bod menywod yn llenwi mwy o swyddi rhan-amser sydd, o’u cymharu â swyddi llawnamser, â thâl canolrifol is yr awr.

Nid yw’r bylchau hyn yn ystyried gwahaniaethau mewn lefelau addysg a phrofiad, sy’n amrywio ar draws y rhywiau ac yn effeithio ar lefelau enillion.

Ffigur 1.8: Canran y gwahaniaeth rhwng enillion canolrifol llawnamser yr awr rhwng dynion a menywod, 1999 i 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.8: Siart linell yn dangos bod y gwahaniaeth mewn enillion canolrifol llawnamser yr awr rhwng dynion a menywod wedi gostwng dros yr 20 mlynedd diwethaf ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi bod yn llai na’r Deyrnas Unedig ers 2013.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, Y SYG

[Nodyn 1] Mae gwahaniaeth cyflog sy’n fwy na sero yn golygu bod enillion dynion yn uwch nag enillion menywod. 

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023, y gwahaniaeth cyflog ar sail anabledd yng Nghymru oedd £1.75 yr awr (neu 12.2%). Mae hyn yn golygu bod gweithwyr anabl yng Nghymru yn ennill £1.75 yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Mae’r gwahaniaeth cyflog wedi ehangu £0.43 (2.5 pwynt canran) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ers 2019, mae gwerth y gwahaniaeth cyflog ar sail anabledd wedi gostwng fymryn bach iawn (£0.01), ond oherwydd cyflogau uwch bob awr ar gyfer gweithwyr anabl a gweithwyr nad ydynt yn anabl, fel canran, gostyngodd y gwahaniaeth cyflog 2.9 pwynt canran. 

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023, y gwahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd yng Nghymru oedd £1.93 yr awr (neu 13.8%). Mae hyn yn golygu bod gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru yn ennill £1.93 yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn. Mae’r gwahaniaeth cyflog wedi lleihau £0.30 (3.0 phwynt canran) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, sydd wedi cael ei achosi gan gynnydd o £1.02 yn yr enillion cyfartalog fesul awr ar gyfer gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, o’i gymharu â chynnydd o £0.72 ar gyfer gweithwyr Gwyn. 

Mae gwahaniaethau cyflog ar sail anabledd ac ethnigrwydd yn seiliedig ar enillion canolrifol yr awr ar gyfer pob gweithiwr.

Mae’n werth nodi, oherwydd bod y data ar gyfer y bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd yng Nghymru yn anwadal iawn, y dylid ystyried newidiadau tymor byr ochr yn ochr â thueddiadau hirdymor lle bo hynny’n bosibl. Ers 2019, mae’r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd wedi gweld cynnydd cyffredinol lle mae enillion cyfartalog fesul awr gweithwyr Gwyn wedi cynyddu 23.5% ac mae’r enillion cyfartalog fesul awr ar gyfer gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi cynyddu 8.0%.

Tlodi ac amddifadedd

Tlodi incwm cymharol

Pobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yw’r rhai sy’n byw mewn aelwyd lle mae cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm cyfartalog aelwydydd y Deyrnas Unedig (fel sy’n cael ei roi gan y canolrif).

Ar gyfer rhanbarthau a gwledydd y Deyrnas Unedig, mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer y cyfnod rhwng 2020-21 a 2022-23. Nid yw’r amcangyfrifon yn cynnwys data arolwg 2020-21 yn y cyfrifiadau, gan y bernir bod y data ar gyfer y flwyddyn honno o ansawdd rhy isel, oherwydd effaith pandemig COVID-19 ar waith maes yr arolwg.

Rhwng 2020-21 a 2022-23, roedd 21% o holl bobl Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai). 

Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 18 mlynedd, gyda phlant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r boblogaeth yn gyffredinol. Er bod cyfraddau’r bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru wedi cynyddu i blant ac wedi gostwng i bensiynwyr yn y cyfnod diweddaraf, nid oedd yr un o’r newidiadau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol.

Ffigur 1.9: Canran o bob grŵp oedran yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), cyfartaleddau tair blynedd ariannol [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.9: Siart linell yn dangos pobl yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai) o 1997 ymlaen. Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 18 mlynedd, gyda phlant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r boblogaeth yn gyffredinol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o set ddata Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog, yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn seiliedig ar yr Arolwg o Adnoddau Teulu

[Nodyn 1] Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy’n cwmpasu 2020-21 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod 2020-21 yn y cyfrifiadau. Ar gyfer y tri chyfnod diweddaraf a ddangosir, mae amcangyfrifon a gyfrifwyd yn flaenorol fel cyfartaleddau treigl tair blynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl dwy flynedd sy’n hepgor data arolwg 2020-21. Mae amcangyfrifon 2020-21 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan effeithiodd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ddifrifol ar brosesau casglu data.

Ystyrir bod rhywun mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol mewn o leiaf tair o bob pedair blynedd yn olynol. Mae data o arolwg Understanding Society yn dangos bod tebygolrwydd o 12% y byddai unigolyn yng Nghymru mewn tlodi parhaus rhwng 2018 a 2022 (ar ôl talu costau tai). Roedd plentyn yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi parhaus, sef 18%.

Amddifadedd materol

Mae amddifadedd materol yn fesur o safonau byw, a diffinnir bod unigolyn yn byw mewn amddifadedd materol os nad yw’n gallu cael gafael ar nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau.

Roedd parhau â chyfyngiadau pandemig COVID-19 yn 2021-22 wedi effeithio ar fesur amddifadedd materol. Roedd y cyfyngiadau a oedd ar waith yn effeithio ar fynediad pobl at rai cyfleoedd neu wasanaethau cymdeithasol, waeth beth fo’r amddifadedd neu’r cyfyngiadau ariannol. Ar ben hynny, mae newidiadau yn y ffordd y cesglir data Arolwg Cenedlaethol Cymru ers y pandemig yn effeithio ar y gallu i gymharu â data cynharach.

Yn y blynyddoedd cyn y pandemig, gostyngodd canran yr oedolion o oedran gweithio mewn amddifadedd materol o 19% yn 2017-18 i 16% yn 2019-20. Roedd gostyngiad hefyd mewn amddifadedd materol ymysg pensiynwyr (o 7% i 4% yn y cyfnod). Yn fwy diweddar, cododd lefelau amddifadedd materol rhwng 2021-22 a 2022-23 ar gyfer oedolion o oedran gweithio (i 19%) ac, i raddau llai, ar gyfer pensiynwyr (i 5%).

Yn 2022-23, roedd 25% o’r bobl a oedd â phlant yn eu haelwyd mewn amddifadedd materol, o’i gymharu ag 11% o bobl mewn aelwydydd heb blant. Fodd bynnag, roedd gan gyfran is o rieni blant a oedd yn profi amddifadedd materol eu hunain (9%).  Roedd hyn yn gynnydd o’r adeg y’i mesurwyd ddiwethaf yn 2019-20, pan oedd gan 6% o rieni blant a oedd yn profi amddifadedd materol.

Ffigur 1.10: Canran y bobl mewn amddifadedd materol yng Nghymru, y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben 2016-17 i 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.10: Graff llinell yn dangos bod cyfran yr oedolion o oedran gweithio a phensiynwyr a oedd mewn amddifadedd materol wedi gostwng cyn y pandemig tra bod y duedd ar gyfer plant yn gymharol sefydlog. Mae’r gyfran ar gyfer pob un o’r grwpiau hyn wedi codi eto yn 2022-23.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru 

[Nodyn 1] Ni chasglwyd data amddifadedd materol ar gyfer blwyddyn arolwg 2020-21.

[Nodyn 2] Ar gyfer 2021-22 a 2022-23, nid oes modd cymharu ystadegau amddifadedd materol yn gwbl deg â’r cyfnod cyn y pandemig. Mae’r Arolwg Cenedlaethol wedi newid o arolwg wyneb yn wyneb i arolwg dros y ffôn, a allai ddylanwadu ar ymatebwyr sy’n ateb y cwestiynau amddifadedd materol.

Yn yr adroddiadau Llesiant Cymru blaenorol rydym wedi adrodd ar ddata o ffynhonnell wahanol, yr Arolwg o Adnoddau Teulu, sy’n amcangyfrif canran yr oedolion o oedran gweithio a’r plant mewn aelwydydd incwm isel a oedd mewn amddifadedd materol.

Incwm a wariwyd ar gostau tai

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar ganran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai yn seiliedig ar ddata o Arolwg Adnoddau Teulu yr Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd pandemig COVID-19 yn ystod 2020-21 wedi effeithio ar gasglu data ar gyfer yr Arolwg o Adnoddau Teulu felly nid yw data arolwg y flwyddyn honno wedi cael eu cynnwys yn y cyfrifiadau ar gyfer y tri chyfnod diweddaraf oherwydd bernir eu bod o ansawdd isel.

Ar gyfer y cyfnod diweddaraf y mae digon o ddata ar gael ar ei gyfer (blynyddoedd ariannol 2021-22 i 2022-23), roedd 15% o aelwydydd yn gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai, ond mae hyn yn amrywio o ran deiliadaeth. Roedd y ganran hon wedi bod yn weddol gyson ar tua 19% ers y cyfnod 2011-12 i 2013-14. Nid yw’n glir a yw’r gostyngiad ymddangosiadol hwn yn cynrychioli newid arwyddocaol yn ystadegol. Fodd bynnag, mae arwyddion yn ystod y cyfnod diweddaraf bod elfen incwm y dangosydd yn cynnwys cynnydd yng nghefnogaeth y wladwriaeth (er enghraifft taliadau cymorth tanwydd, taliadau cynllun cymorth Costau Byw). Yn ogystal, nid yw effaith y cynnydd mewn cyfraddau llog morgeisi, yn dilyn cynnydd yng nghyfradd llog sylfaenol Banc Lloegr yn ystod hydref 2022, wedi taro nifer o aelwydydd yn y cyfnod sydd â morgeisi ar gyfradd sefydlog eto. 

Sylwch nad yw’r dangosydd hwn yn cynnwys costau ynni aelwydydd a gododd drwy gydol 2022-23 ac a fydd wedi cael effaith ehangach ar aelwydydd.

Yn y cyfnod hyd at 2021-22 i 2022-23, dim ond 3% o aelwydydd sy’n berchen ar eu cartref eu hunain yn llwyr a 9% o’r rhai sy’n berchen ar gartref gyda morgais oedd yn gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai. Mae’r canrannau’n uwch ar gyfer y ddwy ddeiliadaeth arall: 35% o’r rhai sy’n rhentu’n breifat, 36% o’r rhai mewn tai rhent cymdeithasol.

Cymwysterau

Mae proffil cymwysterau poblogaeth oedran gweithio Cymru wedi bod yn gwella dros amser, er bod toriad yn y gyfres rhwng 2021 a 2022 oherwydd newidiadau i’r cwestiynau ar gymwysterau yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sydd nawr yn adlewyrchu’r fframwaith cymwysterau presennol.

Sgiliau a chymwysterau yw'r un dylanwad mwyaf ar incwm pobl ac ar eu siawns o fod mewn gwaith. 

Yn 2023, roedd 45.0% o oedolion o oedran gweithio (18 i 64 oed) wedi cymhwyso i lefel addysg uwch o leiaf (lefel 4), i fyny o 43.3% yn 2022. Mae cyfran y boblogaeth oedran gweithio sydd ag o leiaf gymwysterau addysg uwch wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y 15 mlynedd diwethaf; gan godi bron 14 pwynt canran yn y cyfnod rhwng 2008 a 2021. 

Un o’r cerrig milltir cenedlaethol ar gymwysterau yw y bydd 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Yn 2023, roedd 67.4% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru wedi cymhwyso i lefel 3 neu uwch.

Rhwng 2008 a 2021, roedd gostyngiadau mawr yng nghyfran yr oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau. 7.9% oedd y gyfran hon yn 2023. Roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd wedi cymhwyso i lefel 2 o leiaf (sy’n cyfateb i 5+ TGAU gradd A* i C) yn 87.4% yn 2023.

Mae oedolion hŷn yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau nag oedolion iau. 

Mae cyfran uwch o ddynion na menywod heb unrhyw gymwysterau mewn grwpiau oedran hyd at ac yn cynnwys pobl rhwng 35 a 49 oed. Mae menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau lefel 4 neu uwch.

Ffigur 1.11: Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oedran gweithio, 2008 i 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.11: Mae lefelau cymwysterau yng Nghymru wedi cynyddu’n raddol ers 2008, er bod toriad yn y gyfres rhwng 2021 a 2022 oherwydd materion yn ymwneud â chymharu. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Y SYG

[Nodyn 1] Ni ellir cymharu amcangyfrifon ar gyfer 2022 ymlaen â blynyddoedd blaenorol yn dilyn newidiadau i’r cwestiynau ar gymwysterau Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Y garreg filltir genedlaethol arall ar gymwysterau yw y bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050. Yn 2023, roedd gan bump o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru 5% neu lai o oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau – Bro Morgannwg (2.5%), Sir Fynwy (3.0%), Ynys Môn (3.2%), Gwynedd (3.3%) a Phowys (3.4%). Roedd y gyfran uchaf o oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau ym Mlaenau Gwent (16.6%) a Merthyr Tudful (14.1%). 

Ffigur 1.12: Cyfran y boblogaeth oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn ôl awdurdod lleol, 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.12: Siart far yn dangos cyfran y boblogaeth oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau ym mhob awdurdod lleol yn 2023. Mae’r gyfran yn llai na 5% ym Mro Morgannwg, Sir Fynwy, Ynys Môn, Gwynedd a Phowys, ond mae dros 15% ym Mlaenau Gwent.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyrhaeddiad mewn ysgolion

Cynyddodd cyrhaeddiad mewn ysgolion yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig, ond amharwyd ar arholiadau cyhoeddus (fel TGAU a Safon Uwch), yn enwedig yn 2020 a 2021 oherwydd pandemig COVID-19. Yn y blynyddoedd hynny cafodd yr holl raddau a fyddai wedi cael eu dyfarnu ar ôl arholiad eu disodli gan raddau a aseswyd neu a bennwyd gan ganolfan. Roedd 2021/22 yn flwyddyn bontio lle’r oedd disgyblion yn sefyll arholiadau ysgrifenedig gyda rhai addasiadau. Mae rhagor o fanylion am y trefniadau hyn ar gael yn ein cyhoeddiad Canlyniadau Arholiadau blynyddol.

Mae data ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23, lle gwelwyd newid pellach yn ôl i’r trefniadau asesu cyn y pandemig (gan gadw rhywfaint o gymorth ar gyfer dysgwyr) yn dangos rhywfaint o welliant parhaus o’i gymharu â blynyddoedd cyn y pandemig. Fodd bynnag, mae canlyniadau plant o gefndiroedd o amddifadedd yn dal i fod yn waeth. 

Y sgôr 9 pwynt wedi’i chapio yw’r dangosydd cenedlaethol ar berfformiad ysgolion uwchradd sy’n canolbwyntio ar naw canlyniad gorau disgyblion blwyddyn 11 ar lefel TGAU, gan gynnwys rhai gofynion penodol i bwnc.

Yn 2022/23, cyfartaledd y dangosydd capio 9 (fersiwn mesurau dros dro) oedd 358.1 pwynt, cynnydd bach o 354.4 pwynt yn 2018/19. Yn 2022/23 sgoriodd disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim 296.7 pwynt a sgoriodd disgyblion nad oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim 383.8 pwynt ar gyfartaledd yn y dangosydd “capio 9” (fersiwn mesurau dros dro). Mae hyn yn golygu bod disgyblion nad ydynt yn gymwys yn sgorio 87.1 pwynt yn fwy na disgyblion eraill. Mae hyn yn gynnydd yn y bwlch o 77.3 pwynt yn 2018/19, y tro diwethaf adroddwyd ar y dangosydd capio 9 (fersiwn mesurau dros dro).

O 2018/19, pan gafodd arholiadau ysgrifenedig eu sefyll diwethaf, hyd at 2022/23 mae canran yr ymgeiswyr a gafodd A* i A ac A* i C ar lefel TGAU wedi cynyddu. Yn ystod y cyfnod hwn, cynyddodd canran y graddau A* i A o 19.5% i 22.2%. Fodd bynnag, mae hyn yn ostyngiad o 3.7 pwynt canran o’i gymharu â’r canlyniadau a gafwyd yn 2021/22, pan gafodd cymwysterau eu dyfarnu ar sail arholiadau ysgrifenedig eto, am y tro cyntaf ers dechrau pandemig COVID-19. Gwelwyd patrwm tebyg yn yr ystod graddau A* i C.

Mae bwlch o hyd rhwng deilliannau addysgol plant yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys. Mae’r bwlch yn y niferoedd sy’n cael graddau A* i A ar lefel TGAU wedi ehangu yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, ac mae’r bwlch yn niferoedd yr ymgeiswyr sy'n cael graddau A* i C wedi bod yn fwy sefydlog. Mae data hyd at 2019 o asesiadau gan athrawon o’r cwricwlwm cenedlaethol yn dangos bod y bwlch mewn canlyniadau addysgol wedi tyfu wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn. Ni chesglir y data hyn mwyach, ar ôl cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Yn 2022/23, mae’r bwlch rhwng disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sydd wedi cael graddau TGAU A* i A wedi lleihau i 16.7 pwynt canran, o 19.2 pwynt canran yn 2021/22. Roedd y bwlch wedi bod yn gymharol sefydlog o’r blaen, sef tua 14.7 pwynt canran rhwng 2015/16 a 2018/19 ond ehangodd yn ystod y blynyddoedd yr effeithiodd pandemig COVID-19 arnynt, cyn dechrau lleihau eto.

Yn 2022/23 roedd y bwlch rhwng disgyblion nad oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac a oedd wedi cael graddau A* i C wedi ehangu i 29.8 pwynt canran, gan ddychwelyd at fwlch tua’r un maint ag yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig, yn dilyn gostyngiad i 24.7 pwynt canran yn 2019/20.

Ffigur 1.13: Bwlch rhwng canrannau’r disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim sy’n cael graddau TGAU A* i A, A* i C ac A* i G, 2015/16 i 2022/23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.13: Siart linell sy’n dangos y bwlch rhwng canrannau’r myfyrwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r myfyrwyr nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy’n cael TGAU A* i A, A* i C, ac A* i G o 2015/16 i 2022/23. Rhwng 2020/21 a 2022/23, cynyddodd y bwlch ar gyfer yr ystodau graddau A* i C ac A* i G ond gostyngodd ar gyfer A* i A. 

Ffynhonnell: Canlyniadau Arholiadau, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Mae rhwng y llinellau toredig yn dangos pryd y dyfarnwyd cymwysterau drwy ddefnyddio graddau a aseswyd neu a bennwyd gan ganolfan.

Allyriadau nwyon tŷ gwydr o ddiwydiant a’r sectorau cyflenwi ynni

Mae rheoli’r rhyngweithio rhwng twf economaidd ac economi arloesol a charbon isel yn gymhleth ac yn creu heriau, ond mae allyriadau nwyon tŷ gwydr o ddiwydiant ac o nifer o sectorau busnes allweddol yn dal yn llawer is nag yn y 1990au.

Roedd y bennod Cymru Lewyrchus yn adrodd yn flaenorol ar allyriadau nwyon tŷ gwydr o fusnesau. Oherwydd newidiadau i ddiffiniadau o’r sector, mae’r bennod bellach yn adrodd ar allyriadau o’r diwydiant a’r sector cyflenwi ynni (cyflenwad trydan a chyflenwad tanwydd).

At ei gilydd, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi gostwng 36% ers y flwyddyn sylfaen (1990). Roedd allyriadau o ddiwydiant a’r sectorau cyflenwi trydan a thanwydd yn cyfrif am dros hanner allyriadau tiriogaethol Cymru (55%) yn 2022. Mae allyriadau o’r sectorau hyn wedi gostwng 40% ers 1990, gyda’r gostyngiad mwyaf yn y sector cyflenwi tanwydd (gostyngiad o 48%). 

Ffigur 1.14: Allyriadau nwyon tŷ gwydr o ddiwydiant a’r sectorau cyflenwi ynni, 1990 i 2022 [Nodyn 1][Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.14: Siart linell yn dangos lefel yr allyriadau nwyon tŷ gwydr tiriogaethol (megatunnell) o sectorau sy’n ymwneud â busnes rhwng 1990 a 2022. Mae allyriadau o’r diwydiant a’r sectorau cyflenwi trydan wedi bod yn gyfnewidiol, er bod y ddau wedi gostwng ers 1990. Mae allyriadau o’r sector cyflenwi tanwydd wedi gostwng yn braf ar y cyfan rhwng 1990 a 2022. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol, Yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net

[Nodyn 1] Mae amcangyfrifon blynyddol ar gael o 1998. Cyn hynny, mae amcangyfrifon ar gael ar gyfer 1990 a 1995.

[Nodyn 2] Mae diffiniad y sector o’r rhestr nwyon tŷ gwydr yn amrywio o’r Cynllun Cyflawni Carbon Isel (Cyfnod Cyllideb Garbon 1, 2016-2020) a Chynllun Sero Net Cymru (Cyfnod Cyllideb Garbon 2, 2021-2025)

Dull teithio

Mae rhai mathau o deithio, gan gynnwys traffig ffyrdd, yn cyfrannu’n sylweddol at allyriadau carbon. Nid oes tystiolaeth o symud oddi wrth geir fel y prif ddull o deithio yng Nghymru.

Yn 2023, cynyddodd lefel y traffig ffyrdd yng Nghymru 2% o’i gymharu â 2022, i 29.8 biliwn o gilomedrau cerbyd (bvk), ond arhosodd tua 3% yn is na’r lefelau cyn y pandemig (30.7 biliwn o gilomedrau cerbyd (bvk) yn 2019).

O’i gymharu â 2021-22, roedd teithiau bws lleol wedi cynyddu 16% yn 2022-23. Fodd bynnag, mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 33% yn nifer y siwrneiau i deithwyr o’i gymharu â 2019-20 (lefelau cyn y pandemig). Roedd y teithiau yn 2022-23 yn cynnwys cyfanswm o 84.0 miliwn o gilomedrau cerbyd, tebyg i’r flwyddyn flaenorol. 

O 2023 ymlaen, mae data o Brydain Fawr yn dangos bod lefelau traffig a’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn gwella ar ôl y pandemig. Fodd bynnag, mae cyfanswm y traffig a lefel y traffig bysiau yn dal yn is na’r lefelau cyn y pandemig, gyda lefel y traffig 3% yn is na lefelau 2019 a lefel y traffig bysiau 17% yn is na lefelau 2019. 

Cafodd dangosydd cenedlaethol ar ganran y siwrneiau sy'n cael eu gwneud ar droed, ar gefn beic neu drafnidiaeth gyhoeddus ei ychwanegu at y set o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021. Daw’r data o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Yn y tymor byr, mae modd ystyried data o'r Arolwg o'r Llafurlu ar y dull arferol o deithio i'r gwaith a data o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y dull o deithio i'r ysgol.

Fel yn y rhan fwyaf o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig y tu allan i Lundain, trafnidiaeth ffyrdd breifat yw’r brif ffordd o deithio o hyd, ac mae’n cyfrif am y mwyafrif llethol o deithiau cymudo yng Nghymru. Yn 2022, defnyddiodd 79% o gymudwyr yng Nghymru gar fel eu dull arferol o deithio i’r gwaith, ychydig yn is na chyn y pandemig. Ychydig o newid a fu i’r cyfrannau o drigolion Cymru sy’n defnyddio pob dull o deithio fel arfer i gyrraedd y gwaith dros y degawd diwethaf. 

Ffigur 1.15: Dull arferol trigolion Cymru o deithio i’r gwaith, 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.15: Siart gylch yn dangos bod y rhan fwyaf (79%) o drigolion Cymru wedi teithio i’r gwaith mewn car yn 2022. Roedd 11% o drigolion wedi cerdded, gyda 5% yn defnyddio bws neu fws moethus, a 2% yn defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd.

Ffynhonnell: Ystadegau Trafnidiaeth Prydain Fawr: Dull arferol o deithio i'r gwaith yn ôl rhanbarth preswylio

[Nodyn 1] Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth oedd eu dull teithio arferol

[Nodyn 2] Mae’r categorïau sydd wedi cael eu hatal oherwydd ansawdd isel wedi cael eu cynnwys yn y categori “Arall”.

Y ddau ddull teithio mwyaf cyffredin i’r ysgol uwchradd a gofnodwyd gan ddisgyblion yn 2021-22 oedd bysiau a cherdded. Mae 36% o ddisgyblion ysgolion uwchradd fel arfer yn teithio i’r ysgol ar fws (bws ysgol neu fws cyhoeddus), mae 32% yn cerdded i’r ysgol ac mae 30% yn teithio i’r ysgol mewn car. Y dulliau teithio mwyaf cyffredin i ddisgyblion ysgolion cynradd oedd ceir a cherdded. Yn 2021-22, roedd 34% o ddisgyblion ysgolion uwchradd a 48% o ddisgyblion ysgolion cynradd fel arfer yn defnyddio dulliau teithio llesol i’r ysgol (ee teithio i’r ysgol drwy gerdded neu feicio). 

Bu cynnydd sylweddol yn nifer y cerbydau allyriadau isel iawn sydd wedi eu cofrestru o’r newydd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2023, roedd dros 9,000 o gerbydau allyriadau isel iawn wedi eu cofrestru o’r newydd, cynnydd o 12% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

Ar ddiwedd 2023, roedd bron i 34,000 o gerbydau allyriadau isel iawn wedi eu trwyddedu yng Nghymru, sy’n cynrychioli 1.7% o’r holl gerbydau trwyddedig. Dros amser, gallai dibynnu llai ar gerbydau petrol a disel a defnyddio mwy o gerbydau allyriadau isel iawn helpu i arwain at ostyngiad mewn allyriadau.

Darllen pellach

Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o:

  • tlodi tanwydd
  • asesiad o gyfnod datblygu disgyblion pedair oed mewn mathemateg, iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn ymwneud â Fframwaith y Cyfnod Sylfaen; nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu bellach oherwydd bod y Cwricwlwm newydd i Gymru wedi cael ei roi ar waith fesul cam o fis Medi 2022
  • Ymateb ymatebwyr ynghylch ymddygiadau amgylcheddol y gallent fod yn ymgymryd â nhw fel rhan o fywyd bob dydd, gan gynnwys gwybodaeth fel teithio ar awyrennau neu mewn car yn llai aml. Mae Chwyddiant a chostau byw ar gyfer grwpiau aelwydydd, y Deyrnas Unedig (ONS) yn cynnwys gwybodaeth am effaith chwyddiant ar wahanol fathau o aelwydydd.

Mae Trosolwg o’r farchnad lafur yn rhoi diweddariad ar y farchnad lafur yng Nghymru bob mis.

Mae dangosfwrdd economi Cymru mewn rhifau yn dangos tueddiadau yn y canlyniadau economaidd allweddol i Gymru, o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig.

Mae Adroddiad y Prif Economegydd a’r Rhagolygon Ariannol yn adolygu’r datblygiadau economaidd diweddar a’r rhagolygon economaidd ac ariannol sy’n wynebu Cymru.

Mae Ystadegau Trafnidiaeth Prydain Fawr (Yr Adran Drafnidiaeth) yn gasgliad blynyddol o ystadegau trafnidiaeth, gan gynnwys data ar gyfer Cymru ar nifer o bynciau.

Mae data ar y lefelau cymhwyster uchaf hefyd ar gael o’r Cyfrifiad Poblogaeth. Mae Cyfrifiad Addysg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021) yn darparu crynodeb o ddata Cymru. Nid oes modd cymharu’r ystadegau sydd ar gael o’r Cyfrifiad yn uniongyrchol â’r rhai a gyflwynir yn yr adroddiad hwn ar Lesiant Cymru. Yn ogystal â’r gwahanol ddulliau casglu data, mae’r ystadegau hyn yn seiliedig ar oedolion o oedran gweithio (18 i 64 oed), ac mae’r rhai o’r Cyfrifiad yn seiliedig ar yr holl breswylwyr arferol 16 oed a hŷn.

Mae gwybodaeth am ddyfarnu graddau ar gyfer cymwysterau ysgol a choleg (TGAU, Safon Uwch, UG, Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru) yn y blynyddoedd y mae COVID-19 yn effeithio arnynt ar gael yn y datganiadau isod: 

Ffynonellau data

Perfformiad economaidd

Gwerth ychwanegol gros rhanbarthol (wedi ei gydbwyso) y pen a chydrannau incwm (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Cynhyrchiant rhanbarthol ac is-ranbarthol yn y Deyrnas Unedig: Gorffennaf 2022 (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Ystadegau Arolwg Arloesedd y Deyrnas Unedig (Yr Adran Busnes a Masnach)

Arolwg arloesedd y Deyrnas Unedig 2023: adroddiad (Yr Adran Busnes a Masnach)

Incwm aelwydydd

Incwm gwario gros aelwydydd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Incwm gwario gros aelwydydd rhanbarthol, bwletinau ystadegol y Deyrnas Unedig (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Y farchnad lafur

Ystadegau’r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth)

Trosolwg o’r Farchnad Lafur, Cymru

Ystadegau’r farchnad lafur ranbarthol yn y Deyrnas Unedig, bwletinau ystadegol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Enillion a chyflogaeth o Wybodaeth Amser Real y Cynllun Talu Wrth Ennill, wedi ei addasu’n dymhorol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Cyfranogiad mewn addysg a’r farchnad lafur

Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur

Amcangyfrif o unigolion 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth yn ôl gweithgarwch economaidd a grwpiau oedran (StatsCymru)

Gwaith teg ac enillion

Cyfrifo’r Cyflog Byw Gwirioneddol (Living Wage Foundation)

Canran y bobl sy’n weddol fodlon neu’n fodlon iawn ar eu swyddi yn ôl oedran (StatsCymru)

Cyfran y cyflogeion y mae eu cyflog yn cael ei osod drwy gydfargeinio (Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion) (StatsCymru)

Canran y bobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol, 2012 i 2021 (StatsCymru)

Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (canolrif enillion yr awr ar gyfer gweithwyr amser llawn, heb gynnwys goramser) (StatsCymru)

Cyflog canolrifol yr awr a’r gwahaniaeth cyflog rhwng enillion fesul awr gweithwyr yn ôl statws anabledd ac ethnigrwydd, Cymru, 2014 i 2023

Arolwg blynyddol o oriau ac enillion: 2023

Tlodi

Tlodi incwm cymharol

Amddifadedd materol

Tlodi parhaus

Cymwysterau

Lefelau’r cymhwyster uchaf gan oedolion o oedran gweithio yn ôl blwyddyn a chymhwyster

Addysg

Cyrhaeddiad academaidd disgyblion yn asesiad sylfaenol y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 3, 2022

Canlyniadau arholiadau: Medi 2021 i Awst 2022

Busnesau

Allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ôl blwyddyn (StatsCymru)

Teithio

Ystadegau Trafnidiaeth: Prydain Fawr 2021 (Yr Adran Drafnidiaeth)

Traffig Ffyrdd

Ystadegau traffig ffyrdd - Ystadegau cryno (Yr Adran Drafnidiaeth)

Cerbydau gwasanaeth cyhoeddus (bysiau a thacsis) 

Ystadegau cerbydau allyriadau isel iawn (Yr Adran Drafnidiaeth)

Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr Arolwg 2021/22 (Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion)

Cymru gydnerth

Y nod dros Gymru gydnerth

Awdur: Luned Jones

Cymru gydnerth: cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cefnogi cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, newid yn yr hinsawdd).

Beth ydym wedi ei ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Mae llawer o’r dangosyddion cenedlaethol a ddefnyddir i fesur cynnydd tuag at y nod hwn yn ddangosyddion hirdymor sy’n mesur newid graddol. Felly, caiff y dangosyddion hyn eu diweddaru o bryd i’w gilydd yn hytrach nag unwaith y flwyddyn. O’r dangosyddion cenedlaethol a ddiweddarwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf: 

Beth yw’r cynnydd hirdymor tuag at y nod?

Mae data ar gyfer rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at nod Cymru gydnerth. Ond mae rhywfaint o’r cynnydd hwn wedi arafu’n ddiweddar, ac mae angen rhagor o welliannau er mwyn cyrraedd y nod a’r cerrig milltir cenedlaethol. 

Ein hôl troed byd-eang yw cyfanswm y baich amgylcheddol y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned. Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd ôl troed byd-eang yw y bydd Cymru ond yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau’r byd erbyn 2050. Mae amcangyfrifon a gynhyrchwyd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) a’r Rhwydwaith Ôl Troed Byd-eang (GFN) yn 2023 yn awgrymu bod yr ôl troed byd-eang fesul unigolyn wedi gostwng bron i draean rhwng 2004 a 2018. Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod dros ddwywaith yr amcangyfrif o’r biogapasiti yng Nghymru. Pe bai holl boblogaeth y byd yn byw fel dinasyddion Cymru, byddai angen tir cyfwerth â 2.08 Daear ar ddynoliaeth. Mae dadansoddiad pellach o’r ôl troed byd-eang wedi’i gynnwys yn y bennod Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang.

Mae’r asesiad cynhwysfawr diweddaraf o sut mae Cymru’n rheoli adnoddau naturiol (SoNaRR 2020) yn dangos bod amrywiaeth fiolegol yn dirywio ar y cyfan. Roedd y dangosydd cenedlaethol ar statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2021, yn dangos bod dosbarthiad rhywogaethau wedi gostwng dros y tymor hir, gan adlewyrchu’r darlun byd-eang o ddirywiad mewn amrywiaeth fiolegol. Mae Adroddiad State of Nature 2023 yn datgan bod un o bob chwech o’n rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu’n llwyr o Gymru, gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid. 

Mae ansawdd ein dŵr, boed mewn moroedd, afonydd, nentydd neu’r ddaear, wedi gwella’n gyffredinol yn ystod y degawdau diwethaf. Ond, er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud o ran diogelu a gwella ein dyfroedd, mae llawer i’w wneud eto. 

Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl a byd natur.

Mae Cymru wedi gweld gostyngiad o ran cynhyrchu gwastraff a gwelliannau sylweddol yng nghyfraddau ailgylchu gwastraff, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu. 

Mae capasiti trydan wedi ei osod o ynni adnewyddadwy yn parhau i gynyddu ond ar gyfradd gryn arafach na’r blynyddoedd diwethaf. Mae’r gyfradd gosod ar gyfer capasiti gwres wedi cynyddu.

Mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn darparu asesiad cynhwysfawr o gynnydd yn erbyn pedwar nod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Bioamrywiaeth a chynefinoedd

Y garreg filltir genedlaethol ar fioamrywiaeth yw gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy wella statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050. 

Roedd dangosydd arbrofol ar statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2021 yn dangos bod dosbarthiad rhywogaethau yng Nghymru wedi dirywio dros y tymor hir ond ei fod yn sefydlog yn fwy diweddar. Er bod statws poblogaethau rhai rhywogaethau yng Nghymru wedi gwella, mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn dangos bod bioamrywiaeth yn dirywio ar y cyfan. Mae dadansoddiad pellach o’r pwnc hwn ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru 2021. 

Yn ogystal â’r dangosydd cenedlaethol ar fioamrywiaeth, mae cynlluniau ar waith sy’n monitro rhywogaethau penodol. Mae Cynllun Monitro Glöynnod Byw y Deyrnas Unedig yn gynllun monitro hirdymor. Mae data ar gyfer 2022 yn dangos bod tueddiadau ar gyfer rhywogaethau gloÿnnod byw y Deyrnas Unedig yn amrywio, gyda thua traean o’r rhywogaethau a aseswyd yn y Deyrnas Unedig yn dangos gostyngiad hirdymor sylweddol mewn niferoedd (33%), a’r un fath yn dangos cynnydd hirdymor sylweddol. Mae tueddiadau tymor byr (10 mlynedd) yn dangos 5 rhywogaeth (9%) sy’n dangos cynnydd ystadegol arwyddocaol a 4 rhywogaeth (7%) sy’n dangos gostyngiad sylweddol. Yng Nghymru, o’r rhywogaethau sydd â digon o ddata i’w hasesu, mae dirywiad hirdymor a byrdymor mewn sawl rhywogaeth, ond mae’n galonogol bod naw o’r rhywogaethau’n dangos cynnydd hirdymor.

Mae’r prif ffactorau sy’n gyfrifol am ddirywiad hirdymor mewn niferoedd yn cynnwys newidiadau o ran graddfa, cyflwr a darnio cynefinoedd a ddaw yn sgil dwysáu ffermio, newidiadau mewn arferion coedwigaeth, datblygiadau trefol, llygredd a newid yn yr hinsawdd. Mae rhai gyrwyr, fel newid yn yr hinsawdd, yn debygol o gael effeithiau cymysg, yn dibynnu ar y rhywogaethau.

Mae’r Arolwg Adar Bridio (BBS) yn bartneriaeth sy’n cael ei chyllido ar y cyd gan y BTO, yr RSPB a’r JNCC, a lansiwyd yn 1994, ac mae’n gynllun monitro gwyddoniaeth dinasyddion. Yn adroddiad blynyddol diweddaraf 2023, mae tueddiadau poblogaeth ar gyfer 119 o rywogaethau adar yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu cynhyrchu. Mae’r canlyniadau’n dangos bod 35 rhywogaeth wedi cynyddu ar draws y Deyrnas Unedig yn y tymor hir (ers dechrau’r Arolwg Adar Bridio), gan gynnwys y Barcud Coch a Delor y Cnau, ac mae 42 o rywogaethau wedi dirywio, fel y Wennol Ddu, y Wennol a’r Gylfinir. Yng Nghymru, mae’r niferoedd yn uwch ar gyfer y Nico, y Gnocell Fraith Fwyaf a’r Barcud Coch. Yn y cyfamser, mae niferoedd y Wennol Ddu, y Llinos Werdd, y Gylfinir a’r Bras Melyn i gyd yn gostwng.  

Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen. Yn adroddiad Llesiant Cymru 2019, fe wnaethom adrodd bod 31% o’n tir yn cael ei ystyried yn lled-naturiol. Defnyddir y dangosydd cenedlaethol hwn i asesu cyfran ein tir sydd â chynefinoedd lled-naturiol, wedi eu haddasu llai gan mai’r rhain sydd fwyaf tebygol o ffurfio ecosystemau iach a chryf. 

Cafodd gwybodaeth ychwanegol o asesiadau cyflwr Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yng Nghymru ac asesiad sylfaenol y safleoedd gwarchodedig Daearol a Dŵr Croyw eu cynnwys yn adroddiad Llesiant Cymru 2022.

Bydd pridd sy’n cael ei reoli’n dda yn diogelu’r bwyd sy’n cael ei gynhyrchu, yn cynnal cynefinoedd, yn helpu i reoli’r perygl o lifogydd ac yn lleihau costau trin dŵr. Mae’r dangosydd cenedlaethol ar garbon mewn pridd ar gyfer 2021-23 yn dangos bod crynodiad y carbon yn ein huwchbridd yn sefydlog ar y cyfan, ar wahân i dir âr a choetir llydanddail lle gwelwyd bod carbon wedi’i golli o’r uwchbridd yn ddiweddar mewn perthynas â’r crynodiadau yn 2013-16.

Dŵr a pherygl llifogydd

Mae ansawdd ein dŵr, boed mewn moroedd, afonydd, nentydd neu’r ddaear, yn gwella’n gyffredinol. 

Mae dŵr yn un o adnoddau naturiol Cymru rydym yn dibynnu arno’n gyson, gan gynnwys ar gyfer dŵr yfed, yr economi, diwydiant, trin carthffosiaeth ac amaethyddiaeth. Yn 2023-24 roedd Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy wedi darparu tua 900 megalitr y dydd (Ml/d) o ddŵr yfed i ateb y galw, gyda mwy o alw yn ystod y cyfnodau prysuraf fel yn ystod tywydd sych a phoeth neu fannau poblogaidd ymysg twristiaid. Amcangyfrifir bod cyfanswm y dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat (heb fod ar y prif gyflenwad) yn 13.8 Ml/d.

Nid oes data newydd eleni ar gyfer y dangosydd cenedlaethol ar statws cyrff dŵr wyneb a dŵr daear. Mae’r data diweddaraf ar gyfer 2021 yn dangos bod 40% o 933 o gyrff dŵr wyneb a dŵr daear mewn cyflwr da neu well. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 3 phwynt canran o’r hyn a adroddwyd yn 2015 a gwelliant o 8 pwynt canran ers 2009. Disgwylir diweddariad pellach yn ystod hydref 2024. 

Mae asesiadau i weld a yw ansawdd dŵr yn cydymffurfio ar gyfer y naw afon Ardal Cadwraeth Arbennig yng Nghymru wedi adolygu data monitro yn erbyn targedau newydd ar gyfer ffosfforws a dangosyddion llygredd ehangach.  Mewn perthynas â ffosfforws, aseswyd 107 o gyrff dŵr, pasiodd 39% y targedau newydd a methodd 61%.  Roedd pump o afonydd yr Ardal Cadwraeth Arbennig wedi methu'r prawf ffosfforws, ac roedd saith o afonydd yr Ardal Cadwraeth Arbennig wedi methu profion ansawdd dŵr ehangach. 

Mae dyfroedd ymdrochi o ansawdd da yn bwysig iawn i gymunedau'r arfordir, ymwelwyr a’r economi yng Nghymru. Roedd ansawdd dŵr ymdrochi yn cael ei fonitro mewn 109 o safleoedd dynodedig ar hyd arfordir Cymru yn 2023. Roedd 107 o ddyfroedd ymdrochi yn cyrraedd y safonau a bennwyd gan y Rheoliadau Dŵr Ymdrochi. Dyfarnwyd bod 80 yn rhagorol, 20 wedi cyflawni sgôr dda a saith wedi cyrraedd y safon sylfaenol, ddigonol. Methodd dau ddŵr ymdrochi â chyrraedd y safon, ac aseswyd eu bod o safon wael. Yn nodweddiadol, mae'r dyfarniadau’n seiliedig ar 4 blynedd o ddata ansawdd dŵr ymdrochi.

Ffigur 2.1: Ansawdd dŵr ymdrochi, canran y safleoedd dynodedig, 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2.1: Siart gylch yn dangos ansawdd dŵr ymdrochi ar gyfer safleoedd dynodedig yng Nghymru yn 2023. Roedd 73% yn cael eu hystyried yn rhagorol, 18% yn dda, 6% yn ddigonol ac 2% yn wael. 

Ffynhonnell: Adroddiad Ansawdd Dŵr Ymdrochi Cyfoeth Naturiol Cymru 2023

Mae’r asesiad risg llifogydd diweddaraf yn dangos bod rhai cartrefi yng Nghymru mewn perygl o lifogydd oherwydd moroedd, afonydd a dŵr wyneb, gyda rhai mewn perygl o lifogydd oherwydd mwy nag un math o lifogydd. Yn 2024, mae 1 o bob 7 (273,000) eiddo preswyl ac amhreswyl naill ai mewn perygl isel, canolig neu uchel o lifogydd. O ran y dangosydd cenedlaethol ar gyfer llifogydd, roedd bron i 49,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd o afonydd a mwy na 79,000 o eiddo mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd llanw. O’r rhain, mae bron 25,000 yn elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd afon, bron i 42,000 o amddiffynfeydd rhag llifogydd llanw a bron i 35,000 yn elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd afon a môr. Ar hyn o bryd nid yw’n bosibl ystyried tueddiadau dros amser oherwydd newidiadau yn y fethodoleg.

Ansawdd aer

Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl. 

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar nitrogen deuocsid (NO2) yn dangos bod y lefelau crynodiad cyfartalog y mae pobl yn agored iddynt wedi bod yn gostwng ar y cyfan dros y degawd diwethaf. Ar ôl cyfnod o sefydlogrwydd cymharol rhwng 2017 a 2019 (tua 9 µg/m3), gostyngodd y crynodiad cyfartalog i 7 µg/m3 yn 2020 a 2021 a chynyddodd rywfaint i 8 µg/m3 yn 2022.  Arhosodd y crynodiadau cyfartalog o ddeunydd gronynnol (PM10 a PM2.5) y mae pobl yn agored iddynt yn gymharol sefydlog rhwng 2021 a 2022. Er bod y data a ddefnyddir i ategu’r dangosyddion yn seiliedig ar ddata wedi’u modelu sy’n rhychwantu’r Deyrnas Unedig gyfan, mae data mesur o rwydweithiau monitro ansawdd aer y Deyrnas Unedig yn dangos ymhellach y tueddiadau ledled y Deyrnas Unedig mewn crynodiadau is o NO2, PM2.5 a PM10 rhwng 2022 a 2023

Ceir y crynodiadau uchaf o allyriadau nitrogen deuocsid mewn ardaloedd trefol a ger ffyrdd prysur, sy’n adlewyrchu cyfraniad traffig a gweithgareddau trefol at ansawdd aer gwael. 

Mae llygredd aer yn cael effaith sylweddol ar iechyd y cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae 44 o ardaloedd rheoli ansawdd aer yng Nghymru. Dynodwyd un ohonynt oherwydd y risg i lefelau deunydd gronynnol PM10 fynd yn uwch na’r amcan ansawdd aer cymedrig dyddiol 24 awr ar gyfer PM10, a dynodwyd y gweddill lle bo lefelau NO2 yn uwch, neu â’r posibilrwydd o fod yn uwch, na'r amcanion ansawdd aer ar gyfer NO2. 

Yn 2022, dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig fod y baich marwolaethau a briodolir i lygredd yn yr aer awyr agored tymor hir yn y Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio data 2019, yn cael ‘effaith sy’n cyfateb i’ rhwng 29,000 a 43,000 o farwolaethau bob blwyddyn. Roedd hyn ymysg oedolion 30 oed a hŷn. Mae’r amcangyfrif ar gyfer Cymru yn ‘effaith sy’n cyfateb i’ rhwng 1,200 a 2,000 o farwolaethau ymysg pobl 30 oed a hŷn. Mae’n bwysig nodi nad marwolaethau gwirioneddol yw’r rhain; mae’r amcangyfrif yn ymwneud ag ystyried bod llygredd aer yn cyfrannu at farwolaethau ar sail tystiolaeth sy’n dangos bod llygredd aer yn lleihau disgwyliad oes i bawb.

Ffigur 2.2: Dangosyddion ansawdd aer, 2007 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 2.2: Siart linell yn dangos gwelliant cyffredinol mewn dangosyddion ansawdd aer dros y cyfnod 2007 i 2022. 

Ffynhonnell: Dangosyddion Allyriadau Ansawdd Aer

Gwastraff ac ailgylchu

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran rheoli gwastraff dros y degawd diwethaf drwy gynyddu faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu, a lleihau faint sy’n cael ei waredu. Mae Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu gwastraff cartrefi, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.

Roedd gostyngiad sylweddol yn swm y gwastraff a gynhyrchir, nad yw’n cael ei ailgylchu, y pen, rhwng 2012 a 2019 (o 794kg i 523kg).  Mae swm y gwastraff nad yw’n cael ei ailgylchu wedi gostwng ar gyfer pob un o’r tair elfen yn y dangosydd cenedlaethol hwn:

  • gwastraff cartrefi 
  • gwastraff diwydiannol a masnachol 
  • gwastraff adeiladu a dymchwel 

Er bod y cydrannau diwydiannol a masnachol, a gwastraff adeiladu a dymchwel yn cael eu mesur o bryd i’w gilydd drwy arolygon, mae data mwy rheolaidd a chyfredol ar gael ar wastraff cartrefi.

Mae faint o wastraff cartrefi sy’n cael ei gynhyrchu, ond nad yw’n cael ei ailgylchu fesul unigolyn, wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf, gyda rhywfaint o amrywiadau yn 2019-20 a 2020-21 – sy’n debygol o fod oherwydd COVID-19. Yn 2022-23, ar gyfartaledd ni chafodd 172kg o wastraff cartrefi a gynhyrchwyd ei ailgylchu fesul unigolyn. 

Mae’r gyfradd ailgylchu (hynny yw, canran y gwastraff trefol awdurdod lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio) wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf – o tua 5% ar ddiwedd y 1990au i bron i ddwy ran o dair (65.7%) yn 2022-23. 

Ffigur 2.3: Canran gwastraff trefol awdurdodau lleol sy’n cael ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio, 2012-13 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 2.3: Siart linell yn dangos bod canran y gwastraff trefol a gafodd ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio yng Nghymru wedi cynyddu’n gyffredinol o 52.3% yn 2012-13 i 65.7% yn 2021-22. 

Ffynhonnell: Gwastraff Trefol Awdurdodau Lleol

Cynhyrchu ynni adnewyddadwy

Roedd tua 27% o’r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru yn dod o ffynonellau adnewyddadwy yn 2022, i lawr o 33% yn 2020 oherwydd y cynnydd sylweddol mewn trydan a gynhyrchir o ffynonellau anadnewyddadwy. Cynyddodd canran gyfatebol y trydan a ddefnyddir yng Nghymru drwy gynhyrchu trydan adnewyddadwy o 55% yn 2021 i 59% yn 2022. Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod llai o drydan yn cael ei ddefnyddio. 

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy yn ymwneud â chapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Capasiti trydanol yw’r rhan fwyaf o gapasiti ynni adnewyddadwy yng Nghymru – gyda 18% o’r cyfanswm capasiti adnewyddadwy wedi’i osod yn darparu gwres.

Mae capasiti prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru (trydan a gwres) wedi cynyddu’n sylweddol dros ynni adnewyddadwy degawd diwethaf, er bod y cynnydd wedi arafu dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ddiwedd 2022, roedd y capasiti trydanol a osodwyd ar gyfer ynni adnewyddadwy yn 3,551 megawat (MW), ychydig yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a mwy na dwywaith y capasiti yn 2012. Ddiwedd 2022, cyfanswm capasiti gwres adnewyddadwy yng Nghymru oedd 798 MW, 8% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a bron i 14 gwaith yn fwy na’r capasiti gwres yn 2012. Y gyfradd gosod ar gyfer capasiti trydanol yn 2022 oedd yr ail isaf yn ystod y degawd diwethaf, ond roedd y gyfradd gosod ar gyfer capasiti gwres ar ei uchaf ers 2018. 

Mae Cymru’n parhau i fod yn allforiwr net o drydan, gan gynhyrchu dros ddwywaith cymaint o drydan ag y mae’n ei ddefnyddio bob blwyddyn.

Ffigur 2.4: Y gallu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, 2012 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 2.4: Siart linell yn dangos cynnydd sylweddol cyffredinol yn y capasiti trydan a gwres adnewyddadwy yng Nghymru rhwng 2012 a 2022, gyda’r cynnydd yn arafu yn y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru

Y garreg filltir genedlaethol ar berfformiad ynni anheddau yw y bydd pob cartref yng Nghymru yn cael perfformiad ynni digonol a chost-effeithiol erbyn 2050.  Yn ôl Arolwg Cyflwr Tai Cymru, 2017-18, ystyriwyd bod gan 47% o anheddau preswyl berfformiad ynni digonol (sgôr SAP o 65 neu uwch).

Darllen pellach

Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o’r canlynol:

  • llifogydd
  • cynefinoedd lled-naturiol
  • bioamrywiaeth
  • mannau gwyrdd
  • ansawdd pridd
  • effeithlonrwydd ynni cartrefi

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 (Cyfoeth Naturiol Cymru) yn darparu asesiad cynhwysfawr o’r graddau y mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.

Arolwg Cenedlaethol Cymru yn darparu data ar safbwyntiau pobl ar faterion amgylcheddol.

Adroddiad ar dystiolaeth Natur-bositif 2030 (Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot a’r Northern Ireland Environment Agency).

Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Adroddiad State of Nature ar gyfer Cymru (Partneriaeth State of Nature)

Ffynonellau data

Ôl troed byd-eang

Deall Ôl Troed Amgylcheddol Byd-eang ac Effeithiau Defnydd Cymru (JNCC)

Bioamrywiaeth a chynefinoedd

Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Adroddiad State of Nature ar gyfer Cymru (Partneriaeth State of Nature)

Adroddiad ERAMMP: Datblygu Dangosydd-44 (Statws Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru) (ERAMMP)

Cynllun Monitro Gloÿnnod Byw y Deyrnas Unedig (UKBMS)

Arolwg Adar Nythu (British Trust for Ornithology)

Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd

Dŵr

Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Asesiad Cydymffurfiaeth Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd Cymru yn erbyn Targedau Ffosfforws (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Asesiad o ansawdd dŵr mewn afonydd gwarchodedig yng Nghymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Adroddiad Dŵr Ymdrochi Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Asesiad o’r Risg o Lifogydd Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Ansawdd aer

Dangosyddion Cyfartaledd Crynodiadau Ansawdd Aer (StatsCymru)

Ystadegau Ansawdd Aer yn y Deyrnas Unedig (DeFRA)

Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (Ansawdd Aer Cymru)

Adroddiad ar beryglon cemegol a gwenwyn: rhifyn 28 (UK HSA)

Ailgylchu a defnyddio adnoddau

Gwastraff Trefol Awdurdodau Lleol (StatsCymru)

Ystadegau’r Deyrnas Unedig ar wastraff (DeFRA)

Arolwg o Wastraff Diwydiannol a Masnachol a Gynhyrchwyd yng Nghymru 2018 (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Arolwg o Sgil-gynhyrchion Gwastraff Adeiladu a Dymchwel Cymru 2019 (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Ynni

Data cynhyrchu ynni carbon isel (StatsCymru)

Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2022

Arolwg Cyflwr Tai Cymru

Cymru iachach

Y nod ar gyfer Cymru iachach

Awdur: Dr William Perks 

Cymru iachach: cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle mae modd deall dewisiadau ac ymddygiad sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Beth ydym wedi ei ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

  • Gostyngodd disgwyliad oes am yr ail gyfnod yn olynol, sy'n cynnwys cyfnod pandemig y coronafeirws (COVID-19).
  • Mae disgwyliad oes yn parhau i fod yn uwch i fenywod na dynion.
  • Mae disgwyliad oes iach wedi gostwng o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol.
  • Roedd disgwyliad oes iach yn uwch mewn dynion na menywod yn y cyfnod diweddaraf.
  • Cynyddodd nifer y marwolaethau o bob achos yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o’i gymharu â’r un flaenorol, ond roedd yn is na’r nifer uchel o farwolaethau a welwyd yn ystod pandemig COVID-19.
  • Roedd cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran wedi gwella yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf yn debyg i’r cyfnod blaenorol ar gyfer menywod a dynion.
  • Mae cynnydd bach wedi bod yn nifer y babanod pwysau geni isel, gyda 2022 ar ei uchaf erioed. Nid oedd y ffigur hwn wedi newid yn 2023.
  • Roedd cyfraddau bwydo ar y fron yn uwch nag a gofnodwyd erioed.
  • Roedd canlyniadau cymysg ar gyfer ymddygiad ffordd iach o fyw menywod beichiog yn yr asesiad cychwynnol, gyda chanran is o fenywod yn dweud eu bod yn ysmygu, ond canran uwch yn cael eu cofnodi fel rhai sy'n ordew neu gyda chyflwr iechyd meddwl nag yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd bodlonrwydd ar fywyd a lefelau gorbryder ymysg oedolion wedi dirywio o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Beth yw’r cynnydd hirdymor tuag at y nod?

Ymddengys fod rhywfaint o gynnydd wedi ei wneud tuag at gyflawni’r nod, gyda nifer o ddangosyddion cenedlaethol Cymru iachach yn aros yn weddol sefydlog a ddim yn dangos newid sylweddol dros y cyfnodau y maent ar gael. Mae’r pandemig hefyd wedi cael effaith amlwg ar nifer o’r tueddiadau, ac nid yw’r goblygiadau ar gyfer tueddiadau tymor hirach yn glir.

Roedd disgwyliad oes wedi bod yn codi ers yr Ail Ryfel Byd, er bod hynny’n arafach dros y degawd diwethaf. Fodd bynnag, mae wedi gostwng am yr ail gyfnod yn olynol, sy’n cynnwys cyfnod pandemig COVID-19.

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer disgwyliad oes iach yw cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a lleihau’r bwlch rhwng disgwyliad oes iach yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf a mwyaf o leiaf 15% erbyn 2050. Mae’r data’n dangos bod disgwyliad oes iach adeg geni menywod a dynion wedi gostwng rhwng 2011-13 a 2020-22. Mae’n ymddangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf wedi gwella ychydig ar gyfer dynion ond wedi dirywio ychydig ar gyfer menywod, er nad yw’r rhain yn sylweddol wahanol.

Dros yr hirdymor, mae cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran, sy’n caniatáu i ni wneud cymariaethau gwell dros amser ac ardal am eu bod yn ystyried maint y boblogaeth a’r strwythur o ran oedran, wedi bod yn gwella. 

Mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni gyda phwysau geni isel wedi aros yn gymharol sefydlog dros y gyfres amser, fel arfer yn amrywio rhwng 5% a 6%, er bod cynnydd wedi bod yn y ganran o fabanod â phwysau geni isel wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf.

Nod y garreg filltir genedlaethol yw cynyddu canran yr oedolion sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 97% erbyn 2050. Rhwng 2016-17 a 2019-20, roedd dirywiad yng nghyfran yr oedolion a ddywedodd fod ganddynt ddau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iach, ac mae ychydig yn is na’r garreg filltir genedlaethol. Mae’r duedd ers 2020-21 wedi bod yn sefydlog ond nid oes modd cymharu hyn â blynyddoedd blaenorol, oherwydd y newid ym modd y cynhaliwyd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Nod y garreg filltir genedlaethol yw cynyddu canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050. Mae canran y bobl ifanc sy’n cyrraedd y garreg filltir genedlaethol wedi gwella ac yn 2021/22 roedd 89.8% yn uwch na’r 87.7% a gofnodwyd yn 2017/18. 

Y garreg filltir genedlaethol ar lesiant meddyliol yw gwella llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch mewn llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf yng Nghymru erbyn 2050. 

Roedd llesiant meddyliol oedolion ar gyfartaledd yn debyg o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’n ymddangos bod y bwlch yn y sgôr llesiant cyfartalog rhwng y rheini o’r ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf wedi ehangu ers 2020-21. Fodd bynnag, oherwydd y gwahaniaeth yn y modd casglu, mae’n anodd cymharu’r dangosydd hwn yn y tymor hwy.

Wrth fesur llesiant meddyliol pobl ifanc gan ddefnyddio’r mesur newydd ar gyfer y dangosydd cenedlaethol, roedd y sgôr gyfartalog ar gyfer pobl ifanc yn is yn 2021/22 o’i gymharu â 2017/18, gan ddangos gostyngiad mewn llesiant meddyliol. Mae’r bwlch yn y sgôr gyfartalog rhwng y rhai o olud teuluol isel ac uchel wedi lleihau, ond dim ond oherwydd dirywiad yn sgôr y rhai o olud teuluol uchel. 

Mae cyflwr tai wedi gwella. Dangosodd yr Arolwg Cyflwr Tai Cymru diweddaraf nad oedd y peryglon mwyaf difrifol (categori 1) i’w gweld mewn 82% o’r anheddau yn 2017-18, o’i gymharu â 71% yn 2008. Gwelwyd gwelliannau ym mhob deiliadaeth.

Disgwyliad oes

Roedd disgwyliad oes wedi bod yn cynyddu ers yr Ail Ryfel Byd, er bod hynny’n arafach dros y degawd diwethaf. 

Mae dadansoddiad yn dangos mai dynion a menywod 60 i 84 oed sy’n cyfrannu fwyaf at gynyddu disgwyliad oes, ond mae’r gwelliannau hyn wedi arafu’n sylweddol.

Gwelwyd gostyngiad mewn disgwyliad oes yn y cyfnod diweddaraf sydd ar gael (2020-22), sy’n cynnwys cyfnod pandemig COVID-19.

Roedd disgwyliad oes adeg geni yn 81.8 oed i fenywod a 77.9 oed i ddynion yn 2020-22. Roedd hyn yn ostyngiad bach i ddynion a menywod, yn dilyn cyfraddau marwolaeth uwch yn ystod pandemig COVID-19. 

Yn y cyfnod diweddaraf ar gyfer disgwyliad oes iach (2020-22), roedd disgwyliad oes iach yn 61.1 oed i ddynion a 60.3 oed i fenywod, gostyngiad i ddynion a menywod o’i gymharu â 2011-13, pan ddechreuodd y gyfres amser. Roedd disgwyliad oes iach i fenywod hefyd wedi disgyn islaw disgwyliad oes iach dynion am y tro cyntaf.

Ffigur 3.1: Disgwyliad oes a disgwyliad oes iach adeg geni, yn ôl rhyw, 2001-03 i 2020-22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3.1: Siart linell sy’n dangos bod cynnydd mewn disgwyliad oes ar gyfer dynion a menywod wedi arafu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac wedi gostwng yn y cyfnod diweddaraf. Mae disgwyliad oes iach hefyd wedi gostwng, yn enwedig i fenywod o’i gymharu â 2011-13 pan ddechreuodd y gyfres amser. 

Ffynhonnell: Disgwyliad oes a Disgwyliadau oes a chyflwr iechyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

[Nodyn 1] Nid yw’r echelin Y yn cychwyn ar sero

Achosion marwolaethau

Yn 2023, bu 36,054 o farwolaethau o bob achos. Roedd hyn yn gynnydd ar 2022 ond yn is na’r nifer uchel o farwolaethau a welwyd yn 2020 a 2021. Roedd hyn hefyd yn dal yn uwch na’r niferoedd hanesyddol a gofnodwyd cyn y pandemig.

Roedd prif achosion marwolaethau yn 2022 yn deillio o glefydau isgemia’r galon (3,922), ac yna Dementia a chlefyd Alzheimer (3,833), y ddau gyda bron i ddwywaith nifer y marwolaethau nag unrhyw achos arall o farwolaeth. Yn hanesyddol, dyma sydd wedi achosi’r nifer mwyaf o farwolaethau. 

Mae cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran yn caniatáu i ni wneud cymariaethau gwell dros amser ac ardal am eu bod yn ystyried maint y boblogaeth a’r strwythur o ran oedran. 

Yn seiliedig ar ddata hyd at 2022, dros yr hirdymor mae cyfraddau marwolaeth safonedig yn ôl oedran wedi bod yn gwella, gan ostwng o 1,406 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl ym 1994 i 1,056 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl yn 2022. 

Yn 2022, roedd y cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran yn sylweddol uwch ar gyfer dynion, 1,217 o farwolaethau am bob 100,000, nag ar gyfer menywod, 924 o farwolaethau am bob 100,000 o fenywod.

Yn 2022, ystyriwyd bod modd osgoi 22.7% o’r holl farwolaethau (8,114 o 35,694 o farwolaethau), a oedd yn is nag yn 2021. Dros y tymor hir, mae cyfraddau marwolaeth safonedig ar gyfer marwolaethau roedd modd eu hosgoi wedi bod yn gwella, gan ostwng o 376.1 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl yn 2001 i 273.8 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl yn 2022.

Neoplasmau (canser) yw prif achos marwolaethau y gellir eu hosgoi o hyd, ond mae cyfraddau’r marwolaethau y gellir eu hosgoi ar gyfer neoplasmau wedi parhau i ostwng. Yn 2022, roedd cyfraddau marwolaeth safonedig yn ôl oedran ar gyfer neoplasmau yn 84.1 am bob 100,000 o bobl, o’i gymharu â 115.0 yn 2001.

Mae’r gyfradd marwolaethau ar gyfer marwolaethau roedd modd eu hosgoi sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau wedi parhau i gynyddu. Roedd y gyfradd marwolaethau safonedig yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau yn 30.2 fesul 100,000 o bobl yn 2022, o’i gymharu â 21.2 yn 2001.

Ffigur 3.2: Cyfradd marwolaethau safonedig yn ôl oedran, 1994 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 3.2: Siart linell yn dangos gwelliannau mewn cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran dros y tymor hir

Ffynhonnell: Marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, SYG

Anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes a marwolaeth

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer disgwyliad oes iach yw cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a lleihau’r bwlch rhwng disgwyliad oes iach yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf a mwyaf o leiaf 15% erbyn 2050.

Mae llawer o anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes a marwolaeth o hyd. 

Mae dadansoddiadyn seiliedig ar ddata 2018-20 yn dangos bod y bwlch cyffredinol mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2011-13 a 2018-20. Mae’n ymddangos bod y bwlch hwn wedi lleihau ychydig yn y cyfnod diweddaraf ar gyfer dynion (13.3 mlynedd) ac wedi cynyddu ychydig ar gyfer menywod (16.9 mlynedd).

Mae’r bwlch disgwyliad oes yn llawer llai, sef 7.6 mlynedd i ddynion a 6.4 mlynedd i fenywod. Ond mae wedi bod yn cynyddu’n gyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddynion a menywod, sy’n awgrymu bod anghydraddoldeb cynyddol. 

Mae dynion hefyd yn treulio mwy o’u bywyd mewn iechyd da o’i gymharu â menywod.

Mae’r data diweddaraf ar anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol mewn marwolaethau y gellir eu hosgoi yn dod o 2020 ymlaen, lle’r oedd cyfran y marwolaethau yr oedd modd eu hosgoi yn parhau i fod yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf o’i gymharu â’r ardaloedd o amddifadedd lleiaf. 

Roedd marwolaethau y gellid eu hosgoi yn cyfrif am 37.0% o’r holl farwolaethau ymysg dynion yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf o’i gymharu â 18.9% yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf. Ar gyfer menywod, roedd y ffigurau cyfatebol yn 25.7% yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf ac 14.1% yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf. 

Yn 2020, fe wnaeth y bwlch absoliwt mewn marwolaethau y mae modd eu hosgoi rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf gynyddu i’r lefel uchaf ers 2003 ar gyfer dynion ac ers i’r gyfres amser data ddechrau ar gyfer menywod.

Ffigur 3.3: Bwlch absoliwt mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf, dynion a menywod, rhwng 2011-13 a 2020-22 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3.3: Siart linell yn dangos bwlch absoliwt mewn disgwyliad oes rhwng 2011-13 a 2020-22 a disgwyliad oes iach ar gyfer dynion a menywod rhwng 2011-13 a 2018-20. Mae gan fenywod ddisgwyliad oes uwch ond mae gan ddynion ddisgwyliad oes iach uwch. 

Ffynhonnell: Offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

[Nodyn 1] Cyfrifir y bwlch mewn disgwyliadau iechyd fel y gwahaniaeth absoliwt rhwng y pumed o ardaloedd gyda’r amddifadedd lleiaf a mwyaf. Mae’r dull hwn wedi newid ers i ddisgwyliadau iechyd blaenorol gael eu rhyddhau, a hynny er mwyn gwella sefydlogrwydd y mesur ar lefel awdurdod lleol. Defnyddiwyd Mynegai Oleddol Anghydraddoldeb (SII) i gyfrifo’r bwlch yn flaenorol. Mae’r SYG yn parhau i gyhoeddi’r SII ar lefel genedlaethol fel rhan o’i datganiad ar ddisgwyliad oes a chyflwr iechyd. 

[Nodyn 2] Nid yw’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf ar gyfer 2020-22 ar gael ar hyn o bryd.

Babanod iach

Mae canran y babanod pwysau geni isel wedi aros yn gymharol sefydlog dros y gyfres amser, fel arfer yn amrywio rhwng 5% a 6%.

Cofnodwyd y ffigurau isaf erioed i’w cofnodi yn 2014 a 2015. Ers hynny, mae cynnydd bach wedi bod yn nifer y babanod pwysau geni isel, gyda 2022 ar ei uchaf erioed. Nid oedd y ffigur hwn wedi newid yn 2023. 

Yn 2023, roedd gan ganran ychydig yn uwch o fabanod benyw bwysau geni isel (6.7%) o’i gymharu â babanod gwryw (5.5%). Mae hyn yn weddol gyson â’r duedd dros dymor hirach.

Yn ystod y degawd diwethaf, mae cyfraddau bwydo ar y fron ar bob adeg wedi bod yn cynyddu, gyda chyfraddau 2023 yr uchaf erioed. Roedd y data blynyddol diweddaraf yn 2023 yn dangos bod canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron adeg geni yn 65.5%. Roedd hyn 3.6 pwynt canran yn uwch na phum mlynedd yn ôl. 

Ffigur 3.4: Canran y genedigaethau unig blant gyda phwysau geni o lai na 2,500g, 2005 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 3.4: Siart linell yn dangos canran genedigaethau byw unig blant gyda phwysau geni o lai na 2,500g. Mae’r gyfradd fel arfer wedi amrywio rhwng 5% a 6% yn ystod y gyfres amser, gyda chynnydd bach ers 2014.

Ffynhonnell: Ystadegau mamolaeth a genedigaethau, Llywodraeth Cymru

Iechyd mamau

Yn 2023, mae’r data yn dal i ddangos canlyniadau cymysg ar gyfer ymddygiad iach menywod beichiog yn yr asesiad cychwynnol, gyda chanran is o fenywod yn dweud eu bod yn ysmygu, ond canran uwch yn cael eu cofnodi fel rhai sy'n ordew neu sydd â chyflwr yn gysylltiedig ag iechyd meddwl nag yn y flwyddyn flaenorol. 

Yn 2023, cafodd 13.8% o fenywod beichiog eu cofnodi fel ysmygwyr yn eu hasesiad cychwynnol. Mae hyn yn parhau’r duedd ar i lawr ers dechrau casglu data am y tro cyntaf yn 2016 ac mae ychydig yn is na’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, rhwng 2021 a 2022, roedd bron yr holl ddata yn cael ei adrodd gan unigolion eu hunain er mwyn lleihau’r risg o ledaenu COVID-19, yn hytrach na bod carbon monocsid yn cael ei fonitro. Gallai hynny fod wedi effeithio ar gymariaethau uniongyrchol cyn hyn. Ailddechreuodd y gwaith o fonitro CO yn 2023 a chododd canran y menywod a gafodd eu monitro am CO yn yr asesiad cychwynnol i 17%.

Roedd gan ychydig dros dair o bob deg (32%) o fenywod beichiog fynegai màs y corff (BMI) o 30 neu fwy yn yr asesiad cychwynnol. Parhaodd y duedd ar i fyny yn y tymor hirach gan fod y ganran yn 2023 1 pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol a chwe phwynt canran yn uwch nag yn 2016 (blwyddyn gyntaf y data cymaradwy). 

Dywedodd ychydig dros dair o bob deg (32%) o fenywod beichiog fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol. Parhaodd y duedd ar i fyny yn y tymor hirach hefyd, gyda’r data diweddaraf 2 bwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol, ac 13 pwynt canran yn uwch nag yn 2016. 

Gostyngodd nifer y genedigaethau byw i’w ffigur isaf yn 2023 ers dechrau casglu data gweddol gymaradwy yn 1929. Am y 30 mlynedd cyn 2018, roedd nifer y genedigaethau byw yng Nghymru yn amrywio rhwng 30,000 a 37,000 y flwyddyn ond mae wedi bod o dan 30,000 bob blwyddyn ers hynny. Mae nifer y genedigaethau byw wedi gostwng 23.2% o’i gymharu â deng mlynedd yn ôl.

Ymddygiadau ffordd iach o fyw

Dyma’r cerrig milltir cenedlaethol ar ymddygiad iach oedolion a phlant o ran ffordd o fyw:

  • cynyddu’r ganran sydd â dau neu fwy o ymddygiadau iach i fwy na 97% ar gyfer oedolion erbyn 2050
  • cynyddu’r ganran sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% yn achos plant erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050

Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi cael ei addasu oherwydd y pandemig, gyda newid ym modd yr arolwg (cyfweliadau dros y ffôn yn hytrach na chyfweliadau wyneb yn wyneb) a newidiadau i rai cwestiynau o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Gan fod y pynciau hyn yn gallu bod yn sensitif i newidiadau o’r fath, nid yw’n bosibl cymharu’r canlyniadau’n uniongyrchol â data o flynyddoedd cyn 2020-21.

Cyn y pandemig, rhwng 2016-18 a 2019-20, roedd canran yr oedolion a ddywedodd fod ganddynt ddau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iach wedi gostwng, ac roedd ychydig yn is na’r garreg filltir genedlaethol. Mae’r duedd ers 2020-21 wedi bod yn sefydlog ond ni ellir ei gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Mae’r data diweddaraf a gyflwynir yma ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023. Roedd y mwyafrif (92.3%) o oedolion yn dweud eu bod yn dilyn dau neu fwy o’r pum ymddygiad ffordd o fyw iach. Mae hyn yn cynnwys peidio ag ysmygu, yfed o fewn y canllawiau wythnosol, bwyta pum dogn neu fwy o ffrwythau neu lysiau y diwrnod blaenorol, bod yn gorfforol egnïol am 150 munud neu fwy'r wythnos flaenorol, a bod yn bwysau iach. 

Yn 2022-23, roedd canran yr oedolion â dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy yn is ymysg dynion (o’i gymharu â menywod), pobl 45 i 64 oed (o’i gymharu â’r rhai mewn grwpiau oedran iau neu hŷn) a phobl o ardal o fwy o amddifadedd (o’i gymharu â’r rheini o ardal o lai o amddifadedd). 

Oherwydd maint sampl Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae dadansoddiadau yn ôl nodweddion gwarchodedig eraill yn gyfyngedig, felly mae'r dadansoddiad isod yn cyfuno pedair blynedd o ddata (o 2016-17 i 2019-20) i allu dadansoddi’r rhain. Ar ben hynny, mae’r dadansoddiad hwn yn seiliedig ar ganlyniadau wedi’u safoni yn ôl oedran er mwyn ystyried gwahaniaethau ym mhroffil oedran mewn gwahanol grwpiau.

Roedd oedolion a oedd yn ystyried eu hunain yn ddeurywiol yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy (o’u cymharu â’r rheini mewn grwpiau cyfeiriadedd rhywiol eraill), fel yr oedd oedolion nad oeddent yn anabl (o’u cymharu â’r rhai a oedd yn anabl). 

Roedd oedolion a ddywedodd nad oedd ganddynt grefydd yn llai tebygol o adrodd bod ganddynt ddau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy na’r rhai mewn grwpiau crefyddol eraill; y rhai a oedd yn nodi eu bod yn Fwslim oedd fwyaf tebygol o wneud hynny (er nad oedd y gwahaniaeth o’i gymharu â’r grŵp crefydd Arall yn ystadegol arwyddocaol). Roedd oedolion a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy na’r rheini a oedd yn sengl neu’r rheini a oedd wedi gwahanu neu ysgaru.

Ffigur 3.5: Canran yr oedolion sydd â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw, 2016-17 i 2022-23 [Nodyn 1], [Nodyn 2], [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3.5: Siart linell yn dangos bod canran yr oedolion â dau ymddygiad iach neu fwy wedi dirywio rhwng 2016-17 a 2019-20. Mae’r duedd ers 2020-21 wedi bod yn sefydlog ond ni ellir ei chymharu â blynyddoedd blaenorol.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu canlyniadau 2020-21 â blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau yn yr arolwg

[Nodyn 2] Mae’r canlyniadau o 2020-21 ar gyfer chwarter 4 yn unig ac nid ar gyfer data blynyddol

[Nodyn 3] Nid yw’r echelin Y yn cychwyn ar sero

Dangosodd arolwg Iechyd a Lles y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion fod canran y bobl ifanc (11 i 16 oed) sy’n cyrraedd y garreg filltir genedlaethol ym mlwyddyn academaidd 2021/22 yn 89.8% - ychydig yn uwch na’r 87.7% a adroddwyd ym mlynyddoedd academaidd 2019/20 a 2017/18. 

Mae’r ymddygiadau iach dan sylw yn cynnwys peidio ag ysmygu, peidio ag yfed alcohol neu beidio â’i yfed yn aml, bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd a bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy bob dydd, dros y saith diwrnod blaenorol. Ar gyfer yr ymddygiadau sylfaenol hyn ym mlwyddyn academaidd 2021/22:

  • roedd 95% o bobl ifanc yn dweud nad oeddent yn ysmygu
  • roedd 83% o bobl ifanc yn dweud nad oeddent yn yfed alcohol neu nad oeddent yn ei yfed yn aml
  • roedd 45% o bobl ifanc yn dweud eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd
  • roedd 16% o bobl ifanc yn dweud eu bod wedi bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy y dydd, dros y saith diwrnod diwethaf

Rhwng blynyddoedd academaidd 2017/18 a 2021/22, mae nifer y bobl ifanc a ddywedodd nad oeddent yn ysmygu ac nad oeddent byth neu’n anaml yn yfed alcohol wedi gwella rhywfaint. Mae’r rhai sy’n dweud eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd neu wedi bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy y dydd dros y saith diwrnod diwethaf wedi gweld gostyngiad bach. 

Ym mlwyddyn academaidd 2021/22, y rhai a oedd yn iau, a oedd yn ddynion (91%) ac o olud teuluol uchel (90%) oedd â’r ganran uchaf o bobl ifanc â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw, o’i gymharu â’r rhai nad oeddent yn ystyried eu hunain yn fachgen nac yn ferch (84%), o grŵp golud teuluol isel (89%) neu a oedd yn hŷn, a oedd â’r ganran isaf. 

Mae lefelau gweithgarwch corfforol yn gostwng yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd, ac mae bechgyn (yn hytrach na merched neu bobl ifanc a nododd nad oeddent yn fachgen nac yn ferch) a’r rhai sy’n dod o grŵp golud teuluol uchel (yn hytrach na golud teuluol canolig neu isel) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy bob dydd, dros y saith diwrnod diwethaf.

Mae canran y bobl ifanc sy'n dweud eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd hefyd yn gostwng yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd, gyda merched (yn hytrach na bechgyn neu bobl ifanc a nododd nad oeddent yn fachgen nac yn ferch) a’r rhai sy’n dod o grŵp golud teuluol uchel (yn hytrach nag un canolig neu isel) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd. 

Gostyngodd canran y bobl ifanc sy'n dweud nad ydynt yn ysmygu yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd. Roedd merched a bechgyn (o’u cymharu â phobl ifanc a nododd nad oeddent yn fachgen nac yn ferch) a’r rhai o grŵp golud teuluol uchel a chanolig (o’i gymharu â golud teuluol isel) yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent yn ysmygu.

Roedd canran y bobl ifanc sy'n dweud nad ydynt yn yfed alcohol neu nad ydynt yn ei yfed yn aml yn gostwng yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd. Roedd merched a bechgyn (o’u cymharu â phobl ifanc a nododd nad oeddent yn fachgen nac yn ferch) a’r rhai o grŵp golud teuluol isel (o’i gymharu â golud teuluol uchel a chanolig) yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent yn yfed alcohol neu'n yfed yn anaml iawn.

Ffigur 3.6: Canran y bobl ifanc 11-16 oed gyda dau neu ragor o ymddygiadau iach, 2017/18 (blwyddyn academaidd) i 2021/22

Image

Disgrifiad o Ffigur 3.6: Siart linell yn dangos bod canran y bobl ifanc 11-16 oed â dau ymddygiad iach neu fwy wedi gwella rhwng 2017/18 a 2021/22.

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

[Nodyn 1] Nid yw’r echelin Y yn cychwyn ar sero

Iechyd meddwl a llesiant ymysg oedolion

Y garreg filltir genedlaethol ar lesiant meddyliol yw gwella llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch mewn llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf yng Nghymru erbyn 2050

Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi cael ei addasu oherwydd y pandemig, gyda newid ym modd yr arolwg (cyfweliadau dros y ffôn yn hytrach na chyfweliadau wyneb yn wyneb) a newidiadau i rai cwestiynau o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Gan fod y pynciau hyn yn gallu bod yn sensitif i newidiadau o’r fath, nid yw’n bosibl cymharu’r canlyniadau’n uniongyrchol â data o flynyddoedd cyn 2020-21.

Gofynnwyd i oedolion am eu llesiant meddyliol a sgoriwyd y canlyniadau gan ddefnyddio Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWBS). Mae sgôr uwch (58 i 70) yn awgrymu llesiant meddyliol uchel, ac mae sgorio 44 neu is yn awgrymu llesiant meddyliol isel. Mae sgôr rhwng 45 a 57 yn awgrymu bod gan yr unigolyn lesiant meddyliol canolig.

Y sgôr WEMWBS gyfartalog gyffredinol yn y data diweddaraf sydd ar gael gan yr Arolwg cenedlaethol (2022-23) oedd 48.2, sy’n golygu bod llesiant meddyliol canolig gan ymatebwyr ar gyfartaledd. Mae hyn yn debyg i’r sgôr WEMWEBS gyfartalog yn 2021-22. 

Mae’n ymddangos bod y bwlch yn y sgôr WEMWEBS cyfartalog rhwng y rheini o’r cwintelau MALlC o amddifadedd mwyaf a lleiaf wedi ehangu yn y cyfnod diweddaraf o gymharu â 2020-21.

Wrth edrych ar y dadansoddiad o sgoriau ymatebwyr, roedd 32% o sgoriau oedolion yn cyfateb i lesiant meddyliol isel, 55% i lesiant meddyliol canolig a 13% i lesiant meddyliol uchel.

Ar gyfartaledd, mae gan oedolion iau lesiant meddyliol is (gyda’r rhai rhwng 16 a 24 oed yn cael sgôr WEMWBS o 47.4) na’r rhai sy’n 65 oed neu’n hŷn (sgôr WEMWBS o 51.3). 

Roedd gan oedolion mewn gwell iechyd cyffredinol well llesiant meddyliol hefyd. Wrth i iechyd cyffredinol ddirywio, felly hefyd y sgôr gyfartalog ar gyfer llesiant meddyliol. Cafodd y rhai ag iechyd cyffredinol da sgôr llesiant meddyliol cyfartalog o 50.4, ac roedd gan y rhai ag iechyd cyffredinol gwael sgôr llesiant meddyliol cyfartalog o 39.1.

Mae llesiant meddyliol oedolion sy’n dweud eu bod yn unig hefyd yn is ar gyfartaledd (sgôr WEMWBS o 39.0) na’r rhai sydd weithiau’n unig (sgôr WEMWBS o 47.4) neu byth yn unig (sgôr WEMWBS o 52.0).

Mae’r rhyngweithiadau hyn ag oedran ac iechyd yn dangos yr un duedd â blynyddoedd blaenorol, ond dylid ystyried y newid yn y modd hefyd wrth gymharu’r canlyniadau.

Roedd boddhad â bywyd ar gyfartaledd wedi bod yn cynyddu am bron i ddegawd ers 2011-12, gyda lefelau gorbryder yn gostwng rhywfaint ar gyfartaledd. Fodd bynnag, yn 2020-21, dirywiodd lefelau bodlonrwydd ar fywyd a gorbryder i lefelau gwaeth na’r rhai a welwyd yn 2011-12, yn debygol oherwydd effeithiau’r pandemig. Er bod sgoriau yn 2021-22 wedi gwella rhywfaint, dychwelodd ffigurau 2022-23 i’r rhai tebyg yn 2020-21.

Ffigur 3.7: Sgôr Gyfartalog Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion, rhwng 2016-17 a 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3.7: Siart linell yn dangos nad oedd sgôr gyfartalog Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWEBS) ar gyfer oedolion yn dangos unrhyw newid sylweddol rhwng 2016-17 a 2019-20 nac ers 2020-21. Mae’n ymddangos bod y bwlch yn sgôr gyfartalog WEMWEBS rhwng y rheini o’r ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf wedi ehangu ers 2020-21. Fodd bynnag, nid yw’n bosibl deall y duedd tymor hirach ar gyfer y garreg filltir hon oherwydd newidiadau yn y broses o gasglu data. 

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru 

[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu canlyniadau 2020-21 â blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau yn yr arolwg

[Nodyn 2] Nid yw’r echelin Y yn cychwyn ar sero

Iechyd meddwl a llesiant plant

Mae’r mesur sylfaenol a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r dangosydd cenedlaethol ar gyfer llesiant meddyliol plant wedi newid o’i gymharu â diweddariadau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru. Mae'r dangosydd hwn bellach yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio Graddfa Fer Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (SWEMWBS) gan ddefnyddio Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN). Mesurwyd y dangosydd yn flaenorol gan ddefnyddio’r Holiadur Cryfderau ac Anawsterau (SDQ). Mae’r newid hwn wedi ei wneud gan fod SWEMWBS, sy’n cyfleu hapusrwydd unigolyn ac i ba raddau mae unigolyn yn gweithredu’n llawn, yn cyd-fynd yn well â’r dangosydd cenedlaethol o’i gymharu â’r Holiadur Cryfderau ac Anawsterau, sy’n offeryn sgrinio ar gyfer mesur cryfderau ac anawsterau seicolegol. Mae’r mesur newydd hefyd yn cyd-fynd yn well â’r mesur a ddefnyddir ar gyfer llesiant meddyliol oedolion (WEMWBS). 

Mae sgôr gyffredinol uwch ar gyfer SWEMWBS yn arwydd o lesiant meddyliol mwy cadarnhaol. Mae sgoriau o’r SWEMWBS yn seiliedig ar set fyrrach o gwestiynau i’r WEMWBS oedolion ac felly nid yw’r sgoriau’n cyfateb yn uniongyrchol.

Wrth fesur llesiant meddyliol plant gan ddefnyddio’r mesur newydd (SWEMWBS) ar gyfer y dangosydd cenedlaethol, roedd y sgôr SWEMWBS gyfartalog ar gyfer pobl ifanc (11 i 16 oed) ychydig yn is ym mlwyddyn academaidd 2021/22 (23.0) o’i gymharu â 2017/18 (23.9), gan ddangos gostyngiad mewn llesiant meddyliol. 

Mae’r bwlch yn sgôr cyfartalog SWEMWEBS rhwng y rhai o olud teuluol isel ac uchel wedi lleihau, ond dim ond oherwydd dirywiad yn sgôr y rhai o olud teuluol uchel. 

Roedd y dadansoddiadau yn ôl rhywedd yn dangos mai’r rhai nad ydynt yn ystyried eu hunain yn fachgen nac yn ferch oedd â’r llesiant meddyliol isaf, a merched yn adrodd llesiant meddyliol is na bechgyn. Roedd sgoriau llesiant meddyliol hefyd yn gostwng yn ôl oedran.

Roedd 78% o bobl ifanc yn dweud bod eu boddhad â’u bywyd yn 6 neu’n uwch ar yr Ysgol Cantril (lle mae’r sgoriau’n amrywio o 0 i 10, ac mae sgôr o 6 neu fwy yn cael ei ddiffinio fel bodlonrwydd uchel ar fywyd) ym mlwyddyn academaidd 2021/22, gan ddangos tuedd sy’n gostwng o flwyddyn academaidd 2017-18 pan oedd 85% o bobl ifanc yn dweud bod eu boddhad â bywyd yn 6 neu’n uwch. 

Roedd bechgyn (85%) yn fwy tebygol na merched (74%) o gael boddhad â bywyd, ac roedd boddhad â bywyd yn sylweddol is ymysg pobl ifanc nad oeddent yn ystyried eu hunain yn fachgen nac yn ferch (43%). 

Gostyngodd bodlonrwydd ar fywyd hefyd yn ôl oedran ac roedd ar ei isaf yn y grŵp golud teuluol isel.

Mae rhagor o ddata am ymddygiad iechyd ymhlith plant oed ysgol ar gael o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion.

Ffigur 3.8: Sgôr Gyfartalog Graddfa Fer Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed, 2017/18 (blwyddyn academaidd) hyd at 2021/22

Image

Disgrifiad o Ffigur 3.8: Siart linell yn dangos bod sgôr gyfartalog Graddfa Fer Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (SWEMWEBS) ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed wedi gostwng rhwng 2017/18 a 2021/22. Mae’r bwlch yn sgôr cyfartalog SWEMWEBS rhwng y rhai o olud teuluol isel ac uchel wedi lleihau, ond dim ond oherwydd dirywiad yn sgôr y rhai o olud teuluol uchel

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

[Nodyn 1] Nid yw’r echelin Y yn cychwyn ar sero

Tai peryglus

Mae amrywiaeth o ffactorau’n bwysig i iechyd pawb. Er enghraifft, mae cyflogaeth, llygredd aer a thai i gyd yn effeithio ar ganlyniadau iechyd cyffredinol.

Mae cyflwr tai yng Nghymru wedi gwella dros y deng mlynedd diwethaf i 2017-18, gan leihau’r perygl posibl i iechyd y preswylwyr. 

Dangosodd yr Arolwg Cyflwr Tai Cymru diweddaraf nad oedd y peryglon mwyaf difrifol (categori 1) i’w gweld mewn 82% o’r anheddau yn 2017-18, o’i gymharu â 71% yn 2008. Gwelwyd gwelliannau ym mhob deiliadaeth.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn casglu data ar asesiadau’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) sy'n cael ei gynnal gan awdurdodau lleol. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod 70% o asesiadau HHSRS awdurdodau lleol yn 2022-23 yn rhydd o beryglon categori 1, sy’n gyson â’r flwyddyn flaenorol a’r blynyddoedd a welwyd cyn y pandemig. Fel arfer, cynhelir asesiadau HHSRS awdurdodau lleol yn y sector rhentu preifat a dim ond o dan amgylchiadau penodol (er enghraifft, pan dderbynnir cwyn am annedd). Am y rheswm hwn, nid oes modd cymharu data ar asesiadau HHSRS awdurdodau lleol yn uniongyrchol â chanlyniadau Arolwg Cyflwr Tai Cymru.

Darllen pellach

Mae adroddiadau Llesiant blaenorol Cymru wedi cynnwys dadansoddiad pellach ar:

  • goroesi canser
  • seiberfwlio
  • defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd broblemus

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, ac felly dim ond mesurau cynnydd lefel uchel y mae modd eu hystyried yn yr adroddiad hwn. Mae dadansoddiad manylach o lawer o’r pynciau hyn ar gael drwy’r amrywiaeth o ddatganiadau ystadegol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, y SYG neu gynhyrchwyr ystadegol eraill.

Ffynonellau data

Cymru sy’n fwy cyfartal

Y nod i Gymru sy’n fwy cyfartal

Awdur: Scott Clifford

Cymru sy'n fwy cyfartal: cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol). 

Mae’r bennod hon wedi’i threfnu yn ôl nodwedd warchodedig, ac mae’n dwyn ynghyd ddadansoddiadau cydraddoldeb ar gyfer dangosyddion lle mae’r rhain ar gael. Fodd bynnag, nid yw pob dadansoddiad o gydraddoldeb yn cael sylw yn y bennod hon ac mae maint ac ansawdd y data sydd ar gael yn amrywio yn ôl nodwedd warchodedig. 

Roedd y bennod hon yn arfer cynnwys adran a oedd yn canolbwyntio ar ddata sy’n ymwneud ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Fodd bynnag, nid oedd yn cynnwys llawer o wybodaeth am gefndir economaidd-gymdeithasol ac effaith hyn ar bobl sy’n cyflawni eu potensial. Byddwn yn parhau i adolygu cynnwys y bennod hon wrth i ragor o ddata ar gefndir economaidd-gymdeithasol ddod ar gael. 

Mae yna garreg filltir genedlaethol i leihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â rhai nodweddion allweddol a gwarchodedig (sy’n golygu eu bod fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a’r rhai heb y nodweddion hynny erbyn 2035. Mae data ar dlodi incwm ac amddifadedd materol yn ôl nodweddion gwarchodedig wedi cael eu cynnwys drwy gydol y bennod hon os yw’r ffynonellau data hynny ar gael. I gael gwybodaeth fwy cyffredinol am anfantais economaidd-gymdeithasol, trowch at y bennod ar Gymru fwy ffyniannus. 

Beth ydym wedi ei ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Nid yw rhai o’r dangosyddion sy’n cynnwys dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig yn cael eu diweddaru bob blwyddyn. Hefyd, nid oes data newydd ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru eleni, felly mae llai o feysydd lle mae’r data wedi cael eu diweddaru. 

Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Yn ystod haf 2023, roedd 69.7% o ferched wedi cael graddau A* i C. Roedd hyn 7.3 pwynt canran yn uwch na bechgyn. Mae’r bwlch wedi lleihau ychydig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Mae plant o rai grwpiau ethnig yn parhau i gyflawni’n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o’u cymharu ag eraill, gyda 72.3% o arholiadau TGAU a oedd yn cael eu sefyll gan ddisgyblion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael graddau A* i C yn ystod haf 2023 o’u cymharu â 65.5% gan ddisgyblion Gwyn Prydeinig. Mae’r bwlch hwn wedi ehangu ers 2018/19 pan oedd yn 3.3 pwynt canran (6.8 pwynt canran yn 2022/23).

Mae gwahaniaethau mawr i’w gweld o hyd rhwng disgyblion o wahanol grwpiau ethnig, gyda disgyblion Sipsiwn, Teithwyr, Roma a Charibïaidd yn ennill llai o raddau A* i C na disgyblion Gwyn Prydeinig yn 2022/23. 

Roedd cyfran yr oedolion anabl o oedran gweithio heb gymwysterau wedi gostwng 2.4 pwynt canran rhwng 2022 a 2023. Er hyn, roedd pobl anabl yn dal yn fwy tebygol o fod heb gymwysterau (13.9%) na phobl nad ydynt yn anabl (5.6%). 

Mae cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru yn dal yn is ar gyfer menywod nag ar gyfer dynion (70.2% a 76.8% yn y drefn honno yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024). Mae’r bwlch wedi tyfu i 6.6 pwynt canran o 4.8 pwynt canran yn y flwyddyn flaenorol.  

Mae’r cyfraddau cyflogaeth (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024) ymysg poblogaeth Cymru rhwng 16 a 64 oed yn uwch ymysg unigolion o gefndir ethnig Gwyn (74.0%), nag unigolion o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (66.2%). Mae’r bwlch hwn mewn cyfraddau cyflogaeth wedi tyfu o’r flwyddyn flaenorol.   

Mae’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn 2024, sef 30.9 pwynt canran, wedi gostwng o 35.4 pwynt canran yn 2016. 

Ym mis Ebrill 2023, 5.6% oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (llawnamser), yr un fath â’r flwyddyn flaenorol.  

Roedd y gwahaniaeth cyflog ar gyfer pobl anabl yng Nghymru yn £1.75 (12.2%) yn 2023. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill £1.75 yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Mae hyn yn gynnydd ar y flwyddyn flaenorol pan oedd y bwlch cyflog yn £1.32 (9.7%).

Roedd gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ennill £1.93 (13.8%) yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn yn 2023. Mae hyn yn cymharu â gwahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd o £2.23 (neu 16.8%) yn 2022. 

Mae plant yn parhau i fod y grŵp poblogaeth sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol ar ôl costau tai. Mae’r data diweddaraf (2020-21 a 2022-23) yn dangos bod hyn yn wir am 29% o blant yng Nghymru o’i gymharu â 16% o bensiynwyr.

Mae grwpiau Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol yn fwy tebygol o ddioddef tlodi incwm cymharol. Ar gyfer y cyfnod 2018-19 i 2022-23, roedd 50% o debygolrwydd y byddai pobl lle mae’r penteulu’n ystyried ei hun yn Ddu, Asiaidd neu’n aelod o grŵp Ethnig Leiafrifol yn byw mewn tlodi incwm cymharol, o gymharu â thebygolrwydd o 22% ar gyfer pobl lle mae’r penteulu yn ystyried ei hun yn Wyn.

Yn y cyfnod diweddaraf (2020-21 i 2022-23), ar gyfer oedolion o oedran gweithio, roedd 25% o unigolion a oedd yn byw mewn teulu lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 18% mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl.

Beth yw’r cynnydd hirdymor tuag at y nod?

Bu cynnydd cymysg tuag at gyflawni’r nod. Mae rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn dangos gwelliant yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig y gostyngiad yn y bwlch cyflogaeth ar gyfer pobl anabl a chyfran y bobl anabl heb gymwysterau. Fodd bynnag, nid yw rhai o’r dangosyddion a’r data cyd-destunol cysylltiedig yn dangos unrhyw arwydd o welliant neu maent wedi dirywio, fel y bwlch mewn amddifadedd materol rhwng dynion a menywod a’r bwlch cyflog ethnigrwydd. 

Mae’r argyfwng costau byw ac effeithiau hirdymor y pandemig yn debygol o fod wedi gwaethygu anghydraddoldeb i bobl a oedd eisoes dan anfantais. Fodd bynnag, efallai na fydd effeithiau parhaus y digwyddiadau hyn wedi'u hadlewyrchu'n llawn eto mewn tueddiadau data diweddar.

Mae carreg filltir genedlaethol i ddileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Yn gyffredinol, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi bod yn lleihau dros y ddau ddegawd diwethaf, er ei fod wedi bod yn gymharol sefydlog yn ystod y pum mlynedd diwethaf, sef tua 5%. Mae llai o gynnydd wedi bod yn y bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd ac anabledd. Mae data’r bwlch cyflog ethnigrwydd yn fwy cyfnewidiol er ei fod wedi bod yn cynyddu’n gyffredinol ers 2019. Roedd y bwlch cyflog anabledd wedi bod yn gostwng o uchafbwynt yn 2019 er ei fod wedi cynyddu i 12.2% rhwng 2022 a 2023. 

Mae’r bwlch rhwng y gyfradd cyflogaeth ar gyfer gwahanol grwpiau wedi lleihau’n gyffredinol dros y degawd diwethaf. Rhwng Mawrth 2014 a Mawrth 2024, mae’r bwlch rhwng cyfradd cyflogaeth unigolion anabl a’r rhai nad ydynt yn anabl wedi gostwng 4.3 pwynt canran ac mae’r bwlch rhwng unigolion Gwyn ac unigolion o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi gostwng 5.0 pwynt canran.  

Roedd amddifadedd materol wedi bod yn gostwng rhwng 2017-18 a 2021-22, ond yn 2022-23 cynyddodd yn ôl i lefelau tebyg a welwyd yn 2017-18. Dros y cyfnod hwnnw, daeth y bwlch rhwng dynion a menywod yn fwy. Roedd y gwahaniaeth rhwng grwpiau oedran ac anabledd yn parhau i fod yn debyg, gydag oedolion hŷn ac unigolion nad ydynt yn anabl yn gyffredinol yn llai tebygol o fyw mewn cartrefi mewn amddifadedd materol. 

Mae canran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n unig wedi bod yn sefydlog rhwng 2020-21 a 2022-23, sef 13%, sydd 4 pwynt canran yn is nag yn 2016-17. Yn gyffredinol, mae grwpiau oedran o dan 65 oed wedi gweld gostyngiad mewn unigrwydd dros y cyfnod hwn, gyda grwpiau oedran hŷn yn aros yn sefydlog er bod lefelau unigrwydd y mae’r grwpiau hŷn yn eu cofnodi yn is na lefelau unigrwydd grwpiau oedran iau. Er bod unigrwydd wedi gostwng ar gyfer y rhan fwyaf o grwpiau rhwng 2016-17 a 2022-23, mae’r gwahaniaethau rhwng rhywiau, grwpiau ethnig a phobl anabl/nad ydynt yn anabl wedi aros yn debyg. 

Rhwng 2016-17 a 2021-22, roedd canran y dynion a ddywedodd eu bod yn teimlo’n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol a theithio wedi aros yr un fath fwy neu lai, sef ychydig dros 80%. Roedd canran y menywod a ddywedodd eu bod yn teimlo’n ddiogel wedi gostwng o 56% i 51%. 

Rhyw

Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth, amddifadedd, iechyd a llesiant ar draws dynion a menywod. 

Mae’r adran a’r bennod hon yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data ar ryw. Bydd gan bob ffynhonnell ddata ddull o gasglu data am ryw neu rywedd sy’n cyd-fynd ag anghenion ei defnyddwyr, sy’n golygu na fydd llawer o gysondeb rhwng y diffiniadau o ryw a rhywedd ar draws y ffynonellau. Mae’r adran ddiweddarach ar hunaniaeth rhywedd yn cynnwys data am y rheini y mae eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni.

Mae deilliannau addysgol merched yn parhau i fod yn well ar lefel TGAU ac mae merched yn fwy tebygol o barhau mewn addysg amser llawn y tu hwnt i 16 oed. Cafodd 69.7% o ferched raddau A* i C yn eu TGAU yn 2022/23. Roedd hyn 7.3 pwynt canran yn uwch nag ar gyfer bechgyn (62.4%). 

Yn 2022/23 sgoriodd merched 370.5 a sgoriodd bechgyn 346.4 pwynt ar gyfartaledd yn y dangosydd Capio 9 TGAU (fersiwn mesur dros dro). Mae hyn yn golygu bod menywod yn sgorio 24.0 pwynt yn fwy na dynion. Roedd hyn wedi gostwng o fwlch o 32.9 pwynt yn 2018/19, y tro diwethaf yr adroddwyd ar y dangosydd Capio 9 (fersiwn mesurau dros dro).

O ran y boblogaeth oedran gweithio, amcangyfrifir nad oedd gan 8.7% o ddynion unrhyw gymwysterau yn 2023 o’i gymharu â 7.1% o fenywod. Roedd cyfran uwch o ddynion na menywod heb unrhyw gymwysterau yn yr holl grwpiau oedran ar wahân i’r grŵp oedran 50 i 59 oed. Roedd menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol lefel 4 neu uwch. 

Yn 2022, roedd cyfran uwch o fenywod rhwng 16 a 24 oed mewn addysg llawnamser o’i gymharu â dynion. Roedd mwy o ddynion yn cymryd rhan mewn hyfforddiant. Yn 2022, nid oedd 11.2% o ddynion 16 i 18 oed mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), o’i gymharu â 15.5% o fenywod. Nid oedd 11.2% o fenywod 19 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, sef gostyngiad o 5.9 pwynt canran o’i gymharu â 2021. Mae hyn yn cael ei sbarduno gan gynnydd yng nghyfran y rhai mewn cyflogaeth a gostyngiad yng nghyfran y rhai a oedd yn economaidd anweithgar. Nid oedd 17.6% o ddynion rhwng 19 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn 2022 - cynnydd o 17.4% yn 2021.

Mae cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru yn is ar gyfer menywod nag ar gyfer dynion (70.2% a 76.8% yn y drefn honno yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024). Mae hyn yn berthnasol i’r cyfraddau anweithgarwch economaidd uwch (heb gynnwys myfyrwyr) ar gyfer menywod (24.5%) na dynion (16.2%) dros y cyfnod hwn. Mae’r gwahaniaeth hwn yn cael ei sbarduno, i ryw raddau, gan gyfrifoldebau gofalu (edrych ar ôl teulu/cartref) sy’n cynrychioli cyfran uwch o fenywod a oedd yn economaidd anweithgar na dynion.  

Ffigur 4.1: Cyfradd cyflogaeth (canran y boblogaeth 16 i 64 oed) yn ôl rhyw a blwyddyn, 2005-06 i 2023-24 (cyfraddau am y flwyddyn yn dod i ben ym mis Mawrth)

Image

Disgrifiad o Ffigur 4.1: Siart linell yn dangos cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yn ôl rhyw rhwng 2005-06 a 2023-24. Cynyddodd y bwlch yn y gyfradd cyflogaeth yn 2023-24 wrth i’r gyfradd cyflogaeth ar gyfer dynion gynyddu 1.4 pwynt canran i 76.8%, tra bod y gyfradd cyflogaeth ar gyfer menywod wedi lleihau rhywfaint i 70.2%.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ar sail enillion canolrifol amser llawn yr awr (heb gynnwys goramser), yn 5.6% yn 2023, heb newid ers y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, ar gyfer gweithwyr rhan-amser yng Nghymru, roedd menywod yn cael 5.4% yn fwy na dynion ar gyfartaledd (cynnydd o 1.2 pwynt canran o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol). 

Wrth ystyried gweithwyr llawnamser a rhan-amser, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dal yn sylweddol uwch ar 11.8% yn 2023. Mae hyn yn uwch nag ar gyfer gweithwyr llawnamser a gweithwyr rhan-amser, oherwydd mae menywod yn llenwi mwy o swyddi rhan-amser, sydd, o’u cymharu â swyddi llawnamser, â thâl canolrifol is yr awr. O’r 11 gwlad a rhanbarth yn y Deyrnas Unedig lle mae menywod yn cael llai o dâl na dynion, Cymru oedd â’r ail fwlch cyflog lleiaf (gweithwyr llawnamser).

Y Cyflog Byw Gwirioneddol yw’r unig gyfradd cyflog yn y Deyrnas Unedig sy’n seiliedig ar gostau byw. Yn 2023, mae cyfran y menywod sy’n ennill y Cyflog Byw gwirioneddol (58.5%) o leiaf yn llawer is nag ar gyfer dynion (68.3%), sydd unwaith eto’n adlewyrchu’n bennaf y ffaith bod menywod yn fwy tebygol o weithio’n rhan-amser a bod swyddi rhan-amser yn tueddu i fod â chyflogau is.

Yn 2022-23, roedd canran uwch o fenywod (19%) o’i gymharu â dynion (12%) yn cael eu hystyried yn rhai sydd mewn amddifadedd materol.

Mae disgwyliad oes yn hirach i fenywod nag i ddynion ond mae cyfran y bywyd a dreulir mewn iechyd da yn uwch i ddynion. I gael gwybodaeth fanylach am ddisgwyliad oes yn ôl rhyw, trowch at y bennod ar Gymru iachach.

Yn 2022-23, roedd llesiant meddyliol yr oedd pobl yn ei gofnodi (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion) fymryn yn uwch i ddynion na menywod, gyda dynion yn cael sgôr gymedrig o 48.4 a menywod yn cael sgôr gymedrig o 48.1. Roedd lefelau unigrwydd yr oedd dynion a menywod yn eu cofnodi yn debyg yn 2022-23. Mae cyfraddau hunanladdiad, fodd bynnag, yn dal i fod bron dair gwaith yn uwch mewn dynion na menywod.

Yn 2021-22, roedd menywod yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel gartref, yn eu hardal leol ac wrth deithio (51%) o’i gymharu â dynion (81%). Er hynny, nid oedd gwahaniaeth sylweddol rhwng dynion a menywod a oedd yn cytuno eu bod yn perthyn i ardal neu fod pobl yn trin ei gilydd â pharch.      

Oedran

Mae poblogaeth Cymru yn heneiddio. Roedd amcangyfrif o’r boblogaeth a oedd yn 65 oed neu’n hŷn yn 2023 yn 21.6%, i fyny o 19.5% yn 2013. Mae’r boblogaeth dros 65 oed yn fwy na’r boblogaeth o dan 16 oed (17.3% yn 2023). Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn llesiant, ymdeimlad o gymuned ac amddifadedd ar draws gwahanol grwpiau oedran. 

Mae llesiant y mae pobl yn ei gofnodi yn tueddu i fod yn uwch mewn grwpiau oedran hŷn, gydag unigrwydd hefyd yn is mewn oedolion hŷn. Yn 2022-23, dywedodd 16% o bobl 16 i 24 oed eu bod yn teimlo’n unig o’i gymharu â 9% o’r rheini 65 i 74 oed a’r rheini 75 oed a hŷn.

Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gytuno â phob un o’r tri mesur o gydlyniant cymunedol (perthyn, mae pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu, cael eu trin â pharch). Y gyfran a oedd yn cytuno â’r tri datganiad yn 2021-22 oedd 57% ar gyfer pobl 16 i 24 oed a 77% ar gyfer y a oedd yn 75 oed a hŷn. 

Plant yw’r grŵp poblogaeth sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol. Roedd y ffigurau diweddaraf yn dangos bod 29% o blant Cymru mewn tlodi cymharol o’i gymharu ag 16% o bensiynwyr. Ers dechrau’r 2000au, mae cyfran uwch o’r boblogaeth o oedran gweithio wedi bod mewn tlodi incwm cymharol na phensiynwyr.

Wrth edrych ar gyfran y boblogaeth oedolion sy’n byw mewn amddifadedd materol yn 2022-23, mae darlun tebyg gyda’r rheini 25 i 44 oed yn fwyaf tebygol o fyw mewn amddifadedd materol (23%) a’r rheini sy’n 75 oed a hŷn yn lleiaf tebygol (4%).  

Ffigur 4.2: Amddifadedd Materol yn ôl grŵp oedran a blwyddyn, 2016-17 i 2022-23 (y flwyddyn sy’n dod i ben ym mis Mawrth) [Nodyn 1] 

Image

[Nodyn 1] Nid oes data ar gyfer y flwyddyn 2020-21.

Disgrifiad o Ffigur 4.2: Siart linell yn dangos canran y gwahanol grwpiau oedran mewn amddifadedd materol rhwng 2016-17 a 2022-23. Mae amddifadedd materol wedi bod ar ei uchaf ar gyfer y grŵp oedran 25 i 44 ac ar ei isaf ar gyfer y grwpiau oedran 65-74 a 75 oed a hŷn dros y cyfnod hwn. Oherwydd ansicrwydd yn yr amcangyfrifon, nid yw’r newidiadau o fewn grwpiau oedran yn arwyddocaol ar y cyfan, yn wahanol i’r gwahaniaethau rhwng grwpiau oedran.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Ethnigrwydd

Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ARWAP) sy’n cynnwys canllawiau ar iaith wrth-hiliol. Mae’r adran a’r bennod hon yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data sy’n categoreiddio grwpiau ethnig yn wahanol. Yn gyffredinol, rydym yn adlewyrchu iaith casgliad data’r ffynhonnell nad yw o bosibl yn cyd-fynd â chanllawiau ARWAP. Fodd bynnag, rydym wedi defnyddio iaith wrth-hiliol yn y bennod hon lle bo hynny’n bosibl.

Nododd 93.8% o boblogaeth Cymru (2.9 miliwn o drigolion arferol) eu hunain yn y categori grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” ar ddiwrnod Cyfrifiad 2021. Mae hyn yn cymharu â 95.6% yn 2011. Mae dosbarthiad oedran yn amrywio’n fawr rhwng gwahanol grwpiau ethnig. Mae’r rheini sy’n dweud eu bod yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” yn gyffredinol hŷn na grwpiau ethnig eraill, a gallai hyn esbonio rhai o’r gwahaniaethau a welwyd rhwng grwpiau ethnig.  

Yr ail gategori lefel uchel mwyaf a nodwyd oedd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Brydeinig”, gyda 2.9% o’r boblogaeth. Dilynir hyn gan “Grwpiau cymysg neu aml-ethnig” gydag 1.6% o’r boblogaeth, “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” gyda 0.9% o’r boblogaeth a “Grŵp ethnig arall” gyda 0.9% o’r boblogaeth.  

Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth, tlodi a llesiant ar draws grwpiau ethnig, er mai prin yw’r dystiolaeth o wahaniaethau mewn cydlyniant cymunedol. 

Dengys canlyniadau TGAU ar gyfer 2022/23 fod 72.3% o ddisgyblion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi cael graddau A* i C o’i gymharu â 65.5% o ddisgyblion Gwyn Prydeinig, sef bwlch o 6.8 pwynt canran. Mae’r bwlch hwn wedi ehangu ers 2018/19 pan oedd yn 3.3 pwynt canran. Ar gyfartaledd, roedd plant o’r grwpiau ethnig Gwyn Prydeinig wedi cael canran uwch o ganlyniadau A* i C na’r holl ddisgyblion yn 2022/23, ar wahân i ddisgyblion Caribïaidd, Gwyn a Du Charibïaidd, Sipsiwn, Teithwyr a Roma.

Ffigur 4.3: Canran y disgyblion sydd wedi cael graddau TGAU A* i C yn ôl grŵp ethnig, blwyddyn academaidd 2022/23

Image

Disgrifiad o Ffigur 4.3: Siart far sy’n dangos canran y disgyblion TGAU sy’n cael graddau A* i C yn ôl grŵp ethnig ym mlwyddyn academaidd 2022/23. Y rheini sy’n ystyried eu hunain yn Sipsiwn, Teithwyr a Roma yw’r unig grwpiau ethnig o dan 35%, ac mae grwpiau ethnig eraill yn amrywio o 57% i 92%.

Ffynhonnell: Canlyniadau Arholiadau, Llywodraeth Cymru

Roedd oedolion o oedran gweithio o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (ac eithrio’r rheini o gefndir Sipsiwn, Teithwyr neu Roma) yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau ar lefelau 4 ac uwch na’r oedolion Gwyn (gan gynnwys y rheini o gefndir Sipsiwn, Teithwyr Gwyddelig neu Roma) o oedran gweithio yn 2023.

Mae’r cyfraddau cyflogaeth (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024) ymysg poblogaeth Cymru rhwng 16 a 64 oed yn uwch ymysg unigolion o gefndir ethnig Gwyn (74.0%), nag unigolion o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (66.2%).  

Ffigur 4.4: Cyfradd cyflogaeth (canran y boblogaeth 16 i 64 oed) yn ôl ethnigrwydd a blwyddyn, 2011-12 i 2023-24 (cyfraddau am y flwyddyn yn dod i ben ym mis Mawrth)

Image

Disgrifiad o Ffigur 4.4: Siart linell yn dangos cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yn ôl ethnigrwydd rhwng 2011-12 a 2023-24. Mae’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth wedi gostwng yn gyffredinol dros amser, er bod y rhai o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn parhau i fod â chyfradd cyflogaeth is nag unigolion gwyn. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (ABB), y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Roedd gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ennill £1.93 (13.8%) yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn yn 2023. Mae hyn yn cymharu â gwahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd o £2.23 (neu 16.8%) yn 2022. Fodd bynnag, mae anwadalrwydd arbennig o uchel yn y data gwahaniaethau cyflog ar sail ethnigrwydd yng Nghymru ac felly dylid ystyried newidiadau byrdymor ochr yn ochr â thueddiadau hirdymor lle bo hynny’n bosibl. Mae’r bwlch cyflog ethnigrwydd wedi ehangu’n gyffredinol ers 2019 pan oedd yn £0.16 (neu 1.4%), ond yn y blynyddoedd cyn hynny, roedd y data’n dangos anadwalrwydd.

Mae bod yn rhan o grwpiau Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol yn gysylltiedig â bod yn fwy tebygol o ddioddef tlodi incwm cymharol. Ar gyfer y cyfnod 2018-19 i 2022-23, roedd 50% o debygolrwydd y byddai pobl lle mae’r penteulu yn ystyried ei hun yn Ddu, Asiaidd neu’n rhan o grŵp Ethnig Leiafrifol yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae hyn yn cymharu â thebygolrwydd o 22% ar gyfer aelwydydd lle mae’r penteulu yn ystyried ei hun yn Wyn.

Roedd mwy o bobl sy’n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd neu’n rhan o grŵp Ethnig Leiafrifol yn dweud eu bod yn unig yn 2022-23, sef 24% o’i gymharu â 12% ar gyfer y rheini sy’n nodi eu bod yn Wyn.   

Ar draws amrywiol ddangosyddion yn ymwneud â chydlyniant cymunedol, ar y cyfan nid oedd gwahaniaeth sylweddol rhwng grwpiau ethnig yn y data diweddaraf o’r Arolwg Cenedlaethol. Roedd hyn yn cynnwys bodlonrwydd ar yr ardal leol, cytuno â phob un o’r tri mesur o gydlyniant cymunedol (perthyn, pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu, cael eu trin â pharch), cymryd rhan yn y celfyddydau neu ddiwylliant, a gwirfoddoli. 

Crefydd

Ar ddiwrnod Cyfrifiad 2021, dywedodd 1.4 miliwn o drigolion arferol yng Nghymru nad oedd ganddynt grefydd (46.5% o’r boblogaeth, wedi codi o 32.1% yn 2011). Am y tro cyntaf, dywedodd mwy o bobl nad oedd ganddynt grefydd nag unrhyw ymlyniad crefyddol unigol.

Disgrifiodd 43.6% o’r preswylwyr arferol eu crefydd fel Cristion yn 2021. Roedd yr ymlyniad crefyddol hwn wedi cael ei ddewis yn flaenorol gan dros hanner y preswylwyr yng Nghymru (57.6%) yng Nghyfrifiad 2011.

Yr ymlyniad crefyddol mwyaf nesaf yng Nghymru oedd Mwslim, gyda 2.2% o’r boblogaeth (67,000 o breswylwyr arferol) yn nodi eu bod yn Fwslim yn 2021. Roedd hyn yn gynnydd o 1.5% yn 2011.

Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn unigrwydd, ymdeimlad o gymuned a theimlad o ddiogelwch ar draws grwpiau crefyddol. 

Roedd y rhai a nododd eu bod yn Gristnogion neu heb grefydd yn cofnodi lefelau tebyg o unigrwydd yn 2022-23, sef 10% a 13% yn y drefn honno. Roedd hyn yn cymharu â 29% ar gyfer y rheini a oedd yn nodi ymlyniad crefyddol arall.

Mae Cristnogion yn fwy tebygol o gytuno â phob un o’r tri mesur o gydlyniant cymunedol (perthyn, mae pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu, cael eu trin â pharch) na’r rheini heb grefydd. Y gyfran a oedd yn cytuno â’r tri datganiad yn 2021-22 oedd 69% ar gyfer Cristnogion a 61% ar gyfer y rheini heb grefydd.   

Yn 2021-22, roedd y rheini sydd heb ymlyniad crefyddol yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel gartref, yn eu hardal leol ac wrth deithio (68%) o’i gymharu â Christnogion (64%).

Cyfeiriadedd rhywiol

Ar ddiwrnod Cyfrifiad 2021, disgrifiodd 2.3 miliwn o bobl (89.4% o’r boblogaeth 16 oed a hŷn) eu hunain fel Syth/Heterorywiol. Disgrifiodd 38,000 (1.5%) eu hunain fel Hoyw neu Lesbiaidd a disgrifiodd 32,000 (1.2%) eu hunain fel Deurywiol. Nododd 7,000 arall (0.3%) fod ganddynt gyfeiriadedd rhywiol gwahanol ac ni atebodd 194,000 (7.6%) y cwestiwn. 

Roedd cyfran uwch o bobl a oedd yn nodi eu bod yn Hoyw neu’n Lesbiaidd, Deurywiol neu gyfeiriadedd rhywiol gwahanol (LHD+) mewn grwpiau oedran iau. Gallai hyn esbonio rhai o’r gwahaniaethau a welwyd rhwng cyfeiriadedd rhywiol. 

Mae’r data sydd ar gael yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, defnydd o’r Gymraeg, iechyd a llesiant rhwng cyfeiriadedd rhywiol. 

Yng Nghyfrifiad 2021, dywedodd 8.4% o bobl LHD+ nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau ffurfiol, o’i gymharu â 19.5% o bobl a nododd eu bod yn Syth/Heterorywiol. Roedd canran y bobl heb gymwysterau yn is ar gyfer pobl LHD+ ar draws pob grŵp oedran. 

Roedd oedolion a nododd eu bod yn LHD+ yng Nghyfrifiad 2021 yn fwy tebygol o fod yn siaradwyr Cymraeg na’r rheini a nododd eu bod yn Syth/Heterorywiol ar draws pob grŵp oedran, ac eithrio pobl 16 i 24 oed a 75 oed a hŷn. 

Drwy gyfuno data o’r Arolwg Cenedlaethol ar gyfer 2016-17 i 2019-20 gwelwyd bod oedolion sy’n ystyried eu hunain yn ddeurywiol yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddau neu fwy o ymddygiadau ffordd o fyw iach o’i gymharu â’r rheini mewn grwpiau cyfeiriadedd rhywiol eraill. Roedd y dadansoddiad hwn yn addasu ar gyfer gwahanol broffiliau oedran grwpiau. Mae ymddygiadau ffordd iach o fyw yn cynnwys: peidio ag ysmygu, yfed o fewn y canllawiau wythnosol, bwyta pum dogn neu fwy o ffrwythau neu lysiau y diwrnod blaenorol, bod yn gorfforol egnïol am 150 munud neu fwy'r wythnos flaenorol, a bod yn bwysau iach. 

Dywedodd traean (33.8%) o’r bobl a nododd eu bod yn LHD+ yng Nghyfrifiad 2021 eu bod yn anabl (fel y diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010), o’i gymharu â chwarter (24.0%) y bobl a nododd eu bod yn Syth/Heterorywiol.

Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23 yn dangos bod pobl sy’n ystyried eu hunain yn lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol tua dwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig nag eraill.

Hunaniaeth rhywedd

Gofynnwyd cwestiwn gwirfoddol am hunaniaeth rhywedd am y tro cyntaf yng Nghyfrifiad 2021. Gofynnwyd i ymatebwyr 16 oed a hŷn “A yw’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd ar adeg eich geni?” ac roedd ganddynt yr opsiwn o ddewis naill ai “Ydy” neu ddewis “Nac ydy” a nodi eu hunaniaeth rhywedd. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud bod amcangyfrifon y cyfrifiad ar gyfer hunaniaeth rhywedd yn destun lefel uwch o ansicrwydd na rhai pynciau eraill. Mae rhai patrymau yn y data sy’n gyson â rhai ymatebwyr yn peidio â dehongli’r cwestiwn fel y bwriadwyd. 

Atebodd 93.3% o’r ymatebwyr “Ydy”, gan nodi bod eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni. Atebodd mwy na 10,000 o bobl (0.4%) “Na”, gan nodi bod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd ar adeg eu geni. 

Roedd canran y bobl a ddywedodd fod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni yn gostwng gydag oedran. Daw’r rhan fwyaf o’r wybodaeth am hunaniaeth rhywedd o Gyfrifiad 2021 ac mae’n dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth ac iechyd. 

Yn 2021, dywedodd chwarter (24.6%) y bobl yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’w rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni nad oedd ganddynt gymwysterau ffurfiol, o’i gymharu ag un rhan o bump (19.2%) o bobl yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’u rhyw cofrestredig. 

Canfu Cyfrifiad 2021 hefyd fod 51.4% o bobl 16 oed a hŷn yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni, yn dweud eu bod yn economaidd anweithgar, o’i gymharu â 42.4% o bobl yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’u rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni.

Yn 2021, roedd pobl yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’w rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni yn fwy tebygol o fod yn anabl (38.9%) na’r rheini yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’u rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni (24.4%). Mae hyn er bod y rhai yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni yn tueddu i fod yn iau na’r cyfartaledd a bod pobl iau yn llai tebygol o fod yn anabl. Menywod traws oedd y mwyaf tebygol o ddweud eu bod mewn iechyd cyffredinol gwael neu wael iawn (14.5%).

Mae arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn casglu data ar lesiant meddyliol ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed. Yn 2021, roedd y rheini yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni wedi nodi lefelau is o fodlonrwydd ar fywyd a lefelau uwch o unigrwydd na’r rheini sydd â’r un hunaniaeth rhywedd â’u rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni.

Anabledd

Yn 2002, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y model cymdeithasol o anabledd. Yn hytrach na diffinio pobl fel pobl anabl yn ôl eu hamhariad (hynny yw, y model meddygol o anabledd), ystyrir bod pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd hirdymor yn anabl oherwydd rhwystrau corfforol, agweddol a sefydliadol sy’n cael eu creu gan gymdeithas. Mae llawer o’r ffynonellau data yn y bennod hon yn defnyddio diffiniadau model meddygol o anabledd yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn y Ddeddf Cydraddoldeb mae “anabledd” yn golygu cyflwr corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, rydym wedi defnyddio iaith y model cymdeithasol yn yr adran a'r bennod hon lle bo hynny’n bosibl. 

Gofynnodd Cyfrifiad 2021 i breswylwyr arferol adrodd a oedd ganddynt gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol hirdymor neu salwch, a oedd yn para neu yr oedd disgwyl iddo bara 12 mis neu fwy. Cafodd y cwestiwn ei eirio ychydig yn wahanol i 2011, i gyd-fynd yn agosach â diffiniad Deddf Cydraddoldeb (2010) o anabledd. 

Yn 2021, roedd cyfran y bobl anabl yng Nghymru yn 21.1% (670,000 o bobl). Mae’r gyfran hon wedi gostwng (gostyngiad o 2.3 pwynt canran) ers 2011, pan oedd yn 23.4% (696,000 o bobl). Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth, amddifadedd, llesiant a chydlyniant cymunedol rhwng unigolion anabl ac unigolion nad ydynt yn anabl. 

Mae deilliannau addysgol disgyblion ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol wedi amrywio dros yr wyth mlynedd diwethaf, ond ar y cyfan yn debyg i’r patrwm a welir ym mhob disgybl. Yn 2022/23, dyfarnwyd gradd A* i C i 37.3% o ddisgyblion ym mlwyddyn 11 ag anghenion addysgol arbennig yn eu harholiadau TGAU, i fyny o 35.5% yn 2018/19.

O’r boblogaeth oed gweithio yn 2023, roedd pobl anabl (13.9%) yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau na phobl nad ydynt yn anabl (5.6%) ac yn llai tebygol o fod â chymwysterau uwch na lefel 2. O’i gymharu â 2022, gostyngodd cyfran yr oedolion anabl o oedran gweithio heb gymwysterau 2.4 pwynt canran.

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, y gyfradd cyflogaeth ymysg pobl anabl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 51.0%, a'r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl oedd 81.9%. Mae’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn 2023-24, sef 30.9 pwynt canran, wedi gostwng o 35.4 pwynt canran yn 2015-16. 

Ffigur 4.5: Cyfraddau cyflogaeth (canran y boblogaeth 16 i 64 oed) pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn ôl blwyddyn, 2013-14 i 2023-24 (cyfraddau am y flwyddyn yn dod i ben ym mis Mawrth)

Image

Disgrifiad o Ffigur 4.5: Siart linell yn dangos cyfraddau cyflogaeth ar gyfer unigolion anabl a phobl nad ydynt yn anabl rhwng 16 a 64 oed rhwng 2013-14 a 2023-24. Mae’r bwlch cyfradd cyflogaeth wedi gostwng yn gyffredinol dros amser, er bod gan bobl anabl gyfradd cyflogaeth sy’n dal i fod 30.9 pwynt canran yn is na phobl nad ydynt yn anabl yn 2023-24. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r ABB, SYG

Roedd y gwahaniaeth cyflog rhwng pobl anabl a phobl heb anabledd yng Nghymru yn £1.75 (12.2%) yn 2023. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill £1.75 yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Mae hyn yn gynnydd ar y flwyddyn flaenorol pan oedd y bwlch cyflog yn £1.32 (9.7%).

Yn y cyfnod diweddaraf (2020-21 i 2022-23), ar gyfer oedolion o oedran gweithio, roedd 25% o unigolion a oedd yn byw mewn teulu lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 18% mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl. Nid oedd gwahaniaeth yng nghanran y plant mewn tlodi incwm cymharol yn ôl a oedd rhywun anabl yn y cartref (29%).  

Yn 2022-23, roedd un o bob pedwar o bobl anabl neu bobl â salwch cyfyngol hirdymor (25%) yn byw mewn cartref mewn amddifadedd materol o’i gymharu ag 11% o bobl nad oeddent yn anabl.

Ffigur 4.6: Canran y bobl anabl a’r bobl nad ydynt yn anabl sydd mewn amddifadedd materol, yn ôl blwyddyn, 2016-17 i 2022-23 (y flwyddyn sy’n dod i ben ym mis Mawrth) [Nodyn 1] 

Image

[Nodyn 1] Nid oes data ar gyfer y flwyddyn 2020-21.

Disgrifiad o Ffigur 4.6: Siart linell yn dangos canran yr unigolion anabl a’r unigolion nad ydynt yn anabl, mewn amddifadedd materol rhwng 2016-17 a 2022-23. Mae amddifadedd materol wedi bod tua 10 pwynt canran yn uwch ar gyfer unigolion anabl dros y cyfnod hwn, gyda’r duedd gyffredinol yn debyg ar gyfer y ddau grŵp.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Yn 2022-23, roedd llesiant meddyliol oedolion anabl neu’r rheini â salwch hirdymor cyfyngol yn is ac roeddent yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig (22%) na’r rheini heb salwch neu amhariadau o’r fath (7%). 

Yn y cyfnod diweddaraf o ddata sydd ar gael gan Arolwg Cenedlaethol Cymru (2021-22), roedd oedolion anabl neu’r rheini â salwch hirdymor cyfyngol yn llai tebygol o ddweud bod ganddynt fynediad at wasanaethau a chyfleusterau da (80%) o’i gymharu â’r rheini heb salwch neu anableddau o’r fath (89%). Yn yr un arolwg, roedd oedolion anabl yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel gartref, yn eu hardal leol ac wrth deithio (56%) o’i gymharu â phobl nad ydynt yn anabl (70%).  

Statws priodasol

Roedd cyfran yr oedolion yng Nghymru a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig yn 2021 yn 43.8%, gyda 37.2% erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil. Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn amddifadedd a llesiant ar draws gwahanol statws priodasol. 

Yn 2022-23, roedd 22% o’r oedolion a oedd wedi cael ysgariad a 36% o’r rhai a oedd wedi gwahanu (ond yn dal yn briod yn gyfreithiol) mewn amddifadedd materol o’i gymharu ag 10% o’r rhai a oedd wedi priodi a 10% o’r rhai a oedd yn weddw. 

Yn 2022-23, roedd gan bobl briod well llesiant meddyliol na’r rheini a oedd yn sengl. Roedd gan bobl briod sgôr llesiant meddyliol cyfartalog o 49.6, o’i gymharu â 46.8 ar gyfer pobl sengl. 

Yn 2022-23, y rhai a oedd yn briod oedd y lleiaf tebygol o ddweud eu bod yn unig (8%), a’r rhai a oedd wedi gwahanu ond yn briod yn gyfreithiol oedd y mwyaf tebygol (21%). Roedd y rheini a oedd yn sengl, wedi ysgaru, neu’n weddw hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na’r rheini a oedd yn briod (17%, 17% a 14% yn y drefn honno). 

Darllen pellach

Ffynonellau data

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau (Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion) 

Bwlch Cyflog ar Sail Ethnigrwydd ac Anabledd (ABB)

Ystadegau’r Farchnad Lafur (ABB)

Gweithgarwch economaidd yn ôl ethnigrwydd (StatsCymru)

Gweithgarwch economaidd yn ôl anabledd (StatsCymru)

Pobl sydd mewn gwaith sy’n ennill y Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf (StatsCymru) 

Tlodi ac amddifadedd (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2022 i Fawrth 2023 

Tlodi incwm cymharol 

Canlyniadau arholiadau 

Lefel y cymhwyster uchaf a ddelir gan oedolion o oedran gweithio

Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur

Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)

Canlyniadau pobl anabl mewn iechyd, tai, addysg a statws economaidd (Cyfrifiad 2021)

Iechyd, anabledd a darpariaeth gofal di-dâl yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)

Gwahaniaethau cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd mewn iechyd, addysg a statws economaidd (Cyfrifiad 2021)

Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021) (diwygiedig) 

Y Gymraeg yn ôl cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd (Cyfrifiad 2021) 

Amcangyfrifon o'r boblogaeth ar gyfer Cymru 

Disgwyliad oes (SYG)

Hunanladdiadau yng Nghymru a Lloegr (SYG)

Unigrwydd (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2022 i Fawrth 2023 

Lles meddyliol (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2022 i Mawrth 2023 

Mesurau llesiant yn ôl Hunaniaeth Rhywedd (Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion) 

Y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru yn ôl statws partneriaeth gyfreithiol (Cyfrifiad 2021) (StatsCymru)

Cymru o gymunedau cydlynus

Y nod ar gyfer Cymru o gymunedau cydlynus

Awdur: Ian Jones

Cymru o gymunedau cydlynus: Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Nid yw’r dangosyddion o Arolwg Cenedlaethol Cymru sy’n ymwneud â chymunedau cydlynus wedi cael eu diweddaru eleni. Ar gyfer y dangosyddion hyn, cynhaliwyd dadansoddiad ychwanegol i ganfod gwahaniaethau yn ôl gwahanol grwpiau poblogaeth. Fodd bynnag, mae data newydd ar gael ar gyfer digartrefedd, a throseddu a chyfiawnder. 

Mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae llai o amddifadedd yn fwy tebygol o gytuno â phob un o’r tri mesur cydlyniant cymunedol. Maent hefyd yn fwy tebygol o deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu a bod yn fodlon ar eu hardal leol na phobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae mwy o amddifadedd.

Mae’r dangosyddion yn cyflwyno darlun cymysg yn ôl oedran rhywun. Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gytuno â phob un o’r tri mesur o gydlyniant cymunedol ac maent yn fwy tebygol o wirfoddoli. Fodd bynnag, mae pobl hŷn yn llai tebygol o deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu, ac yn llai tebygol o fod yn fodlon ar fynediad at wasanaethau a chyfleusterau da. 

Mae cyfran sylweddol uwch o ddynion na menywod yn teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu. Mae cyfran uwch o ddynion na menywod yn gwirfoddoli.

Mae pobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirdymor yn llai tebygol o deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu, ac yn llai tebygol o fod yn fodlon ar fynediad at wasanaethau a chyfleusterau da. 

Un dangosydd sy’n cyflwyno darlun ychydig yn wahanol yw gallu dylanwadu ar benderfyniadau lleol. Mae pobl iau a phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau lleol. Nid oes gwahaniaethau sylweddol yn ôl amddifadedd ardal, rhyw nac a yw rhywun yn anabl / â salwch cyfyngus hirdymor. 

Mae canran yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd wedi gostwng, tra mae nifer yr unigolion mewn llety dros dro wedi cynyddu, ac, mae’r amcangyfrif o nifer yr unigolion sy’n cysgu allan dros 30% yn uwch ym Mehefin 2024 o gymharu ag amcangyfrifon 2022, er bod hyn wedi gostwng yn y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd tua 7% o oedolion yng Nghymru wedi dioddef trosedd (ac eithrio twyll) yn 2023-24. Roedd troseddau a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru (ac eithrio twyll) wedi gostwng 4% yn 2023-24 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac roedd yr un peth yn wir am drais yn erbyn y person.

Roedd cyfanswm nifer y troseddau casineb a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru wedi gostwng 4% yn 2022/23. Fodd bynnag, roedd troseddau casineb lle’r oedd statws crefydd neu drawsryweddol yn ffactor ysgogol wedi cynyddu 26% a 22% yn y drefn honno.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae rhai o’r dangosyddion ar gyfer cymunedau cydlynus yn fesurau cymharol ddiweddar a gasglwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru. Felly, mae’n anodd gwneud sylwadau hyderus ar newidiadau dros amser. Mae effeithiau pandemig COVID-19 yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â newidiadau yn y ffordd y cesglir data Arolwg Cenedlaethol Cymru, hefyd yn effeithio ar y gallu i gymharu â data cynharach. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod nifer o fesurau sy’n ymwneud â chydlyniant cymunedol ac ymgysylltu wedi dangos newid cadarnhaol yn y blynyddoedd diweddar.

Roedd dangosyddion cydlyniant cymunedol wedi bod yn weddol sefydlog ers 2016-17 tan y gwelwyd cynnydd sylweddol yn 2020-21. Yn ystod yr un flwyddyn hefyd gwelwyd newid sylweddol cadarnhaol yn y ffordd mae pobl yn teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau lleol, er bod y ffigur cyffredinol yn dal i fod yn isel. Ni fydd yn glir a fydd y cynnydd yma yn cael ei gynnal nes bydd data ar gael ar gyfer blynyddoedd yn y dyfodol. 

Gwelwyd ychydig o welliannau dros yr hirdymor ym modlonrwydd pobl â’u hardal leol. Mae pobl sy’n teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu wedi aros yn gymharol gyson ers iddynt gael eu holi am y tro cyntaf yn 2016-17 ac roeddent yn 66% yn 2021-22.

Roedd canran y bobl sy’n gwirfoddoli wedi bod yn gostwng ond mae’n ddangosydd arall sydd wedi gweld cynnydd yn ddiweddar. Cyrhaeddwyd y garreg filltir genedlaethol sef bod 30% o bobl yn gwirfoddoli yn 2022-23.

Mae unigrwydd, sy’n seiliedig ar gyfuniad o chwe mesur ar wahân, wedi aros yr un fath dros y blynyddoedd diwethaf. O fewn y mesur cyffredinol, mae’r ganran sydd ‘wedi gweld colli cael pobl o gwmpas’ wedi dilyn patrwm gwahanol gyda chanran wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod pandemig COVID-19 yn 2020-21 a 2021-22 cyn gostwng yn ôl i lefelau blaenorol yn 2022-23.

Ers i ddeddfwriaeth newid yn 2015, 2023-24 oedd yr ail dro i’r gyfradd atal digartrefedd am o leiaf chwe mis fod o dan 60% (fel yn 2022-23). Cyn hyn, roedd digartrefedd wedi cael ei atal mewn tua dwy ran o dair o achosion ers 2017-18.

Mae tua hanner y bobl yng Nghymru yn credu bod troseddu wedi codi’n sylweddol yn genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ffigur hwn wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig ar ôl gostyngiad yn 2022-23. Fodd bynnag, ers 2015-16, bu tueddiadau cyffredinol ar i lawr yng nghyfran yr oedolion a oedd wedi dioddef trosedd (ac eithrio twyll), a dioddefwyr troseddau personol.

Cydlyniant cymunedol

Roedd bron i ddwy ran o dair o oedolion (64%) yn cytuno â phob un o’r tri mesur cydlyniant cymunedol (perthyn i’r ardal leol, pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda, a thrin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth) yn 2021-22 pan gasglwyd data ar y dangosydd hwn ddiwethaf gan Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn gynnydd ers y blynyddoedd cyn y pandemig, ac yn ychydig o ostyngiad ers 2020-21. Roedd 95% o oedolion yn cytuno ag o leiaf un datganiad yn ymwneud â chydlyniant cymunedol yn 2021-22. 

Mae’r ffigurau hyn wedi bod yn weddol sefydlog ers iddynt gael eu casglu am y tro cyntaf yn 2012 tan y cynnydd sylweddol yn 2020-21. Ni ddaw’n glir a yw’r cynnydd yn 2020-21 a 2021-22 yn effaith byrdymor o'r pandemig (gyda chymunedau’n dod at ei gilydd yn lleol) ac a fyddant yn cael eu cynnal, neu eu cynnal yn rhannol dros y tymor hirach nes y bydd data ar gael ar gyfer y blynyddoedd i ddod. 

Mae tuedd glir tuag at fwy o gydlyniant cymunedol wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng. Roedd tua hanner y bobl a oedd yn byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf yn cytuno â’r tri datganiad, o’i gymharu ag oddeutu saith o bob deg yn yr ardaloedd â’r amddifadedd lleiaf.

Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gytuno â phob un o’r tri mesur o gydlyniant cymunedol. Roedd y gyfran a oedd yn cytuno â’r tri datganiad yn 2021-22 yn amrywio o 57% ar gyfer pobl 16-24 oed i 77% ar gyfer y rhai a oedd yn 75 oed a hŷn. 

Nid oes gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhwng dynion a menywod, nac yn ôl ethnigrwydd, o ran cytuno â'r tri datganiad.

Ffigur 5.1: Canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am eu hardal leol, yn ôl blwyddyn [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.1: Siart linell yn dangos canran y bobl sy’n cytuno â thri datganiad am gydlyniant cymunedol yn eu hardal leol rhwng 2012-13 a 2021-22. Yn 2021-22, roedd 84% yn cytuno bod pobl yn yr ardal o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda; roedd 82% yn cytuno bod pobl yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth; ac roedd 79% yn cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal leol.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru: Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Nid oes gan y blynyddoedd 2015-16, 2017-18 a 2019-20 ddata sy’n gysylltiedig â nhw.

Teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu

Mae dwy ran o dair o oedolion yn teimlo’n ddiogel mewn gwahanol sefyllfaoedd ar ôl iddi dywyllu.

Y dangosydd cenedlaethol yw canran y bobl a gytunodd â'r pedwar datganiad am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu gartref, wrth gerdded yn eu hardal leol, teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio mewn car. Yn 2021-22, roedd 66% o bobl yn teimlo’n ddiogel ym mhob un o’r pedair sefyllfa.  Mae’r canlyniadau hyn wedi aros yn weddol gyson ar draws y blynyddoedd ers gofyn am y tro cyntaf yn 2016-17.

Mae tuedd glir tuag at fwy o deimlad o ddiogelwch wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng, gyda 72% o bobl sy'n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf yn teimlo'n ddiogel ym mhob sefyllfa o gymharu â 54% o bobl sy'n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf.

Mae gwahaniaeth amlwg hefyd yn ôl rhyw, gyda dynion yn teimlo’n fwy diogel (81%) na menywod (51%).

Roedd pobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirdymor, a phobl 65 oed neu’n hŷn hefyd yn llai tebygol o deimlo’n fwy diogel ar ôl iddi dywyllu.

Ffigur 5.2: Canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu, 2021-22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.2: Siart far yn dangos canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu yn 2021-22. Roedd 96% yn teimlo’n ddiogel gartref, roedd 97% yn teimlo’n ddiogel wrth deithio mewn car, roedd 75% yn teimlo’n ddiogel wrth gerdded yn yr ardal leol ac roedd 76% yn teimlo’n ddiogel wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. 

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

[Nodyn 1] ‘Ddim yn gwybod’ oedd ateb 27% o’r bobl a holwyd i’r cwestiwn am drafnidiaeth gyhoeddus ac ni chawsant eu cynnwys yn y dadansoddiad. O ganlyniad, mae cyfran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel ym mhob un o’r pedair sefyllfa yn is nag y byddai’r canlyniadau unigol yn ei awgrymu.

Bodlonrwydd â’r ardal leol

Yn 2021-22, roedd 89% o bobl yn dweud eu bod yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw, sydd ychydig yn uwch na'r canlyniadau yn y blynyddoedd blaenorol. 
Roedd pobl a oedd yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd o amddifadedd lleiaf yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu hardal leol na phobl a oedd yn byw yn 40% o’r ardaloedd o amddifadedd mwyaf.

Ni welwyd unrhyw gysylltiadau rhwng bodlonrwydd ar yr ardal leol a rhyw, ethnigrwydd, oedran na bod yn anabl / bod â salwch cyfyngus hirdymor.

Mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da

Yn 2021-22, roedd 86% o bobl yn fodlon eu bod yn gallu cyrraedd neu ddefnyddio’r gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt, o fewn 15 i 20 munud ar droed o’u cartref, ychydig yn is na 2020-21 ond cynnydd ers 2018 19 (81%). Nid oedd y gostyngiad diweddaraf yn arwyddocaol yn ystadegol. 

Roedd hyn yn amrywio yn ôl y math o ardal gyda chanran sylweddol is o bobl o ardaloedd gwledig yn cael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da o’i gymharu â’r rhai o ardaloedd trefol (83% o’i gymharu ag 87%). Nid yw’n syndod mai preswylwyr pentrefannau ac adeiladau ynysig oedd y lleiaf bodlon â’u mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da, gyda dim ond 77% yn dangos eu bod yn fodlon ar y dangosydd hwn. 

Mae tuedd amlwg yn ôl oedran, gyda phobl iau yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da na phobl hŷn. 

Mae gwahaniaeth sylweddol hefyd yn ôl a oes gan bobl anabledd / salwch cyfyngus hirdymor (80% yn fodlon) neu beidio (89% yn fodlon).

Ffigur 5.3: Mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da yn ôl ardal, 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.3: Siart far yn dangos canran y bobl sy’n fodlon â’u mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da. Mae 87% o bobl mewn ardaloedd trefol yn fodlon o’i gymharu â 77% o bobl sy’n byw mewn pentrefannau ac anheddau ynysig.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Dywedodd llai na 60% o bobl (yn 2022-23) fod gwasanaethau trefol fel canolfannau cymunedol, ysgolion uwchradd, llyfrgelloedd a chlybiau ieuenctid neu chwaraeon ar gael yn eu hardal leol. I’r gwrthwyneb, dywedodd dros 80% eu bod yn gallu cerdded o’u cartref i gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, siopau a thafarndai mewn 15 i 20 munud. Ar ben hynny, ar gyfer pob un o’r gwasanaethau trefol uchod, bu gostyngiad hefyd yng nghanran y bobl a ddywedodd eu bod ar gael yn eu hardal leol ers 2018-19, fel sy’n wir am wasanaethau canolfannau iechyd / meddygfeydd, fferyllfeydd, swyddfeydd post a pheiriannau arian.

Dylanwadu ar benderfyniadau lleol

Ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael (2021-22), mae cyfran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau lleol wedi cynyddu, er bod y ffigur cyffredinol yn dal yn isel.

Yn 2021-22, roedd 30% o bobl yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol o’i gymharu â 26% yn 2020-21 a 19% yn 2018-19. Mae hyn yn gynnydd sylweddol ers cyn 2020. Gall hyn yn adlewyrchu newid go iawn o ganlyniad i’r pandemig, ond mae angen ei fonitro yn ystod blynyddoedd yr arolwg yn y dyfodol.

Mae pobl rhwng 16 a 24 oed yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol nag unrhyw grŵp oedran arall.

Roedd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol hefyd yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau yn eu hardal leol.

O ran rheoli ffactorau eraill, ni chafwyd unrhyw wahaniaethau sylweddol o ran rhyw, p’un a oedd gan rywun anabledd / salwch cyfyngus hirdymor, nac o ran amddifadedd ardal.

Ffigur 5.4: Canran y bobl sy’n teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar yr ardal leol, 2012-13 i 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.4: Siart linell yn dangos canran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol. Yn 2021-22, dywedodd 30% eu bod yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau, o’i gymharu â 19% yn 2018-19. Mae canlyniad 2021-22 yn uwch nag ym mhob blwyddyn ers i'r cwestiwn gael ei ofyn am y tro cyntaf yn 2012-13.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Gwirfoddoli

Roedd canlyniadau data ar-lein a gasglwyd fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23 yn dangos bod 30% o bobl wedi dweud eu bod yn gwirfoddoli i glybiau neu sefydliadau. Mae hyn yn cymharu â 26% yn 2019-20 (pan gynhaliwyd yr arolwg wyneb yn wyneb) a 29% yn 2021-22 (pan ofynnwyd y cwestiynau gwirfoddoli fel rhan o’r modiwl ar-lein am y tro cyntaf). Ym mhob blwyddyn, roedd y bobl fwyaf cyffredin yn gwirfoddoli ar gyfer elusennau a chlybiau chwaraeon. 

Yn 2022-23, gwirfoddolodd cyfran uwch o ddynion (32%) na menywod (27%), fel y gwnaeth cyfran uwch o bobl heb anabledd a phobl heb salwch cyfyngus hirdymor (31%) o’i gymharu â phobl anabl a phobl â salwch cyfyngus hirdymor (26%).

Mae gwirfoddoli’n tueddu i gynyddu gydag oedran, gan gyrraedd uchafbwynt ymysg pobl 65-74 oed (35%) cyn disgyn ychydig ymysg pobl 75 oed a hŷn (32%). Y rhai 16 i 24 oed yw’r lleiaf tebygol o wirfoddoli (24%).

Nid oes gwahaniaethau sy’n arwyddocaol yn ystadegol yn ôl ethnigrwydd.

Ffigur 5.5: Canran y bobl sy’n gwirfoddoli yn ôl math o sefydliad, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.5: Siart far yn dangos canran y bobl sy’n gwirfoddoli, yn ôl math o sefydliad, yn 2022-23. Mae pobl yn fwy tebygol o wirfoddoli ar gyfer mudiadau elusennol (10%) neu glybiau chwaraeon (8%).

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd gwirfoddoli yw “cynyddu canran y bobl sy’n gwirfoddoli 10% erbyn 2050, gan ddangos statws Cymru fel cenedl sy'n gwirfoddoli”. Mae hyn yn golygu cyrraedd ffigur o 30% erbyn 2050. Cafodd y garreg filltir hon ei chyflawni yn 2022-23 ond, gyda’r ansicrwydd ynghylch pa mor gynaliadwy fydd y cynnydd a welwyd yn ystod pandemig COVID-19, nid yw’n glir a fydd y lefel hon yn cael ei chynnal.

Unigrwydd

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu data gan ddefnyddio graddfa unigrwydd De Jong Gierveld sy’n mynd i'r afael â chwe mesur o unigrwydd emosiynol a chymdeithasol. 

Yn 2022-23, yn seiliedig ar bob un o’r chwe mesur, canfuwyd bod 13% o bobl Cymru yn unig, sef yr un ganran ag yn y ddwy flynedd ddiwethaf (2021-22 a 2020-21) ac yn is nag yn 2019-20. Fodd bynnag, mae amrywiadau amlwg yng nghanran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n unig ar draws y mesurau unigol: 

  • yn 2019-20, dywedodd 36% o bobl eu bod yn gweld eisiau cael pobl o gwmpas; cynyddodd hyn yn sylweddol yn ystod pandemig COVID-19 (71% yn 2020-21 a 53% yn 2021-22), cyn gostwng i 36% eto yn 2022-23
  • roedd canran y bobl sy’n dweud bod ganddynt bobl y maent yn gallu ymddiried yn llwyr ynddynt wedi cynyddu o 59% yn 2019-20 i 67% yn 2020-21; cafodd hyn ei gynnal yn 2021-22 a 2022-23
  • rhwng 2019-20 a 2021 22, roedd cynnydd yng nghanran y bobl a ddywedodd fod ganddynt ddigon o bobl roeddent yn teimlo’n agos atynt, a digon o bobl y gallent ddibynnu arnynt; roedd y ffigurau ar gyfer 2022-23 ychydig yn is ond nid yn newid arwyddocaol yn ystadegol o 2020-21

Mae canlyniadau diweddaraf (2022-23) Arolwg Cenedlaethol Cymru yn awgrymu bod oedolion iau (16 i 44 oed) yn fwy tebygol o deimlo’n unig na phobl 65 oed a hŷn.

Mae pobl sy’n byw mewn amddifadedd materol, ac unigolion sydd â chyflwr iechyd meddwl neu sydd ag iechyd cyffredinol gwaeth, yn fwy tebygol o fod yn unig.

Mae gwahaniaethau hefyd yn ôl ethnigrwydd, gyda phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn fwy tebygol o fod yn unig.

Canfu adolygiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o anghydraddoldebau unigrwydd: 

Mae mudwyr, aelodau o grwpiau ethnig a hil lleiafrifiedig, unigolion o’r rhyw leiafrifol, trawsryweddol, ac nad ydynt yn cydymffurfio o ran eu rhywedd, pobl anabl, y rhai sydd ag iechyd meddwl neu gorfforol gwael, gofalwyr, unigolion sydd â statws economaidd-gymdeithasol isel a phobl ddi-waith, i gyd yn profi unigrwydd yn anghymesur.

Ffynhonnell: Barreto et al 2023: 4

Gall effaith yr anghydraddoldebau hyn waethygu pan fyddant yn croestorri.

Ffigur 5.6: Canran y bobl sy’n teimlo’n unig yn ôl rheswm a blwyddyn

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.6: Siart far yn dangos y canlyniadau ar gyfer 2019-20 a 2022-23 a’r chwe chwestiwn a ofynnwyd i greu’r mesur o unigrwydd. Yn gyffredinol, mae’r ymatebion i’r datganiadau yn dangos bod pobl yn llai unig yn 2022-23 o’i gymharu â 2019-20.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Allgáu digidol

Cafodd dangosydd cenedlaethol newydd ei osod yn 2021 a fydd yn mesur statws cynhwysiant digidol. Mae profion gwybyddol yn cael eu cynnal ar set newydd o gwestiynau sy’n cyd-fynd ag egwyddorion y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol i’w cynnwys mewn camau o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol. Mae’r cwestiynau yn seiliedig ar ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan Brifysgol Lerpwl. Pan fydd y cwestiynau wedi’u cwblhau’n derfynol, byddant yn darparu data i fesur allgáu digidol ledled Cymru ac yn cyfrannu at y dangosydd cenedlaethol.  

Yn y cyfamser, mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2022-23 yn dangos bod 93% o oedolion yn defnyddio’r rhyngrwyd at ddibenion personol yn y cartref, yn y gwaith neu yn rhywle arall, sydd heb newid ers 2021-22 a 2020-21. 

Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd yn dangos, er bod bron pob person 16 i 64 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd, bod hyn yn gostwng i 89% o bobl 65 i 74 oed a 68% o’r rheini sy’n 75 oed a hŷn.

Mae’r arolwg hefyd yn gofyn cwestiynau am weithgarwch digidol a’r sgiliau sydd gan bobl. Mae’r rhain wedi eu grwpio’n bum math o sgil:

  • trin gwybodaeth a chynnwys 
  • cyfathrebu
  • trafod
  • datrys problemau
  • bod yn ddiogel ac yn gyfreithiol ar-lein

Daw’r data diweddaraf o 2021-22, lle’r oedd 78% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd wedi gwneud gweithgareddau a oedd yn ymwneud â phob un o’r pump sgil hyn yn y tri mis diwethaf, o’i gymharu â 73% yn 2019-20.

Digartrefedd

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae canran yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd wedi gostwng, ac mae nifer yr unigolion mewn llety dros dro wedi cynyddu. Mae’r amcangyfrif o nifer yr unigolion sy’n cysgu allan dros 30% yn uwch ym mis Mehefin 2024 o’i gymharu â Mehefin 2022.

Atal digartrefedd

Ymysg aelwydydd yng Nghymru a oedd dan fygythiad o ddigartrefedd rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, cafodd digartrefedd ei atal am o leiaf 6 mis mewn 58% o’r achosion. Mae hyn yn debyg i’r gyfran o 59% ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023. 

Ers i ddeddfwriaeth newid yn 2015, 2023-24 oedd yr ail dro i’r gyfradd atal am o leiaf chwe mis fod o dan 60% (fel yn 2022-23). Cyn hyn, roedd digartrefedd wedi cael ei atal mewn tua dwy ran o dair o achosion ers 2017-18.

Rhyddhad o ddigartrefedd 

Roedd cyfran yr aelwydydd a ryddhawyd o ddigartrefedd wedi aros yn gymharol sefydlog o 2016-17 i 2019-20. Fodd bynnag, mae wedi bod yn gostwng ers hynny, o 41% yn 2019-20 i 26% yn 2023-24.

Ffigur 5.7: Canran yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd, 2015-16 i 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.7: Siart linell yn dangos canrannau’r aelwydydd a gafodd eu hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd yng Nghymru rhwng 2015-16 a 202324. Mae’r siart yn dangos bod canrannau’r aelwydydd sy’n cael eu hatal rhag bod yn ddigartref yng Nghymru wedi aros yn gymharol gyson rhwng 2015-16 a 2021-22 cyn disgyn yn 2022-23 ac aros ar lefel debyg ar gyfer 2023-24. Yn yr un modd, roedd canrannau’r aelwydydd a gafodd eu rhyddhau o ddigartrefedd yng Nghymru hefyd yn sefydlog rhwng 2016-17 a 2020-21, ac ar ôl hynny bu gostyngiad yn 2021-22, 2022-23 a 2023-24.

Llety dros dro

Mae gwybodaeth fisol yn dangos bod 11,301 o unigolion mewn llety dros dro ar 30 Mehefin 2024, a oedd yn gynnydd o 4% ar y flwyddyn flaenorol. Felly mae’r cynnydd a welwyd yn nifer yr unigolion mewn llety dros dro dros y blynyddoedd diwethaf yn parhau. Roedd tua chwarter y rhain (2,881) yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 14% ers y flwyddyn flaenorol.

Y math mwyaf cyffredin o lety dros dro oedd gwely a brecwast a gwestai, a oedd yn darparu llety i 3,670 o unigolion.

Cysgu allan

Ar 30 Mehefin 2024, amcangyfrifwyd bod 153 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn 12% yn llai na’r amcangyfrif o 173 o unigolion yn cysgu allan yn ystod yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol, ond dros 30% yn uwch na’r amcangyfrif o 117 o unigolion yn cysgu allan ar 30 Mehefin 2022.

Caerdydd, Ceredigion a Chasnewydd oedd yr awdurdodau lleol gyda’r amcangyfrifon uchaf o bobl yn cysgu allan ar 30 Mehefin 2024. 

Troseddu a chyfiawnder

Gosodwyd dangosydd cenedlaethol newydd yn 2021 a fydd yn mesur canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder. Nid yw data wedi ei gasglu eto ar gyfer y dangosydd hwn, ond mae’n cael ei ddatblygu. 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae troseddau a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru wedi gostwng tra bo cyfran yr oedolion sy’n ddioddefwyr troseddau wedi aros yn gymharol sefydlog.  

Dioddefwyr troseddau a chanfyddiadau o droseddau

Yn 2023-24, roedd 6.9% o oedolion yng Nghymru wedi dioddef trosedd (yn debyg i 6.6% y flwyddyn flaenorol) ac roedd 1.9% wedi dioddef trosedd bersonol (wedi gostwng o 2.5% y flwyddyn flaenorol). Rydym wedi gweld tuedd ar i lawr yn y gyfres amser sydd ar gael o 2015-16, pan oedd y canrannau’n 14.7% a 4.4%.

Mae’r data diweddaraf ar ganfyddiadau o droseddu yn 2023-24 yn dangos bod tua hanner y bobl yng Nghymru (49%) yn credu bod troseddu wedi codi’n sylweddol yn genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er bod hyn wedi cynyddu o 41% yn 2022-23, mae’n dal yn is na’r lefelau cyn y pandemig o 53% yn 2018-19 a 2019-20 (nid oes data ar gael ar gyfer 2020-21 na 2021-22). 

Mae canran y rhai sy’n credu bod troseddu wedi cynyddu’n sylweddol yn eu hardal leol yn llawer iawn llai (17%). Mae’r ffigur hwn wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig ar ôl gostwng i 11% yn 2022-23.

Troseddau a gofnodir gan yr heddlu

Roedd troseddau a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru (ac eithrio twyll) wedi gostwng 4% yn 2023-24 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Gostyngodd trais yn erbyn y person 4% hefyd, er bod y gyfradd fesul 1,000 o’r boblogaeth yn dal yn sylweddol uwch na degawd yn ôl (Ffigur 5.8). 

Gwelwyd cynnydd mewn tri o’r naw prif gategori o droseddau yn 2023-24 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gan gynnwys troseddau yn ymwneud â meddu ar arfau (cynnydd o 11%) a throseddau dwyn (cynnydd o 8%). Roedd y cynnydd mewn troseddau dwyn wedi’i sbarduno’n rhannol gan gynnydd o 34% mewn dwyn o siopau. 

Ymhlith y prif gategorïau o droseddau eraill, gwelwyd gostyngiad sylweddol mewn troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus (gostyngiad o 19%) a throseddau yn ymwneud â chyffuriau (gostyngiad o 15%). Roedd gostyngiad hefyd mewn achosion o ddifrod troseddol a thanau bwriadol (gostyngiad o 8%), lladrad (gostyngiad o 7%) a throseddau rhywiol (gostyngiad o 5%).

Mae troseddau yn ymwneud â thwyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron wedi cynyddu 5% yng Nghymru rhwng 2022-23 a 2023-24 er bod y gyfradd wedi aros yr un fath ar bum trosedd am bob 1,000 o'r boblogaeth yng Nghymru.

Ffigur 5.8: Troseddau a gofnodir gan yr Heddlu am bob 1,000 o'r boblogaeth, 2002-03 i 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.8: Siart linell yn dangos cyfraddau troseddau a gofnodir gan yr heddlu am bob 1,000 o’r boblogaeth yng Nghymru rhwng 2002-03 a 2023-24. Mae’r siart yn dangos mai cyfraddau troseddau dwyn sydd wedi newid fwyaf, gan ddisgyn o dros 50 am bob 1,000 o’r boblogaeth yn 2002-03 i tua 20 am bob 1,000 o’r boblogaeth yn y blynyddoedd diweddaraf. Roedd troseddau trais yn erbyn y person wedi bod yn cynyddu ers 2013-14 ac ers 2018-19 roedd y gyfradd yn uwch nag erioed, er ei bod wedi gostwng yn 2023-24. Gwelwyd gostyngiad yng nghyfraddau difrod troseddol a thanau bwriadol tan 2016-17, ond mae’r rhain wedi bod yn sefydlog ers hynny. Cyfradd troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus oedd yr isaf am bob 1,000 o'r boblogaeth tan 2021-22, pan ddechreuodd y gyfradd godi yn uwch na chyfradd difrod troseddol a thanau bwriadol.

Ffynhonnell: Troseddau a Gofnodir gan yr Heddlu, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Troseddau casineb

Roedd gostyngiad o 4% mewn troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru yn 2022-23 o’i gymharu â 2021-22. Cofnodwyd 6,041 o droseddau casineb ar draws pedair ardal heddlu Cymru, ac o’r rhain roedd:

  • 62% yn droseddau casineb ar sail hil
  • 20% yn droseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol
  • 5% yn droseddau casineb ar sail crefydd
  • 14% yn droseddau casineb ar sail anabledd
  • 5% yn droseddau casineb ar sail trawsrywedd

O’i gymharu â 2021-22, roedd cynnydd yn nifer y troseddau casineb â statws crefydd neu drawsryweddol fel ffactorau cymell a gofnodwyd, ac roedd gostyngiadau mewn troseddau casineb gydag anabledd, hil a chyfeiriadedd rhywiol fel ffactorau cymell a gofnodwyd:

  • gostyngiad o 8% mewn troseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol
  • gostyngiad o 4% mewn troseddau casineb ar sail hil
  • gostyngiad o 2% mewn troseddau casineb ar sail anabledd
  • cynnydd o 22% mewn troseddau casineb ar sail trawsrywedd
  • cynnydd o 26% mewn troseddau casineb ar sail crefydd

Er bod hyn yn ffordd dda o fesur y galw sy’n gysylltiedig â throseddau casineb ar yr heddlu, oherwydd bod heddluoedd yn gwneud gwelliannau sylweddol o ran sut maent yn cofnodi troseddau ers 2014, yn ogystal â gwelliannau o ran nodi beth yw trosedd casineb, nid yw ffigurau troseddau a gofnodir gan yr heddlu yn darparu gwybodaeth ddibynadwy am dueddiadau mewn troseddau casineb ar hyn o bryd. Hefyd, ni ddylid gweld ffigurau gan yr heddlu fel mesur o ba mor gyffredin yw troseddau casineb.

Darllen pellach

Ffynonellau data

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Awdur: Stephanie Howarth

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu: Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Beth ydym wedi ei ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Nid yw llawer o’r dangosyddion ar gyfer y nod hwn yn cael eu diweddaru’n flynyddol. Gan nad oes data newydd gan Arolwg Cenedlaethol Cymru eleni, mae hyn yn golygu nad ydym yn cael cipolwg newydd ar ddangosyddion cenedlaethol sy’n ymwneud â’r celfyddydau i oedolion nac ar gyfer chwaraeon yn 2024. 

Mae’r data cyntaf ar ôl y pandemig ar bresenoldeb a chyfranogiad plant mewn gweithgareddau celfyddydol yn dangos bod y ddau wedi gostwng ers 2019. Yn 2023, mynychodd 82% o blant 7i18 oed ddigwyddiad celfyddydol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chymerodd 84% ohonynt ran yn y celfyddydau.

Nid yw data ar y dangosyddion cenedlaethol sy’n ymwneud â nifer y siaradwyr Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg yn cael eu diweddaru eleni. Fodd bynnag, mae dadansoddiad newydd o’r defnydd o’r Gymraeg yn dangos bod dros hanner y siaradwyr Cymraeg 16 oed a hŷn yn siarad Cymraeg â’u cydweithwyr o leiaf peth o’r amser, a bod ychydig o dan 1 o bob 5 bob amser yn siarad Cymraeg â chydweithwyr. 

Aseswyd bod cyflwr 76% o adeiladau rhestredig yn “sefydlog neu’n gwella” eleni, o’i gymharu â 58% ar gyfer henebion rhestredig. Mae’r cyfraddau hyn ychydig yn is na’r flwyddyn flaenorol ar gyfer y ddau fath o asedau hanesyddol.

Roedd un amgueddfa’n llai yn bodloni’r safonau achredu eleni, gan ddod â chanran yr amgueddfeydd sy’n cyrraedd y safonau i 61%. Er nad oedd nifer y gwasanaethau archifau a oedd yn bodloni safonau achredu wedi newid o 14, disgynnodd y ganran o 93% i 82%.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Bu cynnydd nodedig yn yr hirdymor mewn amrywiaeth o feysydd o dan y nod hwn, fel cyfranogiad a phresenoldeb plant yn y celfyddydau, cyfranogiad rheolaidd oedolion mewn chwaraeon, ac amgueddfeydd ac archifau sy’n ennill achrediad. Fodd bynnag, mae nifer fach o ddangosyddion cenedlaethol wedi dangos gostyngiad amlwg dros y tymor hir, yn fwyaf arbennig nifer y siaradwyr Cymraeg. Efallai fod cyfnod y pandemig wedi cyfrannu at hyn, gan gynnwys o ran cyfranogiad plant mewn chwaraeon. Mae gwahaniaethau mawr yn parhau ar draws nifer o ddangosyddion ar gyfer y nod hwn.

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi cael ei gasglu dair gwaith, a’r tro cyntaf yn 2017-18. Nid yw canran yr oedolion sy’n mynychu ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth yn sylweddol wahanol eleni i’r hyn a gafodd ei fesur yn flaenorol yn 2019-20 a 2017-18. Mae gwahaniaethau eang o hyd yn dibynnu ar oedran, iechyd, amddifadedd a chymwysterau, ond nid ar gyfer rhyw na grwpiau ethnig. 

Wrth edrych yn ôl dros y degawd diwethaf, cafwyd cynnydd o ran presenoldeb a chyfranogiad plant yn y celfyddydau i ddechrau. Ond mae’r ddau bellach yn disgyn ac maent naill ai ar yr un lefel â deng mlynedd yn ôl neu’n is na’r lefel honno.

Mae mwy o amgueddfeydd a gwasanaethau archifau yn cyrraedd y safonau achrededig. Rhwng 2017 a 2023, bu cynnydd mwy yng nghanran y gwasanaethau archifau sy’n cyrraedd safonau achrededig (o 57% i 82%) nag amgueddfeydd (o 59% i 61%). 

Ers 2016-17, gwelwyd cynnydd cymharol fawr yn yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, er gwaethaf y ffaith bod y sefyllfa wedi aros ar yr un lefel rhwng 2017-18 a 2019-20. Roedd cyfranogiad mewn chwaraeon ymysg disgyblion ysgol wedi cynyddu ond erbyn hyn mae wedi gostwng i lefelau tebyg a welwyd yn 2013. 

Gostyngodd nifer a chanran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021, gyda’r ganran bellach yr isaf i'w chofnodi erioed mewn cyfrifiad. Mae carreg filltir genedlaethol i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ôl y cyfrifiad, roedd 538,000 o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, i lawr o bron i filiwn yn 1911. 

Mae data arolwg yn awgrymu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl yn yr hirdymor. Mae canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio’r iaith bob dydd wedi bod yn weddol sefydlog. 

Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi gwella ychydig ers 2015, ond mae cyflwr henebion rhestredig wedi dirywio.

Celfyddydau, diwylliant a threftadaeth

Nid oes data newydd eleni gan Arolwg Cenedlaethol Cymru, sy’n golygu bod y data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer y dangosydd cenedlaethol ar y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yn dod o 2022-23. 

Mae presenoldeb a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi bod yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2022-23, roedd 72% o oedolion yn mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf dair gwaith y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 71% yn 2019-20 a 75% yn 2017-18. Er bod gostyngiad mewn presenoldeb a chymryd rhan rhwng 2017-18 a 2019-20, nid oedd y newid hwn yn arwyddocaol yn ystadegol.

Mae gwahaniaethau mawr o hyd o ran presenoldeb a chyfranogiad rhwng grwpiau. Mae oedolion iau, pobl â chymwysterau uwch, pobl sy’n fwy bodlon â bywyd neu bobl sy’n byw yn yr ardaloedd â lleiaf o amddifadedd yng Nghymru yn fwy tebygol o fynychu neu gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn. 

Ffigur 6.1: Oedolion sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth dair gwaith y flwyddyn neu fwy, 2017-18 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 6.1: Siart far yn dangos tair blynedd o ddata ar gyfer y dangosydd cenedlaethol ar fynychu neu gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth yn rheolaidd. Nid oes unrhyw wahaniaethau sylweddol rhwng 2022-23 a’r blynyddoedd blaenorol y cafodd y dangosydd hwn ei fesur.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Wrth edrych ar y celfyddydau yn benodol, mae’n ymddangos bod cyfnod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar bresenoldeb mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau. Yn 2022-23, mynychodd 64% o bobl ddigwyddiad celfyddydol dros y flwyddyn ddiwethaf, i lawr o 70% cyn y pandemig. Mae cymryd rhan yn y celfyddydau yn dal yn llawer is na phresenoldeb yn y celfyddydau, gyda 18% o oedolion yn cymryd rhan yn y celfyddydau yn 2022-23. Yn wahanol i bresenoldeb yn y celfyddydau, nid yw’n ymddangos bod y pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar gyfranogiad yn y celfyddydau, gyda chyfran gweddol debyg o bobl yn cymryd rhan yn y celfyddydau yn 2022-23 o’i gymharu â 2019-20. 

Plant a’r celfyddydau

Mae presenoldeb a chyfranogiad plant yn y celfyddydau wedi gostwng ers y pandemig. Yn 2023, mynychodd 82% o blant rhwng 7 a 18 oed ddigwyddiad celfyddydol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chymerodd 84% ohonynt ran yn y celfyddydau. Er gwaethaf y gostyngiadau cyffredinol, gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y plant a oedd yn bresennol ac yn cymryd rhan mewn rhai ffurfiau ar gelfyddyd, gan gynnwys mynd i sioeau cerdd a chymryd rhan mewn dawnsio.

Wrth edrych yn ôl dros y degawd diwethaf, cafwyd cynnydd o ran presenoldeb a chyfranogiad plant i ddechrau. Ond mae cyfranogiad plant yn y celfyddydau wedi bod yn gostwng yn raddol ers 2015 ac mae bellach wedi dychwelyd i lefelau tebyg a welwyd ddegawd yn ôl. Mae’r gostyngiad mewn presenoldeb wedi digwydd yn fwy diweddar, i lawr o uchafbwynt o 89% yn 2019 ac erbyn hyn yn is na’r lefel a welwyd yn 2013.

Mae presenoldeb a chyfranogiad yn y celfyddydau yn parhau i fod yn uwch ymysg merched, plant iau (7 i 10 oed) a phlant o raddau cymdeithasol uwch.

Ffigur 6.2: Plant sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau o leiaf unwaith y flwyddyn, 2013 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 6.2: Siart linell yn dangos gwerth deng mlynedd o ddata am bresenoldeb a chyfranogiad plant yn y celfyddydau. Mae presenoldeb a chyfranogiad wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Cyngor Celfyddydau Cymru

Amgueddfeydd ac archifau

Roedd data o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2022-23 yn dangos bod 31% o bobl wedi ymweld ag amgueddfa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r nifer wedi bod yn gostwng ers y cyfnod cyn y pandemig.

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod 98 o amgueddfeydd wedi cyrraedd y safon achredu yn 2024. Dim ond ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer a chyfran yr amgueddfeydd sydd wedi’u hachredu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae 61% o amgueddfeydd wedi eu hachredu erbyn hyn, o’i gymharu â 59% yn 2017 i 2019. Cafodd y cynllun achredu ei ohirio yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig felly nid oes ffigurau ar gael ar gyfer y cyfnod hwn. 

Roedd 14 o wasanaethau archifau yn cyrraedd y safon achredu yn 2024, sy’n cyfateb i 82% o’r holl wasanaethau archifau cymwys. Mae cyfran y gwasanaethau archifau sydd wedi’u hachredu wedi cynyddu o 57% yn 2017. 

Cymryd rhan mewn chwaraeon

Mae mwy o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd. Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 39% o oedolion wedi cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy yn 2022-23, y gyfradd uchaf a gofnodwyd gan yr arolwg. Mae hyn yn gynnydd o tua 10 pwynt canran ers 2016-17 pan gasglwyd yr wybodaeth am y tro cyntaf.

Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd yn gostwng gydag oedran. Amcangyfrifir bod 57% o bobl ifanc 16 i 24 oed yn cymryd rhan mewn chwaraeon rheolaidd, sy’n gostwng i 13% o bobl 75 oed a hŷn. 

Mae yna hefyd lefelau uwch o gyfranogiad chwaraeon rheolaidd ymysg:

  • dynion
  • pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • pobl nad oes ganddynt salwch neu gyflwr hirdymor
  • pobl sy’n siarad Cymraeg
  • pobl nad ydynt mewn amddifadedd materol.

Gostyngodd canran y bobl nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon na gweithgarwch corfforol o 44% yn 2021-22 i 40% yn 2022-23. Ar wahân i 2021-22, nid yw cyfradd y bobl nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon wedi newid rhyw lawer ers i’r data gael ei gasglu am y tro cyntaf yn 2016-17.

Yn gyffredinol, byddai 27% o oedolion yn hoffi cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol. Mae hyn wedi cwympo’n sylweddol ers yr arolygon blaenorol lle dywedodd bron i 60% y byddent yn hoffi gwneud mwy.

Ffigur 6.3: Canran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy, 2016-17 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 6.3: Siart linell yn dangos canran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy, sydd wedi cynyddu yn yr hirdymor.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Cyfranogaeth plant mewn chwaraeon

Roedd gostyngiad mawr yn nifer y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn 2022, pan gynhaliwyd yr Arolwg Chwaraeon Ysgolion ddiwethaf.

Cymerodd 39% o ddisgyblion ran mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu allan i’r cwricwlwm dair gwaith yr wythnos neu fwy. Roedd hwn yn ostyngiad o 9 pwynt canran ers 2018 pan gynhaliwyd yr Arolwg Chwaraeon Ysgolion ddiwethaf a dyma’r ffigur isaf erioed a gofnodwyd gan yr arolwg (ychydig yn fwy na'r 40% a adroddwyd yn 2013). Roedd cynnydd mawr hefyd yn y ganran a ddywedodd nad oedd yn cymryd rhan yn aml mewn chwaraeon y tu allan i’r ysgol. Roedd hyn yn 36% yn 2022, i fyny o 28% yn yr arolwg blaenorol. Er gwaethaf y gostyngiad mewn cyfranogiad, roedd mwyafrif helaeth y disgyblion (93%) eisiau gwneud mwy o chwaraeon. Roedd bechgyn yn dal i fod yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon. Roedd plant oed ysgol gynradd ychydig yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd o’i gymharu â phlant oed ysgol uwchradd.

Wrth edrych ar grwpiau ethnig eang, disgyblion o grwpiau Cymysg neu Aml-ethnig oedd â’r cyfraddau uchaf o ran cymryd rhan mewn chwaraeon, gyda 43% yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy.

Ffigur 6.4: Canran y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy, 2013 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 6.4: Siart llinell yn dangos canran y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd. Mae cyfranogiad wedi gostwng yn ddiweddar i lefel debyg a welwyd yn 2013.

Ffynhonnell: Arolwg Chwaraeon Ysgolion

Siaradwyr Cymraeg

Rydym yn ystyried mai’r cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 17.8% o bobl tair oed neu hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn wedi gostwng o 19.0% yn 2011 a dyma’r ganran isaf erioed a gofnodwyd mewn cyfrifiad. 

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y Gymraeg yw miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dros yr hirdymor, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn gostwng o bron i filiwn o bobl yn 1911 i 538,000 erbyn hyn. Er bod y ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, mae’r nifer yn dal yn uwch na’r pwynt isaf yn 1981, pan oedd dros 504,000 o bobl yn siarad Cymraeg.

Roedd y gostyngiad yn nifer a chanran y bobl tair oed neu hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn 2021 yn cael ei sbarduno’n bennaf gan ostyngiad ymysg plant a phobl ifanc yr adroddwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig coronafirws (COVID-19) ar 21 Mawrth 2021. Roedd hyn yn dilyn cyfnodau o gyfyngiadau symud, dysgu o bell i blant ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid yw’n hysbys a oedd y pandemig wedi effeithio ar allu pobl yn y Gymraeg (neu ganfyddiad o allu pobl eraill i siarad Cymraeg).

Rhwng 2011 a 2021, roedd canran y bobl a oedd yn gallu siarad Cymraeg wedi gostwng yn y grwpiau Gwyn a’r grwpiau Cymysg neu Aml-ethnig. I’r gwrthwyneb, roedd cynnydd yng nghanran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn y grŵp ethnig Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig; yn y grŵp ethnig Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd; ac yn y grŵp ethnig “Arall”.

Ffigur 6.5: Pobl tair oed a hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, 1911 i 2021 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6.5: Siart linell yn dangos nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ers 1911. Gostyngodd y niferoedd yn sylweddol yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, gyda newidiadau llai ers hynny.

[Nodyn 1] Ni chynhaliwyd cyfrifiad yn 1941.

Ffynhonnell: Cyfrifiad poblogaeth

Mae canran uwch o fenywod yn gallu siarad Cymraeg na dynion, gyda’r bwlch yn fwy ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed. Mae’r cyfrifiad yn dangos bod proffil oedran siaradwyr Cymraeg yn iau na phroffil y boblogaeth gyffredinol. 

Mae data Cyfrifiad 2021 yn dangos bod bron i un o bob deg aelwyd yn cynnwys pobl a oedd i gyd yn gallu siarad Cymraeg.

Mae’r gyfradd drosglwyddo yn cyfeirio at ganran y plant tair i bedair oed sy’n gallu siarad Cymraeg lle mae un neu fwy o oedolion ar eu haelwyd yn siarad Cymraeg. Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd y cyfraddau trosglwyddo ar eu huchaf mewn aelwydydd a oedd yn cynnwys cyplau, lle’r oedd dau neu fwy o oedolion yn siarad Cymraeg (80.7%), ac yna aelwydydd unig riant lle’r oedd un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg (52.1%). Roedd gan aelwydydd a oedd yn cynnwys cyplau, lle’r oedd un oedolyn yn siarad Cymraeg y cyfraddau trosglwyddo isaf, sef 40.4%. Roedd cyfraddau trosglwyddo mewn aelwydydd a oedd yn cynnwys cyplau yn uwch pan oedd y partner a oedd yn siarad Cymraeg yn fenywaidd.

Defnydd o’r Gymraeg

Mae’r arolwg diweddaraf o ddefnydd o’r Gymraeg yn dangos mai ychydig o newid a fu o ran pa mor aml mae pobl yn siarad Cymraeg. 

Yn 2019-20, roedd 10% o bobl tair oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg. Dyma’r un ganran ag yn yr Arolwg Defnydd o’r Gymraeg blaenorol yn 2013-15. Mae data mwy diweddar o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer pobl 16 oed neu hŷn hefyd yn awgrymu mai prin fu’r newid cyffredinol yng nghyfradd y bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Mae siaradwyr Cymraeg rhugl yn siarad yr iaith yn amlach na’r rhai nad ydynt yn rhugl.

Mae dadansoddiad diweddar o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 wedi ymchwilio i’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a chyda darparwyr gwasanaethau. 

Dywedodd dros hanner y siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn mewn gwaith eu bod yn siarad Cymraeg â’u cydweithwyr o leiaf rhywfaint o’r amser. Mae ychydig o dan 1 o bob 5 bob amser yn siarad Cymraeg â chydweithwyr.

Dywedodd dros hanner (53%) o siaradwyr Cymraeg eu bod wedi derbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â’r awdurdod lleol, a thros draean y tro diwethaf iddynt gysylltu â’r feddygfa neu’r ysbyty. Siaradwyr Cymraeg hŷn, siaradwyr Cymraeg mwy rhugl, a siaradwyr Cymraeg a oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg gartref yn blant ifanc oedd yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod wedi derbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â’r gwasanaethau hyn. 

Rhuglder yn y Gymraeg

Mae arolygon yn darparu gwybodaeth am ruglder yn y Gymraeg nad yw ar gael o’r cyfrifiad. Nid oes modd cymharu data arolygon â’r cyfrifiad gan fod pobl fel arfer yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn arolygon. Yn wahanol i ganlyniadau Cyfrifiad 2021, mae arolygon wedi dangos cynnydd diweddar yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae’r gwahaniaethau hyn yn cael eu harchwilio; cyhoeddwyd erthygl yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yn y Cyfrifiad a’r Arolwg o’r Llafurlu ym mis Hydref 2023. 

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, nid yw cyfran y siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn sy’n rhugl wedi newid rhyw lawer dros y 10 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, yn yr hirdymor, bu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl. 

Mae canran y bobl sy’n rhugl yn y Gymraeg wedi aros ar oddeutu 10% neu 11% ers 2012-13, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru. 

Dywedodd 23% o bobl eu bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg, ond nid yn rhugl yn Arolwg Cenedlaethol 2022-23. Mae hyn wedi cynyddu tua 10 pwynt canran dros y degawd blaenorol.

Adeiladau hanesyddol a henebion

Bob blwyddyn, mae Cadw yn asesu cyflwr sampl o adeiladau rhestredig a henebion rhestredig yng Nghymru. Mae adeiladau rhestredig yn fannau o ddiddordeb arbennig neu bensaernïol yng Nghymru, ond mae henebion rhestredig yn safleoedd archaeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi gwella ychydig ar y cyfan ers 2015, ac mae cyflwr henebion rhestredig wedi bod yn gwaethygu’n raddol. 

Ar hyn o bryd mae ychydig dros 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru. Mae 76% o’r rhain mewn cyflwr sefydlog neu’n gwella yn 2024, i fyny ychydig o 74% yn 2015. Ystyrir bod 9% o adeiladau rhestredig mewn perygl. 

Mae cyflwr cadwraeth sampl o henebion cofrestredig yn cael ei asesu bob blwyddyn fel rhan o raglen asesu dreigl deng mlynedd. Mae’n ymddangos bod cyflwr y 4,200 o henebion yng Nghymru wedi bod yn dirywio dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2016-17, roedd 66% o henebion mewn cyflwr sefydlog neu’n gwella, a disgynnodd y ffigur i 58% yn 2023-24. 

Mae 41% o henebion cofrestredig yn dangos dirywiad, ac mae 14% ohonynt yn cael eu hystyried yn rhai mewn perygl. Y prif effeithiau yw difrod a dirywiad o ganlyniad i effeithiau’r tywydd, llystyfiant ac erydiad stoc. 

Ffigur 6.6: Canran yr henebion cofrestredig sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella, 2011-12 i 2023-24 

Image

Disgrifiad o Ffigur 6.6: Siart linell yn dangos cyfran yr henebion cofrestredig sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella. Mae’r ganran wedi gostwng yn raddol dros y deng mlynedd diwethaf.

Ffynhonnell: Cadw

Darllen pellach

Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o’r canlynol:

  • gwirfoddoli neu gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol neu chwaraeon
  • rhwystrau o ran cymryd rhan yn y celfyddydau a gwahaniaethau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol a phoblogaeth o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon
  • y mathau o weithgareddau celfyddydol y mae pobl wedi cymryd rhan ynddynt
  • cymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod y pandemig
  • defnydd o'r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc, a defnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol
  • cysylltiadau rhwng y Gymraeg a digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol
  • ethnigrwydd a’r celfyddydau, diwylliant, chwaraeon a’r iaith Gymraeg
  • ymweliadau ag amgueddfeydd ac archifau.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru yn cynhyrchu adroddiadau manwl rheolaidd ar y celfyddydau a chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys Arolwg Omnibws y Plant ac Arolwg Chwaraeon Ysgolion. 

Mae amrywiaeth o ddadansoddiadau o’r Gymraeg ar gael hefyd o Gyfrifiad 2021 ac yn adroddiadau’r Arolwg ar y Defnydd o’r Gymraeg ar gyfer 2019-20. Roedd y cyhoeddiadau canlynol yn dadansoddi data arolwg ar y Gymraeg yn fanylach neu’n darparu mwy o wybodaeth am y gwahaniaeth rhwng amcangyfrifon y cyfrifiad ac arolygon:

Cynllun gwaith ar y cyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru ar gydlyniant ystadegau'r Gymraeg

Gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ac arolygon aelwydydd

Siarad Cymraeg (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2018 i Fawrth 2019

Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: 2001 i 2018

Ffynonellau data

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Y nod ar gyfer Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Awdur: Stefanie Taylor

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang: Gwlad sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud rhywbeth o’r fath wneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang. Mae’r nod hwn yn cydnabod, mewn byd rhyng-gysylltiedig, gall yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod Cymru’n genedl gynaliadwy gael effeithiau cadarnhaol y tu allan i Gymru.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Yn 2022, amcangyfrifwyd bod allyriadau nwyon tŷ gwydr a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru yn dod i gyfanswm o 35.7 miliwn o dunelli o garbon deuocsid cyfatebol (MtCO2e), gostyngiad o 0.1% ers 2021.

Yn 2023, cafodd 559 o bobl eu cyfeirio fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern i heddluoedd yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 4% o’i gymharu â 2022 (536 o atgyfeiriadau). 

Rhoddodd yr Uned Priodasau Dan Orfod gyngor neu gymorth mewn llai na phum achos yn ymwneud â phriodas bosibl dan orfod a/neu achos posibl o anffurfio organau cenhedlu benywod yn 2023. 

Yn 2023/24, roedd 21,493 o ymgeiswyr ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yng nghyfnod allweddol 4, ac 4,523 ar lefel uwch, a oedd wedi dewis cydran her dinasyddiaeth fyd-eang. Roedd 5,048 o geisiadau ar gyfer y prosiect cymunedol byd-eang uwch newydd.

Roedd cyfran y plant a oedd wedi cael eu himiwneiddiadau rheolaidd erbyn eu bod yn bedair oed yn 84.3% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024. Mae hyn yn ostyngiad bach o’i gymharu ag 84.5% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023.

Yn 2023-24 roedd y nifer a oedd wedi cymryd y brechlyn 6 mewn 1 (DTaP/IPV/Hib/HepB) ymhlith plant un oed yng Nghymru yn 94.2%, gostyngiad bach o 94.5% y flwyddyn flaenorol.

Yn 2023-24 roedd canran y rhai a gymerodd y dos cyntaf o MMR erbyn roeddent yn ddyflwydd oed wedi aros yr un fath â’r llynedd, sef 92.9%. Mae hyn yn is na’r targed o 95%. 

Ar ddiwedd mis Mawrth 2024, roedd dros 2,800 o geiswyr lloches yn cael cymorth yng Nghymru. Mae’r nifer sy’n cael cymorth wedi parhau i gynyddu ers 2022. Roedd hyn yn gynnydd o 15% yn 2024, ers yr un chwarter yn 2023. 

Ar ddiwedd mis Mawrth 2024, roedd cyfanswm o 1,488 o ffoaduriaid wedi cael eu hadsefydlu yng Nghymru o dan y Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed (2016 i 2022) a Chynllun Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (2021 ymlaen).

Yn 2022/23, cofrestrwyd 28,710 o fyfyrwyr rhyngwladol gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys 19% o gofrestriadau lle mae domisil y myfyriwr yn hysbys.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae data ar gyfer rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at y nod Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau hirdymor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a dangosyddion cenedlaethol eraill sy’n gorgyffwrdd â nod Cymru gydnerth. Mae carreg filltir genedlaethol ar gyfer nwyon tŷ gwydr, sef y bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050. Yn 2022, amcangyfrifwyd bod allyriadau nwyon tŷ gwydr a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru yn dod i gyfanswm o 35.7 miliwn o dunelli o garbon deuocsid cyfatebol (MtCO2e), gostyngiad o 36% yn 1990. Amcangyfrifwyd bod yr allyriadau sy’n gysylltiedig â nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir gan aelwydydd yng Nghymru yn 25.0 MtCO2e yn 2020, 37% o ostyngiad o 2001.    

Mae yna hefyd garreg filltir genedlaethol sy'n ymwneud ag ôl troed byd-eang, sef mai dim ond cyfran deg o adnoddau’r ddaear y bydd Cymru yn ei defnyddio erbyn 2050. Ein hôl troed byd-eang yw cyfanswm y baich amgylcheddol y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned. Mae amcangyfrifon diweddar a gynhyrchwyd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) a’r Rhwydwaith Ôl Troed Byd-eang (GFN) yn awgrymu bod yr ôl troed byd-eang fesul unigolyn wedi gostwng bron i draean rhwng 2004 a 2018. Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod dros ddwywaith yr amcangyfrif o’r biogapasiti yng Nghymru. Pe bai holl boblogaeth y byd yn byw fel dinasyddion Cymru, byddai angen tir cyfwerth â 2.08 Daear ar ddynoliaeth.

Mae nifer y ceiswyr lloches sy’n cael cymorth wedi cynyddu ers 2022. Roedd cynnydd o 15% yn 2024, o’i gymharu â’r un chwarter yn 2023. Roedd y niferoedd wedi aros yn sefydlog rhwng 2016 a 2020 ac wedi gostwng rhwng 2020 a 2021.

Mae nifer y plant ifanc sy’n cael brechiadau yn parhau i fod yn uchel ond mae wedi gostwng ychydig ers ei lefelau uchaf yn 2013-14, ar gyfer y brechlyn ‘6 mewn 1’ DTaP/IPV/Hib/HepB1 ar gyfer y rheini sy’n nesáu at flwydd oed, a’r nifer sy’n cymryd dos cyntaf o MMR erbyn iddynt fod yn ddyflwydd oed.

Cyd-destun Byd-eang, Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Ar 1 Ionawr 2016, dechreuodd y byd roi Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 ar waith, sef y cynllun gweithredu trawsnewidiol sy’n seiliedig ar 17 Nod Datblygu Cynaliadwy i fynd i’r afael â heriau mawr y byd dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn pwysleisio agenda gyffredinol sy’n mynnu bod holl aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig - y rhai cyfoethog a rhai tlawd fel ei gilydd – yn cymryd camau i gefnogi datblygu cynaliadwy.

Mae llawer o ffactorau sy’n pennu a yw Cymru’n dod yn wlad sy’n fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda’i nodau llesiant penodol i Gymru, yn darparu fframwaith ar gyfer cyfraniad Cymru at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Ar y cyfan, mae’r chwe adroddiad naratif arall, drwy eu hasesiad o’n cynnydd tuag at y nodau llesiant cenedlaethol, yn dangos ein cyfraniad cyffredinol fel cenedl at yr agenda datblygu cynaliadwy ryngwladol. Er enghraifft, rydym yn adrodd mewn mannau eraill ar dueddiadau fel tlodi, anghydraddoldebau a gwaith teg. Felly, mae’r naratif hwn ar y nod Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang yn canolbwyntio ar feysydd sydd fwyaf perthnasol i’r agenda fyd-eang yn benodol.

Mae’r 50 o ddangosyddion cenedlaethol ar gyfer Cymru hefyd wedi cael eu mapio at ddibenion dangosol yn erbyn y 17 Nod Datblygu Cynaliadwy i’ch helpu chi i lywio rhwng cynnydd yma yng Nghymru a’r berthynas â phob un o’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Dangosyddion Cenedlaethol: mapio i’r Nodau Llesiant a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (offeryn rhyngweithiol)

Er bod rhywfaint o’r naratif yn seiliedig ar ddangosyddion cenedlaethol ac ystadegau swyddogol, mae rhywfaint o’r data a gyflwynir yn yr adran hon yn gyd-destunol ac yn defnyddio data neu ddatganiadau ffeithiol sy’n ymwneud â pholisïau neu raglenni, lle rydym wedi ystyried ei fod yn berthnasol i’r naratif cyffredinol. Nid yw’r data hyn yn cael eu casglu drwy ffynonellau ystadegau swyddogol, ac er eu bod yn cael eu cynnwys yma ar gyfer cyd-destun, ni allwn ddarparu sicrwydd llawn ynghylch ansawdd data. Fodd bynnag, lle bo modd, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y data yn yr Adroddiad Ansawdd ar gyfer Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol a’r adroddiad ansawdd nad yw’n cynnwys dangosyddion. 

Newid yn yr hinsawdd

Nod 13 o Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yw “gweithredu ar frys i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau”.

Mae pobl yng Nghymru yn poeni am newid yn yr hinsawdd.

Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol ar gyfer 2022-23 yn dangos bod y mwyafrif helaeth (97%) o bobl Cymru o'r farn bod hinsawdd y byd yn newid. Yn 2022-23, roedd 74% o oedolion yn eithaf pryderus neu’n bryderus iawn am newid yn yr hinsawdd, sef canlyniad tebyg i 2021-22 (76%) ac yn 2020-21 (76%).

Yn 2022-23, roedd 56% o bobl o’r farn bod newid yn yr hinsawdd yn ganlyniad i weithgarwch dynol yn bennaf neu’n gyfan gwbl. Mae 94% yn meddwl bod gweithgarwch dynol yn gysylltiedig i ryw raddau â newid hinsawdd y byd.

Nwyon tŷ gwydr

Mae carreg filltir genedlaethol ar gyfer nwyon tŷ gwydr, sef y bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050. 

Yn 2022, amcangyfrifwyd bod cyfanswm yr allyriadau a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru (a elwir yn allyriadau gwladol) yn cyfateb i 35.7 miliwn o dunelli o garbon deuocsid (MtCO2e), sef gostyngiad o 0.1% ers 2021. Cafodd y gostyngiad bach mewn allyriadau rhwng 2021 a 2022 ei sbarduno’n bennaf gan gyfuniad o fwy o allyriadau yn y sector cyflenwi tanwydd, wedi’i sbarduno’n bennaf gan gynnydd mewn allyriadau hylosgi purfeydd, a mwy o weithgarwch mewn gorsafoedd pŵer oherwydd cynnydd mewn gweithgarwch yn dilyn pandemig COVID-19. Mae’r cynnydd hwn yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiad mewn allyriadau yn sector y diwydiant sy’n gysylltiedig â chynhyrchu haearn a dur, a llai o allyriadau yn y sector adeiladau a defnyddio cynnyrch, lle mae’r cyfuniad o’r flwyddyn boethaf erioed yn 2022 a phrisiau nwy uwch, yn debygol o fod wedi arwain at newid ymddygiad yn y defnydd o ynni preswyl. 

Ffigur 7.1: Amcangyfrif o allyriadau gwladol Cymru o nwyon tŷ gwydr (Mt CO2e), 1990 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.1: Mae'r siart linell yn dangos cyfaint yr allyriadau nwyon tŷ gwydr (megatunnell) yng Nghymru rhwng 1990 a 2022. Mae allyriadau yng Nghymru wedi gostwng 36% ers y flwyddyn sylfaen (1990). Nid oedd unrhyw newid mewn allyriadau rhwng 2021 a 2022. 

Ffynhonnell: Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol

[Nodyn 1]: mae’r ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol wedi cael eu diwygio a’u marcio â (r)

Bu 36% o ostyngiad ers allyriadau’r flwyddyn sylfaen (1990). Mae’r duedd hirdymor i leihau allyriadau ers y flwyddyn sylfaen yn bennaf oherwydd arbedion effeithlonrwydd cynhyrchu ynni a gwresogi’r sector busnes (adeiladau ac ar gyfer prosesau), defnyddio nwy naturiol yn lle glo a rhai tanwyddau eraill yn ogystal â lleihad mewn rhai diwydiannau cemegol, gostyngiadau mewn allyriadau o reoli gwastraff anerobig ac amrywiadau mewn allbwn gweithgynhyrchu (er enghraifft mewn haearn a dur, cynhyrchu cemegion). 

Y sector a oedd yn gyfrifol am yr allyriadau mwyaf oedd diwydiant, a oedd yn cynhyrchu 29% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Mae hylosgi tanwydd yn y broses cynhyrchu haearn a dur yn cael lle blaenllaw yn y sector hwn, fel ffwrneisiau chwyth, cynhyrchu golosg, ffaglu a chynhyrchu sinter. 

Y sector cyflenwi trydan yw’r ail sector mwyaf sy’n cyfrif am bron i 18% o allyriadau Cymru. Dilynir hyn gan y sector amaethyddiaeth (16%), y sector trafnidiaeth ddomestig (15%), y sector adeiladau a defnyddio cynnyrch (13%), y sector cyflenwi tanwydd (7%), gyda sectorau eraill yn gwneud cyfraniadau llai o 5% neu lai. 

Mae’r ffigurau hyn ar allyriadau nwyon tŷ gwydr gwladol yn ystyried allyriadau yng Nghymru yn unig. Nid yw hyn yn cynnwys allyriadau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau y tu allan i Gymru hyd yn oed os yw’r rhain yn cael eu mewnforio i Gymru. Yn yr un modd, mae allyriadau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu cyfrif fel allyriadau Cymru hyd yn oed os yw’r rhain yn cael eu hallforio i’w defnyddio mewn mannau eraill. 

Allyriadau nwyon tŷ gwydr a briodolir i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau byd-eang yng Nghymru

Amcangyfrifir allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir gan aelwydydd yng Nghymru (a elwir yn allyriadau sy’n seiliedig ar ddefnydd neu ôl troed carbon). Mae’r amcangyfrifon hyn yn mesur yr allyriadau sy’n cael eu cynhyrchu’n uniongyrchol gan aelwydydd yng Nghymru (gan gynnwys gwresogi a gyrru, er enghraifft), allyriadau sy’n digwydd yn y Deyrnas Unedig i gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru, ac allyriadau sy’n cael eu ‘mewnforio’ sy’n digwydd mewn gwledydd eraill wrth gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru. 

Yn gyffredinol, mae allyriadau defnydd wedi gostwng ers 2001. Rhwng 2001 a 2020 mae allyriadau wedi gostwng o 40.0 MtCO2e i 25.0 MtCO2e (37% o ostyngiad). Wrth gymharu effeithiau pandemig COVID-19 â 2001 a 2019, mae’r gostyngiad tua 21%. Allyriadau sydd wedi’u cynnwys mewn nwyddau a gwasanaethau a fewnforir (a ddefnyddiwyd yng Nghymru ond a gynhyrchwyd dramor) oedd y ffynhonnell fwyaf o allyriadau dros y cyfnod hwn. 

Mae gan yr amcangyfrifon hyn lefel uchel o ansicrwydd oherwydd ei bod yn anodd mesur allyriadau sydd wedi’u cynnwys mewn mewnforion ac mae’r data hyn yn cael eu graddio i lefel Cymru, gan ddefnyddio arolwg sydd â maint sampl cyfyngedig. Felly, efallai na fydd amrywiadau mewn data blynyddol yn adlewyrchu’r newidiadau gwirioneddol i allyriadau a dylid ystyried y duedd hirdymor dros amser. 

Gellir ystyried yr allyriadau tiriogaethol a defnydd ochr yn ochr â’i gilydd. Mae’r amcangyfrifon allyriadau hyn yn mesur gwahanol ffynonellau allyriadau ac yn defnyddio gwahanol ddulliau. Mae’r allyriadau tiriogaethol yn defnyddio ffynonellau a dulliau data mwy cadarn, felly maent yn fwy sicr na’r allyriadau defnydd. Mae’r dangosydd allyriadau defnydd yn helpu i ganfod a yw gostyngiadau mewn allyriadau yng Nghymru yn cael eu gwrthbwyso gan allyriadau sy’n cael eu ‘mewnforio’ o dramor. Yn wahanol i wledydd eraill y Deyrnas Unedig, mae allyriadau tiriogaethol yn uwch yng Nghymru nag allyriadau defnydd. Gallai hyn fod oherwydd bod Cymru yn cynhyrchu lefelau uwch o allyriadau diwydiant trwm ac ynni na ellir ei adnewyddu yn ôl ei phoblogaeth o gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig. 

Ffigur 7.2: Amcangyfrif o ôl troed allyriadau defnydd Cymru (Mt CO2e), 2001 i 2020

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.2: Mae’r siart linell yn dangos bod cyfaint yr allyriadau defnydd amcangyfrifedig (megatunelli) yng Nghymru yn dangos tuedd gyffredinol ar i lawr ers 2001. Rhwng 2001 a 2020, mae ôl troed allyriadau defnydd amcangyfrifedig Cymru wedi gostwng 37%, o 40 Mt CO2e i 25 Mt CO2e.

Ffynhonnell: Ôl Troed Allyriadau Defnydd, Cymru, 2001 i 2020 (Mt CO2e), amcangyfrif o allyriadau ar sail defnydd, Prifysgol Leeds.

Ôl Troed Byd-eang

Ein hôl troed byd-eang yw cyfanswm y baich amgylcheddol y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned. Yn fyd-eang, rydym yn defnyddio mwy o adnoddau naturiol nag y gall y byd eu disodli. 

Un ffordd o fesur ein hôl troed byd-eang a’r diffyg ecolegol hwn yw cyfrifo’r hyn a elwir yn Ôl Troed Ecolegol, sy’n cynrychioli’r darn o dir sydd ei angen i ddarparu deunyddiau crai, ynni a bwyd yn ogystal ag amsugno’r llygredd a'r gwastraff a grëir. Mae’n cael ei fesur mewn hectarau global.   

Mae’r bwyd mae pobl yn ei fwyta, y ffordd rydym yn teithio a’r ynni rydym yn ei ddefnyddio gartref yn dylanwadu ar ein hôl troed byd-eang. Mae hefyd yn gyfrifol am brynu cynnyrch a gwasanaethau, o yswiriant i setiau teledu, i eitemau o ddillad. Mae hefyd yn cynnwys effeithiau gweithgarwch adeiladu a buddsoddi mewn seilwaith. 

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd hwn yw y bydd Cymru ond yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau’r byd erbyn 2050. Mae’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur wedi cyfrifo ôl troed byd-eang ar gyfer Cymru yn ddiweddar gan ddefnyddio’r fethodoleg Ôl Troed Ecolegol. Mae hyn yn rhan o brosiect ehangach i wella dealltwriaeth o ôl troed amgylcheddol byd-eang ac effeithiau nwyddau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru, ond a allai gael eu cynhyrchu yn unrhyw le yn y byd.

Cynhyrchwyd ôl troed ecolegol gan ddefnyddio dwy fethodoleg ychydig yn wahanol – un yn defnyddio data sy’n benodol i Gymru (ar gael ar gyfer 2019 yn unig), a’r llall yn defnyddio data mewnbwn gwahanol a symlach (drwy ddosrannu data’r Deyrnas Unedig i Gymru) er mwyn gallu cynhyrchu cyfres amser. Oherwydd ei allu i fonitro newid dros amser, mae’r olaf yn cael ei ddefnyddio i adrodd ar gynnydd yn erbyn y dangosydd cenedlaethol a’r garreg filltir. 

Gan ddefnyddio’r fethodoleg Ôl Troed Ecolegol, mae ôl troed byd-eang Cymru wedi gostwng yn gyffredinol o tua 17.0 miliwn hectar global (gha) yn 2004 i 12.3 miliwn gha yn 2018. Mae’r ôl troed byd-eang fesul unigolyn wedi gostwng bron i draean dros y cyfnod amser hwn, ac roedd yn 3.9 gha y pen yn 2018. Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod dros ddwywaith yr amcangyfrif o’r biogapasiti yng Nghymru. Mewn geiriau eraill, pe bai holl boblogaeth y byd yn byw fel dinasyddion Cymru, byddai angen tir cyfwerth â 2.08 Daear ar ddynoliaeth.

Ffigur 7.3: Ôl troed byd-eang, hectarau global (gha) y pen, 2004 i 2018

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.3: Siart linell yn dangos yr ôl troed byd-eang (gha) y pen yng Nghymru, bob tair/pedair blynedd rhwng 2004 a 2018. Mae’r ôl troed byd-eang fesul unigolyn wedi gostwng yn raddol dros y cyfnod. 

Ffynhonnell: Deall Ôl Troed Amgylcheddol Byd-eang ac Effeithiau Defnydd Cymru, JNCC

Mae mesur arall o Ôl Troed Ecolegol Cymru yn defnyddio data mewnbwn o ansawdd ychydig yn uwch, ond nid yw’n galluogi cymharu dros amser. Roedd yr ôl troed hwn tua 10.7 miliwn gha yn 2019, sy’n cyfateb i tua 3.4 ha fesul unigolyn. 

Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol

Yn 2021-22, am y tro cyntaf, gofynnodd yr Arolwg Cenedlaethol i bobl pa weithgareddau yr oeddent wedi eu gwneud i helpu gyda materion rhyngwladol fel tlodi, hawliau dynol, rhyfel, ffoaduriaid, neu newid yn yr hinsawdd. Gofynnwyd y cwestiynau hyn cyn y rhyfel yn Wcráin.

Roedd 11% o’r rhai a arolygwyd wedi gwneud tri neu ragor o’r pedwar cam gweithredu a ganlyn i helpu gyda materion byd-eang: rhoi neu godi arian, ymgyrchu, gwirfoddoli, neu newid yr hyn maen nhw’n ei brynu.

Mae 31% o bobl yn dweud eu bod nhw wedi rhoi arian yn ystod y tri mis blaenorol i helpu gyda materion byd-eang. Y materion mwyaf cyffredin y rhoddodd pobl arian tuag atynt oedd tlodi rhyngwladol (21%) a chynorthwyo ffoaduriaid (15%). Roedd 36% o fenywod yn dweud eu bod nhw wedi rhoi arian, o’i gymharu â 26% o ddynion.

Dywed 17% o bobl eu bod nhw wedi ymgyrchu dros faterion rhyngwladol yn y 12 mis diwethaf i helpu gyda materion byd-eang, a dywed 5% eu bod nhw wedi gwirfoddoli. Roedd 11% o bobl wedi ymgyrchu dros faterion hawliau dynol a 10% yn erbyn newid yn yr hinsawdd, tra bo 2% wedi gwirfoddoli i roi terfyn ar dlodi a 2% i helpu ffoaduriaid.

Dywed 54% eu bod wedi newid yr hyn maent yn ei brynu oherwydd materion byd-eang. Mae pobl o dan 75 oed yn fwy tebygol o fod wedi newid yr hyn maent yn ei brynu (57%) na phobl 75 oed a hŷn (34%). Pobl rhwng 25 a 44 oed oedd y grŵp mwyaf tebygol o fod wedi gwneud newidiadau i’r hyn maent yn ei brynu (63%).

Caethwasiaeth fodern

Mae nifer y dioddefwyr posibl o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru sy’n cael eu hatgyfeirio wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys targed ar gyfer ‘Rhoi terfyn ar gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl’. Caethwasiaeth fodern yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi ei ddiffinio yn Neddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae’r ddeddf yn categoreiddio troseddau o gaethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol neu drwy rym a masnachu pobl.

Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae nifer yr achosion o ddioddefwyr posibl caethwasiaeth sy’n cael eu hadrodd i’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol neu drwy broses y Ddyletswydd i Hysbysu yn parhau i gynyddu bob blwyddyn yng Nghymru.

Yn 2023, cafodd 559 o bobl eu cyfeirio fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern i heddluoedd yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 4% o’i gymharu â 2022 (536 o atgyfeiriadau).  Mae’n debyg bod rhywfaint o'r cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf yn deillio o brosesau adrodd gwell a newidiadau yn y ffordd y cofnodir y data. 

Ffigur 7.4: Atgyfeiriadau NRM a anfonwyd at heddluoedd yng Nghymru ar gyfer ymchwiliad, 2018 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.4: Siart linell yn dangos nifer yr atgyfeiriadau i’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer heddluoedd yng Nghymru rhwng 2018 a 2023. Mae nifer yr atgyfeiriadau wedi cynyddu dros y cyfnod.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol, y Swyddfa Gartref

Yn 2023, roedd 116 o’r atgyfeiriadau yn fenywod (21%) ac roedd 441 yn ddynion (79%), ac roedd 2 (0.4%) wedi’u cofnodi fel ‘arall’, neu ‘heb eu nodi neu'n anhysbys’.

Cafodd 189 (34%) o unigolion eu cyfeirio ar gyfer categorïau camfanteisio ar oedolion ac fe gafodd 348 (62%) eu cyfeirio ar gyfer camfanteisio yn unigolyn ifanc dan oed. Roedd 22 (4%) heb eu nodi neu’n anhysbys.

Y math mwyaf cyffredin o gamfanteisio ar gyfer oedolion oedd camfanteisio ar ‘lafur a throseddol’. Y math mwyaf cyffredin ar gyfer plant ifanc dan oed oedd ‘troseddol’. Fodd bynnag, ar gyfer merched dan oed, y camfanteisio mwyaf cyffredin oedd ‘rhywiol’.

Priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod

Mae priodasau dan orfod neu achosion posibl o anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael eu nodi yng Nghymru.

Mae nod 5 y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys targed i ‘gael gwared ar yr holl arferion niweidiol, fel gorfodi plentyn i briodi neu briodi’n gynnar ac anffurfio organau cenhedlu benywod’.

Yn ôl y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, rhoddodd yr Uned Priodasau Dan Orfod gyngor neu gymorth mewn llai na phum achos posibl o briodas dan orfod a/neu achosion posibl o anffurfio organau cenhedlu benywod yn 2023 yng Nghymru. Roedd hyn yn cymharu â chwe achos y llynedd, sef 2% o gyfanswm y Deyrnas Unedig. 

Oherwydd y niferoedd isel o’i gymharu â rhai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae’r duedd ar gyfer Cymru wedi bod yn anwadal rhwng 2015 a 2023. Ar ôl cyflwyno’r cyfyngiadau symud cyntaf, gostyngodd nifer yr atgyfeiriadau i’r Uned Priodasau Dan Orfod. Mae’n bosibl bod y pandemig yn gyfrifol am hyn, fel cyfyngiadau ar briodasau a theithio. Mae newid i’r drefn o ran a ddylid cofnodi achos newydd fel atgyfeiriad neu ymholiad cyffredinol hefyd yn debygol o fod wedi cael effaith fach ar nifer cyffredinol yr achosion o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol ac felly dylid bod yn ofalus wrth gymharu’n uniongyrchol.

Ffigur 7.5: Nifer yr achosion a gafodd gyngor neu gymorth gan yr Uned Priodasau dan Orfod yng Nghymru, 2015 i 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
BlwyddynAchosion
201525
201614
201717
201828
201937
202015
20218
20226
2023[c]

Disgrifiad o Ffigur 7.5: Tabl o nifer yr achosion lle mae’r Uned Priodasau Dan Orfod (FMU) wedi rhoi cyngor neu gymorth yng Nghymru mewn perthynas â phriodas bosibl dan orfod a/neu achos bosibl o anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yng Nghymru yn 2023. Oherwydd y niferoedd isel o’i gymharu â rhai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae’r duedd ar gyfer Cymru wedi bod yn anwadal rhwng 2015 a 2023.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, Ystadegau’r Uned Priodasau dan Orfod 2023

[Nodyn 1] Oherwydd y newidiadau mewn arferion cofnodi, nid oes modd cymharu’r data o 2020 yn uniongyrchol â data’r blynyddoedd blaenorol.

[Nodyn 2] Defnyddir llaw-fer yn y tabl hwn, [c]= llai na 5.

Addysg dinasyddiaeth fyd-eang

Mae Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, sef ‘Addysg o Safon’, yn cydnabod pwysigrwydd cael addysg o ansawdd a bod yr holl ddysgwyr yn meddu ar yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy, gan gynnwys ffyrdd cynaliadwy o fyw, hawliau dynol, cydraddoldeb rhywiol a dinasyddiaeth fyd-eang.

Yn 2023/24, roedd 21,493 o ymgeiswyr ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yng nghyfnod allweddol 4, ac 4,523 ar lefel uwch, a oedd wedi dewis cydran her dinasyddiaeth fyd-eang. Roedd 5,048 o geisiadau ar gyfer y prosiect cymunedol byd-eang datblygedig newydd. Ar gyfer cyfnod allweddol 4, mae data dros dro yn dangos bod 98.8% o’r ceisiadau wedi llwyddo ar lefel 1 neu uwch, ac ar y lefel uwch, roedd 98.9% wedi pasio lefel 3 neu uwch. Ar gyfer y prosiect cymunedol byd-eang uwch newydd, mae data dros dro yn dangos bod 72.1% wedi cyflawni C neu'n uwch, a chyflawnodd 97.1% E neu'n uwch.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae pobl ifanc yng Nghymru yn dysgu am faterion byd-eang ond mae gostyngiad wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n mynychu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. 

Mae nifer mawr o fyfyrwyr o amrywiaeth o wledydd yn mynychu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. 

Yn 2022/23, cofrestrwyd 28,710 o fyfyrwyr rhyngwladol gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys 19% o gofrestriadau lle mae domisil y myfyriwr yn hysbys. O’r rhain, roedd 2,900 yn fyfyrwyr a oedd yn hanu o’r Undeb Ewropeaidd (2% o’r holl gofrestriadau lle’r oedd domisil y myfyrwyr yn hysbys), ac roedd 25,805 yn fyfyrwyr a oedd yn hanu o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (17% o’r holl gofrestriadau lle’r oedd domisil y myfyrwyr yn hysbys). Dyma’r nifer uchaf erioed o bobl nad ydynt yn hanu o’r Deyrnas Unedig sydd wedi cofrestru ar gyfer addysg uwch yng Nghymru.

Nid oedd y ffigurau a ddarparwyd yn flaenorol yn cynnwys myfyrwyr yng nghanolfan genedlaethol Cymru ar gyfer y Brifysgol Agored a chofrestriadau addysg uwch gyda darparwyr addysg bellach. Fodd bynnag, mae eithrio data ar gyfer darparwyr Addysg Bellach a'r Brifysgol Agored yn rhoi darlun llai cynhwysfawr o addysg uwch yng Nghymru, ac yn hepgor nifer fawr o fyfyrwyr sy'n astudio ar lefel Addysg Uwch. Dim ond o 2016/17 y mae data sy’n cynnwys cofrestriadau’r Brifysgol Agored ac addysg uwch gyda darparwyr addysg bellach yng Nghymru ar gael. Felly, gall y ffigurau a’r cyfrannau fod yn wahanol i’r rhai a nodwyd yn flaenorol.

Ffigur 7.6: Canran y myfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru sy’n fyfyrwyr rhyngwladol, 2016/17 i 2022/23 [Nodyn 1] [Nodyn 2] 

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.6: Mae’r siart linell yn dangos canran y myfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a oedd yn fyfyrwyr rhyngwladol, rhwng 2016/17 a 2022/23. Yn 2022/23, roedd 19% o’r myfyrwyr a gofrestrwyd yn fyfyrwyr rhyngwladol. 

Ffynhonnell: Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

[Nodyn 1] Niferoedd yn seiliedig ar fyfyrwyr sydd wedi cofrestru yn y boblogaeth gofrestru safonol ar gyfer addysg uwch, ac sy’n astudio yng Nghymru (gan gynnwys canolfan genedlaethol Cymru ar gyfer cofrestriadau'r Brifysgol Agored ac addysg uwch mewn darparwyr addysg bellach). 

[Nodyn 2] Mae cyfrifiadau'r canrannau'n seiliedig ar y myfyrwyr y mae eu gwlad lle mae eu cyfeiriad parhaol yn hysbys. Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr nad yw eu gwlad lle mae eu cyfeiriad parhaol yn hysbys yn cael eu heithrio o gyfrifiadau.

Tlodi bwyd

Mae rhai oedolion yng Nghymru yn wynebu tlodi bwyd ac yn poeni am fforddio bwyd.

Un o nodau’r Cenhedloedd Unedig, sef ‘Dim Newyn’ yw rhoi diwedd ar newyn, sicrhau diogelwch bwyd a gwella maeth.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2022-23, roedd 3% o aelwydydd wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf gyda 3% arall yn dweud nad oeddent wedi cael bwyd ond eu bod wedi dymuno cael hynny. 

Yn ôl yr arolwg hefyd, roedd 5% o oedolion yn dweud eu bod wedi mynd heb bryd o fwyd sylweddol o leiaf un diwrnod yn y pythefnos cynt. Roedd hyn yn debyg i 2021-22 (4%). 

Ceiswyr lloches

Mae nifer y ceiswyr lloches sy’n derbyn cymorth wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ers dechrau’r degawd.

Nod Datblygu Cynaliadwy rhif 16 y Cenhedloedd Unedig yw ‘hyrwyddo cymdeithasau heddychlon a chynhwysol ar gyfer datblygu cynaliadwy, darparu mynediad at gyfiawnder i bawb a chreu sefydliadau effeithiol, atebol a chynhwysol ar bob lefel’.

Nid yw ffigurau cyflawn ar gyfer nifer y ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n cael eu hadsefydlu yng Nghymru ar gael. Fodd bynnag, cyhoeddir ffigurau sy’n ymwneud â nifer y ffoaduriaid sy’n adsefydlu o dan Gynllun Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (a’r Cynllun Adsefydlu pobl agored i niwed gynt), a nifer y rhai sy’n derbyn cymorth lloches ar hyn o bryd.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2024, roedd cyfanswm o 1,488 o ffoaduriaid wedi cael eu hadsefydlu yng Nghymru o dan y Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed (2016 i 2022) a Chynllun Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (2021 ymlaen).

Mae Adran 95 yn darparu cymorth i geiswyr lloches sydd â chais am loches neu apêl heb ei ddatrys a cheiswyr lloches aflwyddiannus a oedd â phlant yn eu cartref pan ddefnyddiwyd yr holl hawliau apelio a oedd yn bosibl, ac mae’n cynnwys y rhai sy’n derbyn:

  • Llety gwasgaru: y rhai sy’n derbyn llety yn unig, neu lety a chynhaliaeth.
  • Cynhaliaeth yn unig: lle mae’r ymgeisydd yn derbyn arian i gynnal ei hun ond wedi dod o hyd i’w lety ei hun.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2024, roedd dros 2,800 o geiswyr lloches yn cael cymorth yng Nghymru. Mae’r nifer sy’n cael cymorth wedi parhau i gynyddu ers 2022. Roedd cynnydd o 15% yn 2024, ers yr un chwarter yn 2023. Roedd y niferoedd wedi aros yn sefydlog rhwng 2016 a 2020 ac wedi gostwng rhwng 2020 a 2021.

Ffigur 7.7: Nifer y ceiswyr lloches sy’n derbyn cymorth Adran 95, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2004 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.7: Mae’r siart linell yn dangos bod nifer y ceiswyr lloches sy’n cael cymorth wedi aros yn gyson yn ystod blynyddoedd 2016 i 2020, yna wedi gostwng tan 2022, a chynyddu eto yn 2023 a 2024. 

Ffynhonnell: Ystadegau Mewnfudo’r Swyddfa Gartref, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024

Yn 2022, achosodd y rhyfel yn Wcráin i lawer o bobl ffoi rhag y gwrthdaro. Ar ddiwedd 16 Gorffennaf 2024, roedd dros 9,500 o fisâu wedi cael eu rhoi i bobl o Wcráin sydd â noddwr yng Nghymru. Darparodd Llywodraeth Cymru rôl “uwch-noddwr” i dros 4,600 o’r rhain. Roedd dros 7,700 o bobl â noddwyr yng Nghymru wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig erbyn 16 Gorffennaf 2024. 

Darpariaeth brechu

Mae nifer y plant ifanc sy’n cael brechiadau yn parhau i fod yn uchel ond mae wedi gostwng ychydig ers ei lefelau uchaf yn 2013-14, ar gyfer y brechlyn ‘6 mewn 1’ DTaP/IPV/Hib/HepB1 ar gyfer y rheini sy’n nesáu at flwydd oed, a’r nifer sy’n cymryd dos cyntaf o MMR erbyn iddynt fod yn ddyflwydd oed.

Mae Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, sef ‘Iechyd a llesiant da’, yn nodi pwysigrwydd darparu mynediad at feddyginiaethau a brechlynnau fforddiadwy a hanfodol. Mae gan Sefydliad Iechyd y Byd weledigaeth ar gyfer byd heb y frech goch, rwbela a syndrom rwbela cynhenid.

Roedd y nifer a oedd yn cael y brechlyn ‘6 mewn 1’ DTaP/IPV/Hib/HepB1 (y tri dos) ymysg plant sy’n cyrraedd eu pen-blwydd cyntaf wedi gostwng ychydig o 94.2%, o’i gymharu â 94.5% yn y flwyddyn flaenorol.

Roedd canran y rhai a gymerodd y dos cyntaf o MMR erbyn roeddent yn ddyflwydd oed wedi aros yr un fath â’r llynedd, sef 92.9%. Mae hyn yn is na’r cyfartaledd ar gyfer atal achosion o’r frech goch (y targed yw 95%).

Roedd cyfran y plant a oedd wedi cael eu himiwneiddiadau rheolaidd erbyn eu bod yn bedair oed yn 84.3% eleni. Yn genedlaethol, roedd canran y plant a oedd yn cael eu himiwneiddiadau rheolaidd erbyn iddynt fod yn bedair oed yn amrywio o 77.9% yn y cwintel o amddifadedd mwyaf o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) i 89.6% yn y cwintel o amddifadedd lleiaf o ACEHI. Y gwahaniaeth yn y defnydd rhwng y cwintel o amddifadedd lleiaf a’r cwintel o’r amddifadedd mwyaf oedd 11.7 pwynt canran. Mae hyn yn ehangu’r bwlch anghydraddoldeb o’i gymharu â 2022-23 (11.2 pwynt canran). Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith i nodi gwraidd yr anghydraddoldebau hyn a chanfod ymyriadau i leihau’r bwlch.

Ffigur 7.8: Canran y plant sy’n cael eu himiwneiddiadau yng Nghymru, 2008-09 i 2023-24 [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.8: Mae’r siart linell yn dangos canran y bobl a gafodd y brechlyn MMR a’r brechlyn 6 mewn 1 rhwng 2008-09 a 2023-24.  Mae’r nifer sy’n cymryd y brechlyn ‘6 mewn 1’ a’r MMR wedi gostwng ers iddynt gyrraedd eu lefelau uchaf yn 2013-14. Roedd 92.9% wedi cael MMR yn 2023-24 a 94.2% wedi cael y ‘6 mewn 1’.

Ffynhonnell: Data cenedlaethol ar y nifer sy’n manteisio ar imiwneiddio, Iechyd Cyhoeddus Cymru

[Nodyn 1] Mae’r brechlyn ‘6 mewn 1’ yn amddiffyn yn erbyn difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio, hib a haint hepatitis B. Byddai’r rhan fwyaf o’r plant un oed y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn yn gymwys ar gyfer y brechlyn ‘6 mewn 1’, gan ddisodli’r brechlyn ‘5 mewn 1’ sydd i fod i gael ei roi i fabanod pan fyddant yn bedwar, wyth a 12 mis oed.

[Nodyn 2] Mae MMR yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela. Mae’r data’n dangos y nifer sy’n cymryd y dos cyntaf yn ddyflwydd oed.

[Nodyn 3] Nid yw echelin y siart yn cychwyn ar sero.

Darllen pellach

Mae adroddiadau Llesiant blaenorol Cymru wedi cynnwys dadansoddiad pellach ar:

  • Eco-Ysgolion 
  • Cosbi plant yn gorfforol 
  • Safleoedd treftadaeth y byd

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, ac felly dim ond mesurau cynnydd lefel uchel y mae modd eu hystyried yn yr adroddiad hwn. Mae rhagor o ddeunydd darllen ar gael isod: 

Ystadegau ar bobl o Wcráin yn y Deyrnas Unedig (Y Swyddfa Gartref)

Rhestr Treftadaeth y Byd UNESCO (UNESCO)

Eco-Ysgolion (Eco-Ysgolion)

Eco-Ysgolion (Cadwch Gymru’n Daclus)

Rhoi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru

Ffynonellau data

Cynnydd tuag at gerrig milltir cenedlaethol

Cerrig Milltir Cenedlaethol

Mae’r cerrig milltir yn dargedau cenhedlaeth sy’n disgrifio cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y saith nod llesiant. Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cam cyntaf o gerrig milltir cenedlaethol Cymru, gyda’r ail gam yn cael ei osod ym mis Tachwedd 2022. Mae cyfanswm o 17 o gerrig milltir cenedlaethol, sy’n cynnwys 16 o ddangosyddion cenedlaethol. 

Nod y bennod hon yw asesu cynnydd y cerrig milltir cenedlaethol. Asesir y newid ers 2015, gan mai dyma oedd blwyddyn sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, er nad oedd y cerrig milltir eu hunain wedi’u gosod tan yn ddiweddarach. Os nad oedd data ar gael ar gyfer 2015, defnyddiwyd y flwyddyn agosaf bosibl.

Mae’r asesiad yn y bennod hon yn ein helpu i ddeall a chyfleu cynnydd tuag at y nodau a’r cerrig milltir, ond ni ddylid ei ddefnyddio o reidrwydd i werthuso effaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan y bydd nifer o ffactorau eraill yn dylanwadu ar gyfeiriad rhai dangosyddion. Mae hefyd yn bwysig ystyried dangosyddion a cherrig milltir yng nghyd-destun tueddiadau tymor hirach cyn 2015, sy’n cael eu cyflwyno ym mhenodau canlynol yr adroddiad hwn. 

Rydym yn nodi bod pob mesur naill ai wedi gwella, wedi dirywio, heb newid neu heb ei asesu. Lle bo’n bosibl, rydym wedi defnyddio mesurau fel arwyddocâd ystadegol i wneud yr asesiad hwn. Yn ein hasesiad, nid ydym wedi ystyried a yw’r cerrig milltir ar y trywydd iawn i gael eu cyflawni, dim ond asesu cyfeiriad y newid. 

Gan mai dyma’r flwyddyn gyntaf i ni gynnal yr asesiadau hyn, rydym yn croesawu adborth ar y dull a ddefnyddiwyd.

Pa gynnydd sydd wedi’i wneud?

Mae sawl rhan i rai o’r 17 o gerrig milltir, felly fe wnaethom asesu cyfanswm o 21 cynnydd i gyd. Aseswyd bod deg o’r rhain wedi gwella ers 2015 (neu’r flwyddyn agosaf bosibl), sy’n awgrymu bod Cymru’n mynd i’r cyfeiriad iawn tuag at y garreg filltir. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, er y gallai’r duedd fod yn symud i’r cyfeiriad cywir, bydd angen i ni symud yn gyflymach i gyrraedd y targed erbyn 2050. Roedd pum carreg filltir yn dangos dirywiad ac nid oedd pump arall yn dangos fawr ddim newid, os o gwbl. 

Ar gyfer un garreg filltir (perfformiad ynni cartrefi) nid oedd modd asesu cynnydd oherwydd mai dim ond gwerth blwyddyn o ddata oedd ar gael. 

Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd y cerrig milltir yn parhau i ddilyn tuedd tymor hirach a sefydlwyd cyn 2015. Mae tueddiadau tymor hirach, a dadansoddiad manylach o’r cerrig milltir, wedi’u cynnwys yn y penodau perthnasol drwy gydol adroddiad Llesiant Cymru.

Mae adrannau canlynol y bennod hon yn nodi’r asesiad cynnydd ar gyfer pob carreg filltir.

Cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a lleihau'r bwlch rhwng disgwyliad oes iach yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf a mwyaf o leiaf 15% erbyn 2050

Wedi dirywio: disgwyliad oes iach menywod rhwng 2015-17 a 2020-22 a’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf rhwng 2015-17 a 2018-20.

Dim newid: disgwyliad oes iach dynion rhwng 2015-17 a 2020-22 a’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf rhwng 2015-17 a 2018-20.

Ffigur 1: Bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf, dynion a menywod, rhwng 2015-17 a 2018-20 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell sy’ dangos bod disgwyliad oes iach adeg geni i ddynion wedi aros yn sefydlog ar tua 61.5 o flynyddoedd ond mae wedi gostwng i fenywod o 62.2 yn 2015-17 i 60.3 yn 2020-22. Mae’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf i weld wedi gwella rhywfaint i ddynion (o 15.2 i 13.3 o flynyddoedd), ond wedi dirywio rhywfaint i fenywod (o 14.7 i 16.9) rhwng 2015-17 a 2018-20, er nad yw’r rhain yn wahanol o ran bod yn arwyddocaol yn ystadegol.

Ffynhonnell: Offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

[Nodyn 1] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero

Cynyddu’r ganran o oedolion sydd â dau neu fwy o ymddygiadau iach i fwy na 97% erbyn 2050

Wedi dirywio: rhwng 2016-17 a 2019-20.

Ffigur 2: Canran yr oedolion sydd â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw, 2016-17 i 2022-23 [Nodyn 1], [Nodyn 2], [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell sy’ dangos bod canran yr oedolion â dau ymddygiad iach neu fwy wedi dirywio o 92.9% yn 2016-17 i 89.9% yn 2019-20. Mae’r duedd ers 2020-21 wedi bod yn sefydlog ar tua 92.6% ond nid yw’n debyg i’r blynyddoedd blaenorol, oherwydd newid yn y dull adrodd.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu canlyniadau 2020-21 â blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau yn yr arolwg

[Nodyn 2] Mae’r canlyniadau o 2020-21 ar gyfer chwarter 4 yn unig ac nid ar gyfer data blynyddol

[Nodyn 3] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero

Cynyddu canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050

Wedi gwella: rhwng 2017/18 a 2021/22

Ffigur 3: Canran y bobl ifanc 11-16 oed gyda dau neu ragor o ymddygiadau iach, 2017/18 (blwyddyn academaidd) i 2021/22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell sy’ dangos bod canran y bobl ifanc 11-16 oed â dau ymddygiad iach neu fwy wedi gwella o 87.7% yn 2017/18 i 89.8% yn 2021/22.

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

[Nodyn 1] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero

Bydd gan 75% o'r oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymhwyster lefel 3 neu uwch erbyn 2050

Wedi gwella: rhwng 2015 a 2023

Ffigur 4: Canran yr oedolion o oedran gweithio (18 i 64 oed) sydd â chymhwyster Lefel 3 neu uwch, 2015 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell sy’ dangos bod 67.4% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru, yn ôl yr amcangyfrifon, wedi cymhwyso i lefel 3 neu uwch yn 2023. Mae’r ffigur hwn yn debygol o fod yn uwch nag y byddai wedi bod fel arall, yn dilyn y newidiadau i’r cwestiynau yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth i adlewyrchu’r fframwaith cymwysterau presennol yn 2022. Yn 2015 amcangyfrifwyd bod 56.6% o oedolion o oedran gweithio wedi cymhwyso i lefel 3 neu uwch yn unol â’r fframwaith cymwysterau a oedd ar waith bryd hynny.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

[Nodyn 1] Ni ellir cymharu amcangyfrifon ar gyfer 2022 ymlaen â blynyddoedd blaenorol yn dilyn newidiadau i’r cwestiynau ar gymwysterau Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau fydd 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050

Wedi gwella: rhwng 2015 a 2023

Ffigur 5: Cyfran y boblogaeth oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn ôl awdurdod lleol, 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far sy’ dangos bod ar hyn o bryd mae pum awdurdod lleol lle mae canran yr oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau o dan 5% – Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Ynys Môn, Gwynedd a Phowys. Nid oedd dim yn 2015.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Gwella incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) y pen yng Nghymru erbyn 2035 ac ymrwymo i osod targed twf ymestynnol ar gyfer 2050

Wedi gwella: rhwng 2015 a 2022

Ffigur 6: GDHI y pen yng Nghymru, £ a mynegai (y DU = 100), 2015 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Dwy siart linell yn dangos GDHI y pen a GDHI mynegai, o’i gymharu â’r DU. Mae GDHI y pen yng Nghymru wedi cynyddu mewn gwerth arian parod dros y cyfnod 2015 i 2022, o £15,600 yn 2015 i £18,700 yn 2022; cynnydd o 19.6%. Nid yw hyn yn ystyried chwyddiant dros y cyfnod. Fodd bynnag, mae GDHI y pen o’i gymharu â’r DU (fel y dangosir gan y mynegai), sydd yn ystyried chwyddiant drwy edrych ar y newid cymharol, wedi gostwng ychydig dros y cyfnod 2015 i 2022 o 82.0% i 81.8%.

Ffynhonnell: GDHI Rhanbarthol, Cyfrifon Rhanbarthol, SYG

Dim ond ei chyfran deg o adnoddau’r ddaear y bydd Cymru yn ei defnyddio erbyn 2050

Wedi gwella: rhwng 2014 a 2018

Ffigur 7: Ôl troed byd-eang (gha) y pen, 2014 i 2018

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart linell sy’ dangos bod yr ôl troed byd-eang y pen wedi gostwng 11% rhwng 2014 a 2018. Roedd yr ôl troed byd-eang y pen yn 3.9 gha y pen yn 2018, o'i gymharu â 4.4 gha y pen yn 2014.

Ffynhonnell: Deall Ôl Troed Amgylcheddol Byd-eang ac Effeithiau Defnydd Cymru, JNCC

Dileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac sy’n gysylltiedig ag anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050

Wedi gwella: Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, rhwng 2015 a 2023

Dim newid: Bwlch cyflog anabledd, rhwng 2015 a 2023

Wedi dirywio: Bwlch cyflog ethnigrwydd, rhwng 2015 a 2023

Ffigur 8: Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (canolrif enillion yr awr ar gyfer gweithwyr llawnamser, heb gynnwys goramser) (£), 2015 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell sy’ dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar sail llawnamser canolrifol fesul awr (ac eithrio goramser) wedi lleihau ers 2015, o 7.4% i 5.6% yn 2023.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion.

Ffigur 9: Gwahaniaethau cyflog ethnigrwydd ac anabledd yng Nghymru yn ôl blwyddyn (canolrif enillion fesul awr, pob gweithiwr) (£), y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2015 i fis Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell sy’ dangos bod y bylchau cyflog ethnigrwydd ac anabledd wedi bod yn anwadal dros y cyfnod ers 2015. Gostyngodd y bwlch cyflog ethnigrwydd o 12.0% yn 2015 i 1.4% yn 2019, ond yn ystod y pedair blynedd diwethaf mae wedi codi eto, gan gyrraedd 13.8% yn 2023. Cynyddodd y bwlch cyflog anabledd o 12.5% yn 2015 i uchafbwynt o 15.1% yn 2019 ond mae wedi gostwng i 12.2% yn 2023. Nid yw’n amlwg a yw’r newid yn y bylchau cyflog hyn o ran ethnigrwydd ac anabledd rhwng 2015 a 2023 yn arwyddocaol yn ystadegol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.

Lleihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â rhai nodweddion allweddol a gwarchodedig (sy’n golygu eu bod fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a’r rhai heb y nodweddion hynny erbyn 2035. Ymrwymo i osod targed ymestynnol ar gyfer 2050

Nid yw’r nodweddion sydd wedi’u cynnwys yng nghwmpas y garreg filltir hon wedi cael eu cytuno eto. Yn y cyfamser, mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar wahaniaethau rhwng grwpiau oedran eang.

Dim newid: rhwng grwpiau oedran eang rhwng y cyfnod o dair blynedd hyd at fis Mawrth 2015 a’r cyfnod o dair blynedd hyd at fis Mawrth 2023

Ffigur 10: Canran o bob grŵp oedran yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), cyfartaleddau tair blynedd ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell sy’ dangos mai plant yw’r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol yn gyson. Roedd 29% o blant mewn tlodi incwm cymharol yn y cyfnod o dair blynedd hyd at fis Mawrth 2023, yr un fath ag yn y cyfnod o dair blynedd hyd at fis Mawrth 2015. 7.2 pwynt canran oedd y bwlch rhwng canran y plant mewn tlodi a chanran y boblogaeth gyfan mewn tlodi yn y cyfnod o dair blynedd tan fis Mawrth 2023, o’i gymharu â 6.5 yn y cyfnod hyd at fis Mawrth 2015 er nad yw’r rhain yn newidiadau arwyddocaol yn ystadegol

Ffynhonnell: Tlodi Incwm Cymharol: Ebrill 2022 - Mawrth 2023

Dileu’r bwlch rhwng y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu cyfranogiad yn y farchnad lafur ymysg grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol

Wedi gwella: rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024

Ffigur 11: Cyfradd cyflogaeth pobl rhwng 16 a 64 oed, y Deyrnas Unedig a Chymru, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015 i fis Mawrth 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart linell sy’ dangos bod y bwlch mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi amrywio ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015, ond mae’r bwlch wedi lleihau’n gyffredinol.

Mae’r bwlch mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi lleihau rhwng y blynyddoedd a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015 a mis Mawrth 2024, gyda’r bwlch yn gostwng o 3.3 i 1.9 pwynt canran dros y cyfnod hwn.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16-24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050

Wedi gwella: rhwng 2015 a 2022

Ffigur 12: Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, yn ôl grŵp oedran, Cymru, 2015 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart linell sy’ dangos bod cyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed sydd mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant wedi amrywio rhwng 2015 a 2022, ond mae wedi gwella ar y cyfan.

Mae’r amcangyfrifon dros dro yn dangos bod 85.8% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2022, i fyny o 83.5% yn 2015. Ers 2015, mae cyfran y bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant wedi codi (o 81.0% i 85.4%) tra bo cyfran y bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed wedi gostwng (o 89.4% i 86.7%).

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, y Brifysgol Agored a CCAUC.

[Nodyn 1]: mae’r ffigurau ar gyfer 2022 yn rhai dros dro.

Cynyddu canran y bobl sy’n gwirfoddoli 10% erbyn 2050, gan ddangos statws Cymru fel cenedl sy'n gwirfoddoli

Wedi gwella: rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023

Ffigur 13: Canran y bobl sy’n gwirfoddoli, 2016-17 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart linell sy’ dangos bod canran y bobl sy’n dweud eu bod wedi gwirfoddoli wedi cynyddu ychydig yn gyffredinol, o 28% yn 2016-17 i 30% yn 2022-23, er gwaethaf gostyngiad bach yn 2019-20. Cyrhaeddwyd y garreg filltir genedlaethol.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru.

Gwella llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch mewn llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf yng Nghymru erbyn 2050

Dim newid: i oedolion rhwng 2016-17 a 2018-19 na rhwng 2021-22 a 2022-23.

Wedi dirywio: i blant rhwng 2017/18 a 2021/22

Ffigur 14: Sgôr Gyfartalog Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion, rhwng 2016-17 a 2022-23 [Nodyn 1], [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Siart linell sy’ dangos nid oedd sgôr gyfartalog Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWEBS) ar gyfer oedolion yn dangos unrhyw newid sylweddol rhwng 2016-17 a 2019-20 sef tua 51.2 nac ers 2020-21, sef tua 48.6. Mae’n ymddangos bod y bwlch yn y sgôr WEMWEBS cyfartalog rhwng y rheini o’r ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf wedi ehangu ers 2020-21, o 1.7 i 4.0 yn 2022-23. Fodd bynnag, nid yw’n bosibl deall y duedd tymor hirach ar gyfer y garreg filltir hon oherwydd newidiadau yn y broses o gasglu data. 

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu canlyniadau 2020-21 â blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau yn yr arolwg

[Nodyn 2] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero

Ffigur 15: Sgôr Gyfartalog Graddfa Fer Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed, 2017/18 (blwyddyn academaidd) hyd at 2021/22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 15: Siart linell sy’ dangos bod sgôr gyfartalog Graddfa Fer Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (SWEMWEBS) ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed wedi gostwng o 23.9 yn 2017/18 i 23.0 yn 2021/22. Mae’r bwlch yn sgôr cyfartalog SWEMWEBS rhwng y rhai o olud teuluol isel ac uchel wedi lleihau o 3 yn 2017/18 i 2 yn 2021/22, ond dim ond oherwydd dirywiad yn sgôr y rhai o olud teuluol uchel.

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

[Nodyn 1] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero

Bydd perfformiad ynni pob cartref yng Nghymru yn ddigonol a chost-effeithiol erbyn 2050

Newid heb ei asesu.

Yn ôl Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18, ystyriwyd bod perfformiad ynni 47% o anheddau preswyl yn ddigonol (sgôr SAP o 65 neu uwch). Nid oes data mwy diweddar ar gael.

Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050

Wedi dirywio: rhwng 2011 a 2021

Ffigur 16: Nifer y bobl tair oed a hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, 2011 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 16: Siart colofn yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 562,000 yn 2011 i 538,000 yn 2021. Dros yr hirdymor, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn gostwng, i lawr o bron i filiwn o bobl yn 1911 i 538,000 yn y cyfrifiad diweddaraf.

Ffynhonnell: Cyfrifiad poblogaeth

Bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050

Wedi gwella: rhwng 2015 a 2021

Ffigur 17: Allyriadau nwyon tŷ gwydr, 2015 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 17: Siart linell sy’ dangos bod yn 2021, roedd allyriadau a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru a elwir yn allyriadau tiriogaethol yn dod i gyfanswm o 36.3 miliwn o dunelli o garbon deuocsid cyfatebol. Roedd yn 46.2 yn 2015. Bu gostyngiad o 27% rhwng 2015 a 2021.

Ffynhonnell: Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol

Gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy wella statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050

Dim newid: rhwng 2011 a 2016

Dros gyfnod hirdymor (1970-2016), roedd y newid mewn mynegai dosbarthiad ar gyfer rhywogaethau blaenoriaeth adran 7 yng Nghymru wedi gostwng i 87% o’i werth sylfaenol yn 1970. Dros y cyfnod byr (2011-2016), cynyddodd gwerth y dangosydd o 85 i 87 ac aseswyd ei fod yn sefydlog.

Ffynhonnell: Statws Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru (ERAMMP)

Gwybodaeth gefndir

Beth yw’r adroddiad hwn?

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud yng Nghymru o ran cyflawni’r saith nod llesiant. Mae’n adroddiad statudol sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’n adroddiad sy’n ymwneud â chynnydd Cymru fel cenedl. Nid yw’n adroddiad ar berfformiad sefydliad unigol. Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf ym mis Medi 2017.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (Deddfwriaeth y DU) yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n bwriadu gwneud i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a’i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig. Bydd hyn yn helpu i greu Cymru rydym i gyd am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r Ddeddf hefyd yn cyflwyno saith nod llesiant i wneud Cymru yn wlad lewyrchus, gydnerth, iachach, fwy cyfartal a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

Mae rhagor o wybodaeth gefndir am y Ddeddf yn y canllaw hanfodion.

Beth yw’r dangosyddion Cenedlaethol ar gyfer Cymru?

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i Weinidogion Cymru bennu dangosyddion cenedlaethol sy’n asesu cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Rhwng mis Medi 2015 a mis Ionawr 2016 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus eang i nodi pa set fach o ddangosyddion y dylid eu datblygu i fesur cynnydd yn erbyn y nodau llesiant. Cyhoeddwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn ym mis Mawrth 2016 a’u cyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn 2021, gofynnodd Llywodraeth Cymru am farn ar ddangosyddion newydd posibl sy’n seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o COVID-19. Ar sail yr ymatebion hyn a’r mewnbwn ehangach, mae rhai dangosyddion wedi cael eu diweddaru ac mae 4 dangosydd cenedlaethol newydd wedi cael eu cynnwys, a chafodd y set o ddangosyddion ei ddiweddaru ym mis Rhagfyr 2021.

Mae’r dangosyddion cenedlaethol wedi eu llunio i gynrychioli’r canlyniadau ar gyfer Cymru a’i phobl a fydd yn helpu i ddangos cynnydd tuag at y saith nod llesiant. Nid ydynt yn ddangosyddion perfformiad ar gyfer sefydliad unigol.

Mae disgrifiad llawn o’r dangosyddion cenedlaethol, gan gynnwys eu diffiniad technegol a gwybodaeth am eu ffynonellau data ac amlder yn y ddogfen dechnegol.

Sut mae hyn yn berthnasol i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig?

Mae Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 yn gynllun gweithredu trawsnewidiol sy’n seiliedig ar 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig – i fynd i’r afael â heriau mawr y byd dros y 15 mlynedd nesaf. Mae 17 nod byd-eang y Cenhedloedd Unedig yn golygu y bydd yn rhaid i bob gwlad ar y blaned weithredu i roi diwedd ar dlodi, hyrwyddo ffyniant a llesiant i bawb, diogelu’r amgylchedd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’r nodau hynny i fod yn bellgyrhaeddol, yn canolbwyntio ar bobl, yn gyffredinol ac yn drawsnewidiol. Mae aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig wedi ymrwymo i weithio’n ddiflino i’w gweithredu erbyn 2030, a bydd Cymru’n chwarae ei rhan.

Bydd llawer o ddangosyddion cenedlaethol yn helpu i adrodd am y cynnydd yng Nghymru yn erbyn mwy nag un o Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Rydym wedi mapio’r dangosyddion yn erbyn y nodau.

Beth yw’r cerrig milltir cenedlaethol?

Yn ogystal â gosod dangosyddion cenedlaethol, mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu cerrig milltir cenedlaethol i helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud ar lefel genedlaethol tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Yn dilyn eu datblygu ac ymgynghori arnynt drwy gydol 2021, cafodd y don gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol eu gosod gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2021 a’r ail don ym mis Tachwedd 2022.

Pwy gynhyrchodd yr adroddiad hwn?

Mae’r adroddiad wedi ei gynhyrchu gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru o dan gyfrifoldeb Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru. Mae wedi ei gynhyrchu yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac felly, mae wedi ei gynhyrchu’n annibynnol ar ddylanwad gwleidyddol.

Amseroldeb

Mae’r adroddiad wedi ei gynhyrchu ym mis Medi er mwyn sicrhau ei fod mor agos â phosibl at ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol ond ar ôl cyhoeddi Arolwg Cenedlaethol Cymru, sy’n ffynhonnell ar gyfer 13 o’r dangosyddion cenedlaethol.

Bydd y data ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol yn cael ei ddiweddaru wrth i setiau data newydd gael eu cyhoeddi ar gyfer y dangosyddion hynny.

Cwmpas

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, ac felly dim ond mesurau cynnydd lefel uchel y mae modd eu hystyried yn yr adroddiad hwn. Mae dadansoddiad manylach o lawer o’r pynciau hyn ar gael drwy’r amrywiaeth o ddatganiadau ystadegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ONS neu gynhyrchwyr ystadegol eraill.

Cwmpas yr adroddiad yw Cymru. Ar gyfer rhai dangosyddion, cyfeirir at y sefyllfa o’i chymharu â’r Deyrnas Unedig. Mae’r naratif yn erbyn y nodau ac ar gyfer pob dangosydd yn seiliedig ar gynnydd cenedlaethol yn erbyn y nodau, ac nid yw’n ceisio darparu adroddiad ar gynnydd ar wahanol lefelau daearyddol. Fodd bynnag, mae data ar gyfer nifer o ddangosyddion ar gael yn StatsCymru, ar gais, gyda llai o fanylder daearyddol.

Hygyrchedd

Mae’r adroddiad wedi ei gynhyrchu fel adroddiad ar-lein i wella hygyrchedd, ymatebolrwydd, a phrofiad defnyddwyr.

Mae’r rhan fwyaf o’r data sy’n sail i’r adroddiad, gan gynnwys dadansoddiadau llawer mwy manwl, ar gael ar StatsCymru a thrwy wasanaethau data agored StatsCymru.

A yw’r holl ddata’n ystadegau swyddogol?

Mae adroddiad Llesiant Cymru yn ystadegyn swyddogol achrededig. Mae hyn yn golygu ei fod wedi cael ei asesu’n annibynnol i fodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth.

Mae’r rhan fwyaf o’r dangosyddion (35) yn seiliedig ar ffynonellau a gyhoeddwyd fel ystadegau swyddogol. Hynny yw, maent wedi eu cyhoeddi gan ystadegwyr y llywodraeth, neu gan gyrff cyhoeddus eraill, o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae 29 o’r dangosyddion hyn yn seiliedig ar ffynonellau sydd wedi eu cyhoeddi fel ystadegau swyddogol achrededig. Hynny yw, mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn fel ystadegau swyddogol achrededig, sy’n dangos ei fod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae hyn yn golygu eu bod yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Mae 13 dangosydd yn seiliedig ar ffynonellau eraill fel data gweinyddol a ddelir gan adrannau’r llywodraeth. Nid oes data ar gyfer dau ddangosydd ar hyn o bryd.

Er nad yw holl ffynonellau’r data a ddefnyddir yn dod o ystadegau swyddogol, mae’r adroddiad ei hun wedi ei ddatblygu a’i gyhoeddi’n unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Beth arall ddylwn i ei wybod am y data?

Mae’r adroddiad ansawdd ar gyfer adroddiadau dangosyddion cenedlaethol ochr yn ochr â’r datganiad hwn yn darparu dolenni i wybodaeth am bob un o’r ffynonellau data a ddefnyddir i fesur y dangosyddion cenedlaethol, neu mae’n darparu’r wybodaeth honno lle nad yw’n bodoli mewn mannau eraill.

Er bod y rhan fwyaf o’r naratif yn adroddiad Llesiant Cymru yn dod o ddangosyddion cenedlaethol, mae rhywfaint o’r data’n dod o ystadegau swyddogol eraill neu ystadegau a thystiolaeth eraill lle rydym wedi ystyried eu bod yn berthnasol i’r naratif cyffredinol. Mae’r data sydd ddim yn cael ei gasglu drwy ffynonellau ystadegau swyddogol yn cael eu defnyddio yn adroddiad Llesiant Cymru ar gyfer cyd-destun, ond ni allwn bob amser sicrhau ansawdd data. Gan fod y data yn yr adroddiad cynnydd wedi dod o amrywiaeth o setiau data, bydd lefel yr wybodaeth o ansawdd sydd ar gael yn amrywio ym mhob achos. Rydym wedi darparu dolenni i’r ffynonellau gwreiddiol a’u gwybodaeth ansawdd lle maent yn bodoli.

Trwy gydol yr adroddiad, defnyddir cyfeiriadau at flynyddoedd calendr, ariannol ac academaidd. Wrth gyfeirio at flynyddoedd academaidd, defnyddir '/' (e.e. 2021/22), ac ar gyfer blynyddoedd ariannol defnyddir '-' (e.e. 2021-22).

Pwy sy’n defnyddio’r adroddiad hwn?

Rhagwelir y bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru; y Senedd (gan gynnwys Aelodau’r Senedd a’i phwyllgorau); y cyfryngau; a’r cyhoedd yn gyffredinol i helpu i ddeall (i) Llesiant Cymru (ii) deall y cynnydd sy’n cael ei wneud yn erbyn y saith nod llesiant a (iii) deall ble mae Cymru’n gwneud cynnydd yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.

Mae’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir yn gallu helpu cyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i gyfraith cenedlaethau’r dyfodol i ddeall mwy am natur y newid a ddisgwylir wrth gyflawni’r nodau llesiant. Dylid ystyried y dangosyddion cenedlaethol fel tystiolaeth ddefnyddiol i helpu cyrff cyhoeddus i ddeall y prif feysydd lle dylid gwneud cynnydd mewn perthynas â’r nodau llesiant.

Bydd gan y dangosyddion cenedlaethol hefyd rôl benodol gan fod yn rhaid i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gyfeirio atynt wrth ddadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn eu hardaloedd. Dylai cyrff cyhoeddus hefyd ddefnyddio’r adroddiad i ddatblygu ac adolygu asesiadau llesiant ac i bennu ac adolygu’r nodau llesiant sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Rhaid i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ystyried yr adroddiad blynyddol ar Lesiant Cymru wrth baratoi a chyhoeddi ei ‘Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol’.

Cyd-destun y Deyrnas Unedig

Ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, mae gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol Raglen Llesiant Genedlaethol. Mae’r dangosfwrdd llesiant (y Swyddfa Ystadegau Gwladol) yn rhoi trosolwg gweledol o’r 44 prif ddangosydd llesiant cenedlaethol a gellir eu harchwilio drwy’r 10 maes bywyd (meysydd) neu drwy gyfeiriad y newid.

Yn yr Alban, mae’r Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol yn nodi gweledigaeth ar gyfer llesiant cenedlaethol ac yn mesur cyflawniad mewn perthynas â hyn. Lansiwyd Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol diwygiedig ym mis Mehefin 2018 yn dilyn proses adolygu agored ac mae’n seiliedig ar statud (Deddf Grymuso Cymunedau (Yr Alban) 2015).

Mae’r Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol diwygiedig yn mapio ei 11 Canlyniad Cenedlaethol i ddau ar bymtheg Nod Datblygu Cynaliadwy (SDG) y Cenhedloedd Unedig ac mae’n rhan bwysig o’r broses o leoleiddio agenda’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn yr Alban. Adroddir ar gynnydd tuag at y weledigaeth a nodir yn y NPF mewn ffordd agored a thryloyw ar wefan y Fframwaith Partneriaeth Cenedlaethol drwy 81 o ddangosyddion cenedlaethol sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o fesurau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Yn ogystal â dangos perfformiad ar lefel genedlaethol, gall ystod o is-grwpiau demograffig a daearyddol archwilio’r data i weld a yw canlyniadau’n cael eu gwireddu ar gyfer gwahanol rannau o gymdeithas yr Alban.

Yng Ngogledd Iwerddon, y prif fecanwaith ar gyfer asesu llesiant cymdeithasol yw’r fframwaith llesiant o 12 canlyniad a ddatblygwyd gan y Weithrediaeth flaenorol, ac a gafodd ei drafod a’i fireinio yn ystod 2016-2017. Mae’r fframwaith hwn, sy’n cynnwys 49 o ddangosyddion poblogaeth ategol, yn cynnwys Cynllun Cyflawni Canlyniadau Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon.

Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan yn y rhaglen Mesur Llesiant Cenedlaethol sy’n cael ei harwain gan ONS ac mae’n cyhoeddi dadansoddiad llesiant (Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon) yn seiliedig ar fesurau llesiant ONS, lle mae data sydd ar gael yng Ngogledd Iwerddon yn caniatáu hynny.

Dolenni perthnasol eraill