Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, ar gyfer defnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ar ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.

Gellir gweld rhestr lawn o'n cyhoeddiadau mwyaf diweddar ar ein calendr i ddod.

Yr economi a'r farchnad lafur

Yr economi

Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi ein datganiad ynghylch dangosyddion allbwn tymor-byr ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf a Medi 2022 a diweddaru data demograffeg busnes 2021 i gynnwys dadansoddiadau o ddiwydiant ar ein gwefan StatsCymru.

Ym mis Chwefror gwnaethom gyhoeddi Cynnyrch domestig gros rhanbarthol: Ebrill i Fehefin 2022.


Mae ein dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau wedi cael ei ddiweddaru hefyd.

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.economi@llyw.cymru.

Tablau mewnbwn-allbwn

Mae ein prosiect i ddatblygu tablau mewnbwn-allbwn ar gyfer Cymru yn parhau. Mae tablau mewnbwn-allbwn yn darparu data manwl ar lifau economaidd yng Nghymru. Os hoffai unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect hwn gael diweddariadau rheolaidd neu drafod sut y gallai fod o fudd i'ch gwaith, yna e-bostiwch ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Rydym wedi trefnu i gynyddu'r samplau o'r Arolwg Blynyddol o Fusnesau, yr Arolwg Blynyddol o Bryniannau, y Gofrestr Busnesau a'r Arolwg o Gyflogaeth a'r Arolwg Costau Byw a Bwyd. Bydd hyn yn ychwanegu at y data sydd ar gael inni er mwyn paratoi tablau mewnbwn-allbwn, a hefyd i ddefnyddwyr eraill yr arolygon hyn.

Y Farchnad Lafur

Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiad misol, trosolwg o'r farchnad lafur, sy'n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau mewn perthynas â'r farchnad lafur ynghyd er mwyn rhoi'r darlun diweddaraf o'r effaith y mae digwyddiadau gwahanol yn ei chael ar y farchnad lafur.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd Y farchnad lafur a theithio i'r gwaith yng Nghymru (Cyfrifiad 2021), sef crynodeb o ddata Cyfrifiad 2021 ar y farchnad lafar yng Nghymru, gan gynnwys statws gweithgarwch economaidd, diwydiant a galwedigaeth a theithio i'r gwaith. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi dadansoddiadau manylach ac mae gwybodaeth am ei chynlluniau cyhoeddi ar gael ar wefan SYG.

Ym mis Chwefror, gwnaethom gyhoeddi ein data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer y cyfnod rhwng Hydref 2021 a Medi 2022 sy'n cynnwys data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn ogystal ag ardaloedd lleol. Caiff y diweddariad nesaf ar y datganiad ystadegol hwn ei gyhoeddi ar 6 Ebrill 2023.

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.yfarchnadlafur@llyw.cymru.

Addysg

Ysgolion

Gwnaethom barhau i gyhoeddi data wythnosol ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol tymor y gwanwyn. Ym mis Mai, bydd amlder cyhoeddi'r datganiad hwn yn newid o fod yn wythnosol i fod yn fisol a chaiff ei gyhoeddi ar y dydd Mercher cyntaf o'r mis. Bydd hyn yn dechrau drwy ei gyhoeddi ar 3 Mai 2023 a bydd y rhifyn nesaf yn cael ei gyhoeddi ar 7 Mehefin 2023.
Cafodd data ar y Cyfrifiad Ysgolion, Addysg heblaw yn yr ysgol a'r cyfrifiad ysgolion annibynnol oll eu casglu ym mis Ionawr, sef y tro cyntaf ers 2020 i hyn ddigwydd. Bydd canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai. 

Cyhoeddwyd Cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc: Medi 2021 i Awst 2022 ar 30 Mawrth.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni yn ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.

Addysg ôl-16

Mae nifer o'n datganiadau ystadegol blynyddol mawr wedi cael eu cyhoeddi'n ddiweddar. Yn sgil atal mesurau perfformiad yn ystod pandemig y coronafeirws, rydym wedi ailddechrau cyhoeddi mesurau cyflawniad ôl-16, sy'n rhan o'r gyfres o fesurau perfformiad cyson, ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021/22. Dyma'r datganiad cyntaf yn y gyfres hon ers mis Chwefror 2020 ac mae'n cynnwys gwaith dadansoddi ychwanegol, er enghraifft ystyried cyflawniad ôl-16 yn ôl ffactorau megis cefndir ethnig a chymhwystra i gael prydau ysgol am ddim. 

Yn yr un modd, gwnaethom ailddechrau cyhoeddi mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion. Mae hyn hefyd wedi cael ei ehangu i gynnwys mwy o waith dadansoddi yn ôl nodweddion dysgwyr ers y rhifyn blaenorol yn 2020.

Cyhoeddwyd Ystadegau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021/22 yn ddiweddar hefyd, a oedd yn cwmpasu pethau fel cyfranogiad a chofrestriadau yn y sectorau. Cafodd ein dangosfwrdd rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd chwarterol ei ddiweddaru hefyd gyda data ar gyfer chwarter 4 o'r flwyddyn academaidd 2021/22 (Mai 2022 i Orffennaf 2022), ynghyd â fersiwn derfynol o ddata dros dro a gyhoeddwyd yn flaenorol am weddill 2021/22.

Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi Addysg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021), sef crynodeb o wybodaeth addysg i Gymru o'r Cyfrifiad mwyaf diweddar. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi rhagor o ddadansoddiadau manwl o ddata addysg, gan gynnwys dadansoddiad amlamryweb. Ceir rhagor o wybodaeth am ei chynlluniau dadansoddi addysg (SYG) ar ei wefan (Saesneg yn unig).

Mae allbynnau eraill yn ystod y misoedd diwethaf wedi cynnwys diweddariadau chwarterol ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) a rhaglen Twf Swyddi Cymru+.

Er mwyn rhoi adborth neu gael unrhyw wybodaeth bellach, e-bostiwch ystadegau.addysgol16@llyw.cymru.

Addysg uwch a chyllid myfyrwyr

Rydym wedi cyhoeddi ein datganiadau blynyddol ar Staff mewn sefydliadau addysg uwch a Myfyrwyr mewn addysg uwch.

Er mwyn rhoi adborth neu gael unrhyw wybodaeth bellach, e-bostiwch addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru.

Tai

Mae gwybodaeth reoli fisol am ddarpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan yn parhau i gael ei chyhoeddi'n rheolaidd. Cynhaliwyd gweithdy i ddarparwyr data awdurdodau lleol ym mis Mawrth i drafod sut y gellid gwella ansawdd y data ac ehangu ar yr amrywiaeth o ddata a gyhoeddir. 

Ers mis Ionawr, mae'r allbynnau ystadegau tai rheolaidd canlynol wedi cael eu cyhoeddi: 

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i gyhoeddi data misol ar Fynegai Prisiau Tai (Cofrestrfa Tir EF) (Saesneg yn unig) ar gyfer Cymru, a chyhoeddwyd y diweddaraf o'r rhain (ar gyfer mis Rhagfyr 2022) ar 15 Chwefror ochr yn ochr â data Mynegai Prisiau Tai (SYG) (Saesneg yn unig) ar gyfer gweddill y DU.

Cysylltwch â ni drwy flwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.

Cyflwr tai a thlodi tanwydd

Rydym wedi cyhoeddi'r allbynnau rheolaidd canlynol:

Fel rhan o Adnodd Dadansoddi'r Stoc Dai, rydym wrthi'n paratoi dangosfwrdd rhyngweithiol sy'n ystyried effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru a'r gwelliannau a argymhellir i wella effeithlonrwydd ynni. 

Cysylltwch â ni yn ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau, ceisiadau neu fewnbwn mewn perthynas ag unrhyw un o'r uchod.

Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Ystadegau ysbytai

Rydym yn parhau i wella ein diweddariadau misol ar berfformiad a gweithgaredd y GIG sy'n cynnwys data ar ofal heb ei drefnu a gofal wedi'i drefnu. Yn ystod y chwarter diwethaf, mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno bod ein hystadegau ar wasanaethau canser yn bodloni'r safonau sy'n ofynnol i'w dynodi'n Ystadegau Gwladol (Saesneg yn unig). 

Rydym yn parhau i gyflwyno adroddiadau a gwella ar 

Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Rydym yn parhau i ddiweddaru ac ychwanegu dealltwriaeth o lawer o'n hallbynnau, gan gynnwys, yn ystod y chwarter hwn, ddiweddaru'r adroddiad blynyddol ar Raglen Plant Iach Cymru a diweddariadau chwarterol ar Wasanaethau deintyddol y GIG, Rhaglen Plant Iach Cymru, data bwydo ar y fron ac ystadegau camddefnyddio sylweddau (a gyhoeddir bellach gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru).

Gweithlu'r GIG

Roedd staff a gyflogir gan y GIG y chwarter hwn yn cynnwys dealltwriaeth newydd a dadansoddiadau o nodweddion staff megis oedran, rhywedd, anabledd, cenedligrwydd ac ethnigrwydd yn ôl grŵp staff am y tro cyntaf. Roedd absenoldeb oherwydd salwch y GIG yn cynnwys mwy o fanylion ar gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff a bwrdd iechyd lleol.

Ymateb i'r coronafeirws (COVID-19)

Yn ystod mis Mawrth 2022, cyhoeddwyd Gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: Cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig. Mae'r ddogfen hon yn egluro bod y cysylltiad rhwng haint COVID-19, salwch difrifol, cyfnodau yn yr ysbyty, a marwolaethau wedi gwanhau'n sylweddol. Mae hyn yn golygu y gallwn symud y tu hwnt i'r ymateb brys. Yn unol â'r cynllun hwn, rydym wedi rhoi terfyn ar lawer o'n hallbynnau COVID-19 neu wedi dechrau eu cyhoeddi'n llai aml. 

Rydym yn parhau i ddiweddaru rhai allbynnau allweddol er mwyn sicrhau bod data ar gael o hyd, gan gynnwys data ar y canlynol: amcangyfrifon positifedd a gwrthgyrff o arolwg heintiadau Coronafeirws, derbyniadau a chyfnodau yn yr ysbyty, cartrefi gofal, absenoldeb staff y GIG a hunanynysu a thriniaethau yn ôl cyfrwng therapiwtig

Mae trosolwg llawn o ddangosyddion COVID-19 ar gael ar ein tudalen ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19). Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dal i ddiweddaru cynnwys arall ar COVID-19 bob wythnos ar y dangosfyrddau gwyliadwriaeth COVID-19 (ICC)

Ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Y chwarter hwn hefyd cafwyd diweddariadau i amrywiaeth o ystadegau iechyd meddwl, gan gynnwys: Nifer y bobl a gadwyd o dan Adran 135 a 136 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl, atgyfeiriadau ac amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl ac amseroedd aros am apwyntiad cyntaf gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol.

Yn ogystal, cafwyd amrywiaeth o ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys:

Mae ystadegau ad hoc hefyd wedi cael eu cyhoeddi ar Nyrsys cofrestredig yn ôl band cyflog a rhywedd, 2018 i 2022 a Chleifion mewnol, achosion dydd, apwyntiadau newydd cleifion allanol ac apwyntiadau dilynol cleifion allanol yn GIG Cymru, Mawrth 2019 i Ragfyr 2022.

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan Ystadegau ac ymchwil ac mae data sylfaenol manylach ar gael yn ardal Iechyd a gofal cymdeithasol StatsCymru

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae'r contract presennol i gynnal yr Arolwg Cenedlaethol, a ddelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn dod i ben â'r gwaith maes diwedd 2022-23 ym mis Mawrth 2023. Yn dilyn proses gaffael agored, rydym bellach wedi penodi Kantar i gynnal yr arolwg yn y dyfodol. Y flwyddyn gwaith maes lawn gyntaf o dan y contract newydd fydd 2024-25 ond bydd gwaith paratoi a phrofion gwybyddol ar gwestiynau newydd yn cael eu cynnal yn ystod 2023-24.

Caiff y canlyniadau blwyddyn gyfan nesaf eu cyhoeddi yn ôl y bwriad ym mis Gorffennaf 2023 (yn seiliedig ar waith maes 2022-23), ni fydd canlyniadau ym mis Gorffennaf 2024, ac yna caiff canlyniadau blwyddyn gyfan eu cyhoeddi eto ym mis Gorffennaf 2025, yn seiliedig ar waith maes 2024-25.

Cyhoeddiadau

Rydym yn parhau i gynnal gwaith dadansoddi manwl pellach ar ddata 2021-22 a chyhoeddwyd yr adroddiad ystadegol Tlodi ac amddifadedd (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2021 i Fawrth 2022 ar 31 Ionawr 2023. Caiff adroddiadau ymchwil ar bedwar o'r dangosyddion cenedlaethol – Cydlyniant cymunedol, Boddhad gyda'r ardal leol, Diogelwch cymunedol a dylanwadu ar benderfyniadau lleol – eu cyhoeddi ym mis Ebrill.

Cysylltwch â ni yn arolygon@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw gwestiynau.

Cyfiawnder Cymdeithasol

Tlodi

Ar 23 Mawrth 2023, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ei chyfres o Ystadegau Swyddogol ynglŷn â thlodi. Mae hyn yn cynnwys adroddiadau ar Aelwydydd o dan yr Incwm Cyfartalog (Saesneg yn unig), Arolwg o Adnoddau Teulu (Saesneg yn unig), Dynameg Incwm (Saesneg yn unig) a Phlant mewn teuluoedd incwm isel (Saesneg yn unig). Mae'r data diweddaraf yn yr adroddiadau hyn yn ymwneud â'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022.

Ar yr un pryd, gwnaethom gyhoeddi crynodebau i Gymru ar dudalennau tlodi incwm cymharol, amddifadedd materol a thlodi parhaus ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad manylach Llywodraeth Cymru o setiau data HBAI i Gymru. Mae'r tablau data ar gael ar ffurf taenlenni ar ein tudalennau gwe tlodi incwm cymharol, ac ar y tudalen tlodi StatsCymru.

Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar yr ystadegau hyn

Y llynedd, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru ystod fwy cyfyngedig o ddata ar HBAI, gyda rhybuddion ychwanegol, a hynny o ganlyniad i broblemau gydag ansawdd y data ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021, oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar y broses o gasglu data. 

Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 erys rhywfaint o duedd weddilliol o hyd yn sampl yr Arolwg o Adnoddau Teulu o ganlyniad i'r newid yn y dull arolygu o gyfweliadau wyneb yn wyneb sefydledig i gyfweliadau dros y ffôn. Ond rydym wedi asesu bod ansawdd data 2022 yr Arolwg o Adnoddau Teulu yn gadarn felly rydym yn cyhoeddi'r ystod arferol o ddadansoddi ychwanegol. 

Oherwydd y problemau a ddisgrifir uchod erys meysydd o hyd lle y cynghorir y dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau â blynyddoedd blaenorol a dehongli newidiadau mwy o faint.

Am ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth ehangach o ystadegau cysylltiedig â thlodi sydd ar gael, ewch i'r dudalen sy'n cynnwys ein casgliad o ystadegau cysylltiedig â thlodi.

Costau byw

Rydym yn parhau i gyhoeddi diweddariadau misol o ddata StatsCymru ar Daliadau Cymorth mewn Argyfwng a wnaed o'r Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn rhoi gwybodaeth amserol am yr argyfwng costau byw.

Ym mis Chwefror, diweddarodd Cyngor ar Bopeth ei ddangosfwrdd data i Gymru (Cyngor ar Bopeth) sy'n rhoi dealltwriaeth o'r ffordd y mae'r argyfwng hwn yn effeithio ar ei gleientiaid.

Cyfeirir at y rhain a ffynonellau eraill o ddata ar yr argyfwng costau byw mewn blog a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr. Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau perthnasol i sicrhau bod data ar lefel Cymru ar fetrigau costau byw allweddol ar gael lle bo hynny'n bosibl.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Os hoffech gael eich hysbysu pan gaiff gwybodaeth ddiweddaraf MALlC ei chyhoeddi, e-bostiwch ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i danysgrifio. Gallwn hefyd ddarparu sesiynau gwybodaeth ynglŷn â MALlC 2019. Os hoffech drefnu sesiwn o'r fath ar eich cyfer chi, eich sefydliad neu'ch rhwydwaith, cysylltwch â ni yn ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i drafod hyn. 

Yr ymateb i'r argyfwng yn Wcráin

Rydym yn parhau i weithio gyda SYG, y Swyddfa Gartref, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r llywodraethau datganoledig eraill i gynhyrchu ystadegau sy'n ymwneud â'r argyfwng yn Wcráin.

Ddydd Gwener, 24 Mawrth, cyhoeddodd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) a'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ddata ar gyflogaeth ar gyfer gwladolion Wcráin (CthEF a'r Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau) (Saesneg yn unig) rhwng mis Mawrth a mis Medi 2022. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiadau ar gyfer gwladolion Wcráin sy'n byw yng Nghymru, yn ôl rhyw. 

Mae'r ystadegau wythnosol ar nifer y ceisiadau am fisâu, nifer y fisâu a roddir a nifer y bobl sy'n cyrraedd y DU sydd â noddwyr yng Nghymru (Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau) (Saesneg yn unig) yn parhau i gael eu diweddaru.

Diogelwch Cymunedol

Ar 20 Mawrth, cyhoeddwyd data ar ddigwyddiadau tân ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Medi 2022 mewn prif dabl a thablau cysylltiedig gan StatsCymru

E-bostiwch ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru am ragor o wybodaeth.

Cydraddoldeb

Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021), sef crynodeb o ddata Cyfrifiad 2021 ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd hunangofnodedig oedolion yng Nghymru. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi dadansoddiadau manylach ac mae gwybodaeth am ei chynlluniau cyhoeddi ar gael ar wefan SYG.

Ar ôl cyhoeddi data cyhoeddedig Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd: Cyfrifiad 2021 ym mis Tachwedd 2022, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i sicrhau ansawdd nifer o erthyglau dadansoddi amlamryweb o setiau data Cyfrifiad 2021. Mae'r erthyglau isod wedi cael eu cyhoeddi'n ddiweddar ac maent yn cynnwys gwaith dadansoddi ar gyfer Cymru a Lloegr.

Cyhoeddwyd data ar gyfer Cymru yn offeryn creu set data Cyfrifiad 2021 (SYG) (Saesneg yn unig) ar ddydd Mawrth, 28 Mawrth ac mae dadansoddwyr Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried ar ba ffurf y bydd ein dadansoddiad ein hunain o'r data hyn o'r Cyfrifiad. Rydym yn croesawu'ch barn ar hyn a gallwch ei hanfon i ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.

I gyd-daro â rhyddhau data Cyfrifiad 2021 a thrawsnewid yr Arolwg o'r Llafurlu a'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth deilliedig, rydym yn bwriadu adolygu ein hallbynnau ynglŷn ag anghydraddoldebau sy'n defnyddio data'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Os ydych yn defnyddio data a geir yn y datganiadau isod, e-bostiwch ni yn ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru er mwyn inni allu anfon yr wybodaeth ddiweddaraf atoch. 

Mae ein hallbynnau cydraddoldeb yn cynnwys:

Masnach

Arolwg Masnach Cymru

Mae canfyddiadau trydydd Arolwg Masnach Cymru, blwyddyn gyfeirio 2020, yn cael eu dadansoddi o hyd. Mae'r dyddiad cyhoeddi disgwyliedig gwreiddiol, sef mis Mai 2022, wedi cael ei ohirio tan 2023 am fod angen cynnal rhagor o wiriadau ansawdd a chyflwyno prosesau priodoli newydd i'r fethodoleg gan fod gwerth sawl blwyddyn o ddata wedi cael eu casglu erbyn hyn. 

Daeth gwaith maes ar gyfer pedwaredd flwyddyn yr arolwg, sef casglu data 2021, i ben ym mis Rhagfyr, ac rydym wrthi'n ei ddilysu, ei ddadansoddi a sicrhau ei ansawdd. 

Mae'r tîm dadansoddi wedi goruchwylio dau brosiect ymchwil ag ymatebwyr Arolwg Masnach Cymru a gytunodd i gymryd rhan mewn gweithgarwch dilynol ynghylch Gwasanaethau Modd 5 (‘sofieteiddio’) a Rheolau Tarddiad. Cyhoeddwyd yr adroddiad Gwasanaethau Modd 5: ymchwil archwiliadol â busnesau a chyrff masnach ym mis Tachwedd. Caiff yr adroddiad ar Reolau Tarddiad ei gyhoeddi ar 30 Mawrth 2023. 

Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymru

Cyhoeddwyd Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig: O Hydref i Ragfyr 2022 ar 16 Mawrth 2022. Mae rhain yn prif ganlyniadau Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEF ar gyfer masnach nwyddau rhyngwladol Cymru yn 2022.

Ochr yn ochr â'r prif ganlyniad uchod, mae'r dangosfwrdd masnach rhyngweithiol wedi cael ei ddiweddaru hefyd.

Caiff dadansoddiad manylach o ddata Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig 2022 ei gyhoeddi ym mis Ebrill.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Trafnidiaeth

Ym mis Chwefror 2023 gwnaethom y canlynol:

Ym mis Mawrth 2023, gwnaethom y canlynol:

I roi adborth ac i wneud sylwadau, cysylltwch ag ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru.

Y Gymraeg

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Y cyfrifiad yw'r ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth am nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a dyma sut mae Llywodraeth Cymru yn mesur cynnydd tuag at wireddu eu huchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Gwnaethom gyhoeddi y data cyntaf o'r cyfrifiad ar y Gymraeg ar 6 Rhagfyr y llynedd, gan weithio'n agos gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Ers cyhoeddi'r data hyn, mae gwybodaeth ar gael am nifer a chanran y boblogaeth tair oed neu'n hŷn yng Nghymru sy'n gallu siarad Cymraeg (yn ogystal â sgiliau Cymraeg eraill) ar gyfer Cymru, awdurdodau lleol, ardaloedd cynnyrch ehangach haen is, wardiau etholiadol a byrddau iechyd lleol.

Ar 28 Mawrth, cyhoeddodd SYG ei hadnodd creu setiau data (SYG) (Saesneg yn unig). Drwy'r adnodd hwn gall defnyddwyr greu eu setiau data eu hunain o holl ddata Cyfrifiad 2021, gan gynnwys nodweddion sy'n ymwneud â'r Gymraeg. Mae hyn yn golygu bod modd edrych ar y data ar allu yn y Gymraeg yn ôl nodweddion eraill, megis oedran, rhywedd, ethnigrwydd a gwlad enedigol.

Rydym yn gobeithio bod mewn sefyllfa i gyhoeddi dadansoddiad o allu yn y Gymraeg yn ôl rhai o'r nodweddion hyn mewn bwletin ystadegol maes o law, a hefyd ddadansoddiad o gyfraddau trosglwyddo'r Gymraeg mewn aelwydydd. 

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Cafodd y data am y Gymraeg diweddaraf o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth eu cyhoeddi ar 25 Hydref. 

Yn sgil cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda SYG ar raglen waith a fydd yn ystyried ymhellach rai o'r gwahaniaethau a welwyd gennym rhwng y cyfrifiad a rhai o'n ffynonellau data eraill ar y Gymraeg, megis yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Er enghraifft, amcangyfrifodd y cyfrifiad fod nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru wedi lleihau rhwng 2011 a 2021, ond mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn amcangyfrif bod y nifer wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod yr un cyfnod.

Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion am y rhaglen waith, a diweddariad o amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2022) ar 25 Ebrill. 

Arolwg Defnydd Iaith

Rydym wedi cyhoeddi cyfres o fwletinau ystadegol ar y defnydd o'r Gymraeg drwy ddefnyddio data o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r erthyglau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:

Rydym yn bwriadu cyhoeddi gweddill canfyddiadau'r arolwg mewn bwletinau ystadegol ar wahân, yn ôl thema, gan gyfuno data o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 lle bo hynny'n berthnasol. Byddwn yn mynd ati i gyhoeddi'r ddau fwletin nesaf yn y gyfres cyn gynted â phosibl.

  • Cymraeg yn y gweithle
  • Defnydd o'r Gymraeg gyda gwasanaethau

E-bostiwch dataiaithGymraeg@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth. 

Amaethyddiaeth a'r amgylchedd

Datgarboneiddio a'r Newid yn yr Hinsawdd

Mae'r tîm Datgarboneiddio yn Llywodraeth Cymru yn ystyried allbynnau ychwanegol posibl o ystadegau allyriadau nwyon tŷ gwydr a hoffai glywed gan unrhyw ddefnyddwyr presennol neu ddarpar ddefnyddwyr. Rydym yn canolbwyntio'n bennaf ar allyriadau tiriogaethol y gweinyddiaethau datganoledig (Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol) (Saesneg yn unig) a grynhoir ar StatsCymru, gan y defnyddir y rhain yn ein hadroddiadau ystadegol. Fodd bynnag, hoffem hefyd glywed gan ddefnyddwyr ystadegau allyriadau awdurdodau lleol (Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol) (Saesneg yn unig) ac adroddiadau eraill ar allyriadau nwyon tŷ gwydr i Gymru.

Hoffem glywed yn benodol am sut rydych yn defnyddio'r ystadegau hyn ar hyn o bryd, beth yw eich prif feysydd o ddiddordeb, pa fformatau data fyddai'n ddefnyddiol, ac a yw'r data sydd ar gael ar hyn o bryd yn diwallu eich anghenion. 

Cysylltwch â blwchpostdatgarboneiddio@llyw.cymru neu ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Amaethyddiaeth

Cyhoeddwyd y datganiad blynyddol ar incymau fferm ym mis Ionawr 2023.

Poblogaeth a demograffeg

Cyhoeddir diweddariad demograffeg chwarterol ar wahân sy'n cynnwys popeth sy'n ymwneud â'r boblogaeth.

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.

Manylion cyswllt ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru

Ymholiadau cyffredinol ynghylch ystadegau

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru

Pwnc-benodol

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau

Twitter

YstadegauCymru

Cylchlythyr electronig a gwasanaeth hysbysiadau Llywodraeth Cymru

Newyddion a hysbysiadau

Ymholiadau gweinyddol

E-bost kasadmin@llyw.cymru